Neidio i'r prif gynnwy

Dysgwch ragor am weithio i Awdurdod Tomenni Nas Defnyddir Cymru ac edrychwch ar y swyddi gwag presennol.

Helpwch i adeiladu corff cyhoeddus newydd i Gymru

Mae hwn yn gyfle unigryw i gyfrannu at waith o bwys cenedlaethol wrth helpu i lunio'r Awdurdod o'r gwaelod i fyny. 

Pam ymuno â ni?

Mae gweithio gydag Awdurdod Tomenni Nas Defnyddir Cymru yn gyfle i:

  • helpu i sefydlu corff cyhoeddus cenedlaethol newydd sbon i Gymru a llunio ei ddiwylliant o'r gwaelod i fyny
  • cyfrannu at waith o bwys cenedlaethol sy'n amddiffyn cymunedau ac yn cefnogi diogelwch y cyhoedd a gwydnwch ledled Cymru
  • datblygu arbenigedd mewn maes pwysig sy'n tyfu wrth weithio ar y cyd â gwasanaethau partner, Cymru
  • cael budd o gyflog cystadleuol, absenoldeb salwch â thâl a 31 diwrnod o wyliau blynyddol
  • gweithio'n hyblyg drwy drefniadau gweithio hyblyg a hybrid, gyda pharcio am ddim ar gael yn y pencadlys
  • cael mynediad at gymorth llesiant, gan gynnwys Awr Lesiant bwrpasol. 
  • cymryd hyd at bum diwrnod o absenoldeb gwirfoddoli â thâl i gefnogi cymunedau ledled Cymru. 
  • cael mynediad at ddysgu a datblygiad proffesiynol i gefnogi eich twf a'ch effaith hirdymor. 

Ein cyfleoedd cyntaf

Bydd ein recriwtio cychwynnol yn canolbwyntio ar rolau arweinyddiaeth a rolau arbenigol hanfodol a fydd yn llunio'r sefydliad o'r gwaelod i fyny. Mae hyn yn cynnwys:

  • uwch rolau arweinyddiaeth
  • rolau partneriaeth ac ymgysylltu â’r gymuned
  • rolau arolygydd ar draws amrywiaeth o raddau

Bydd ein harolygwyr yn dod ag arbenigedd technegol cryf yn enwedig ym maes daeareg a pheirianneg, gan chwarae rhan hanfodol wrth gyflawni ein cyfrifoldebau rheoleiddiol a helpu i gadw cymunedau'n ddiogel. 

Tyfu gyda'n gilydd

Wrth i'r Awdurdod ddatblygu, bydd camau recriwtio yn y dyfodol yn ehangu i'r canlynol:

  • gwasanaethau corfforaethol
  • llywodraethu
  • cyllid
  • data ac arloesi 

Swyddi gwag presennol

Edrychwch ar ein cyfleoedd diweddaraf a dod yn rhan o dîm sydd wedi ymrwymo i amddiffyn cymunedau a chreu dyfodol mwy diogel i Gymru.

Mae ein holl swyddi yn cael eu hysbysebu ar wasanaeth recriwtio Llywodraeth Cymru.