Cymryd rhan
Rydym am sicrhau bod ein gwasanaethau'n hawdd eu defnyddio. Dysgwch sut y gallwch chi ein helpu i wella a chael y wybodaeth ddiweddaraf gennym.
Cynnwys
Adborth
Er mwyn ein helpu i wella rhowch adborth i ni os gwelwch yn dda (mae’n cymryd 30 eiliad).
Mae eich adborth yn bwysig i ni ac rydym yn ystyried yr holl adborth a dderbyniwn.
Ymchwil defnyddwyr
Rydym bob amser yn ceisio gwneud ein gwasanaethau’n haws eu defnyddio.
Cofrestrwch i ymuno â'n grŵp adborth defnyddwyr drwy e-bostio dweudeichdweud@acc.llyw.cymru
Newyddion a rhybuddion
Os ydych yn weithiwr treth proffesiynol sydd wedi cofrestru ar gyfer ein system dreth ddigidol, byddwch yn derbyn ein diweddariadau gweithredol.
I dderbyn diweddariadau cyffredinol gennym, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyrau e-bost.
Gallwch hefyd ddilyn ac ymgysylltu â ni ar ein cyfrifon Twitter, LinkedIn ac YouTube.
Sut rydym yn defnyddio eich gwybodaeth
Gweler ein polisi preifatrwydd ynglŷn â sut rydym yn defnyddio'r wybodaeth a roddwch chi i ni.