Hyfforddiant a digwyddiadau
Gwybodaeth am ein digwyddiadau a gweithgareddau ymgysylltu.
Cynnwys
Digwyddiadau cofrestru llety ymwelwyr
Gweithdai: sut i gofrestru eich llety ymwelwyr
Rydym yn cynnal gweithdai ar-lein am ddim i’ch helpu i gofrestru eich llety ymwelwyr yng Nghymru.
Mae’r gweithdai hyn ar gyfer unrhyw un sy’n derbyn archebion ar gyfer arosiadau dros nos yng Nghymru, p’un a ydych yn lletya’n achlysurol, yn dymhorol neu drwy gydol y flwyddyn.
Bydd y gweithdai yn cynnwys:
- canllaw cam wrth gam drwy’r broses gofrestru
- cyngor ymarferol ar yr hyn sydd ei angen arnoch i gwblhau eich cofrestriad
- atebion i’ch cwestiynau gan arbenigwyr Awdurdod Cyllid Cymru (ACC)
Byddwch yn gallu cofrestru eich llety ymwelwyr yn ystod y gweithdy, gyda’n tîm ar gael i’ch helpu drwy gydol y broses.
Cofrestrwch ar gyfer gweithdai a gyflwynir yn Saesneg
- Dydd Mawrth 8 Rhagfyr 2026, 1pm i 1:45pm Cofrestrwch ar Eventbrite.
- Dydd Iau 7 Ionawr 2027, 6pm i 6:45pm Cofrestrwch ar Eventbrite.
- Dydd Mawrth 2 Chwefror 2027, 3pm i 3:45pm Cofrestrwch ar Eventbrite. Dydd Mawrth 2 Chwefror 2027, 3pm i 3:45pm Cofrestrwch ar Eventbrite.
- Dydd Iau 4 Mawrth 2027, 2pm i 2:45pm. Cofrestrwch ar Eventbrite.
- Dydd Llun 29 Mawrth 2027, 6pm i 6:45pm. Cofrestrwch ar Eventbrite.
- Dydd Mercher 31 Mawrth 2027, 3pm i 3:45pm. Cofrestrwch ar Eventbrite.
Cofrestrwch ar gyfer gweithdai a gyflwynir yn Gymraeg
- Dydd Mawrth 16 Chwefror 2027, 1pm i 1:45pm Cofrestrwch ar Eventbrite.
- Dydd Mercher 10 Mawrth 2027, 6pm i 6:45pm. Cofrestrwch ar Eventbrite.
Gweminarau blaenorol
- Cofrestr cenedlaethol i llety ymwelwyr a’r Ardoll Ymwelwyr: 24 Mawrth 2026 (Gweminarau cyfrwng Saesneg)
- Cofrestr cenedlaethol i llety ymwelwyr a’r Ardoll Ymwelwyr: 17 Mawrth 2026 (Gweminarau cyfrwng Cymraeg)
Canllaw ychwanegol
Am ragor o ganllawiau, darllenwch Cofrestru llety ymwelwyr: trosolwg.
Digwyddiadau Ardoll Ymwelwyr
Paratoi ar gyfer yr Ardoll Ymwelwyr yng Nghaerdydd
Fe wnaethon ni gynnal sesiynau dwyieithog, rhad ac am ddim ar yr Ardoll Ymwelwyr i helpu darparwyr llety i ymwelwyr yng Nghaerdydd i baratoi ar gyfer y newidiadau.
Roedd y sesiynau hyn yn ymdrin â’r canlynol:
- trosolwg o'r hyn y mae'r Ardoll Ymwelwyr yn ei olygu i'ch busnes chi
- canllawiau ymarferol ar yr hyn sydd angen i chi ei wneud er mwyn paratoi
Gweminarau blaenorol
Canllaw ychwanegol
Am ragor o ganllawiau, darllenwch Canllaw gam wrth gam i’r Ardoll Ymwelwyr ar gyfer darparwyr llety ymwelwyr.
Digwyddiadau Fforwm Treth Trafodiadau Tir (TTT)
Rydym yn cynnal fforymau treth ledled Cymru. Mae'r fforymau hyn ar gyfer cyfreithwyr a thrawsgludwyr sy'n ffeilio ac yn talu TTDir ac sy'n defnyddio ein gwasanaethau yn rheolaidd.
Rydym yn hysbysebu fforymau sydd ar y gweill ar y dudalen hon ac ar ein tudalen LinkedIn pan fydd dyddiadau ar gael.
Cysylltwch â ni
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am hyfforddiant neu ddigwyddiadau, cysylltwch â ni drwy:
- ffôn: 03000 254 000
- ebost: digwyddiadauhyfforddi@acc.llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
