Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae Blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer Diwylliant, a gyhoeddwyd ym mis Mai 2025, yn darparu fframwaith polisi strategol y byddwn yn ei ddefnyddio i ystyried ein blaenoriaethau yn ei erbyn ar gyfer buddsoddi cyfalaf yn y sectorau amgueddfeydd, llyfrgelloedd ac archifau lleol. Mae cynlluniau dyfarnu cyllid cyfalaf ar wahân yn cael eu cynnal ar gyfer y sector celfyddydau drwy Gyngor Celfyddydau Cymru.

Wrth ystyried buddsoddi cyfalaf, mae'r Blaenoriaethau ar gyfer Diwylliant yn cynnwys uchelgeisiau sy'n ymwneud â: 

  • Sicrhau bod diwylliant yn gynhwysol, yn hygyrch ac yn amrywiol;
  • Adlewyrchu anghenion a dyheadau plant a phobl ifanc;
  • Gofalu am ein casgliadau a'n hasedau;
  • Cefnogi arferion digidol da, a
  • Hybu datblygu cynaliadwy, cyflawni sero net, a mynd i'r afael â’r argyfyngau hinsawdd a natur.

Bydd y cynllun grant hwn yn canolbwyntio ar gyflawni'r uchelgeisiau hynny.

Sicrhau bod eich prosiect yn cyd-fynd â'ch uchelgeisiau

Fel rhan o'ch cais, gofynnir i chi nodi pa uchelgeisiau y mae eich prosiect yn cyd-fynd â nhw. Byddwn yn derbyn ceisiadau sy'n ymwneud â mwy nag un uchelgais e.e. gwelliannau i seilwaith sy'n cyfrannu at sero net a gwella hygyrchedd. Efallai yr hoffech hefyd wneud cais o dan un uchelgais yn unig e.e. gofalu am gasgliadau/asedau.

Gallwch gyflwyno sawl cais, ar yr amod nad ydych yn dyblygu gweithgarwch ar draws prosiectau. Dylech fod yn ymwybodol bod y cynllun grant hwn yn gystadleuol, ac efallai y bydd ymgeiswyr yn dymuno blaenoriaethu'r ceisiadau y maent yn eu cyflwyno.

Y cyllid sydd ar gael

Y grant mwyaf sydd ar gael i bob sefydliad, partneriaeth neu gonsortiwm yw £200,000. Yr isafswm yw £20,000.

Ni chewch ddefnyddio'r grant fel arian cyfatebol ar gyfer prosiectau cyfalaf mwy ond gellir ei ddefnyddio i dalu am waith cyfalaf sy'n rhan o brosiect datblygu ehangach cyn belled â:

  • Bod y dyfarniad yn berthnasol i faes gwaith sy'n cyd-fynd â'r dibenion a restrir uchod, gyda thystiolaeth briodol yn cael ei darparu;
  • Bod y grant yn cael ei hawlio o fewn yr amserlen benodedig.
  • Bydd y taliad yn cael ei wneud mewn ôl-ddyledion oni bai bod tystiolaeth gymhellol am grant neu gyfran o grant cyn bod ei angen.

Ni fyddwn yn ariannu unrhyw waith a gwblhawyd neu sydd wedi'i gwblhau'n rhannol cyn y dyddiad dyfarnu ar gyfer unrhyw grant llwyddiannus. 

Pwy sy'n gymwys

Mae arian o'r gronfa hon ar gyfer y canlynol yn unig:

  1. Amgueddfeydd sydd wedi'u hachredu neu amgueddfeydd sy'n gweithio at gael eu hachredu o dan Gynllun Achredu Amgueddfeydd y DU sef:
  • Amgueddfeydd annibynnol – mathau 1 i 3
  • Amgueddfeydd awdurdodau lleol – mathau 1 i 3
  • Amgueddfeydd Prifysgol – mathau 1 i 3; a
  1. Gwasanaethau llyfrgell sy'n cael eu rhedeg gan awdurdodau lleol, llyfrgelloedd cyhoeddus statudol mewn llyfrgelloedd ymddiriedolaeth neu lyfrgelloedd a reolir gan y gymuned; ac 
     
  2. Amgueddfeydd sydd wedi'u hachredu neu sydd wedi ymrwymo i gael eu hachredu o fewn amserlen y cytunwyd arni, hynny ar ôl cwblhau'r prosiect o dan Gynllun Achredu Archif y DU ac sy'n:
  • Wasanaethau archifau awdurdodau lleol – mathau 1 a 2; neu
  • Brifysgolion a Llyfrgelloedd sydd ag Archifau a Chasgliadau Arbennig

Rhaid ichi allu cwblhau’r holl waith a hawlio’ch grant llawn erbyn 31 Mawrth 2026.

Yr hyn y byddwn yn ei gyllido

At ddiben costau cyfalaf yn unig y mae cyllid y rhaglen hon. Mae gwariant cymwys yn cynnwys gwaith sy'n darparu ased ffisegol neu ddigidol yn y pen draw lle mae'r canlyniadau yn cyd-fynd yn glir â'r meysydd blaenoriaeth. Gallai hyn gynnwys gwaith adeiladu a pheirianneg, creu asedau digidol, ffioedd proffesiynol, gosodiadau, offer, seilwaith digidol. Os oes gennych gwestiynau ynghylch pa rannau o'ch prosiect sy'n gymwys, cysylltwch â ni yn culture@llyw.cymru.

Mae enghreifftiau o brosiectau yn cynnwys, ymhlith eraill: 

Sicrhau bod diwylliant yn gynhwysol, yn hygyrch ac yn amrywiol ac

Adlewyrchu anghenion a dyheadau plant a phobl ifanc

  • Gwelliannau ffisegol i sicrhau gwell cyfleusterau ar gyfer ymwelwyr anabl, niwroamrywiol a/neu ddefnyddwyr gwasanaethau ag anghenion ychwanegol. Gallai hyn gynnwys gwaith adeiladu i wella llif ymwelwyr a mynediad ffisegol; gwelliannau i lifftiau a thoiledau, gan gynnwys toiledau Changing Places; offer i gynyddu mynediad at gasgliadau, dehongliadau ac arddangosfeydd gan unigolion sydd ag amhariadau a/neu anableddau; offer a dodrefn hygyrch
  • Ailddatblygu mannau i gynnwys arlwy mwy cynhwysol i ymwelwyr a defnyddwyr, gan gynnwys dehongliadau ac arddangosfeydd, gan ganolbwyntio ar wella cyfleusterau a chynrychiolaeth o gymunedau amrywiol fel grwpiau ffydd, oedran (gan gynnwys plant a phobl ifanc), pobl hŷn, rhywedd, pobl LHDTC+, pobl anabl a phobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol gyda ffocws penodol ar gymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr.  Rydym yn annog prosiectau sy'n mabwysiadu dull croestoriadol tuag at gydraddoldeb. Mae croestoriadedd yn cydnabod bod unigolion yn profi ffurfiau o wahaniaethu sy'n gorgyffwrdd yn seiliedig ar nodweddion fel hil, rhywedd, statws economaidd-gymdeithasol, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, a mwy.

Gofalu am ein casgliadau a'n hasedau

  • Gwelliannau i offer a/neu gyfarpar i wella amodau amgylcheddol a hybu datgarboneiddio, neu eu cyfnewid am rai newydd;
  • Gwelliannau allanol i adeiladau sy'n dileu risgiau i gasgliadau yn sgil dŵr yn llifo i mewn i adeilad a gwella/diogelu'r ased;
  • Insiwleiddio er mwyn sefydlogi amgylcheddau ar gyfer casgliadau;
  • Systemau Monitro Amgylcheddol, gan gynnwys offer i alluogi gwirfoddolwyr a staff i gael mynediad i systemau o'r fath, ac
  • Addasu gofod er mwyn gallu ei ddefnyddio fel storfa ar gyfer casgliadau. 

Gall hyd at uchafswm o 15% o gostau'r prosiect fod ar gyfer deunydd pecynnu a storio.  

Cefnogi arferion digidol da

  • Digideiddio casgliadau;
  • Gwaith cadwraeth sydd ei angen i ddigido eitemau'r casgliad;
  • Seilwaith cadwraeth ddigidol a systemau rheoli asedau;
  • Systemau rheoli casgliadau, gan gynnwys offer fel gliniaduron neu gyfrifiaduron bwrdd gwaith i alluogi gwirfoddolwyr a staff i gael mynediad i systemau rheoli o'r fath;
  • Creu gwefannau hygyrch

Cefnogi datblygu cynaliadwy, cyflawni sero net, a mynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur

  • Gwaith i adeiladu seilwaith i wella'r amgylchedd a lleihau ôl troed carbon, er enghraifft, i doeau a ffenestri, gosod boeleri a systemau gwresogi mwy effeithlon, gosod ynni solar neu ynni adnewyddadwy amgen, ailosod systemau goleuadau i LED gan ychwanegu at werth yr adeilad;
  • Gwaith i ardaloedd awyr agored i gefnogi natur, bioamrywiaeth a llesiant

Gall ymgeiswyr ofyn am hyd at 10% o'r grant i gefnogi costau staff rheoli prosiectau penodol. Rhaid cynnwys y manylion hyn yng nghostau eich cais.

Rydym yn cydnabod yr egwyddor Adennill Costau Llawn wrth gynnal y prosiect; fodd bynnag, dylai'r costau fod yn gymesur â'r grant y gofynnir amdano ac sydd wedi'i nodi yn y cais. Mae rhagor o fanylion yr egwyddor Adennill Costau Llawn ac arweiniad ar fodelau priodol ar gyfer cyfrif cyfraniad teg at orbenion i'w gweld yma: Adennill costau llawn

Bydd yr holl gymorth yn cael ei ddyfarnu yn unol ag ymrwymiadau rheoli cymorthdaliadau'r DU. Caiff y perygl o dalu cymhorthdal anghydnaws ei asesu wrth ystyried pob cais unigol.

Y broses ymgeisio

Darllenwch y Canllawiau hyn yn ofalus cyn llenwi'r ffurflen. Rhaid cyflwyno pob cais ar y ffurflen gais a ddarperir.

Bydd yr wybodaeth a roddwch yn dibynnu ar natur, math a maint y prosiect a'i weithgareddau neu yr hyn y buddsoddir ynddo. Dylai pob cais esbonio sut y caiff y prosiect ei gynnal gan gynnwys unrhyw gyngor arbenigol y gofynnir amdano, gyda thystiolaeth ddogfennol lle bo hynny'n berthnasol.

Gofalwch fod yr wybodaeth rydych yn ei darparu mor gywir â phosibl. Os bydd eich cais yn llwyddiannus, bydd yr wybodaeth y byddwch wedi'i rhoi yn sail i'r llythyr dyfarnu grant sy'n gytundeb cyfreithiol rwymol.

Gallwch gyflwyno nifer o ddogfennau a ffynonellau gwybodaeth gwahanol i gefnogi'r cais cyn belled â'u bod yn berthnasol i'r prosiect. Gallai'r dogfennau hynny gynnwys (ymhlith eraill):

  • cynlluniau busnes;
  • dogfennau technegol, fel dyluniadau a manylebau adeiladau;
  • caniatâd cynllunio, cymeradwyaeth rheoliadau adeiladu, cymeradwyaeth ar gyfer defnyddio’r safle
  • asesiad o'r effaith ar gydraddoldeb
  • asesiadau o’r effaith amgylcheddol;
  • astudiaethau dichonoldeb;
  • tystiolaeth o ymarferion caffael / cymariaethau cost eraill; a
  • manylion profiad / arbenigedd prif staff cynnal y prosiect

Rhaid ichi gyflwyno'ch cais i culture@llyw.cymru erbyn 5pm 1 Awst 2025. Rhaid llenwi pob rhan o'r ffurflen gais. Byddwn yn gwrthod ffurflenni anghyflawn neu hwyr. 

Amserlen y cynllun grant

Cyfnod ymgeisio'n dechrau: 9 Mehefin 2025

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 1 Awst 2025  

Cyhoeddi penderfyniadau: Wythnos i ddechrau  1 Medi 2025

Y broses asesu

Byddwn yn bwrw golwg ar eich cais i gadarnhau ei fod yn gymwys cyn iddo gael ei asesu'n llawn. Bydd y gwiriadau hyn yn cynnwys:

  • iechyd y sefydliad, gan gynnwys ffurflenni blynyddol (lle bo'n berthnasol) a chyfrifon y Comisiwn Elusennau;
  • pa mor gymwys yw'r costau;
  • amserlen y prosiect;
  • gwybodaeth am gyflenwyr, gan gynnwys amcangyfrifon ysgrifenedig gan POB cyflenwr;
  • cadarnhad y bydd unrhyw ganiatâd gofynnol (caniatâd cynllunio, caniatâd adeiladu rhestredig, ac ati) yn ei le erbyn dyddiad dechrau'r prosiect arfaethedig. Os nad ydych yn gallu darparu tystiolaeth y bydd yr holl ganiatâd gofynnol yn ei le cyn dyddiad dechrau eich prosiect arfaethedig, bydd eich cynnig grant yn cael ei dynnu'n ôl. 

Os na fydd eich cais yn bodloni pob un o'r uchod, byddwn yn ei wrthod.

Mae'r Ffurflen Gais yn gofyn am Gynllun Prosiect (adran 3 o'r ffurflen); bydd templed safonol ar gael, gyda saith pennawd:  

  • Ffit Strategol / Sail Resymegol a Nod y Prosiect
  • Gweithgaredd y Prosiect
  • Rheoli’r Prosiect (gan gynnwys Asesiad Risg)
  • Gwerth am Arian
  • Cyllid a Chydymffurfiaeth
  • Mesur Llwyddiant 

Fe welwch ddisgrifiad o bob pennawd a'r dystiolaeth sydd ei hangen yn adran 4 y ddogfen hon.

Caiff yr wybodaeth a roddwch o dan bob pennawd ei defnyddio i asesu'ch cais fel sail ar gyfer penderfynu a ddylai grant gael ei roi i'ch prosiect.

Rhaid i’r manylder ym mhob adran fod yn briodol ac yn gymesur i gwmpas a maint y prosiect dan sylw.

Bydd yr wybodaeth a roddwch yn cael ei hasesu yn erbyn y meini prawf sgorio canlynol:

GalluTystiolaeth a ddarparwydSgôrSylw
Uchel
Mae’r wybodaeth a ddarparwyd yn y cais grant yn ddigon amlwg a chadarn i ddangos hyder mewn cyflenwi.Mae’r cynnwys yn gyson, yn gynhwysfawr, yn afaelgar, ac yn berthnasol i’r cynllun grant ym mhob agwedd ac yn gwbl gredadwy.100Hyder llwyr
Mae’r cynnwys yn ddigonol (mewn termau ansoddol), yn ddiamheuol ac yn afaelgar.80Hyder
Canolig
Mae’r wybodaeth a ddarparwyd yn y cais grant yn dangos risg bach i gyflenwad.Mae bylchau bach yn y cynnwys, neu i raddau bach nid yw’r cynnwys yn gredadwy neu’n berthnasol i’r cynllun.60Mân bryderon
Isel
Mae’r wybodaeth a ddarparwyd yn y cais grant yn dangos risg canolig i gyflenwad.Mae bylchau cymedrol yn y cynnwys ac felly nid yw’n gredadwy.40Pryderon cymedrol
Isaf
Mae’r wybodaeth a ddarparwyd yn y cais grant yn dangos risg sylweddol i gyflenwad.Mae bylchau sylweddol yn y cynnwys ac felly nid yw’n gredadwy a/neu mae’r rhan helaeth ohono yn amherthnasol i’r cynllun.20Pryder sylweddol
Annerbyniol
Mae’r wybodaeth a ddarparwyd yn y cais grant yn dangos nad yw’r prosiect yn gallu cael ei gyflenwi fel y disgrifiwyd.Mae’r cynnwys yn gamarweiniol, yn amherthnasol neu’n anghymwys.0Annerbyniol

Bydd Panel Asesu yn adolygu'ch cais ar sail y dystiolaeth y gofynnir amdani yn adran 4 y canllawiau hyn. Bydd y sgôr a roddir yn dibynnu ar ansawdd yr wybodaeth a'r dystiolaeth a ddarperir ym mhob adran o'r Cynllun Prosiect ac yn y dogfennau ategol cysylltiedig.  

Y trothwy ansawdd ar draws pob maes a sgoriwyd yw 60. Os bydd eich cais yn methu â chyrraedd y trothwy ansawdd mewn unrhyw ardal, bydd y prosiect yn cael ei wrthod.

Llenwi’r ffurflen gais

Gofalwch fod yr wybodaeth a roddwch yn berthnasol i bob un o'r meysydd a awgrymir o dan bob un o'r penawdau isod.

Ffit Strategol, Sail Resymegol a Nod y Prosiect (3.1) (hyd at 750 gair)

Esboniwch y canlynol:

Pam mae angen y prosiect

Esboniwch yr angen y mae'ch prosiect yn ei ddiwallu a sut y gwelwyd fod ei angen gan gyfeirio at dystiolaeth benodol.

Nodau'ch prosiect

Rhestr o nodau'r prosiect - does dim nifer penodol, cynhwyswch y nifer sydd.

Ffit Strategol

Esboniwch sut y bydd eich prosiect yn helpu i gyflawni yn erbyn Blaenoriaethau Diwylliant Llywodraeth Cymru.

Gweithgarwch y Prosiect (3.2) (hyd at 750 o eiriau)

Esboniwch:

Beth rydych chi'n cynnig ei wneud

Rhowch fanylion y gwaith adeiladu / strwythurol fydd yn cael ei wneud a/neu offer a fydd yn cael ei brynu fel rhan o'r prosiect, ac atodwch gynlluniau.

Rhowch fanylion y gwelliannau i osodiadau a ffitiadau ac atodwch unrhyw luniadau / cynlluniau.

Sut rydych chi am wneud hynny a'r safonau y byddwch chi'n gweithio atyn nhw

Rhowch fanylion sut y bydd y prosiect yn cael ei gynnal ac unrhyw gyngor arbenigol a gawsoch i'ch helpu â'ch cynlluniau.

Dewiswch safonau perthnasol ac egluro sut y bydd eich prosiect yn eu bodloni ac o ansawdd uchel.

Amserlen ar gyfer cynnal eich prosiect

Rhowch siart gantt fel atodiad i'ch ffurflen gais.

Rheoli’r Prosiect (3.3) (hyd at 750 o eiriau)

Esboniwch y canlynol:

Trefniadau rheoli'r prosiect

Esboniwch eich cynlluniau ar gyfer rheoli'r prosiect, gan roi sylw dyledus i'r gweithgareddau sydd eu hangen, a'r capasiti sydd ar gael.

Disgrifiwch brofiadau Rheolwr y Prosiect, tîm y prosiect a rolau prif aelodau'r staff fydd ynghlwm wrth gynnal y prosiect.

Disgrifiwch effeithiau posibl y prosiect ar wasanaethau eraill a ddarperir. 

Sgiliau ac adnoddau

Esboniwch sut y gwnewch chi'n siwr bod y sgiliau gweithredol, technegol, ariannol a phersonél i gynnal y prosiect yn llwyddiannus ar gael.

Esboniwch sut y bydd yr adnoddau sydd eu hangen i gynnal y prosiect yn llwyddiannus ar gael. 

Cerrig milltir allweddol cynnal y prosiect (heb eu cynnwys yn y terfyn geiriau)

Llenwch y tabl sydd wedi'i ddarparu. 

Risg a rheoli risg (heb ei gynnwys yn y terfyn geiriau)

Gan ddefnyddio'r tabl a ddarperir, rhowch grynodeb o'r prif risgiau a allai effeithio ar eich gallu i gynnal y prosiect a sicrhau'r canlyniadau. 

Wrth asesu pa mor debygol y bydd y risg o ddigwydd, dylid defnyddio'r raddfa ganlynol:

  • Uchel – Mae tebygolrwydd mawr y bydd y risg yn digwydd o dan yr amodau gweithredu presennol.
  • Canolig – Mae siawns gymedrol y gwnaiff y risg ddigwydd yn ôl profiad blaenorol a chyd-destun y sefydliad.
  • Isel – Mae'r siawns fach y gwnaiff y risg ddigwydd. Mae'n ddigwyddiad prin iawn os yw wedi digwydd o gwbl. 

Gwerth am Arian (3.4) (hyd at 500 gair)

Esboniwch y canlynol:

Penderfynu ar y costau

Esboniwch sut y gwnaethoch chi amcangyfrif y costau.

Dangos sut y penderfynwyd bod costau'n rhesymol drwy gyfeirio at y dyfynbrisiau a gasglwyd; costau safonol ar sail gweithgareddau blaenorol; ac ati.

Gwerth am arian

Lle bo'n briodol, dangoswch sut y mae opsiynau gwahanol ar gyfer cyflawni amcanion y prosiect wedi’u hystyried ac esboniwch pam a sut y gwnaethoch ddewis yr opsiwn y gwnaethoch ei ddewis.

Llenwch y daenlen cyllid a ddarperir

Dylech gynnwys manylion yr holl wariant a gynigir ar gyfer pob elfen o'ch prosiect ar y daenlen a ddarperir.  

  • Rhowch amserlen dalu fras ar y daenlen a ddarperir. Dylid hawlio costau yn unol â'r gwariant drwy gydol oes y grant.
  • Atodwch gopïau o amcangyfrifon ysgrifenedig gan eich cyflenwyr ar gyfer yr holl gostau sydd wedi'u nodi. Bydd ceisiadau heb ddyfynbrisiau, neu sy’n anghyflawn mewn rhyw ffordd arall, yn cael eu gwrthod. 

Cyllid a Chydymffurfiaeth (3.5) (band A - hyd at 500 gair)

Esboniwch y canlynol:

Cyllid prosiect 

Disgrifiwch unrhyw grantiau rydych wedi'u derbyn oddi wrth Lywodraeth Cymru o'r blaen, neu geisiadau sydd ar y gweill ar hyn o bryd sy'n berthnasol i'r prosiect hwn. 

Y broses ar gyfer prynu nwyddau a gwasanaethau 

Disgrifiwch drefniadau prynu / caffael nwyddau a gwasanaethau eich sefydliad. Rydym yn disgwyl i sefydliadau allu dangos tystiolaeth o arfer da i sicrhau bod y broses dendro yn gystadleuol. 

Mesur llwyddiant (3.6) (hyd at 500 gair)

Esboniwch y canlynol:

Canlyniad disgwyliedig

Disgrifiwch ganlyniadau disgwyliedig y prosiect. 

Monitro a gwerthuso

Rhowch fanylion sut y byddwch yn monitro, mesur a gwerthuso effaith y canlyniadau sy'n gysylltiedig â'ch prosiect ac a nodwyd uchod. 

Dangosyddion perfformiad

Darparwch hyd at 3 dangosydd perfformiad SMART sy'n mesur llwyddiant eich prosiect, yn unol â chanlyniadau disgwyliedig y prosiect. 

Dylai'r dangosyddion SMART fod yn benodol, yn fesuradwy, yn gyflawnadwy, yn berthnasol ac yn benodol o ran amser.

Gofynion prosiectau llwyddiannus

Bydd prosiectau a ariennir yn rhoi diweddariadau ar eu cynnydd i'w Cynghorydd Grant a enwir. Bydd amlder y diweddariadau hyn yn cael eu trafod a'u cytuno adeg y dyfarniad.

Rhaid cyflwyno pob hawliad ar y templed a roddir ichi pan ddyfernir y grant. Gyda'r hawliad, rhaid cyflwyno crynodeb byr o hynt gweithgareddau'r prosiect.

Er mwyn cael newid costau neu newid sut i gynnal y prosiect fel y cytunwyd arnynt, rhaid cael cytundeb ysgrifenedig cyn eu newid.

Ble y galla' i fynd am help

Os oes angen i chi drafod unrhyw ran o'r cais, cysylltwch â'r Is-adran Ddiwylliant ar diwylliant@llyw.cymru.