Neidio i'r prif gynnwy

Adran 1: Pa gamau gweithredu y mar Llywodraeth Cymru yn eu hystyried a pham?

Yn unol ag argymhellion y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio'r Senedd, (y Pwyllgor Diben Arbennig), a oedd yn cynnwys “y dylid ethol y Senedd gyda chwotâu rhywedd statudol integredig” (argymhelliad 11) mae Llywodraeth Cymru yn cyflwyno deddfwriaeth gyda'r diben o wneud y Senedd yn ddeddfwrfa fwy effeithiol ar gyfer, ac ar ran, pobl Cymru. Gan gydnabod nad yw'r Senedd ar hyn o bryd yn adlewyrchu cyfansoddiad poblogaeth Cymru o ran rhywedd, nod y ddeddfwriaeth yw sicrhau bod y Senedd yn adlewyrchu'n fras y boblogaeth y mae'n ceisio ei chynrychioli a'i gwasanaethu, yn enwedig o ran cynrychiolaeth menywod.

Yn gryno, mae darpariaethau’r Bil yn darparu ar gyfer y canlynol:

  • Rhaid i o leiaf 50% o ymgeiswyr ar restrau pleidiau gwleidyddol fod yn fenywod (meini prawf gosod fertigol)
  • Rhaid i o leiaf 50% o restrau ymgeiswyr plaid ledled Cymru fod â menyw yn y safle cyntaf (meini prawf gosod llorweddol)
  • Rhaid i ymgeisydd nad yw'n fenyw ar restr gael ei ddilyn yn syth gan ymgeisydd sy'n fenyw ar y rhestr, oni bai ei fod yn olaf ar y rhestr (meini prawf gosod fertigol)
  • Bydd ymgeiswyr yn nodi a ydynt yn fenyw ai peidio fel rhan o'r broses enwebu
  • Bydd gorfodi'r meini prawf gosod fertigol yn cael ei wneud gan Swyddogion Canlyniadau Etholaethol (SCEau), a bydd gorfodi'r meini prawf gosod llorweddol yn cael ei wneud gan Swyddog Cydymffurfiaeth Enwebiadau Cenedlaethol (SCEC) newydd ar y cyd â'r SCEau perthnasol.

Ystyriwyd effaith y ddeddfwriaeth hon ar y pum ffordd o weithio a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru).

Bernir bod gan ddeddfu i ddiwygio’r Senedd fanteision parhaus yn y tymor hir o ran gallu’r Senedd i ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif, gwneud deddfau a chynrychioli pobl Cymru.

Bydd cynyddu nifer y menywod yn y Senedd yn dod â nifer o fanteision yn y tymor hir. Mae'r Memorandwm Esboniadol sydd wedi'i gyhoeddi ochr yn ochr â'r Bil yn rhoi rhagor o fanylion, ond yn gryno mae ymchwil yn awgrymu y gall deddfwrfa sydd â chydbwysedd o ran rhywedd ei gwneud yn fwy effeithiol am fod canfyddiad bod cynrychiolwyr sy'n fenywod yn gwneud y canlynol:

Hefyd, bydd deddfu i ddiwygio’r Senedd yn helpu i liniaru amrywiaeth o bryderon a nodwyd yn flaenorol ynghylch gallu’r Senedd i graffu’n effeithiol ac ymgysylltu â’r bobl y mae’n eu gwasanaethu (Senedd sy'n gweithio i Gymru 2017). Mae ymchwil yn dangos y gall gwella amrywiaeth deddfwrfa, gan gynnwys cynyddu cynrychiolaeth ymhlith menywod, gryfhau dilysrwydd penderfyniadau a wneir gan Aelodau o'r Senedd (ASau) (Atkeson a Carrillo 2007 a Ulbig 2007).

Mae ymchwil yn awgrymu hefyd y gall cyflwyno cwotâu arwain at nifer o effeithiau cadarnhaol; gall arwain at arallgyfeirio materion a drafodir gan ddeddfwrfa (gan gynnwys, er enghraifft, meysydd polisi sy'n ymwneud â menywod, plant a theuluoedd - Cowper-Coles 2021 t10); creu newid mewn diwylliant tuag at ddulliau arweinyddiaeth mwy cynhwysol a chydweithredol; a hybu newidiadau i'r ffordd y mae'r ddeddfwrfa yn gweithredu, er enghraifft, drwy fformat dadleuon ac oriau eistedd (Cowper-Coles 2021 t8). Bydd yr effeithiau cadarnhaol posibl hyn, ynghyd â'r effeithiau cadarnhaol o ganlyniad i Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) (os caiff ei ddeddfu), oll yn cyfrannu at wneud y Senedd yn fwy effeithiol, gan roi mwy o hyder i bobl Cymru yn ein sefydliad democrataidd cenedlaethol ac o bosibl atal ystod o faterion a phryderon a nodwyd yn flaenorol mewn perthynas â gallu'r Senedd i graffu ar Lywodraeth Cymru yn effeithiol ac ymgysylltu â'r bobl y mae'n eu gwasanaethu.

Mae ymgysylltu â rhanddeiliaid allanol allweddol wedi'i gynnal wrth ddatblygu'r ddeddfwriaeth, gan gynnwys partneriaid cyflawni allanol, pleidiau gwleidyddol, Comisiwn y Senedd a nifer bach o sefydliadau'r trydydd sector. Bu ymgysylltu a chydweithio arbennig o gryf ag ymarferwyr etholiadol sydd wedi cyfrannu at drafodaethau â ffocws ar oblygiadau ymarferol y polisi. Bu cydweithio mewnol hefyd o fewn Llywodraeth Cymru, gan gynnwys o ran integreiddio cwotâu â'r system etholiadol bresennol a chysylltu â pholisïau perthnasol eraill Llywodraeth Cymru.

Diben y ddeddfwriaeth yw gwneud y Senedd yn ddeddfwrfa fwy effeithiol ar gyfer, ac ar ran, pobl Cymru. Mae'n gwneud hyn drwy gynyddu'r siawns o ethol cyfran o fenywod i'r Senedd sy'n adlewyrchu'n fras gyfran y menywod ym mhoblogaeth Cymru.

Datblygwyd Asesiad Effaith Rheoleiddiol i gyd-fynd â'r Bil, sy'n ymdrin â chostau a goblygiadau arbed y ddeddfwriaeth. Bydd gwerth am arian yn parhau i gael ei ystyried yn llawn wrth gyflawni a gweithredu’r diwygiadau.

Mae deddfwriaeth sylfaenol yn angenrheidiol fel rhan o'r mecanwaith cyflawni ar gyfer y cynigion a nodir uchod.

Adran 2. Beth fydd yr effaith ar lesiant cymdeithasol?

2.1 Pobl a chymunedau

Mae cyflwyno cwotâu ar gyfer etholiadau'r Senedd yn rhan o nod Llywodraeth Cymru o wneud y Senedd yn ddeddfwrfa fwy effeithiol ar gyfer, ac ar ran, pobl Cymru. Mae hyn yn cynnwys y manteision posibl y gall rhagor o ASau sy'n fenywod ddod â hwy i'r Senedd o ran ffocws cryfach, er enghraifft, ar lunio polisïau a dadleuon ar faterion sy'n bwysig i fenywod, plant a theuluoedd (Cowper-Coles 2021 t10). Gallai hyn gael effaith gadarnhaol ar grwpiau penodol o bobl, er enghraifft plant, menywod, teuluoedd a chymunedau, o ganlyniad i gynnydd yn y materion sy'n ymwneud â hwy yn cael eu cyflwyno i'w trafod.

Bydd cwotâu yn cael effaith ar grwpiau penodol o bobl ac asesir yr effeithiau hyn yn fanylach yn yr Asesiad cysylltiedig o'r Effaith ar Gydraddoldeb a Hawliau Dynol.

2.2 Hawliau plant

Ni fernir y bydd y cynigion i gyflwyno cwotâu ymgeiswyr ar gyfer etholiadau'r Senedd yn cael effeithiau andwyol ar hawliau plant a phlant, gan fod angen i ddarpar ASau fod yn o leiaf 18 oed cyn y diwrnod y cânt eu henwebu er mwyn sefyll mewn etholiad. Er hynny, fel y mae'r Memorandwm Esboniadol ar gyfer y Bil yn ei nodi, byddai ymchwil yn awgrymu bod gan nifer cynyddol o gynrychiolwyr sy'n fenywod mewn llywodraeth y potensial i arwain at sefyllfa lle bydd deddfwrfeydd yn canolbwyntio'n gynyddol ar amrywiaeth o faterion cymdeithasol a theuluol (Clayton 2021 t241).Gallai hyn felly arwain at fwy o ddadleuon yn y Senedd ar faterion sy'n ymwneud â phlant, eu hawliau a'u teuluoedd, yn ogystal â chraffu mwy effeithiol ar gynigion Llywodraeth Cymru yn y meysydd hyn.

Ni nodwyd unrhyw effeithiau uniongyrchol ar hawliau plant o ganlyniad i'r cynigion hyn ac felly ni chynhaliwyd asesiad manwl llawn o'r effaith ar hawliau plant. Er hynny, mae Asesiad llawn o'r Effaith ar Hawliau Plant wedi'i gwblhau a'i gyhoeddi mewn perthynas â'r cynigion ym Mil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) a fydd yn arwain at ddiwygiadau ehangach i'r Senedd.

2.3 Cydraddoldeb

Cynhaliwyd Asesiad llawn o'r Effaith ar Gydraddoldeb a Hawliau Dynol wedi'i gynnal.

2.4 Prawfesur Polisïau o Safbwynt Anghenion Cefn Gwlad

Yn fras, ni fydd y cynigion i gyflwyno cwotâu ymgeiswyr ar gyfer etholiadau'r Senedd yn cael unrhyw effeithiau penodol nac uniongyrchol ar bobl mewn ardaloedd gwledig nac ar gymunedau gwledig. Bydd y cwotâu yn gymwys yn yr un ffordd i bob ymgeisydd, p'un a ydynt yn dod o ardaloedd gwledig ai peidio, ac i bob etholaeth, gan gynnwys y rhai a allai fod yn ardaloedd gwledig yn bennaf.

Gan nad oes unrhyw effeithiau penodol nac unigryw wedi'u nodi ar bobl mewn ardaloedd gwledig a chymunedau gwledig o ganlyniad i gwotâu rhywedd, ni chynhaliwyd asesiad effaith prawfesur gwledig llawn.

2.5 Iechyd

Mae ymchwil yn dangos y gall nifer cynyddol o gynrychiolwyr benywaidd mewn llywodraethau effeithio ar natur a phwnc dadleuon, gan arwain, er enghraifft, at fwy o ffocws ar faterion cymdeithasol, addysg, iechyd a theuluol (Cowper-Coles 2021 t10). Os bydd cwotâu yn llwyddo i gynyddu cyfran y menywod yn y Senedd, mae'n rhesymol casglu y gallem weld nifer cynyddol o ddadleuon yn y Senedd ar iechyd, gan gynnwys iechyd menywod ac iechyd meddwl, yn ogystal â mwy o ffocws ar graffu ar gynigion Llywodraeth Cymru yn y meysydd hyn.

Mae potensial y bydd y cynigion yn cymell mwy o fenywod i gymryd rhan yn y broses ddemocrataidd, ac yn arwain at y manteision iechyd cysylltiedig a allai ddeillio o hynny o safbwynt ymdeimlad o gyflawniad personol a phroffesiynol a chynhwysiant. Mae'n bosibl y gallai fod effaith negyddol bosibl ar iechyd meddwl rhai unigolion a allai, oherwydd eu hamgylchiadau penodol, deimlo'n bryderus ynghylch nodi a ydynt yn fenyw ai peidio, ac a allai ystyried hyn yn rhwystr i'w cyfranogiad fel ymgeisydd ar gyfer etholiad. Yn seiliedig ar ein hasesiad presennol o'r effaith debygol, mae'n ymddangos bod nifer yr ymgeiswyr posibl i'r Senedd a allai gael eu heffeithio fel hyn yn debygol o fod yn fach iawn ac y bydd natur yr effaith yn amrywio yn dibynnu ar amgylchiadau personol penodol pob unigolyn. Mae'r dadansoddiad o'r effaith negyddol bosibl hon wedi'i nodi'n fanylach yn yr Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb sydd ar gael fan hyn. Ar y sail hon felly, ni chynhaliwyd asesiad llawn o'r effaith ar iechyd.

Gan nad yw'r effeithiau y llwyddwyd i'w nodi ar hyn o bryd yn debygol o gael effaith negyddol uniongyrchol neu sylweddol ar iechyd y mwyafrif o ymgeiswyr, ni chynhaliwyd asesiad llawn o'r effaith ar iechyd.

2.6 Preifatrwydd

Cynhaliwyd asesiad llawn o'r effaith ar ddiogelu data, ac mae ar gael yn llawn fan hyn.

Adran 3. Beth fydd yr effaith ar lesiant diwylliannol a’r gymraeg?

3.1 Llesiant diwylliannol

Ni fydd y cynigion i gyflwyno cwotâu ymgeiswyr ar gyfer etholiadau'r Senedd, gyda'r nod o wneud y Senedd yn ddeddfwrfa fwy effeithiol, yn effeithio mewn unrhyw ffordd sylweddol ar lesiant a threftadaeth ddiwylliannol.

3.2 Y Gymraeg

Mae'n annhebygol y bydd y cynigion i gyflwyno cwotâu ymgeiswyr ar gyfer etholiadau'r Senedd yn effeithio'n uniongyrchol ar y Gymraeg. Er hynny, efallai y bydd rhywfaint o effaith anuniongyrchol ar ddefnyddio a hyrwyddo'r Gymraeg ac mae hyn yn cael ei adlewyrchu yn yr asesiad o'r Gymraeg sydd wedi'i gynnal, ac sydd ar gael yn llawn fan hyn.

Adran 4. Beth fydd yr effaith ar lesiant economaidd?

Mae cefnogi twf yn economi Cymru, a thrwy hyn fynd i’r afael â thlodi, wrth galon Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru.

4.1 Busnes, y cyhoedd ac unigolion

Ni fernir bod darpariaethau'r Bil yn effeithio (naill ai'n fuddiol neu'n negyddol) ar lesiant economaidd ac o ganlyniad, ni chynhaliwyd Asesiad Effaith Economaidd llawn.

Darperir asesiad o'r costau sy'n gysylltiedig â'r ddeddfwriaeth yn yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol, a gynhwysir ym Memorandwm Esboniadol y ddeddfwriaeth.

4.2 Y sector cyhoeddus, gan gynnwys llywodraeth leol a chyrff cyhoeddus eraill

Gan fod y cynigion yn cynnwys dyletswyddau newydd o ran pleidiau gwleidyddol cofrestredig a'u hymgeiswyr sy'n sefyll mewn etholiad i'r Senedd, yr effaith uniongyrchol ar y Comisiwn Etholiadol fydd bod rhaid iddo ddiweddaru ei ganllawiau ar gyfer pleidiau gwleidyddol, ymgeiswyr a SCEau o ganlyniad i newidiadau yn sgil gweithredu'r cwotâu. Bydd effaith hefyd ar SCEau a fydd â rôl wrth orfodi'r rheolau cwota.

Rydym wedi ymgysylltu â'r Comisiwn Etholiadol, y pleidiau gwleidyddol a gynrychiolir yn y Senedd a chynrychiolwyr ymarferwyr etholiadol wrth ddatblygu'r cynigion. Mae hyn wedi ein galluogi i ddatblygu cynigion sy'n integreiddio'n effeithiol â'r drefn gyn-etholiadol bresennol (gan gynnwys unrhyw newidiadau y gellir eu gwneud o ganlyniad i'r darpariaethau ym Mil (Aelodau ac Etholiadau) Senedd Cymru) ac sy'n lleihau unrhyw effaith negyddol neu anghymesur ar brosesau sefydledig. Byddwn yn parhau i ymgysylltu â'r rhanddeiliaid allweddol hyn wrth inni ddatblygu'r is-ddeddfwriaeth sy'n ofynnol i roi'r cwotâu ar waith. 

Cynhaliwyd asesiad o'r costau o ganlyniad i'r dyletswyddau ychwanegol sydd i'w gosod ar SCEau awdurdodau lleol a chreu rôl newydd y SCEC. Mae manylion pellach i'w gweld yn yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol sy'n cyd-fynd â'r ddeddfwriaeth. Drwy ymgysylltu â'r Comisiwn Etholiadol, aseswyd na fydd costau ychwanegol arno o ganlyniad i'r cwotâu.

4.3 Y Trydydd Sector

Yn fras, ni fydd y cynigion i gyflwyno cwotâu ymgeiswyr ar gyfer etholiadau'r Senedd yn effeithio'n sylweddol ar y trydydd sector, heblaw y gallant ddarparu ffocws newydd a phenodol ar gyfer gwaith nifer bach o sefydliadau, gan weithio i hyrwyddo cynrychiolaeth fwy amrywiol mewn bywyd cyhoeddus a swyddi arwain.

4.4 Effaith ar gyfiawnder

Cynhaliwyd asesiad cynhwysfawr o effaith y cynigion ar y system gyfiawnder, ac mae ar gael yn llawn fan hyn.

Adran 5. Beth fydd yr effaith ar lesiant amgylcheddol?

Nid yw'r cynigion yn effeithio ar adnoddau naturiol, bioamrywiaeth, newid hinsawdd, cynefinoedd na llesiant amgylcheddol, er bod rhywfaint o dystiolaeth i awgrymu y gallai menywod fod yn fwy tueddol o ganolbwyntio ar faterion megis newid hinsawdd, diogelu'r amgylchedd a safonau (Piscopo 2020). Gan nad oes unrhyw effeithiau uniongyrchol ar yr amgylchedd, gan gynnwys bioamrywiaeth, wedi'u nodi, ni chynhaliwyd Asesiad llawn o'r Effaith ar Fioamrywiaeth.

Adran 6. Y ddyletswydd economaidd-gymdeithasol. Beth fydd yr effaith ar anfantais economaidd-gymdeithasol?

Yn gyffredinol, ni fydd y cynigion yn cael unrhyw effeithiau andwyol ar anfantais economaidd-gymdeithasol. Felly, ni chynhaliwyd Asesiad llawn o'r Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol.

Adran 7. Cofnod o’r asesiadau effaith llawn gofynnol

Angen asesiadau effaith llawn:

  • Cydraddoldeb
  • Preifatrwydd
  • Y Gymraeg
  • Asesiad Effaith Rheoleiddiol
  • Cyfiawnder

Adran 8. Casgliad

Gan fod y cynigion i gyflwyno cwotâu ymgeiswyr ar gyfer etholiadau'r Senedd wedi'u datblygu'n gyflym i roi'r argymhellion yn adroddiad y Pwyllgor Diben Arbennig ar waith, ni chynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus llawn. Yn hytrach, mae ymgysylltu wedi'i dargedu â rhanddeiliaid allanol perthnasol wedi'i gynnal sydd wedi helpu i lywio'r asesiad effaith hwn. Mae hyn wedi cynnwys ymgysylltu â'r canlynol:

  • Y rhai sy'n ymwneud â gweinyddu a chynnal etholiadau'r Senedd, gan gynnwys gweinyddwyr etholiadol a chynrychiolwyr SCEau
  • Y Comisiwn Etholiadol
  • Comisiwn y Senedd
  • Grwpiau a sefydliadau sy'n cynrychioli buddiannau pobl sy'n rhannu nodweddion gwarchodedig penodol
  • Pleidiau gwleidyddol a gynrychiolir yn y Senedd (a hwylusir gan y Comisiwn Etholiadol)
  • Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
  • Y Weinyddiaeth Gyfiawnder.

Wrth ddatblygu'r ddeddfwriaeth, rhoddwyd ystyriaeth i safbwyntiau a fynegwyd mewn ymgyngoriadau ac arolygon ac adroddiadau ar ddiwygio'r Senedd yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae ymchwil a wnaed gan arbenigwyr ym maes cwotâu rhywedd etholiadol a chynrychiolaeth ymhlith menywod mewn gwleidyddiaeth hefyd wedi cael ei hystyried.

Mae'r asesiad effaith integredig hwn yn ystyried goblygiadau’r ddeddfwriaeth mewn perthynas â’r pum ffordd o weithio a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) yn ogystal ag mewn perthynas â meysydd polisi allweddol eraill. Wrth anelu at y nod o sicrhau bod y Senedd yn adlewyrchu'n fras gydbwysedd poblogaeth Cymru o ran rhywedd, ystyriwyd y bydd cwotâu yn cael effaith gadarnhaol ar wneud y Senedd yn ddeddfwrfa fwy effeithiol yn y tymor hwy, gan atal a mynd i'r afael ag ystod o faterion a phryderon a nodwyd yn flaenorol mewn perthynas â gallu'r Senedd i graffu ar Lywodraeth Cymru yn effeithiol ac ymgysylltu â'r bobl y mae'n eu gwasanaethu. Bydd cynyddu cynrychiolaeth ymhlith menywod hefyd yn helpu i gynyddu ei dilysrwydd, oherwydd mae ymchwil yn awgrymu bod cynyddu cynrychiolaeth ymhlith menywod yn cryfhau dilysrwydd penderfyniadau a wneir gan ddeddfwrfa (Atkeson a Carrillo 2007).

Wrth ystyried y model ar gyfer cwotâu ac wrth ddylunio'r ddeddfwriaeth bu cydweithio â phartneriaid a rhanddeiliaid ac maent wedi cyfrannu at y broses. Rhoddwyd ystyriaeth hefyd i'r newidiadau ehangach a gynigir fel rhan o ddiwygio'r Senedd a'u heffaith gronnol ar brosesau sefydledig a chapasiti timau etholiadol awdurdodau lleol, gyda'r bwriad o integreiddio ag arferion etholiadol presennol cyn belled ag y bo modd. Bydd y dull hwn yn cael ei gynnal wrth roi'r ddeddfwriaeth ar waith.

Mae asesiadau manwl unigol o’r effaith wedi'u paratoi pan fo'r asesiad hwn wedi nodi y gallai’r Bil gael effeithiau penodol, neu pan fo gofyniad deddfwriaethol i wneud hynny. Lluniwyd asesiadau effaith unigol mewn perthynas â Chydraddoldeb a Hawliau Dynol; Diogelu Data; y Gymraeg a Chyfiawnder.

Mae'r prif effeithiau a nodwyd yn effeithiau mewn perthynas â chydraddoldeb a hawliau dynol, preifatrwydd a diogelu data.

Diben y Bil yw creu Senedd fwy effeithiol, fel rhan o'r pecyn o ddiwygiadau gyda'r diben hwnnw. Mae'n anelu at wneud hynny drwy sicrhau aelodaeth o'r Senedd sy'n cynrychioli'n fras gydbwysedd poblogaeth Cymru o ran rhywedd. Bydd y cynigion yn golygu y bydd angen i bleidiau gwleidyddol ddewis cyfran ddigonol o ymgeiswyr sy'n fenywod i allu cydymffurfio â'r rheolau cwota ac y bydd angen gosod ymgeiswyr sy'n fenywod yn gymesur mewn safleoedd ar restrau lle mae ganddynt obaith realistig o gael eu hethol.

Mae ymchwil yn awgrymu y gall cynyddu cynrychiolaeth menywod arwain at ganlyniadau cadarnhaol o ran effeithiolrwydd deddfwrfa, gan gynnwys: mwy o ffocws ar faterion polisi a deddfwriaethol sy'n bwysig i fenywod, plant a chymdeithas sifil; creu modelau rôl cadarnhaol mewn swyddi arwain i fenywod a merched; a safon uwch o ymgeiswyr yn gyffredinol.

Nid oes dim yn y rheolau cwota ynghylch cyfran a gosodiad menywod ar restrau sy'n atal unrhyw unigolyn rhag sefyll mewn etholiadau. Fodd bynnag, nodwyd y gallai'r gofyniad i bob ymgeisydd ddarparu gwybodaeth am rywedd fel rhan o'r broses enwebu gael effaith negyddol ar rai ymgeiswyr ar y sail y gallent deimlo'n bryderus ynghylch darparu gwybodaeth o'r fath. Bydd nifer yr ymgeiswyr sy'n debygol o gael eu heffeithio yn fach iawn a bydd natur yr effaith yn amrywio yn dibynnu ar amgylchiadau personol ymgeiswyr unigol.

Nodwyd hefyd y gallai fod effaith ar rai ymgeiswyr posibl, yn benodol rhai dynion a allai gael eu gosod mewn safle llai ffafriol ar restrau eu pleidiau ar brydiau, neu beidio â chael eu gosod ar restr o gwbl, o ganlyniad i'r rheolau cwota. Gall hyn olygu na fyddant yn cael eu hethol pan y gallent fod wedi cael eu hethol. Fodd bynnag, bernir bod y dull gweithredu yn gymesur wrth gyflawni'r nod o Senedd fwy effeithiol, gan fod menywod wedi bod yn fwyafrif heb gynrychiolaeth ddigonol.

Datblygwyd Asesiad o'r Effaith ar Ddiogelu Data, sy'n nodi'r effaith a ragwelir o ran rhannu gwybodaeth bersonol sy'n ymwneud â rhywedd ymgeisydd. Mae'r asesiad manylach hwn yn darparu gwybodaeth am y sail gyfreithiol ar gyfer casglu a phrosesu'r wybodaeth a'r camau a gymerir i ddiogelu'r wybodaeth sensitif hon fel rhan o'r broses etholiadol. Mae hefyd yn cydnabod yr effaith negyddol bosibl i rai ymgeiswyr o orfod nodi eu rhywedd at ddiben gweithredu a gorfodi'r ddeddfwriaeth yn effeithiol ac y gallai'r ymgeiswyr hyn ystyried hyn yn rhwystr rhag cymryd rhan. Er y bydd gofyn i ymgeiswyr ddarparu gwybodaeth bersonol at ddibenion rhoi'r ddeddfwriaeth ar waith yn effeithiol, ni chaiff mwy o wybodaeth nag sy'n hanfodol at y diben hwnnw ei chasglu. Fel rheolyddion data, pleidiau gwleidyddol cofrestredig, SCEau a'r SCEC sy'n gyfrifol yn y pen draw am y prosesu data a bydd yn ofynnol iddynt gydymffurfio â'r ddeddfwriaeth diogelu data. Disgwylir y bydd yr wybodaeth sy'n ymwneud â rhywedd yn cael ei chasglu fel estyniad o'r broses enwebu ymgeiswyr bresennol, a bydd ymgeiswyr yn gyfarwydd â'r broses hon.

Nodwyd hefyd y bydd effaith ar rai pleidiau gwleidyddol y gallai fod angen iddynt ddewis mwy o ymgeiswyr sy'n fenywod er mwyn cydymffurfio â'r rheolau cwota, er y bydd hyn yn amrywio yn dibynnu ar fan cychwyn plaid o safbwynt amrywiaeth rhywedd ymhlith ei llif presennol o ymgeiswyr. Felly, gall y gofyniad i ddewis mwy o ymgeiswyr benywaidd effeithio ar allu'r pleidiau i gyflwyno'r rhestr o ymgeiswyr a ffefrir ganddynt.

Nod y trothwy isaf o 50% ar gyfer y cwota a'r meini prawf gosod yw sicrhau cydbwysedd o ran rhywedd ymhlith ymgeiswyr, gan sicrhau nad yw ymgeiswyr sy'n fenywod yn cael eu gosod ar waelod rhestrau ymgeiswyr y pleidiau lle maent yn llai tebygol o gael eu hethol. Bwriedir i'r model fod yn syml ac yn syml i'w weithredu, ac mae'n anelu at gyflawni'r nod cyfreithlon o Senedd fwy effeithiol mewn ffordd gymesur.

Mae'r Bil yn sicrhau bod gan Weinidogion Cymru y pwerau i ddarparu ar gyfer llawer o'r manylion gweithredol mewn Gorchymyn a wneir o dan adran 13 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Bydd ymgynghoriad ar newidiadau i'r is-ddeddfwriaeth berthnasol yn cael ei gynnal maes o law.

Mae'n bwysig bod y cynigion yn cael eu monitro a'u hadolygu'n briodol am eu heffeithiolrwydd ac am eu heffaith ar bleidiau gwleidyddol, ymgeiswyr, ymarferwyr etholiadol, y broses etholiadol a'r Senedd. Am y rheswm hwn, mae'r ddeddfwriaeth sylfaenol yn cynnwys darpariaethau i alluogi'r Senedd, os bydd yn cytuno, i sefydlu pwyllgor y Senedd i gynnal adolygiad o weithrediad ac effaith y darpariaethau cwota. Daw darpariaethau'r adolygiad i rym yn dilyn etholiad y Senedd lle bydd y cwotâu yn gymwys am y tro cyntaf (mae hyn wedi'i gynllunio ar hyn o bryd ar gyfer etholiad 2026). Mae'r ddeddfwriaeth hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ymateb i unrhyw adroddiad sy'n deillio o adolygiad o'r fath.

Gan i'r cynigion i gyflwyno cwotâu ar gyfer etholiadau'r Senedd ddeillio o'r Senedd ei hun drwy sefydlu'r Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad yn 2017 a'i adroddiad, adroddiad y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Senedd yn 2022 ac adroddiad y Pwyllgor Diben Arbennig yn fwy diweddar, bernir ei bod yn briodol bod y Senedd yn cynnal yr adolygiad hwn, naill ai fel rhan o'i hadolygiad o effaith y pecyn cyfan i ddiwygio'r Senedd, neu ar wahân iddo. Mae gwybodaeth bellach am y mecanwaith adolygu wedi'i nodi ym Memorandwm Esboniadol y Bil.

Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i fonitro'r effeithiau sy'n deillio o'r ddeddfwriaeth yn ystod y broses graffu a'i rhoi ar waith, gan gynnwys adolygu ei hasesiadau effaith fel sy'n angenrheidiol ac yn briodol.