Neidio i'r prif gynnwy

Mae Bwrdd Cynghori ar Gynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân yn cynghori ar gynlluniau pensiwn diffoddwyr tân.

Mae'n cynnwys:

Cynrychiolwyr cyflogeion

  • Cymdeithas y Swyddogion Tân
  • Cymdeithas yr Arweinwyr Tân
  • Cymdeithas y Gwasanaethau Tân ac Achub
  • Undeb y Brigadau Tân 

Cynrychiolwyr cyflogwyr

  • Awdurdod Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru
  • Awdurdod Tân ac Achub De Cymru
  • Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru

Mae mynychwyr rheolaidd hefyd yn cynnwys

  • Llywodraeth Cymru (sydd hefyd yn gweithredu fel Ysgrifenyddiaeth)
  • Cynghorwyr Pensiwn Cymdeithas Llywodraeth Leol
  • Adran Actiwari'r Llywodraeth (drwy wahoddiad pan fo angen)

Y Bwrdd a'i aelodau yw'r personau y byddai Gweinidogion Cymru fel arfer yn disgwyl ymgynghori â hwy cyn gwneud rheoliadau cynlluniau pensiwn o dan adran 21(1) o Ddeddf Pensiynau'r Gwasanaeth Cyhoeddus 2013. Mae ymgynghoriadau ffurfiol ar faterion pensiwn hefyd ar gael i’r cyhoedd yn aml, ac yn agored i unrhyw un sydd am ymateb.