Rydym wedi dosbarthu’r cyweiriau a ddefnyddiwn yn ein gwaith yn bedwar prif gategori: y cywair clasurol, y cywair ffurfiol, y cywair anffurfiol a’r cywair llafar/anffurfiol iawn.
1. Y cywair clasurol
mathau o waith:
- deunyddiau lled-gyfreithiol
- deunyddiau ffurfiol iawn
ee memoranda cyd-ddealltwriaeth, trwyddedau.
nodweddion:
- Yr wyf, y mae, yr oedd etc
- Yr wyf yn datgan bod y manylion hyn yn gywir
- Yr wyf yn tystio bod …
- ‘Hwy’ nid ‘nhw’
- Ond ‘chi’, nid ‘chwi’
2. Y cywair ffurfiol
Mae cyfran helaeth o’n gwaith yn perthyn i’r categori hwn, ee
- papurau pwyllgorau
- papurau’r Cabinet
- deunyddiau recriwtio, gan gynnwys hysbysebion swyddi
- adroddiadau blynyddol
- dogfennau polisi
- rhai holiaduron a ffurflenni
- llythyrau
nodweddion:
Ffurfiau berfol
Rwyf (i) / Rwy'n |
Nid wyf (i) |
Rwyt (ti) |
Nid wyt (ti) |
Mae (ef/hi) |
Nid yw (ef/hi) |
Rydym (ni) |
Nid ydym (ni) |
Rydych (chi) |
Nid ydych (chi) |
Maent (hwy) / Maen nhw |
Nid ydynt (hwy) / Nid ydyn nhw |
O ran arddull, defnyddio ‘roeddent’ nid ‘roeddynt’, a ‘gallwch’ nid ‘gellwch’.
Peidio â rhoi ‘y’ o flaen ‘mae’, ac eithrio mewn brawddegau perthynol: dyma’r bachgen y mae ei dad yn brifathro
Geirynnau rhagferfol
Mae’r geiryn rhagferfol ‘fe’ yn dderbyniol, ee fe gynhaliwyd, ond peidio â’i orddefnyddio.
Osgoi defnyddio ‘mi’, ee ‘Mi roddodd’.
Yna/’na
Defnyddio ‘yna’, ee roedd yna ddau ddewis, os yw’n gwneud brawddeg yn gliriach, ond peidio â’i orddefnyddio. Osgoi’r ffurf ‘’na’, ee ‘mae ’na’.
Hwn/hon
y ffurflen hon, nid ‘y ffurflen yma’
Arddodiaid
ataf i, atoch chi, ato ef, atom ni, atynt hwy, atyn nhw
Holi ac ateb
Mae angen cynnwys y geiryn holiadol ‘A’ yn y cywair hwn. Nid oes angen ‘fi’, ‘chi’ etc bob tro.
Holi |
Ateb |
---|
A wyf (i)? |
Ydw / Nac ydw (yn hytrach nag Ydwyf / Nac ydwyf) |
A wyt (ti)? |
Ydw / Nac ydw |
A ydych (chi)? (unigol) |
Ydw / Nac ydw |
A yw (ef)? A yw (hi)? |
Ydyw / Nac ydyw |
A ydym (ni)? |
Ydym / Nac ydym |
A ydych (chi)? |
Ydym / Nac ydym |
A ydynt (hwy)? |
Ydynt / Nac ydynt |
Y geiryn ‘y’ ar ôl ‘Sut’, ‘Pryd’, ‘Beth’ etc
Mae angen cynnwys y geiryn ‘y’ yn y cywair hwn:
Pryd y bydd y Gweinidog yn gwneud datganiad? nid ‘pryd bydd/pryd fydd’
Sut y cafodd y cynllun hwn ei gymeradwyo? nid ‘sut cafodd/sut gafodd’
A all ddweud beth y bydd yn ei wneud? nid ‘beth bydd/beth fydd’
Lluosog ansoddeiriau
Ein harfer yw peidio â defnyddio ffurfiau lluosog ansoddeiriau megis ‘ifanc’. Mae hyn yn helpu i sicrhau cysondeb mewn teitlau ac ati, ee Strategaeth Pobl Ifanc.
Mae rhai eithriadau amlwg, wrth gwrs; ee ‘mwyar duon’, ‘gwartheg duon’, ‘rhosys cochion’. Mater o arddull bersonol yw hi dro arall, a does dim angen deddfu ynghylch pethau fel ‘Maen nhw’n addo gwyntoedd cryf/cryfion heno’.
3. Y cywair anffurfiol
mathau o waith:
- datganiadau i’r wasg
- rhai hysbysebion (nid hysbysebion swyddi)
- llenyddiaeth ymgyrchoedd cyhoeddus, ee ymgyrchoedd gwrth-smygu, diogelwch ar y ffyrdd
- deunyddiau ar gyfer disgyblion ysgol
- rhai taflenni hysbysrwydd
- rhai holiaduron a ffurflenni
- posteri, sticeri
nodweddion:
Ffurfiau berfol
Rydw i / Dydw i ddim |
Rwy i / Rwy'n |
Dw i / Dw i ddim |
Rwyt ti / Dwyt ti ddim |
|
|
Mae ef / Dydy ef ddim |
|
Dyw e ddim |
Mae hi / Dydy hi ddim |
|
Dyw hi ddim |
Rydych chi / Dydych chi ddim |
|
|
Rydyn ni / Dydyn ni ddim |
|
|
Maen nhw / Dydyn nhw ddim |
|
|
Peidio â defnyddio collnodau yn ‘dyw’ etc.
Defnyddio’r rhagenw ôl yn fwy aml a chysoni cytsain olaf y terfyniad berfol neu arddodiadol i gyd-fynd â chytsain ddechreuol y rhagenw, ee ‘byddem ni > bydden ni’.
Defnyddio ‘yna’ (ond nid ‘’na’) lle bo angen, ee Mae yna ddau ddewis.
Defnyddio ‘nhw’ yn lle ‘hwy’.
Cofiwch mai cysondeb ac ystwythder sy’n bwysig.
Cwestiynau ac atebion (ee mewn rhai holiaduron/ffurflenni)
Eto, cysondeb sy’n bwysig – peidio â chymysgu ffurfiau.
Cwestiwn |
Ateb |
---|
Ydw i? |
Ydw / Nac ydw |
Wyt ti? |
Ydw / Nac ydw |
Ydy e/hi? |
Ydy / Nac ydy |
Ydych chi? (unigol) |
Ydw / Nac ydw |
Ydych chi? (lluosog) |
Ydyn / Nac ydyn |
Ydyn ni? |
Ydyn / Nac ydyn |
Ydyn nhw? |
Ydyn / Nac ydyn |
Arddodiaid
ata i, atat ti, ato fe, ati hi, aton ni, atoch chi, atyn nhw
Hepgor y geiryn ‘y’ ar ôl ‘pryd’, ‘sut’ etc
Allwch chi ddweud pryd bydd yr adroddiad yn barod?
Sut cafodd John wybod?
Cynnwys ‘fi’, ‘chi’ etc ar ôl y ferf
Dywedwch beth galla i ei wneud.
Dyma beth dylech chi ei wneud.
Mae treiglo’r ferf yn gyffredin hefyd
beth alla i, beth ddylech chi
Ceisiwch fod yn gyson o fewn yr un ddogfen
Cymalau rhagenwol yn y negyddol
Mae lle weithiau i ddefnyddio ffurfiau mwy anllenyddol er mwyn sicrhau eglurder, ee mewn ffurflen Rhowch enwau’r bobl sydd ddim yn gweithio yn hytrach na ‘Rhowch enwau’r bobl nad ydynt yn gweithio’. Ond dyma begwn eithaf y cywair anffurfiol – defnyddiwch ‘nad ydynt’ etc fel arfer.
Yma
Mae’n iawn defnyddio ‘yma’ weithiau yn hytrach na ‘hwn’, ‘hon’ neu ‘hyn’, ee mewn taflen ar gyfer disgyblion ysgol.
4. Y cywair llafar (neu anffurfiol iawn)
mathau o waith:
- sgriptiau ymgyrchoedd teledu
- isdeitlau ar gyfer ymgyrchoedd teledu
- rhai posteri/pamffledi
- gemau/cartwnau
nodweddion:
Ffurfiau berfol
Rydw i / Rwy i / Dw i |
Dydw i ddim / Dw i ddim |
Rwyt ti |
Dwyt ti ddim |
Mae e/o |
Dyw e/o ddim / Dydy e/o ddim |
Mae hi |
Dyw hi ddim / Dydy hi ddim |
Rydyn ni |
Dydyn ni ddim |
Rydych chi |
Dydych chi ddim |
Maen nhw |
Dydyn nhw ddim |
Defnyddio ‘fe’/’mi’ lle bo angen
fe fydd/mi fydd
Defnyddio ‘yna’ neu ‘’na’
Mae ’na xx o blant yn cael eu hanafu ar y ffyrdd bob dydd.
Hepgor y geiryn 'y' a threiglo ar ôl 'pryd', 'sut' etc
Pryd fydd y bws yn cyrraedd?
Sut gafodd Siôn wybod?
Hepgor llythrennau ar ddechrau geiriau
ee sgrifennu, smygu, sgwn i
Hepgor llythrennau yng nghanol geiriau
ee pnawn yn lle ‘prynhawn’
Hepgor llythrennau ar ddiwedd geiriau
ee posib, ffenest, peryg, o ddifri, cyfri, adre, sy
Cywasgu geiriau
ee Sdim gobaith, Snam digon o waith
Er mwyn dangos sut y dylid ynganu’r geiriau, ee mewn sgript ar gyfer hysbyseb deledu. Byddai ‘Does dim’ yn well mewn deunydd printiedig.
Defnyddio llafariaid ymwthiol
ee pobol, sobor
I’w defnyddio’n bennaf i ddangos yr ynganiad.
Amrywiadau tafodieithol
ee
taw |
mai |
efo |
gyda |
ma's, mâs |
allan |
lan |
i fyny |
rŵan |
nawr |
moyn |
eisiau |
ffaelu |
methu |
Mae’r geiriau yn yr ail golofn yn fwy safonol a dylid osgoi defnyddio’r rhai yn y golofn gyntaf oni bai eich bod yn gwybod y byddai’r sawl sy’n mynd i’w llefaru yn eu defnyddio’n naturiol yn ei iaith bob dydd.
Nodyn: mater arall yw dewis pa air tafodieithol i’w ddewis i gyfieithu gair Saesneg pan fo amryw o eiriau ar gael yn Gymraeg a’r un ohonynt yn fwy ‘safonol’ na’r lleill. Weithiau bydd rhai’n rhoi dewis o ddau neu ragor o eiriau er mwyn i’r ystyr fod yn glir i ddarllenwyr ym mhob rhan o Gymru, ee iau/afu.