Neidio i'r prif gynnwy

Ar y dudalen hon

Rhagair

Prentisiaethau yw conglfaen ein polisi sgiliau ac maent yn ymrwymiad canolog yn ein Rhaglen Lywodraethu. Mae prentisiaethau yn ddull hanfodol o greu Cymru gryfach, decach a mwy cyfiawn sy'n addo llwyddiant economaidd i bawb. Mae prentisiaethau yn cefnogi ein hymdrech i godi lefelau sgiliau, yn hyrwyddo cynhyrchiant ac yn creu cymunedau mwy cydnerth.

Mae'r pandemig, yr argyfwng costau byw ac anhyblygrwydd y farchnad lafur wedi effeithio'n sylweddol ar economi a chymdeithas Cymru. Rydym hefyd yn wynebu heriau gan boblogaeth sy'n heneiddio a'r newid yn yr hinsawdd, a bydd angen inni barhau i ymateb i ddigideiddio a chynnydd technolegol. Bydd y newidiadau hyn yn golygu y bydd angen sgiliau gwahanol arnom yn y dyfodol.  Mae gan brentisiaethau rôl ganolog i'w chwarae yn hyrwyddo twf ac yn cefnogi adferiad, boed hynny mewn arloesedd digidol neu'r economi sylfaenol, mewn meysydd fel iechyd a gofal cymdeithasol, gofal plant a thai.

Mae ein  Cenhadaeth Economaidd yn hyrwyddo ein dull gweithredu tuag at brentisiaethau, gan gefnogi ein gweledigaeth ar gyfer economi fwy llewyrchus, gwyrddach a mwy cyfartal. Yn yr un modd, mae prentisiaethau yn cefnogi ymrwymiadau trawslywodraethol mewn nifer o feysydd polisi, gan gynnwys cyrraedd ein huchelgeisiau sero net, tyfu'r economi sylfaenol a chefnogi diwydiannau blaenoriaeth. Rydym yn helpu pobl ledled Cymru o bob oedran i gael y sgiliau sydd eu hangen arnynt i ddatblygu gyrfaoedd, gan eu galluogi i wneud cynnydd yn eu meysydd dewisol a chyfrannu at yr economi a'u cymunedau. O dan egwyddorion  Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, rydym yn meithrin partneriaethau cryf i greu twf o ran sgiliau a symudedd cymdeithasol, gan roi hyfforddiant proffesiynol o ansawdd uchel i'r genhedlaeth nesaf o brentisiaid a fydd yn eu galluogi i gystadlu yn erbyn y prentisiaid gorau sydd i'w cynnig gan wledydd eraill.

Bydd y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil a gaiff ei sefydlu maes o law yn cyfrannu at ein nod o integreiddio prentisiaethau yn fwy effeithiol i'r system addysg ehangach a chefnogi proses drosglwyddo esmwyth i ddysgwyr rhwng ysgolion, addysg bellach ac addysg uwch. Bydd y Comisiwn yn ein galluogi i hwyluso cyfleoedd cyflogaeth o ansawdd uchel yn well drwy lwybrau ôl-16 integredig. Mae'r datganiad hwn yn nodi ein blaenoriaethau ar gyfer prentisiaethau a'r egwyddorion rydym am eu gweld yn cael eu hadlewyrchu yn yr amrywiaeth o brentisiaethau a'r dulliau o'u darparu.

Ar y cyfan, rydym yn creu rhaglen prentisiaethau yng Nghymru sy'n fwy ymatebol i anghenion cyflogwyr ac sy'n buddsoddi yn y meysydd hynny a fydd yn hyrwyddo twf economaidd a chydlyniant cymdeithasol. Mae prentisiaethau yn elfen allweddol o'n system sgiliau, ac yn gyfrwng cyflawni ar gyfer buddsoddiad mewn seilwaith, datgarboneiddio a gwasanaethau cyhoeddus o ansawdd. Bydd ein dull ar y cyd yng Nghymru yn atgyfnerthu ansawdd prentisiaethau ac yn sicrhau cyfleoedd sy'n cael eu gwerthfawrogi gan gyflogwyr a dysgwyr fel ei gilydd.

Cyflwyniad

Mae pandemig COVID-19, yr argyfwng costau byw, diwedd symud rhydd ledled Ewrop ynghyd â digideiddio a'r newid yn yr hinsawdd yn cael effaith fawr ar ein heconomi a chyflogaeth. Mae gan brentisiaethau rôl ganolog yn cefnogi adferiad ac yn hyrwyddo twf ynghyd ag ymateb i heriau fel newid demograffig, arloesedd digidol, dulliau cynaliadwy neu sero net. Mae angen inni ymateb i'r galw cynyddol am sgiliau STEM ac i gefnogi angen pobl i uwchsgilio ac ailsgilio yn ystod eu bywydau gwaith.

Mae prentisiaethau yn elfen allweddol o'r broses o hyrwyddo twf, gan ein helpu i gyflawni ar y blaenoriaethau a nodwyd yn ein Cenhadaeth Economaidd, gan greu Cymru sy'n fwy ffyniannus, yn wyrddach ac yn fwy cyfartal. Yn yr un modd, mae prentisiaethau'n chwarae rôl allweddol yn cyflawni ein Cynllun Gweithredu Gweithgynhyrchu, ein Cynllun Gweithredu Sgiliau Sero Net, ein Cynllun Cyflogadwyedd a Sgiliau ac mae'n rhan o'r Warant i Bobl Ifanc. Drwy brentisiaethau, gallwn ychwanegu gwerth economaidd a meithrin cydlyniant cymdeithasol; gan gefnogi proses gyfiawn o drawsnewid tuag ag yr economi digidol a gwyrdd ac uchelgeisiau Cymru 4.0. Prentisiaethau yw'r catalydd tuag at hyrwyddo arloesedd a thwf yn y sector digidol a'r sector peirianneg uwch, ac maent yn hanfodol ar gyfer swyddi yn yr economi sylfaenol. Mae'r datganiad hwn yn nodi ein nodau strategol ar gyfer prentisiaethau.

Rhesymeg

Dros y ddau ddegawd nesaf, bydd angen sicrhau bod cymwyseddau craidd amrywiaeth eang o swydd yn fwy uniongyrchol berthnasol i anghenion economi carbon isel. Gan fod y mwyafrif o weithlu 2050 eisoes mewn cyflogaeth, mae'n debygol mai'r brif her fydd newid parhaus, gan gynnwys diweddaru ac ailffocysu sgiliau pobl. Rhaid i'r angen i ail-leoli sgiliau o fewn yr agenda sero net ddigwydd ochr yn ochr â'n hymateb i heriau strwythurol eraill sy'n effeithio ar y farchnad lafur gan gynnwys digideiddio ac awtomeiddio. Mae gennym gyfle i wella sgiliau pobl mewn sectorau cyflogaeth bregus a chefnogi pobl mewn sectorau sy'n dirywio i feithrin sgiliau newydd er mwyn eu galluogi i fanteisio ar gyfleoedd mewn sectorau sy'n dod i'r amlwg.

Yn y bôn, mae prentisiaethau yn galluogi arloesedd ac yn sylfaen ar gyfer twf sero net, digidol a chynaliadwy. Mae gan brentisiaethau rôl yn atgyfnerthu ein gwydnwch mewn argyfwng lle gallwn gyflawni'r heriau dirfodol sy'n wynebu ein heconomi a hyrwyddo adferiad parhaus. Mae dadansoddiad a gynhaliwyd gan London Economics yn nodi, am bob punt a gaiff ei buddsoddi mewn prentisiaethau, bod rhwng pedair a phum punt yn cael ei dychwelyd mewn treth i'r Trysorlys (Purpose and Rationale - Education and Skills Impact Framework (ESIF) - modern apprenticeships provision: contextual summary report 2022 - gov.scot (www.gov.scot)). Hefyd, am bob punt o arian cyhoeddus a gaiff ei gwario ar hyfforddi prentisiaid, amcangyfrifir bod deg punt yn cael ei fuddsoddi gan eu cyflogwyr. Hefyd, mae cyflogwyr yn sicrhau mwy o incwm drwy fuddsoddi mewn prentisiaid, gan fod y budd i fusnesau hyd at £63,000 dros gyfnod rhai o'r prentisiaethau.

Rydym yn gweithio tuag at system sgiliau fwy cydlynus ar gyfer dysgu ôl-16 yng Nghymru i atgyfnerthu a chysoni'r broses o ddarparu hyfforddiant. Pan gaiff ei sefydlu yn 2024, bydd y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil (y Comisiwn) yn cynllunio ar gyfer sector ôl-16 integredig. Ein huchelgais hirdymor yw cael system addysg a sgiliau sy'n cymell ac yn hwyluso cydweithio rhwng darparwyr yn y sector ôl-16 i ddiwallu anghenion dysgwyr, cyflogwyr, y gymuned ehangach a'r economi, gan ddileu achosion o ddyblygu a chystadleuaeth wastraffus. Caiff hyn ei gyflawni drwy fodel cynllunio a chyllido cryfach, mwy integredig ac ymatebol. Mae cyfleoedd i wella'r hydreiddedd rhwng llwybrau galwedigaethol ac academaidd drwy sicrhau cydweithio gwell rhwng addysg bellach, addysg uwch a chanolfannau ymchwil. Yn erbyn y cefndir hwn, bydd angen i'n rhaglen prentisiaethau fod yn fwy ymatebol nag erioed.

Mae'n hanfodol bod gennym system prentisiaethau sy'n ymatebol ac yn hyblyg i anghenion cyflogwyr ac unigolion. Bydd angen iddi fod yn rhan gydlynol o'n cymorth ehangach i bobl sy'n dechrau gweithio neu sydd am ddatblygu drwy eu gyrfaoedd. Mae'n rhaid inni feddwl yn wahanol am ein cymorth dysgu i unigolion er mwyn diwallu'r anghenion hyn yn y dyfodol. Mae angen i brentisiaethau weithio ochr yn ochr â Chyfrifon Dysgu Personol, rhaglenni dysgu i oedolion a rhaglenni cyflogadwyedd cymunedol fel cyfres gydlynus o gymorth sgiliau i bobl. Bydd angen inni ystyried sut y gellir addasu ein rhaglenni'n well i gyflawni heriau, gan gynnwys sut y gall cyflogwyr fuddsoddi mewn hyfforddiant ar y cyd.

Amcanion

Mae'r amcanion canlynol a'r camau gweithredu cysylltiedig yn creu fframwaith i'r Comisiwn gyflawni'r heriau economaidd a chymdeithasol a amlinellwyd yn gynharach. Bydd disgwyl i'r Comisiwn gyflawni'r amcanion hyn gan weithio gyda'r rhwydwaith o ddarparwyr prentisiaethau a rhanddeiliaid cysylltiedig. Caiff yr amcanion eu hamlinellu yn natganiad Llywodraeth Cymru o flaenoriaethau a fydd yn creu'r sail ar gyfer cynllun strategol y Comisiwn. Bydd y Comisiwn yn adrodd yn flynyddol ar gynnydd i Lywodraeth Cymru er mwyn sicrhau y caiff camau gweithredu eu cyflawni. Hefyd, bydd angen ystyried yr amcanion mewn trefniadau comisiynu yn y dyfodol ar gyfer y rhaglen prentisiaethau a ddatblygir gan y Comisiwn. Yn benodol, bydd angen i'r Comisiwn sicrhau y gall gwaith comisiynu yn y dyfodol ymateb i'r amcanion polisi fel y gellir cyflawni uchelgeisiau'r llywodraeth.

Mae partneriaeth gref â phartneriaid cymdeithasol yn hanfodol er mwyn cyflawni pob un o'r amcanion hyn, gan helpu i lywio a hyrwyddo'r broses o feithrin sgiliau ymysg cyflogwyr, gan hyrwyddo ac annog arferion cyflogaeth teg ledled Cymru.

Amcan 1: adeiladu cydnerthedd a chynaliadwyedd - addasu i'r amgylchedd economaidd newidiol

Rydym wedi gweld newidiadau sylweddol a chyflym dros y pum mlynedd diwethaf ac yn rhagweld bod mwy i ddod, yn enwedig o ddeallusrwydd artiffisial a thechnolegau newidiol a bydd angen i'n rhaglen prentisiaethau newid mewn ymateb i hynny. Mae angen i brentisiaethau fod yn ddigon hyblyg a chydnerth i addasu i'r amgylchedd economaidd newidiol. Mae cyfleoedd i addasu cynnwys rhaglenni prentisiaethau i'w galluogi i ymateb i sgiliau newydd a chynnwys dulliau rhagfynegi er mwyn llywio'r newidiadau sydd eu hangen i gefnogi twf.

Mae angen i'n rhaglen prentisiaethau gael ei hategu gan farchnad lafur a deallusrwydd sgiliau ynghyd ag ymchwil. Rydym yn disgwyl i ddarparwyr ddefnyddio amrywiaeth eang o dystiolaeth gan gynnwys tueddiadau economaidd ac anghenion a disgwyliadau cyflogwyr.  Mae gan Bartneriaethau Sgiliau Rhanbarthol rôl ganolog yn sicrhau dealltwriaeth ac yn ysgogi newid ar lefel ranbarthol fel bod y ddarpariaeth yn fwy addas ar gyfer ardaloedd twf economaidd. 

Mae angen cynyddol am gymysgedd gwahanol o sgiliau a chymwysterau wrth i gyflogwyr addasu eu busnesau i gyflawni cyfleoedd digideiddio, deallusrwydd artiffisial a chynaliadwyedd. Lle caiff fframweithiau a llwybrau prentisiaethau eu hadolygu, bydd angen i'r Comisiwn ymgorffori sgiliau ar gyfer cefnogi cynaliadwyedd a nodau hinsawdd-niwtral, hyrwyddo twf sero net sectorau gan gynnwys gweithgynhyrchu, trafnidiaeth, ynni a'r economi gylchol. 

Gwyddom fod y broses o drosglwyddo i economi wyrddach yn galw am lefelau uwch o gylchogrwydd, lle caiff adnoddau eu defnyddio'n barhaus gan ychwanegu gwerth economaidd ac osgoi gwastraff. Gall hyn greu cyfleoedd am swyddi a sgiliau mewn diwydiannau presennol a newydd o ynni adnewyddadwy i atgyweirio. Mae'r economi hon yn hanfodol ar gyfer cymdeithas carbon isel, lle gall y seilwaith sgiliau gefnogi prosiectau ynni adnewyddadwy a chartrefi cynaliadwy, er enghraifft.

Drwy sefydlu'r Comisiwn, ceir cyfle i uno systemau addysg a hyfforddiant yn well, lle gall prentisiaethau weithio ochr yn ochr â rhaglenni sgiliau ac addysg eraill i sicrhau mynediad di-dor i'r cynnydd cywir ar gyfer yr unigolyn hwnnw. Mae angen i sefydliadau addysg bellach, addysg uwch a darparwyr hyfforddiant annibynnol archwilio cyfleoedd i gydweithio er mwyn cefnogi cynnydd fertigol ar draws prentisiaethau.

Mae gan ymarferwyr, hyfforddwyr a mentoriaid mewn gweithleoedd ran i'w chwarae yn cyflwyno prentisiaethau cynhwysol o ansawdd uchel sy'n meithrin diwylliant o ddysgu gydol oes. Mae angen i ymarferwyr a hyfforddwyr gymryd rhan weithredol yn cynllunio datblygiad gyrfa â chyflogwyr; gan roi cyngor ar sut y gall busnesau reoli newid ac addasu i bwysau economaidd-gymdeithasol ehangach. Ers dechrau'r pandemig, mae darparwyr ac ymarferwyr wedi datblygu a mabwysiadu dulliau newydd drwy hyfforddiant digidol.

Camau gweithredu

  • Atgyfnerthu'r prentisiaethau sydd ar gael mewn sectorau sy'n bwysig yn strategol a gaiff ei lywio gan ddeallusrwydd sgiliau genedlaethol a rhanbarthol i alluogi gwneuthurwyr penderfyniadau, rhanddeiliaid a darparwyr i addasu a diweddaru rhaglenni prentisiaethau i sicrhau cydnerthedd economaidd-gymdeithasol.
  • Meithrin dulliau ar y cyd i fynd i'r afael â heriau cynaliadwyedd a digideiddio, lle mae addysg bellach, addysg uwch a rhaglenni prentisiaethau yn cefnogi ac yn hyrwyddo cynnydd dysgwyr ac yn cynnig llwybrau gyrfa cynhwysol.
  • Adolygu a diwygio fframweithiau a llwybrau prentisiaethau yn barhaus er mwyn diwallu anghenion sgiliau strategol a gaiff eu llywio gan y farchnad lafur a deallusrwydd sgiliau.
  • Gweithio gyda darparwyr i gefnogi datblygiad ymarferwyr prentisiaethau, hyfforddwyr a mentoriaid mewn gweithleoedd.
  • Diffinio sgiliau sy'n berthnasol i'r farchnad lafur ar gyfer y broses drawsnewid i fod yn wyrdd a gaiff eu hymgorffori mewn fframweithiau a llwybrau prentisiaethau i gyd-fynd â galwedigaethau a ddaw i'r amlwg ac sy'n datblygu, gan gefnogi ein Cynllun Gweithredu Sgiliau Sero Net

Amcan 2: mynd i'r afael â phrinder sgiliau a hyrwyddo twf - ailsgilio, uwchsgilio a chynnydd fertigol

Bydd newidiadau mewn technoleg a'r gallu i awtomeiddio gwaith yn rhoi gofyniad cynyddol ar gymorth ar gyfer ailhyfforddi ac uwchsgilio. Bydd awtomeiddio a deallusrwydd artiffisial yn effeithio ar yr holl strwythurau galwedigaethol ac felly mae'n debygol y bydd y galw am ailsgilio yn gymhleth ac yn effeithio ar bob lefel sgiliau. Bydd lledaeniad cyflym technoleg ym mhob galwedigaeth yn golygu y bydd angen dealltwriaeth fwy dynamig a soffistigedig o sgiliau'r gweithle wrth i strwythurau a llwybrau galwedigaethol gael eu hailddylunio o ganlyniad i'r newid mewn technoleg ac awtomeiddio. Bydd ein prentisiaethau yn ganolog i'n hymateb.

Er mwyn cyflawni'r heriau hyn, mae angen inni barhau i sicrhau bod ein model cyflawni yn cyd-fynd ag anghenion economaidd; gan gefnogi pobl i ailsgilio a diweddaru eu sgiliau mewn ymateb i newid proffiliau swyddi a chymwysterau a phroffesiynau sy'n dod i'r amlwg. Ar hyn o bryd, nid oes digon o brentisiaethau mewn sectorau lle mae'r prinder sgiliau yn acíwt, er enghraifft mewn TG a Digidol, ynni adnewyddadwy, datgarboneiddio a'r sector peirianneg uwch. Mae hefyd angen inni fynd i'r afael ag elfen sylweddol o'r bwlch sgiliau sy'n ymwneud â'r ‘canol coll’ fel y'i gelwir. Er mwyn cyflawni uchelgeisiau Cymru 4.0, mae angen inni fynd i'r afael â'r heriau o ran y niferoedd sy'n dilyn cymwysterau STEM ar Lefelau 4 i 5 (Diagram gwyntyll FfCChC 2023).

Mae'r canlyniadau i'r farchnad lafur o gymwysterau ar lefel is yn gymharol wael; nid yw gwaith am gyflog isel o anghenraid yn sicrhau carreg camu i swyddi â chyflog uwch a gall pobl gael eu dal mewn swyddi â chyflog isel. Mae cynnydd fertigol ar draws prentisiaethau o fudd i gyflogwyr a phrentisiaid fel ei gilydd. Mae prentisiaethau lefel mynediad yn cynnig buddiannau cyfyngedig i'r farchnad lafur ac yn golygu bod y cylch o brinder sgiliau a chyflog isel yn parhau. Mae'n hanfodol ein bod yn gwella cynnydd o brentisiaethau lefel isel i brentisiaethau lefel uwch i roi hwb i gyfleoedd bywyd pobl ac i hyrwyddo twf economaidd.

Byddem yn hoffi gweld cydweithio gwell rhwng y sector addysg bellach a'r sector addysg uwch, gan archwilio cyfleoedd a buddiannau sylweddol gweithio ar draws sectorau ar brentisiaethau. Gall cydweithio rhwng colegau a phrifysgolion helpu i greu system addysg fwy cydlynol, gwella llwybrau datblygu ar gyfer dysgwyr a helpu sefydliadu i weithredu'n fwy effeithlon ac effeithiol (Social Market Foundation (SMF): Study buddies? Competition and collaboration between higher education and further education - Social Market Foundation (smf.co.uk)).

Rydym eisoes yn cyfuno prentisiaethau gradd drwy ehangu i sectorau newydd a chynnydd llwybrau presennol sy'n cyflawni ein hymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu. Mae cynnydd fertigol a chydweithio ar draws sectorau wedi bod yn allweddol i lwyddiant y rhaglen; ar y fframwaith peirianneg a gweithgynhyrchu uwch mae mwy na hanner y dysgwyr wedi cyflawni prentisiaeth yn y gorffennol (Gwerthusiad o’r Rhaglen Gradd-brentisiaethau: adroddiad terfynol (crynodeb)). Yn yr un modd, mae cyfleoedd i'r Comisiwn a rhanddeiliaid gydweithio i gefnogi llwybr gyrfa unigolyn, er enghraifft drwy brentisiaethau a Chyfrifon Dysgu Personol ar adegau penodol o daith dysgwr. Er mwyn addasu i'r newid technolegol, mae angen i brentisiaethau a rhaglenni sgiliau eraill gefnogi pobl drwy gydol eu bywyd gwaith; nid oes raid i hyfforddiant sgiliau fod yn ddigwyddiad untro. Byddem yn hoffi i brentisiaethau a gynigir arwain at gymwysterau lefel uwch. Lle mae prentisiaethau yn arwain at gymwysterau lefel is, hoffem eu gweld yn cael eu cysylltu â chynnydd i brentisiaeth lefel uwch.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ehangu Prentisiaethau a Rennir ar sail sector ac ar sail ranbarthol gan gyflawni ein hymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu. Rydym wedi creu cynlluniau Prentisiaethau a Rennir newydd ar gyfer y sectorau digidol a chreadigol ac wedi ehangu cylch gwaith y rhaglen i roi cymorth gwerthfawr i bobl ag anableddau dysgu. Mae cyfleoedd i'r Comisiwn ystyried cynlluniau presennol i gyflawni ein huchelgeisiau sero net, fel y rheini sy'n cefnogi tai cymdeithasol cynaliadwy. 

Mae COVID-19 a'r argyfwng costau byw wedi effeithio ar gyfraddau llwyddiant y rhaglen lle y cafwyd gostyngiad yn nifer y bobl sy'n ei chwblhau. Mae rhesymau cymhleth dros y gostyngiad sy'n deillio o gyflogau ac amodau yn y diwydiant. Mae angen i ddarparwyr, partneriaid cymdeithasol a chyrff cyflogwyr gydweithio i oresgyn rhwystrau i gwblhau fel y gall prentisiaid adeiladu gyrfaoedd yn eu sectorau dewisol.

Mae nifer y swyddi lle mae angen sgiliau Cymraeg yn cynyddu, yn enwedig yn y sector cyhoeddus ac yn y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol. Mae llwyddiant ein strategaeth Cymraeg 2050 hefyd yn dibynnu ar gynnydd yn nifer yr ymarferwyr Cymraeg eu hiaith i gefnogi'r blynyddoedd cynnar a'r cyfnod addysg statudol.

Mae rôl y Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi cael ei hehangu i roi cymorth wedi'i dargedu i'r sectorau addysg bellach a phrentisiaethau. Mae Cynllun Gweithredu uchelgeisiol y Coleg ar gyfer Addysg Bellach a Phrentisiaethau cyfrwng Cymraeg yn nodi'r camau gweithredu sydd eu hangen i wella capasiti yn y sectorau hyn ac rydym yn buddsoddi cyllid ychwanegol er mwyn cefnogi darpariaeth mewn meysydd â blaenoriaeth. Mae gwaith yn mynd rhagddo gyda'r Coleg i nodi sectorau lle dylid datblygu fframweithiau newydd neu gapasiti ychwanegol ar gyfer prentisiaethau cyfrwng Cymraeg a dwyieithog. Hefyd, er mwyn hyrwyddo prentisiaethau cyfrwng Cymraeg a dwyieithog, yn ddiweddar gwnaethom gyflwyno model ariannu arloesol sy'n cymhwyso cynnydd ar gyfer darpariaeth ddwyieithog.

Camau gweithredu

Amcan 3: prentisiaethau cynhwysol sy'n gwella cyfleoedd bywyd pobl

Gwyddom fod anghydraddoldeb yn cael effaith negyddol ar dwf economaidd ac ar ganlyniadau cymdeithasol. Y ffordd orau o sicrhau twf yw gwella cyfranogiad pobl mewn gwaith cynaliadwy o ansawdd da, lle maent yn cael cyflog teg, a sicrhau y caiff hyn ei rannu'n deg ar draws ardaloedd daearyddol a demograffeg gwahanol, yn arbennig ymysg grwpiau a dangynrychiolir. Rydym yn hynod ymwybodol bod rhwystrau'n bodoli sy'n eithrio grwpiau rhag cael gafael ar brentisiaethau a'u cwblhau. Er ein bod wedi gwella'r amrywiaeth o brentisiaethau, mae rhwystrau penodol yn bodoli o hyd. Gall dysgwyr wynebu anawsterau wrth ddod o hyd i leoliadau gwaith addas, yn enwedig lle mae cyflogwyr yn credu y bydd angen rhoi cymorth ychwanegol. Gallant wynebu gwahaniaethu gwirioneddol neu a ganfyddir gyda llai o fodelau rôl mewn prentisiaethau o gymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol neu o grwpiau pobl anabl. Ar adegau, gwelwn nad yw cymorth sydd ar gael i ddysgwyr yn cael ei ddefnyddio'n llawn.

Mae'n hanfodol ein bod yn manteisio ar ddawn unigolion o bob cefndir ac yn gweithio'n rhagweithiol i ddileu unrhyw rwystrau sy'n atal pobl rhag cael gafael ar brentisiaethau. Ymysg y camau gweithredu mae'r canlynol: rhoi'r Cynllun Gweithredu ar Anabledd ar gyfer Prentisiaethau ar waith; ehangu'r rhaglen prentisiaethau a rennir i gefnogi pobl ag anableddau dysgu; a gwaith partneriaeth â rhwydwaith Llywodraeth Cymru o Hyrwyddwyr Cyflogaeth i Bobl Anabl. Wrth gydnabod bod angen gwneud rhagor o waith, ym mlwyddyn academaidd 2021 i 2022, nodwyd bod gan 10.1% o unigolion a ddechreuodd ar brentisiaeth anabledd a/neu anhawster dysgu, o gymharu â 5.8% ym mlwyddyn academaidd 2016 i 2017 (Rhaglenni dysgu prentisiaeth a ddechreuwyd: dangosfwrdd rhyngweithiol (cyhoeddwyd 23 Awst 2023 - cyrchwyd 15.09.23)). Cynyddodd cyfran yr unigolion a ddechreuodd ar brentisiaeth o leiafrifoedd ethnig i 4.9% ym mlwyddyn academaidd 2021 i 2022, i fyny o 2.7% yn 2016 i 2017 (Ibid).

Gall rhagfarn ar sail rhyw a stereoteipio rwystro pobl rhag cael gafael ar brentisiaethau ac mae prentisiaid benywaidd yn fwy tebygol o lawer o fod yn flaenllaw mewn sectorau cyflogau is fel iechyd a gofal cymdeithasol. Mae angen inni weithio gyda chyflogwyr a darparwyr drwy'r Contract Economaidd i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb a hyrwyddo cydraddoldeb a chynhwysiant i bob grŵp gwarchodedig. Er bod achos sylfaenol y rhaniad rhwng y rhywiau yn groestoriadol, mae hefyd angen inni ddod o hyd i ffyrdd i fynd i'r afael ag ef. Er mwyn chwalu stereoteipiau, mae Addysg Gyrfaoedd yn arbennig o bwysig mewn ysgolion a lleoliadau, yn enwedig ymysg menywod a dysgwyr o gefndiroedd difreintiedig. Felly, mae'n hanfodol bod y Comisiwn yn parhau i weithio gyda Gyrfa Cymru, i roi'r wybodaeth ddiweddaraf ar lwybrau prentisiaid i Ddysgwyr a'u dylanwadwyr i helpu i oresgyn stereoteipiau.   

Rydym yn buddsoddi cyllid ychwanegol i gefnogi darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn y sector prentisiaethau. Mae darparwyr prentisiaethau a'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn cydweithio i wella capasiti yn y sector a bydd angen i'r gwaith hwn barhau os byddwn yn creu mwy o gyfleoedd i bobl ifanc ddysgu a hyfforddi drwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd gan y Comisiwn ddyletswyddau penodol mewn perthynas â'r iaith Gymraeg a bydd angen inni weithio'n effeithiol â darparwyr a'r Coleg fel y gall mwy o bobl ifanc ddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg a datblygu eu sgiliau iaith Gymraeg. 

Byddwn yn parhau i annog pobl ifanc i ddilyn prentisiaethau fel rhan o'r Gwarant i Bobl Ifanc. Mae ein strategaeth marchnata a chyfathrebu yn canolbwyntio ar hyrwyddo prentisiaid a chyflogwyr newydd drwy ddathlu cyflawniadau a buddiannau prentisiaethau yn eang; meithrin ymwybyddiaeth o'r cyfleoedd sydd gan y rhaglen i'w cynnig i gyflogwyr o bob maint. Mae gennym wasanaethau cyngor llinell flaen drwy Cymru'n Gweithio, seilwaith cynghorydd a mentor Cymunedau dros Waith a Mwy a Chanolfannau Cyflogaeth mewn Addysg Bellach.  Rydym hefyd yn helpu pobl ifanc i drosglwyddo o addysg i'r farchnad lafur ac yn sicrhau bod sawl pwynt mynediad i oedolion a phobl ifanc, sy'n gysylltiedig â'u sefydliad neu ddarparwr presennol.

Camau gweithredu

  • Mynd i'r afael ag anghydraddoldeb economaidd: gwella canlyniadau'r farchnad lafur i bobl anabl, pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol, menywod a phobl â sgiliau isel.
  • Gwella cynhwysiant prentisiaethau i gefnogi pobl anabl a grwpiau sy'n agored i niwed i drosglwyddo o ysgolion i addysg bellach.
  • Hyrwyddo'r prentisiaethau sydd ar gael i bobl ifanc 16 i 24 oed gan gefnogi'r Warant i Bobl Ifanc.
  • Sicrhau bod prentisiaethau ar gael i unigolion o bob cefndir a bod ein gweithlu yng Nghymru yn fwy cynrychioliadol o'r cymunedau a wasanaethir gennym.
  • Hyrwyddo Gwaith Teg i bawb: defnyddio ein hopsiynau i wella'r cynnig i weithwyr, ac annog cyflogwyr i wneud gwaith yn well, yn decach ac yn fwy diogel.
  • Gwella cydraddoldeb darparwyr i gefnogi Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol.
  • Codi proffil prentisiaethau cyfrwng Cymraeg a dwyieithog i ddysgwyr a chyflogwyr drwy ymgysylltu â chyflogwyr i dynnu sylw at fuddiannau prentisiaethau dwyieithog a chyflogeion dwyieithog.
  • Dathlu cyflawniadau unigolion a chyflogwyr drwy'r Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau.