Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r Bil yn cyflwyno proses symlach ar gyfer cydsynio prosiectau seilwaith mawr yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Mehefin 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Crynodeb

Mae Bil Seilwaith (Cymru) yn cyflwyno proses symlach ar gyfer cydsynio prosiectau seilwaith mawr yng Nghymru. Gall y ddeddfwriaeth bresennol olygu bod angen ceisiadau ar wahân ar gyfer caniatadau, cydsyniadau a thrwyddedau penodol. Gall hyn arwain at drafferthion i ddatblygwyr ac i’r rheini sy’n ymwneud â gwahanol brosesau. Mae’r Bil yn sefydlu cyfundrefn newydd sy’n mabwysiadu dull ‘siop un stop’ lle gellir ceisio cydsyniadau a chaniatadau eraill o fewn un broses ymgeisio a gwneud penderfyniadau.

Nod y dull newydd yw bod yn fwy tryloyw a chyson gan alluogi cymunedau lleol i ddeall penderfyniadau ac ymwneud â phenderfyniadau yn well. Mae’r gyfundrefn newydd hefyd yn rhoi rhagor o sicrwydd wrth wneud penderfyniadau a hynny gyda chefnogaeth polisïau clir. Mae’r mathau o brosiectau sy’n berthnasol i’r broses yn cynnwys prosiectau ynni adnewyddadwy yn ogystal â phrosiectau seilwaith eraill megis gwaith i briffyrdd a rheilffyrdd.

Mae’r Bil yn hanfodol i gyflawni seilwaith mawr yng Nghymru yn amserol. Mae hefyd yn gam pwysig tuag at gyflawni ymrwymiadau Llywodraeth Cymru ynghylch ynni adnewyddadwy ac allyriadau ‘sero net’ erbyn 2050. Wrth ddatblygu’r Bil, roedd egwyddorion y gyfundrefn newydd yn destun proses ymgynghori cyhoeddus lawn yn ogystal ag ymwneud â rhanddeiliaid allweddol yn barhaus. 

Dogfennau

Rhagor o wybodaeth