Cylch gorchwyl
Cylch gorchwyl y Bwrdd Gweithredu Strategaeth Gwaith Ieuenctid.
Cynnwys
Cefndir
Sefydlwyd y Bwrdd Gweithredu Strategaeth Gwaith Ieuenctid (‘y Bwrdd Gweithredu’) ym mis Medi 2022 ac fe’i sefydlwyd i adeiladu ar waith y Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro a gyhoeddodd ei adroddiad terfynol ar 16 Medi 2021, sef ‘Sicrhau model cyflawni cynaliadwy ar gyfer gwasanaethau gwaith ieuenctid yng Nghymru’. Mae’r adroddiad yn cynnwys 14 o argymhellion. Mae’r argymhellion hyn yn bellgyrhaeddol a bydd angen eu hystyried ymhellach i nodi camau gweithredu ac adnoddau priodol ar gyfer cyflawni.
Bydd disgwyl i’r Bwrdd Gweithredu weithio gyda phobl ifanc, y sector gwaith ieuenctid a Llywodraeth Cymru i archwilio’r argymhellion ymhellach a dechrau gweithio tuag at weithredu’r argymhellion hynny.
Darllenwch ddatganiad ysgrifenedig Gweinidog Addysg a'r Gymraeg am yr argymhellion.
Bydd aelodau’r Bwrdd Gweithredu yn gweithio yn unol â ‘Saith Egwyddor Bywyd Cyhoeddus’ Nolan (GOV.UK).
Rôl y Bwrdd
Bydd cylch gorchwyl y Bwrdd Gweithredu yn cynnwys:
- Gweithio gyda Phwyllgor Pobl Ifanc y Gangen Gwaith Ieuenctid i nodi’r ffyrdd gorau o glywed lleisiau pobl ifanc a gweithredu arnynt, drwy waith y Bwrdd a gwaith unrhyw gorff newydd posibl.
- Ystyried a chymryd camau i sicrhau bod rhanddeiliaid yn gallu cyfrannu at waith y Bwrdd Gweithredu, a ddylai gynnwys pob sefydliad strategol allweddol yn y sector gwaith ieuenctid.
- Ystyried allbwn unrhyw adolygiad o ran cyllido gwaith ieuenctid, gan gynnwys yr effaith y gallai hynny ei chael ar argymhellion y Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro.
- Ystyried effaith unrhyw newidiadau arfaethedig i ddeddfwriaeth fel ffordd o gryfhau a chynnal gwaith ieuenctid yng Nghymru, yn enwedig o ran diffiniadau o waith ieuenctid, gweithiwr cymorth ieuenctid a gweithiwr ieuenctid.
- Cynghori ar ymchwil neu wybodaeth bellach sy’n ofynnol i gryfhau’r sylfaen dystiolaeth ar gyfer gwaith ieuenctid ac i lywio gwaith y Bwrdd Gweithredu ac unrhyw gorff posibl yn y dyfodol.
- Gan gadw’r strwythurau presennol mewn cof, ystyried trefniadau datblygu, recriwtio a chadw staff y gweithlu gwaith ieuenctid, strwythur gyrfa ar gyfer y gweithlu a’r gwaith o hyrwyddo’r proffesiwn gwaith ieuenctid.
- Ystyried canlyniadau’r cynlluniau peilot iaith Gymraeg presennol a sut y gellid defnyddio’r rhain i gryfhau a chynyddu gwasanaethau gwaith ieuenctid a ddarperir drwy gyfrwng y Gymraeg.
- Ystyried ymhellach yr angen am gyfathrebu a marchnata clir i sicrhau bod dealltwriaeth o werth ac effaith gwaith ieuenctid ar draws y sector gwaith ieuenctid a thu hwnt.
- Cefnogi’r gwaith a wneir i weithredu argymhellion eraill y Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro.
Ystyriaethau eraill ar gyfer y Bwrdd Gweithredu
- Darparu her a chraffu adeiladol mewn perthynas â pholisïau a chynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer darparu a chyflawni gwasanaethau gwaith ieuenctid, gan gynnwys ar draws meysydd portffolio eraill.
- Cefnogi a chryfhau trefniadau gweithio mewn partneriaeth a threfniadau cydweithio rhwng y sector gwaith ieuenctid statudol a’r sector gwaith ieuenctid gwirfoddol i sicrhau’r canlyniadau gorau posibl ar gyfer pobl ifanc.
Aelodaeth
Mae gan y Bwrdd Gadeirydd annibynnol. Penodir aelodau’r Bwrdd drwy gystadleuaeth agored a theg i sicrhau cymysgedd eang o sgiliau a gwybodaeth sy’n cynnwys y canlynol, ymysg eraill:
- datblygu polisi yn seiliedig ar dystiolaeth a gwneud defnydd effeithiol o ddata i lywio’r broses o ddatblygu strategaeth
- materion iechyd meddwl a llesiant a sut maent yn effeithio ar bobl ifanc
- gwaith ieuenctid digidol a/neu cynhwysiant digidol
- cyllid, adnoddau a chomisiynu
- cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant
- Y Gymraeg
- CCUHP, llais pobl ifanc a chyfranogiad
Gall aelodau ychwanegol gael eu cyfethol i’r Bwrdd Gweithredu yn y dyfodol i fynd i’r afael â bylchau penodol mewn gwybodaeth, arbenigedd neu brofiad a nodir.
Mae gan y Pwyllgor Pobl Ifanc (y Pwyllgor) rôl bwysig i’w chwarae ochr yn ochr â gweithredu’r argymhellion. Bydd y Bwrdd Gweithredu yn gwahodd cynrychiolwyr o’r Pwyllgor i’w gyfarfodydd. Bydd y Pwyllgor yn cael y dewis i fynychu’n bersonol neu ymuno o bell.
Diogelu pobl ifanc
Y Cadeirydd yw’r arweinydd diogelu dynodedig ar gyfer y Bwrdd Gweithredu. Bydd y Bwrdd Gweithredu yn ymddwyn yn unol â’r egwyddorion diogelu a nodir gan Diogelu Cymru (Gweithdrefnau Diogelu Cymru).
Dull Gweithredu
Mae’r Bwrdd Gweithredu yn adrodd i Weinidog y Gymraeg ac Addysg. Disgwylir iddynt gynrychioli barn pobl ifanc a’r sector hefyd wrth lywio’r gwaith cyflawni yn erbyn argymhellion polisi’r Bwrdd Dros Dro. Bydd hyn yn cynnwys ymgysylltu’n uniongyrchol â phobl ifanc a’r sector, gan gynnwys drwy’r Pwyllgor Pobl Ifanc a’r Grwpiau Cyfranogiad Gweithredu a sefydlwyd i gefnogi a llywio’r gwaith hwn.
Mae’r Bwrdd Gweithredu yn cydnabod bod angen iddynt ystyried llesiant cymdeithasol, diwylliannol, economaidd ac amgylcheddol pobl ifanc yng Nghymru er mwyn manteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd a deall gwir effeithiau’r penderfyniadau y maent yn eu gwneud. Bydd y Bwrdd Gweithredu yn sicrhau bod yr ‘egwyddor datblygu cynaliadwy’, a amlinellir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, yn cael ei hymgorffori yn eu proses o wneud penderfyniadau a’u hystyriaethau yn hyn o beth.
Mae’r egwyddor yn nodi pum ffordd o weithio, y bydd y Bwrdd Gweithredu yn eu cymhwyso i’r broses o wneud penderfyniadau, gan olygu eu bod yn ystyried anghenion hirdymor, yn gweithio i atal problemau rhag codi neu waethygu, yn sicrhau eu bod yn integreiddio anghenion y sector gwaith ieuenctid a’u bod yn cydweithredu â phobl ifanc, y sector gwaith ieuenctid a rhanddeiliaid ehangach ac yn ymgysylltu â hwy.
Bydd y Bwrdd Gweithredu yn cyfarfod ar y cyd bob chwarter o leiaf. Bydd aelodau’r Bwrdd Gweithredu hefyd yn cymryd rhan mewn trafodaethau ehangach gyda grwpiau eraill. Mae disgwyl i’r aelodau gyfrannu isafswm o 12 diwrnod y flwyddyn i waith y Bwrdd Gweithredu.
Bydd Llywodraeth Cymru yn darparu swyddogaeth ysgrifenyddol ar gyfer y cyfarfodydd. Caiff papurau’r Bwrdd Gweithredu eu dosbarthu’n electronig bum diwrnod gwaith cyn cyfarfod y Bwrdd Gweithredu, a chaiff cofnodion eu dosbarthu i’r aelodau 10 diwrnod gwaith yn dilyn y cyfarfod, ynghyd â’r pwyntiau gweithredu allweddol. Caiff agenda’r cyfarfod a’r pwyntiau gweithredu o bob cyfarfod eu cyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru.
Mae gan y Bwrdd Gweithredu ymrwymiad i’r Gymraeg a bydd yn cynnig cyfleoedd i alluogi aelodau ac eraill sy’n bresennol i gyfrannu at gyfarfodydd drwy gyfrwng y Gymraeg.
Cynhelir cyfarfodydd ledled Cymru gan ddilyn model hybrid (hy cyfleoedd i ymuno’n bersonol neu o bell) fel arfer safonol.