Neidio i'r prif gynnwy

Yr Arddulliadur

Datblygwyd y canllawiau arddull hyn i roi cyngor ac arweiniad i’r rheini sy’n cyfieithu testunau cyffredinol. Gallwch chwilio am eiriau penodol neu gallwch bori fesul adran.

a/neu'r maes
19 canlyniad
Rhestrir y canlyniadau yn ôl trefn yr wyddor.

a / ac

Treiglad llaes sydd ei angen ar ôl y cysylltair ‘a’, nid treiglad meddal. Felly, defnyddiwch a chyda, a chan, a thros, nid ‘a gyda’, ‘a gan’, ‘a dros’ etc.

Peidiwch â defnyddio ‘&’ (yr ampersand) yn y Gymraeg.

Yn aml rhoddir ‘and’ ar ddiwedd y pwynt olaf ond un mewn rhestrau Saesneg sydd yn defnyddio’r wyddor. Mae hyn yn gallu achosi problemau yn y Gymraeg – ee yn yr enghraifft isod byddai rhai pobl yn ynganu’r trydydd pwynt c) fel ‘éc’ ac eraill yn dweud ‘cý’, felly byddai anghysondeb yn codi o ran defnyddio ‘a’ neu ‘ac’ o’i flaen.

Bydd angen ystyried:
a) costau’r gwaith addasu;
b) yr amserlen; ac/a
c) materion iechyd a diogelwch.

Mewn gwirionedd, gellir hepgor y cysylltair yn llwyr mewn testunau Cymraeg gan nad yw’n ychwanegu dim at eglurder y testun. Ond, o’i gynnwys, dylid trin y llythyren sy’n dod ar ei ôl fel pe bai’n cael ei hynganu yn y dull traddodiadol (hynny yw, ‘éc’ ac nid ‘cý’).

Yn yr un modd, os bydd acronym sy’n dilyn y cysylltair yn cael ei ynganu yn Gymraeg fel petai’n dechrau â llafariad, defnyddir ac ee ac S4C, ac LHDTC+, ac ati.

Mewn ymadroddion yn mynegi meddiant defnyddir ‘a/ac’ (cysylltair) yn hytrach nag ‘â/ag’ (arddodiad):
gŵr a chanddo dri o blant, cynllun ac iddo rinweddau arbennig

Negydd ‘ac’ yw ‘nac’ (o flaen llafariaid yn ogystal ag unrhyw acronym sy’n cael ei ynganu yn Gymraeg fel petai’n dechrau â llafariad):
nid oedd ganddo ddillad nac arian; nid oedd ganddyn nhw nac NSPCC Cymru yr adnoddau
 
Negydd ‘a’ yw ‘na’ (o flaen cytseiniaid):
nid oes ganddi wres na golau yn ei chartref

acronymau

Mae acronymau yn digwydd yn gyffredin (ac yn wir yn cael eu gorddefnyddio) mewn testunau Saesneg. Ni ddylid dilyn hynny’n slafaidd a defnyddio acronym yn y testun Cymraeg bob tro y ceir un yn y Saesneg. Ond, ar y llaw arall, nid oes modd eu hosgoi’n llwyr.

Natur y ddogfen fydd yn penderfynu weithiau i ba raddau y dylid defnyddio acronymau. Er enghraifft, mae’n bosibl y byddai cyfieithydd yn dewis ysgrifennu enw rhaglen neu gorff yn llawn pe bai’n ymddangos unwaith neu ddwy mewn datganiad i’r wasg neu lythyr, ond pe bai’r un teitl yn codi ddegau o weithiau mewn dogfen bolisi byddai ei roi’n llawn bob tro yn llafurus i’r darllenydd ac yn ychwanegu at hyd y ddogfen.

Os byddwch yn rhoi’r enw yn llawn yn Gymraeg, ystyriwch a oes angen defnyddio priflythrennau. Er enghraifft, defnyddir yr acronym PL yn Saesneg, ond mae ‘dysgu proffesiynol’ heb briflythrennau yn iawn yn Gymraeg.

Os byddwch yn defnyddio acronym, rhowch yr enw llawn y tro cyntaf, heblaw am ambell un na fyddai ei enw llawn yn gyfarwydd, ee TGAU neu BBC.

Weithiau, ni fydd yr enw llawn wedi’i gynnwys yn y ddogfen Saesneg a bydd angen holi’r sawl a gomisiynodd y gwaith, yn hytrach na dyfalu’r ystyr.

Os na fydd yr acronym yn gyfarwydd, y peth gorau yw cynnig cyfieithiad llawn y tro cyntaf y byddwch yn cyfeirio at y corff yn y testun a rhoi’r acronym ar ôl y teitl mewn cromfachau, ee Arolygiaeth Safonau Gofal Cymru (ASGC). Gallwch wedyn ddefnyddio’r acronym Cymraeg yng ngweddill y testun neu gyfeirio at y corff fel ‘yr Arolygiaeth’, ‘yr Awdurdod’ neu ‘y Bwrdd’ ac yn y blaen, fel y bo’n briodol.

Yn achos ‘WG’ (Welsh Government’) – yn hytrach na gorddefnyddio ‘LlC’ gellir rhoi ‘Llywodraeth Cymru’ y tro cyntaf ac yna ‘y Llywodraeth’ (mewn achosion lle’r ydych yn gwbl fodlon nad oes modd i hynny roi’r argraff mai Llywodraeth y DU sydd dan sylw).

Peidiwch â chreu acronymau Cymraeg ar gyfer enwau cyrff neu fudiadau os nad ydynt yn eu defnyddio eu hunain. Defnyddiwch yr enw llawn yn Gymraeg (lle bo hynny’n briodol) ond yr acronym Saesneg.

Mae enwau rhai cymwysterau’n cael eu trin yn yr un modd. Er enghraifft, defnyddiwch yr acronymau NVQ a GNVQ, ond lle bo angen cyfeirio at y teitlau yn llawn defnyddiwch Cymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol a Cymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol Cyffredinol.

O ddefnyddio acronym Saesneg ac enw llawn Cymraeg, ni fydd angen cynnwys y teitl llawn Saesneg hefyd er mwyn esbonio’r acronym.

Wrth ymdrin â’r lluosog, dilynwch yr un egwyddor ar gyfer acronymau Cymraeg a Saesneg. Ceisiwch osgoi creu acronymau lluosog, os oes modd, trwy aralleirio’r frawddeg. Os nad oes modd gwneud hynny, ystyrir yr acronym fel gair ynddo’i hun felly rhowch y terfyniad lluosog ar ddiwedd yr acronym, ee ‘AALlau’ am ‘Awdurdodau Addysg Lleol’, nid ‘AauALl’. Am yr un rheswm, defnyddiwch yr un terfyniadau bob tro ni waeth pa ffurf sydd i’r lluosog: ‘s’ ar gyfer acronym Saesneg ee NVQs ac ‘au’ ar gyfer acronym Cymraeg ee CNLCau (Cyrff a Noddir gan Lywodraeth Cymru).

Peidiwch â threiglo llythyren gyntaf yr acronym, ee anfon e-bost i CBAC, nid ‘i GBAC’.

Mae Cynllun Iaith Gymraeg Llywodraeth Cymru yn nodi mai’r polisi cyffredinol, yn achos unrhyw fenter bolisi newydd, fydd defnyddio brandiau dwyieithog, gan gynnwys acronymau, sloganau a logos. Mae hynny’n wir hefyd am enwau prif adrannau polisi’r Llywodraeth, ee DfES (Department for Education and Skills) – AdAS (Yr Adran Addysg a Sgiliau). Nid yw’n arfer defnyddio acronymau Cymraeg ar gyfer teitlau’r is-adrannau, fodd bynnag.

berfau ymadroddol

Dyma un o nodweddion hynod yr iaith Saesneg, ac mae’n un sy’n gallu peri penbleth i’r cyfieithydd. Mae berf ymadroddol yn cynnwys berf ac arddodiad neu adferfol, ee fly away, carry on, keep up. Mae pob un ohonom ni yn eu cyfieithu’n llythrennol ar lafar – rydym ni i gyd yn ‘cario ymlaen efo’r gwaith’, er enghraifft. Ar y llaw arall, gall hynny fod yn amhriodol mewn dogfennau ffurfiol a byddai’n well ‘dal ati â’r gwaith’. Mae angen ystyried cywair y darn felly, a Chymreigio os oes modd. Ond rhaid hefyd ystyried a yw’r ymadrodd Cymraeg yn cyfleu union ystyr ac ergyd y Saesneg.

Isod, rhoddir y berfau hyn mewn tri chategori, gan gynnig enghreifftiau ynghyd â syniadau ynghylch sut i ymdrin â nhw.

Berfau lle mae ystyr llythrennol i’r ddwy elfen

The boy ran up the hill

Mae’r bachgen yn rhedeg, ac mae ‘i fyny’ yn disgrifio i ba gyfeiriad y mae’n rhedeg. Mae’n gwbl dderbyniol cyfieithu’r rhain yn llythrennol felly. Mae nifer fawr ohonynt yn ymwneud â symud i gyfeiriad penodol:

come in > dod i mewn
go out > mynd allan

Sylwch fod un gair yn cyfateb i nifer o’r rhain. Gellid dweud bod y berfau un gair yn fwy ffurfiol o bosibl, ond nid yw honno’n rheol gaeth. Gallant hefyd fod yn ddefnyddiol er mwyn arbed lle, ee mewn negeseuon trydar:

dod yn ôl > dychwelyd
mynd i ffwrdd > gadael
mynd i fyny > dringo

Berfau lle mae ystyr llythrennol i’r ferf yn unig

Ceir amrywiaeth eang iawn o’r rhain, ac mae’n bosibl mai’r dull mwyaf cyffredin o ymdrin â nhw yw cyfieithu’r ferf yn unig. Ystyriwch a fyddai’r ail elfen yn cyfrannu unrhyw beth at yr ystyr. Os na, mae’n bosibl nad oes ei hangen. Dyma rai enghreifftiau:

count out > cyfrif
tidy up > tacluso
fall down > disgyn/cwympo/syrthio
fill in > llenwi
slow down > arafu

Un dull o bwyso a mesur a oes angen yr ail elfen yw ei chyfnewid am ei gwrthwyneb, ee ‘i fyny’ am ‘i lawr’ neu ‘i mewn’ am ‘allan’. Os yw’n synhwyrol, mae’n debyg bod yr elfen honno yn cyfrannu at yr ystyr a bod ei hangen. Os yw’n nonsens, gellir ei hepgor.

Os nad yw’r ferf ar ei phen ei hun yn cyfleu’r union ystyr, ystyriwch a oes modd aralleirio:

miss out > colli > colli cyfle
write down > ysgrifennu > gwneud nodyn
sit up > eistedd > codi ar ei eistedd

Berfau lle nad oes ystyr llythrennol i’r elfennau unigol

Ystyriwch y frawddeg “My money has run out”. Nid yw’r arian yn rhedeg i unlle, i mewn nac allan. Yn ddelfrydol felly, dylid dod o hyd i ymadrodd idiomatig Cymraeg. Yn yr achos hwn, byddai “Mae fy arian wedi darfod/dod i ben” yn gweithio. Dyma ragor o enghreifftiau, a chyfieithiadau posibl:

own up > cyfaddef
take place > digwydd
work out > cyfrifo
stand out > dal sylw
carry on > dal ati

Byddai’n anodd iawn llunio rhestr gynhwysfawr, gan y bydd y cyfieithiad yn amrywio yn unol â’r cyd-destun. Er enghraifft:

He worked out the bill
Cyfrifodd y bil

He worked out what to do
Penderfynodd beth i’w wneud

He worked out the puzzle
Datrysodd y pos

 

Set out

Dyma enghraifft sy’n codi’n aml wrth gyfieithu dogfennau ffurfiol. Mae fel arfer yn cael ei gyfieithu fel ‘nodi’ mewn deddfwriaeth, gan nad oes unrhyw amwysedd:

These regulations set out the procedure to be followed
Mae’r rheoliadau hyn yn nodi’r weithdrefn sydd i’w dilyn

Mewn testunau cyffredinol, ar y llaw arall, gall ‘set out’ gyfleu rhywbeth mwy disgrifiadol neu amhenodol:

The Minister set out the government’s plans for the next five years

Gallai ‘disgrifio’, ‘egluro’, ‘mynegi’, neu hyd yn oed ‘amlinellu’ weithio, gan ddibynnu pa mor benodol y teimlir y mae’r Gweinidog wedi bod. Bydd rhaid pwyso a mesur yn ôl y cyd-destun.

Gall ‘set out’ fynegi ystyr gwahanol hefyd wrth gwrs:

He did not set out to break the world record
Nid torri record y byd oedd ei fwriad

Draw on

Dyma enghraifft arall lle mae angen pwyso a mesur pa ystyr yn union y mae’r awdur yn ceisio’i gyfleu. Er enghraifft, gallai ‘defnyddio’, ‘manteisio ar’ ac ‘elwa ar’ fod yn bosibl yn y frawddeg isod:

The report draws on published contributions and comments made in focus groups

Os teimlir bod y testun Saesneg yn fwriadol amwys, efallai y dylid ystyried atgynhyrchu hynny yn y cyfieithiad.

cenedl enwau

Ein harfer yw dilyn y genedl gyntaf sy’n cael ei nodi yng Ngeiriadur Prifysgol Cymru os nodir dau ddewis, oni bai bod cytundeb ffurfiol i ddilyn cenedl wahanol er cysondeb. Er enghraifft, defnyddir ‘fersiwn’ yn fenywaidd gan y Gwasanaeth Cyfieithu er mai enw gwrywaidd yn gyntaf ydyw yng Ngeiriadur Prifysgol Cymru.

Nodwch yn arbennig yr isod - mae’r rhestrau hyn yn cynnwys geiriau rydym yn eu trin yn wahanol i Eiriadur y Brifysgol, a geiriau ble rydym yn dilyn y genedl yn y Geiriadur ond y mae cwestiwn yn codi ynghylch eu cenedl yn aml:

benywaidd

amrywiaeth
anfantais
aradr
carafán
cilfan
economi
effaith
eitem
fersiwn
ffaith
ffolder 
galwad
gwybodaeth
hysbyseb
neges
proses
sesiwn
strategaeth
trosedd
tudalen
tuedd
ymchwil
ymgyrch 
ystyriaeth       

gwrywaidd

busnes
ffactor
ffolder (nid oes cofnod o “ffolder” yn yr ystyr ‘lle i gadw papurau’ yng Ngeiriadur Prifysgol Cymru)
fformat
fframwaith
man (=lle)
nifer
poen
rhwydwaith
safle
sector
statws
syndrom

Gweler hefyd yr erthygl am 'golwg' sy'n trafod cenedl yr enw hwn mewn gwahanol gyd-destunau.

cod

Er cysondeb: cod nid ‘côd’ lle bo’n cyfeirio at y gair Saesneg ‘code’.

còd

Er cysondeb: còd nid ‘cod’ lle bo’n cyfeirio at y pysgodyn penfras.

contravention

Mae sawl ffordd o gyfieithu ‘contravention’.  Gellir defnyddio berfenw fel ‘torri’  i gyfleu ‘contravention’ fel enw cynnull* e.e. ‘contravention of certain regulations not to be an offence’, ‘torri rheoliadau penodol i beidio â bod yn drosedd’.

Gellir cyfleu’r ymadrodd ‘in contravention of’ drwy ddefnyddio ‘yn groes i’ e.e. ‘in contravention of regulation 5’, ‘yn groes i reoliad 5’.

I gyfleu ‘contravention’ fel enw rhif*, mae nifer o ddewisiadau, fel y rhai a ganlyn:

  • Mae ‘toriad’ yn gweithio os bydd ‘torri’ yn cael ei ddefnyddio yn yr un cyd-destun e.e. ‘the health mark or identification mark that constitutes the alleged contravention’, ‘y marc iechyd neu’r marc adnabod sy’n ffurfio’r toriad honedig’.  O ddefnyddio ‘toriad’, mae angen sicrhau na fydd amwysedd yn codi oherwydd ystyron eraill ‘toriad’.

  • Os yw’n amlwg beth sy’n destun y torri, mae modd defnyddio cyfuniadau yn ‘tor’. Er enghraifft, ‘tor rheoliad’ pan fydd yn amlwg mai torri ‘rheoliad’ sydd o dan sylw e.e. ‘the contravention which is complained of may for all incidental purposes be treated as having been committed in any part of Wales’, ‘caniateir ymdrin â'r tor rheoliad y cwynir amdano at bob diben atodol fel pe bai wedi ei gyflawni mewn unrhyw ran o Gymru’.

  • Mewn cyd-destunau eraill defnyddir ‘tramgwydd’ i gyfleu ‘contravention’ e.e. ‘traffic contraventions’ ‘tramgwyddau traffig’; ‘parking contraventions’, ‘tramgwyddau parcio’; a ‘hazardous substances contravention’, ‘tramgwydd sylweddau peryglus’. 

  • Ac ar adegau gellir defnyddio ‘torri ‘ i gyfleu’r enw Saesneg e.e. ‘guilty of an offence in the case of any contravention of section 2(2) to (4) of the Act, including any such contravention by virtue of a failure to comply with the requirements of article 3.’ , ‘euog o drosedd os torrir adran 2(2) i (4) o’r Ddeddf, gan gynnwys ei thorri yn rhinwedd methu cydymffurfio â gofynion erthygl 3’

* ‘Enw cynnull’ yw enw nad oes modd ei ddefnyddio yn y ffurf luosog ac nad oes modd ei gyfrif e.e. ‘bara’.  ‘Enw rhif’ yw enw y mae modd ei ddefnyddio yn y ffurf luosog ac y mae modd ei gyfrif e.e. ‘torth’.  Weithiau, fel yn achos ‘contravention’ mae enwau yn gallu cael eu defnyddio fel enwau cynnull ac fel enwau rhif, ond i gyfleu ystyron gwahanol.

cwynion (complaints)

Mae angen yr acen ar ffurfiau treigledig y gair unigol ‘cwyn’ er mwyn i’r ystyr fod yn eglur – gweler yr erthygl ‘cwyn (complaint)’.

Mae’r cwestiwn yn codi a oes angen acen grom yn y gair treigledig lluosog, ‘gwynion’. Y cyngor yn y gyfrol ‘Orgraff yr Iaith Gymraeg’ (paragraff 72(2)) yw nad oes angen yr acen honno, o ddilyn y rheolau arferol, oherwydd nad sain llafariad hir sydd i’r llythyren ‘w’ yn y ffurf luosog.

Er hynny mae’n nodi y gall fod yn syniad cael rhyw ffordd o nodi’r sain gywir gan fod cynifer o bobl yn ei chamseinio. Mae’n argymell y gellid defnyddio’r to bach – gan nad oes arwydd arall addas yn bodoli yn orgraff y Gymraeg – lle bo angen arweiniad ynghylch ynganiad cywir (neu, felly, i osgoi amwysedd yn yr ystyr).

Ein harfer ni felly, ar gyfer gwaith Llywodraeth Cymru, yw defnyddio “gwynion” ar gyfer ffurf luosog “gŵyn” ac eithrio mewn amgylchiadau penodol, prin lle gallai’r ystyr fod yn amwys, neu lle mae angen arweiniad ar yr ynganiad (ee mewn araith neu sgript). Yn y rhan fwyaf o gyd-destunau, dylai fod yn ddigon eglur ai lluosog yr ansoddair ‘gwyn’ ynteu lluosog yr enw ‘cwyn’, wedi’i dreiglo, a ddynodir gan y gair ‘gwynion’.

cyfieithu 'Wales' mewn teitlau

Wrth gyfieithu teitlau swyddi, sefydliadau, ymgyrchoedd cyhoeddusrwydd ac ati, mae’n werth ystyried a oes angen cyfieithu ‘Wales’ bob tro. Wrth gwrs nid penderfyniad y cyfieithydd yw hynny os oes teitl swyddogol eisoes yn bodoli. Ond os bydd gofyn bathu teitl newydd, dyma rai pwyntiau i’w cadw mewn cof.

Mae’n hollbwysig osgoi amwysedd ee os bydd cyfeiriad at Brif Weinidog y DU a Phrif Weinidog Cymru yn yr un darn. Defnyddiwch ‘y Prif Weinidog’ ar gyfer Prif Weinidog Cymru, a rhoi Prif Weinidog y DU yn llawn os yw’r ddau yn codi yn y darn. Gweler hefyd yr eitem ‘Senedd Cymru / Llywodraeth Cymru’.

Gall godi hefyd pan sefydlir cangen Gymreig o ymgyrch neu gorff Prydeinig, ee ‘Children Takeover Wales’, sy’n rhan o ymgyrch ehangach ‘Children Takeover’ ledled y DU. Gellid ystyried bod y lleoliad ymhlyg yn iaith y teitl ac yng nghyd-destun y darn, ac felly nad oes angen cyfieithu’r ‘Wales’.

Ar y llaw arall, efallai bod ymgyrch neu gorff y DU yn gyfarwydd ac wedi’i hen sefydlu, neu efallai bod y darn dan sylw yn cyfeirio at y ddwy ymgyrch neu’r ddau gorff a bod angen gwahaniaethu rhyngddynt yn fwy penodol.

Os felly, gall fod angen ychwanegu enw’r wlad i osgoi amwysedd. Y penderfyniad mwyaf cyffredin fyddai ychwanegu ‘Cymru’ at deitl yr ymgyrch Gymreig. A fyddai modd weithiau gwneud y gwrthwyneb, ac ychwanegu ‘y DU’ at deitl yr ymgyrch ehangach, gan ddibynnu ar y cyd-destun?

Y peth pwysig yw cadw’r amwysedd posibl mewn cof a sicrhau bod yr ystyr yn gwbl eglur i’r darllenydd.

cystrawen

Wrth gyfieithu, rhaid osgoi glynu’n rhy gaeth wrth gystrawen y Saesneg.

There will be an increase in the demand for and the provision of modern foreign language courses.
Anghywir: Bydd cynnydd yn y galw am a’r ddarpariaeth o gyrsiau ieithoedd tramor modern.
Cywir: Bydd y galw am gyrsiau ieithoedd tramor modern yn cynyddu a bydd mwy ohonynt yn cael eu darparu.

The scheme was important in creating opportunities.
Anghywir: Roedd y cynllun yn bwysig wrth greu cyfleoedd.
Cywir: Roedd y cynllun yn bwysig o ran creu cyfleoedd.
 
The aim of the scheme is to improve standards in schools.
Anghywir: Amcan y cynllun yw i wella safonau mewn ysgolion.
Cywir: Amcan y cynllun yw gwella safonau mewn ysgolion.

Whilst we acknowledge that we cannot ...
Anghywir: Tra’r ydym yn cydnabod na allwn ...
Cywir: Er ein bod yn cydnabod na allwn …

These are the potential problems.
Anghywir: Y rhain yw’r problemau potensial (hynny yw, defnyddio ‘potensial’ fel ansoddair)
Cywir: Y rhain yw’r problemau posibl.

The number of cases has risen by 20%.
Anghywir: Mae’r nifer o achosion wedi cynyddu/codi o 20%.
Cywir: Mae nifer yr achosion wedi cynyddu/codi 20%. 
neu 
Bu cynnydd o 20% yn nifer yr achosion.

To provide the public with information.
Anghywir: Darparu’r cyhoedd â gwybodaeth.
Cywir: Darparu gwybodaeth ar gyfer y cyhoedd.

cysylltnod

Mae adrannau IV.31-IV.36 Gramadeg yr Iaith Gymraeg, a’r adrannau ar gyfansoddeiriau rhywiog ac afryw yn Orgraff yr Iaith Gymraeg (paragraffau 1-22), yn disgrifio swyddogaethau gramadegol ac orgraffyddol y cysylltnod. Fodd bynnag, gall arferion go iawn fod yn wahanol i’r hyn a ddisgrifir yn y ffynonellau hynny, ac weithiau gall fod yn anodd cymhwyso’r cyngor i eiriau sy’n codi mewn testunau. Bwriad yr erthygl hon yw rhoi arweiniad ymarferol ynghylch penderfynu a ddylid cynnwys y cysylltnod mewn geiriau ai peidio.

Mewn rhai sefyllfaoedd mae’n bendant fod angen y cysylltnod yn ôl gramadeg ac orgraff y Gymraeg. Er enghraifft, mae angen cynnwys y cysylltnod er mwyn:

•    Gwahanu graffemau cytseiniol sydd naill ai’n gallu cael eu dehongli fel un lythyren yn hytrach na dwy (ee ‘ail-lenwi’) neu wahanu dwy graffem gytseiniol sydd yr un fath (ee ‘rhydd-ddeiliad’, ‘rhyng-golegol’) 
•    Dynodi mai ar y sillaf olaf y mae’r pwyslais mewn cyfansoddeiriau llac, yn ôl diffiniad Orgraff yr Iaith Gymraeg (ee ‘cam-drin’, ‘hunan-barch’, ‘cyd-fyw’)
•    Rhannu elfennau ymadroddion sy’n gweithredu’n eiriau syml (ee ‘di-droi’n-ôl’, ‘di-asgwrn-cefn’).

Mewn cyd-destunau eraill, nid yw o angenrheidrwydd yn ieithyddol-angenrheidiol cynnwys y cysylltnod, ond gall fod yn ddefnyddiol. Er enghraifft:

  • Gwahanu graffemau llafarog. Gwneir hynny weithiau, yn enwedig mewn termau gwyddonol, i hwyluso darllen y term (‘gastro-oesoffagaidd’, ‘bio-olew’)
  • Gwahanu’r elfennau mewn cyfansoddeiriau, i hwyluso darllen y term (ee ‘oedran-gyfeillgar’, ‘rhywedd-benodol’, ‘nyrs-ragnodydd’)
  • Dynodi’r cyfrwng electronig – rhowch gysylltnod gyda chysyllteiriau sy’n cynnwys y rhagddodiad ‘e-’ i gyfleu’r cyfrwng electronig (ee ‘e-bost’, ‘e-bostio’, ‘e-dendro’, ‘e-Gymru’)
  • Pan fo ‘cyd-’, ‘cyn-’, ‘is-’, ‘ôl-’ ac ‘uwch-’ yn elfennau cyntaf mewn geiriau a bod pwyslais arbennig arnynt, mae angen cysylltnod ar eu hôl i ddynodi hynny. Mae hyn yn arbennig o gyffredin ar gyfer enw ar gyrff a swyddi ee ‘cyd-bwyllgor’, ‘cyn-lywydd’, ‘is-gadeirydd’, ‘uwch-gyfieithydd’.
  • Mewn termau sy’n cynnwys y rhagddodiad ‘marw_’ ee ‘marw-enedigaeth’ a ‘marw-anedig’. Mae hyn er hwylustod y darllen ac mae’n adlewyrchu’r defnydd cyffredin. Mae’n cyd-fynd â’r hyn a nodir yng Ngeiriadur yr Academi a’r Porth Termau, ond mae’n wahanol i’r hyn a nodir yng Ngeiriadur Prifysgol Cymru.

Heblaw mewn sefyllfaoedd fel hyn, fel arfer nid oes angen y cysylltnod, yn enwedig mewn cyfansoddeiriau lle mae’r ail elfen yn cynnwys mwy nag un sill (ee ‘ailadrodd’, ‘cydweithio’, ‘camarwain’, ‘aralleirio’) hyd yn oed os gwneir hynny yn y gair cyfatebol Saesneg, ee ‘re-assess’, ‘ailasesu’; ‘co-operate’, ‘cydweithredu’; ‘anti-bacterial’, ‘gwrthfacterol’.

Os ydych yn ansicr a oes angen cysylltnod mewn gair, edrychwch ar y cofnodion perthnasol yn TermCymru, y Porth Termau a Geiriadur Prifysgol Cymru, neu mewn dogfennau blaenorol cysylltiedig. Os nad oes cofnodion perthnasol, y maen prawf yw a fyddai cynnwys y cysylltnod yn ei gwneud yn haws i’r darllenydd ddeall ffurfiant ac ystyr y gair.

Mae confensiynau penodol ar ddefnyddio cysylltnodau mewn enwau lleoedd. Am esboniad llawn gweler adran 3 yng nghanllawiau safoni enwau lleoedd Comisiynydd y Gymraeg: https://www.comisiynyddygymraeg.cymru/polisi-ac-ymchwil/enwau-lleoedd 

 

deliver

Mae sawl ystyr i’r gair ‘deliver’ yn Saesneg. Mae’n rhaid ystyried beth yn union sydd dan sylw felly cyn cyfieithu. Dyma rai posibiliadau:

danfon

Dyma’r gair a ddefnyddir mewn testunau cyffredinol pan fo ‘deliver’ yn golygu trosglwyddo neu ddosbarthu rhywbeth i rywun ee:

Wherever you live, we can deliver your tobacco to your doorstep.
Lle bynnag yr ydych yn byw, gallwn ddanfon eich tybaco at garreg eich drws.

traddodi

Mae ystyr tebyg dan sylw yma, ond ei fod yn benodol i destunau deddfwriaethol. Y diffiniad yw “rhoi neu drosglwyddo dogfen gyfreithiol yn swyddogol” ee:

‘The documents may be served on a person by delivering them to the person, or by sending them by post’
‘Caniateir cyflwyno'r dogfennau i berson drwy eu traddodi i'r person, neu drwy eu hanfon drwy'r post.’

Mae ‘traddodi’ hefyd yn briodol yn yr ystyr ‘traddodi darlith’.

cyflawni

Mae ‘deliver’ wedi dod yn air cyffredin yn Saesneg i olygu ‘achieve’ neu ‘fulfil’ ee ‘deliver objectives’, ‘deliver on our promises’. Y gair rydym ni’n ei argymell fel arfer yw ‘cyflawni’. Mae’n gyffredin iawn mewn teitlau cynlluniau, sloganau ac ati ee ‘Delivering for Wales’ – ‘Yn Cyflawni dros Gymru’.

darparu

Gall hwn fod yn ddewis priodol hefyd ar adegau. Ystyriwch y Saesneg ‘our expertise allows us to deliver a professional, high quality service.’ Er na fyddech, o bosibl, yn dod o hyd i ‘darparu’ wrth chwilio yn y geiriadur o dan ‘deliver’, yr ymadrodd arferol yn Gymraeg yw ‘darparu gwasanaeth’, ac felly dyna yw’r cyfieithiad mwyaf addas.

cyflenwi

Rhaid bod yn ofalus ar y llaw arall, gan fod awdurdodau lleol yn aml yn trefnu i sefydliadau eraill ddarparu gwasanaethau ar eu rhan. Yn yr achos hwn, mae’n bosibl y byddai’n gamarweiniol defnyddio ‘darparu’. Un opsiwn yw ‘cyflenwi’.

achub

Bydd hwn yn codi’n llai aml yng ngwaith y Llywodraeth, ond mae’n werth ei nodi.

‘Achubwyd y gath o’i thynged erchyll gan y dyn tân’
‘The fireman delivered the cat from her terrible fate.’

Mae’n debyg bod posibiliadau eraill hefyd. Y peth pwysig yw ystyried yr ystyr, a pheidio â defnyddio’r un cyfieithiad bob tro yn ddifeddwl.

Ei Fawrhydi (EF) / Ei Mawrhydi (EM)

Dylid defnyddio ‘Ei Fawrhydi’, neu’r byrfodd ‘EF’, mewn teitlau sefydliadau etc, yn hytrach nag ‘Ei Mawrhydi’ / ‘EM’. 

Dylid gwneud hyn hyd yn oed wrth gyfeirio’n ôl at gyfnodau pan oedd Brenhines yn hytrach na Brenin, ee:

  • ‘Yn 2007 cyhoeddodd Cyllid a Thollau EF...’ 
  • ‘(Llundain, Llyfrfa Ei Fawrhydi, 2015)’ 
  • ‘Agorwyd CEF Berwyn yn 2017’. 

Eithriadau i hyn yw: 

  • Teitlau sy’n cyfeirio’n benodol at y ddiweddar Frenhines Elizabeth II 
  • Teitlau dogfennau cyhoeddedig neu ddeddfwriaeth sy’n cynnwys ‘Ei Mawrhydi’ / ‘EM’
  • Cyfeiriadau at ‘Ei Mawrhydi’ / ‘EM’ mewn dyfyniadau. 

Mae’r un egwyddor yn berthnasol wrth gyfeirio at Gwnsleriaid y Brenin (‘CB’) – dylid defnyddio ‘CB’ yn hytrach nag ‘CF’ hyd yn oed wrth gyfeirio at y cyfnod cyn marwolaeth y ddiweddar Frenhines yn 2022. 

 

68012 Welsh Act No 4 Legislation 2019.indd – Deddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019

11 Cyfeiriadau at y Sofren 

Mae cyfeiriad at y Sofren mewn Deddf Cynulliad neu is-offeryn Cymreig i’w ddarllen fel cyfeiriad at y Sofren ar y pryd.

 

ukpga_19780030_en.pdf (legislation.gov.uk) – Interpretation Act 1978

Image removed.

ffigurau, rhifau a rhifolion

Mae’r arweiniad hwn yn berthnasol yn bennaf i’r cyweiriau clasurol a ffurfiol. Yn y cyweiriau anffurfiol a llafar, gellir addasu yn ôl yr angen, ond dylid bod yn gyson o fewn un darn neu gyfres o ddarnau.  

Ffigurau ynteu geiriau  

Wrth gyfieithu dilynwch yr hyn sydd yn y testun Saesneg o ran defnyddio geiriau ynteu ffigurau, ond dilynwch y cyngor isod wrth ddrafftio testun gwreiddiol yn Gymraeg neu os oes ansicrwydd ynghylch sut i gyfieithu’r Saesneg.  

Yn gyffredinol, rhowch y rhifau ‘un’ i ‘deg’ mewn geiriau a defnyddiwch ffigurau ar gyfer rhifau o 11 ymlaen. Ond mae rhai eithriadau i hyn – defnyddir ffigurau ar gyfer un i ddeg yn y sefyllfaoedd hyn:  

  • amserau, cyfnodau amser, oedrannau, dyddiadau  
  • canrannau, symiau arian, unedau mesur  
  • cyfrifiadau, fformiwlâu, rhifau sy’n cynnwys pwynt degol  
  • rhifau eiddo mewn cyfeiriadau 
  • pan fo rhifau hyd at ddeg ac uwchben deg yn cael eu defnyddio gyda’i gilydd 
  • gyda ‘miliwn’ a ‘biliwn’. Hefyd, peidiwch â threiglo ‘miliwn’ na ‘biliwn’ er mwyn osgoi amwysedd rhyngddynt (hy, peidiwch â dweud ‘2 filiwn’ ar gyfer ‘2 miliwn’ na ‘2 biliwn’).  

Rhoddir ffracsiynau mewn ffigurau mewn cyfrifiadau neu fformiwlâu, ond cânt eu mynegi mewn geiriau mewn testun (‘1/3’ mewn cyfrifiadau etc, ond ‘traean’ neu ‘un ran o dair’ mewn testun). 

 

Degol ynteu ugeiniol  

Caiff ffigurau eu trin fel ffurfiau clasurol neu ugeiniol, yn hytrach na ffurfiau degol. Felly wrth gyfieithu ‘and 21’ rhowch ‘ac 21’ fel petai’n darllen ‘ac un ar hugain’ ac nid ‘a 21’ (‘a dau ddeg un’).  

Caiff ffigurau mewn dyddiadau eu trin fel ffurfiau ugeiniol hefyd. Ni chaiff y fannod ei chynnwys yn ysgrifenedig, ond wrth ddefnyddio cysyllteiriau ac arddodiaid o flaen dyddiadau, tybir bod y fannod yn bresennol ar lafar. Hynny yw:  

  • ar gyfer ‘and 20 March’, defnyddir ‘a 20 Mawrth’ (‘a’r ugeinfed o Fawrth’) 
  • ar gyfer ‘from 31 March’, defnyddir ‘o 31 Mawrth’ (‘o’r unfed ar ddeg ar hugain o Fawrth’) 
  • ar gyfer ‘the period beginning with 1 December 2020’ defnyddir ‘y cyfnod sy’n dechrau â 1 Rhagfyr 2020’ (‘y cyfnod sy’n dechrau â’r cyntaf o Ragfyr 2020’). 

Mae rhai eithriadau i’r arfer o drin ffigurau fel ffurfiau ugeiniol. Defnyddir y system ddegol yn y sefyllfaoedd hyn:  

  • rhifau tai – ‘ymweld ag 80 Heol y Frenhines’ (‘ymweld ag wyth deg Heol y Frenhines’) nid ‘ymweld â 80 Heol y Frenhines’ (‘ymweld â phedwar ugain Heol y Frenhines’)  
  • rhifau ffôn  
  • rhifau cyn ac ar ôl pwyntiau degol – ‘a 20.15 y cant’ (‘a dau ddeg pwynt un pump y cant’) nid ‘ac 20.15 y cant’ (‘ac ugain pwynt pymtheg y cant’) 
  • rhifau blynyddoedd – ‘rhwng 1995 ac 1996’ nid ‘rhwng 1995 a 1996’. Mae hyn yn cyd-fynd â’r cyngor yn yr erthygl ar flynyddoedd i drin y rhif cyntaf fel ‘un’ yn hytrach na ‘mil’. 

 

Treiglo ai peidio

Pan fo’r arferion gramadegol o ran treiglo ar ôl rhifau yn ddiamwys ac yn sefydledig, dilynir y rheini. Mae’r cyngor hwn yn ymwneud â sefyllfaoedd pan fo’r arferion yn amrywio neu’n ansicr. 

 

Mae ‘blwydd’ a ‘blynedd’ yn treiglo’n drwynol ar ôl pob rhifolyn ar wahân i 2, 3, 4 a 6, ond nid yw ‘diwrnod’ yn treiglo’n drwynol ar ôl rhifau, ond ceir anghytundeb ymhlith gramadegwyr o ran ‘6 blynedd/mlynedd’, yn enwedig ar lafar.

Ni threiglir enwau heblaw ‘cant’, ‘punt’ a ‘ceiniog’ yn feddal ar ôl ‘saith’ ac ‘wyth’, ee ysgrifennir ‘saith parc’ ac ‘wyth rhanbarth’, nid ‘saith barc’ ac ‘wyth ranbarth’.  

Ni threiglir ‘diwrnod’ yn drwynol ar ôl rhifau, ee ysgrifennir ‘saith diwrnod’ a ‘15 diwrnod’. 

 

Y ffurfiau cyswllt ynteu’r ffurfiau dyfynnol  

Defnyddir y ffurfiau cyswllt ‘pum’ (5), ‘chwe’ (6) a ‘can’ (100) yn gyffredinol ee ‘pum arth’, ‘pum dyn’, ‘chwe adroddiad’, ‘chwe menyw’, ‘can metr’, ‘can merch’. 

Gellir defnyddio’r ffurf gyswllt ‘deng’ o flaen llafariaid e.e. ‘deng awdurdod’ ac ‘m’ e.e. deng mis. Mae hyn yn gyffredin yn y cywair clasurol yn arbennig, ac i raddau yn y cywair ffurfiol hefyd. Mae’n fwy arferol gweld y ffurf ddyfynnol ‘deg’ yn y cyweiriau anffurfiol a llafar.

Ni fydd y ffurfiau cyswllt ‘deuddeng’ (12) a ‘pymtheng’ (15) yn codi yn ein gwaith fel arfer gan y defnyddir ffigurau ar gyfer rhifau o 11 i fyny.  

 

Y lluosog ynteu’r unigol  

Gyda ffigurau a rhifolion hyd at ddeg, defnyddir yr unigol, ee ‘2 filltir’, ‘dau ddyn’.  

Gyda ffigurau a rhifolion o 11 i fyny, defnyddir yr unigol pan fo’r hyn a gyfrifir yn dod ar ôl y rhif ee ‘18 mis’ (‘deunaw mis’) yn hytrach na ‘18 o fisoedd’ (‘deunaw o fisoedd neu ‘un deg wyth o fisoedd’). 

Gyda ffigurau a rhifolion o 11 i fyny, defnyddir y lluosog yn y sefyllfaoedd hyn:  

  • pan ddefnyddir y system ugeiniol a phan fo’n arferol rhoi’r hyn a gyfrifir yn y canol – defnyddir ‘11 o filltiroedd’ (‘un ar ddeg o filltiroedd’) nid ‘11 filltir’ (‘un filltir ar ddeg’)  
  • pan ddefnyddir y system ddegol – defnyddir ‘17.34 o filltiroedd’ (‘un deg saith pwynt tri pedwar o filltiroedd’) nid ‘17.34 filltir’ (‘un deg saith filltir pwynt tri pedwar’) nac ‘17.34 milltir’ (‘un deg saith pwynt tri pedwar milltir’). 

 

Rhifau ar ddechrau brawddegau 

Peidiwch â dechrau brawddegau â ffigurau. Yn lle hynny:  

  • gallwch ddefnyddio’r geiriau yn lle’r ffigurau – ‘Ugain cais yn unig a dderbyniwyd’, yn hytrach nag ‘20 cais yn unig a dderbyniwyd’  
  • gallwch aildrefnu’r frawddeg – ‘Derbyniwyd 20 cais yn unig’ yn hytrach na ‘20 cais yn unig a dderbyniwyd’.   
     

Pwyntiau perthnasol eraill 

Cofiwch wahaniaethu rhwng ‘rhif’ (sy’n benodol ac, yn gyffredinol, yn cyfeirio at rifolion – 1, 2, 3 etc) a ‘nifer’ (sy’n amhenodol, ee ‘mae nifer mawr o gyrsiau ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg’).  

Mae cyngor perthnasol arall yn yr erthyglau ynghylch: 

  • dyddiadau  
  • blynyddoedd 
  • canrifoedd 
  • teitlau unedau milwrol – trefnolion a rhifolion.  

 

Gellir defnyddio’r ffurf gyswllt ‘deng’ o flaen llafariaid e.e. ‘deng awdurdod’ ac ‘m’ e.e. deng mis. Mae hyn yn gyffredin yn y cywair clasurol yn arbennig, ac i raddau yn y cywair ffurfiol hefyd. Mae’n fwy arferol gweld y ffurf ddyfynnol ‘deg’ yn y cyweiriau anffurfiol a llafar.

Llywodraeth Cymru, Senedd Cymru ac Aelodau'r Senedd

Llywodraeth Cymru – Welsh Government

Prif Weinidog Cymru a Gweinidogion y Cynulliad, ynghyd â’r gweision sifil sy’n gweithio i’r is-adrannau polisi. Mae’n bwysig iawn peidio â chymysgu rhwng y rhain. Ni ddylid cyfieithu ‘Welsh Government’ fel ‘Senedd Cymru', er enghraifft. 'Llywodraeth Cynulliad Cymru' oedd yr enw blaenorol ar Lywodraeth Cymru.

Wrth gyfeirio’n ôl at ‘y llywodraeth’ mewn brawddeg, cofiwch mai enw benywaidd ydyw, ee Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i hyrwyddo cyfle cyfartal yn ei pholisïau.

Senedd Cymru – Welsh Parliament

Yn sgil Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 newidiodd enw Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae gan y sefydliad (hy, y corff corfforaethol sy’n cynnwys 60 Aelod etholedig ar hyn o bryd, ac yn cynyddu i 96 Aelod yn dilyn etholiad 2026) ddau enw swyddogol, ‘Senedd Cymru’ a ‘Welsh Parliament’.

Polisi Llywodraeth Cymru yw cyfeirio at Senedd Cymru yn gyffredinol fel '[y/the] Senedd' yn Gymraeg a Saesneg. Defnyddir ‘Senedd Cymru’ y tro cyntaf i’r teitl godi mewn dogfennau ffurfiol megis Memoranda Esboniadol, ac ‘[y/the] Senedd’ wedi hynny. Dim ond ‘[y/the] Senedd’ a ddefnyddir mewn dogfennau llai ffurfiol megis llythyrau, areithiau a datganiadau i’r wasg.

Mewn testun sy’n cyfeirio at Senedd Cymru ac at Senedd y DU, defnyddiwch ‘y Senedd’ ar gyfer y ddeddfwrfa ddatganoledig, a rhoi ‘Senedd y DU’ neu ‘Senedd San Steffan’ yn llawn. Os oes unrhyw amwysedd yn codi o hyn, gellid ychwanegu gair neu ddau o esboniad y tro cyntaf i’r teitlau godi, ee:

The COVID-19 pandemic continues to have an impact on Bill progression through UK Parliament and Senedd Cymru (the Senedd).

Mae pandemig COVID-19 yn parhau i gael effaith ar hynt y Bil trwy’r Senedd a Senedd y DU (cyfeiriad at Senedd Cymru yw pob cyfeiriad at ‘y Senedd’ o hyn ymlaen).

Gweler hefyd yr eitem ‘cyfieithu ‘Wales’ mewn teitlau’.

Aelodau o’r Senedd (ASau) – Members of the Senedd (MSs) 

Mae teitlau’r Aelodau wedi newid i Aelod o’r Senedd (AS) ac Aelodau o’r Senedd (ASau) yn sgil Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020.

Mewnosodwyd testun i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (deddf a wnaed yn Saesneg yn unig) sy’n nodi: ‘Members of the Senedd are to be known by that name or as Aelodau o’r Senedd.’

Fodd bynnag, mae’n dderbyniol amrywio rhwng ‘Aelodau o’r Senedd’, ‘Aelodau’r Senedd’ ac ‘Aelodau Senedd Cymru’, mewn gwahanol gyd-destunau. 

Mae ‘Aelodau Senedd Cymru’ ac ‘Aelodau’r Senedd’ yn addas wrth gyfeirio at yr holl aelodau, tra bod ‘Aelodau o’r Senedd’ yn gallu awgrymu mai rhai aelodau yn unig sydd o dan sylw. Byddwch yn ofalus wrth ddefnyddio’r fannod gan fod ‘yr Aelodau o’r Senedd’ yn awgrymu mai cyfran o’r aelodau sydd o dan sylw yn hytrach na phob aelod. Ystyriwch y gwahaniaeth ystyr rhwng y brawddegau canlynol: 

•            ‘Bydd Aelodau’r Senedd yn pleidleisio ar y cynnig’ – holl aelodau'r Senedd 

•            ‘Bydd Aelodau o’r Senedd yn pleidleisio ar y cynnig’ – rhai amhenodol o aelodau'r Senedd 

•            ‘Bydd yr Aelodau o’r Senedd yn pleidleisio ar y cynnig' – rhai penodol o aelodau'r Senedd (ee unigolion neu grŵp a adnabuwyd yn gynharach yn y darn).

Penderfyniad y Senedd oedd defnyddio’r byrfoddau AS / MS ar gyfer Aelodau’r Senedd, a bydd Llywodraeth Cymru’n dilyn yr arfer hwnnw. Gan fod y byrfodd Cymraeg AS yr un fath ar gyfer Aelodau o’r Senedd ac Aelodau Seneddol (Aelodau Senedd y DU), efallai y bydd angen defnyddio’r teitlau’n llawn os bydd defnyddio’r byrfoddau’n creu dryswch rhwng y ddau fath o aelod. 

 

portmanteaux

Gair sy’n asio elfennau o ddau air arall, o ran sain ac ystyr, yw portmanteau. Maen nhw’n gyffredin iawn yn Saesneg, ee brunch o breakfast a lunch, smog o smoke a fog.

Cynigir isod nifer o ddulliau posibl o drosi portmanteaux, ynghyd ag ambell ystyriaeth wrth benderfynu pa un i’w ddefnyddio. Nid ydynt mewn unrhyw drefn arbennig. Bydd y dull a ddewisir yn dibynnu ar yr hyn sy’n gweithio orau ar gyfer y gair dan sylw. Mae’n werth ystyried hefyd a ydy portmanteau newydd yn un o gyfres, ac felly y byddai’n ddymunol dilyn yr un patrwm ar gyfer pob un (gweler ‘vishing’ a ‘smishing’ isod).

  • Cadw’r un gair ag yn y Saesneg

Gallai hyn fod yn briodol os yw’r gair wedi ennill ei blwyf yn gyflym iawn, mewn deunyddiau Cymraeg a Saesneg, ee Brexit.

  • Cymreigio’r sillafiad

Er enghraifft ‘glampio’ am ‘glamping’ a ‘secstio’ am ‘sexting’. Mae’n bosibl bod angen ystyried cywair y darn yma. Er enghraifft, byddai ‘secstio’ yn addas mewn deunyddiau wedi’u targedu at bobl ifanc ond mae’n bosibl y byddai ‘anfon delweddau rhywiol eu natur’ yn fwy priodol mewn deunyddiau mwy ffurfiol.

  • Cyfieithu un neu ragor o’r elfennau, neu aralleirio

Gwelir enghreifftiau lle mae un elfen wedi’i chyfieithu, ee ‘blog fideo’ am ‘vlog’. Mewn enghreifftiau eraill mae’r ddwy elfen yn cael eu cyfieithu, ee ‘llais-rwydo’ am ‘vishing’ (‘voice’ + ‘phishing’) ac ‘SMS-rwydo’ am ‘smishing’ (‘SMS’ + ‘phishing’) – ill dau yn seiliedig ar ‘gwe-rwydo’ am ‘phishing. Gellid hefyd aralleirio’r cysyniad cyfan, ee ‘llysieuwr hyblyg’ am ‘flexitarian’.

Un ystyriaeth yma fyddai hyd y cyfieithiad neu’r aralleiriad. Gallai fynd yn feichus os yw’n codi’n aml mewn darn. Gallai hefyd fod yn amhriodol mewn rhywbeth byr a bachog fel neges drydar.

  • Creu portmanteau Cymraeg

Ateb gwych pan mae modd dod o hyd i un sy’n gweithio, ee ‘sgyrsfot’ am ‘chatbot’, ‘gweddarlledu’ am ‘webcasting’.

Rhaid gofalu ei bod yn amlwg ar unwaith i’r darllenydd pa ddau air sydd wedi cael eu cyfuno i greu’r gair newydd.

pwyntiau bwled a rhestrau

Yn gyffredinol, mae’r Gwasanaeth Cyfieithu yn dilyn arferion atalnodi agored. Yn achos rhestrau o bob math, gan gynnwys pwyntiau bwled:

  • ni ddylid rhoi coma, hanner colon na chysyllteiriau (ee ‘a’) ar ddiwedd y pwyntiau
  • dylai colon ragflaenu’r rhestr
  • dylid rhoi atalnod llawn ar ddiwedd y pwynt olaf (yn unig).

Mae hyn yn cyd-fynd â chanllaw arddull gwefan Llywodraeth Cymru (gweler yr eitem ‘Pwyntiau bwled’): https://www.llyw.cymru/canllaw-arddull-llywcymru 

Fodd bynnag, nid yw’r testunau Saesneg a gyflwynir i’w cyfieithu yn cadw’n gyson at y canllaw hwn bob amser. Mewn achosion o’r fath, rhaid ystyried cyd-destun y darn yn ofalus. Mae angen gofalu ein bod yn cadw’r atalnodi yn y Gymraeg yr un fath os oes arwyddocâd arbennig iddo yn y testun Saesneg. Ee mewn testunau lled-ddeddfwriaethol sy’n cael eu gosod yn y Senedd (memoranda esboniadol, LCMs, codau, ac ati) mae’n bwysig bod y testunau Cymraeg a Saesneg yn cyfateb yn glos er mwyn sicrhau cyfwerthedd cyfreithiol.  

 

treiglo mewn rhestrau

Mewn rhestrau sydd ar ffurf pwyntiau bwled, dylid treiglo gair cyntaf yr eitem gyntaf, ond peidio â threiglo’r gweddill. Ond os oes modd llunio’r frawddeg sy’n rhagflaenu’r pwyntiau bwled mewn ffordd sy’n golygu nad oes angen treiglo, gwnewch hynny.

Mewn rhestrau sy’n dynodi’r pwyntiau â llythrennau neu rifau, dylid ystyried bod y llythrennau neu’r rhifau’n rhan o’r testun, ac felly nid oes angen treiglo’r eitem gyntaf.

sloganau, strapleins ac ati - canllawiau ynghylch defnyddio’r ail berson

Your Vote, Your Future!

Beth ddywedech chi am hwn – ‘Eich Pleidlais Chi’ ynte ‘Dy Bleidlais Di’? Efallai y bydd y cyntaf yn rhy ffurfiol a swyddogol gan rai, a’r ail yn rhy agos atoch gan eraill.

Mae’n anodd penderfynu sut i gyfarch y gynulleidfa wrth lunio sloganau, strapleins ac ati. Yn anffodus, mae hefyd yn amhosibl rhoi rheol bendant gan fod cymaint yn dibynnu ar y cyd-destun, y gynulleidfa darged a natur y neges. Dyma rai pwyntiau i’w hystyried wrth benderfynu.

Cofiwch ei bod yn hollbwysig sicrhau cysondeb o fewn yr un ymgyrch, neu o bosibl ar draws ymgyrchoedd o fewn yr un ‘teulu’. Felly chwiliwch, neu holwch, yn gyntaf i weld beth sydd wedi cael ei ddefnyddio’n barod.

Unigol neu luosog

  • A yw’r slogan yn cyfarch y gynulleidfa gyfan ar y cyd ynte a yw’n siarad â phob aelod o’r cyhoedd fesul un?

Y gynulleidfa darged

  • Pwy sy’n cael ei annerch?

Mae ambell sefyllfa’n ddigon eglur ee defnyddir ‘ti’ pan fo’r neges yn cael ei thargedu at blant neu bobl ifanc, a ‘chi’ pan fo’n annerch pobl hŷn.

Y pwnc dan sylw

  • A yw’n bwnc amhersonol, swyddogol neu weinyddol ei natur?
  • A yw’n ymdrin â phwnc o natur bersonol, ee iechyd a lles?
  • A yw’n gofyn i ni, fel unigolion, wneud penderfyniad o natur bersonol?

Mae’n debygol mai ‘chi’ fyddai’n fwy priodol yn yr achos cyntaf, ac mae’n debygol mai i’r categori hwn y byddai’r rhan fwyaf o waith y Llywodraeth yn perthyn. Efallai y gellid ystyried ‘ti’ yn yr ail a’r trydydd achos.

Natur y neges

  • Pwy sy’n ein hannerch?
  • Ai rhoi gorchymyn mae’r slogan?
  • A yw’n ein gwahodd neu geisio ein darbwyllo i wneud rhywbeth, neu’n rhoi cyngor?

Mae’n bosibl y byddai’n codi gwrychyn i gael rhywun mewn awdurdod yn ein galw’n ‘ti’, yn enwedig os yw’n rhoi gorchymyn. Ar y llaw arall, gallai’r ‘llais’ sy’n annerch fod yn ceisio siarad â ni ar yr un lefel wrth estyn gwahoddiad neu geisio darbwyllo.

Beth os oes gwrthdaro?

Gall sawl un o’r ystyriaethau hyn fod yn berthnasol ar adegau. Er enghraifft, gall y pwnc fod yn swyddogol, ond natur y neges yn anffurfiol neu’n ddoniol. Dyna pryd mae’n anodd penderfynu wrth gwrs, ac efallai mai dyna pryd y byddai’n briodol holi’r cwsmer pa nodyn y mae’n dymuno’i daro.

Ffurfiau eraill posibl

  • A oes modd osgoi’r broblem, ee trwy ddefnyddio berfenw?
  • Neu beth am ddefnyddio’r person cyntaf lluosog, os mai’r nod yw annog pawb i wneud rhywbeth, ee Achubwn y Morfil?

treiglo

adferf amser

yr amser a dreulir bob wythnos, nid ‘yr amser a dreulir pob wythnos’

biliwn / miliwn

Mae angen gofal wrth drafod biliynau a miliynau er mwyn osgoi amwysedd wrth dreiglo’n feddal. Peidiwch felly â threiglo 'miliwn' na ‘biliwn’, ee £1 fililwn, £1 biliwn.

‘bod’ neu ‘fod’

Nid oes angen treiglo:
ar ôl y ffurfiau cryno amhersonol:
  credir bod, dywedwyd bod
ar ôl berfenw:
  credu bod, dweud bod
ar ôl ‘er’ (er bod), ‘rhaid’ (rhaid bod), ‘a’ (a bod), ‘yw’ (yw bod), ‘oherwydd’ (oherwydd bod).

Mae angen treiglo:
ar ôl ffurfiau cryno’r ferf: 
   credaf fod, dywedodd fod
ar ôl ‘efallai’, sef ffurf gryno ar y ferf ‘gallu’ – ‘ef allai’.

byth

Yn gyffredinol, nid oes angen treiglo ‘byth’:
Nid yw byth yn methu

treiglo – cyfres o ansoddeiriau 

Pan fo cyfres o ansoddeiriau’n goleddfu enw benywaidd, mae angen treiglo pob ansoddair yn feddal. Nid yw hyd y gyfres yn effeithio ar hyn, ee: 

‘Dyma’r Llywodraeth decaf, wyrddaf, dryloywaf, fwyaf effeithlon erioed’

Sylwer hefyd: ardal lai ffafriolffordd fwy prysur.

cyfres o enwau

Uned Bolisi, ond Uned Polisi Cymdeithasol, hynny yw, ar ôl enw benywaidd, mae angen treiglo’r gair sy'n dilyn, ond os oes dau neu ragor o eiriau'n dilyn, a'r cysylltiad rhwng y geiriau hynny a'i gilydd yn gryfach na'r cysylltiad â'r enw benywaidd, does dim treiglad. 
Felly, yr Adran Ddiwydiant ond yr Adran Diwydiant a Masnach.
Yr Uned Bolisi, ond yr Uned Polisi Cydraddoldeb.

Mae ambell enghraifft, serch hynny, lle mae'r ddau air sy'n dilyn enw benywaidd gymaint ynghlwm wrth ei gilydd nes bod treiglad yn digwydd. Enghraifft o hynny yw 'yr Ŵyl Gerdd Dant' lle caiff 'cerdd dant' ei drin i bob pwrpas fel un gair neu uned.

Sylwer hefyd: ardal lai ffafriolffordd fwy prysur.

‘diwethaf’ gyda rhifolyn ac enw benywaidd 

Nid oes angen treiglo ‘diwethaf’ mewn ymadroddion fel y rhain, gan fod y rhifolyn a’r enw’n cael eu trin fel ymadrodd enwol lluosog: 

‘Y pum mlynedd diwethaf’ 

‘Y chwe strategaeth diwethaf’ 

‘Y saith menyw diwethaf’ 

Mae’n gywir treiglo neu beidio â threiglo, ond yn fwy arferol peidio. 

enwau sefydliadau a brandiau 

Ni fyddem yn rhoi rheol gadarn, ond er cysondeb yng ngwaith Gwasanaeth Cyfieithu Llywodraeth Cymru, dyma drefn gyffredinol y byddem yn ei hargymell:

  • Osgoi’r broblem os oes modd, er enghraifft trwy aildrefnu’r frawddeg neu trwy roi enw cyffredin o flaen yr enw priod

Cafodd ei gyflogi gan elusen Tŷ Hafan

  • Treiglo enwau sy’n dechrau â disgrifiad, er enghraifft cyngor, cymdeithas ac ati, hyd yn oed os yw’r gair disgrifiadol hwnnw’n rhan o’r teitl

Anfonodd gais cynllunio i Gyngor Sir Gâr

  • Peidio â threiglo enwau nad ydynt yn dechrau â gair disgrifiadol o’r fath

Mae gan Cyfoeth Naturiol Cymru ganolfannau ymwelwyr ym mhob cwr o Gymru

  • Byddem yn argymell peidio â threiglo enwau masnachol a brandiau mewn gwaith ysgrifenedig, er ein bod yn tueddu i wneud hynny ar lafar:

Agorodd y Gweinidog gangen newydd o Tesco ar y stryd fawr

fe’i

Nid oes angen treiglo ar ôl ‘fe’i’:
fe’i gwelwyd ef, fe’i torrwyd hi nid ‘fe’i welwyd ef’, ‘fe’i thorrwyd hi’
Ond mae angen ychwanegu ‘h’ o flaen llafariaid:
fe’i hanafwyd ef, fe’i hanafwyd hi nid ‘fe’i anafwyd ef’, ‘fe’i anafwyd hi’

hefyd

a threfnu hefyd weithgareddau o bob math, nid ‘a threfnu hefyd gweithgareddau o bob math’

‘ll’ a ‘rh’

nid oes angen treiglo ‘ll’ a ‘rh’
ar ôl ‘y’: y llewes, y rhodfa
ar ôl ‘un’: un llaw, un rhaw
ar ôl ‘yn’: yn llwyddiannus, yn rhagrithiol
ar ôl ‘pur’: pur llewyrchus, pur rhydlyd

mae angen treiglo ‘ll’ a ‘rh’ 
ar ôl ‘rhy’: rhy laes, rhy rwydd
fel gwrthrych berf gryno: clywais rai yn dweud, gwelais ragor o gathod

neu

Treiglad meddal mewn enwau, berfenwau ac ansoddeiriau:
dyn neu fenyw, rhedeg neu gerdded, gwyn neu ddu
Nid yw ffurfiau cryno berfau’n treiglo ar ôl ‘neu’: 
Galwch heibio neu trefnwch gyfarfod nid ‘... neu drefnwch gyfarfod’

rhaid

Mae modd treiglo neu beidio â threiglo 'rhaid' ar ôl 'oes':
A oes rhaid talu am docyn? neu A oes raid talu am docyn?
Nid oes rhaid codi'n fore neu Nid oes raid codi'n fore

Er cysondeb, arfer y Gwasanaeth Cyfieithu yw peidio â threiglo.

y cysylltair ‘a’ (and)

a than, a thros, a thrwy, a chan, a chyda (treiglad llaes), nid ‘a dan, a dros, a drwy, a gan, a gyda’

‘y tair’, ‘y pedair’

Sy’n gywir – does dim treiglad

yn + ansoddair o flaen berfenw

Pan roddir ansoddair o flaen berfenw bydd y berfenw yn treiglo ond ni fydd yr ‘yn’ yn treiglo’r ansoddair:
mae’r pentref yn cyflym ddirywio, nid ‘mae’r pentref yn gyflym ddirywio’
yn gwirioneddol gredu, nid ‘yn wirioneddol gredu’

yn enwedig

Nid oes angen treiglo ar ôl ‘yn enwedig’:
yn enwedig pobl sy’n gweithio mewn swyddfeydd, nid ‘yn enwedig bobl sy’n gweithio mewn swyddfeydd’