Pe bai'n cael ei ddeddfu, byddai'r bil hwn yn newid y rheolau ar gyfer aelodaeth feddygol o Dribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru.
Manylion
Pe bai'n cael ei ddeddfu, byddai'r bil:
- yn newid y rheolau ar gyfer pwy gaiff fod yn aelod meddygol o Dribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru, ac
- yn cadarnhau bod penodiadau blaenorol i'r Tribiwnlys ac aelodaeth flaenorol ohono yn parhau'n ddilys.
Cyflwynwyd y bil i'r Senedd ar 13 Ionawr 2026. Bydd y bil yn awr yn dilyn y broses ddeddfwriaethol frys.
Mae Bil Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru (Aelodaeth) a’r Memorandwm Esboniadol a’r Asesiad Effaith Rheoleiddiol ar gyfer y bil ar gael ar senedd.cymru.
