Neidio i'r prif gynnwy

Yn y canllaw hwn

2. Pwy y gallwch eu hawdurdodi i weithredu ar eich rhan

Ystyr 'awdurdod i weithredu'

Mae rhoi awdurdod i weithredu i asiant neu gynorthwyydd dibynadwy yn golygu y byddwn yn gallu siarad am eich materion treth gyda nhw a gallant weithredu ar eich rhan.

Byddwn yn anfon gohebiaeth atynt ac yn derbyn gohebiaeth ganddynt ar eich rhan. Os bydd angen i ni ysgrifennu atoch yn uniongyrchol, byddwn yn anfon copi at eich asiant neu gynghorydd dibynadwy.

Pan roddir awdurdod i weithredu iddynt, gall cynorthwyydd dibynadwy neu asiant, er enghraifft:

  • gael gwybodaeth am eich materion treth a’u trafod
  • gofyn am ad-daliad neu wneud cwyn ar eich rhan
  • eich cynrychioli yn ystod ymholiad, adolygiad, neu apêl treth

Pwy y gallwch eu hawdurdodi i weithredu ar eich rhan

Gallwch awdurdodi:

  • asiant, megis cyfreithiwr neu gyfrifydd
  • 'cynorthwyydd dibynadwy' fel ffrind neu berthynas

Gallwch ddewis a ydynt yn gweithredu ar eich rhan ym mhob mater neu at ddiben penodol yn unig.

Gallwch roi awdurdod i weithredu i fwy nag 1 person. Rhowch wybod i ni am bob person ar wahân, ac eglurwch yn glir gyda beth fydd pob person yn delio ar eich rhan.