Indee Dehal Aelod Staff Etholedig
Mae Indee yn arwain gwaith a strategaeth Awdurdod Cyllid Cymru (ACC) ar ddylunio a gweithredu'r ardoll ymwelwyr.
Ymunodd Indee ag ACC ym mis Awst 2022 fel yr Arweinydd ar gyfer Treth Trafodiadau Tir, un o'r ddwy dreth ddatganoledig sy'n cael eu casglu a'u rheoli gan ACC. Yn y rôl honno, arweiniodd a gweithiodd Indee ar gyflwyno'r dreth, gan sicrhau bod 'Ein Dull’ yn cael ei roi ar waith.
Cyn ymuno ag ACC, hyfforddodd Indee fel gweithiwr proffesiynol treth yng Nghyllid a Thollau EM. Cwblhaodd y Rhaglen Arbenigwr Treth yn llwyddiannus, gan arbenigo mewn Treth Gorfforaeth a'r cyfundrefnau Treth Stamp, ac aeth ymlaen i fod yn Uwch Gynghorydd Treth.
Yn 2025, daeth Indee yn Arweinydd yr Ardoll Ymwelwyr ar gyfer ACC a chafodd ei enwebu gan gydweithwyr i ddod yn aelod etholedig o Fwrdd ACC.
Yn ystod ei yrfa, mae Indee wedi gweithio ar ystod o wahanol drethi a meysydd, sy'n cwmpasu cydymffurfiaeth, gweithrediadau, technegol, polisi a strategaeth. Mae bellach yn gallu defnyddio’i brofiadau a'i sgiliau i ddylunio a chyflwyno'r ardoll ymwelwyr, sy'n ddechrau pennod newydd gyffrous i ACC.
