Canllawiau a ffurflen gais ar gyfer Blaenoriaethau ar gyfer Diwylliant Cyllid Grant Cyfalaf.
Dogfennau
Ffurflen gais , math o ffeil: ODT, maint ffeil: 42 KB
Ffurflen gyllid , math o ffeil: ODS, maint ffeil: 8 KB
Manylion
Lansiwyd y Blaenoriaethau ar gyfer Diwylliant ym mis Mai 2025 ac mae'r cynllun grant hwn ar gyfer cyllid cyfalaf rhwng £20,000 a £200,000 i fynd i'r afael â'r uchelgeisiau canlynol:
- sicrhau bod diwylliant yn gynhwysol, yn hygyrch ac yn amrywiol;
- adlewyrchu anghenion a dyheadau plant a phobl ifanc;
- gofalu am ein casgliadau a'n hasedau;
- cefnogi arferion digidol da, a
- hybu datblygu cynaliadwy, cyflawni sero net, a mynd i'r afael â’r argyfyngau hinsawdd a natur.
1 Awst 2025 yw’r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau, ac nid oes gofyn am gyllid cyfatebol yn y cynllun hwn.
Bydd cyfres o sesiynau galw heibio cyn bo hir, lle gall amgueddfeydd, llyfrgelloedd ac archifau lleol drafod cymhwysedd a chael cyngor ar wneud ceisiadau.
