Neidio i'r prif gynnwy
Bev Smith

Mae Bev Smith yn aelod o Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol

Cafodd Bev ei geni a’i magu yng Ngwm Rhondda, ac mae’n was sifil sydd â phrofiad o weithio i’r Gwasanaeth Sifil dros gyfnod o 32 o flynyddoedd. Mae’n arbenigo mewn adfywio economaidd a chynllunio at argyfyngau, ac yn ystod ei gyrfa cafodd gyfle i weithio mewn amrywiaeth o gynghorau dosbarth a bwrdeistref yn Lloegr. Mae ei rolau mwyaf diweddar wedi bod ar lefel Prif Weithredwr yn Mansfield, Swydd Nottingham, a Gogledd-orllewin Swydd Gaerlŷr, yn gyrru twf economaidd ac yn cefnogi democratiaeth leol fel swyddog canlyniadau etholiadol a swyddog canlyniadau etholiadau rhanbarthol ar gyfer Comisiynwyr Heddlu a Throseddu.

Mae hi hefyd yn Gadeirydd Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru, gan weithio ar y cyd â Llywodraeth Cymru, y prif gynghorau a chynghorau cymuned i bennu ffiniau etholiadol a sicrhau bod democratiaeth leol yn effeithiol ac yn effeithlon.

Mae’n credu’n gryf yn effeithiolrwydd gweithio mewn partneriaeth a’r rôl y mae’r Panel yn ei chwarae o ran cefnogi democratiaeth ac amrywiaeth mewn democratiaeth yng Nghymru.