Neidio i'r prif gynnwy

Yr Arddulliadur

Datblygwyd y canllawiau arddull hyn i roi cyngor ac arweiniad i’r rheini sy’n cyfieithu testunau cyffredinol. Gallwch chwilio am eiriau penodol neu gallwch bori fesul adran.

a/neu'r maes
14 canlyniad
Rhestrir y canlyniadau yn ôl trefn yr wyddor.

acronymau

Mae acronymau yn digwydd yn gyffredin (ac yn wir yn cael eu gorddefnyddio) mewn testunau Saesneg. Ni ddylid dilyn hynny’n slafaidd a defnyddio acronym yn y testun Cymraeg bob tro y ceir un yn y Saesneg. Ond, ar y llaw arall, nid oes modd eu hosgoi’n llwyr.

Natur y ddogfen fydd yn penderfynu weithiau i ba raddau y dylid defnyddio acronymau. Er enghraifft, mae’n bosibl y byddai cyfieithydd yn dewis ysgrifennu enw rhaglen neu gorff yn llawn pe bai’n ymddangos unwaith neu ddwy mewn datganiad i’r wasg neu lythyr, ond pe bai’r un teitl yn codi ddegau o weithiau mewn dogfen bolisi byddai ei roi’n llawn bob tro yn llafurus i’r darllenydd ac yn ychwanegu at hyd y ddogfen.

Os byddwch yn rhoi’r enw yn llawn yn Gymraeg, ystyriwch a oes angen defnyddio priflythrennau. Er enghraifft, defnyddir yr acronym PL yn Saesneg, ond mae ‘dysgu proffesiynol’ heb briflythrennau yn iawn yn Gymraeg.

Os byddwch yn defnyddio acronym, rhowch yr enw llawn y tro cyntaf, heblaw am ambell un na fyddai ei enw llawn yn gyfarwydd, ee TGAU neu BBC.

Weithiau, ni fydd yr enw llawn wedi’i gynnwys yn y ddogfen Saesneg a bydd angen holi’r sawl a gomisiynodd y gwaith, yn hytrach na dyfalu’r ystyr.

Os na fydd yr acronym yn gyfarwydd, y peth gorau yw cynnig cyfieithiad llawn y tro cyntaf y byddwch yn cyfeirio at y corff yn y testun a rhoi’r acronym ar ôl y teitl mewn cromfachau, ee Arolygiaeth Safonau Gofal Cymru (ASGC). Gallwch wedyn ddefnyddio’r acronym Cymraeg yng ngweddill y testun neu gyfeirio at y corff fel ‘yr Arolygiaeth’, ‘yr Awdurdod’ neu ‘y Bwrdd’ ac yn y blaen, fel y bo’n briodol.

Yn achos ‘WG’ (Welsh Government’) – yn hytrach na gorddefnyddio ‘LlC’ gellir rhoi ‘Llywodraeth Cymru’ y tro cyntaf ac yna ‘y Llywodraeth’ (mewn achosion lle’r ydych yn gwbl fodlon nad oes modd i hynny roi’r argraff mai Llywodraeth y DU sydd dan sylw).

Peidiwch â chreu acronymau Cymraeg ar gyfer enwau cyrff neu fudiadau os nad ydynt yn eu defnyddio eu hunain. Defnyddiwch yr enw llawn yn Gymraeg (lle bo hynny’n briodol) ond yr acronym Saesneg.

Mae enwau rhai cymwysterau’n cael eu trin yn yr un modd. Er enghraifft, defnyddiwch yr acronymau NVQ a GNVQ, ond lle bo angen cyfeirio at y teitlau yn llawn defnyddiwch Cymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol a Cymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol Cyffredinol.

O ddefnyddio acronym Saesneg ac enw llawn Cymraeg, ni fydd angen cynnwys y teitl llawn Saesneg hefyd er mwyn esbonio’r acronym.

Wrth ymdrin â’r lluosog, dilynwch yr un egwyddor ar gyfer acronymau Cymraeg a Saesneg. Ceisiwch osgoi creu acronymau lluosog, os oes modd, trwy aralleirio’r frawddeg. Os nad oes modd gwneud hynny, ystyrir yr acronym fel gair ynddo’i hun felly rhowch y terfyniad lluosog ar ddiwedd yr acronym, ee ‘AALlau’ am ‘Awdurdodau Addysg Lleol’, nid ‘AauALl’. Am yr un rheswm, defnyddiwch yr un terfyniadau bob tro ni waeth pa ffurf sydd i’r lluosog: ‘s’ ar gyfer acronym Saesneg ee NVQs ac ‘au’ ar gyfer acronym Cymraeg ee CNLCau (Cyrff a Noddir gan Lywodraeth Cymru).

Peidiwch â threiglo llythyren gyntaf yr acronym, ee anfon e-bost i CBAC, nid ‘i GBAC’.

Mae Cynllun Iaith Gymraeg Llywodraeth Cymru yn nodi mai’r polisi cyffredinol, yn achos unrhyw fenter bolisi newydd, fydd defnyddio brandiau dwyieithog, gan gynnwys acronymau, sloganau a logos. Mae hynny’n wir hefyd am enwau prif adrannau polisi’r Llywodraeth, ee DfES (Department for Education and Skills) – AdAS (Yr Adran Addysg a Sgiliau). Nid yw’n arfer defnyddio acronymau Cymraeg ar gyfer teitlau’r is-adrannau, fodd bynnag.

ansoddeiriau

Ein harfer yw peidio â defnyddio ffurfiau lluosog ansoddeiriau megis ‘ifanc’. Mae hynny’n helpu i sicrhau cysondeb mewn teitlau ac ati, ee Strategaeth Pobl Ifanc. Ond nid ydym yn deddfu ynghylch ffurfiau fel ‘gwyntoedd cryf/cryfion’.

At ei gilydd, y ffurfiau traddodiadol a welir yn ein gwaith ni, ee ‘iau, ieuengaf’ (nid ‘ifancach, ifancaf’), ‘hŷn, hynaf’, ‘hwy, hwyaf’ (er y gallai’r ffurfiau ‘hirach, hiraf’ gael eu defnyddio mewn cyweiriau anffurfiol).

O ran ystyr ansoddeiriau, ceisiwch wahaniaethu rhwng ‘addas’ (suitable) a ‘priodol’ (appropriate); ‘addysgol’ (educational) ac ‘addysgiadol’ (educative); ‘cymharol’ (comparable) a ‘cymaradwy’ (comparative); ‘penodol’ (particular) ac ‘arbennig’ (special).

cenedl geiriau, rhyw a rhywedd

Mae gan bob enw Cymraeg genedl ramadegol – fe’i hystyrir yn ramadegol-fenywaidd neu’n ramadegol-wrywaidd, a chaiff y genedl ei hadlewyrchu yn y treigladau, ac yn ffurf y rhagenwau a’r arddodiaid, a ddefnyddir gyda’r enw. 

Pan fo enwau’n cyfeirio at bobl, ni fydd cenedl ramadegol yr enw bob amser yn cyd-fynd â rhyw neu rywedd yr unigolyn hwnnw. Weithiau ni fydd yn hysbys beth yw rhyw neu rywedd y sawl y mae’r enw’n cyfeirio ato. Nid yw rhywedd pobl anneuaidd yn cyd-fynd â’r categorïau rhywedd deuaidd  Mae diffiniadau o ‘rhyw’, ‘rhywedd’ a thermau eraill yn y maes hwn ar TermCymru.

Yn aml, ni fydd y gwahaniaeth rhwng y genedl ramadegol a rhyw neu rywedd unigolion yn peri unrhyw broblem, ond dro arall rhaid cymryd gofal er mwyn osgoi creu dryswch neu chwithdod, gan gadw’r testun mor glir â phosib. Dylid ystyried y cyd-destun yn ofalus, gan geisio osgoi peri gofid i unigolion na chamgynrychioli eu rhyw neu rywedd. 

O ran rhagenwau, treigladau a ffurfiau rhededig arddodiaid, yn y rhan fwyaf o achosion bydd yn addas defnyddio’r rhai sy’n cyd-fynd â chenedl yr enw. Ond pan fo risg y gall hynny ymddangos yn anaddas neu greu dryswch, gellir ystyried addasu. 

Osgowch ddefnyddio rhagenwau, treigladau ac arddodiaid lluosog i gyfeirio at enwau unigol pan fo modd, gan ddilyn y cynghorion isod. Ond gall fod yn addas defnyddio rhagenwau, treigladau ac arddodiaid lluosog i gyfeirio at enwau unigol mewn rhai amgylchiadau, ee pan fo’r cyd-destun yn golygu bod angen sensitifrwydd o ran rhyw neu rywedd, neu pan fo defnyddio’r lluosog yn ddymuniad unigolyn penodol.

Ystyriwch a ellir osgoi defnyddio rhagenwau, treigladau ac arddodiaid sy’n benodol o ran rhyw neu rywedd. Mae ambell ffordd o wneud hynny, ee: 

  • Peidio â chynnwys rhagenw, ee yn hytrach nag “Os bydd rhiant yn anfon ei blentyn i’r ysgol…” gellir dweud “Os bydd rhiant yn anfon plentyn i’r ysgol…”
  • Defnyddio’r fannod yn hytrach na rhagenw, ee yn hytrach nag “Os bydd rhiant yn anfon ei blentyn i’r ysgol…” gellir dweud “Os bydd rhiant yn anfon y plentyn i’r ysgol…” 
  • Defnyddio berfau cryno yn lle rhai cwmpasog, ee yn hytrach na “Caiff yr ymgeisydd llwyddiannus ei benodi...” gellir dweud “Penodir yr ymgeisydd llwyddiannus...” 
  • Defnyddio ffurf luosog yr enw a rhagenwau, treigladau ac arddodiaid sy’n cyd-fynd â hynny, ee yn hytrach na “Rhaid i bob disgybl barchu ei athrawon” gellir dweud “Rhaid i’r holl ddisgyblion barchu eu hathrawon”. 

Mewn rhai amgylchiadau gellir defnyddio rhagenwau, treigladau ac arddodiaid nad ydynt yn cyd-fynd â chenedl yr enw. Gall hynny fod yn addas: 

  • Pan fo enw cyffredin neu deitl yn cael ei ddefnyddio i gyfeirio at unigolyn penodol, hysbys sydd â rhyw neu rywedd gwahanol i genedl yr enw (ee menywod y mae gan eu swyddi deitl gramadegol-wrywaidd). Gellir ystyried enwi’r unigolyn, ee “Dywedodd y Gweinidog, Jane Jones, ei bod…”
  • Wrth gyfeirio at unigolyn amhenodol nad oes unrhyw amheuaeth ynghylch ei ryw neu rywedd. 

Peidiwch byth â rhoi mwy nag un treiglad ar ddechrau’r un gair, ee “Caiff yr enwebai ei g/chyfethol dros dro”. Os nad yw’n bosibl osgoi defnyddio rhagenwau, treigladau neu arddodiaid sy’n benodol o ran rhyw neu rywedd drwy un o’r dulliau uchod, gellir eu rhoi ar wahân, ee “Caiff yr enwebai ei gyfethol neu ei chyfethol dros dro”

Wrth ddelio ag enwau y mae gwahanol ffurfiau, gwrywaidd a benywaidd, arnynt yn Gymraeg: 

  • Defnyddiwch ffurfiau mwy niwtral os yw hynny’n bosib, ee gellir defnyddio “actor” wrth sôn am ddynion neu fenywod sy’n actorion 
  • Yn hytrach na defnyddio ffurfiau gwahanol, ystyriwch ddefnyddio’r ffurf luosog, ee addasu’r frawddeg i gyfeirio at “athrawon” yn hytrach nag “athro/awes” neu “athro neu athrawes”
  • Mae’n briodol defnyddio enwau â’r terfyniad -wr, ee “cyfarwyddwr”, i gyfeirio at ddynion a menywod fel ei gilydd os mai dyna’r ffurf arferol ar yr enw. Nid oes angen defnyddio ffurfiau llai arferol â therfyniad niwtral, ee “cyfarwyddydd”, na ffurfiau â therfyniad sy’n benodol o ran rhyw neu rywedd, ee “cyfarwyddwraig” (ond gall unigolion benderfynu defnyddio ffurfiau o’r fath yn eu teitlau eu hunain).  

cwynion (complaints)

Mae angen yr acen ar ffurfiau treigledig y gair unigol ‘cwyn’ er mwyn i’r ystyr fod yn eglur – gweler yr erthygl ‘cwyn (complaint)’.

Mae’r cwestiwn yn codi a oes angen acen grom yn y gair treigledig lluosog, ‘gwynion’. Y cyngor yn y gyfrol ‘Orgraff yr Iaith Gymraeg’ (paragraff 72(2)) yw nad oes angen yr acen honno, o ddilyn y rheolau arferol, oherwydd nad sain llafariad hir sydd i’r llythyren ‘w’ yn y ffurf luosog.

Er hynny mae’n nodi y gall fod yn syniad cael rhyw ffordd o nodi’r sain gywir gan fod cynifer o bobl yn ei chamseinio. Mae’n argymell y gellid defnyddio’r to bach – gan nad oes arwydd arall addas yn bodoli yn orgraff y Gymraeg – lle bo angen arweiniad ynghylch ynganiad cywir (neu, felly, i osgoi amwysedd yn yr ystyr).

Ein harfer ni felly, ar gyfer gwaith Llywodraeth Cymru, yw defnyddio “gwynion” ar gyfer ffurf luosog “gŵyn” ac eithrio mewn amgylchiadau penodol, prin lle gallai’r ystyr fod yn amwys, neu lle mae angen arweiniad ar yr ynganiad (ee mewn araith neu sgript). Yn y rhan fwyaf o gyd-destunau, dylai fod yn ddigon eglur ai lluosog yr ansoddair ‘gwyn’ ynteu lluosog yr enw ‘cwyn’, wedi’i dreiglo, a ddynodir gan y gair ‘gwynion’.

Cymraeg Clir

Y prif egwyddorion yw:

  • bod yn fyr ac yn gryno
  • peidio â defnyddio ffurfiau benywaidd a lluosog ansoddeiriau ond lle bo’r ffurf honno yn air cyffredin iawn
  • defnyddio iaith neu gystrawen syml
  • defnyddio brawddegau uniongyrchol a gweithredol yn hytrach na brawddegau goddefol
  • defnyddio llai o ferfau amhersonol
  • rhannu brawddeg amlgymalog yn frawddegau llai
  • defnyddio berfenw yn lle enw ac ansoddair lle bo modd
  • osgoi glynu’n rhy gaeth wrth gystrawen y Saesneg.

cyweiriau ac arddulliau

Yr arddulliau cyffredinol a deddfwriaethol 

Mae’r cyngor yn yr Arddulliadur yn berthnasol i’n gwaith cyfieithu ar gyfer testunau cyffredinol. Y Canllawiau Arddull Deddfwriaethol sy’n berthnasol i’n gwaith ar destunau deddfwriaethol (deddfwriaeth sylfaenol ac is-ddeddfwriaeth, ar ffurf rheoliadau a gorchmynion). 

Weithiau ceir erthyglau ar bynciau yn yr Arddulliadur nad oes erthyglau cyfatebol iddynt yn y Canllawiau, ac i’r gwrthwyneb. Er enghraifft, mae erthygl yn yr Arddulliadur ar dreiglo ‘bod’. Nid oes erthygl gyfatebol yn y Canllawiau, ond mae’r cyngor yn yr Arddulliadur yn berthnasol i gyfieithu deddfwriaethol hefyd. Yn yr un modd, mae erthygl yn y Canllawiau ar dreiglo testun sydd rhwng dyfynodau, ond nid oes erthygl gyfatebol yn yr Arddulliadur.

Mae peth tir cyffredin rhwng y Canllawiau ac Arddulliadur y Gwasanaeth Cyfieithu. Er enghraifft, o ran cenedl enwau, mae’r Canllawiau a’r Arddulliadur ill dau yn cytuno ein bod fel arfer yn dilyn y genedl a nodir yn gyntaf yng Ngeiriadur Prifysgol Cymru. Ond o ran byrfoddau ac acronymau, er enghraifft, ceir cyngor gwahanol yn yr Arddulliadur i’r hyn a geir yn y Canllawiau.

Os ydych yn cyfieithu deddfwriaeth, a bod yr Arddulliadur yn rhoi cyngor gwahanol, dylech ddilyn y cyngor yn y Canllawiau Arddull Cyfieithu Deddfwriaethol.

Gall fod yn ddefnyddiol cyfeirio at y Canllawiau Arddull Deddfwriaethol wrth gyfieithu testunau lled-ddeddfwriaethol – hy, testunau sy’n gysylltiedig â deddfwriaeth, megis Cynigion a Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol a Memoranda Esboniadol, neu rai sydd mewn arddull lai ffurfiol ond sydd â pheth grym cyfreithiol, megis Cyfarwyddydau a Chodau Ymarfer. Wrth gyfieithu testunau lled-ddeddfwriaethol felly, rhaid pwyso a mesur i ba arddull  y mae’r ddogfen yn perthyn ac i ba raddau y mae’n briodol glynu at y ffurfiau a argymhellir yn y Canllawiau Arddull Deddfwriaethol, yn hytrach na’r hyn a argymhellir yn yr Arddulliadur, neu’n ogystal â hynny.

 

Cyweiriau cyffredinol 

Rydym wedi dosbarthu’r cyweiriau a ddefnyddiwn yn ein gwaith cyffredinol yn bedwar prif gategori: y cywair clasurol, y cywair ffurfiol, y cywair anffurfiol a’r cywair llafar/anffurfiol iawn. 

Mae mwyafrif yr egwyddorion a nodir mewn erthyglau eraill yn yr Arddulliadur yn berthnasol i bob cywair, ee defnyddir atalnodi agored (dim collnodau wrth ollwng llythrennau, dim atalnodau ar ôl byrfoddau ee hy ac etc) ac ni ddefnyddir ffurfiau lluosog ansoddeiriau (ee ‘pobl ifainc’) heblaw pan fo hynny’n arferol iawn. 

Pan fo mwy nag un dewis, cofiwch gadw cysondeb ffurfiau o fewn yr un darn neu gyfres o ddarnau. 

1. Y cywair clasurol

Mathau o waith:      

  • deunyddiau seremonïol ee proclamasiynau  
  • deunyddiau ffurfiol iawn ee memoranda cyd-ddealltwriaeth, trwyddedau.

Nodweddion: 

  • ‘Yr wyf’, ‘y mae’, ‘yr oedd’ etc
  • ‘Hwy’ nid ‘nhw’ (ond ‘chi’, nid ‘chwi’). 
  • Fel arfer, defnyddir ffigurau ar gyfer rhifolion a dyddiadau, ond mewn rhai amgylchiadau fe’u hysgrifennir mewn geiriau, gan ddilyn y system ugeiniol. 

Fel arall, mae i’r cywair clasurol yr un nodweddion â’r cywair ffurfiol. 

 

2. Y cywair ffurfiol

Dyma’r cywair a ddefnyddir ar gyfer y rhan fwyaf o ddeunyddiau’r Llywodraeth, ee:

  • papurau pwyllgorau
  • papurau’r Cabinet 
  • deunyddiau recriwtio, gan gynnwys hysbysebion swyddi
  • adroddiadau blynyddol
  • dogfennau polisi
  • rhai holiaduron a ffurflenni
  • llythyrau.

Nodweddion:

  • ‘Rwyf yn’ neu ‘Rwy’n’, nid ‘Rydw i’n’ na ‘Dw i’n’. ‘Rydych’ a ‘Rydym’ nid ‘Rych’ a ‘Rym’. 
  • Defnyddio’r rhagenwau personol annibynnol (‘fi’, ‘hi’, ‘nhw’) ar ôl y ferf a’r arddodiad er mwyn pwysleisio’n unig, ee ‘Yn wahanol i’r llywodraeth flaenorol, rydym ni’n barod i gymryd cyfrifoldeb’, ‘Cyfeiriwyd y mater ato ef [yn unig]’. 
  • Wrth ddefnyddio’r rhagenwau personol annibynnol ar ôl y ferf a’r arddodiad, peidio â chysoni cytsain olaf y terfyniad berfol neu arddodiadol i gyd-fynd â chytsain ddechreuol y rhagenw (‘byddem ni’ nid ‘bydden ni’)
  • Ffurfiau cryno’r ferf fel arfer, ee ‘Deallwn’ nid ‘Rydym yn deall’ 
  • Peidio â rhoi ‘y’ o flaen ‘mae’ / ‘yr’ o flaen ‘oedd’, ac eithrio mewn brawddegau perthynol (‘Ar hyn o bryd, mae’r Llywodraeth yn ymgynghori’ ond ‘Dyma’r mater y mae’r Llywodraeth yn ymgynghori yn ei gylch’)
  • Osgoi defnyddio’r geiryn rhagferfol – ‘Cynhaliwyd cyfarfod’ nid ‘Fe gynhaliwyd cyfarfod’. Os oes rhaid ei gael er mwyn gwneud yr ystyr yn gliriach, ‘fe’ nid ‘mi’ 
  • Osgoi defnyddio ‘yna’ pwysleisiol – ‘Bu ymgynghoriad’ nid ‘Bu yna ymgynghoriad’. Os oes rhaid ei gael er mwyn gwneud yr ystyr yn gliriach, ‘yna’ nid ‘’na’
  • ‘Hwn’ neu ‘hon’, nid ‘yma’ – ‘y ffurflen hon’ nid ‘y ffurflen yma’ 
  • Defnyddio’r geiryn holiadol ‘a’ – ‘A ydych yn’ nid ‘Ydych chi’n’ 
  • Defnyddio’r geiryn ‘y’ ar ôl ‘beth’, ‘sut’, ‘pryd’ etc, ee ‘Dyma pryd y cynhaliwyd y digwyddiad’. 

 

3. Y cywair anffurfiol

Mathau o waith:

  • datganiadau i’r wasg
  • rhai hysbysebion (nid hysbysebion swyddi)
  • llenyddiaeth ymgyrchoedd cyhoeddus, ee ymgyrchoedd gwrth-smygu, diogelwch ar y ffyrdd 
  • deunyddiau ar gyfer disgyblion ysgol
  • rhai taflenni hysbysrwydd 
  • rhai holiaduron a ffurflenni 
  • posteri, sticeri

 

Nodweddion:

  • ‘Rwy’n’, ‘Wy’n’, ‘Rydw i’n’ neu ‘Dw i’n’, nid ‘Rwyf yn’. ‘Rydych chi’n’ neu ‘Rych chi’n’, a ‘Rydyn ni’n’ neu ‘Ryn ni’n’, nid ‘Rydych yn’ a ‘Rydym yn’. ‘Dyw e ddim’ neu ‘Dydi e ddim’, nid ‘Nid yw’
  • Defnyddio’r rhagenwau personol annibynnol (‘fi’, ‘hi’, ‘nhw’) yn fwy aml ar ôl y ferf a’r arddodiad, ee ‘Rydyn ni’n falch o gyhoeddi...’, ‘Dewch aton ni’. 
  • Wrth ddefnyddio’r rhagenwau personol annibynnol ar ôl y ferf a’r arddodiad, cysoni cytsain olaf y terfyniad berfol neu arddodiadol i gyd-fynd â chytsain ddechreuol y rhagenw (‘bydden ni’ nid ‘byddem ni’) 
  • Ffurfiau cwmpasog y ferf fel arfer, ee ‘Rydyn ni’n deall’ nid ‘Deallwn’ 
  • Peidio â rhoi ‘y’ o flaen ‘mae’ / ‘yr’ o flaen ‘oedd’, hyd yn oed mewn brawddegau perthynol (‘Dyna’r broblem fwyaf roedden ni’n ei hwynebu’ nid ‘Dyna’r broblem fwyaf yr oedden ni’n ei hwynebu’)
  • Defnyddio’r geiryn rhagferfol – ‘Fe gynhaliwyd cyfarfod’ nid ‘Cynhaliwyd cyfarfod’. ‘Fe’ nid ‘mi’.
  • Defnyddio ‘yna’ pwysleisiol – ‘Bu ymgynghoriad’ nid ‘Bu yna ymgynghoriad’. ‘Yna’ nid ‘’na’
  • ‘Yma’ nid ‘hwn’ neu ‘hon’ – ‘y ffurflen yma’ nid ‘y ffurflen hon’. ‘Yma’ nid ‘’ma’ 
  • Peidio â defnyddio’r geiryn holiadol ‘A’ – ‘Ydych chi’n’ nid ‘A ydych chi’n’ 
  • Peidio â defnyddio’r geiryn ‘y’ ar ôl ‘beth’, ‘sut’, ‘pryd’ etc, ee ‘Dyma pryd cynhaliwyd y digwyddiad’. 
  • Ar adegau, gellir defnyddio’r cymal negyddol llafar ‘sydd ddim’ yn hytrach nag ‘nad ydyn nhw’ os oes angen llawer o ystwythder, ond nodwedd anffurfiol iawn yw hon fel arfer. 

 

4. Y cywair llafar (neu anffurfiol iawn)

Mathau o waith:

  • sgriptiau ymgyrchoedd teledu
  • isdeitlau ar gyfer ymgyrchoedd teledu
  • rhai posteri/pamffledi
  • gemau/cartwnau 

Ar y cyfan, mae i’r cywair llafar yr un nodweddion â’r cywair anffurfiol, gyda’r gwahaniaethau a ganlyn: 

  • Gellir defnyddio ffurfiau tafodieithol ar y ferf, ee ‘So fe’ yn hytrach na ‘Dyw e ddim’ 
  • Gellir defnyddio rhagenwau tafodieithol, ee ‘Ma fe’ neu ‘Mae o’ 
  • Gellir defnyddio ‘’na’ neu ‘’ma’ yn hytrach nag ‘yna’ neu ‘yma’ 
  • Gellir hepgor llythrennau ar ddechrau a diwedd geiriau, ee ‘Ma fe’, ‘posib’, ‘cyfri’ 
  • Gellir defnyddio ffurfiau cywasgedig, ee ‘pnawn’ yn hytrach na ‘prynhawn’, ‘sgwennu’ yn hytrach na ‘sgrifennu’ neu ‘ysgrifennu’ 
  • Gellir cywasgu geiriau, ee ‘Sdim’ neu ‘Snam’ yn hytrach na ‘Does dim’
  • Yn ogystal â hepgor y geiryn ‘y’ gellir treiglo ar ôl ‘pryd’, ‘sut’ etc, ee ‘Dyma pryd/sut fydd e’n digwydd’ nid ‘Dyma pryd/sut bydd yn digwydd’
  • Gellir defnyddio llafariaid ymwthiol, ee ‘pobol’, ‘cwbwl’, ‘sobor’
  • Gellir defnyddio geirynnau rhagferfol tafodieithol, ee ‘Mi aeth o’ 
  • Gellir defnyddio amrywiadau tafodieithol yn hytrach na’r ffurfiau mwy safonol, ee ‘taw’ yn hytrach na ‘mai’, ‘efo’ yn hytrach na ‘gyda’, ‘mâs’ yn hytrach nag ‘allan’, ‘lan’ yn hytrach nag ‘i fyny’, ‘rŵan’ yn hytrach na ‘nawr’, ‘ffaelu’ yn hytrach na ‘methu’. 
  • Pan geir amrywiadau tafodieithol sydd yr un mor safonol â’i gilydd, ee ‘iau’ ac ‘afu’, gellir dewis y ffurf fwyaf addas i’r siaradwr neu’r gynulleidfa, neu gynnwys y ddwy ffurf yn y testun.

data

Benthyciad o’r Lladin yw ‘data’, sef ffurf luosog y gair ‘datum’. Yn draddodiadol, felly, mae’r enw Cymraeg yn un lluosog hefyd. Yr ystyr yw cyfres o ffeithiau neu ddarnau o wybodaeth, a’r unigol yw ‘datwm’.

Rydym yn cadw at yr arfer hon mewn deunyddiau technegol lle caiff ei ddefnyddio â’r ystyr penodol uchod, er enghraifft dogfennau ym maes ystadegau, mathemateg neu gyllid. Mae’r holl gofnodion yn Term Cymru yn nodi mai enw lluosog yw ‘data’ am y rheswm hwn, a chan mai casgliad o dermau technegol yw Term Cymru.

Mae’n arfer gyffredin erbyn hyn, fodd bynnag, i ddefnyddio ‘data’ fel enw unigol, torfol ag ystyr ehangach a mwy cyffredinol. O’i ddefnyddio fel hyn, mae’r ystyr yn cyfateb i ‘gwybodaeth’. Mae hyn yn dderbyniol mewn testunau cyffredinol, lle nad oes angen term technegol.

enwau torfol: unigol ynteu lluosog

Trafodir, yn benodol, y geiriau hynny sy’n unigol yn ramadegol ond yn lluosog o ran ystyr ee teulu, tîm, pwyllgor, byddin.

Mae ansoddair sy’n disgrifio’r geiriau hyn yn unigol bob amser, ee ‘y pwyllgor hwn’.

Mewn dogfennau ffurfiol, yr arfer gyffredin yw defnyddio berfau a rhagenwau unigol hefyd wrth gyfeirio’n ôl atynt:

Trafododd y pwyllgor ei raglen waith yn y cyfarfod, ac mae wedi cytuno arni.
Yn dilyn ei fuddugoliaeth, gorymdeithiodd y tîm trwy ganol y ddinas.

Cofiwch nad yw’n anghywir defnyddio berfau a rhagenwau lluosog, fodd bynnag. Yn wir mae’n hen arfer, a gwelir enghreifftiau mor bell yn ôl â Chymraeg Canol.

Ystyriwch felly a allai fod yn fwy priodol defnyddio berfenwau a rhagenwau lluosog mewn rhai achosion, ee mewn cyweiriau mwy anffurfiol, neu i sicrhau bod y testun yn eglur pe bai nifer o ragenwau yn yr un frawddeg yn cyfeirio at wahanol enwau.

Cafodd y tîm orymdaith fawr drwy’r ddinas a buon nhw’n dathlu tan yr oriau mân.
Cynigiodd y Cadeirydd raglen waith ddiwygiedig yn nghyfarfod y pwyllgor ac maent wedi cytuno arni.

Gall newid y pwyslais hefyd. Trwy gyfeirio’n ôl at ‘y pwyllgor’ neu ‘y cyngor’ yn yr unigol, gellir tynnu sylw at y ffaith ei fod yn gweithredu fel un endid. Ond o ddefnyddio’r lluosog, awgrymir mai cyfeirio at yr aelodau fel unigolion y mae’r testun:

Ar ôl i’r pwyllgor gael dadl frwd ynghylch y rhaglen waith, maent wedi methu â chytuno arni.

ffigurau, rhifau a rhifolion

Mae’r arweiniad hwn yn berthnasol yn bennaf i’r cyweiriau clasurol a ffurfiol. Yn y cyweiriau anffurfiol a llafar, gellir addasu yn ôl yr angen, ond dylid bod yn gyson o fewn un darn neu gyfres o ddarnau.  

Ffigurau ynteu geiriau  

Wrth gyfieithu dilynwch yr hyn sydd yn y testun Saesneg o ran defnyddio geiriau ynteu ffigurau, ond dilynwch y cyngor isod wrth ddrafftio testun gwreiddiol yn Gymraeg neu os oes ansicrwydd ynghylch sut i gyfieithu’r Saesneg.  

Yn gyffredinol, rhowch y rhifau ‘un’ i ‘deg’ mewn geiriau a defnyddiwch ffigurau ar gyfer rhifau o 11 ymlaen. Ond mae rhai eithriadau i hyn – defnyddir ffigurau ar gyfer un i ddeg yn y sefyllfaoedd hyn:  

  • amserau, cyfnodau amser, oedrannau, dyddiadau  
  • canrannau, symiau arian, unedau mesur  
  • cyfrifiadau, fformiwlâu, rhifau sy’n cynnwys pwynt degol  
  • rhifau eiddo mewn cyfeiriadau 
  • pan fo rhifau hyd at ddeg ac uwchben deg yn cael eu defnyddio gyda’i gilydd 
  • gyda ‘miliwn’ a ‘biliwn’. Hefyd, peidiwch â threiglo ‘miliwn’ na ‘biliwn’ er mwyn osgoi amwysedd rhyngddynt (hy, peidiwch â dweud ‘2 filiwn’ ar gyfer ‘2 miliwn’ na ‘2 biliwn’).  

Rhoddir ffracsiynau mewn ffigurau mewn cyfrifiadau neu fformiwlâu, ond cânt eu mynegi mewn geiriau mewn testun (‘1/3’ mewn cyfrifiadau etc, ond ‘traean’ neu ‘un ran o dair’ mewn testun). 

 

Degol ynteu ugeiniol  

Caiff ffigurau eu trin fel ffurfiau clasurol neu ugeiniol, yn hytrach na ffurfiau degol. Felly wrth gyfieithu ‘and 21’ rhowch ‘ac 21’ fel petai’n darllen ‘ac un ar hugain’ ac nid ‘a 21’ (‘a dau ddeg un’).  

Caiff ffigurau mewn dyddiadau eu trin fel ffurfiau ugeiniol hefyd. Ni chaiff y fannod ei chynnwys yn ysgrifenedig, ond wrth ddefnyddio cysyllteiriau ac arddodiaid o flaen dyddiadau, tybir bod y fannod yn bresennol ar lafar. Hynny yw:  

  • ar gyfer ‘and 20 March’, defnyddir ‘a 20 Mawrth’ (‘a’r ugeinfed o Fawrth’) 
  • ar gyfer ‘from 31 March’, defnyddir ‘o 31 Mawrth’ (‘o’r unfed ar ddeg ar hugain o Fawrth’) 
  • ar gyfer ‘the period beginning with 1 December 2020’ defnyddir ‘y cyfnod sy’n dechrau â 1 Rhagfyr 2020’ (‘y cyfnod sy’n dechrau â’r cyntaf o Ragfyr 2020’). 

Mae rhai eithriadau i’r arfer o drin ffigurau fel ffurfiau ugeiniol. Defnyddir y system ddegol yn y sefyllfaoedd hyn:  

  • rhifau tai – ‘ymweld ag 80 Heol y Frenhines’ (‘ymweld ag wyth deg Heol y Frenhines’) nid ‘ymweld â 80 Heol y Frenhines’ (‘ymweld â phedwar ugain Heol y Frenhines’)  
  • rhifau ffôn  
  • rhifau cyn ac ar ôl pwyntiau degol – ‘a 20.15 y cant’ (‘a dau ddeg pwynt un pump y cant’) nid ‘ac 20.15 y cant’ (‘ac ugain pwynt pymtheg y cant’) 
  • rhifau blynyddoedd – ‘rhwng 1995 ac 1996’ nid ‘rhwng 1995 a 1996’. Mae hyn yn cyd-fynd â’r cyngor yn yr erthygl ar flynyddoedd i drin y rhif cyntaf fel ‘un’ yn hytrach na ‘mil’. 

 

Treiglo ai peidio

Pan fo’r arferion gramadegol o ran treiglo ar ôl rhifau yn ddiamwys ac yn sefydledig, dilynir y rheini. Mae’r cyngor hwn yn ymwneud â sefyllfaoedd pan fo’r arferion yn amrywio neu’n ansicr. 

 

Mae ‘blwydd’ a ‘blynedd’ yn treiglo’n drwynol ar ôl pob rhifolyn ar wahân i 2, 3, 4 a 6, ond nid yw ‘diwrnod’ yn treiglo’n drwynol ar ôl rhifau, ond ceir anghytundeb ymhlith gramadegwyr o ran ‘6 blynedd/mlynedd’, yn enwedig ar lafar.

Ni threiglir enwau heblaw ‘cant’, ‘punt’ a ‘ceiniog’ yn feddal ar ôl ‘saith’ ac ‘wyth’, ee ysgrifennir ‘saith parc’ ac ‘wyth rhanbarth’, nid ‘saith barc’ ac ‘wyth ranbarth’.  

Ni threiglir ‘diwrnod’ yn drwynol ar ôl rhifau, ee ysgrifennir ‘saith diwrnod’ a ‘15 diwrnod’. 

 

Y ffurfiau cyswllt ynteu’r ffurfiau dyfynnol  

Defnyddir y ffurfiau cyswllt ‘pum’ (5), ‘chwe’ (6) a ‘can’ (100) yn gyffredinol ee ‘pum arth’, ‘pum dyn’, ‘chwe adroddiad’, ‘chwe menyw’, ‘can metr’, ‘can merch’. 

Gellir defnyddio’r ffurf gyswllt ‘deng’ o flaen llafariaid e.e. ‘deng awdurdod’ ac ‘m’ e.e. deng mis. Mae hyn yn gyffredin yn y cywair clasurol yn arbennig, ac i raddau yn y cywair ffurfiol hefyd. Mae’n fwy arferol gweld y ffurf ddyfynnol ‘deg’ yn y cyweiriau anffurfiol a llafar.

Ni fydd y ffurfiau cyswllt ‘deuddeng’ (12) a ‘pymtheng’ (15) yn codi yn ein gwaith fel arfer gan y defnyddir ffigurau ar gyfer rhifau o 11 i fyny.  

 

Y lluosog ynteu’r unigol  

Gyda ffigurau a rhifolion hyd at ddeg, defnyddir yr unigol, ee ‘2 filltir’, ‘dau ddyn’.  

Gyda ffigurau a rhifolion o 11 i fyny, defnyddir yr unigol pan fo’r hyn a gyfrifir yn dod ar ôl y rhif ee ‘18 mis’ (‘deunaw mis’) yn hytrach na ‘18 o fisoedd’ (‘deunaw o fisoedd neu ‘un deg wyth o fisoedd’). 

Gyda ffigurau a rhifolion o 11 i fyny, defnyddir y lluosog yn y sefyllfaoedd hyn:  

  • pan ddefnyddir y system ugeiniol a phan fo’n arferol rhoi’r hyn a gyfrifir yn y canol – defnyddir ‘11 o filltiroedd’ (‘un ar ddeg o filltiroedd’) nid ‘11 filltir’ (‘un filltir ar ddeg’)  
  • pan ddefnyddir y system ddegol – defnyddir ‘17.34 o filltiroedd’ (‘un deg saith pwynt tri pedwar o filltiroedd’) nid ‘17.34 filltir’ (‘un deg saith filltir pwynt tri pedwar’) nac ‘17.34 milltir’ (‘un deg saith pwynt tri pedwar milltir’). 

 

Rhifau ar ddechrau brawddegau 

Peidiwch â dechrau brawddegau â ffigurau. Yn lle hynny:  

  • gallwch ddefnyddio’r geiriau yn lle’r ffigurau – ‘Ugain cais yn unig a dderbyniwyd’, yn hytrach nag ‘20 cais yn unig a dderbyniwyd’  
  • gallwch aildrefnu’r frawddeg – ‘Derbyniwyd 20 cais yn unig’ yn hytrach na ‘20 cais yn unig a dderbyniwyd’.   
     

Pwyntiau perthnasol eraill 

Cofiwch wahaniaethu rhwng ‘rhif’ (sy’n benodol ac, yn gyffredinol, yn cyfeirio at rifolion – 1, 2, 3 etc) a ‘nifer’ (sy’n amhenodol, ee ‘mae nifer mawr o gyrsiau ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg’).  

Mae cyngor perthnasol arall yn yr erthyglau ynghylch: 

  • dyddiadau  
  • blynyddoedd 
  • canrifoedd 
  • teitlau unedau milwrol – trefnolion a rhifolion.  

 

Gellir defnyddio’r ffurf gyswllt ‘deng’ o flaen llafariaid e.e. ‘deng awdurdod’ ac ‘m’ e.e. deng mis. Mae hyn yn gyffredin yn y cywair clasurol yn arbennig, ac i raddau yn y cywair ffurfiol hefyd. Mae’n fwy arferol gweld y ffurf ddyfynnol ‘deg’ yn y cyweiriau anffurfiol a llafar.

lluosog

Defnyddiwch y ffurf luosog gyntaf a nodir yng Ngeiriadur Prifysgol Cymru oni bai bod cytundeb ffurfiol i fabwysiadu lluosog arall er cysondeb o fewn y Gwasanaeth Cyfieithu. Dyma'r geiriau y cytunwyd i fabwysiadu lluosog gwahanol ar eu cyfer:

adfocad, adfocadau

dehongliad, dehongliadau

gorchudd, gorchuddion

gwerth, gwerthoedd

harbwr, harbyrau

label, labeli

lens, lensys

sedd, seddi

sudd, suddoedd

 

Ceisiwch osgoi defnyddio ffurfiau lluosog ar ansoddeiriau ond lle bo’r ffurf yn air cyffredin. 

sloganau, strapleins ac ati - canllawiau ynghylch defnyddio’r ail berson

Your Vote, Your Future!

Beth ddywedech chi am hwn – ‘Eich Pleidlais Chi’ ynte ‘Dy Bleidlais Di’? Efallai y bydd y cyntaf yn rhy ffurfiol a swyddogol gan rai, a’r ail yn rhy agos atoch gan eraill.

Mae’n anodd penderfynu sut i gyfarch y gynulleidfa wrth lunio sloganau, strapleins ac ati. Yn anffodus, mae hefyd yn amhosibl rhoi rheol bendant gan fod cymaint yn dibynnu ar y cyd-destun, y gynulleidfa darged a natur y neges. Dyma rai pwyntiau i’w hystyried wrth benderfynu.

Cofiwch ei bod yn hollbwysig sicrhau cysondeb o fewn yr un ymgyrch, neu o bosibl ar draws ymgyrchoedd o fewn yr un ‘teulu’. Felly chwiliwch, neu holwch, yn gyntaf i weld beth sydd wedi cael ei ddefnyddio’n barod.

Unigol neu luosog

  • A yw’r slogan yn cyfarch y gynulleidfa gyfan ar y cyd ynte a yw’n siarad â phob aelod o’r cyhoedd fesul un?

Y gynulleidfa darged

  • Pwy sy’n cael ei annerch?

Mae ambell sefyllfa’n ddigon eglur ee defnyddir ‘ti’ pan fo’r neges yn cael ei thargedu at blant neu bobl ifanc, a ‘chi’ pan fo’n annerch pobl hŷn.

Y pwnc dan sylw

  • A yw’n bwnc amhersonol, swyddogol neu weinyddol ei natur?
  • A yw’n ymdrin â phwnc o natur bersonol, ee iechyd a lles?
  • A yw’n gofyn i ni, fel unigolion, wneud penderfyniad o natur bersonol?

Mae’n debygol mai ‘chi’ fyddai’n fwy priodol yn yr achos cyntaf, ac mae’n debygol mai i’r categori hwn y byddai’r rhan fwyaf o waith y Llywodraeth yn perthyn. Efallai y gellid ystyried ‘ti’ yn yr ail a’r trydydd achos.

Natur y neges

  • Pwy sy’n ein hannerch?
  • Ai rhoi gorchymyn mae’r slogan?
  • A yw’n ein gwahodd neu geisio ein darbwyllo i wneud rhywbeth, neu’n rhoi cyngor?

Mae’n bosibl y byddai’n codi gwrychyn i gael rhywun mewn awdurdod yn ein galw’n ‘ti’, yn enwedig os yw’n rhoi gorchymyn. Ar y llaw arall, gallai’r ‘llais’ sy’n annerch fod yn ceisio siarad â ni ar yr un lefel wrth estyn gwahoddiad neu geisio darbwyllo.

Beth os oes gwrthdaro?

Gall sawl un o’r ystyriaethau hyn fod yn berthnasol ar adegau. Er enghraifft, gall y pwnc fod yn swyddogol, ond natur y neges yn anffurfiol neu’n ddoniol. Dyna pryd mae’n anodd penderfynu wrth gwrs, ac efallai mai dyna pryd y byddai’n briodol holi’r cwsmer pa nodyn y mae’n dymuno’i daro.

Ffurfiau eraill posibl

  • A oes modd osgoi’r broblem, ee trwy ddefnyddio berfenw?
  • Neu beth am ddefnyddio’r person cyntaf lluosog, os mai’r nod yw annog pawb i wneud rhywbeth, ee Achubwn y Morfil?

treiglo

adferf amser

yr amser a dreulir bob wythnos, nid ‘yr amser a dreulir pob wythnos’

biliwn / miliwn

Mae angen gofal wrth drafod biliynau a miliynau er mwyn osgoi amwysedd wrth dreiglo’n feddal. Peidiwch felly â threiglo 'miliwn' na ‘biliwn’, ee £1 fililwn, £1 biliwn.

‘bod’ neu ‘fod’

Nid oes angen treiglo:
ar ôl y ffurfiau cryno amhersonol:
  credir bod, dywedwyd bod
ar ôl berfenw:
  credu bod, dweud bod
ar ôl ‘er’ (er bod), ‘rhaid’ (rhaid bod), ‘a’ (a bod), ‘yw’ (yw bod), ‘oherwydd’ (oherwydd bod).

Mae angen treiglo:
ar ôl ffurfiau cryno’r ferf: 
   credaf fod, dywedodd fod
ar ôl ‘efallai’, sef ffurf gryno ar y ferf ‘gallu’ – ‘ef allai’.

byth

Yn gyffredinol, nid oes angen treiglo ‘byth’:
Nid yw byth yn methu

treiglo – cyfres o ansoddeiriau 

Pan fo cyfres o ansoddeiriau’n goleddfu enw benywaidd, mae angen treiglo pob ansoddair yn feddal. Nid yw hyd y gyfres yn effeithio ar hyn, ee: 

‘Dyma’r Llywodraeth decaf, wyrddaf, dryloywaf, fwyaf effeithlon erioed’

Sylwer hefyd: ardal lai ffafriolffordd fwy prysur.

cyfres o enwau

Uned Bolisi, ond Uned Polisi Cymdeithasol, hynny yw, ar ôl enw benywaidd, mae angen treiglo’r gair sy'n dilyn, ond os oes dau neu ragor o eiriau'n dilyn, a'r cysylltiad rhwng y geiriau hynny a'i gilydd yn gryfach na'r cysylltiad â'r enw benywaidd, does dim treiglad. 
Felly, yr Adran Ddiwydiant ond yr Adran Diwydiant a Masnach.
Yr Uned Bolisi, ond yr Uned Polisi Cydraddoldeb.

Mae ambell enghraifft, serch hynny, lle mae'r ddau air sy'n dilyn enw benywaidd gymaint ynghlwm wrth ei gilydd nes bod treiglad yn digwydd. Enghraifft o hynny yw 'yr Ŵyl Gerdd Dant' lle caiff 'cerdd dant' ei drin i bob pwrpas fel un gair neu uned.

Sylwer hefyd: ardal lai ffafriolffordd fwy prysur.

‘diwethaf’ gyda rhifolyn ac enw benywaidd 

Nid oes angen treiglo ‘diwethaf’ mewn ymadroddion fel y rhain, gan fod y rhifolyn a’r enw’n cael eu trin fel ymadrodd enwol lluosog: 

‘Y pum mlynedd diwethaf’ 

‘Y chwe strategaeth diwethaf’ 

‘Y saith menyw diwethaf’ 

Mae’n gywir treiglo neu beidio â threiglo, ond yn fwy arferol peidio. 

enwau sefydliadau a brandiau 

Ni fyddem yn rhoi rheol gadarn, ond er cysondeb yng ngwaith Gwasanaeth Cyfieithu Llywodraeth Cymru, dyma drefn gyffredinol y byddem yn ei hargymell:

  • Osgoi’r broblem os oes modd, er enghraifft trwy aildrefnu’r frawddeg neu trwy roi enw cyffredin o flaen yr enw priod

Cafodd ei gyflogi gan elusen Tŷ Hafan

  • Treiglo enwau sy’n dechrau â disgrifiad, er enghraifft cyngor, cymdeithas ac ati, hyd yn oed os yw’r gair disgrifiadol hwnnw’n rhan o’r teitl

Anfonodd gais cynllunio i Gyngor Sir Gâr

  • Peidio â threiglo enwau nad ydynt yn dechrau â gair disgrifiadol o’r fath

Mae gan Cyfoeth Naturiol Cymru ganolfannau ymwelwyr ym mhob cwr o Gymru

  • Byddem yn argymell peidio â threiglo enwau masnachol a brandiau mewn gwaith ysgrifenedig, er ein bod yn tueddu i wneud hynny ar lafar:

Agorodd y Gweinidog gangen newydd o Tesco ar y stryd fawr

fe’i

Nid oes angen treiglo ar ôl ‘fe’i’:
fe’i gwelwyd ef, fe’i torrwyd hi nid ‘fe’i welwyd ef’, ‘fe’i thorrwyd hi’
Ond mae angen ychwanegu ‘h’ o flaen llafariaid:
fe’i hanafwyd ef, fe’i hanafwyd hi nid ‘fe’i anafwyd ef’, ‘fe’i anafwyd hi’

hefyd

a threfnu hefyd weithgareddau o bob math, nid ‘a threfnu hefyd gweithgareddau o bob math’

‘ll’ a ‘rh’

nid oes angen treiglo ‘ll’ a ‘rh’
ar ôl ‘y’: y llewes, y rhodfa
ar ôl ‘un’: un llaw, un rhaw
ar ôl ‘yn’: yn llwyddiannus, yn rhagrithiol
ar ôl ‘pur’: pur llewyrchus, pur rhydlyd

mae angen treiglo ‘ll’ a ‘rh’ 
ar ôl ‘rhy’: rhy laes, rhy rwydd
fel gwrthrych berf gryno: clywais rai yn dweud, gwelais ragor o gathod

neu

Treiglad meddal mewn enwau, berfenwau ac ansoddeiriau:
dyn neu fenyw, rhedeg neu gerdded, gwyn neu ddu
Nid yw ffurfiau cryno berfau’n treiglo ar ôl ‘neu’: 
Galwch heibio neu trefnwch gyfarfod nid ‘... neu drefnwch gyfarfod’

rhaid

Mae modd treiglo neu beidio â threiglo 'rhaid' ar ôl 'oes':
A oes rhaid talu am docyn? neu A oes raid talu am docyn?
Nid oes rhaid codi'n fore neu Nid oes raid codi'n fore

Er cysondeb, arfer y Gwasanaeth Cyfieithu yw peidio â threiglo.

y cysylltair ‘a’ (and)

a than, a thros, a thrwy, a chan, a chyda (treiglad llaes), nid ‘a dan, a dros, a drwy, a gan, a gyda’

‘y tair’, ‘y pedair’

Sy’n gywir – does dim treiglad

yn + ansoddair o flaen berfenw

Pan roddir ansoddair o flaen berfenw bydd y berfenw yn treiglo ond ni fydd yr ‘yn’ yn treiglo’r ansoddair:
mae’r pentref yn cyflym ddirywio, nid ‘mae’r pentref yn gyflym ddirywio’
yn gwirioneddol gredu, nid ‘yn wirioneddol gredu’

yn enwedig

Nid oes angen treiglo ar ôl ‘yn enwedig’:
yn enwedig pobl sy’n gweithio mewn swyddfeydd, nid ‘yn enwedig bobl sy’n gweithio mewn swyddfeydd’

unigol a lluosog

Mae’r Gymraeg yn aml yn defnyddio ffurfiau unigol lle mae’r Saesneg yn defnyddio’r lluosog, ac i’r gwrthwyneb. Nid oes angen glynu at y ffurf gyfatebol o anghenraid os yw ffurf wahanol yn fwy naturiol yn y Gymraeg.

Un enghraifft o hyn yw ‘best practice’. Gan amlaf, bydd Gwasanaeth Cyfieithu Llywodraeth Cymru yn cyfieithu’r ymadrodd hwn fel ‘arferion gorau’, er mai’r unigol a ddefnyddir yn Saesneg. Yn aml, defnyddir yr enw Saesneg unigol ‘practice’ mewn ystyr torfol ond teimlir nad yw’r enw Cymraeg unigol ‘arfer’ yn cyfleu hynny’n llawn.  Yn achos ‘best practice’, os oes gwir angen ffurf unigol am ryw reswm, defnyddier ‘arfer orau’ yn unol â’r drefn o ddefnyddio’r genedl a restrir gyntaf yng Ngeiriadur Prifysgol Cymru.

‘pob/pob un’: unigol ynteu lluosog

Gall ‘pob’ oleddfu enwau unigol yn unig ee ‘pob mater’, ‘pob tudalen’. Felly, wrth gyfieithu brawddeg lle ôl-gyfeirir at enw unigol ee ‘Every page in the book has been read carefully’, rhaid ôl-gyfeirio at yr enw unigol, er ei bod yn amlwg bod mwy nag un dudalen yn y llyfr o dan sylw. Felly, y cyfieithiad cywir fyddai: ‘Mae pob tudalen yn y llyfr wedi’i darllen yn ofalus’.

Gan fod ‘pawb’ yn gywasgiad o ‘pob un’, mae’r un rheolau’n berthnasol i ‘pawb’ ag i ‘pob un’, a dylid ôl-gyfeirio at ‘pawb’ yn yr unigol mewn testunau ffurfiol. Fodd bynnag, mae’n arferol ôl-gyfeirio at ‘pawb’ yn y lluosog mewn testunau anffurfiol ac ar lafar, ac felly dylid ystyried diben a chynulleidfa’r darn. 

Pan fo ‘pob un o’ yn rhagflaenu elfen luosog, ôl-gyfeirir at yr elfen luosog, ee: 

Roedd pob un ohonynt o’r farn eu bod yn barod i weithio.

Roedd pob un o’r disgyblion yn teimlo eu bod wedi cael llond bol ar fod yn yr ysgol.

Gall hyn ddigwydd hefyd gydag enwau unigol y mae’n arferol ôl-gyfeirio atynt yn y lluosog, ee ‘tîm’, ‘teulu’.