Brecwast am ddim mewn ysgolion cynradd: canllawiau statudol i awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu
Canllawiau statudol ar frecwast am ddim mewn ysgolion cynradd.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Mae brecwast wedi cael ei gydnabod ers tro fel pryd pwysicaf y dydd. Mae ymchwil yn awgrymu bod plant sy’n cael y cyfle i fwyta brecwast iach a maethlon cyn dechrau’r diwrnod ysgol yn fwy tebygol o gyflawni eu potensial addysgol llawn.
Bwriad darparu brecwast am ddim mewn ysgolion cynradd yw sicrhau nid yn unig bod ein plant ifancaf yn cael dechrau teg mewn bywyd, ond hefyd fod yr arfer o fynd heb frecwast yn cael ei atal mor ifanc â phosibl.
Statws y canllawiau
Cyhoeddir y canllawiau hyn o dan adran 88 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 (‘Deddf 2013’). Mae’n darparu bod yn rhaid i awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu ysgolion cynradd a gynhelir roi sylw iddynt. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu ystyried y canllawiau ac, os byddant yn penderfynu gwyro oddi wrthynt, y dylai fod ganddynt resymau clir y gellir eu cyfiawnhau dros wneud hynny.
Mae’r canllawiau hyn yn disodli Brecwast am ddim mewn ysgolion cynradd: Canllawiau statudol i awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu Llywodraeth Cymru (Dogfen ganllaw rhif: 145/2014).
Cefndir
Mae darparu brecwast am ddim mewn ysgolion cynradd wedi bod yn rhan annatod o wella bwyd a maeth mewn ysgolion a gynhelir gan awdurdodau lleol yng Nghymru. Ym mis Medi 2004, cyflwynodd Llywodraeth Cymru ei Menter Brecwast Am Ddim mewn ysgolion cynradd. Nod y fenter oedd helpu i wella iechyd plant a’u gallu i ganolbwyntio er mwyn helpu i godi safonau dysgu a chyrhaeddiad. Ni fwriadwyd i’r fenter gymryd lle brecwast roedd rhieni a gofalwyr eisoes yn ei ddarparu ond y nod oedd sicrhau bod plant mewn ysgolion cynradd a gynhelir nad oeddent wedi cael brecwast yn cael brecwast iach am ddim yn yr ysgol bob dydd.
Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013
Mae Adran 88 o Ddeddf 2013 yn gosod dyletswydd ar awdurdod lleol i ddarparu brecwast am ddim ar bob diwrnod ysgol i ddysgwyr mewn ysgol gynradd y mae’n ei chynnal:
- os yw corff llywodraethu’r ysgol wedi ysgrifennu at yr awdurdod i ofyn bod brecwast yn cael ei ddarparu
- os yw 90 diwrnod wedi mynd heibio, gan ddechrau ar y diwrnod ar ôl y diwrnod y daeth y cais ysgrifenedig i law
Mae’n galluogi sefydlu darpariaeth brecwast am ddim mewn ysgolion cynradd neu barhau â’r ddarpariaeth honno.
Rhaid i frecwast a ddarperir gan awdurdodau lleol:
- gael ei ddarparu am ddim
- fod ar gael ar safle’r ysgol
- fod ar gael cyn dechrau’r diwrnod ysgol (ac eithrio yn achos ysgol arbennig gymunedol lle y caniateir i frecwast fod ar gael ar ddechrau pob diwrnod ysgol hefyd.)
Mae gan awdurdodau lleol yr hyblygrwydd i benderfynu ar ffurf cynnwys y brecwast ar yr amod ei fod yn cydymffurfio â Rheoliadau Bwyta’n Iach mewn Ysgolion (Safonau a Gofynion Maeth) (Ysgolion Cynradd a Gynhelir) (Cymru) 2025 (‘Rheoliadau Bwyta’n Iach’) sy’n rheoleiddio bwyd a diod a ddarperir mewn ysgolion cynradd a gynhelir.
Gweithredu gwasanaeth brecwast
Nid oes unrhyw ofyniad cyfreithiol ar gorff llywodraethu i weithredu gwasanaeth brecwast am ddim yn ei ysgol. Os bydd corff llywodraethu yn penderfynu gweithredu gwasanaeth brecwast â thâl ac yn darparu’r brecwast ei hun, caiff godi tâl ar ddysgwyr am y brecwast a ddarperir. Fodd bynnag, ni chaniateir i’r tâl fod yn fwy na chost darparu’r brecwast.
Pan fydd corff llywodraethu yn penderfynu gweithredu gwasanaeth brecwast am ddim ac yn gofyn i’r awdurdod lleol ddarparu brecwast am ddim i’r ysgol, mae’n ofynnol i’r awdurdod lleol ddarparu’r brecwast am ddim oni bai bod yr awdurdod lleol yn ystyried y byddai’n afresymol gwneud hynny (gweler Beth yw ystyr darpariaeth afresymol o frecwast am ddim mewn ysgolion cynradd).
Pryd na fydd y ddyletswydd yn gymwys
Ni fydd dyletswydd yr awdurdod lleol i ddarparu brecwast am ddim yn gymwys:
- os nad yw’r corff llywodraethu wedi gofyn i’r awdurdod lleol sefydlu darpariaeth brecwast am ddim a’i darparu
- os yw’r ysgol wedi gofyn i’r awdurdod lleol yn ysgrifenedig i roi’r gorau i’r ddarpariaeth brecwast am ddim bresennol
- os yw’r awdurdod lleol wedi penderfynu y byddai’n afresymol dechrau darparu brecwast ac wedi hysbysu’r corff llywodraethu yn ysgrifenedig nad yw’n mynd i ddechrau darparu brecwast
- os yw’r awdurdod lleol wedi penderfynu y byddai’n afresymol parhau i ddarparu brecwast ac wedi hysbysu’r corff llywodraethu yn ysgrifenedig ei fod yn mynd i roi’r gorau i ddarparu brecwast
Hawl dysgwyr i gael brecwast am ddim
Mae hawl dysgwr i gael brecwast am ddim yn dibynnu ar y canlynol:
- dyletswydd yr awdurdod lleol sy’n deillio o Ddeddf 2013
- cais am frecwast am ddim yn cael ei wneud gan neu ar ran y dysgwr
Felly, pan fo dyletswydd yn bodoli a bod cais wedi’i wneud i’r awdurdod lleol gan neu ar ran dysgwr, bydd gan y dysgwr yr hawl i gael brecwast am ddim. Nid yw’r ddeddfwriaeth yn rhoi’r pŵer i awdurdodau lleol na chyrff llywodraethu osod meini prawf i bennu neu gyfyngu ar hawl dysgwr i gael brecwast am ddim.
Pan fydd ymddygiad dysgwr yn annerbyniol
Nid yw’r ffaith bod ymddygiad dysgwr yn annerbyniol yn golygu ei fod yn colli ei hawl i gael brecwast am ddim yn yr ysgol, oni bai bod y dysgwr wedi cael ei wahardd o’r ysgol. O dan amgylchiadau o’r fath, dylai’r ysgol ystyried y ffordd orau o ddarparu’r brecwast am ddim i’r dysgwr os yw’r dysgwr yn dymuno cael brecwast o hyd.
Cais ysgrifenedig i ddarparu brecwast
Nid oes angen i gorff llywodraethu wneud cais ysgrifenedig i frecwast gael ei ddarparu os oedd yr awdurdod lleol eisoes yn darparu brecwast i ddysgwyr yn yr ysgol ar 1 Ebrill 2013, a hynny am fod Deddf 2013 yn trin y sefyllfa hon fel pe bai cais ysgrifenedig am frecwast eisoes wedi’i wneud i’r awdurdod, bod y cyfnod o 90 diwrnod wedi mynd heibio a bod cais am frecwast wedi’i wneud ar gyfer pob dysgwr yn yr ysgol roedd brecwast eisoes yn cael ei ddarparu ar ei gyfer.
Beth yw ystyr darpariaeth ‘afresymol’ o frecwast am ddim mewn ysgolion cynradd
Nid yw Deddf 2013 yn nodi beth fyddai’n gyfystyr â ‘darpariaeth afresymol’. Mae hyn yn rhoi hyblygrwydd ar gyfer gwahanol amgylchiadau. Er enghraifft, efallai na fydd yr hyn sy’n afresymol o dan amgylchiadau penodol yn afresymol o dan amgylchiadau eraill. Er nad oes modd dweud beth fydd neu na fydd yn afresymol mewn unrhyw sefyllfa benodol, dylai awdurdodau lleol ystyried nifer o ffactorau. Mae’r rhain yn cynnwys:
- lefel y galw i ddarparu brecwast am ddim yn yr ysgol a gynhelir
- argaeledd neu addasrwydd lleoliad i ddarparu brecwast am ddim
- argaeledd neu addasrwydd cyfleusterau yn yr ysgol a gynhelir i ddarparu brecwast am ddim
- argaeledd neu addasrwydd staff i oruchwylio’r trefniadau ar gyfer darparu brecwast
Nid yw hon yn rhestr gynhwysfawr.
Darparu brecwast am ddim
Er bod awdurdodau lleol yn gyfrifol am ddarparu a threfnu’r ddarpariaeth brecwast am ddim, mae disgwyl y byddant yn cysylltu â chorff llywodraethu’r ysgol a’r pennaeth i drafod trefniadau’r awdurdod neu unrhyw newidiadau arfaethedig i’r trefniadau presennol.
Mae penaethiaid yn gyfrifol am drefniadaeth fewnol yr ysgol ac am ei rheoli o ddydd i ddydd (gweler Rheoliad 6(1) o Reoliadau Llywodraethu Ysgolion (Cylch Gwaith) (Cymru) 2000). Mae hyn yn gymwys i’r sesiwn frecwast, ond nid yw’n golygu bod angen i’r pennaeth fod ar safle’r ysgol yn ystod y sesiwn frecwast.
Sefydlu darpariaeth brecwast am ddim mewn ysgolion cynradd
Dylai corff llywodraethu sy’n ystyried cyflwyno darpariaeth brecwast am ddim yn ei ysgol ymgynghori â’i awdurdod lleol yn gyntaf (fel arfer yr adran arlwyo). Bydd yr awdurdod lleol yn rhoi cyngor ac arweiniad ar ddarparu brecwast am ddim mewn ysgolion cynradd.
Fodd bynnag, mae nifer o faterion y dylai ysgolion ac awdurdodau lleol eu hystyried cyn penderfynu gofyn am ddarpariaeth brecwast am ddim neu ei darparu.
Lefel y galw
Dylai ysgolion gysylltu â rhieni a gofalwyr i gadarnhau’r galw tebygol am ddarpariaeth brecwast. Mae llythyr enghreifftiol ar gael (gweler Templed llythyr enghreifftiol i ysgol ei anfon at rieni i gadarnhau diddordeb mewn sesiynau brecwast am ddim).
Arlwyo
Dylid ystyried ai’r awdurdod lleol ynteu’r ysgol, o dan drefniadau dirprwyedig a wneir gan yr awdurdod, fydd yn arlwyo ar gyfer y sesiwn brecwast am ddim.
Cyfleusterau addas
Mae Deddf 2013 yn nodi bod yn rhaid i frecwastau a ddarperir gan yr awdurdod lleol fod ar gael ar safle’r ysgol. Felly, dylid ystyried:
- a oes ystafell hygyrch addas yn yr ysgol lle gellir cynnal y sesiwn brecwast am ddim, ac a yw’r ystafell ar gael am yr amser sydd ei angen
- a yw’r ystafell yn addas i ddarparu ar gyfer pob dysgwr sy’n dymuno cael brecwast am ddim, ac os nad ydyw, pa ystafelloedd eraill y gellid eu defnyddio. Dylid ystyried a oes angen gwneud addasiadau rhesymol ar gyfer dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol (er enghraifft, a yw’r ystafell yn addas ar gyfer dysgwyr sy’n defnyddio cadair olwyn)
- a oes cyfleusterau addas yn yr ysgol i gyflwyno’r sesiwn brecwast am ddim, er enghraifft cyfarpar coginio a gweini
Staffio
Dylid ystyried a fydd yr awdurdod lleol yn trefnu staffio’r sesiwn brecwast am ddim neu’n dirprwyo hyn i’r ysgol.
Dylid ystyried pwy fydd yn staffio’r sesiwn brecwast am ddim ac a fydd angen staff ychwanegol arnoch neu a fydd angen i chi adleoli staff presennol yr ysgol neu ychwanegu at eu dyletswyddau. Dylid ystyried hefyd lefel y staff goruchwylio sydd ei hangen yn ystod y sesiwn frecwast (y gymhareb staff i ddysgwyr).
Dylid ystyried a fydd angen gwneud unrhyw addasiadau rhesymol ar gyfer dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol, er enghraifft a fydd angen goruchwyliaeth ychwanegol neu oruchwyliaeth un i un ar unrhyw ddysgwyr o’r fath.
Bydd angen Tystysgrif Datgeliad Manwl ar bob oedolyn sy’n rhan o’r sesiwn brecwast am ddim a gwiriad i gadarnhau a yw wedi’i gynnwys ar restr waharddedig y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd o unigolion sy’n anaddas i weithio gyda phlant (gweler Canllawiau diogelu Llywodraeth Cymru).
Mae nifer o faterion cyflogaeth i’w hystyried wrth gyflogi staff, gan gynnwys:
- contractau cyflogaeth
- yswiriant
- cyflog a threth
- yr isafswm cyflog cenedlaethol
- tâl salwch statudol
- hawliau mamolaeth
- deddfwriaeth cydraddoldeb
- iechyd a diogelwch
Nid yw hon yn rhestr gynhwysfawr.
Hyfforddiant
Efallai y bydd angen hyfforddiant ar gyfer staff brecwast am ddim i sicrhau bod negeseuon cyson yn cael eu cyfleu ynghylch arferion iechyd ac addysgol. Dylai awdurdodau lleol ac ysgolion ystyried hyfforddiant priodol megis:
- cymorth cyntaf
- hylendid bwyd
- diogelwch bwyd
- codi a symud
Os oes angen hyfforddiant, dylai hyn ddigwydd cyn dechrau cyflogaeth.
Amseriad y sesiwn brecwast am ddim
Mae Deddf 2013 yn pennu bod yn rhaid i frecwast fod ar gael cyn dechrau’r diwrnod ysgol, ac eithrio yn achos ysgol arbennig gymunedol lle y gall, os oes angen, ddigwydd cyn neu ar ddechrau’r diwrnod ysgol.
Fel arfer, dylid cyflwyno brecwast ychydig cyn dechrau’r diwrnod ysgol (er enghraifft 30 munud) er mwyn cyflawni’r prif bwrpas o ddarparu digon o amser i’r plant sy’n mynychu ddewis eu brecwast, ei fwyta heb ruthro a dechrau gweithgareddau ysgol arferol.
Ar yr amod nad yw’r cyfnod ar gyfer gweithredu sesiynau brecwast am ddim yn cael ei estyn fel y byddai’n mynd yn ofal plant, i bob diben, ni fyddai angen cofrestru ag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC). Efallai y bydd cyfle i drefnu clwb gofal plant cymhareb isel, yn seiliedig ar chwarae, sy’n codi tâl, cyn y sesiwn brecwast am ddim. Os felly, efallai y bydd angen cofrestru ag AGC os darperir mwy na 2 awr y dydd o ofal gan ystyried gofal gan glwb ar ôl ysgol â’r un rheolwyr hefyd. Mewn sesiynau â thâl a sesiynau di-dâl eraill o’r fath, rhaid egluro nad sesiwn brecwast am ddim ydyw a dylid peidio â defnyddio terminoleg debyg fel ‘clwb brecwast neu sesiwn frecwast’ er mwyn osgoi drysu rhwng y sesiynau hyn a darpariaeth brecwast am ddim.
Asesu risg
Er mwyn cydymffurfio â gofynion Rheoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1999 (‘Y Rheoliadau Iechyd a Diogelwch’), rhaid i asesiad risg ar gyfer gweithredu’r sesiwn brecwast am ddim:
- gael ei gynnal gan awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu
- cael ei gofnodi’n ysgrifenedig er mwyn nodi’r risgiau i iechyd a diogelwch
Bydd angen gwerthuso’n briodol unrhyw risgiau sylweddol sy’n codi a dylid gwneud penderfyniadau i reoli’r risgiau hynny i lefel dderbyniol. Mae angen i’r broses asesu risg fod yn ymarferol a dylai ystyried barn y cyflogeion dan sylw (a’u cynrychiolwyr diogelwch), a fydd yn meddu ar wybodaeth o ddydd i ddydd am sut mae’r ddarpariaeth brecwast am ddim yn gweithredu. Er mwyn helpu awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu i gydymffurfio â’r gofyniad cyfreithiol hwn, mae templed asesiad risg generig ar gael yn yr Atodiad. Dylid ategu ac addasu’r templed hwn yn ôl yr angen. Argymhellir y dylai awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu adolygu eu hasesiadau risg bob blwyddyn.
Gofynion deietegol
Mae’n bwysig bod rhieni a gofalwyr yn darparu gwybodaeth am unrhyw alergeddau neu ofynion deietegol arbennig a allai fod gan eu plentyn. Dylid casglu’r wybodaeth hon cyn i blentyn fynychu’r sesiwn brecwast am ddim a rhaid ei dwyn at sylw’r holl staff a gwirfoddolwyr sy’n goruchwylio’r sesiwn frecwast.
Cyffredinol
Mae’r ffactorau eraill sydd i’w hystyried yn cynnwys:
- yswiriant – dylai ysgolion ac awdurdodau lleol sicrhau bod yswiriant digonol ar waith ar gyfer y sesiwn brecwast am ddim
- gwastraff bwyd – dylai ysgolion ystyried ffyrdd o atal gwastraff bwyd, cadw gwastraff bwyd ar wahân i ffrydiau gwastraff eraill a dargyfeirio gwastraff bwyd o safleoedd tirlenwi i weithfeydd treulio anaerobig (gweler taflenni gwybodaeth Taking action on waste Rhaglen Weithredu’r Cynllun Gwastraff ac Adnoddau)
- ailgylchu – dylai ysgolion wahanu deunyddiau ailgylchadwy wrth y ffynhonnell a darparu casgliadau ar wahân o ffrydiau ailgylchu allweddol (gan gynnwys papur, cardbord, metel, gwydr a phlastig) lle y bo’n briodol
Dylai ysgolion gysylltu â swyddog ailgylchu eu hawdurdod lleol i gael cyngor ar atal gwastraff ac ailgylchu.
Rhaid i awdurdodau lleol gyflawni’r targedau a bennir o dan Fesur Gwastraff (Cymru) 2010.
[AB1]Link to this to be added please
[AB2]Link to be added please.
Eitemau bwyd brecwast am ddim
Fel y nodwyd yn gynharach, mae gan awdurdodau lleol yr hyblygrwydd i benderfynu ar ffurf cynnwys y brecwast ar yr amod ei fod yn cydymffurfio â’r Rheoliadau Bwyta’n Iach.
Mae’r Rheoliadau Bwyta’n Iach yn gymwys i awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu sy’n darparu bwyd a diod i ddysgwyr ysgolion cynradd a gynhelir (gan gynnwys ysgolion meithrin a gynhelir) p’un a yw’r bwyd a’r ddiod yn cael eu darparu ar safle’r ysgol ai peidio. Nod y Rheoliadau Bwyta’n Iach yw cyflawni dull ysgol gyfan mewn perthynas â bwyta’n iach, annog agweddau iach at fwyd a diod a datblygu arferion bwyta da yn ifanc. Yn ymarferol, mae’r Rheoliadau Bwyta’n Iach yn nodi’r mathau o fwyd a diod y gellir, a’r rhai na ellir, eu darparu mewn ysgolion cynradd a gynhelir.
At ddibenion y Rheoliadau Bwyta’n Iach, ystyr “ysgol gynradd a gynhelir” yw ysgol gymunedol, ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol, ysgol arbennig gymunedol, uned cyfeirio dysgwyr neu ysgol feithrin a gynhelir yng Nghymru sy’n darparu addysg gynradd. Pan fo ysgol gynradd a gynhelir hefyd yn darparu addysg uwchradd, dim ond i fwyd a diod a ddarperir i ddysgwyr cofrestredig ym mlwyddyn 6 ac iau y bydd y Rheoliadau yn gymwys.
Ymdrinnir â brecwast mewn ysgolion cynradd a gynhelir yn rheoliad 3 y Rheoliadau Bwyta’n Iach ac Atodlen 2. Mae Atodlen 2 (fel y nodir isod gydag awgrymiadau) yn rhagnodi 4 categori o fwyd a diod a ganiateir. Rhaid i fwyd a diod o’r categorïau hyn fod ar gael yn ystod brecwast bob diwrnod ysgol. Ni ddylid darparu bwyd a diod heblaw bwyd a diod o’r categorïau hyn (ac eithrio dŵr plaen). Mae’r tabl isod yn nodi’r categorïau hynny o fwyd a diod a ganiateir ac enghreifftiau o eitemau safonol y gellir eu darparu.
| Categorïau o fwyd a diod | Eitemau a awgrymir (lle y defnyddir ‘rhaid’, dyma lle ceir dyletswydd statudol i fodloni gofyniad) | Maint cyfrannau a argymhellir |
| Llaeth a diodydd plaen a wnaed o blanhigion | Rhaid i laeth fod yn llaeth hanner sgim plaen, yn llaeth sgim neu’n llaeth ag 1% o fraster (neu’n llaeth cyflawn neu’n llaeth hanner sgim mewn dosbarth meithrin). Ystyr dewisiadau amgen plaen yn lle llaeth, a wnaed o blanhigion yw diodydd soi, ceirch neu ddiodydd eraill a wnaed o blanhigion (ond heb gynnwys diodydd reis).
| O leiaf 125ml ar gyfer babanod a phlant iau |
| Grawnfwydydd | Grawnfwydydd gwenith cyflawn Creision bran Uwd Creision ŷd Grawnfwydydd a wnaed o reis Ni ddylai grawnfwydydd a ddarperir fod wedi’u caenu na’u cyflasu â siwgr, siocled na phowdr coco
| O leiaf 20g ar gyfer un fisgeden gwenith cyflawn O leiaf 30g ar gyfer pob grawnfwyd arall
|
| Ffrwythau a llysiau | Ffrwythau ffres (yn gyfan neu wedi’u torri’n ddarnau) Ffyn llysiau Ffrwythau tun mewn sudd ffrwythau naturiol Ffrwythau sych i’w hychwanegu at rawnfwydydd (ni ddylid darparu ffrwythau sych fel eitem unigol)
Ni ddylid darparu ffa pob | Ffrwythau – O leiaf 40g i fabanod ac o leiaf 60g i blant iau
Llysiau – O leiaf 40g i fabanod ac o leiaf 60g i blant iau
Ffrwythau sych – O leiaf 15g i fabanod ac o leiaf 20g i blant iau
|
| Bara a thaeniadau braster isel | Rhaid i unrhyw fara a ddarperir fod o leiaf 50% o wenith cyflawn. Mae a wnelo hyn â chanran y blawd gwenith cyflawn yn y bara (fel canran o’r holl flawd). Mae taeniadau â llai o fraster yn golygu taeniadau a wnaed o olew llysiau annirlawn, gan gynnwys mathau o olewydd, had rêp a blodyn yr haul. | O leiaf un dafell i fabanod a phlant iau |
Rhaid rhoi’r opsiwn i bob plentyn sy’n dod i’r sesiwn frecwast ddewis un eitem o bob un o’r categorïau o fwyd a diod. Dylai ysgolion ddarparu cyfrannau o faint priodol sy’n adlewyrchu oedran y dysgwyr. Er enghraifft, bydd angen cyfran lai ar ddysgwyr yn y dosbarth derbyn a Blwyddyn 1 na’r rhai ym Mlwyddyn 6.
Dylid monitro gwastraff ac addasu archebion bwyd yn unol â hynny. Rhaid i ddŵr yfed fod ar gael i blant, am ddim, yn ystod y sesiwn frecwast (gweler adran 5 o Fesur Bwyta’n Iach mewn Ysgolion (Cymru) 2009).
Cyrff llywodraethu sy’n ystyried tynnu’r ddarpariaeth brecwast am ddim yn ôl
Dylai cyrff llywodraethu drafod pob pryder ynghylch gweithredu’r ddarpariaeth brecwast am ddim â’r awdurdod lleol. Os na all corff llywodraethu ddatrys y mater o hyd, er gwaethaf mewnbwn yr awdurdod lleol, ac o ganlyniad ei fod yn penderfynu y dylid dod â’r ddarpariaeth brecwast am ddim i ben, rhaid i’r corff llywodraethu ysgrifennu at yr awdurdod lleol i ofyn iddo roi’r gorau i ddarparu brecwast yn yr ysgol. Bydd yr hysbysiad hwn yn dod â dyletswydd yr awdurdod lleol i ddarparu brecwast am ddim yn yr ysgol i ben. Mae llythyr enghreifftiol y gallai’r corff llywodraethu ei ddefnyddio ar gael (gweler Templed llythyr enghreifftiol i gorff llywodraethu hysbysu awdurdod lleol i roi’r gorau i ddarparu brecwast am ddim).
Ni ddylai derbyn llythyr tynnu’n ôl beri syndod i awdurdod lleol. Dylai corff llywodraethu sy’n wynebu anawsterau hysbysu ei awdurdod lleol cyn gynted â phosibl er mwyn galluogi’r awdurdod i ystyried y ffordd orau o ddatrys materion.
Cyn ysgrifennu at yr awdurdod lleol, argymhellir y dylai’r corff llywodraethu hysbysu rhieni a gofalwyr o’i fwriad i roi’r gorau i sesiynau brecwast am ddim yn yr ysgol a rhoi rhesymau dros ei benderfyniad. Gall hyn osgoi’r angen i rieni a gofalwyr fynnu eu hawl, os oes cworwm digonol, i ofyn am gyfarfod â’r corff llywodraethu i drafod y mater (mae adran 94 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 yn rhoi’r hawl i rieni ofyn am gyfarfod â’r corff llywodraethu ar faterion sy’n peri pryder iddynt).
Penderfyniad awdurdodau lleol i beidio â darparu, neu i roi’r gorau i ddarparu, brecwast am ddim
Nid oes rhaid i awdurdod lleol ddarparu, na pharhau i ddarparu, brecwast am ddim mewn ysgol os yw o’r farn y byddai’n afresymol gwneud hynny. Er nad yw Deddf 2013 yn pennu’r hyn sy’n afresymol, rhoddir ffactorau yn y canllawiau hyn i helpu awdurdodau lleol i benderfynu pa amgylchiadau a allai fod yn gyfystyr ag afresymol (gweler Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013).
Pan fydd ysgol yn gofyn i’r awdurdod lleol roi’r gorau i ddarparu brecwast ysgol am ddim, bydd dyletswydd yr awdurdod lleol i ddarparu brecwast ysgol am ddim yn dod i ben. Os bydd yr ysgol yn penderfynu wedi hynny rywbryd yn y dyfodol ei bod yn dymuno i’r awdurdod lleol ailddechrau darparu brecwast ysgol am ddim, bydd yn rhaid iddi wneud cais ysgrifenedig i’r awdurdod lleol gan y bydd yn cael ei drin fel cais newydd.
Rhaid i awdurdod lleol hysbysu’r corff llywodraethu yn ysgrifenedig am unrhyw benderfyniad i beidio â darparu, neu i beidio â pharhau i ddarparu, brecwast am ddim yn yr ysgol. Dylid nodi’r rhesymau dros y penderfyniad yn y llythyr hysbysu. Mae llythyr enghreifftiol y gallai’r awdurdod lleol ei ddefnyddio ar gael (gweler Templed llythyrau enghreifftiol i awdurdod lleol eu hanfon at gorff llywodraethu ynglŷn â pheidio â darparu brecwast am ddim neu roi’r gorau i ddarparu brecwast am ddim).
Problemau deintyddol
Rhaglen gwella iechyd y geg Llywodraeth Cymru yw Cynllun Gwên, a’i nod yw gwella iechyd deintyddol plant yng Nghymru. Mae’n rhaglen ataliol sy’n cynnwys sesiynau brwsio dannedd mewn ysgolion a meithrinfeydd i helpu i sefydlu arferion da o oedran cynnar. Dylai ysgolion sydd am ddechrau sesiwn brwsio dannedd ar ôl brecwast gyfeirio at wefan Cynllun Gwên am ragor o wybodaeth.
Hyrwyddo sesiynau brecwast iach am ddim
TMae Mesur Bwyta’n Iach mewn Ysgolion (Cymru) 2009 (‘Y Mesur Bwyta’n Iach’) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu hyrwyddo bwyta ac yfed yn iach i ddysgwyr mewn ysgolion a gynhelir. Gallai awdurdodau lleol ac ysgolion ddangos eu bod yn cydymffurfio â’r gofyniad hwn drwy, er enghraifft, gynnal sesiynau brecwast iach ‘thematig’ i annog a chefnogi dysgwyr i arbrofi â bwyd (er enghraifft gwahanol ffrwythau a ganiateir neu fwydydd o wahanol wledydd) neu gyhoeddi cylchlythyr rheolaidd lle mae rhieni yn cael gwybod am y sesiwn frecwast ac yn cael eu gwahodd i ddod i sesiwn brecwast iach am ddim gyda’u plant. Am ragor o wybodaeth gweler canllawiau Hybu bwyta ac yfed yn iach mewn ysgolion a gynhelir Llywodraeth Cymru.
Monitro
Mae’r Mesur Bwyta’n Iach yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir gynnwys yn eu hadroddiad blynyddol (sydd ar gael i rieni a gofalwyr), wybodaeth am y camau a gymerwyd i hybu dysgwyr yn yr ysgol i fwyta ac yfed yn iach. Gall yr wybodaeth hon fwydo i mewn i arolygiad yr ysgol a gynhelir gan y Prif Arolygydd dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru.
Darparu data
Dylai awdurdodau lleol barhau i hysbysu Llywodraeth Cymru am unrhyw sesiynau brecwast newydd eu sefydlu ac unrhyw sesiynau sy’n cau. Dylai awdurdodau lleol hefyd barhau i annog ysgolion cynradd a gynhelir yn eu hardal sy’n cynnal sesiynau brecwast am ddim, i gwblhau ffurflen ddata’r Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion (CYBLD). Bydd yr wybodaeth hon yn helpu Llywodraeth Cymru i lunio a llywio strategaethau eraill sydd wedi’u targedu at wella bwyd a maeth mewn ysgolion.
