Neidio i'r prif gynnwy

Sut i gwyno am Awdurdod Cyllid Cymru (ACC).

Pryd i ddefnyddio ein proses gwynion

Cysylltwch â ni cyn gynted â phosibl os ydych yn anhapus gyda'r gwasanaeth rydych chi wedi’i dderbyn, er enghraifft:

  • camgymeriadau
  • sut rydym wedi eich trin chi
  • camymddwyn gan staff ACC

Byddwn yn edrych ar eich cwyn ac yn ceisio datrys pethau.

Dilynwch broses wahanol os:

Cysylltwch â'n Swyddog Gwybodaeth os yw eich cwyn yn ymwneud â chais rhyddid gwybodaeth.

Sut i wneud cwyn

Gallwch ddefnyddio ein ffurflen gwynion ar-lein.

Neu ysgrifennwch atom yn:

Awdurdod Cyllid Cymru

Blwch Postio 108
Merthyr Tudful
CF47 7DL

Rhif ffôn: 03000 254 000

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.

Ar 3 Ebrill 2023, newidiodd ein cyfeiriad post i: Awdurdod Cyllid Cymru, Blwch Postio 108, Merthyr Tudful, CF47 7DL.

Rydym yn argymell defnyddio ein ffurflen gyswllt ar-lein i anfon gohebiaeth atom ni. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni.

Gallwch hefyd awdurdodi rhywun arall ar eich rhan i gwyno drosoch chi.

Sut rydym yn defnyddio eich gwybodaeth

Gweler ein polisi preifatrwydd ynglŷn â sut rydym yn defnyddio'r wybodaeth a roddwch chi i ni.

Beth fyddwn yn ei wneud nesaf

Byddwn yn cydnabod eich cwyn ac yn ymateb o fewn 20 diwrnod gwaith i'w derbyn.

Os yw eich cwyn yn fwy cymhleth a bod angen mwy o amser arnom, byddwn yn rhoi gwybod i chi.

Fel arfer, dim ond os ydych chi'n dweud wrthym o fewn 6 mis y byddwn yn gallu ystyried cwyn.

Nid ydym yn ystyried cwynion am faterion a ddigwyddodd dros 3 blynedd cyn i chi godi'r mater.

Canlyniad

Byddwn yn rhoi gwybod y canlyniad i chi a pham ein bod wedi dod i'n casgliad.

  • Os ydym wedi gwneud camgymeriad, byddwn yn egluro beth ddigwyddodd ac yn datrys pethau cyn gynted ag y gallwn ni.
  • Os ydym yn nodi gwelliannau i'n prosesau wrth ddelio â'ch cwyn, byddwn yn dweud wrthych amdanynt.
  • Os oeddem ar fai, byddwn yn ymddiheuro.

Sut i fynd â'ch cwyn ymhellach

Os ydych yn anhapus â'n penderfyniad terfynol, gallwch chi uwchgyfeirio eich cwyn i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

Rheoli materion treth yn ystod cwyn

Dylech barhau i dalu unrhyw dreth sy'n ddyledus tra bod ACC neu'r Ombwdsmon yn datrys eich cwyn.