Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae’r Mesur Bwyta’n Iach mewn Ysgolion (Cymru) 2009 (‘y Mesur’) yn rhoi dyletswydd glir ar awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu i hybu bwyta ac yfed yn iach mewn ysgolion a gynhelir yng Nghymru. 

Mae’r cyfrifoldeb hwn yn ganolog i:

  • gefnogi iechyd a lles dysgwyr 
  • sicrhau bod ysgolion yn darparu amgylchedd lle mae’r norm yw gwneud dewisiadau maethlon

Mae bwyta’n iach yn hanfodol i dwf plant, eu datblygiad a’u gallu i ddysgu. Mae ysgolion yn helpu i lywio arferion gydol oes drwy fodelu ac annog deietau cytbwys ac agweddau cadarnhaol at fwyd a diod. Mae rheoliadau bwyd a diod wedi’u hatgyfnerthu yn gosod safonau gofynnol o ran ansawdd maethol ond ni all y rhain sicrhau’r newid diwylliannol sydd ei angen ar eu pen eu hunain. Er mwyn lleihau anghydraddoldebau iechyd, mae’n hanfodol bod ymddygiadau iach yn cael eu hymwreiddio. Gellir hybu’r rhain yn weithredol drwy: 

  • arweinyddiaeth
  • y cwricwlwm
  • amgylchedd ehangach yr ysgol

Mae’r canllawiau hyn yn cefnogi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i wella iechyd a lles pob dysgwr. Mae hybu bwyta ac yfed yn iach yn helpu i greu amgylchedd cadarnhaol yn yr ysgol lle gall dysgwyr ffynnu yn gorfforol, yn emosiynol ac yn academaidd. Mae ysgolion yn cyfrannu at leihau anghydraddoldebau iechyd a meithrin arferion iach gydol oes drwy ymwreiddio’r egwyddorion hyn ar draws: 

  • polisïau
  • arferion 
  • y cwricwlwm

Diben y canllawiau hyn yw: 

  • egluro dyletswyddau statudol o dan y Mesur 
  • cefnogi awdurdodau lleol, cyrff llywodraethu a’u partneriaid i gyflawni eu dyletswyddau statudol 

Er mwyn sicrhau y caiff bwyta ac yfed yn iach eu hybu yn gyson ym mhob ysgol a gynhelir, mae’r canllawiau yn: 

  • amlinellu rolau a disgwyliadau
  • darparu cyngor ymarferol 
  • tynnu sylw at arferion da

Drwy gydweithio, gallwn greu lleoliadau ysgol sy’n: 

  • meithrin lles 
  • darparu’r wybodaeth a’r arferion sydd eu hangen ar ddysgwyr i fyw bywydau iach

Ynglŷn â’r canllawiau hyn

Mae’r Mesur yn darparu bod yn rhaid i awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir ystyried y canllawiau hyn wrth gyflawni eu swyddogaethau.

Cyflwynir y canllawiau statudol hyn o dan yr adrannau canlynol o’r Mesur:

  • Mae adran 1 yn rhoi dyletswydd ar awdurdod lleol a chorff llywodraethu ysgol a gynhelir i gymryd camau i hybu bwyta ac yfed yn iach ymhlith dysgwyr cofrestredig.
  • Mae adran 5 yn rhoi dyletswydd ar awdurdod lleol i sicrhau bod dŵr yfed ar gael, yn ddi-dâl, ar safle pob ysgol a gynhelir.
  • Mae adran 7 yn rhoi dyletswydd ar awdurdod lleol neu gorff llywodraethu i gymryd camau rhesymol i sicrhau: 
    • nad oes modd i unrhyw berson ac eithrio person a awdurdodir o dan y ddeddfwriaeth, wybod bod dysgwr yn cael cinio ysgol neu laeth ysgol am ddim 
    • athrawon, cyflogeion neu wirfoddolwyr yn yr ysgol yn datgelu, ac eithrio i berson a awdurdodir o dan y ddeddfwriaeth, fod dysgwr yn cael cinio ysgol neu laeth ysgol am ddim

Rhaid i awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu ystyried y cyngor a roddir yn yr adrannau uchod. Os byddant yn penderfynu gwyro oddi wrtho, rhaid bod ganddynt resymau clir y gellir eu cyfiawnhau dros wneud hynny. 

Cyflwynir y canllawiau statudol hyn yn lle pennod 1 o bwyta’n iach mewn ysgolion a gynhelir: canllawiau statudol i awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu a gyhoeddwyd yn 2014 (‘Canllawiau 2014’).

Rhoddir canllawiau yn yr adrannau canlynol hefyd:

  • Mae adran 2 yn rhoi dyletswydd ar gorff llywodraethu ysgol a gynhelir i gynnwys gwybodaeth yn ei adroddiad blynyddol am y camau a gymerwyd i hybu bwyta ac yfed yn iach ymhlith dysgwyr yr ysgol (gweler Adran 30 (2A) o Ddeddf Addysg 2002 (Saesneg yn unig)).
  • Mae adran 3 yn rhoi dyletswydd ar y Prif Arolygydd dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru i roi gwybod i Weinidogion Cymru am y camau a gymerir mewn ysgolion a gynhelir i hybu bwyta ac yfed yn iach (gweler Adran 20(1)(g) o Ddeddf Addysg 2005 (Saesneg yn unig)).
  • Mae adran 4 yn rhoi’r pŵer i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau am y bwyd a’r diodydd a ddarperir ar safleoedd ysgolion a gynhelir a’r bwyd a’r diodydd a ddarperir gan awdurdodau lleol neu gyrff llywodraethu mewn mannau eraill ar wahân i safleoedd ysgolion i ddysgwyr cofrestredig ysgolion a gynhelir. Gwnaed Rheoliadau Bwyta’n Iach mewn Ysgolion (Gofynion a Safonau Maeth) (Cymru) 2013Rheoliadau Bwyta’n Iach mewn Ysgolion (Gofynion a Safonau Maeth) (Ysgolion Cynradd a Gynhelir) (Cymru) 2025 o dan y pŵer hwn. Rheoliadau Bwyta’n Iach mewn Ysgolion (Gofynion a Safonau Maeth) (Ysgolion Cynradd a Gynhelir) (Cymru) 2025: Mae canllawiau statudol i awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu a phennod 2 o Ganllawiau 2014 yn rhoi canllawiau ar y rheoliadau a wnaed o dan adran 4 o’r Mesur a’r hyn sy’n gyfystyr â bwyta ac yfed yn iach.
  • Mae adran 6 yn rhoi dyletswydd ar awdurdod lleol, neu gorff llywodraethu ysgol a gynhelir sy’n darparu prydau ysgol neu laeth ysgol, i:
    • annog dysgwyr i fanteisio ar brydau ysgol neu laeth ysgol
    • cymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod pob dysgwr sydd â hawl i gael prydau ysgol am ddim a llaeth ysgol am ddim yn eu cael

Caiff y cyngor ar yr adrannau hyn eu cwmpasu mewn dogfennau canllaw eraill yn bennaf (gweler Dolenni cysylltiedig). Mae’r cyngor ar yr adrannau hyn yn y canllawiau hyn:

  • nyn anstatudol 
  • wedi’i gynllunio i helpu awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu i ddeall eu dyletswyddau a phenderfynu sut y gallant gyflawni eu cyfrifoldebau statudol mewn deddfwriaeth arall

Byddai Gweinidogion Cymru yn disgwyl i awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu gadw’r cyngor mewn cof wrth ystyried materion y mae’n berthnasol iddynt.

Defnyddir y geiriau ‘rhaid’ a ‘dylai’ drwy gydol y canllawiau hyn. Defnyddir y gair ‘rhaid’ pan fo dyletswydd statudol i fodloni’r gofyniad:

  • o dan y Mesur
  • o dan reoliadau a wnaed o dan y Mesur 
  • mewn deddfwriaeth arall

Defnyddir y gair ‘dylai’ wrth gynghori.

Ysgolion a gynhelir

Mae ysgol a gynhelir (gweler Ysgolion a gynhelir gan awdurdodau lleol) yn ysgol sy’n cael ei hariannu’n llwyr neu i raddau helaeth gan awdurdod lleol. Dylid gwahaniaethu rhwng ysgolion a gynhelir ac ysgolion annibynnol.

At ddiben y Mesur, mae’r canlynol yn ysgolion a gynhelir:

  • ysgolion cymunedol 
  • ysgolion gwirfoddol a reolir
  • ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir
  • ysgolion sefydledig
  • ysgolion arbennig cymunedol
  • ysgolion meithrin a gynhelir
  • unedau cyfeirio disgyblion

Rôl awdurdodau lleol, cyrff llywodraethu ac Estyn

Mae’r rhan hon o’r canllawiau yn canolbwyntio ar rôl corff llywodraethu’r ysgol, yr awdurdod lleol ac Estyn. Mae’n rhoi’r canlynol i gyrff llywodraethu ysgolion ac awdurdodau lleol:

  • esboniad o’r gofynion sydd arnynt o dan adrannau 1, 2, 3, 4, 5, 6 a 7 o’r Mesur
  • enghreifftiau o’r mathau o weithgareddau y dylent ymgymryd â nhw wrth gyflawni eu dyletswyddau, gan weithredu o fewn ffiniau eu pwerau

Mae gan awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu ddyletswydd statudol i hybu bwyta ac yfed yn iach mewn ysgolion. Yn yr adran hon, nodwn rolau gwahanol y ddau. Mae dyletswydd statudol arnynt hefyd i gydymffurfio â Rheoliadau Bwyta’n Iach mewn Ysgolion (Gofynion a Safonau Maeth) (Cymru) 2013 a Rheoliadau Bwyta’n Iach mewn Ysgolion (Gofynion a Safonau Maeth) (Ysgolion Cynradd a Gynhelir) (Cymru) 2025 o dan y pŵer hwn. Trafodir hyn ar ddiwedd yr adran hon.

Awdurdodau lleol

Mae gan awdurdodau lleol nifer o ddyletswyddau a nodir o fewn y Mesur. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • hybu bwyta ac yfed yn iach mewn ysgolion
  • sicrhau bod cyflenwad o ddŵr yfed
  • diogelu manylion adnabod dysgwyr sy’n cael prydau ysgol a llaeth am ddim

Mae’r ddogfen hon hefyd yn rhoi canllawiau ar sut y gall awdurdodau lleol annog dysgwyr i fanteisio ar brydau ysgol a llaeth am ddim.

Bydd gwahanol adrannau yn yr awdurdod lleol yn rhan o hyn, er enghraifft yn y gwaith o ddylunio ceginau ac ystafelloedd bwyta, drwy ymgynghori â:

  • gwasanaethau arlwyo 
  • ysgolion
  • dysgwyr a’u teuluoedd

Gall gwasanaethau cynnal a chadw ysgolion gynnig cymorth mewn perthynas â’r ddyletswydd sydd ar awdurdodau lleol i ‘sicrhau bod cyflenwad o ddŵr yfed ar gael, yn rhad ac am ddim, ym mangre unrhyw ysgol a gynhelir’ (gweler 'Adran 5').

Mae’r canllawiau hyn hefyd yn amlinellu sut y gall awdurdodau lleol:

  • annog dysgwyr i fanteisio ar brydau ysgol a llaeth
  • sicrhau bod eu hadroddiad blynyddol yn cynnwys gwybodaeth am y ffordd y mae bwyta ac yfed yn iach yn cael eu hybu mewn ysgolion

Cyrff llywodraethu

Ystyr corff llywodraethu yng Nghymru yw’r corff sy’n gyfrifol am lywodraethu ysgol a gynhelir, fel y’i sefydlwyd o dan Ddeddf Addysg 2002. Fel arfer, mae’n cynnwys llywodraethwyr a benodwyd neu a etholwyd ac mae’n gyfrifol am swyddogaethau amrywiol, gan gynnwys:

  • gosod polisïau
  • cydymffurfiaeth
  • sicrhau y bodlonir budd pennaf cymuned yr ysgol

Disgwylir i’r corff llywodraethu gyflawni ei swyddogaethau gyda’r nod o chwarae rôl strategol yn y gwaith o arwain yr ysgol. Mae rôl strategol yn golygu bod y corff llywodraethu yn penderfynu ar yr hyn y mae am i’r ysgol ei gyflawni ac yn nodi’r fframwaith strategol ar gyfer cyflawni hynny.

Mae gan gyrff llywodraethu nifer o ddyletswyddau a nodir o fewn y Mesur. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • hybu bwyta ac yfed yn iach mewn ysgolion 
  • diogelu manylion adnabod dysgwyr sy’n cael prydau ysgol a llaeth am ddim

Estyn

Mae’n rhaid i Estyn roi gwybod i Weinidogion Cymru am y camau a gymerir mewn ysgolion a gynhelir i hybu bwyta ac yfed yn iach. Mae hyn yn ofyniad cyfreithiol o fewn y Mesur.

Ceir yr wybodaeth ddiweddaraf am broses arolygu Estyn ar eu gwefan.

Yr hyn y gall y corff llywodraethu neu’r ysgol ddisgwyl i Estyn ei ystyried wrth gynnal arolygiad

Yn ystod arolygiad craidd, bydd Estyn yn gwerthuso gwaith yr ysgol mewn perthynas â hybu bwyta ac yfed yn iach. Yn benodol, bydd yr arolygiad yn ystyried pa mor dda:

  • y mae’r ysgol wedi sefydlu trefniadau priodol i hybu bwyta ac yfed yn iach
  • y mae dysgwyr yn gwneud dewisiadau ffordd o fyw iach mewn perthynas â bwyta ac yfed yn iach

Bydd Estyn yn defnyddio amrywiaeth o ddulliau yn ystod arolygiad, fel y nodir isod.

Holiaduron cyn arolygu

Ar ôl i Estyn roi gwybod i ysgol am ei bwriad i’w harolygu, bydd yn gwahodd llywodraethwyr, dysgwyr, rhieni, gofalwyr a staff i gwblhau holiadur cyn arolygu. Mae’r holiadur i lywodraethwyr a’r holiadur i ddysgwyr yn cynnwys cwestiynau penodol yn ymwneud ag iechyd. Gofynnir i’r llywodraethwyr roi enghreifftiau o’r ffordd y maent wedi herio a chefnogi arweinwyr yr ysgol mewn perthynas â lles dysgwyr, gan gynnwys eu dyletswyddau o dan y Mesur.

Cyfarfod rhieni neu ofalwyr

Bydd Estyn yn gwahodd pob rhiant a gofalwr i gyfarfod rhieni a gofalwyr lle byddant yn cael y cyfle i rannu eu barn am gryfderau’r ysgol ac unrhyw wendidau posibl. Gofynnir iddynt roi adborth ynghylch i ba raddau y mae’r ysgol yn cynnig cyfleoedd i ddysgwyr feithrin sgiliau corfforol. Bydd Estyn yn mynd ar drywydd unrhyw gryfderau neu faterion penodol a godir mewn perthynas â bwyta ac yfed yn iach a sut y caiff hyn ei hybu yn ystod yr arolygiad.

Cyfarfod llywodraethwyr

Yn ystod yr arolygiad, bydd Estyn yn trefnu cwrdd â chynrychiolwyr o’r corff llywodraethu. Bydd hyn fel arfer yn cynnwys cadeirydd y llywodraethwyr ac un llywodraethwr arall. Bydd Estyn yn gofyn i’r llywodraethwyr am eu gwaith, gan gynnwys i ba raddau y mae’r corff llywodraethu yn hybu bwyta ac yfed yn iach yn yr ysgol a sut y caiff yr wybodaeth hon ei rhannu â rhieni a gofalwyr. Bydd Estyn yn nodi unrhyw achosion amlwg o dorri’r rheoliadau.

Gweithgareddau arolygu

Bydd Estyn yn gwerthuso pa mor effeithiol y mae’r ysgol yn hybu bwyta ac yfed yn iach drwy ymgymryd ag ystod eang o weithgareddau.

Gallai’r rhain gynnwys:

  • arsylwadau ar wersi
  • troeon dysgu
  • gwrando ar ddysgwyr
  • cyfarfod â staff, gan gynnwys staff arlwyo
  • craffu ar ddogfennau

Wrth ymgymryd â’r gweithgarwch hwn, bydd Estyn yn ystyried i ba raddau:

  • y mae’r ysgol yn cynllunio’r cwricwlwm, yn enwedig Maes Dysgu a Phrofiad Iechyd a Lles (Maes Dysgu iechyd a Lles), a gwaith allgyrsiol i helpu dysgwyr i ddeall effaith ymddygiadau a dewisiadau byw’n iach ar eu hiechyd corfforol a’u lles, nawr ac yn y dyfodol
  • y mae’r dysgwyr yn meithrin yr wybodaeth a’r ddealltwriaeth sydd eu hangen arnynt i wneud dewisiadau ffordd o fyw iach, er enghraifft mewn perthynas â bwyta ac yfed yn iach
  • y mae’r dysgwyr yn cyfrannu at hybu byw’n iach yng nghymuned yr ysgol, er enghraifft fel aelodau o’r cyngor ysgol
  • y mae’r dysgwyr yn datblygu arferion bwyta ac yfed iach (mae hyn yn cynnwys arsylwi yn ystod amser egwyl ac amser cinio, a gofyn i’r dysgwyr a oes dŵr yfed am ddim ar gael iddynt drwy’r dydd)
  • y mae’r ysgol yn rhoi cyfleoedd ystyrlon a gwerth chweil i ddysgwyr sydd ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) feithrin eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth i’w galluogi i wneud dewisiadau ffordd o fyw addas mewn perthynas â bwyta’n iach
Adroddiad arolygu Estyn

Ar ôl arolygiad craidd, bydd Estyn yn adrodd ar gryfderau a gwendidau’r ysgol ym mhob maes arolygu. Lle y bo briodol, bydd yn nodi agweddau ar waith yr ysgol sy’n ymwneud ag arweinyddiaeth, darpariaeth a deilliannau dysgwyr mewn perthynas â byw’n iach a lles. Yn yr adroddiad, bydd Estyn yn cyfeirio at ansawdd ac effeithiolrwydd y corff llywodraethu, gan gynnwys a oes gan yr ysgol drefniadau priodol mewn perthynas â hybu bwyta ac yfed yn iach.

Dyletswydd i gydymffurfio â’r rheoliadau

Mae Rheoliadau Bwyta’n Iach mewn Ysgolion (Gofynion a Safonau Maeth) (Cymru) 2013 yn parhau i fod yn gymwys i ysgolion uwchradd a gynhelir (a dysgwyr ym Mlwyddyn 7 ac uwch mewn ysgolion sy’n darparu addysg gynradd ac uwchradd). Ni fydd y Rheoliadau hyn yn gymwys i ysgolion meithrin a chynradd a gynhelir (a dysgwyr ym Mlwyddyn 6 ac is mewn ysgolion sy’n darparu addysg gynradd ac uwchradd) o 31 Hydref 2026 mwyach. 

O 31 Hydref 2026, bydd Rheoliadau Bwyta’n Iach mewn Ysgolion (Gofynion a Safonau Maeth) (Ysgolion Cynradd a Gynhelir) (Cymru) (2025) yn gymwys i ysgolion meithrin a chynradd a gynhelir (a dysgwyr ym Mlwyddyn 6 ac is mewn ysgolion sy’n darparu addysg gynradd ac uwchradd). 

Cyfeirir at y 2 set o reoliadau hyn fel ‘y rheoliadau perthnasol’ drwy weddill y canllawiau hyn. 

P’un ai’r awdurdod lleol neu’r corff llywodraethu sy’n darparu bwyd a diod, rhaid iddo sicrhau y cydymffurfir â’r rheoliadau perthnasol. Mae hyn yn berthnasol ni waeth a yw’n darparu bwyd a diod drwy:

  • staff arlwyo sydd wedi’u cyflogi’n uniongyrchol
  • cytundeb neu drefniant i ddarparu gan arlwywr dan gontract

Y Mesur

Adran 1: hybu bwyta ac yfed yn iach gan ddysgwyr mewn ysgolion a gynhelir

(Noder: mae’r adran hon o’r canllawiau yn ganllawiau statudol.)

Yr hyn y mae’r Mesur yn ei ddweud

Rhaid i awdurdod lleol gymryd camau i hybu disgyblion cofrestredig ysgolion a gynhelir yn ei ardal i fwyta ac yfed yn iach.

Rhaid i gorff llywodraethu ysgol a gynhelir gymryd camau i hybu disgyblion cofrestredig yr ysgol i fwyta ac yfed yn iach.

Wrth gyflawni’r dyletswyddau hyn, rhaid i awdurdod lleol neu gorff llywodraethu roi sylw i’r canllawiau hyn.

Mae’r canllawiau yn rhoi cyngor ar y canlynol:

  • camau priodol i hybu bwyta ac yfed yn iach
  • datblygiad cynaliadwy mewn perthynas â hybu bwyta ac yfed yn iach

Beth mae hyn yn ei olygu i’r awdurdod lleol, y corff llywodraethu neu’r ysgol

Mae cyfrifoldeb ar awdurdodau lleol i hybu bwyta ac yn yfed yn iach ymhlith dysgwyr cofrestredig mewn ysgol a gynhelir yn eu hardal. Mae cyfrifoldeb ar gyrff llywodraethu ac ysgolion i hybu bwyta ac yfed yn iach ymhlith dysgwyr cofrestredig yr ysgol. Mae’n rhaid i awdurdodau lleol, cyrff llywodraethu ac ysgolion hefyd ystyried canllawiau ar sut mae egwyddorion datblygu cynaliadwy yn gymwys.

Sut y gall yr awdurdod lleol, y corff llywodraethu neu’r ysgol hybu bwyta ac yfed yn iach

Bydd y camau gweithredu a gymerir i hybu bwyta ac yfed yn iach yn amrywio rhwng awdurdodau lleol, cyrff llywodraethu ac ysgolion gwahanol

Nid yw’r enghreifftiau canlynol yn rhestr hollgynhwysfawr:

  • Ystyried pa mor dda y caiff bwyta ac yfed yn iach eu hybu yn amgylchedd yr ysgol, er enghraifft: 
    • i ba raddau y mae’r ffreutur yn estyniad i’r ystafell ddosbarth 
    • p’un a yw’r profiad bwyta yn cyfateb i ethos yr ysgol
  • Casglu a chadarnhau tystiolaeth bod y bwyd a’r diodydd a ddarperir mewn ysgolion yn cydymffurfio â’r rheoliadau perthnasol.
  • Cyfathrebu â dysgwyr er mwyn rhannu gwybodaeth a chasglu barn ac adborth ar gamau gweithredu i hybu bwyta ac yfed yn iach. Ystyried anghenion neu ddewisiadau penodol dysgwyr, gan gynnwys deietau arbennig, niwrowahaniaeth, dewisiadau diwylliannol a chyfyngiadau crefyddol. Gwneud yn siŵr bod dyluniad y fwydlen yn adlewyrchu’r dysgwyr a’r cymunedau a wasanaethir.
  • Gallai ysgolion gynnwys llywodraethwyr yr ysgol. Eu gwahodd i ymuno â’r dysgwyr dros ginio i gael pryd ysgol neu i ddathlu traddodiadau crefyddol a dathliadau diwylliannol drwy fwyd. 
  • Cyfathrebu â’r gwasanaeth arlwyo mewn perthynas â hybu bwyta ac yfed yn iach.
  • Monitro data ar faint o ddysgwyr sy’n cael prydau ysgol er mwyn monitro cynnydd a thueddiadau. Gallai hyn gynnwys dadgyfuno’r data yn ôl nodweddion gwarchodedig er mwyn deall a oes angen gwneud rhagor o waith gyda chymunedau penodol i gynyddu nifer y dysgwyr sy’n cael prydau ysgol.
  • Cyfathrebu â rhieni a gofalwyr er mwyn rhannu gwybodaeth a chasglu barn ac adborth ar gamau gweithredu i hybu bwyta ac yfed yn iach. Er enghraifft, gallai hyn gynnwys rhiant hyrwyddwyr bwyd er mwyn rhannu arbenigedd ar ddeietau crefyddol.
  • Annog rhieni, gofalwyr a dysgwyr i ddod â byrbrydau, diodydd a phecynnau cinio iach gyda nhw. Lle y caiff problemau eu nodi, datblygu polisïau ar gyfer bwyd a diod y deuir â nhw i’r ysgol.
  • Deall pa wybodaeth, hyfforddiant a chymorth a ddarperir i staff arlwyo mewn perthynas â sgiliau coginio’n iach a’r cyd-destun ar gyfer gwneud newidiadau i’r bwyd a’r diodydd a ddarperir. 
  • Cefnogi goruchwylwyr canol dydd fel bod ganddynt yr wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen i gyfathrebu â dysgwyr yn yr ystafell fwyta a’u cynorthwyo. Mae hyn yn arbennig o berthnasol wrth gefnogi babanod a dysgwyr sydd ag anghenion ychwanegol, gan gynnwys plant niwrowahanol. 
  • Ystyried sut mae’r ysgol yn defnyddio safonau, cynlluniau a hyfforddiant ehangach sy’n gysylltiedig ag iechyd, er enghraifft Rhwydwaith Ysgolion Cymru sy’n Hybu Iechyd a Lles.

Dylai awdurdodau lleol, cyrff llywodraethu ac ysgolion ystyried egwyddorion datblygu cynaliadwy (gweler Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol Llywodraeth Cymru) ar gyfer gwella lles economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol pobl a chymunedau. Bydd ystyried y rhain yn helpu ein cenhedlaeth a chenedlaethau’r dyfodol i sicrhau ansawdd bywyd gwell.

Mae hyn yn golygu gwneud penderfyniadau a fydd yn:

  • cynnig manteision yn y tymor hir yn ogystal â’r tymor byr
  • atal problemau rhag codi yn y dyfodol

Mae pwyslais ar fwyta’n iach mewn ysgolion yn enghraifft o ddull cynaliadwy o weithredu. Mae hyn oherwydd y bydd yn helpu i leihau problemau iechyd, megis maeth gwael a gordewdra, yn y dyfodol.

Dylai awdurdodau lleol ddarparu ‘hyrwyddwr’ i hybu bwyta’n iach mewn ysgolion. Yn ogystal, dylent weithio gyda’u cydgysylltwyr ar gyfer Rhwydwaith Ysgolion Cymru sy’n Hybu Iechyd a Lles drwy gefnogi ysgolion i werthfawrogi:

  • y galwadau ar wasanaethau arlwyo i ddarparu bwyd a diod iach, lleol, cynaliadwy, fforddiadwy, hygyrch a dymunol, gan weithredu fel busnes (mewn ysgolion uwchradd) â chyllidebau cyfyngedig ac amser cyfyngedig i wasanaethu dysgwyr
  • y dystiolaeth ddiweddaraf sy’n cysylltu maeth a pherfformiad addysgol
  • y dystiolaeth gynyddol o gostau salwch sy’n gysylltiedig â deiet nad yw’n iach i’r sector cyhoeddus

Os bydd awdurdodau lleol yn darparu’r bwyd a’r diodydd, dylent ystyried y ffordd y maent yn:

  • cyfathrebu’n rheolaidd â’r ysgol neu’r corff llywodraethu i drafod yr hyn sy’n gweithio’n dda a’r hyn y gellid ei wella
  • gweithio gyda’r ysgol neu’r corff llywodraethu i gynnig cyfle i ymgysylltu ynghylch bwyd ysgol, er mwyn deall safbwyntiau dysgwyr, rhieni, gofalwyr a chymuned ehangach yr ysgol, gan gynnwys dysgwyr a’u teuluoedd o gefndiroedd amrywiol
  • darparu gwybodaeth, hyfforddiant a chymorth i staff arlwyo mewn perthynas â sgiliau coginio’n iach a’r cyd-destun ar gyfer gwneud newidiadau i’r bwyd a’r diodydd a ddarperir

Pan fydd awdurdod lleol yn darparu bwyd a diod, rhaid iddo gydymffurfio â’r rheoliadau perthnasol.

Dylai cyrff llywodraethu ac ysgolion wneud y canlynol:

  • gweithio gyda’u cydgysylltydd ar gyfer Rhwydwaith Ysgolion Cymru sy’n Hybu Iechyd a Lles i hybu, diogelu ac ymgorffori iechyd a lles corfforol, meddyliol a chymdeithasol cymuned yr ysgol drwy gymryd camau gweithredu cadarnhaol
  • sicrhau bod amseriad a hyd amser brecwast, yr egwyl bore ac amser cinio yn helpu i hybu arferion bwyta’n iach, cymdeithasu a gweithgareddau eraill, gan gydgysylltu â’r tîm arlwyo (mae’r cyrff llywodraethu yn gyfrifol am bennu amseroedd sesiynau ysgol ac felly amseriad a hyd amseroedd cinio)
  • annog dysgwyr uwchradd i fwyta cinio cytbwys o ran maeth, yn hytrach na chael brecinio yn ystod yr egwyl bore neu fyrbryd cyflym yn lle pryd o fwyd

Mae’r Cwricwlwm i Gymru yn cynnig cyfle i fwyd a maeth gael eu hystyried fel rhan o’r Maes Iechyd a Lles. Ystyriwch sut mae bwyta ac yfed yn iach yn rhan o gwricwlwm yr ysgol (gellid dirprwyo hyn i bwyllgor y cwricwlwm).

Datblygwch bolisïau bwyta ac yfed yn iach, neu bolisïau cyfatebol, neu eu hadolygu’n rheolaidd. Dylai’r rhain hyrwyddo negeseuon bwyta’n iach cyson a gallant gyfeirio at y canlynol:

  • dysgwyr yn gadael yr ystafell fwyta â bwyd a diod
  • dysgwyr yn gadael safle’r ysgol i brynu bwyd a diod
  • dod â bwyd a diod i’r ysgol 
  • bwyd a diod yn cael eu danfon i ddysgwyr yn yr ysgol 
  • gwerthwyr bwyd a diod symudol ger safle’r ysgol 
  • cacennau pen-blwydd
  • amseriad a hyd amser cinio
  • archebu ymlaen llaw
  • trefniadau eistedd yn yr ystafell fwyta
  • rheoli ciwiau
  • goruchwylio
  • digwyddiadau cymdeithasol a hamddenol
  • digwyddiadau codi arian
  • gwobrau 
  • deietau sydd wedi’u rhagnodi’n feddygol

Adran 2: Adroddiadau llywodraethwyr

(Noder: mae’r canllawiau yn yr adran hon yn anstatudol.)

Yr hyn y mae’r Mesur yn ei ddweud

Mae Adran 2 o’r Mesur yn mewnosod y canlynol yn Neddf Addysg 2002 (sydd yn Saesneg yn unig):

The governing body of a maintained school in Wales must include in a governors’ report, information about the action taken to promote healthy eating and drinking by pupils of the school.

Beth mae hyn yn ei olygu i’r awdurdod lleol

Nid oes gofyniad penodol ar yr awdurdod lleol. Fodd bynnag, gall gefnogi’r corff llywodraethu i gyflawni ei gyfrifoldeb fel y nodir isod. 

Sut y gall yr awdurdod lleol gyflawni hyn

Pan fydd awdurdod lleol yn darparu bwyd a diod, os bydd y corff llywodraethu yn gofyn iddo rannu tystiolaeth o gydymffurfiaeth â’r rheoliadau perthnasol, dylai wneud hynny fel bod modd i’r wybodaeth hon gael ei chynnwys yn adroddiad blynyddol y corff llywodraethu.

Beth mae hyn yn ei olygu i lywodraethwyr

Rhaid i adroddiad blynyddol llywodraethwyr yr ysgol ddarparu gwybodaeth am yr hyn y mae’r ysgol yn ei wneud i hybu bwyta ac yfed yn iach.

Sut y gall llywodraethwyr gyflawni hyn

Nid yw’r enghreifftiau canlynol o gamau gweithredu y dylai’r corff llywodraethu eu cymryd yn rhestr hollgynhwysfawr o weithgarwch ac nid ydynt yn nhrefn blaenoriaeth.

Dylai llywodraethwyr gynnwys cadarnhad bod y bwyd a’r diodydd a ddarperir yn unol â’u dyletswyddau i hybu bwyta ac yfed yn iach. Gallai hyn gynnwys cadarnhad o gydymffurfiaeth â’r rheoliadau perthnasol (ni waeth pwy sy’n darparu’r gwasanaeth arlwyo).

Dylai llywodraethwyr hefyd ystyried cynnwys rhywfaint o’r wybodaeth ganlynol, neu’r holl wybodaeth, yn eu hadroddiad blynyddol:

  • camau a gymerwyd gan yr ysgol i hybu bwyta ac yfed yn iach
  • cyfeiriadau at bolisïau bwyta ac yfed yn iach
  • data ar nifer y dysgwyr sy’n cael prydau ysgol, gan gynnwys unrhyw batrymau yn ôl nodweddion gwarchodedig
  • adborth neu ddatganiadau o ohebiaeth â dysgwyr, rhieni a gofalwyr ynghylch pa mor dda y mae’r ysgol yn hybu bwyta ac yfed yn iach

Adran 3: swyddogaethau’r Prif Arolygydd dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru (Estyn)

(Noder: mae’r canllawiau yn yr adran hon yn anstatudol.)

Yr hyn y mae’r Mesur yn ei ddweud

Mae’r Mesur yn diwygio adran 20(1) o Ddeddf Addysg 2005. Mae hon yn nodi’r materion y mae dyletswydd ar y Prif Arolygydd dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru i roi gwybod i Weinidogion Cymru amdanynt. Mae’r diwygiad yn ei gwneud yn ofynnol i’r Prif Arolygydd (Estyn) adrodd ar gamau a gymerwyd mewn ysgolion a gynhelir i hybu bwyta ac yfed yn iach.

Beth mae hyn yn ei olygu i’r corff llywodraethu

Bydd yn ofynnol i’r corff llywodraethu ddarparu gwybodaeth i Estyn i’w galluogi i adrodd ar y trefniadau sydd ar waith yn yr ysgol i hybu bwyta ac yfed yn iach. Ceir rhagor o wybodaeth ar wefan Estyn.

Dylai cyrff llywodraethu hefyd sicrhau bod eu hadroddiad blynyddol yn cynnwys manylion am y camau y mae ysgolion yn eu cymryd i hybu bwyta ac yfed yn iach (gweler adran 2 o’r Mesur). Yn ogystal â hyn, dylai cyrff llywodraethu wneud y canlynol:

  • ymgyfarwyddo â’r camau y mae ysgolion yn eu cymryd i hybu bwyta ac yfed yn iach (gweler adran 1 o’r Mesur)
  • sicrhau eu bod yn ymwybodol o’r fframwaith arolygu ysgolion cyfredol

Wrth gynnal hunanwerthusiad mewn perthynas â gofal, cymorth ac arweiniad, dylai ysgolion manteisio ar bob cyfle i ddefnyddio gwaith a wnaed ar fwyta ac yfed yn iach mewn ysgolion ac i nodi cysylltiadau â’r gwaith hwnnw.

Adran 4: gofynion ynglŷn â bwyd a diod ar fangre ysgol

(Noder: mae’r canllawiau yn yr adran hon yn anstatudol.)

Yr hyn y mae’r Mesur yn ei ddweud

Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ragnodi gofynion y mae’n rhaid cydymffurfio â hwy, yn ddarostyngedig i’r cyfryw eithriadau ag y darperir ar eu cyfer gan y rheoliadau neu odanynt, mewn cysylltiad â’r canlynol:

(a) bwyd neu ddiod a ddarperir ar fangre unrhyw ysgol a gynhelir, neu

(b) bwyd neu ddiod a ddarperir mewn man ac eithrio mangre ysgol gan awdurdod neu gan gorff llywodraethu ysgol a gynhelir ar gyfer unrhyw ddisgybl cofrestredig yn yr ysgol.

Beth mae hyn yn ei olygu i’r awdurdod lleol, y corff llywodraethu neu’r ysgol

Pwy bynnag sy’n darparu’r bwyd a’r diod sy’n gyfrifol am sicrhau ei fod yn bodloni’r gofynion a nodir yn y rheoliadau perthnasol. Mae ‘darparu’ yn y cyd-destun hwn yn cynnwys lle caiff y bwyd neu’r diod eu darparu o dan gytundeb neu drefniant a wnaed gan yr awdurdod lleol neu’r corff llywodraethu i ddarparu’r bwyd a’r diod.

Awdurdodau lleol neu gyrff llywodraethu sy’n gyfrifol am gydymffurfiaeth o hyd, hyd yn oed pan fyddant yn gwneud cytundeb neu drefniant ag arlwywr dan gontract. Rhaid i awdurdodau lleol neu gyrff llywodraethu fodloni eu hunain felly fod yr hyn y mae arlwywr dan gontract yn ei ddarparu yn bodloni’r gofynion a nodir yn y rheoliadau perthnasol.

Sut y gall yr awdurdod lleol, y corff llywodraethu neu’r ysgol gyflawni hyn

Nid yw’r enghreifftiau canlynol o gamau gweithredu y dylai awdurdod lleol, corff llywodraethu neu ysgol eu cymryd yn rhestr hollgynhwysfawr o weithgaredd ac nid ydynt yn nhrefn blaenoriaeth.

Rhaid i bwy bynnag sy’n darparu’r bwyd a’r diod sicrhau cydymffurfiaeth.

Gellid gwneud hyn drwy:

  • wirio bwydlenni
  • rhoi trefniadau monitro ar waith neu roi cytundeb lefel gwasanaeth ar waith

Os caiff y bwyd a’r diod eu darparu gan arlwywr dan gontract yn unol â chytundeb neu drefniant a wnaed gan awdurdod lleol neu gorff llywodraethu, dylai’r awdurdod lleol neu’r corff llywodraethu fodloni ei hun bod y rheoliadau yn cael eu cyflawni.

Gellid gwneud hyn drwy’r ffyrdd canlynol:

  • gofyn i’r darparwr arlwyo am dystiolaeth
  • gwirio bwydlenni
  • cynnal ymweliadau i wirio bod y bwyd a weinir yn adlewyrchu’r fwydlen a hysbysebir

Adran 5: dŵr yfed mewn ysgolion

(Noder: mae’r adran hon o’r canllawiau yn ganllawiau statudol.)

Yr hyn y mae’r Mesur yn ei ddweud

Mae adran 5 o’r Mesur yn nodi:

Rhaid i awdurdod lleol sicrhau bod cyflenwad o ddŵr yfed ar gael, yn rhad ac am ddim, ym mangre unrhyw ysgol a gynhelir.

Beth mae hyn yn ei olygu i’r awdurdod lleol

Rhaid i’r awdurdod lleol gymryd camau i sicrhau bod cyflenwad o ddŵr yfed ar gael, am ddim, ym mangre unrhyw ysgol a gynhelir.

Sut y gall yr awdurdod lleol gyflawni hyn

Gall y camau y dylid eu cymryd amrywio rhwng awdurdodau lleol. Nid yw’r canlynol yn rhestr hollgynhwysfawr o weithgarwch ac nid yw yn nhrefn blaenoriaeth:

  • Dylai awdurdod lleol weithio gyda grwpiau arweinwyr ysgolion ac arweinwyr dysgwyr i sicrhau bod dŵr yfed am ddim ar gael i ddysgwyr.
  • Rhaid i awdurdodau lleol ddilyn Rheoliadau Addysg (Mangreoedd Ysgol) 1999 (Saesneg yn unig) er mwyn sicrhau bod cyflenwad am ddim o ddŵr yfed ar gael ym mhob ysgol.
  • Pan fydd awdurdod lleol yn darparu bwyd a diod, dylai sicrhau y caiff dŵr ei gynnig fel rhan o ginio ysgol.
Beth mae hyn yn ei olygu i’r corff llywodraethu neu’r ysgol

Nid oes gan y corff llywodraethu na’r ysgol gyfrifoldeb uniongyrchol am sicrhau bod cyflenwad o ddŵr yfed ar gael am ddim. Fodd bynnag, mae dyletswydd arnynt i hybu yfed yn iach (gweler 'Adran 1') a dylai gefnogi’r awdurdod lleol mewn gweithgareddau perthnasol.

Sut y gall y corff llywodraethu neu’r ysgol gyflawni hyn

Nid yw’r enghreifftiau canlynol o gamau gweithredu y dylai’r corff llywodraethu neu’r ysgol eu cymryd yn rhestr hollgynhwysfawr o weithgarwch ac nid ydynt yn nhrefn blaenoriaeth.

Dylai’r corff llywodraethu neu’r ysgol sicrhau y darperir dŵr am ddim fel rhan o ginio ysgol, p’un a ddarperir bwyd a diod drwy staff arlwyo a gyflogir yn uniongyrchol gan yr ysgol neu gan arlwywr dan gontract.

Dylai’r corff llywodraethu neu’r ysgol:

  • wybod ble a sut mae dŵr yfed ar gael am ddim
  • ystyried y defnydd o oeryddion neu ffynhonnau dŵr
  • hybu hydradu iach yn ystod y diwrnod ysgol a’r defnydd o boteli dŵr

Yn ystod cyfnodau gweini bwyd, pan na fydd dŵr ar gael o ffynhonnau neu oeryddion yn yr ardal fwyta, dylai’r corff llywodraethu neu’r ysgol ddarparu jygiau dŵr a chwpanau i ddysgwyr.

Adran 6: hybu prydau mewn ysgolion a gynhelir a sefydliadau eraill

(Noder: mae’r canllawiau yn yr adran hon yn anstatudol.)

Yr hyn y mae’r Mesur yn ei ddweud

Rhaid i awdurdod lleol neu gorff llywodraethu ysgol a gynhelir sy’n darparu prydau ysgol neu laeth o dan adran 512 o Ddeddf 1996:

(a) hybu defnyddio prydau a llaeth ysgol, a

(b) cymryd camau rhesymol i sicrhau bod pob disgybl sydd â hawl i gael cinio ysgol a llaeth yn rhad ac am ddim o dan adran 512ZB o Ddeddf 1996 yn eu cael

Beth mae hyn yn ei olygu i’r awdurdod lleol, y corff llywodraethu neu’r ysgol

Os bydd yr awdurdod lleol, y corff llywodraethu neu’r ysgol yn darparu prydau ysgol a llaeth, bydd yn gyfrifol am sicrhau bod camau rhesymol yn cael eu cymryd i sicrhau bod pob dysgwr sydd â hawl i gael prydau ysgol neu laeth ysgol am ddim sy’n gysylltiedig â chymhwystra yn manteisio ar y ddarpariaeth honno.

Sut y gall yr awdurdod lleol, y corff llywodraethu neu’r ysgol gyflawni hyn

Bydd y camau a gymerir i annog dysgwyr i fanteisio ar brydau ysgol a llaeth yn amrywio rhwng awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu gwahanol.

Nid yw’r enghreifftiau canlynol yn rhestr hollgynhwysfawr:

  • Cyfathrebu’n rheolaidd â’r ysgol i drafod yr hyn sy’n gweithio’n dda a’r hyn y gellid ei wella.
  • Gweithio gyda’r ysgol er mwyn rhoi cyfleoedd i ymgysylltu ynghylch bwyd ysgol, er mwyn deall safbwyntiau dysgwyr, rhieni neu ofalwyr a chymuned ehangach yr ysgol.
  • Gweithio gyda’r ysgol i roi cyfleoedd i ddysgwyr flasu opsiynau bwyd a newidiadau arfaethedig i fwydlenni. Sicrhau bod y rhain yn adlewyrchu’r dysgwyr a’r cymunedau a wasanaethir. 
  • Casglu gwybodaeth berthnasol am nifer y dysgwyr sy’n dewis cael prydau ysgol a llaeth ysgol, er mwyn deall i ba raddau y manteisir ar y ddarpariaeth ar draws nodweddion gwarchodedig gwahanol.
  • Cyfathrebu â’r gwasanaeth arlwyo er mwyn deall ei farn ar sut i sicrhau bod cynifer o ddysgwyr â phosibl yn manteisio ar y ddarpariaeth.
  • Cyfathrebu â dysgwyr, rhieni a gofalwyr er mwyn deall beth fyddai’n eu hannog i fanteisio ar brydau ysgol a llaeth ysgol.

Dylai awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu sicrhau bod:

  • gwybodaeth am brydau ysgol a llaeth ysgol yn hygyrch ac yn cael ei rhannu â phawb, a’i bod yn annog dysgwyr i fanteisio ar y ddarpariaeth
  • y broses gwneud cais i rieni a gofalwyr yn gynhwysol, yn hygyrch i bawb ac yn cael ei chyfleu’n glir
  • cymorth yn cael ei ddarparu yn hawdd er mwyn helpu gyda cheisiadau am brydau ysgol am ddim sy’n gysylltiedig â chymhwystra, yn ogystal â helpu pobl i gael cymorth
  • fformat bwydlenni a rhestrau prisiau yn hygyrch ac yn ddealladwy, a’u bod yn cael eu cyfleu’n glir i ddysgwyr, rhieni a gofalwyr, gan ystyried cydraddoldeb ac iaith
  • y systemau archebu ar gyfer dysgwyr, rhieni neu ofalwyr yn gynhwysol ac yn hygyrch i bawb

Cyfeiriwch at yr 'adran Gweithgareddau enghreifftiol i annog dysgwyr i fanteisio ar brydau ysgol' yn y canllawiau hyn am wybodaeth am sut y gallai awdurdodau lleol neu gyrff llywodraethu annog neu gefnogi dysgwyr i fanteisio ar brydau ysgol.

Adran 7: diogelu manylion adnabod dysgwyr sy’n cael cinio ysgol neu laeth am ddim

(Noder: mae’r adran hon o’r canllawiau yn ganllawiau statudol.)

Beth mae’r Mesur yn ei ddweud

Mae’r Mesur yn mewnosod adran 512A newydd yn Neddf Addysg 1996 (sydd yn Saesneg yn unig):

512ZC Protection of identity of pupils receiving free school lunches or milk

  1. This section applies when a school lunch or milk is provided for a pupil in Wales free of charge by a local authority under section 512ZB or by the governing body of a maintained school by virtue of section 512A.
  2. A local authority or governing body in Wales must take reasonable steps to ensure that the pupil cannot be identified as a pupil who receives a school lunch or milk free of charge by any person other than an authorised person.
  3. A local authority or governing body in Wales must take reasonable steps to ensure that none of the persons mentioned in subsection (4) discloses to any person other than an authorised person the fact that the pupil receives school lunches or milk free of charge.
  4. The persons referred to in subsection (3) are:
    1. a teacher in the school,
    2. any person (other than a teacher) who is:
      1. employed (whether by the local authority or by another person) in the school, or
      2. working there on an unpaid basis, and
    3. any other person employed by the local authority or governing body.
  5. In subsections (2) and (3), “authorised person” means:
    1. a parent of the pupil, and
    2. a person mentioned in subsection (4) who is authorised by the local authority or governing body to have access to information about a pupil’s entitlement to receive school lunches free of charge.
  6. When deciding what steps to take in order to comply with their duties under subsections (2) and (3) a local authority or governing body in Wales must have regard to any guidance issued by the Welsh Ministers under this section.
Beth mae hyn yn ei olygu i’r awdurdod lleol, y corff llywodraethu neu’r ysgol

Mae’r adran hon o’r Mesur yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol, cyrff llywodraethu ac ysgolion gymryd camau rhesymol i ddiogelu manylion adnabod dysgwyr sy’n cael prydau ysgol neu laeth am ddim sy’n gysylltiedig â chymhwystra.

Yn benodol, dylai awdurdod lleol, corff llywodraethu neu ysgol fodloni ei hun na fydd unrhyw berson sy’n gweithio yn yr ysgol am dâl neu’n ddi-dâl, neu unrhyw berson arall a gyflogir gan yr awdurdod lleol neu’r corff llywodraethu, yn gwneud datgeliadau ynghylch dysgwyr sy’n cael prydau neu laeth am ddim, i unrhyw un heblaw ‘person awdurdodedig’. Nod hyn yw osgoi stigma tlodi.

Sut y gall yr awdurdod lleol, y corff llywodraethu neu’r ysgol gyflawni hyn

Nid yw’r enghreifftiau canlynol o gamau gweithredu y dylai’r awdurdod lleol, y corff llywodraethu neu’r ysgol eu cymryd yn rhestr hollgynhwysfawr o weithgarwch ac nid ydynt yn nhrefn blaenoriaeth:

  • Rhoi polisïau priodol ar waith ar gyfer prydau ysgol.
  • Sicrhau mai dim ond personau awdurdodedig all adnabod dysgwyr sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim. Er enghraifft, ni ddylai statws prydau ysgol am ddim gael ei gyfleu mewn unrhyw ffordd yn gorfforol nac ar lafar. Sicrhau nad i ddysgwyr cymwys yn unig y darperir cinio ysgol, ac ni ddylai fod mynediad annheg at lwfansau cinio ysgol am ddim yn ystod yr egwyl bore neu amser cinio o gymharu â dysgwyr sy’n talu.
  • Os defnyddir system nad yw’n derbyn arian parod yn y ffreutur, gwybod sut mae hyn yn helpu i ddiogelu manylion adnabod dysgwyr.
  • Rhoi gwybod i rieni a gofalwyr am y ffordd y mae prydau ysgol am ddim yn gweithio yn yr ysgol.
  • Sicrhau y cynigir yr un dewis o brif brydau bwyd i bob dysgwr.
  • Darparu neu gaffael hyfforddiant ar ddiogelu data.

Gweithgareddau enghreifftiol i annog dysgwyr i fanteisio ar brydau ysgol

Mae’r canlynol yn enghreifftiau o gamau gweithredu y gallai awdurdod lleol neu gorff llywodraethu ymgymryd â nhw i annog neu gefnogi dysgwyr i fanteisio ar y ddarpariaeth. Nid ydynt yn nhrefn blaenoriaeth.

Yr amgylchedd bwyta

  • Gwneud yr ystafell fwyta neu’r ffreutur yn fwy deniadol i bob dysgwr drwy ddarparu seddi cyfforddus a byrddau a chadeiriau glân.
  • Cynnwys dysgwyr yn y gwaith o ddylunio’r amgylchedd bwyta lle y bo’n bosibl.
  • Ystyried anghenion dysgwyr sydd ag anghenion ychwanegol, gan gynnwys dysgwyr niwrowahanol. 
  • Gwneud y defnydd gorau o leoedd bwyta bach drwy drefnu seddi mewn ffordd ystyriol a sicrhau bod digon o fwlch rhyngddynt.
  • Lleihau sŵn drwy gyflwyno carpedi a llenni, byrddau amsugno sain a chwarae cerddoriaeth.
  • Arddangos bwydlenni, rhestrau prisiau ac arwyddion hyrwyddo yn yr ystafell fwyta.
  • Arddangos hysbysfyrddau neu bosteri yn hyrwyddo negeseuon ac arferion bwyta’n iach.

Cynhwysiant, hygyrchedd, rhyngweithio cymdeithasol a bwyta’n iach

  • Gosod arwyddion hygyrch sy’n dangos bwydlenni a phrisiau mewn mannau amlwg, er enghraifft mewn ardaloedd ciwio, mewn trefnyddion a chynllunwyr ysgol, ac ar-lein.
  • Caniatáu i ddysgwyr eistedd gyda’u cyfoedion ni waeth pa brydau y maent yn eu dewis na ph’un a ydynt yn bwyta prydau ysgol neu becynnau cinio.
  • Cynnig cyfleoedd blasu i ddysgwyr, rhieni a gofalwyr.
  • Sicrhau bod dysgwyr yn cael digon o amser i eistedd, bwyta a chymdeithasu yn ystod amser cinio. Amrywio amseroedd gweini bwyd, defnyddio system archebu ymlaen llaw, cyflwyno sawl ardal weini a darparu ardaloedd bwyta yn yr awyr agored. 
  • Defnyddio staff addysgu fel modelau rôl sydd, yn ogystal â goruchwylio dysgwyr, yn eistedd ac yn bwyta bwyd ysgol yn yr ystafell fwyta.
  • Rhoi llais i ddysgwyr, er enghraifft sefydlu cyngor bwyta’n iach i roi adborth ar fwydlenni a’r profiad bwyta.

Logisteg gweini bwyd

  • Gwella arferion sy’n gysylltiedig â chiwio drwy amrywio amseroedd gweini bwyd, cylchdroi amseroedd gweini bwyd, goruchwylio ciwiau ac ystyried gweithredu system archebu ymlaen llaw.
  • Amrywio’r dewisiadau bwyd sydd ar gael yn ystod y cyfnod gweini er mwyn sicrhau bod amrywiaeth o ddewisiadau bwyd yn dal i fod ar gael i’r dysgwyr hynny sy’n dod i gael cinio yn ddiweddarach.
  • Goruchwylio a defnyddio strategaethau rheoli ymddygiad amser brecwast, yn ystod yr egwyl bore ac amser cinio.

Addysg bwyd ac ymgysylltu

  • Rhoi gwybodaeth i ysgolion, dysgwyr, rhieni a gofalwyr am ansawdd y bwyd sydd ar gael a’r rhesymau dros unrhyw newidiadau i’r fwydlen.
  • Ystyried cynnig cyfleoedd i ddysgwyr, rhieni a gofalwyr a’r gymuned flasu cynhyrchion a ryseitiau newydd. Ystyried hefyd roi cyfleoedd ar waith i ddysgwyr ymgysylltu â’r cylch bwydlenni.
  • Cynnig cyfleoedd i archwilio bwydlen yr ysgol a dysgu amdani fel rhan o’r cwricwlwm.
  • Rhoi cyfleoedd i ddysgu am fwyd o ddiwylliannau a chrefyddau gwahanol.

Hyblygrwydd polisi a chymorth

  • Ystyried caniatáu i ddysgwyr ddefnyddio eu lwfans prydau ysgol am ddim yn ystod yr egwyl bore, os bydd yn agos at ganol dydd a bod eitemau cinio cytbwys o ran maeth ar gael ar yr adeg hon.
  • Defnyddio pwerau codi tâl hyblyg i gynnig prisiau gostyngol (er enghraifft ar gyfer sawl dysgwr o’r un aelwyd sy’n cael prydau ysgol neu ar gyfer dysgwyr sy’n talu ymlaen llaw am dymhorau cyfan).

Dolenni cysylltiedig

Deddfwriaeth

  • Mae Mesur Bwyta’n Iach mewn Ysgolion (Cymru) 2009 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu hybu bwyta ac yfed yn iach mewn ysgolion a gynhelir yng Nghymru. Mae hyn yn sicrhau bod y bwyd a’r diod a ddarperir yn bodloni safonau maeth ac yn cefnogi iechyd a lles dysgwyr.
  • Mae Rheoliadau Bwyta’n Iach mewn Ysgolion (Gofynion a Safonau Maeth) (Cymru) 2013 yn gosod gofynion a safonau maeth gorfodol ar gyfer y bwyd a’r diod a ddarperir gan awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu i ddysgwyr mewn ysgolion uwchradd a gynhelir yng Nghymru (gan gynnwys dysgwyr ym Mlwyddyn 7 ac uwch mewn ysgolion sy’n darparu addysg gynradd ac uwchradd) ac eraill ar fangre’r ysgol. Mae hyn yn sicrhau bod opsiynau cytbwys ac iach ar gael ar gyfer prydau, byrbrydau a diodydd.
  • Mae Rheoliadau Bwyta’n Iach mewn Ysgolion (Gofynion a Safonau Maeth) (Ysgolion Cynradd a Gynhelir) (Cymru) 2025 yn gosod gofynion a safonau maeth gorfodol ar gyfer y bwyd a’r diod a ddarperir gan awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu i ddysgwyr mewn ysgolion cynradd a gynhelir yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys ysgolion meithrin a gynhelir yn ogystal â dysgwyr ym Mlwyddyn 6 ac is mewn ysgolion sy’n darparu addysg gynradd ac uwchradd. Mae’r rheoliadau yn sicrhau bod opsiynau cytbwys ac iach ar gael ar gyfer prydau, byrbrydau a diodydd.
  • Mae Deddf Addysg 1996 (Saesneg yn unig) yn cydgrynhoi ac yn pennu’r fframwaith cyfreithiol ar gyfer addysg yng Nghymru a Lloegr. Mae hyn yn cynnwys swyddogaethau awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu sy’n ymwneud â darparu bwyd a diod mewn ysgolion.
  • Mae Rheoliadau Addysg (Mangreoedd Ysgol) 1999 (Saesneg yn unig) yn nodi’r safonau gofynnol ar gyfer dylunio, adeiladu a chynnal a chadw mangreoedd ysgol yng Nghymru. Mae hyn yn cwmpasu meysydd megis gofynion o ran lle, iechyd, diogelwch a lles i ddysgwyr a staff.
  • Mae Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff llywodraethu yng Nghymru weithio tuag at wella lles cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol drwy osod a chyflawni nodau hirdymor cynaliadwy ar gyfer cenedlaethau presennol a rhai’r dyfodol.
  • Mae’r Maes Dysgu a Phrofiad Iechyd a Lles o fewn y Cwricwlwm i Gymru yn canolbwyntio ar ddatblygu iechyd corfforol, lles meddyliol a sgiliau cymdeithasol dysgwyr. Mae hyn yn eu galluogi i feithrin gwydnwch, gwneud dewisiadau ar sail gwybodaeth a ffynnu fel unigolion hyderus, iach drwy gydol eu bywyd.

Canllawiau a pholisi Llywodraeth Cymru

  • Mae Rheoliadau Bwyta’n Iach mewn Ysgolion (Gofynion a Safonau Maeth) (Ysgolion Cynradd a Gynhelir) (Cymru) 2025: Canllawiau i awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu yng nghanllawiau ddrafft sy’n dangos sut y gall awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu gydymffurfio â’r rheoliadau perthnasol a’r hyn sy’n gyfystyr â bwyta ac yfed yn iach.
  • Mae’r canllaw i’r gyfraith i lywodraethwyr ysgolion yn esbonio cyfrifoldebau, dyletswyddau a rolau cyfreithiol cyrff llywodraethu ysgolion yng Nghymru a sut y dylent gydymffurfio â gofynion addysg cyfreithiol a statudol.
  • Mae ysgolion a gynhelir gan awdurdodau lleol yn esbonio beth yw ysgol a gynhelir. 
  • Cynllun cenedlaethol yw Pwysau Iach: Cymru Iach gyda’r nod o atal a lleihau gordewdra yng Nghymru. Mae’n hyrwyddo bwyta’n iach, gweithgarwch corfforol ac amgylcheddau cefnogol i wella iechyd a lles y boblogaeth.
  • Mae hawliwch help gyda chostau ysgol yn darparu gwybodaeth am gymorth sydd ar gael ar gyfer costau ysgol.

Canllawiau allanol