Neidio i'r prif gynnwy
Cyflawni ein blaenoriaethau ar gyfer Gwell Iechyd

Mae'r bwyd y gellir ei ddarparu mewn ysgolion yn newid fel bod modd i bob plentyn yng Nghymru fanteisio ar ddeiet cytbwys yn yr ysgol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Mai 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae ymgynghoriad wedi'i lansio heddiw i geisio barn ar y cynigion a fydd yn gweld bwydlenni ysgolion cynradd yn cynyddu'r maint o ffrwythau a llysiau a gynigir, gan helpu mwy o blant yng Nghymru i gael eu pum dogn y dydd, a chyfyngu ar bwdinau llawn siwgr, a bwydydd wedi'u ffrio, yn unol â chanllawiau deietegol y DU.

Bydd y cynigion newydd yn sicrhau bod plant yn cael cynnig bwyd a diod sy'n gytbwys o ran maeth, a bod bwyta'n iach yn cael ei hyrwyddo mewn ysgolion, gyda'r nod o wella iechyd, lles a chyrhaeddiad plant.

Mae'r dystiolaeth yn dangos bod plant, ar gyfartaledd, yn bwyta gormod o siwgr ac nad ydynt yn bwyta'r meintiau a argymhellir o ffrwythau, llysiau a bwydydd grawn cyflawn. Mae hyn yn cyfrannu at broblemau iechyd fel gordewdra ymhlith plant. Ac ar hyn o bryd mae un o bob pedwar o blant oedran dosbarth derbyn yn cael eu categoreiddio yn rhy drwm neu'n ordew.

Mae camau yn cael eu cymryd ar draws Llywodraeth Cymru i wneud y dewis iach yn ddewis hawdd. Mae'r strategaeth 'Pwysau Iach: Cymru Iach' wedi ymrwymo Llywodraeth Cymru i gynnal adolygiad o'r rheoliadau ar faeth bwyd ysgolion, sy'n berthnasol i bob ysgol a gynhelir yng Nghymru. Gan fod rhaglen cyflwyno prydau ysgol am ddim i holl blant ysgolion cynradd yng Nghymru bellach wedi'i rhoi ar waith, mae Llywodraeth Cymru am gyflawni'r ymrwymiad hwn nawr, gan ddechrau gydag ysgolion cynradd.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle:

Mae maeth da yn hanfodol i helpu pobl ifanc i berfformio ar eu gorau, boed yn yr ystafell ddosbarth, ar y cae, neu wrth fynd ar drywydd eu nodau. Bydd ein newidiadau sy'n seiliedig ar dystiolaeth i reolau bwyd ysgolion yn helpu i roi'r dechrau gorau mewn bywyd i blant Cymru, ac ar yr un pryd yn cefnogi cynhyrchwyr o Gymru ac yn meithrin cenhedlaeth o unigolion sy'n bwyta'n iach i ddiogelu dyfodol ein Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

Mae ysgolion a thimau arlwyo ledled Cymru eisoes yn gweithio'n galed i ddarparu prydau maethlon i'n plant a'n pobl ifanc. Rydyn ni am adeiladu ar y gwaith da sydd eisoes ar waith i sicrhau bod gan bob plentyn yng Nghymru fynediad at fwyd iach. Dyna pam dw i eisiau clywed gan rieni, athrawon, cyflenwyr a phobl ifanc. Drwy weithio gyda'n gilydd, gallwn greu safonau bwyd i ysgolion sy'n gweithio i bawb, gan gefnogi iechyd ein plant heddiw ac ar gyfer eu dyfodol.

Dywedodd Rachel Bath, Ymgynghorydd Iechyd y Cyhoedd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn croesawu'r cynigion hyn ar gyfer ysgolion cynradd. Rydyn ni'n gwybod o'r dystiolaeth y gall safonau bwyd ysgolion effeithio'n gadarnhaol ar iechyd a lles plant pan gânt eu defnyddio ochr yn ochr â dulliau eraill. Mae cryfhau'r Rheoliadau hyn yn gam hanfodol i sicrhau bod bwyd ysgol yn cefnogi arferion bwyta’n iach gydol oes. 

Rydyn ni'n gwybod bod gwaith i'w wneud i sicrhau bod pob plentyn yn gallu manteisio ar brydau maethlon ochr yn ochr ag addysg bwyd a phrofiadau bwyta cadarnhaol. Mae'r newidiadau hyn nid yn unig yn cefnogi iechyd plant ond hefyd yn cyfrannu at system fwyd ac economi leol fwy cynaliadwy. Drwy barhau i weithio gyda'n gilydd a goruchwylio'r hyn sy'n digwydd, gall bwyd ysgol fod yn sbardun pwerus i iechyd a lles hirdymor yng Nghymru.