Neidio i'r prif gynnwy

Yr Arddulliadur

Datblygwyd y canllawiau arddull hyn i roi cyngor ac arweiniad i’r rheini sy’n cyfieithu testunau cyffredinol. Gallwch chwilio am eiriau penodol neu gallwch bori fesul adran.

a/neu'r maes
19 canlyniad
Rhestrir y canlyniadau yn ôl trefn yr wyddor.

berfau ymadroddol

Dyma un o nodweddion hynod yr iaith Saesneg, ac mae’n un sy’n gallu peri penbleth i’r cyfieithydd. Mae berf ymadroddol yn cynnwys berf ac arddodiad neu adferfol, ee fly away, carry on, keep up. Mae pob un ohonom ni yn eu cyfieithu’n llythrennol ar lafar – rydym ni i gyd yn ‘cario ymlaen efo’r gwaith’, er enghraifft. Ar y llaw arall, gall hynny fod yn amhriodol mewn dogfennau ffurfiol a byddai’n well ‘dal ati â’r gwaith’. Mae angen ystyried cywair y darn felly, a Chymreigio os oes modd. Ond rhaid hefyd ystyried a yw’r ymadrodd Cymraeg yn cyfleu union ystyr ac ergyd y Saesneg.

Isod, rhoddir y berfau hyn mewn tri chategori, gan gynnig enghreifftiau ynghyd â syniadau ynghylch sut i ymdrin â nhw.

Berfau lle mae ystyr llythrennol i’r ddwy elfen

The boy ran up the hill

Mae’r bachgen yn rhedeg, ac mae ‘i fyny’ yn disgrifio i ba gyfeiriad y mae’n rhedeg. Mae’n gwbl dderbyniol cyfieithu’r rhain yn llythrennol felly. Mae nifer fawr ohonynt yn ymwneud â symud i gyfeiriad penodol:

come in > dod i mewn
go out > mynd allan

Sylwch fod un gair yn cyfateb i nifer o’r rhain. Gellid dweud bod y berfau un gair yn fwy ffurfiol o bosibl, ond nid yw honno’n rheol gaeth. Gallant hefyd fod yn ddefnyddiol er mwyn arbed lle, ee mewn negeseuon trydar:

dod yn ôl > dychwelyd
mynd i ffwrdd > gadael
mynd i fyny > dringo

Berfau lle mae ystyr llythrennol i’r ferf yn unig

Ceir amrywiaeth eang iawn o’r rhain, ac mae’n bosibl mai’r dull mwyaf cyffredin o ymdrin â nhw yw cyfieithu’r ferf yn unig. Ystyriwch a fyddai’r ail elfen yn cyfrannu unrhyw beth at yr ystyr. Os na, mae’n bosibl nad oes ei hangen. Dyma rai enghreifftiau:

count out > cyfrif
tidy up > tacluso
fall down > disgyn/cwympo/syrthio
fill in > llenwi
slow down > arafu

Un dull o bwyso a mesur a oes angen yr ail elfen yw ei chyfnewid am ei gwrthwyneb, ee ‘i fyny’ am ‘i lawr’ neu ‘i mewn’ am ‘allan’. Os yw’n synhwyrol, mae’n debyg bod yr elfen honno yn cyfrannu at yr ystyr a bod ei hangen. Os yw’n nonsens, gellir ei hepgor.

Os nad yw’r ferf ar ei phen ei hun yn cyfleu’r union ystyr, ystyriwch a oes modd aralleirio:

miss out > colli > colli cyfle
write down > ysgrifennu > gwneud nodyn
sit up > eistedd > codi ar ei eistedd

Berfau lle nad oes ystyr llythrennol i’r elfennau unigol

Ystyriwch y frawddeg “My money has run out”. Nid yw’r arian yn rhedeg i unlle, i mewn nac allan. Yn ddelfrydol felly, dylid dod o hyd i ymadrodd idiomatig Cymraeg. Yn yr achos hwn, byddai “Mae fy arian wedi darfod/dod i ben” yn gweithio. Dyma ragor o enghreifftiau, a chyfieithiadau posibl:

own up > cyfaddef
take place > digwydd
work out > cyfrifo
stand out > dal sylw
carry on > dal ati

Byddai’n anodd iawn llunio rhestr gynhwysfawr, gan y bydd y cyfieithiad yn amrywio yn unol â’r cyd-destun. Er enghraifft:

He worked out the bill
Cyfrifodd y bil

He worked out what to do
Penderfynodd beth i’w wneud

He worked out the puzzle
Datrysodd y pos

 

Set out

Dyma enghraifft sy’n codi’n aml wrth gyfieithu dogfennau ffurfiol. Mae fel arfer yn cael ei gyfieithu fel ‘nodi’ mewn deddfwriaeth, gan nad oes unrhyw amwysedd:

These regulations set out the procedure to be followed
Mae’r rheoliadau hyn yn nodi’r weithdrefn sydd i’w dilyn

Mewn testunau cyffredinol, ar y llaw arall, gall ‘set out’ gyfleu rhywbeth mwy disgrifiadol neu amhenodol:

The Minister set out the government’s plans for the next five years

Gallai ‘disgrifio’, ‘egluro’, ‘mynegi’, neu hyd yn oed ‘amlinellu’ weithio, gan ddibynnu pa mor benodol y teimlir y mae’r Gweinidog wedi bod. Bydd rhaid pwyso a mesur yn ôl y cyd-destun.

Gall ‘set out’ fynegi ystyr gwahanol hefyd wrth gwrs:

He did not set out to break the world record
Nid torri record y byd oedd ei fwriad

Draw on

Dyma enghraifft arall lle mae angen pwyso a mesur pa ystyr yn union y mae’r awdur yn ceisio’i gyfleu. Er enghraifft, gallai ‘defnyddio’, ‘manteisio ar’ ac ‘elwa ar’ fod yn bosibl yn y frawddeg isod:

The report draws on published contributions and comments made in focus groups

Os teimlir bod y testun Saesneg yn fwriadol amwys, efallai y dylid ystyried atgynhyrchu hynny yn y cyfieithiad.

blynyddoedd

Ysgrifennir rhifau blynyddoedd mewn ffigurau fel arfer.  

Ysgrifennir rhifau blynyddoedd yn llawn, hy ‘yn 2016’ nid ‘yn ’16’.  

Er cysondeb, trinnir yr elfen gyntaf mewn blynyddoedd o 1000 i 1999 fel mai ‘un’ sy’n cael ei ddweud yn hytrach na ‘mil’. Felly:  

  • ‘rhwng 1998 ac 1999’ nid ‘rhwng 1998 a 1999’  
  • ‘yn 1999’ nid ‘ym 1999’.  

Yr unig eithriad i hyn fyddai darn yn y cywair clasurol lle byddai angen ysgrifennu rhif y flwyddyn mewn geiriau yn hytrach na ffigurau, gan ddefnyddio’r system ugeiniol. Bryd hynny, byddai’n rhesymol ysgrifennu ‘ym mil naw cant’ yn hytrach nag ‘yn un naw dim dim’.

Yn yr amgylchiadau prin pan fo angen ysgrifennu rhif y flwyddyn mewn geiriau, ee ar gyfer araith neu ddatganiad llafar, bydd y rhifau’n wrywaidd bob amser (ee ‘dwy fil a dau’ nid ‘dwy fil a dwy’). Mae hyn yn seiliedig ar eu trin fel rhifau (gwrywaidd), ac nid fel nifer o flynyddoedd (benywaidd).  

Bydd y ffordd o ysgrifennu’r rhif yn amrywio ar sail y cywair a’r flwyddyn dan sylw, ac hefyd (mewn araith neu ddatganiad llafar) ar sail yr hyn sy’n gweddu orau i’r siaradwr. Er enghraifft: 

  • Weithiau bydd y system ugeiniol yn fwy addas na’r system ddegol, hyd yn oed yn y cyweiriau anffurfiol neu ffurfiol, ee bydd yn fwy addas ysgrifennu ‘dwy fil ac un ar ddeg’ na ‘dwy fil ac un deg un’ waeth beth yw’r cywair  
  • Weithiau bydd y system ugeiniol yn addas i’r cywair clasurol yn unig, a’r system ddegol yn fwy addas i gyweiriau eraill, ee gallai ‘dwy fil a thri ar hugain’ a ‘mil naw cant a phedwar ugain’ fod yn addas yn y cywair clasurol, a gallai ‘dwy fil a dau ddeg tri’ a ‘mil naw wyth deg’ fod yn fwy addas mewn cyweiriau eraill.  
  • Sylwer y bydd angen defnyddio ‘ym’ os penderfynir defnyddio’r system ugeiniol yn achos blynyddoedd rhwng 1000 a 1999.

Felly dylai’r cyfieithydd arfer ei grebwyll wrth benderfynu beth sy’n addas, a bod yn gyson o fewn yr un darn neu gyfres o ddarnau.

cenedl enwau

Ein harfer yw dilyn y genedl gyntaf sy’n cael ei nodi yng Ngeiriadur Prifysgol Cymru os nodir dau ddewis, oni bai bod cytundeb ffurfiol i ddilyn cenedl wahanol er cysondeb. Er enghraifft, defnyddir ‘fersiwn’ yn fenywaidd gan y Gwasanaeth Cyfieithu er mai enw gwrywaidd yn gyntaf ydyw yng Ngeiriadur Prifysgol Cymru.

Nodwch yn arbennig yr isod - mae’r rhestrau hyn yn cynnwys geiriau rydym yn eu trin yn wahanol i Eiriadur y Brifysgol, a geiriau ble rydym yn dilyn y genedl yn y Geiriadur ond y mae cwestiwn yn codi ynghylch eu cenedl yn aml:

benywaidd

amrywiaeth
anfantais
aradr
carafán
cilfan
economi
effaith
eitem
fersiwn
ffaith
ffolder 
galwad
gwybodaeth
hysbyseb
neges
proses
sesiwn
strategaeth
trosedd
tudalen
tuedd
ymchwil
ymgyrch 
ystyriaeth       

gwrywaidd

busnes
ffactor
ffolder (nid oes cofnod o “ffolder” yn yr ystyr ‘lle i gadw papurau’ yng Ngeiriadur Prifysgol Cymru)
fformat
fframwaith
man (=lle)
nifer
poen
rhwydwaith
safle
sector
statws
syndrom

Gweler hefyd yr erthygl am 'golwg' sy'n trafod cenedl yr enw hwn mewn gwahanol gyd-destunau.

contravention

Mae sawl ffordd o gyfieithu ‘contravention’.  Gellir defnyddio berfenw fel ‘torri’  i gyfleu ‘contravention’ fel enw cynnull* e.e. ‘contravention of certain regulations not to be an offence’, ‘torri rheoliadau penodol i beidio â bod yn drosedd’.

Gellir cyfleu’r ymadrodd ‘in contravention of’ drwy ddefnyddio ‘yn groes i’ e.e. ‘in contravention of regulation 5’, ‘yn groes i reoliad 5’.

I gyfleu ‘contravention’ fel enw rhif*, mae nifer o ddewisiadau, fel y rhai a ganlyn:

  • Mae ‘toriad’ yn gweithio os bydd ‘torri’ yn cael ei ddefnyddio yn yr un cyd-destun e.e. ‘the health mark or identification mark that constitutes the alleged contravention’, ‘y marc iechyd neu’r marc adnabod sy’n ffurfio’r toriad honedig’.  O ddefnyddio ‘toriad’, mae angen sicrhau na fydd amwysedd yn codi oherwydd ystyron eraill ‘toriad’.

  • Os yw’n amlwg beth sy’n destun y torri, mae modd defnyddio cyfuniadau yn ‘tor’. Er enghraifft, ‘tor rheoliad’ pan fydd yn amlwg mai torri ‘rheoliad’ sydd o dan sylw e.e. ‘the contravention which is complained of may for all incidental purposes be treated as having been committed in any part of Wales’, ‘caniateir ymdrin â'r tor rheoliad y cwynir amdano at bob diben atodol fel pe bai wedi ei gyflawni mewn unrhyw ran o Gymru’.

  • Mewn cyd-destunau eraill defnyddir ‘tramgwydd’ i gyfleu ‘contravention’ e.e. ‘traffic contraventions’ ‘tramgwyddau traffig’; ‘parking contraventions’, ‘tramgwyddau parcio’; a ‘hazardous substances contravention’, ‘tramgwydd sylweddau peryglus’. 

  • Ac ar adegau gellir defnyddio ‘torri ‘ i gyfleu’r enw Saesneg e.e. ‘guilty of an offence in the case of any contravention of section 2(2) to (4) of the Act, including any such contravention by virtue of a failure to comply with the requirements of article 3.’ , ‘euog o drosedd os torrir adran 2(2) i (4) o’r Ddeddf, gan gynnwys ei thorri yn rhinwedd methu cydymffurfio â gofynion erthygl 3’

* ‘Enw cynnull’ yw enw nad oes modd ei ddefnyddio yn y ffurf luosog ac nad oes modd ei gyfrif e.e. ‘bara’.  ‘Enw rhif’ yw enw y mae modd ei ddefnyddio yn y ffurf luosog ac y mae modd ei gyfrif e.e. ‘torth’.  Weithiau, fel yn achos ‘contravention’ mae enwau yn gallu cael eu defnyddio fel enwau cynnull ac fel enwau rhif, ond i gyfleu ystyron gwahanol.

cwynion (complaints)

Mae angen yr acen ar ffurfiau treigledig y gair unigol ‘cwyn’ er mwyn i’r ystyr fod yn eglur – gweler yr erthygl ‘cwyn (complaint)’.

Mae’r cwestiwn yn codi a oes angen acen grom yn y gair treigledig lluosog, ‘gwynion’. Y cyngor yn y gyfrol ‘Orgraff yr Iaith Gymraeg’ (paragraff 72(2)) yw nad oes angen yr acen honno, o ddilyn y rheolau arferol, oherwydd nad sain llafariad hir sydd i’r llythyren ‘w’ yn y ffurf luosog.

Er hynny mae’n nodi y gall fod yn syniad cael rhyw ffordd o nodi’r sain gywir gan fod cynifer o bobl yn ei chamseinio. Mae’n argymell y gellid defnyddio’r to bach – gan nad oes arwydd arall addas yn bodoli yn orgraff y Gymraeg – lle bo angen arweiniad ynghylch ynganiad cywir (neu, felly, i osgoi amwysedd yn yr ystyr).

Ein harfer ni felly, ar gyfer gwaith Llywodraeth Cymru, yw defnyddio “gwynion” ar gyfer ffurf luosog “gŵyn” ac eithrio mewn amgylchiadau penodol, prin lle gallai’r ystyr fod yn amwys, neu lle mae angen arweiniad ar yr ynganiad (ee mewn araith neu sgript). Yn y rhan fwyaf o gyd-destunau, dylai fod yn ddigon eglur ai lluosog yr ansoddair ‘gwyn’ ynteu lluosog yr enw ‘cwyn’, wedi’i dreiglo, a ddynodir gan y gair ‘gwynion’.

cymaint / cynifer

Mae angen gwahaniaethu.

Mae ‘cymaint’ yn cyfeirio at ‘faint’:
cymaint o dlodi, cymaint o law

Mae ‘cynifer’ yn cyfeirio at ‘nifer’:
cynifer o weithwyr, cynifer o anifeiliaid

cystrawen

Wrth gyfieithu, rhaid osgoi glynu’n rhy gaeth wrth gystrawen y Saesneg.

There will be an increase in the demand for and the provision of modern foreign language courses.
Anghywir: Bydd cynnydd yn y galw am a’r ddarpariaeth o gyrsiau ieithoedd tramor modern.
Cywir: Bydd y galw am gyrsiau ieithoedd tramor modern yn cynyddu a bydd mwy ohonynt yn cael eu darparu.

The scheme was important in creating opportunities.
Anghywir: Roedd y cynllun yn bwysig wrth greu cyfleoedd.
Cywir: Roedd y cynllun yn bwysig o ran creu cyfleoedd.
 
The aim of the scheme is to improve standards in schools.
Anghywir: Amcan y cynllun yw i wella safonau mewn ysgolion.
Cywir: Amcan y cynllun yw gwella safonau mewn ysgolion.

Whilst we acknowledge that we cannot ...
Anghywir: Tra’r ydym yn cydnabod na allwn ...
Cywir: Er ein bod yn cydnabod na allwn …

These are the potential problems.
Anghywir: Y rhain yw’r problemau potensial (hynny yw, defnyddio ‘potensial’ fel ansoddair)
Cywir: Y rhain yw’r problemau posibl.

The number of cases has risen by 20%.
Anghywir: Mae’r nifer o achosion wedi cynyddu/codi o 20%.
Cywir: Mae nifer yr achosion wedi cynyddu/codi 20%. 
neu 
Bu cynnydd o 20% yn nifer yr achosion.

To provide the public with information.
Anghywir: Darparu’r cyhoedd â gwybodaeth.
Cywir: Darparu gwybodaeth ar gyfer y cyhoedd.

enwau torfol: unigol ynteu lluosog

Trafodir, yn benodol, y geiriau hynny sy’n unigol yn ramadegol ond yn lluosog o ran ystyr ee teulu, tîm, pwyllgor, byddin.

Mae ansoddair sy’n disgrifio’r geiriau hyn yn unigol bob amser, ee ‘y pwyllgor hwn’.

Mewn dogfennau ffurfiol, yr arfer gyffredin yw defnyddio berfau a rhagenwau unigol hefyd wrth gyfeirio’n ôl atynt:

Trafododd y pwyllgor ei raglen waith yn y cyfarfod, ac mae wedi cytuno arni.
Yn dilyn ei fuddugoliaeth, gorymdeithiodd y tîm trwy ganol y ddinas.

Cofiwch nad yw’n anghywir defnyddio berfau a rhagenwau lluosog, fodd bynnag. Yn wir mae’n hen arfer, a gwelir enghreifftiau mor bell yn ôl â Chymraeg Canol.

Ystyriwch felly a allai fod yn fwy priodol defnyddio berfenwau a rhagenwau lluosog mewn rhai achosion, ee mewn cyweiriau mwy anffurfiol, neu i sicrhau bod y testun yn eglur pe bai nifer o ragenwau yn yr un frawddeg yn cyfeirio at wahanol enwau.

Cafodd y tîm orymdaith fawr drwy’r ddinas a buon nhw’n dathlu tan yr oriau mân.
Cynigiodd y Cadeirydd raglen waith ddiwygiedig yn nghyfarfod y pwyllgor ac maent wedi cytuno arni.

Gall newid y pwyslais hefyd. Trwy gyfeirio’n ôl at ‘y pwyllgor’ neu ‘y cyngor’ yn yr unigol, gellir tynnu sylw at y ffaith ei fod yn gweithredu fel un endid. Ond o ddefnyddio’r lluosog, awgrymir mai cyfeirio at yr aelodau fel unigolion y mae’r testun:

Ar ôl i’r pwyllgor gael dadl frwd ynghylch y rhaglen waith, maent wedi methu â chytuno arni.

ffigurau, rhifau a rhifolion

Mae’r arweiniad hwn yn berthnasol yn bennaf i’r cyweiriau clasurol a ffurfiol. Yn y cyweiriau anffurfiol a llafar, gellir addasu yn ôl yr angen, ond dylid bod yn gyson o fewn un darn neu gyfres o ddarnau.  

Ffigurau ynteu geiriau  

Wrth gyfieithu dilynwch yr hyn sydd yn y testun Saesneg o ran defnyddio geiriau ynteu ffigurau, ond dilynwch y cyngor isod wrth ddrafftio testun gwreiddiol yn Gymraeg neu os oes ansicrwydd ynghylch sut i gyfieithu’r Saesneg.  

Yn gyffredinol, rhowch y rhifau ‘un’ i ‘deg’ mewn geiriau a defnyddiwch ffigurau ar gyfer rhifau o 11 ymlaen. Ond mae rhai eithriadau i hyn – defnyddir ffigurau ar gyfer un i ddeg yn y sefyllfaoedd hyn:  

  • amserau, cyfnodau amser, oedrannau, dyddiadau  
  • canrannau, symiau arian, unedau mesur  
  • cyfrifiadau, fformiwlâu, rhifau sy’n cynnwys pwynt degol  
  • rhifau eiddo mewn cyfeiriadau 
  • pan fo rhifau hyd at ddeg ac uwchben deg yn cael eu defnyddio gyda’i gilydd 
  • gyda ‘miliwn’ a ‘biliwn’. Hefyd, peidiwch â threiglo ‘miliwn’ na ‘biliwn’ er mwyn osgoi amwysedd rhyngddynt (hy, peidiwch â dweud ‘2 filiwn’ ar gyfer ‘2 miliwn’ na ‘2 biliwn’).  

Rhoddir ffracsiynau mewn ffigurau mewn cyfrifiadau neu fformiwlâu, ond cânt eu mynegi mewn geiriau mewn testun (‘1/3’ mewn cyfrifiadau etc, ond ‘traean’ neu ‘un ran o dair’ mewn testun). 

 

Degol ynteu ugeiniol  

Caiff ffigurau eu trin fel ffurfiau clasurol neu ugeiniol, yn hytrach na ffurfiau degol. Felly wrth gyfieithu ‘and 21’ rhowch ‘ac 21’ fel petai’n darllen ‘ac un ar hugain’ ac nid ‘a 21’ (‘a dau ddeg un’).  

Caiff ffigurau mewn dyddiadau eu trin fel ffurfiau ugeiniol hefyd. Ni chaiff y fannod ei chynnwys yn ysgrifenedig, ond wrth ddefnyddio cysyllteiriau ac arddodiaid o flaen dyddiadau, tybir bod y fannod yn bresennol ar lafar. Hynny yw:  

  • ar gyfer ‘and 20 March’, defnyddir ‘a 20 Mawrth’ (‘a’r ugeinfed o Fawrth’) 
  • ar gyfer ‘from 31 March’, defnyddir ‘o 31 Mawrth’ (‘o’r unfed ar ddeg ar hugain o Fawrth’) 
  • ar gyfer ‘the period beginning with 1 December 2020’ defnyddir ‘y cyfnod sy’n dechrau â 1 Rhagfyr 2020’ (‘y cyfnod sy’n dechrau â’r cyntaf o Ragfyr 2020’). 

Mae rhai eithriadau i’r arfer o drin ffigurau fel ffurfiau ugeiniol. Defnyddir y system ddegol yn y sefyllfaoedd hyn:  

  • rhifau tai – ‘ymweld ag 80 Heol y Frenhines’ (‘ymweld ag wyth deg Heol y Frenhines’) nid ‘ymweld â 80 Heol y Frenhines’ (‘ymweld â phedwar ugain Heol y Frenhines’)  
  • rhifau ffôn  
  • rhifau cyn ac ar ôl pwyntiau degol – ‘a 20.15 y cant’ (‘a dau ddeg pwynt un pump y cant’) nid ‘ac 20.15 y cant’ (‘ac ugain pwynt pymtheg y cant’) 
  • rhifau blynyddoedd – ‘rhwng 1995 ac 1996’ nid ‘rhwng 1995 a 1996’. Mae hyn yn cyd-fynd â’r cyngor yn yr erthygl ar flynyddoedd i drin y rhif cyntaf fel ‘un’ yn hytrach na ‘mil’. 

 

Treiglo ai peidio

Pan fo’r arferion gramadegol o ran treiglo ar ôl rhifau yn ddiamwys ac yn sefydledig, dilynir y rheini. Mae’r cyngor hwn yn ymwneud â sefyllfaoedd pan fo’r arferion yn amrywio neu’n ansicr. 

 

Mae ‘blwydd’ a ‘blynedd’ yn treiglo’n drwynol ar ôl pob rhifolyn ar wahân i 2, 3, 4 a 6, ond nid yw ‘diwrnod’ yn treiglo’n drwynol ar ôl rhifau, ond ceir anghytundeb ymhlith gramadegwyr o ran ‘6 blynedd/mlynedd’, yn enwedig ar lafar.

Ni threiglir enwau heblaw ‘cant’, ‘punt’ a ‘ceiniog’ yn feddal ar ôl ‘saith’ ac ‘wyth’, ee ysgrifennir ‘saith parc’ ac ‘wyth rhanbarth’, nid ‘saith barc’ ac ‘wyth ranbarth’.  

Ni threiglir ‘diwrnod’ yn drwynol ar ôl rhifau, ee ysgrifennir ‘saith diwrnod’ a ‘15 diwrnod’. 

 

Y ffurfiau cyswllt ynteu’r ffurfiau dyfynnol  

Defnyddir y ffurfiau cyswllt ‘pum’ (5), ‘chwe’ (6) a ‘can’ (100) yn gyffredinol ee ‘pum arth’, ‘pum dyn’, ‘chwe adroddiad’, ‘chwe menyw’, ‘can metr’, ‘can merch’. 

Gellir defnyddio’r ffurf gyswllt ‘deng’ o flaen llafariaid e.e. ‘deng awdurdod’ ac ‘m’ e.e. deng mis. Mae hyn yn gyffredin yn y cywair clasurol yn arbennig, ac i raddau yn y cywair ffurfiol hefyd. Mae’n fwy arferol gweld y ffurf ddyfynnol ‘deg’ yn y cyweiriau anffurfiol a llafar.

Ni fydd y ffurfiau cyswllt ‘deuddeng’ (12) a ‘pymtheng’ (15) yn codi yn ein gwaith fel arfer gan y defnyddir ffigurau ar gyfer rhifau o 11 i fyny.  

 

Y lluosog ynteu’r unigol  

Gyda ffigurau a rhifolion hyd at ddeg, defnyddir yr unigol, ee ‘2 filltir’, ‘dau ddyn’.  

Gyda ffigurau a rhifolion o 11 i fyny, defnyddir yr unigol pan fo’r hyn a gyfrifir yn dod ar ôl y rhif ee ‘18 mis’ (‘deunaw mis’) yn hytrach na ‘18 o fisoedd’ (‘deunaw o fisoedd neu ‘un deg wyth o fisoedd’). 

Gyda ffigurau a rhifolion o 11 i fyny, defnyddir y lluosog yn y sefyllfaoedd hyn:  

  • pan ddefnyddir y system ugeiniol a phan fo’n arferol rhoi’r hyn a gyfrifir yn y canol – defnyddir ‘11 o filltiroedd’ (‘un ar ddeg o filltiroedd’) nid ‘11 filltir’ (‘un filltir ar ddeg’)  
  • pan ddefnyddir y system ddegol – defnyddir ‘17.34 o filltiroedd’ (‘un deg saith pwynt tri pedwar o filltiroedd’) nid ‘17.34 filltir’ (‘un deg saith filltir pwynt tri pedwar’) nac ‘17.34 milltir’ (‘un deg saith pwynt tri pedwar milltir’). 

 

Rhifau ar ddechrau brawddegau 

Peidiwch â dechrau brawddegau â ffigurau. Yn lle hynny:  

  • gallwch ddefnyddio’r geiriau yn lle’r ffigurau – ‘Ugain cais yn unig a dderbyniwyd’, yn hytrach nag ‘20 cais yn unig a dderbyniwyd’  
  • gallwch aildrefnu’r frawddeg – ‘Derbyniwyd 20 cais yn unig’ yn hytrach na ‘20 cais yn unig a dderbyniwyd’.   
     

Pwyntiau perthnasol eraill 

Cofiwch wahaniaethu rhwng ‘rhif’ (sy’n benodol ac, yn gyffredinol, yn cyfeirio at rifolion – 1, 2, 3 etc) a ‘nifer’ (sy’n amhenodol, ee ‘mae nifer mawr o gyrsiau ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg’).  

Mae cyngor perthnasol arall yn yr erthyglau ynghylch: 

  • dyddiadau  
  • blynyddoedd 
  • canrifoedd 
  • teitlau unedau milwrol – trefnolion a rhifolion.  

 

Gellir defnyddio’r ffurf gyswllt ‘deng’ o flaen llafariaid e.e. ‘deng awdurdod’ ac ‘m’ e.e. deng mis. Mae hyn yn gyffredin yn y cywair clasurol yn arbennig, ac i raddau yn y cywair ffurfiol hefyd. Mae’n fwy arferol gweld y ffurf ddyfynnol ‘deg’ yn y cyweiriau anffurfiol a llafar.

geiriau jargonllyd

Mae’n bosibl mai geiriau jargonllyd mewn testunau Saesneg yw un o gas bethau rhai cyfieithwyr. A ddylid defnyddio neu fathu jargon Cymraeg? A fyddai’n well aralleirio neu symleiddio? Y nod yma yw rhoi gair o gyngor ynghylch y pwyntiau i’w hystyried wrth benderfynu, a chynnig rhai enghreifftiau ac awgrymiadau.

Yn ogystal â’r geiriaduron arferol, mae nifer o ffynonellau defnyddiol eraill ar gael sy’n cynnig gwahanol ffyrdd o gyfieithu geiriau ac ymadroddion, ee rhestrau geiriau Berwyn Prys Jones ar wefan Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru: Geiriaduron - Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru a Chorpws Cyfochrog Cofnod y Cynulliad: Corpws Cyfochrog Cofnod y Cynulliad |.

termau yn y lle anghywir

Un diffiniad o ‘jargon’ yw termau sy’n cael eu defnyddio mewn mannau amhriodol. Label ar un cysyniad penodol mewn maes arbenigol yw term, a phan fo’n cael ei ddefnyddio yn y ffordd honno rhaid defnyddio’r term Cymraeg cyfatebol. Ar y llaw arall, os defnyddir y term mewn maes gwahanol neu i gyfleu ystyr mwy cyffredinol, gallai gair neu ymadrodd mwy cyffredin fod yn addas.

Dylai natur y darn a’r gynulleidfa darged helpu’r cyfieithydd i benderfynu ai term ynteu gair neu ymadrodd o’r iaith gyffredinol fyddai’n taro deuddeg. Wrth ddewis gair neu ymadrodd amgen, ystyriwch a yw’n cyfleu’r hyn y mae awdur y darn yn dymuno’i ddweud yn llawn ac yn gywir. Rhoddir rhai enghreifftiau isod, gan bwysleisio mai cynigion yn unig yw’r geiriau neu’r ymadroddion amgen, ac y gallai opsiynau eraill fod yn briodol.

Term Saesneg Term Cymraeg Gair neu ymadrodd

projection

Economeg / Ystadegau: cyfrifiad neu ragolwg
ar sail tueddiadau presennol

amcanestyniad rhagolygon

scoping

Ymchwil academaidd: prosiect sy’n edrych yn
ystemataidd ar y dogfennau mewn maes penodol,
gan nodi’r cysyniadau a damcaniaethau allweddol,
y ffynonellau tystiolaeth a bylchau yn y gwaith ymchwil

Dadansoddi data: adnabod is-set o elfennau o fewn
set ehangach

cwmpasu pennu hyd a lled

align

Technoleg iaith: y broses o drefnu testun yn segmentau
cyfochrog cyfatebol mewn dwy iaith.

alinio

cyd-fynd
cydweddu
gwneud yn gydnaws â

geiriau aneglur neu eang iawn eu hystyr

Ceir math arall o jargon lle mae ystyr y Saesneg yn aneglur, neu lle mae llu o wahanol ystyron ymhlyg yn y gair neu’r ymadrodd. Nid yw’r rhain yn dermau mewn unrhyw faes penodol. Gellid barnu ar adegau mai bod yn ymhonnus y mae’r awdur, a bryd hynny dylid ystyried ai tôn bwriadol sydd wedi’i daro, ynteu a fyddai’n briodol symleiddio wrth gyfieithu. Fodd bynnag, dylai’r cyfieithydd ystyried a yw pob elfen, neu’r elfennau allweddol, yn cael eu cyfleu yn llawn. A yw ‘trafod’, er enghraifft, yn cyfleu pob agwedd ar y gair ‘negotiate’ yn y cyd-destun dan sylw?

Rhaid cadw mewn cof hefyd y gall fod pwrpas bwriadol i’r amwysedd yn Saesneg. Mae’n bosibl y defnyddir ‘minded to’, er enghraifft, er mwyn osgoi cyfleu bwriad pendant neu benderfyniad terfynol. Os felly, rhaid i’r cyfieithydd ystyried a oes angen cyfleu’r un amwysedd.

Mae temtasiwn weithiau i gyfieithu rhai o’r geiriau hyn yn llythrennol. Rhoddir enghreifftiau o’r rhain yn y grŵp cyntaf isod, ynghyd ag awgrymiadau ar gyfer gwahanol ffyrdd o’u cyfieithu.

Mae’r ail grŵp yn ymadroddion sydd, o bosibl, yn fwy trosiadol ac yn defnyddio geiriau cyfarwydd i gyfleu ystyr newydd.

Saesneg Cymraeg llythrennol Cymraeg amgen
overarching trosfwaol

cyffredinol
rhychwantol
sy’n llywodraethu
prif
hollbwysig

[gain / give an] insight

mewnwelediad

dealltwriaeth
[cael / cynnig] darlun eglur
[cael / cynnig] cipolwg ar
taflu goleuni ar

maximise uchafu

manteisio i’r eithaf ar
cynyddu i’r eithaf
sicrhau’r xxx mwyaf

engage(ment) ymgysylltu

ymwneud â
ymgymryd â
ennyn diddordeb
ennyn sylw
trafod

 

Saesneg Cymraeg llythrennol Cymraeg amgen
gain access to cael mynediad at

manteisio ar
cael gafael ar

inform

[ee This will be crucial in informing
policy going forward.]
hysbysu

cyfrannu at
elwa ar
cyfoethogi
defnyddio

look at [doing] edrych ar

ystyried
bwriadu
ceisio

ymadroddion trosiadol

Dyma ymadroddion sydd wedi cael eu gorddefnyddio nes iddynt ddod yn ystrydebol, bron. Maent yn gyffredin ym maes marchnata a busnes, ond i’w gweld mewn meysydd eraill hefyd. Sylwch y gall ystyr rhai o’r ymadroddion hyn fod yn ddifrïol neu’n ffafriol – mae’n dibynnu ar y cyd-destun a thôn y darn.

Saesneg Cymraeg
blue sky thinking

meddwl yn greadigol
cynnig syniadau mewn byd delfrydol
syniadau anymarferol

thinking outside the box

meddwl mewn ffordd arloesol
meddwl yn agored
meddwl yn wahanol i’r arfer

close of play

diwedd y diwrnod gwaith
diwedd y prynhawn

 

mwyafrif / rhan fwyaf

Sylwer bod ystyr y ddau ymadrodd ychydig yn wahanol. Defnyddir ‘mwyafrif’ ar gyfer unrhyw beth y gellir ei gyfrif, fel y mae’r elfen ‘rhif’ yn y gair yn ein hatgoffa.

‘Pleidleisiodd y mwyafrif o’r Aelodau Seneddol o blaid y cynnig.’

Mae’r ymadrodd ‘rhan fwyaf’, ar y llaw arall, yn ymwneud â symiau na ellir eu cyfrif.

‘Defnyddiodd Arwel y rhan fwyaf o’r blawd i wneud bara.’

Gweler hefyd yr erthygl ‘of’ sy’n egluro pryd y mae angen cynnwys y gair ‘o’ yn y Gymraeg.

Mae’r un gwahaniaeth yn union yn bodoli rhwng ‘cynifer’ a ‘cymaint’.

‘Braf oedd gweld cynifer o bobl ifanc yn y gynhadledd.’
‘Braf oedd gweld cymaint o ddŵr yn y gronfa ar ôl y glaw.’

nifer

Cofiwch wahaniaethu rhwng ‘rhif’ (sy’n benodol ac, yn gyffredinol, yn cyfeirio at rifolion 1, 2, 3 etc) a ‘nifer’ (sy’n amhenodol, ee mae nifer mawr o gyrsiau ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg).

Gall ‘nifer’ fod yn fenywaidd ac yn wrywaidd ond er cysondeb o fewn y Gwasanaeth Cyfieithu dylid ei drin fel enw gwrywaidd.

of

Mae’n demtasiwn osgoi defnyddio’r gair ‘o’ yn Gymraeg er mwyn cyfieithu ‘of’, gan feddwl ei fod yn gyfieithiad slafaidd o’r Saesneg bob tro. Mae’n wir ei fod yn anghywir mewn rhai sefyllfaoedd. Ar y llaw arall mae’n dderbyniol mewn sefyllfaoedd eraill, ac yn wir yn angenrheidiol mewn rhai. Disgrifir tri math o ymadrodd isod, er mwyn ceisio dangos y gwahaniaeth.

Meddiannol

Mae’n debyg bod pawb yn ymwybodol ei bod yn gwbl annerbyniol cynnwys ‘o’ mewn ymadroddion lle mae’r elfen gyntaf yn perthyn neu yn eiddo i’r ail elfen, ee

The University of Wales
Prifysgol Cymru

The species of the Andes
Rhywogaethau’r Andes

Cyfrannol

Ar y llaw arall, rhaid cynnwys yr arddodiad ‘o’ pan fo’r enw cyntaf yn rhan o gyfanrwydd mwy ee ‘rhan o’r darten’, ‘aelod o’r tîm’.

Efallai bod y gair ‘nifer’ yn dangos y gwahaniaeth rhwng y ddwy gystrawen yn fwy eglur:

The number of pupils attending the school decreased.
Gostyngodd nifer y disgyblion a oedd yn mynychu’r ysgol.
(hy cyfanswm disgyblion yr ysgol)

A number of pupils at the school were suspended.
Cafodd nifer o ddisgyblion yr ysgol eu gwahardd.
(hy rhan o gyfanswm disgyblion yr ysgol gyfan)

Enghraifft arall sy’n dangos y gwahaniaeth yn sgil cynnwys yr ‘o’ neu beidio yw ‘mwyafrif’. Gan ddilyn y rheol uchod, mae angen yr ‘o’ wrth gyfeirio at gyfran o rywbeth mwy:

Most of the Conservatives are large.
Mae’r mwyafrif o’r Ceidwadwyr yn fawr.

Wrth hepgor yr ‘o’, mae’r ystyr yn newid:

The Conservatives’ majority is large.
Mae mwyafrif y Ceidwadwyr yn fawr.

Mae’r un peth yn wir am yr ymadrodd ‘y rhan fwyaf’:

The largest section of the wedding cake was chocolate flavoured.
Blas siocled oedd ar ran fwyaf y deisen briodas.

Most of the cake fell on the floor but some was saved
Disgynnodd y rhan fwyaf o’r deisen ar y llawr, ond arbedwyd peth ohoni.

Disgrifiadol

Mae trydydd math o ymadrodd sy’n defnyddio ‘of’ yn Saesneg – rhai fel ‘the provision of support’, ‘the use of plastic’. Yn y rhain, gellid dweud bod yr ail elfen yn disgrifio’r elfen gyntaf. Mae modd aralleirio ar brydiau, gan ddibynnu ar y frawddeg, er enghraifft trwy ddefnyddio berfenw yn lle’r enw haniaethol:

The provision of support is important to ensure the scheme’s success.
Mae’n bwysig darparu cymorth er mwyn sicrhau bod y cynllun yn llwyddo.

The company aspires to reduce its use of plastic.
Mae’r cwmni yn awyddus i ddefnyddio llai o blastig.

Er hynny, mae’n dderbyniol defnyddio’r arddodiad ‘o’ yn y math hwn o gystrawen, a cheir enghreifftiau mor bell yn ôl â’r 14eg ganrif yng Ngeiriadur Prifysgol Cymru. Yn wir, byddai’n anodd aralleirio mewn rhai cymalau neu frawddegau mwy cymhleth. Sylwer ar yr enghreifftiau isod, lle mae modd hepgor yr ‘o’ yn y frawddeg gyntaf ond lle mae angen ei gynnwys yn yr ail frawddeg gan ei bod ychydig yn fwy cymhleth:

The translation of the Bible was slow work
Gwaith araf oedd cyfieithu’r Beibl

William Morgan’s translation of the Bible was an important step
Roedd cyfieithiad William Morgan o’r Beibl yn gam pwysig

percentage point / per cent

Pan fo’r testun Saesneg yn cyfeirio at gynnydd neu ostyngiad fesul ‘percentage point’, dylid cyfieithu hynny fel ‘pwynt canran’.  

Pan fo’r testun Saesneg yn cyfeirio at gynnydd neu ostyngiad fesul ‘per cent’ (neu %), dylid cyfieithu hynny gan ddweud ‘y cant’ (neu %).  

Nid yw’r ddau beth hyn yn gyfystyr â’i gilydd.  

Defnyddir gwahaniaeth pwynt canran i gyfleu’r gwahaniaeth rhwng dwy ganran. Ee os yw’r nifer wedi gostwng o 1,000 o bob 1,500 i 500 o bob 1,500 mae’r ganran wedi gostwng o 66.66% i 33.33%, ac mae hynny’n ostyngiad o 33.33 pwynt canran.  

Defnyddir gwahaniaeth canrannol i gyfleu’r gwahaniaeth rhwng dau rif. Ee os yw’r nifer wedi gostwng o 1,000 i 500 mae hynny’n ostyngiad o 50 y cant.

portmanteaux

Gair sy’n asio elfennau o ddau air arall, o ran sain ac ystyr, yw portmanteau. Maen nhw’n gyffredin iawn yn Saesneg, ee brunch o breakfast a lunch, smog o smoke a fog.

Cynigir isod nifer o ddulliau posibl o drosi portmanteaux, ynghyd ag ambell ystyriaeth wrth benderfynu pa un i’w ddefnyddio. Nid ydynt mewn unrhyw drefn arbennig. Bydd y dull a ddewisir yn dibynnu ar yr hyn sy’n gweithio orau ar gyfer y gair dan sylw. Mae’n werth ystyried hefyd a ydy portmanteau newydd yn un o gyfres, ac felly y byddai’n ddymunol dilyn yr un patrwm ar gyfer pob un (gweler ‘vishing’ a ‘smishing’ isod).

  • Cadw’r un gair ag yn y Saesneg

Gallai hyn fod yn briodol os yw’r gair wedi ennill ei blwyf yn gyflym iawn, mewn deunyddiau Cymraeg a Saesneg, ee Brexit.

  • Cymreigio’r sillafiad

Er enghraifft ‘glampio’ am ‘glamping’ a ‘secstio’ am ‘sexting’. Mae’n bosibl bod angen ystyried cywair y darn yma. Er enghraifft, byddai ‘secstio’ yn addas mewn deunyddiau wedi’u targedu at bobl ifanc ond mae’n bosibl y byddai ‘anfon delweddau rhywiol eu natur’ yn fwy priodol mewn deunyddiau mwy ffurfiol.

  • Cyfieithu un neu ragor o’r elfennau, neu aralleirio

Gwelir enghreifftiau lle mae un elfen wedi’i chyfieithu, ee ‘blog fideo’ am ‘vlog’. Mewn enghreifftiau eraill mae’r ddwy elfen yn cael eu cyfieithu, ee ‘llais-rwydo’ am ‘vishing’ (‘voice’ + ‘phishing’) ac ‘SMS-rwydo’ am ‘smishing’ (‘SMS’ + ‘phishing’) – ill dau yn seiliedig ar ‘gwe-rwydo’ am ‘phishing. Gellid hefyd aralleirio’r cysyniad cyfan, ee ‘llysieuwr hyblyg’ am ‘flexitarian’.

Un ystyriaeth yma fyddai hyd y cyfieithiad neu’r aralleiriad. Gallai fynd yn feichus os yw’n codi’n aml mewn darn. Gallai hefyd fod yn amhriodol mewn rhywbeth byr a bachog fel neges drydar.

  • Creu portmanteau Cymraeg

Ateb gwych pan mae modd dod o hyd i un sy’n gweithio, ee ‘sgyrsfot’ am ‘chatbot’, ‘gweddarlledu’ am ‘webcasting’.

Rhaid gofalu ei bod yn amlwg ar unwaith i’r darllenydd pa ddau air sydd wedi cael eu cyfuno i greu’r gair newydd.

rhifau

Dilynwch y drefn yn y Saesneg o ran geiriau neu ffigurau.

Rhowch y rhifau ‘un’ i ‘deg’ mewn geiriau a defnyddiwch rifolion ar gyfer y rhifau o 11 ymlaen.

Peidiwch â dechrau brawddeg â rhifolyn: 

  • gallwch ei ysgrifennu’n rhan o’r frawddeg
    Ugain o geisiadau a dderbyniwyd, nid ‘20 o geisiadau a dderbyniwyd’ 
  • gallwch ail-lunio’r frawddeg
    Bydd y Gemau Olympaidd yn dod i Lundain yn y flwyddyn 2012, nid ‘2012 yw’r flwyddyn y bydd y Gemau Olympaidd yn dod i Lundain’

Cofiwch wahaniaethu rhwng ‘rhif’ (sy’n benodol ac, yn gyffredinol, yn cyfeirio at rifolion 1, 2, 3 etc) a ‘nifer’ (sy’n amhenodol, ee mae nifer mawr o gyrsiau ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg).

Defnyddiwch rifolion gyda miliwn a biliwn, ee 5 miliwn, £1 biliwn. Mae angen gofal wrth drafod miliynau a biliynau er mwyn osgoi amwysedd wrth dreiglo’n feddal. Peidiwch felly â threiglo 'miliwn' na ‘biliwn’.

symbolau a llaw-fer mewn cyhoeddiadau ystadegol

Mewn cyhoeddiadau ystadegau swyddogol, defnyddir symbolau a llaw fer yn unol â chanllawiau Swyddogaeth Ddadansoddi’r Llywodraeth. Dylai’r rhain fod yr un fath mewn cyhoeddiadau a thablau data Cymraeg a Saesneg fel ei gilydd ee 'p' ar gyfer ‘dros dro’, 'r’ ar gyfer ‘diwygiedig’ ac 'u' ar gyfer ‘dibynadwyedd isel’. Mae nifer o sefydliadau sy’n cyhoeddi data swyddogol am Gymru yn defnyddio 'k' (yn hytrach nag ‘isel’/‘low’) fel llaw-fer ar gyfer 'ffigwr isel ond nid sero go iawn' gan fod hynny’n addas ar gyfer cyhoeddiadau dwyieithog.

teitlau

cyhoeddiadau Llywodraeth Cymru

Mae modd  dod o hyd i deitlau llawer o gyhoeddiadau Llywodraeth Cymru yn TermCymru neu ar ochr Gymraeg safle’r Llywodraeth ar y wefan www.llyw.cymru.

Ni ddylid cyfieithu teitl os nad yw’r ddogfen ei hun wedi’i chyfieithu i’r Gymraeg.

cyhoeddiadau cyffredinol

Gellir dod o hyd i’r rhain weithiau drwy ddefnyddio peiriannau chwilio megis Yahoo a Google. Gallwch hefyd chwilio gwefan y corff a gyhoeddodd y ddogfen sydd dan sylw – y Cyd-bwyllgor Addysg, Cyfoeth Naturiol Cymru ac ati.

Mae’r wefan www.gov.uk yn ddefnyddiol ar gyfer cyhoeddiadau llywodraethol cyffredinol.

deddfwriaeth Gymreig

Os nad yw teitl darn o ddeddfwriaeth Gymreig yn TermCymru, edrychwch ar y wefan www.legislation.gov.uk i weld a oes fersiwn Gymraeg.

Deddfau Senedd y DU

Er ei bod yn arferol defnyddio teitlau Cymraeg ar gyfer deddfau seneddol, nid yw’n arferol cyfieithu dyfyniadau o ddeddfau i’r Gymraeg gan nad oes statws cyfreithiol i gyfieithiadau o’r fath.

Weithiau, yn achos dyfyniadau byr o ddau neu dri gair, gellir aralleirio’r testun ond peidio â defnyddio dyfynodau.

Mae cyfieithiad Cymraeg swyddogol o Ddeddf yr Iaith Gymraeg ar gael yng Ngeiriadur Newydd y Gyfraith gan Robyn Léwis.

deddfwriaeth

Mae’n hen arfer defnyddio teitlau Cymraeg  ar gyfer deddfau Senedd y DU, er nad yw’r deddfau eu hunain ar gael yn Gymraeg.

Wrth gwrs, os yw’r offeryn statudol ar gael yn Gymraeg, mae’n bwysig iawn defnyddio’r teitl Cymraeg swyddogol. Mae llawer o’r teitlau wedi’u cynnwys yn TermCymru.

Ysgrifenyddion y Cabinet a Gweinidogion

Mae teitlau swyddogol aelodau’r Cabinet i gyd ar TermCymru. 

Pan ddefnyddir y ffurfiau ‘Minister for Education’ etc yn Saesneg: 

Pan ddefnyddir y ffurfiau ‘Cabinet Secretary for Education’ etc yn Saesneg: 

  • Defnyddir y ffurfiau ‘Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg’ etc yn Gymraeg (nid ‘Yr Ysgrifennydd Cabinet dros Addysg’ nac ‘Yr Ysgrifennydd Cabinet Addysg’) 
  • Os yw’r Saesneg yn defnyddio fersiwn fer o’r teitl, gellir gwneud hynny yn Gymraeg hefyd, ee cyfeirio at Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon fel Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant 
  • Os yw’r Saesneg yn cyfeirio at ‘the Cabinet Secretary’ heb roi gweddill y teitl, gall defnyddio ‘Ysgrifennydd y Cabinet’ roi’r argraff mai un Ysgrifennydd sydd gan y Cabinet, yn hytrach na’i fod yn un o nifer (cofiwch fod Ysgrifennydd y Cabinet yn swydd yng Ngwasanaeth Sifil Llywodraeth y DU hefyd). Mewn amgylchiadau fel hyn, os oes posibilrwydd o amwysedd, gellir defnyddio ‘yr Ysgrifennydd Cabinet’ – mae ‘Bydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn ymweld â’r safle’ yn fwy eglur na ‘Bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ymweld â’r safle’ os nad yw’r cyd-destun yn ei gwneud yn amlwg at ba un o Ysgrifenyddion y Cabinet y cyfeirir.

teitlau swyddi eraill

Cofiwch nad oes angen cyfieithu’r gair ‘to’ mewn teitlau swyddi yn Saesneg ee:

Clerk to the Board of Trustees – Clerc Bwrdd yr Ymddiriedolwyr

Mae atalnod i’w weld yn aml ar ôl teitlau swyddi mewn cofnodion, yn y rhestr o’r bobl a oedd yn bresennol ee:
 
Chief Executive, Arts Council of Wales

Nid oes angen yr atalnod yn y Gymraeg gan fod enw’r sefydliad yn dilyn teitl y swydd yn naturiol:

Prif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru

Wedi dweud hynny, gall fod angen ei gynnwys o bryd i’w gilydd ee pe bai mwy nag un swydd yn dwyn yr un teitl yn y sefydliad:

Ymddiriedolwr, Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru

Yn yr achos hwn, mae gan yr Ardd Fotaneg nifer o Ymddiriedolwyr felly rhaid cynnwys yr atalnod i ddangos hynny.

teitlau cwrteisi ar sefydliadau, cwmnïau ac elusennau

Mae’n anodd gwybod ar adegau a yw’n briodol cyfieithu enwau sefydliadau sydd heb deitl Cymraeg swyddogol, gan gynnwys sefydliadau cyhoeddus (yn enwedig rhai y tu allan i Gymru), a chwmnïau preifat ac elusennau.

 

Ar gyfer sefydliadau cyhoeddus sydd heb deitl Cymraeg swyddogol, gan gynnwys rhai nad ydynt yn ymwneud â Chymru, dylid rhoi teitlau cwrteisi Cymraeg fel arfer. Ond mae’n bosibl y bydd yn fwy addas defnyddio’r teitl Saesneg os yw un neu ragor o’r amgylchiadau isod yn berthnasol: 

  • Nid yw’r teitl Saesneg yn diffinio’r sefydliad mewn ffordd ramadegol-gonfensiynol, sy’n rhwydd ei chyfieithu’n ystyrlon
  • Mae’r darn dan sylw’n cynnwys nifer o deitlau eraill nad oes modd rhoi teitl cwrteisi arnynt
  • Mae’r teitl mewn iaith heblaw Saesneg. (Os yw’r teitl yn gyfuniad o elfennau Saesneg ac iaith arall, ystyriwch drosi’r elfennau Saesneg yn unig.)

 

Ar gyfer cwmnïau preifat ac elusennau, ni ddylid rhoi teitlau cwrteisi fel arfer. Ond mae’n bosibl y bydd yn addas rhoi teitl cwrteisi Cymraeg, yn enwedig mewn dogfennau cyffredinol nad oes iddynt rym cyfreithiol, os yw un neu ragor o’r amgylchiadau isod yn berthnasol:

  • Mae’r cwmni neu’r elusen yn cyflawni gweithgareddau o natur gyhoeddus
  • Mae teitl cwrteisi wedi ei fathu’n barod, ac ar TermCymru
  • Mae teitl Cymraeg yn cael ei ddefnyddio gan y sefydliad ei hun (ee ar ei wefan neu ei gyfryngau cymdeithasol)
  • Mae teitl Cymraeg yn cael ei ddefnyddio’n gyffredin gan bobl ar lawr gwlad neu yn y cyfryngau
  • Mae’r teitl Saesneg yn diffinio’r sefydliad mewn ffordd ramadegol-gonfensiynol, sy’n rhwydd ei chyfieithu’n ystyrlon
  • Mae’r teitl Saesneg yn dilyn patrwm tebyg i deitlau y mae’n arferol eu gweld yn Gymraeg
  • Mae gan y sefydliad deitlau mewn nifer o wahanol ieithoedd (gallwch wirio hyn ar IATE, cronfa dermau’r Undeb Ewropeaidd). 

 

Wrth bennu teitlau cwrteisi ar gyfer sefydliadau, cwmnïau ac elusennau:

  • Ymchwiliwch i weld a oes teitl cwrteisi sefydledig yn cael ei ddefnyddio’n barod
  • Os nad yw’r teitl yn ei gwneud yn glir nad yw sefydliad yn ymwneud â Chymru, ystyriwch ychwanegu elfen (ee ‘y DU’, ‘Lloegr’) i wneud hynny’n glir.