Neidio i'r prif gynnwy

Yr Arddulliadur

Datblygwyd y canllawiau arddull hyn i roi cyngor ac arweiniad i’r rheini sy’n cyfieithu testunau cyffredinol. Gallwch chwilio am eiriau penodol neu gallwch bori fesul adran.

a/neu'r maes
8 canlyniad
Rhestrir y canlyniadau yn ôl trefn yr wyddor.

â / ag

Yn dilyn rhai berfau: 
cwrdd â, peidio â

I ddynodi meddiant: 
y ferch â’r ffrog werdd

Ar ôl y radd gymharol wrth gymharu ansoddeiriau (y cysylltair as): 
mor goch â thân, cyn gryfed ag arth

I ddynodi offeryn (yr arddodiad with): 
lladdwyd y dyn â chleddyf (nid ‘gyda’)

Negydd ‘â’ yw ‘na’ (o flaen cytseiniaid):
mae’r Wyddfa yn uwch na Chadair Idris
 
Negydd ‘ag’ yw ‘nag’ (o flaen llafariaid):
yn drymach nag ef

ansoddeiriau

Ein harfer yw peidio â defnyddio ffurfiau lluosog ansoddeiriau megis ‘ifanc’. Mae hynny’n helpu i sicrhau cysondeb mewn teitlau ac ati, ee Strategaeth Pobl Ifanc. Ond nid ydym yn deddfu ynghylch ffurfiau fel ‘gwyntoedd cryf/cryfion’.

At ei gilydd, y ffurfiau traddodiadol a welir yn ein gwaith ni, ee ‘iau, ieuengaf’ (nid ‘ifancach, ifancaf’), ‘hŷn, hynaf’, ‘hwy, hwyaf’ (er y gallai’r ffurfiau ‘hirach, hiraf’ gael eu defnyddio mewn cyweiriau anffurfiol).

O ran ystyr ansoddeiriau, ceisiwch wahaniaethu rhwng ‘addas’ (suitable) a ‘priodol’ (appropriate); ‘addysgol’ (educational) ac ‘addysgiadol’ (educative); ‘cymharol’ (comparable) a ‘cymaradwy’ (comparative); ‘penodol’ (particular) ac ‘arbennig’ (special).

Cymraeg Clir

Y prif egwyddorion yw:

  • bod yn fyr ac yn gryno
  • peidio â defnyddio ffurfiau benywaidd a lluosog ansoddeiriau ond lle bo’r ffurf honno yn air cyffredin iawn
  • defnyddio iaith neu gystrawen syml
  • defnyddio brawddegau uniongyrchol a gweithredol yn hytrach na brawddegau goddefol
  • defnyddio llai o ferfau amhersonol
  • rhannu brawddeg amlgymalog yn frawddegau llai
  • defnyddio berfenw yn lle enw ac ansoddair lle bo modd
  • osgoi glynu’n rhy gaeth wrth gystrawen y Saesneg.

cysylltnod

Mae adrannau IV.31-IV.36 Gramadeg yr Iaith Gymraeg, a’r adrannau ar gyfansoddeiriau rhywiog ac afryw yn Orgraff yr Iaith Gymraeg (paragraffau 1-22), yn disgrifio swyddogaethau gramadegol ac orgraffyddol y cysylltnod. Fodd bynnag, gall arferion go iawn fod yn wahanol i’r hyn a ddisgrifir yn y ffynonellau hynny, ac weithiau gall fod yn anodd cymhwyso’r cyngor i eiriau sy’n codi mewn testunau. Bwriad yr erthygl hon yw rhoi arweiniad ymarferol ynghylch penderfynu a ddylid cynnwys y cysylltnod mewn geiriau ai peidio.

Mewn rhai sefyllfaoedd mae’n bendant fod angen y cysylltnod yn ôl gramadeg ac orgraff y Gymraeg. Er enghraifft, mae angen cynnwys y cysylltnod er mwyn:

•    Gwahanu graffemau cytseiniol sydd naill ai’n gallu cael eu dehongli fel un lythyren yn hytrach na dwy (ee ‘ail-lenwi’) neu wahanu dwy graffem gytseiniol sydd yr un fath (ee ‘rhydd-ddeiliad’, ‘rhyng-golegol’) 
•    Dynodi mai ar y sillaf olaf y mae’r pwyslais mewn cyfansoddeiriau llac, yn ôl diffiniad Orgraff yr Iaith Gymraeg (ee ‘cam-drin’, ‘hunan-barch’, ‘cyd-fyw’)
•    Rhannu elfennau ymadroddion sy’n gweithredu’n eiriau syml (ee ‘di-droi’n-ôl’, ‘di-asgwrn-cefn’).

Mewn cyd-destunau eraill, nid yw o angenrheidrwydd yn ieithyddol-angenrheidiol cynnwys y cysylltnod, ond gall fod yn ddefnyddiol. Er enghraifft:

  • Gwahanu graffemau llafarog. Gwneir hynny weithiau, yn enwedig mewn termau gwyddonol, i hwyluso darllen y term (‘gastro-oesoffagaidd’, ‘bio-olew’)
  • Gwahanu’r elfennau mewn cyfansoddeiriau, i hwyluso darllen y term (ee ‘oedran-gyfeillgar’, ‘rhywedd-benodol’, ‘nyrs-ragnodydd’)
  • Dynodi’r cyfrwng electronig – rhowch gysylltnod gyda chysyllteiriau sy’n cynnwys y rhagddodiad ‘e-’ i gyfleu’r cyfrwng electronig (ee ‘e-bost’, ‘e-bostio’, ‘e-dendro’, ‘e-Gymru’)
  • Pan fo ‘cyd-’, ‘cyn-’, ‘is-’, ‘ôl-’ ac ‘uwch-’ yn elfennau cyntaf mewn geiriau a bod pwyslais arbennig arnynt, mae angen cysylltnod ar eu hôl i ddynodi hynny. Mae hyn yn arbennig o gyffredin ar gyfer enw ar gyrff a swyddi ee ‘cyd-bwyllgor’, ‘cyn-lywydd’, ‘is-gadeirydd’, ‘uwch-gyfieithydd’.
  • Mewn termau sy’n cynnwys y rhagddodiad ‘marw_’ ee ‘marw-enedigaeth’ a ‘marw-anedig’. Mae hyn er hwylustod y darllen ac mae’n adlewyrchu’r defnydd cyffredin. Mae’n cyd-fynd â’r hyn a nodir yng Ngeiriadur yr Academi a’r Porth Termau, ond mae’n wahanol i’r hyn a nodir yng Ngeiriadur Prifysgol Cymru.

Heblaw mewn sefyllfaoedd fel hyn, fel arfer nid oes angen y cysylltnod, yn enwedig mewn cyfansoddeiriau lle mae’r ail elfen yn cynnwys mwy nag un sill (ee ‘ailadrodd’, ‘cydweithio’, ‘camarwain’, ‘aralleirio’) hyd yn oed os gwneir hynny yn y gair cyfatebol Saesneg, ee ‘re-assess’, ‘ailasesu’; ‘co-operate’, ‘cydweithredu’; ‘anti-bacterial’, ‘gwrthfacterol’.

Os ydych yn ansicr a oes angen cysylltnod mewn gair, edrychwch ar y cofnodion perthnasol yn TermCymru, y Porth Termau a Geiriadur Prifysgol Cymru, neu mewn dogfennau blaenorol cysylltiedig. Os nad oes cofnodion perthnasol, y maen prawf yw a fyddai cynnwys y cysylltnod yn ei gwneud yn haws i’r darllenydd ddeall ffurfiant ac ystyr y gair.

Mae confensiynau penodol ar ddefnyddio cysylltnodau mewn enwau lleoedd. Am esboniad llawn gweler adran 3 yng nghanllawiau safoni enwau lleoedd Comisiynydd y Gymraeg: https://www.comisiynyddygymraeg.cymru/polisi-ac-ymchwil/enwau-lleoedd 

 

cyweiriau ac arddulliau

Yr arddulliau cyffredinol a deddfwriaethol 

Mae’r cyngor yn yr Arddulliadur yn berthnasol i’n gwaith cyfieithu ar gyfer testunau cyffredinol. Y Canllawiau Arddull Deddfwriaethol sy’n berthnasol i’n gwaith ar destunau deddfwriaethol (deddfwriaeth sylfaenol ac is-ddeddfwriaeth, ar ffurf rheoliadau a gorchmynion). 

Weithiau ceir erthyglau ar bynciau yn yr Arddulliadur nad oes erthyglau cyfatebol iddynt yn y Canllawiau, ac i’r gwrthwyneb. Er enghraifft, mae erthygl yn yr Arddulliadur ar dreiglo ‘bod’. Nid oes erthygl gyfatebol yn y Canllawiau, ond mae’r cyngor yn yr Arddulliadur yn berthnasol i gyfieithu deddfwriaethol hefyd. Yn yr un modd, mae erthygl yn y Canllawiau ar dreiglo testun sydd rhwng dyfynodau, ond nid oes erthygl gyfatebol yn yr Arddulliadur.

Mae peth tir cyffredin rhwng y Canllawiau ac Arddulliadur y Gwasanaeth Cyfieithu. Er enghraifft, o ran cenedl enwau, mae’r Canllawiau a’r Arddulliadur ill dau yn cytuno ein bod fel arfer yn dilyn y genedl a nodir yn gyntaf yng Ngeiriadur Prifysgol Cymru. Ond o ran byrfoddau ac acronymau, er enghraifft, ceir cyngor gwahanol yn yr Arddulliadur i’r hyn a geir yn y Canllawiau.

Os ydych yn cyfieithu deddfwriaeth, a bod yr Arddulliadur yn rhoi cyngor gwahanol, dylech ddilyn y cyngor yn y Canllawiau Arddull Cyfieithu Deddfwriaethol.

Gall fod yn ddefnyddiol cyfeirio at y Canllawiau Arddull Deddfwriaethol wrth gyfieithu testunau lled-ddeddfwriaethol – hy, testunau sy’n gysylltiedig â deddfwriaeth, megis Cynigion a Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol a Memoranda Esboniadol, neu rai sydd mewn arddull lai ffurfiol ond sydd â pheth grym cyfreithiol, megis Cyfarwyddydau a Chodau Ymarfer. Wrth gyfieithu testunau lled-ddeddfwriaethol felly, rhaid pwyso a mesur i ba arddull  y mae’r ddogfen yn perthyn ac i ba raddau y mae’n briodol glynu at y ffurfiau a argymhellir yn y Canllawiau Arddull Deddfwriaethol, yn hytrach na’r hyn a argymhellir yn yr Arddulliadur, neu’n ogystal â hynny.

 

Cyweiriau cyffredinol 

Rydym wedi dosbarthu’r cyweiriau a ddefnyddiwn yn ein gwaith cyffredinol yn bedwar prif gategori: y cywair clasurol, y cywair ffurfiol, y cywair anffurfiol a’r cywair llafar/anffurfiol iawn. 

Mae mwyafrif yr egwyddorion a nodir mewn erthyglau eraill yn yr Arddulliadur yn berthnasol i bob cywair, ee defnyddir atalnodi agored (dim collnodau wrth ollwng llythrennau, dim atalnodau ar ôl byrfoddau ee hy ac etc) ac ni ddefnyddir ffurfiau lluosog ansoddeiriau (ee ‘pobl ifainc’) heblaw pan fo hynny’n arferol iawn. 

Pan fo mwy nag un dewis, cofiwch gadw cysondeb ffurfiau o fewn yr un darn neu gyfres o ddarnau. 

1. Y cywair clasurol

Mathau o waith:      

  • deunyddiau seremonïol ee proclamasiynau  
  • deunyddiau ffurfiol iawn ee memoranda cyd-ddealltwriaeth, trwyddedau.

Nodweddion: 

  • ‘Yr wyf’, ‘y mae’, ‘yr oedd’ etc
  • ‘Hwy’ nid ‘nhw’ (ond ‘chi’, nid ‘chwi’). 
  • Fel arfer, defnyddir ffigurau ar gyfer rhifolion a dyddiadau, ond mewn rhai amgylchiadau fe’u hysgrifennir mewn geiriau, gan ddilyn y system ugeiniol. 

Fel arall, mae i’r cywair clasurol yr un nodweddion â’r cywair ffurfiol. 

 

2. Y cywair ffurfiol

Dyma’r cywair a ddefnyddir ar gyfer y rhan fwyaf o ddeunyddiau’r Llywodraeth, ee:

  • papurau pwyllgorau
  • papurau’r Cabinet 
  • deunyddiau recriwtio, gan gynnwys hysbysebion swyddi
  • adroddiadau blynyddol
  • dogfennau polisi
  • rhai holiaduron a ffurflenni
  • llythyrau.

Nodweddion:

  • ‘Rwyf yn’ neu ‘Rwy’n’, nid ‘Rydw i’n’ na ‘Dw i’n’. ‘Rydych’ a ‘Rydym’ nid ‘Rych’ a ‘Rym’. 
  • Defnyddio’r rhagenwau personol annibynnol (‘fi’, ‘hi’, ‘nhw’) ar ôl y ferf a’r arddodiad er mwyn pwysleisio’n unig, ee ‘Yn wahanol i’r llywodraeth flaenorol, rydym ni’n barod i gymryd cyfrifoldeb’, ‘Cyfeiriwyd y mater ato ef [yn unig]’. 
  • Wrth ddefnyddio’r rhagenwau personol annibynnol ar ôl y ferf a’r arddodiad, peidio â chysoni cytsain olaf y terfyniad berfol neu arddodiadol i gyd-fynd â chytsain ddechreuol y rhagenw (‘byddem ni’ nid ‘bydden ni’)
  • Ffurfiau cryno’r ferf fel arfer, ee ‘Deallwn’ nid ‘Rydym yn deall’ 
  • Peidio â rhoi ‘y’ o flaen ‘mae’ / ‘yr’ o flaen ‘oedd’, ac eithrio mewn brawddegau perthynol (‘Ar hyn o bryd, mae’r Llywodraeth yn ymgynghori’ ond ‘Dyma’r mater y mae’r Llywodraeth yn ymgynghori yn ei gylch’)
  • Osgoi defnyddio’r geiryn rhagferfol – ‘Cynhaliwyd cyfarfod’ nid ‘Fe gynhaliwyd cyfarfod’. Os oes rhaid ei gael er mwyn gwneud yr ystyr yn gliriach, ‘fe’ nid ‘mi’ 
  • Osgoi defnyddio ‘yna’ pwysleisiol – ‘Bu ymgynghoriad’ nid ‘Bu yna ymgynghoriad’. Os oes rhaid ei gael er mwyn gwneud yr ystyr yn gliriach, ‘yna’ nid ‘’na’
  • ‘Hwn’ neu ‘hon’, nid ‘yma’ – ‘y ffurflen hon’ nid ‘y ffurflen yma’ 
  • Defnyddio’r geiryn holiadol ‘a’ – ‘A ydych yn’ nid ‘Ydych chi’n’ 
  • Defnyddio’r geiryn ‘y’ ar ôl ‘beth’, ‘sut’, ‘pryd’ etc, ee ‘Dyma pryd y cynhaliwyd y digwyddiad’. 

 

3. Y cywair anffurfiol

Mathau o waith:

  • datganiadau i’r wasg
  • rhai hysbysebion (nid hysbysebion swyddi)
  • llenyddiaeth ymgyrchoedd cyhoeddus, ee ymgyrchoedd gwrth-smygu, diogelwch ar y ffyrdd 
  • deunyddiau ar gyfer disgyblion ysgol
  • rhai taflenni hysbysrwydd 
  • rhai holiaduron a ffurflenni 
  • posteri, sticeri

 

Nodweddion:

  • ‘Rwy’n’, ‘Wy’n’, ‘Rydw i’n’ neu ‘Dw i’n’, nid ‘Rwyf yn’. ‘Rydych chi’n’ neu ‘Rych chi’n’, a ‘Rydyn ni’n’ neu ‘Ryn ni’n’, nid ‘Rydych yn’ a ‘Rydym yn’. ‘Dyw e ddim’ neu ‘Dydi e ddim’, nid ‘Nid yw’
  • Defnyddio’r rhagenwau personol annibynnol (‘fi’, ‘hi’, ‘nhw’) yn fwy aml ar ôl y ferf a’r arddodiad, ee ‘Rydyn ni’n falch o gyhoeddi...’, ‘Dewch aton ni’. 
  • Wrth ddefnyddio’r rhagenwau personol annibynnol ar ôl y ferf a’r arddodiad, cysoni cytsain olaf y terfyniad berfol neu arddodiadol i gyd-fynd â chytsain ddechreuol y rhagenw (‘bydden ni’ nid ‘byddem ni’) 
  • Ffurfiau cwmpasog y ferf fel arfer, ee ‘Rydyn ni’n deall’ nid ‘Deallwn’ 
  • Peidio â rhoi ‘y’ o flaen ‘mae’ / ‘yr’ o flaen ‘oedd’, hyd yn oed mewn brawddegau perthynol (‘Dyna’r broblem fwyaf roedden ni’n ei hwynebu’ nid ‘Dyna’r broblem fwyaf yr oedden ni’n ei hwynebu’)
  • Defnyddio’r geiryn rhagferfol – ‘Fe gynhaliwyd cyfarfod’ nid ‘Cynhaliwyd cyfarfod’. ‘Fe’ nid ‘mi’.
  • Defnyddio ‘yna’ pwysleisiol – ‘Bu ymgynghoriad’ nid ‘Bu yna ymgynghoriad’. ‘Yna’ nid ‘’na’
  • ‘Yma’ nid ‘hwn’ neu ‘hon’ – ‘y ffurflen yma’ nid ‘y ffurflen hon’. ‘Yma’ nid ‘’ma’ 
  • Peidio â defnyddio’r geiryn holiadol ‘A’ – ‘Ydych chi’n’ nid ‘A ydych chi’n’ 
  • Peidio â defnyddio’r geiryn ‘y’ ar ôl ‘beth’, ‘sut’, ‘pryd’ etc, ee ‘Dyma pryd cynhaliwyd y digwyddiad’. 
  • Ar adegau, gellir defnyddio’r cymal negyddol llafar ‘sydd ddim’ yn hytrach nag ‘nad ydyn nhw’ os oes angen llawer o ystwythder, ond nodwedd anffurfiol iawn yw hon fel arfer. 

 

4. Y cywair llafar (neu anffurfiol iawn)

Mathau o waith:

  • sgriptiau ymgyrchoedd teledu
  • isdeitlau ar gyfer ymgyrchoedd teledu
  • rhai posteri/pamffledi
  • gemau/cartwnau 

Ar y cyfan, mae i’r cywair llafar yr un nodweddion â’r cywair anffurfiol, gyda’r gwahaniaethau a ganlyn: 

  • Gellir defnyddio ffurfiau tafodieithol ar y ferf, ee ‘So fe’ yn hytrach na ‘Dyw e ddim’ 
  • Gellir defnyddio rhagenwau tafodieithol, ee ‘Ma fe’ neu ‘Mae o’ 
  • Gellir defnyddio ‘’na’ neu ‘’ma’ yn hytrach nag ‘yna’ neu ‘yma’ 
  • Gellir hepgor llythrennau ar ddechrau a diwedd geiriau, ee ‘Ma fe’, ‘posib’, ‘cyfri’ 
  • Gellir defnyddio ffurfiau cywasgedig, ee ‘pnawn’ yn hytrach na ‘prynhawn’, ‘sgwennu’ yn hytrach na ‘sgrifennu’ neu ‘ysgrifennu’ 
  • Gellir cywasgu geiriau, ee ‘Sdim’ neu ‘Snam’ yn hytrach na ‘Does dim’
  • Yn ogystal â hepgor y geiryn ‘y’ gellir treiglo ar ôl ‘pryd’, ‘sut’ etc, ee ‘Dyma pryd/sut fydd e’n digwydd’ nid ‘Dyma pryd/sut bydd yn digwydd’
  • Gellir defnyddio llafariaid ymwthiol, ee ‘pobol’, ‘cwbwl’, ‘sobor’
  • Gellir defnyddio geirynnau rhagferfol tafodieithol, ee ‘Mi aeth o’ 
  • Gellir defnyddio amrywiadau tafodieithol yn hytrach na’r ffurfiau mwy safonol, ee ‘taw’ yn hytrach na ‘mai’, ‘efo’ yn hytrach na ‘gyda’, ‘mâs’ yn hytrach nag ‘allan’, ‘lan’ yn hytrach nag ‘i fyny’, ‘rŵan’ yn hytrach na ‘nawr’, ‘ffaelu’ yn hytrach na ‘methu’. 
  • Pan geir amrywiadau tafodieithol sydd yr un mor safonol â’i gilydd, ee ‘iau’ ac ‘afu’, gellir dewis y ffurf fwyaf addas i’r siaradwr neu’r gynulleidfa, neu gynnwys y ddwy ffurf yn y testun.

Dynodi enwau gwladwriaethau, tiriogaethau a chenhedloedd diwladwriaeth

Egwyddorion

Dyma'r egwyddorion a ddilynir wrth bennu ffurfiau Cymraeg ar enwau gwladwriaethau, tiriogaethau a chenhedloedd diwladwriaeth, i'w rhoi yn TermCymru. Dylid nodi mai pennu ffurf benodol at ddibenion Gwasanaeth Cyfieithu Llywodraeth Cymru a wneir, ac nad yw hynny’n golygu bod ffurfiau eraill yn annilys.

Dyma’r egwyddorion a ddilynir wrth benderfynu ar ffurfiau:

  1. Y nod yw dewis ffurfiau ymarferol sy’n taro cydbwysedd rhwng bod yn ddealladwy i gynulleidfaoedd amrywiol testunau Cymraeg Llywodraeth Cymru, a chydymffurfio â chonfensiynau orgraffyddol y Gymraeg.
  2. Dosberthir yr enwau i dri phrif gategori, yn y drefn hon: (1) ffurf sefydledig yn Gymraeg, (2) Cymreigiad o’r ffurf gynhenid neu’r ffurf Saesneg a fabwysiedir gan y Cenhedloedd Unedig, (3) y ffurf gynhenid neu’r ffurf Saesneg a fabwysiedir gan y Cenhedloedd Unedig. Ceir rhagor o fanylion am y categorïau yn y tabl isod.
  3. Yn gyffredinol o ran categori (2), rhoddir mwy o bwys ar gydnabod y ffurfiau hynny sydd eisoes yn gyfarwydd fel ffurfiau wedi’u Cymreigio mewn cyd-destunau penodol fel y newyddion, y cyfryngau, chwaraeon a diwylliant. Gochelir rhag Cymreigio ffurfiau oni bai bod rheswm da dros wneud hynny yn unol â’r egwyddorion, rhag amlhau ffurfiau a chyflwyno ffurfiau sy’n anghyfarwydd i’r gynulleidfa.
  4. Yn sgil egwyddor 3 ac yn sgil cysylltiadau daearyddol, diwylliannol, masnachol a gwleidyddol â Chymru, rhoddir ystyriaeth i Gymreigio pob un o enwau gwledydd yn Ewrop nad oes ganddynt eisoes ffurf sefydledig yn Gymraeg.
  5. Yn sgil egwyddor 3, sylwer y gallai’r penderfyniad ynghylch y ffurfiau i’w defnyddio yn Gymraeg newid dros amser, wrth i leoedd ddod yn fwy cyfarwydd mewn trafodaethau yn Gymraeg.

Ffurfiau sefydledig Cymraeg a ffurfiau a Gymreigiwyd

  • Yn gyffredinol, ni Chymreigir ffurfiau sydd angen mwy nag un neu ddau addasiad i’r orgraff er mwyn eu Cymreigio.
  • Yn gyffredinol, dylid naill ai Gymreigio’r enw cyfan, neu beidio â’i Gymreigio o gwbl: Kosovo, nid Kosofo.
O ran cytseiniaid
  • Mae’n arferol defnyddio’r llythyren f yn Gymraeg i gyfleu’r sain [v] a ddynodir gan y llythyren v yn Saesneg ar gychwyn ac yng nghanol enwau: Dinas y Fatican, nid Dinas y Vatican, Slofenia, nid Slovenia.
  • Mae’n llai arferol defnyddio’r llythyren c yn Gymraeg i gyfleu’r sain [k] a ddynodir gan y llythyren k yn Saesneg ar gychwyn enwau lleoedd tramor: Gogledd Korea, nid Gogledd Corea. Serch hynny, mae’n fwy arferol ei defnyddio felly yng nghanol enwau: Slofacia, nid Slovakia
  • Mae llai arferol trosi rhai cytseiniaid eraill i’r orgraff gyfatebol yn y Gymraeg, ar gychwyn ac yng nghanol enwau. Er enghraifft mae’n llai arferol Cymreigio enwau sy’n cynnwys llythrennau neu gyfuniadau fel y llythyren g i gyfleu’r sain [dʒ] (Gibraltar, Georgia), y llythyren q i gyfleu’r sain [k] (Martinique), y llythyren z i gyfleu’r sain [ts] (Bosnia a Herzegovina), a’r cyfuniad ti i gyfleu’r sain [ʃ] (Croatia).
  • Nid yw’n arferol defnyddio’r cyfuniad tsi i gyfleu’r sain [tʃ] ar gychwyn nac yng nghanol enwau llai cyfarwydd (Chad, Chile). Serch hynny, mae rhai enwau sydd eisoes yn sefydledig yn y Gymraeg yn defnyddio’r cyfuniad hwn ar gychwyn enwau (Y Weriniaeth Tsiec, Tsieina).
  • Nid yw’n arferol defnyddio’r llythyren s ar gychwyn nac yng nghanol enwau llai cyfarwydd i gyfleu’r seiniau [z] neu [s] (Zambia, Tanzania). Serch hynny, mae rhai enwau sydd eisoes yn sefydledig yn y Gymraeg yn defnyddio’r cyfuniad hwn (Seland Newydd, Brasil).
O ran llafariaid
  • Yn gyffredinol yn achos enwau a Gymreigir, dylid Cymreigio llafariaid er mwyn cyfleu’r ynganiad yn Gymraeg: Bwlgaria, Lithwania, Periw, Ciwba.
O ran marciau diacritig
  • Yn gyffredinol hepgorir marciau diacritig sy’n dangos yr aceniad mewn ffurfiau a Gymreigiwyd, a hynny er mwyn osgoi creu ffurfiau sydd yn fwy anghynefin na’r angen i ddefnyddwyr. Tybir y bydd y gynulleidfa yn gyfarwydd â’r ynganiad ac nad oes angen dangos lle mae’r acen yn syrthio: Fietnam, Irac, Pacistan, Belarws.
O ran y fannod
  • Gall y defnydd o'r fannod amrywio gyda rhai enwau, ac ystyrir y defnydd hwnnw wrth bennu'r ffurf safonol.

Ffurfiau cynhenid a ffurfiau Saesneg a fabwysiedir gan y Cenhedloedd Unedig

  • Mae rhai ffurfiau cynhenid a ffurfiau Saesneg a fabwysiedir gan y Cenhedloedd Unedig yn cyd-fynd â chonfensiynau orgraff y Gymraeg ac eithrio, efallai, farciau diacritig i ddynodi acen neu hyd llafariad: Estonia, Tonga, Iran, Jamaica. Gellid ystyried rhai o’r ffurfiau hyn yn rhai sefydledig Cymraeg ar sail eu cynefindra: Canada, India, Sweden.
  • Derbynnir bod llawer o enwau lleoedd tramor yn seiliedig ar ieithoedd nad yw eu seiniau, eu hynganiad, eu horgraff na’u morffoleg yn cyd-fynd â nodweddion a chonfensiynau’r Gymraeg. Oherwydd hyn, yn achos ffurfiau sy’n adlewyrchu’r ffurf gynhenid neu’r ffurf Saesneg a fabwysiedir gan y Cenhedloedd Unedig:
  1. Derbynnir y gall yr arwyddion orgraffyddol gyfleu seiniau nad ydynt yn seiniau cynhenid i’r Gymraeg neu gallent gyfleu seiniau nad ydynt fel arfer yn cael eu cyfleu yn Gymraeg gan yr arwyddion hynny: Croatia, Lesotho, Niger.
  2. Derbynnir y gall rhai o’r arwyddion orgraffyddol a chlymau cytseiniol fod yn anghyfarwydd: Kyrgyzstan, Ynysoedd Åland, Djibouti.
  3. Derbynnir y gall yr acen syrthio ar sillafau nad ydynt yn gyfarwydd yn Gymraeg, heb nodau diacritig i ddynodi’r acenion hynny: Tajikistan, Mozambique, Paraguay.

Enwau lle y byddai modd mabwysiadu un o sawl ffurf wahanol

  • Yn achos enwau lle y byddai modd mabwysiadu un o sawl ffurf wahanol, dylid ystyried pa mor ymarferol fyddai creu tarddeiriau Cymraeg fel enwau ieithoedd neu hunaniaethau/pobloedd ar sail y ffurf a ddewisir. Er enghraifft, wrth ystyried Faroe Islands, dylid hefyd ystyried enw’r iaith Faroese neu’r hunaniaeth Faroese. Mae Ynysoedd Ffaro yn rhoi Ffaröeg a Ffaroaidd, ond anodd fyddai creu tarddeiriau Cymraeg dealladwy pe defnyddid Ynysoedd Føroyar neu Ynysoedd Faroe yn enw ar Faroe Islands.
  • Dylid osgoi amlhau ffurfiau. Wrth benderfynu ar ffurfiau lle ceir mwy nag un ffurf bosibl drwy ddilyn yr egwyddorion hyn, rhoddir ystyriaeth i ffurfiau rhestr Bwrdd yr Iaith Gymraeg o enwau lleoedd tramor (2011), ffurfiau yr Atlas Cymraeg Newydd (CBAC, 1999) a ffurfiau sydd eisoes yn TermCymru fel rhan o dermau eraill a safonwyd (ee enwau safonol anifeiliaid a phlanhigion).

Cyfieithu a throsi elfennau i’r Gymraeg

  • Ni waeth ym mha gategori y mae’r enw, cyfieithir yr elfennau canlynol:
    1. elfennau cyffredinol megis Ynysoedd, Gweriniaeth, Tiroedd.
    2. ansoddeiriau: Guinea Gyhydeddol, Seland Newydd.
    3. cysyllteiriau: St Kitts a Nevis.
    4. pwyntiau’r cwmpawd a geiriau lleoliadol: Gogledd Korea, Ynysoedd Sandwich y De, Gweriniaeth Canolbarth Affrica.
    5. elfennau disgrifiadol a meddiannol: Ynys y Nadolig, Ynysoedd Prydeinig y Wyryf, Polynesia Ffrengig.
  • Ni throsir enwau personol i’r Gymraeg: Ynysoedd Marshall. Nac ychwaith enwau seintiau: St Lucia, Sint Maarten.

Materion ymarferol wrth ddefnyddio enwau

  • Rhaid gwerthfawrogi bod enwau gwledydd yn gallu bod yn wleidyddol sensitif. Os oes dwy iaith swyddogol a dwy ffurf bosibl ar enw yn sgil hynny, dylid dilyn y testun gwreiddiol wrth gyfieithu. Er enghraifft, os rhoddir ‘New Zealand (Aotearoa)’ yn y Saesneg, dylid rhoi’r ddwy ffurf ‘Seland Newydd (Aotearoa)’ yn y Gymraeg. Os na roddir ond un ffurf yn y gwreiddiol, dylid ystyried bwriad yr awdur wrth benderfynu ar ba ffurf i’w dewis ar gyfer y testun Cymraeg.
  • Mae enwau a chyd-destunau gwleidyddol enwau yn gallu newid ac yn gallu amrywio: Gweriniaeth Ddemocrataidd Congo (gynt Zaire), Eswatini (gynt Gwlad Swazi). Oherwydd hyn, sylwer y gallai’r penderfyniad ynghylch y ffurf i’w ddefnyddio yn Gymraeg newid.
  • Gall fod yn anodd penderfynu a ddylid treiglo enwau tramor. Yn gyffredinol, argymhellir treiglo ffurfiau sydd yng nghategorïau (1) a (2). Argymhellir peidio â threiglo’r rhan fwyaf o’r ffurfiau sydd yng nghategori (3) ond dylid arfer crebwyll o ran treiglo enwau o’r fath sy’n cyd-fynd ag orgraff y Gymraeg. Mae’n gyffredin treiglo ambell un sy’n gyfarwydd yn Gymraeg: i Ganada ond nid yw’n gyffredin treiglo eraill: i Trinidad a Tobago, o Malawi, yn Botswana.

Tabl o'r categoriau

Categori Treiglo Acennu Pa fath o leoedd
1

Ffurf sefydledig Gymraeg

Gall hyn gynnwys enwau lle cyfieithwyd pob elfen
Confensiynau arferol y Gymraeg Confensiynau arferol y Gymraeg

Lleoedd sydd ag enwau traddodiadol yn Gymraeg (ond gan osgoi ffurfiau hynafiaethol).

Ffrainc, Gwlad Pwyl, Denmarc, Ariannin, Yr Aifft

Lleoedd sydd ag enwau cwbl ddisgrifiadol yn y ffurf gynhenid neu’r ffurf Saesneg a fabwysiedir gan y Cenhedloedd Unedig.

Ynys y Nadolig, Y Tiriogaethau Deheuol Ffrengig
2 Cymreigiad o ffurf gynhenid neu ffurf Saesneg a fabwysiedir gan y Cenhedloedd Unedig Confensiynau arferol y Gymraeg Osgoi acennu yn gyffredinol

Lleoedd lle nad yw’r ffurf a Gymreigiwyd yn ffurf sefydledig yn Gymraeg, ond

(i) bod y lle yn Ewrop

Lithwania, Slofenia, Wcráin.

(ii) bod y ffurf a Gymreigiwyd eisoes yn gyfarwydd mewn cyd-destunau penodol fel y newyddion, y cyfryngau, chwaraeon a diwylliant

Affganistan, Ffiji, Ciwba, Mecsico
3

Enwau nad ymdrechwyd eu Cymreigio, lle y cadwyd y ffurf gynhenid neu’r ffurf Saesneg a fabwysiedir gan y Cenhedloedd Unedig

Sylwer bod cyfran o’r ffurfiau hyn yn cyd-fynd â chonfensiynau orgraff y Gymraeg (gyda neu heb farciau diacritig)

Estonia, Tonga, Iran, Jamaica.

Gellir ystyried rhai o’r ffurfiau hyn yn rhai sefydledig Cymraeg ar sail eu cynefindra:

Canada, India, Sweden.

Dim treiglo

Serch hynny, dylid arfer crebwyll yn achos ffurfiau sy’n cyd-fynd â chonfensiynau  orgraff y Gymraeg.

Bydd yn gyffredin treiglo ambell un sy’n sefydledig yn Gymraeg (ee Canada) ond nid y rhelyw (ee Botswana, Trinidad a Tobago, Malawi)
Acennu yn ôl y ffurf gynhenid neu’r ffurf Saesneg a fabwysiedir gan y Cenhedloedd Unedig

Lleoedd nad oes ganddynt enw sefydledig Cymraeg, ac nad yw’n briodol eu Cymreigio o dan yr egwyddorion

Libya, Qatar, Réunion, Chile, Tuvalu, Kenya

Mae’n bosibl y bydd ambell elfen o enw o’r fath wedi ei chyfieithu

De Korea, Ynysoedd Åland, Gweriniaeth Ddemocrataidd Congo.

 

lluosog

Defnyddiwch y ffurf luosog gyntaf a nodir yng Ngeiriadur Prifysgol Cymru oni bai bod cytundeb ffurfiol i fabwysiadu lluosog arall er cysondeb o fewn y Gwasanaeth Cyfieithu. Dyma'r geiriau y cytunwyd i fabwysiadu lluosog gwahanol ar eu cyfer:

adfocad, adfocadau

dehongliad, dehongliadau

gorchudd, gorchuddion

gwerth, gwerthoedd

harbwr, harbyrau

label, labeli

lens, lensys

sedd, seddi

sudd, suddoedd

 

Ceisiwch osgoi defnyddio ffurfiau lluosog ar ansoddeiriau ond lle bo’r ffurf yn air cyffredin. 

treiglo

adferf amser

yr amser a dreulir bob wythnos, nid ‘yr amser a dreulir pob wythnos’

biliwn / miliwn

Mae angen gofal wrth drafod biliynau a miliynau er mwyn osgoi amwysedd wrth dreiglo’n feddal. Peidiwch felly â threiglo 'miliwn' na ‘biliwn’, ee £1 fililwn, £1 biliwn.

‘bod’ neu ‘fod’

Nid oes angen treiglo:
ar ôl y ffurfiau cryno amhersonol:
  credir bod, dywedwyd bod
ar ôl berfenw:
  credu bod, dweud bod
ar ôl ‘er’ (er bod), ‘rhaid’ (rhaid bod), ‘a’ (a bod), ‘yw’ (yw bod), ‘oherwydd’ (oherwydd bod).

Mae angen treiglo:
ar ôl ffurfiau cryno’r ferf: 
   credaf fod, dywedodd fod
ar ôl ‘efallai’, sef ffurf gryno ar y ferf ‘gallu’ – ‘ef allai’.

byth

Yn gyffredinol, nid oes angen treiglo ‘byth’:
Nid yw byth yn methu

treiglo – cyfres o ansoddeiriau 

Pan fo cyfres o ansoddeiriau’n goleddfu enw benywaidd, mae angen treiglo pob ansoddair yn feddal. Nid yw hyd y gyfres yn effeithio ar hyn, ee: 

‘Dyma’r Llywodraeth decaf, wyrddaf, dryloywaf, fwyaf effeithlon erioed’

Sylwer hefyd: ardal lai ffafriolffordd fwy prysur.

cyfres o enwau

Uned Bolisi, ond Uned Polisi Cymdeithasol, hynny yw, ar ôl enw benywaidd, mae angen treiglo’r gair sy'n dilyn, ond os oes dau neu ragor o eiriau'n dilyn, a'r cysylltiad rhwng y geiriau hynny a'i gilydd yn gryfach na'r cysylltiad â'r enw benywaidd, does dim treiglad. 
Felly, yr Adran Ddiwydiant ond yr Adran Diwydiant a Masnach.
Yr Uned Bolisi, ond yr Uned Polisi Cydraddoldeb.

Mae ambell enghraifft, serch hynny, lle mae'r ddau air sy'n dilyn enw benywaidd gymaint ynghlwm wrth ei gilydd nes bod treiglad yn digwydd. Enghraifft o hynny yw 'yr Ŵyl Gerdd Dant' lle caiff 'cerdd dant' ei drin i bob pwrpas fel un gair neu uned.

Sylwer hefyd: ardal lai ffafriolffordd fwy prysur.

‘diwethaf’ gyda rhifolyn ac enw benywaidd 

Nid oes angen treiglo ‘diwethaf’ mewn ymadroddion fel y rhain, gan fod y rhifolyn a’r enw’n cael eu trin fel ymadrodd enwol lluosog: 

‘Y pum mlynedd diwethaf’ 

‘Y chwe strategaeth diwethaf’ 

‘Y saith menyw diwethaf’ 

Mae’n gywir treiglo neu beidio â threiglo, ond yn fwy arferol peidio. 

enwau sefydliadau a brandiau 

Ni fyddem yn rhoi rheol gadarn, ond er cysondeb yng ngwaith Gwasanaeth Cyfieithu Llywodraeth Cymru, dyma drefn gyffredinol y byddem yn ei hargymell:

  • Osgoi’r broblem os oes modd, er enghraifft trwy aildrefnu’r frawddeg neu trwy roi enw cyffredin o flaen yr enw priod

Cafodd ei gyflogi gan elusen Tŷ Hafan

  • Treiglo enwau sy’n dechrau â disgrifiad, er enghraifft cyngor, cymdeithas ac ati, hyd yn oed os yw’r gair disgrifiadol hwnnw’n rhan o’r teitl

Anfonodd gais cynllunio i Gyngor Sir Gâr

  • Peidio â threiglo enwau nad ydynt yn dechrau â gair disgrifiadol o’r fath

Mae gan Cyfoeth Naturiol Cymru ganolfannau ymwelwyr ym mhob cwr o Gymru

  • Byddem yn argymell peidio â threiglo enwau masnachol a brandiau mewn gwaith ysgrifenedig, er ein bod yn tueddu i wneud hynny ar lafar:

Agorodd y Gweinidog gangen newydd o Tesco ar y stryd fawr

fe’i

Nid oes angen treiglo ar ôl ‘fe’i’:
fe’i gwelwyd ef, fe’i torrwyd hi nid ‘fe’i welwyd ef’, ‘fe’i thorrwyd hi’
Ond mae angen ychwanegu ‘h’ o flaen llafariaid:
fe’i hanafwyd ef, fe’i hanafwyd hi nid ‘fe’i anafwyd ef’, ‘fe’i anafwyd hi’

hefyd

a threfnu hefyd weithgareddau o bob math, nid ‘a threfnu hefyd gweithgareddau o bob math’

‘ll’ a ‘rh’

nid oes angen treiglo ‘ll’ a ‘rh’
ar ôl ‘y’: y llewes, y rhodfa
ar ôl ‘un’: un llaw, un rhaw
ar ôl ‘yn’: yn llwyddiannus, yn rhagrithiol
ar ôl ‘pur’: pur llewyrchus, pur rhydlyd

mae angen treiglo ‘ll’ a ‘rh’ 
ar ôl ‘rhy’: rhy laes, rhy rwydd
fel gwrthrych berf gryno: clywais rai yn dweud, gwelais ragor o gathod

neu

Treiglad meddal mewn enwau, berfenwau ac ansoddeiriau:
dyn neu fenyw, rhedeg neu gerdded, gwyn neu ddu
Nid yw ffurfiau cryno berfau’n treiglo ar ôl ‘neu’: 
Galwch heibio neu trefnwch gyfarfod nid ‘... neu drefnwch gyfarfod’

rhaid

Mae modd treiglo neu beidio â threiglo 'rhaid' ar ôl 'oes':
A oes rhaid talu am docyn? neu A oes raid talu am docyn?
Nid oes rhaid codi'n fore neu Nid oes raid codi'n fore

Er cysondeb, arfer y Gwasanaeth Cyfieithu yw peidio â threiglo.

y cysylltair ‘a’ (and)

a than, a thros, a thrwy, a chan, a chyda (treiglad llaes), nid ‘a dan, a dros, a drwy, a gan, a gyda’

‘y tair’, ‘y pedair’

Sy’n gywir – does dim treiglad

yn + ansoddair o flaen berfenw

Pan roddir ansoddair o flaen berfenw bydd y berfenw yn treiglo ond ni fydd yr ‘yn’ yn treiglo’r ansoddair:
mae’r pentref yn cyflym ddirywio, nid ‘mae’r pentref yn gyflym ddirywio’
yn gwirioneddol gredu, nid ‘yn wirioneddol gredu’

yn enwedig

Nid oes angen treiglo ar ôl ‘yn enwedig’:
yn enwedig pobl sy’n gweithio mewn swyddfeydd, nid ‘yn enwedig bobl sy’n gweithio mewn swyddfeydd’