Dave Matthews Cyfarwyddwr Strategaeth a Galluogrwydd

Mae Dave yn arwain gwaith gyda phartneriaid i lunio trethi a gwasanaethau newydd Cymru.
Ymunodd Dave ag Awdurdod Cyllid Cymru (ACC) yn 2017 fel Pennaeth Polisi. Arweiniodd y gwaith o ddatblygu polisi ar gyfer trethi datganoledig cyntaf ACC, y Dreth Trafodiadau Tir a’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi. Helpodd hefyd i lunio egwyddorion dull unigryw ACC o reoli treth: Ein Dull
Mae Dave bellach yn Gyfarwyddwr Strategaeth a Gallu, ac mae'n hyrwyddo potensial ACC a'r ffordd Gymreig o ddelio â threthi. Mae'n arwain gwaith gyda phartneriaid i lunio trethi a gwasanaethau newydd Cymru. Mae hefyd yn arwain gwasanaethau corfforaethol ACC i ddiogelu'r sefydliad at y dyfodol wrth iddo dyfu.
Mae Dave yn dod â phrofiad trawslywodraethol helaeth mewn polisi, datblygu strategaeth, a threth. Cyn ymuno ag ACC, bu’n gweithio am 10 mlynedd mewn rolau amrywiol yn CThEF a Thrysorlys EF. Roedd y rhain yn cynnwys trethi busnesau mawr a strategaeth dreth ryngwladol.
Wedi'i fagu yn Sir Gaerfyrddin, dychwelodd Dave i Gymru ar ôl dechrau ei yrfa yn Llundain a thramor. Mae Dave yn teimlo’n angerddol dros feithrin talent ac mae'n hyrwyddo agwedd yr Awdurdod tuag at gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn ogystal â’r Gymraeg.