Neidio i'r prif gynnwy

Crynodeb o ddiben y bwrdd a sut y bydd yn gweithio.

Sefydlwyd Bwrdd Cynghori Cynllun Pensiwn Diffoddwyr Tân Cymru o dan Reoliadau 10 i 13 o Reoliadau Cynllun Pensiwn Diffoddwyr Tân (Cymru) 2015.

Diben

Nod ac amcanion Bwrdd Cynghori Cynllun Pensiwn Diffoddwyr Tân Cymru yw:

  • cynghori Gweinidogion Cymru, ar ba mor fuddiol yw newidiadau i gynllun
  • pensiwn diffoddwyr tân 2015 ac unrhyw Gynllun cysylltiedig (y cynlluniau cysylltiedig yw cynlluniau pensiwn diffoddwyr tân 1992 a 2007)
  • cynghori Gweinidogion Cymru a Rheolwr y Cynllun ar unrhyw fater arall yr ystyria’n berthnasol i weithrediad effeithiol ac effeithlon y cynlluniau hyn
  • cynghori’r byrddau pensiwn lleol ar weinyddu a rheoli’r cynllun yn effeithiol ac effeithlon, ynghyd ag unrhyw gynllun cysylltiedig ac unrhyw gronfa bensiwn
  • cynghori Gweinidogion Cymru ar elfennau o’r broses brisio, gan gynnwys y rhagdybiaethau prisio a argymhellir gan Adran Actiwari'r Llywodraeth ac a nodir gan Weinidogion Cymru
  • gwneud argymhellion ar addasiadau i’r cynlluniau pe digwydd i’r costau fynd y tu hwnt i uchafswm costau’r cyflogwr

Ymgynghoriad

Bydd Gweinidogion Cymru yn defnyddio aelodau’r Bwrdd fel y cysylltiadau allweddol y byddant yn ymgynghori â nhw cyn cyflwyno’r newidiadau i’r cynllun. Gellir cyflawni’r ymgynghoriad hwn drwy bapurau trafod mewn cyfarfodydd penodol cyn neu ar ôl prosesau ymgynghori ffurfiol.

Bydd yr holl newidiadau i reoliadau pensiynau diffoddwyr tân hefyd yn destun ymgynghoriad cyhoeddus llawn. Bydd Llywodraeth Cymru yn dod ag unrhyw ymgynghoriad cyhoeddus o’r fath i sylw’r sefydliadau a gynrychiolir ar y Bwrdd fel y rhanddeiliaid allweddol ar bensiynau diffoddwyr tân yng Nghymru. Felly, bydd yn cynnig y cyfle i ymateb ar y cyd drwy’r Bwrdd ei hun, neu’n unigol, ar ran eu sefydliadau cynrychioliadol.

Trefniadau cadeirio/aelodaeth

Bydd aelodau Bwrdd Cynghori Cynllun Pensiwn Diffoddwyr Tân Cymru yn cynnwys Cadeirydd annibynnol; ac o leiaf 2 ond nid mwy na 12 o bobl i gael eu henwebu gan eu sefydliadau cynrychioliadol a’u penodi gan Weinidogion Cymru, fel a ganlyn.

Aelodau:

  • Cadeirydd Annibynnol
  • Cynrychiolwyr Cyflogwyr unigolion a benodir gan Weinidogion Cymru
  • Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru
  • Awdurdod Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru
  • Awdurdod Tân ac Achub De Cymru

Cynrychiolwyr Cyflogeion unigolion a benodir gan Weinidogion Cymru

  • Undeb y Brigadau Tân x 2
  • Cymdeithas yr Arweinwyr Tân
  • Cymdeithas y Swyddogion Tân
  • Cymdeithas Gwasanaethau Tân ac Achub

Mynychwyr eraill

Yn unol â chytundeb aelodau’r bwrdd, gall Cadeirydd Bwrdd Cynghori Cynllun Pensiwn Diffoddwyr Tân Cymru benodi ymgynghorwyr nad ydynt yn aelodau o Fwrdd Cynghori Cynllun Pensiwn Diffoddwyr Tân Cymru i fynychu cyfarfodydd o’r Bwrdd ac unrhyw is-bwyllgorau ar wahoddiad.

Bydd mynychwyr rheolaidd eraill hefyd yn cynnwys:

  • Llywodraeth Cymru (sydd hefyd yn cymryd rôl yr Ysgrifenyddiaeth)
  • Swyddogion Awdurdod Tân ac Achub (fel ymgynghorwyr i Aelodau Awdurdod Tân ac Achub)
  • Cynghorwyr Pensiwn Cymdeithas Llywodraeth Leol
  • Adran Actiwari'r Llywodraeth (yn ôl gwahoddiad pan fo angen)

Dirprwyo

Dylai aelodau’r bwrdd wneud pob ymdrech i fod yn bresennol mewn cyfarfodydd. Os nad yw hyn yn bosibl, gellir trefnu dirprwy gyda chaniatâd blaenorol y Cadeirydd.

Mae aelodau’r Bwrdd yn cynrychioli naill ai gyflogwyr neu gyflogeion, yn unol â rheoliadau’r cynllun. Ni all unrhyw aelod na pherson sy’n dirprwyo dros aelod gynrychioli cyflogwr yn ogystal â chyflogeion mewn unrhyw gyfarfod.

Rhaid i gynrychiolwyr aelodau allu dangos eu gallu i fynychu a chwblhau’r gwaith paratoi angenrheidiol ar gyfer cyfarfodydd a chymryd rhan mewn hyfforddiant yn ôl y gofyn.

Gwrthdaro buddiannau

Rhaid i aelodau Bwrdd Cynghori Cynllun Pensiwn Diffoddwyr Tân Cymru roi gwybod yn ysgrifenedig ar unwaith i Weinidogion Cymru (trwy Ysgrifenyddiaeth y Bwrdd) am unrhyw wrthdaro buddiannau posibl a allai fod ganddynt. Serch hynny, nid yw bod yn aelod o Gynllun pensiwn diffoddwyr tân 2015 (neu o unrhyw Gynllun cysylltiedig) yn ei hun yn gyfystyr â gwrthdaro o’r fath.

Y broses ar gyfer cynghori bwrdd cynghori'r cynllun

Gan nad yw’r Bwrdd yn meddu ar unrhyw awdurdod i wneud penderfyniadau, nid oes cworwm ganddo. Serch hynny, mae’r holl aelodau neu eu dirprwyon enwebedig yn cael eu hannog yn gryf i fynychu. Os cred y Cadeirydd nad yw’r bobl sy’n bresennol yn cynrychioli’n llawn ac yn deg yr ystod o safbwyntiau a allai fodoli ymhlith y cyflogwyr neu’r cyflogeion yn eu cyfanrwydd, gall ddod â’r cyfarfod i ben.

Bydd y Cadeirydd yn ceisio sicrhau cytundeb ar yr holl faterion. Os na lwyddir i wneud hynny, dylai’r holl gyngor a ddarperir gan y Bwrdd adlewyrchu unrhyw safbwyntiau anghytunus ymhlith ei aelodau a dylai’r Cadeirydd eu cofnodi.

Amlder/Strwythur y cyfarfodydd

Fel arfer, bydd Bwrdd Cynghori’r Cynllun yn cwrdd dair gwaith y flwyddyn, er efallai y bydd angen cyfarfodydd yn fwy rheolaidd o bryd i’w gilydd (i drafod materion sy’n ymwneud â phrisio’r cynllun er enghraifft). Gall fod amgylchiadau lle y bydd angen trefnu cyfarfodydd ar fyr rybudd (cwpwl o wythnosau). Caiff cyfarfodydd o’r math hwn eu trefnu yn ôl disgresiwn y Cadeirydd.

Hyd y cyfarfodydd fydd oddeutu 2 awr (yn unol ag eitemau’r agenda); mae croeso i aelodau’r Grŵp gysylltu â’r ysgrifenyddiaeth rhwng cyfarfodydd os ydyn nhw am gynnig mater i’w gynnwys ar yr agenda.

Fel arfer, cynhelir y cyfarfodydd yn rhithwir dros Teams, ond gall fod adegau pan fydd yn ofynnol cynnal cyfarfodydd wyneb yn wyneb yn Swyddfeydd Llywodraeth Cymru neu mewn lleoliadau eraill ledled Cymru.

Hyfforddiant

Bydd disgwyl i aelodau fynychu hyfforddiant a ddarperir gan y Bwrdd o bryd i’w gilydd. Dyma fydd y sefyllfa yn enwedig cyn i’r Bwrdd gynnal trafodaethau a rhoi cyngor i Weinidogion Cymru ynghylch prisiad y cynllun. Gellir cynnal hyfforddiant fel rhan o gyfarfod a drefnwyd neu fel digwyddiad ar wahân.

Papurau a chofnodion

Yn unol ag ymrwymiad Llywodraeth Cymru i fod yn agored, byddwn yn cyhoeddi ein cofnodion ar ein gwefan cyn gynted â phosibl ar ôl y cyfarfod perthnasol. Mae croeso i aelodau rannu’r papurau gyda’u Byrddau Pensiwn lleol, er y gall achlysuron godi pan na fydd hyn yn briodol. Pe digwydd achlysuron o’r fath, bydd y Cadeirydd yn rhoi gwybod i aelodau beidio â’u datgelu.

Is-grwpiau

Efallai y bydd yn briodol sefydlu is-grwpiau er mwyn ystyried materion penodol. Bydd is-grwpiau’n gweithredu ar sail ‘yn ôl y gofyn’ gan fod yn atebol i Fwrdd Cynghori’r Cynllun.