Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad a chefndir

Ym mis Chwefror 2020 comisiynodd Llywodraeth Cymru gwmni Wavehill a’r Sefydliad Dysgu a Gwaith i gynnal gwerthusiad ffurfiannol o’r Rhaglen Gradd-brentisiaethau yng Nghymru er mwyn asesu pa mor effeithiol ac effeithlon ydyw, ynghyd â’i heffaith.

Yn sgil nodi gradd-brentisiaethau yn amcan allweddol yng nghynllun polisi Prentisiaethau a Sgiliau Llywodraeth Cymru, rhoddodd Llywodraeth Cymru gyllid grant o tua £20 miliwn i Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) ar gyfer tair blynedd gyntaf Rhaglen Gradd-brentisiaethau, gyda disgwyl i’r prentisiaid cyntaf gofrestru yn y rhaglen ym mis Medi 2018.

Ar gyfer rhaglen 2018 i 2021, comisiynodd Llywodraeth Cymru fframweithiau gradd-brentisiaethau yn y maes Digidol, ac mewn Peirianneg a Gweithgynhyrchu Uwch. Nodwyd bod y llwybrau galwedigaethol canlynol o fewn y fframweithiau hynny yn cyd-fynd â blaenoriaethau Llywodraeth Cymru:

  • rheolaeth ac offeryniaeth
  • gwyddor data
  • peirianneg sifil
  • y cyfryngau digidol
  • peirianneg meddalwedd
  • peirianneg fecanyddol
  • peirianneg gweithgynhyrchu
  • seiberddiogelwch

Bu oedi cyn cwblhau’r fframwaith Peirianneg a Gweithgynhyrchu Uwch. O ganlyniad, roedd cynigion ar gyfer gradd-brentisiaethau ym mlwyddyn gyntaf y rhaglen yn gysylltiedig â’r fframwaith Digidol yn unig.

Ac eithrio un ohonynt, roedd pob sefydliad AU a ariennir gan CCAUC wedi cyflwyno cais i’r rhaglen ar gyfer y £3miliwn o gyllid a oedd ar gael ar gyfer blwyddyn academaidd 2018/19. Ym mis Mawrth 2019, gwahoddwyd sefydliadau a ariennir gan CCAUC i gyflwyno ceisiadau ar gyfer £5 miliwn o gyllid ar gyfer 2019/20 yn erbyn y tri maes blaenoriaeth, sef Digidol a Pheirianneg a Gweithgynhyrchu Uwch. Yn 2020 sicrhaodd y rhaglen £12 miliwn o gyllid ar gyfer 2020/21. Daeth cyfnod cyntaf y cyllid ar gyfer y Rhaglen Gradd-brentisiaethau i ben yn 2021.

Ym mis Mehefin 2021 gwnaeth Llywodraeth Cymru ymrwymiad pellach i gefnogi’r Rhaglen Gradd-brentisiaethau yng Nghymru ar gyfer 2021/22, gwerth £9.5m ar gyfer prentisiaethau sy’n parhau a rhai newydd yn y meysydd blaenoriaeth presennol.

Y gwerthusiad

Cynhaliwyd y gwerthusiad mewn dau gam. Roedd y cam cwmpasu yn cynnwys:

  • Cyfweliadau cwmpasu gyda 22 o gynrychiolwyr allweddol o Lywodraeth Cymru, CCAUC a phob un o’r sefydliadau AU a gyllidir gan CCAUC yng Nghymru.
  • Ymchwil desg i adolygu’r prif ddogfennau sy’n gysylltiedig â chynllun y rhaglen, ynghyd â thystiolaeth a gasglwyd fel rhan o ymchwiliad y Senedd i Radd-brentisiaethau ac adolygiad o lenyddiaeth ar radd-brentisiaethau a phrentisiaethau ar lefelau uwch yn fyd-eang ac yng ngwledydd eraill y Deyrnas Unedig.
  • Gweithdy gyda chynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru, CCAUC, a Phrifysgolion Cymru i drafod a chynorthwyo i ddatblygu theori newid ar gyfer y rhaglen.

Roedd cam olaf y gwerthusiad, a ddechreuodd yng ngwanwyn 2021, wedi cynnwys:

  • Cyfweliadau (ar ddiwedd haf/dechrau hydref 2021) gyda 40 o randdeiliaid sy’n ymwneud â rheoli a chynnal gradd-brentisiaethau ledled Cymru. Roedd y rhain yn cynnwys cynrychiolwyr o’r sefydliadau AU a ariennir gan CCAUC, yn ogystal â chynrychiolwyr o’r colegau AB hynny sy’n partneru â sefydliadau AU i gynnig gradd-brentisiaethau.
  • Arolwg ar-lein i 199 o brentisiaid (cyfradd ymateb o 34%) ar y rhaglen er mwyn casglu adborth ar eu rhesymau dros gofrestru ar radd-brentisiaeth a’u profiad ohoni, ynghyd â’u barn am werth y radd-brentisiaeth ar ôl ymuno â hi.
  • Cyfweliadau dilynol dros y ffôn (rhwng mis Medi a Hydref 2021) i rai o’r prentisiaid hynny a lenwodd yr arolwg, er mwyn pwyso a mesur yn fanylach eu profiad a’u taith drwy’r Rhaglen Gradd-brentisiaethau. Cynhaliwyd cyfweliadau ffôn yn llwyddiannus â 47 ohonynt (63% o’r rhai a ddywedodd y byddent yn fodlon gwneud hynny).
  • Cyfweliadau ffôn gyda chyflogwyr (ym mis Awst a mis Medi 2021) er mwyn casglu eu barn am eu profiad hwy o’r Rhaglen Gradd-brentisiaethau. Ymatebodd cyfanswm o 76 o gyflogwyr i’r arolwg, sy’n cynrychioli 38% o’r cyflogwyr sy’n ymwneud â’r Rhaglen.
  • Cyfweliadau gydag 11 o randdeiliaid y dywedodd CCAUC a Llywodraeth Cymru y byddent yn debygol o fod â safbwynt gwybodus, allanol/strategol ar y Rhaglen Gradd-brentisiaethau (ym mis Chwefror a mis Mawrth 2022).
  • Dadansoddi’r ffurflenni monitro a gyflwynwyd gan bob sefydliad AU i CCAUC er mwyn archwilio proffil, patrymau a thueddiadau cyflogwyr ac unigolion sy’n ymgysylltu â’r Rhaglen Gradd-brentisiaethau, gan ddadansoddi yn ôl fframwaith ac yn ôl sefydliad AU.

Mae’r gwaith hefyd wedi cyfrannu at ddatblygu fframwaith effaith amlinellol a model dadansoddi cost a budd i’w defnyddio yn y dyfodol yn y Rhaglen Gradd-brentisiaethau. Cynlluniwyd y dull hwn mewn ymgynghoriad â chynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru.

Crynodeb o’r canfyddiadau ac argymhellion

Yn dilyn ei lansio yn 2018, ac er oedi ar y dechrau gyda’r fframwaith peirianneg a gweithgynhyrchu uwch, mae’r Rhaglen Gradd-brentisiaethau wedi gwneud cynnydd cyson yn 2021, gyda mwy na 600 o brentisiaid wedi’u cofrestru ar hyn o bryd a’r rhaglen wedi’i chyflenwi gan wyth o’r naw sefydliad AU a ariennir gan CCAUC ynghyd â chwe choleg AB yng Nghymru.

Mae rhai sefydliadau AU yn dominyddu’r ddarpariaeth gradd-brentisiaethau, gyda 43% o’r gradd-brentisiaid sydd wedi’u cofrestru yn y fframwaith peirianneg a gweithgynhyrchu uwch wedi ymuno ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, a 28% arall ym Mhrifysgol De Cymru. Mae 32% o’r rheiny sydd wedi cofrestru yn y fframwaith digidol yn PCYDDS, a 24% ym Mhrifysgol Abertawe.

Cynllun y rhaglen a’i rhoi ar waith

Lansiwyd y rhaglen heb ymgyrch genedlaethol ac ychydig iawn o weithgarwch hyrwyddo cysylltiedig oherwydd pryderon y gallai hyn arwain at lefelau yn y galw a allai fod y tu hwnt i’r gyllideb oedd ar gael. Gan fod y rhaglen wedi’i lansio am gyfnod o dair blynedd yn unig, roedd rhai rhanddeiliaid (sefydliadau AU, colegau AB, a chyflogwyr) yn ei hystyried yn gynllun peilot ac felly angen pwyll a gofal, a hynny wedyn wedi cyfyngu ar lefelau eu buddsoddiad yn y cynllun (o ran personél, partneriaethau, seilwaith ac ymgeiswyr). Ar ddiwedd cyfnod cychwynnol y rhaglen tair blynedd yn 2021, roedd y rhaglen wedi denu 55% o’r targed a nodwyd ar gyfer nifer y gradd-brentisiaid (76% o’r targed yn y Fframwaith Peirianneg a 46% yn y Fframwaith Digidol).

Roedd dyfarniadau cyllid blynyddol, yn aml yn hwyr yn y flwyddyn academaidd, wedi atgyfnerthu’r ymdeimlad bod y rhaglen yn un dros dro a hyn hefyd ag oblygiadau i natur y cyflogwyr a oedd yn ymwneud â’r rhaglen. Arweiniodd at sefydliadau AU a cholegau AB yn tueddu i fynd ar drywydd cyflogwyr mwy o faint a allai gynnig nifer uwch o brentisiaid i gofrestru. Ymhellach, roedd hefyd wedi annog y sefydliadau hyn i dargedu cyflogwyr yr oedd ganddynt berthynas â hwy yn flaenorol (gan fod denu cyflogwyr at raglen nad oedd ganddi unrhyw sicrwydd o gyllid wedi bod yn fwy heriol gyda chyflogwyr heb berthynas flaenorol â sefydliadau AU).

Roedd cynllun y rhaglen hefyd wedi dylanwadu ar natur y cyflogeion a ddeuai yn brentisiaid yn y rhaglen. Roedd amserlenni tynn yn dilyn cyhoeddiadau cyllid yn cyfyngu ar y graddau y gellid cysylltu gradd-brentisiaethau ag ymgyrchoedd recriwtio cyflogwyr. Mae hyn wedi arwain at weithwyr presennol yn cynrychioli 86% o’r rhai sydd wedi cofrestru ar y rhaglen, gyda llai nag un o bob pump ohonynt (19%) yn iau na 21 oed.

Nodwyd bod ymwybyddiaeth o radd-brentisiaethau yn arbennig o wael ymhlith busnesau bach a chanolig eu maint. Roedd yr hyrwyddo gan sefydliadau AU wedi digwydd yn bennaf drwy ymgysylltu un-i-un â chyflogwyr a chysylltu â chyflogwyr trwy ddigwyddiadau diwydiannol. Roedd y dulliau hyn, fodd bynnag, yn mynd â llawer o amser ac, felly, yn gyfyngedig eu cyrhaeddiad.

Gallai ehangu cyrhaeddiad y rhaglen drwy ymgyrch farchnata ehangach hefyd esgor ar fuddion i uchelgeisiau’r rhaglen i ehangu cyfranogiad. Ar hyn o bryd, mae hwn yn faes y mae’r rhaglen yn ei chael yn anodd cyflawni yn erbyn ei huchelgeisiau. Mae adborth gan staff rheoli a chyflenwi yn awgrymu bod hyn wedi’i ysgogi’n rhannol gan orddibyniaeth y rhaglen ar gyflogaeth fel llwybr i mewn i’r rhaglen, a phroffil y dechreuwyr felly yn dibynnu ar broffil y gweithwyr sydd gan y cyflogwyr. Felly, gallai ehangu cyrhaeddiad y rhaglen i unigolion nad ydynt mewn cyflogaeth ar hyn o bryd hwyluso mynediad i’r rhaglen i broffil ehangach o unigolion.

Argymhellion

  • Mae Llywodraeth Cymru yn ei Rhaglen Lywodraethu wedi cyflwyno cynlluniau i barhau â gradd-brentisiaethau. Rhaid i’r gwaith parhaus o weithredu’r rhaglen gael ei alinio’n strategol ag ymrwymiad parhaus, hirdymor i fuddsoddi yn y rhaglen.
  • Er bod angen o bosibl i’r dyraniadau cyllid barhau i fod yn rhai blynyddol, dylid ymrwymo’r rhain yn gynharach yn y flwyddyn neu amlinellu’r cyllid posibl ar gyfer blynyddoedd dilynol.
  • Dylai Llywodraeth Cymru gefnogi’r hyrwyddo ar y rhaglen drwy gynnal ymgyrch i godi ymwybyddiaeth am radd-brentisiaethau ymhlith cyflogwyr a darpar brentisiaid ac mewn ysgolion a cholegau AB.
  • Dylai sefydliadau AU barhau i gefnogi’r hyrwyddo ar y rhaglen drwy ymgysylltu’n uniongyrchol â chyflogwyr, drwy ryngweithio un-i-un a meithrin cysylltiadau drwy fforymau cyflogwyr ynghyd ag ymgysylltu ag ysgolion a cholegau AB.
  • Os cyhoeddir rhaglen fuddsoddi strategol, dylid ystyried dangosyddion cynnydd a pherfformiad sy’n gysylltiedig â’r math o gyflogwr a’r math o brentisiaid er mwyn helpu i gynyddu niferoedd ac amrywiaeth yn y mathau o gyflogwyr a phrentisiaid sy’n cymryd rhan.

Cynnal y rhaglen

Mae’r Rhaglen Gradd-brentisiaethau wedi cael derbyniad cadarnhaol gan radd-brentisiaid, eu cyflogwyr, darparwyr AU, a rhanddeiliaid ehangach. Byddai mwyafrif helaeth y gradd-brentisiaid (96%; 187/195) yn argymell gradd-brentisiaeth i rywun arall, ac mae’r rhan fwyaf o gyflogwyr (80%; 61/76) yn rhagweld y byddant yn cofrestru staff ychwanegol yn y rhaglen.

Mae’r rhaglen wedi cael ei chanmol am esgor ag amrywiaeth o fanteision cadarnhaol, gan gynnwys cyfrannu at setiau sgiliau cyflogeion/gradd-brentisiaid, a, thrwy hynny, wedi dod â buddion i’w cyflogwyr megis gweithlu mwy medrus a chadw staff yn well. Câi’r rhaglen ei chanmol yn aml gan gyflogwyr am fod yn gyfle i “bawb elwa”, yn gyflogeion/gradd-brentisiaid, cyflogwyr, a Chymru.

Mae’r Rhaglen Gradd-brentisiaethau hefyd wedi cryfhau’r bartneriaeth rhwng AB ac AU, er mai prin yw’r enghreifftiau o bartneriaethau newydd yn cael eu ffurfio mewn ymateb i’r rhaglen. Yn ogystal, mae’r llwybrau dysgu i Radd-brentisiaethau i’w gweld yn eithaf sefydledig yn y fframwaith peirianneg a gweithgynhyrchu uwch, gyda dros hanner eisoes wedi gwneud prentisiaeth yn flaenorol.

Roedd pandemig COVID-19 wedi effeithio ar gynnal y rhaglen. Ysgogodd ddefnyddio dulliau a phrosesau newydd, a hynny wedi arwain at fanteision (mwy o hyblygrwydd, mwy o effeithlonrwydd) a heriau (mwy o ynysu ac yn anoddach gwahanu bywyd gwaith a chartref).

Meysydd ar gyfer gwella

Er bod y rhaglen wedi cael derbyniad cadarnhaol gan gyflogwyr, rhanddeiliaid ehangach, a gradd-brentisiaid, mae sawl maes lle byddai’r rhaglen yn elwa o gael ei mireinio ymhellach.

Gwella’r llwyth gwaith

Cyn cofrestru, pryder pennaf y prentisiaid oedd y cydbwysedd rhwng gwaith a bywyd – ac yn wir roedd sail gadarn i’w pryder gan i gyfran fawr o radd-brentisiaid (67%; 131/199) ddweud eu bod wedi ei chael yn anodd rheoli’r llwyth gwaith rhwng eu gradd-brentisiaeth a galwadau eu gwaith cyflogedig. Hyn hefyd oedd un o’r prif heriau a adroddwyd gan gyflogwyr.

Er bod llawer o radd-brentisiaid yn dal i fod yn gadarnhaol ynghylch y rhaglen er gwaethaf yr heriau hyn, roedd tystiolaeth bod trafferthion i gael cydbwysedd yn eu llwyth gwaith wedi arwain at straen ymhlith rhai gradd-brentisiaid. At hynny, cafwyd nifer fach o adroddiadau gan radd-brentisiaid, eu cyflogwyr a staff addysgu am achosion lle’r oedd problemau cydbwyso gwaith ac astudio wedi arwain at effeithio ar les gradd-brentisiaid.

Daeth tystiolaeth hefyd i’r fei fod cryn amrywiaeth yn yr amser yr oedd gradd-brentisiaid wedi’i neilltuo iddynt eu hunain ar gyfer astudio. Mewn rhai lleoliadau cyflogaeth, roedd gradd-brentisiaid yn cael diwrnodau astudio â thâl yn rheolaidd i gefnogi eu hastudiaethau, tra bod disgwyl i radd-brentisiaid eraill weithio i ad-dalu eu horiau. Ar hyn o bryd mae’r rhaglen yn gosod disgwyliad ar gyflogwyr i ryddhau staff am 20% o’u hwythnos waith. Fodd bynnag, awgryma adborth gan radd-brentisiaid a staff cyflenwi a rheoli fod y graddau y mae cyflogwyr yn cadw at hyn yn amrywio.

Argymhellion

  • Byddai o fudd i brentisiaid gael eglurder ynghylch disgwyliadau cyflogwyr fel rhan o’r “fargen” Gradd-brentisiaeth, a gallai hyn helpu i sicrhau mwy o gysondeb o ran cael eu rhyddhau i astudio am ddiwrnod i wneud y radd-brentisiaeth.
  • Dylid cryfhau’r monitro ar y cyfraddau cwblhau a chadw, a hynny ledled y proffiliau cyflenwi a lleoliadau cyflogwyr er mwyn pennu arferion gorau wrth gefnogi prentisiaid.

Dywedodd bron i chwarter y prentisiaid a gymerodd ran yn y cyfweliadau dros y ffôn y byddent yn dymuno gweld cyfnod cynnal y cwrs yn cael ei ymestyn neu gael amser ychwanegol i gyflwyno aseiniadau. Wrth i’r rhaglen symud yn ei blaen, gall hwn fod yn faes y gellid ei archwilio ymhellach i weld a ellir datblygu arfer gorau o ran modelau cyflenwi sy’n diwallu anghenion cyflogwyr yn ogystal â chefnogi cydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith ymysg gradd-brentisiaid.

Mae hefyd yn bosibl bod problemau llwyth gwaith wedi’u gwaethygu mewn rhai achosion gan orddibyniaeth cyflogwyr ar roi gweithwyr y maent yn eu cyflogi ar hyn o bryd ar y rhaglen. Roedd y rhan fwyaf o’r gradd-brentisiaid yn gyflogedig cyn cofrestru ar y Rhaglen Gradd-brentisiaethau, ac ymddengys bod llawer o’r gweithwyr hyn ar lefelau cymharol uchel yn eu sefydliad (gan adlewyrchu lefel y ddarpariaeth sgiliau a gyflwynir drwy’r prentisiaethau). Efallai bod rhai o’r rolau hyn wedi bod yn fwy heriol i gyflogwyr lenwi ar eu hôl, a byddai hyn yn debygol o fod wedi bod yn llai o broblem mewn achosion o greu rolau newydd ar gyfer y Rhaglen Gradd-brentisiaethau.

Cyfleoedd i wella’r aliniad rhwng y cwrs a dysgu yn y gwaith

Dywedodd traean y gradd-brentisiaid (36%; 14/47) yr hoffent gael cynnwys y cwrs i fod yn fwy perthnasol i’w swydd neu ddiwydiant. Ar hyn o bryd mae cryn amrywiaeth yn y ffordd y mae gradd-brentisiaethau yn ymdrin â’r elfen dysgu seiliedig ar waith a sut maent yn ymgysylltu â chyflogwyr.

Roedd tystiolaeth glir bod sefydliadau AU,, gan mwyaf, yn gweithio’n agos â chyflogwyr i ddeall eu gofynion ac yn alinio’r cwrs er mwyn bodloni’r gofynion hynny. Mewn llawer o sefydliadau AU, defnyddid adegau rhoi diweddariadau i gyflogwyr a Phaneli Cyswllt Diwydiannol i ddeall gofynion cyflogwyr. Fodd bynnag, amrywiai hyn ledled y sefydliadau AU, ac nid oedd cyflogwyr bob amser yn teimlo eu bod wedi gallu dylanwadu ar gynnwys y cwrs. Yn wir, dywedodd 39% (29/74) o gyflogwyr nad oeddent wedi gallu dylanwadu ar gynnwys y cwrs.

Dywedodd sefydliadau AU, fodd bynnag, fod hwn yn faes heriol neu’n densiwn wrth gynnal gradd-brentisiaethau. Rhaid i sefydliadau AU fynd i’r afael ag anawsterau cynnig cwrs sydd angen bodloni gofynion gwahanol (ac weithiau gofynion croes i’w gilydd) y gwahanol gyflogwyr, yn ogystal â fframweithiau’r prentisiaethau a gofynion cyrff proffesiynol, statudol a rheoleiddio (PSRB).

Ehangu cyrhaeddiad Gradd-brentisiaethau

Dengys y dystiolaeth fod y rheiny sy’n gwneud gradd-brentisiaethau yn llawer mwy tebygol o fod y genhedlaeth gyntaf o’u teulu i fynd i addysg uwch o gymharu â’r rhai sy’n gwneud graddau cyntaf traddodiadol. Y tu hwnt i hyn, prin yw’r arwydd, ar lefel y rhaglen gyfan, o lwyddiant o ran ehangu cyfranogiad (sy’n rhannol gysylltiedig â rhai o’r heriau yn ymwneud â chynllun y rhaglen fel yr amlinellwyd uchod). Fodd bynnag, mae rhai sefydliadau AU a cholegau AB wedi cael llawer mwy o lwyddiant yn ehangu cyfranogiad nag eraill, gan awgrymu bod lle i rannu perfformiad ac arfer da ymhlith sefydliadau AU i gynorthwyo â’r cynnydd yn erbyn yr agenda hon.

Recommendation

  • Dylid ystyried cael sefydliadau AU i rannu cynnydd a pherfformiad ymysg ei gilydd o ran dangosyddion yn ymwneud ag ehangu cyfranogiad trwy gymuned ymarfer.

Canlyniadau ac effaith

Mae’r rhan fwyaf o’r prentisiaid a gymerodd ran yn y gwerthusiad yn dal i fod yng nghanol eu gradd-brentisiaeth, ac o’r herwydd mae’n bosibl ei bod yn rhy fuan i wireddu canlyniadau diriaethol, ond wedi dweud hynny roedd:

  • 45% yn teimlo’n fwy hyderus ynghylch eu rôl ac yn well am ei gwneud
  • 28% wedi cael dyrchafiad, a 29% wedi cael cyfrifoldebau ychwanegol

Dywedodd dau o bob tri o’r cyflogwyr fod cymryd rhan yn y rhaglen wedi cynyddu cyfraddau cynhyrchiant ymysg gradd-brentisiaid, a phe na bai gradd-brentisiaeth yn bodoli, ni fyddai 36% o brentisiaid wedi gwneud cwrs arall (sy’n cynyddu i 41% ymysg y rheiny yn y fframwaith digidol).

Gyda’i gilydd, mae’r dangosyddion cychwynnol hyn yn awgrymu effaith ychwanegol net gref yn dod i’r amlwg o’r rhaglen ac yn dangos pwysigrwydd sefydlu fframwaith effaith mwy cadarn ar ei chyfer.

Argymhelliad

  • Dylid bwrw ymlaen â’r fframwaith effaith cyn gynted â phosibl er mwyn gallu cynnal asesiad cadarn o effaith ychwanegol net y Rhaglen Gradd-brentisiaethau, o gymharu â darpariaethau eraill a gynigir.

Datblygiad Gradd-brentisiaethau i’r dyfodol

Mynegodd sefydliadau AU a chyflogwyr ddymuniad i ehangu amrywiaeth y gradd-brentisiaethau sydd ar gael yn ogystal â chodi lefel gradd-brentisiaethau i Lefel 7 NQF (cyfwerth â gradd meistr).

Mae rhanddeiliaid yn pryderu y bydd methu ag ehangu arlwy’r gradd-brentisiaethau yng Nghymru yn arwain at nifer cynyddol o gyflogwyr yn anfon eu gweithwyr i Loegr i gael y ddarpariaeth honno.

Byddai angen cyllid ychwanegol ar gyfer unrhyw ehangu ar y Rhaglen Gradd-brentisiaethau. Os nad oes cyllid ychwanegol gan y sector cyhoeddus ar gael ar gyfer yr ehangu hwn, mae’n debygol y bydd angen ei godi naill ai o gyfraniadau ychwanegol gan gyflogwyr neu gan y gweithwyr sy’n gwneud y gradd-brentisiaethau.

Manylion cyswllt

Awduron yr adroddiad: Oliver Allies, Chloe Maughan, Declan Turner

Mae’r safbwyntiau a fynegwyd yn yr adroddiad hwn yn perthyn i’r ymchwilwyr ac nid o reidrwydd Llywodraeth Cymru.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:
Heledd Jenkins
Ebost: cyflogadwyedd.sgiliau.ymchwil@llyw.cymru

Rhif Ymchwil Gymdeithasol: 7/2023
ISBN digidol 978-1-80364-833-0

Image
GSR logo