Neidio i'r prif gynnwy

Yr Arddulliadur

Datblygwyd y canllawiau arddull hyn i roi cyngor ac arweiniad i’r rheini sy’n cyfieithu testunau cyffredinol. Gallwch chwilio am eiriau penodol neu gallwch bori fesul adran.

a/neu'r maes
7 canlyniad
Rhestrir y canlyniadau yn ôl trefn yr wyddor.

blynyddoedd

Ysgrifennir rhifau blynyddoedd mewn ffigurau fel arfer.  

Ysgrifennir rhifau blynyddoedd yn llawn, hy ‘yn 2016’ nid ‘yn ’16’.  

Er cysondeb, trinnir yr elfen gyntaf mewn blynyddoedd o 1000 i 1999 fel mai ‘un’ sy’n cael ei ddweud yn hytrach na ‘mil’. Felly:  

  • ‘rhwng 1998 ac 1999’ nid ‘rhwng 1998 a 1999’  
  • ‘yn 1999’ nid ‘ym 1999’.  

Yr unig eithriad i hyn fyddai darn yn y cywair clasurol lle byddai angen ysgrifennu rhif y flwyddyn mewn geiriau yn hytrach na ffigurau, gan ddefnyddio’r system ugeiniol. Bryd hynny, byddai’n rhesymol ysgrifennu ‘ym mil naw cant’ yn hytrach nag ‘yn un naw dim dim’.

Yn yr amgylchiadau prin pan fo angen ysgrifennu rhif y flwyddyn mewn geiriau, ee ar gyfer araith neu ddatganiad llafar, bydd y rhifau’n wrywaidd bob amser (ee ‘dwy fil a dau’ nid ‘dwy fil a dwy’). Mae hyn yn seiliedig ar eu trin fel rhifau (gwrywaidd), ac nid fel nifer o flynyddoedd (benywaidd).  

Bydd y ffordd o ysgrifennu’r rhif yn amrywio ar sail y cywair a’r flwyddyn dan sylw, ac hefyd (mewn araith neu ddatganiad llafar) ar sail yr hyn sy’n gweddu orau i’r siaradwr. Er enghraifft: 

  • Weithiau bydd y system ugeiniol yn fwy addas na’r system ddegol, hyd yn oed yn y cyweiriau anffurfiol neu ffurfiol, ee bydd yn fwy addas ysgrifennu ‘dwy fil ac un ar ddeg’ na ‘dwy fil ac un deg un’ waeth beth yw’r cywair  
  • Weithiau bydd y system ugeiniol yn addas i’r cywair clasurol yn unig, a’r system ddegol yn fwy addas i gyweiriau eraill, ee gallai ‘dwy fil a thri ar hugain’ a ‘mil naw cant a phedwar ugain’ fod yn addas yn y cywair clasurol, a gallai ‘dwy fil a dau ddeg tri’ a ‘mil naw wyth deg’ fod yn fwy addas mewn cyweiriau eraill.  
  • Sylwer y bydd angen defnyddio ‘ym’ os penderfynir defnyddio’r system ugeiniol yn achos blynyddoedd rhwng 1000 a 1999.

Felly dylai’r cyfieithydd arfer ei grebwyll wrth benderfynu beth sy’n addas, a bod yn gyson o fewn yr un darn neu gyfres o ddarnau.

ffigurau, rhifau a rhifolion

Mae’r arweiniad hwn yn berthnasol yn bennaf i’r cyweiriau clasurol a ffurfiol. Yn y cyweiriau anffurfiol a llafar, gellir addasu yn ôl yr angen, ond dylid bod yn gyson o fewn un darn neu gyfres o ddarnau.  

Ffigurau ynteu geiriau  

Wrth gyfieithu dilynwch yr hyn sydd yn y testun Saesneg o ran defnyddio geiriau ynteu ffigurau, ond dilynwch y cyngor isod wrth ddrafftio testun gwreiddiol yn Gymraeg neu os oes ansicrwydd ynghylch sut i gyfieithu’r Saesneg.  

Yn gyffredinol, rhowch y rhifau ‘un’ i ‘deg’ mewn geiriau a defnyddiwch ffigurau ar gyfer rhifau o 11 ymlaen. Ond mae rhai eithriadau i hyn – defnyddir ffigurau ar gyfer un i ddeg yn y sefyllfaoedd hyn:  

  • amserau, cyfnodau amser, oedrannau, dyddiadau  
  • canrannau, symiau arian, unedau mesur  
  • cyfrifiadau, fformiwlâu, rhifau sy’n cynnwys pwynt degol  
  • rhifau eiddo mewn cyfeiriadau 
  • pan fo rhifau hyd at ddeg ac uwchben deg yn cael eu defnyddio gyda’i gilydd 
  • gyda ‘miliwn’ a ‘biliwn’. Hefyd, peidiwch â threiglo ‘miliwn’ na ‘biliwn’ er mwyn osgoi amwysedd rhyngddynt (hy, peidiwch â dweud ‘2 filiwn’ ar gyfer ‘2 miliwn’ na ‘2 biliwn’).  

Rhoddir ffracsiynau mewn ffigurau mewn cyfrifiadau neu fformiwlâu, ond cânt eu mynegi mewn geiriau mewn testun (‘1/3’ mewn cyfrifiadau etc, ond ‘traean’ neu ‘un ran o dair’ mewn testun). 

 

Degol ynteu ugeiniol  

Caiff ffigurau eu trin fel ffurfiau clasurol neu ugeiniol, yn hytrach na ffurfiau degol. Felly wrth gyfieithu ‘and 21’ rhowch ‘ac 21’ fel petai’n darllen ‘ac un ar hugain’ ac nid ‘a 21’ (‘a dau ddeg un’).  

Caiff ffigurau mewn dyddiadau eu trin fel ffurfiau ugeiniol hefyd. Ni chaiff y fannod ei chynnwys yn ysgrifenedig, ond wrth ddefnyddio cysyllteiriau ac arddodiaid o flaen dyddiadau, tybir bod y fannod yn bresennol ar lafar. Hynny yw:  

  • ar gyfer ‘and 20 March’, defnyddir ‘a 20 Mawrth’ (‘a’r ugeinfed o Fawrth’) 
  • ar gyfer ‘from 31 March’, defnyddir ‘o 31 Mawrth’ (‘o’r unfed ar ddeg ar hugain o Fawrth’) 
  • ar gyfer ‘the period beginning with 1 December 2020’ defnyddir ‘y cyfnod sy’n dechrau â 1 Rhagfyr 2020’ (‘y cyfnod sy’n dechrau â’r cyntaf o Ragfyr 2020’). 

Mae rhai eithriadau i’r arfer o drin ffigurau fel ffurfiau ugeiniol. Defnyddir y system ddegol yn y sefyllfaoedd hyn:  

  • rhifau tai – ‘ymweld ag 80 Heol y Frenhines’ (‘ymweld ag wyth deg Heol y Frenhines’) nid ‘ymweld â 80 Heol y Frenhines’ (‘ymweld â phedwar ugain Heol y Frenhines’)  
  • rhifau ffôn  
  • rhifau cyn ac ar ôl pwyntiau degol – ‘a 20.15 y cant’ (‘a dau ddeg pwynt un pump y cant’) nid ‘ac 20.15 y cant’ (‘ac ugain pwynt pymtheg y cant’) 
  • rhifau blynyddoedd – ‘rhwng 1995 ac 1996’ nid ‘rhwng 1995 a 1996’. Mae hyn yn cyd-fynd â’r cyngor yn yr erthygl ar flynyddoedd i drin y rhif cyntaf fel ‘un’ yn hytrach na ‘mil’. 

 

Treiglo ai peidio

Pan fo’r arferion gramadegol o ran treiglo ar ôl rhifau yn ddiamwys ac yn sefydledig, dilynir y rheini. Mae’r cyngor hwn yn ymwneud â sefyllfaoedd pan fo’r arferion yn amrywio neu’n ansicr. 

 

Mae ‘blwydd’ a ‘blynedd’ yn treiglo’n drwynol ar ôl pob rhifolyn ar wahân i 2, 3, 4 a 6, ond nid yw ‘diwrnod’ yn treiglo’n drwynol ar ôl rhifau, ond ceir anghytundeb ymhlith gramadegwyr o ran ‘6 blynedd/mlynedd’, yn enwedig ar lafar.

Ni threiglir enwau heblaw ‘cant’, ‘punt’ a ‘ceiniog’ yn feddal ar ôl ‘saith’ ac ‘wyth’, ee ysgrifennir ‘saith parc’ ac ‘wyth rhanbarth’, nid ‘saith barc’ ac ‘wyth ranbarth’.  

Ni threiglir ‘diwrnod’ yn drwynol ar ôl rhifau, ee ysgrifennir ‘saith diwrnod’ a ‘15 diwrnod’. 

 

Y ffurfiau cyswllt ynteu’r ffurfiau dyfynnol  

Defnyddir y ffurfiau cyswllt ‘pum’ (5), ‘chwe’ (6) a ‘can’ (100) yn gyffredinol ee ‘pum arth’, ‘pum dyn’, ‘chwe adroddiad’, ‘chwe menyw’, ‘can metr’, ‘can merch’. 

Gellir defnyddio’r ffurf gyswllt ‘deng’ o flaen llafariaid e.e. ‘deng awdurdod’ ac ‘m’ e.e. deng mis. Mae hyn yn gyffredin yn y cywair clasurol yn arbennig, ac i raddau yn y cywair ffurfiol hefyd. Mae’n fwy arferol gweld y ffurf ddyfynnol ‘deg’ yn y cyweiriau anffurfiol a llafar.

Ni fydd y ffurfiau cyswllt ‘deuddeng’ (12) a ‘pymtheng’ (15) yn codi yn ein gwaith fel arfer gan y defnyddir ffigurau ar gyfer rhifau o 11 i fyny.  

 

Y lluosog ynteu’r unigol  

Gyda ffigurau a rhifolion hyd at ddeg, defnyddir yr unigol, ee ‘2 filltir’, ‘dau ddyn’.  

Gyda ffigurau a rhifolion o 11 i fyny, defnyddir yr unigol pan fo’r hyn a gyfrifir yn dod ar ôl y rhif ee ‘18 mis’ (‘deunaw mis’) yn hytrach na ‘18 o fisoedd’ (‘deunaw o fisoedd neu ‘un deg wyth o fisoedd’). 

Gyda ffigurau a rhifolion o 11 i fyny, defnyddir y lluosog yn y sefyllfaoedd hyn:  

  • pan ddefnyddir y system ugeiniol a phan fo’n arferol rhoi’r hyn a gyfrifir yn y canol – defnyddir ‘11 o filltiroedd’ (‘un ar ddeg o filltiroedd’) nid ‘11 filltir’ (‘un filltir ar ddeg’)  
  • pan ddefnyddir y system ddegol – defnyddir ‘17.34 o filltiroedd’ (‘un deg saith pwynt tri pedwar o filltiroedd’) nid ‘17.34 filltir’ (‘un deg saith filltir pwynt tri pedwar’) nac ‘17.34 milltir’ (‘un deg saith pwynt tri pedwar milltir’). 

 

Rhifau ar ddechrau brawddegau 

Peidiwch â dechrau brawddegau â ffigurau. Yn lle hynny:  

  • gallwch ddefnyddio’r geiriau yn lle’r ffigurau – ‘Ugain cais yn unig a dderbyniwyd’, yn hytrach nag ‘20 cais yn unig a dderbyniwyd’  
  • gallwch aildrefnu’r frawddeg – ‘Derbyniwyd 20 cais yn unig’ yn hytrach na ‘20 cais yn unig a dderbyniwyd’.   
     

Pwyntiau perthnasol eraill 

Cofiwch wahaniaethu rhwng ‘rhif’ (sy’n benodol ac, yn gyffredinol, yn cyfeirio at rifolion – 1, 2, 3 etc) a ‘nifer’ (sy’n amhenodol, ee ‘mae nifer mawr o gyrsiau ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg’).  

Mae cyngor perthnasol arall yn yr erthyglau ynghylch: 

  • dyddiadau  
  • blynyddoedd 
  • canrifoedd 
  • teitlau unedau milwrol – trefnolion a rhifolion.  

 

Gellir defnyddio’r ffurf gyswllt ‘deng’ o flaen llafariaid e.e. ‘deng awdurdod’ ac ‘m’ e.e. deng mis. Mae hyn yn gyffredin yn y cywair clasurol yn arbennig, ac i raddau yn y cywair ffurfiol hefyd. Mae’n fwy arferol gweld y ffurf ddyfynnol ‘deg’ yn y cyweiriau anffurfiol a llafar.

proflenni

Gan nad yw’r rhan fwyaf o’r cysodwyr a fydd yn ymgorffori newidiadau mewn proflenni yn medru’r Gymraeg, gofynnwn i unrhyw gyfarwyddiadau y byddwch yn eu hysgrifennu ar broflenni neu mewn pdfs electronig gael eu hysgrifennu yn Saesneg, ee new para.

Mae gofyn bod yn ofalus os byddwch yn nodi cywiriad ar ddechrau dogfen ac yn gofyn i’r cysodydd wneud yr un cywiriad drwy’r ddogfen gyfan. Os oes posibilrwydd y bydd angen amrywio’r cywiriad hwnnw mewn mannau oherwydd rheolau treiglo, ni ellir cymryd yn ganiataol y bydd y cysodydd yn gwybod hynny.

Os oes ychwanegiadau sylweddol i’w gwneud i ddogfen, mae’n well teipio’r testun newydd mewn dogfen ar wahân a’i hatodi i'r e-bost wrth ddychwelyd y broflen pdf. Os oes sawl darn o'r fath gellir teipio’r ychwanegiadau o dan ei gilydd, gan roi rhif i bob un, a rhoi nodiadau yn ychwanegu'r rhifau yn y mannau priodol ar y broflen i ddangos i’r cysodydd ymhle y dylid rhoi’r ychwanegiadau.

pwyntiau bwled a rhestrau

Yn gyffredinol, mae’r Gwasanaeth Cyfieithu yn dilyn arferion atalnodi agored. Yn achos rhestrau o bob math, gan gynnwys pwyntiau bwled:

  • ni ddylid rhoi coma, hanner colon na chysyllteiriau (ee ‘a’) ar ddiwedd y pwyntiau
  • dylai colon ragflaenu’r rhestr
  • dylid rhoi atalnod llawn ar ddiwedd y pwynt olaf (yn unig).

Mae hyn yn cyd-fynd â chanllaw arddull gwefan Llywodraeth Cymru (gweler yr eitem ‘Pwyntiau bwled’): https://www.llyw.cymru/canllaw-arddull-llywcymru 

Fodd bynnag, nid yw’r testunau Saesneg a gyflwynir i’w cyfieithu yn cadw’n gyson at y canllaw hwn bob amser. Mewn achosion o’r fath, rhaid ystyried cyd-destun y darn yn ofalus. Mae angen gofalu ein bod yn cadw’r atalnodi yn y Gymraeg yr un fath os oes arwyddocâd arbennig iddo yn y testun Saesneg. Ee mewn testunau lled-ddeddfwriaethol sy’n cael eu gosod yn y Senedd (memoranda esboniadol, LCMs, codau, ac ati) mae’n bwysig bod y testunau Cymraeg a Saesneg yn cyfateb yn glos er mwyn sicrhau cyfwerthedd cyfreithiol.  

 

treiglo mewn rhestrau

Mewn rhestrau sydd ar ffurf pwyntiau bwled, dylid treiglo gair cyntaf yr eitem gyntaf, ond peidio â threiglo’r gweddill. Ond os oes modd llunio’r frawddeg sy’n rhagflaenu’r pwyntiau bwled mewn ffordd sy’n golygu nad oes angen treiglo, gwnewch hynny.

Mewn rhestrau sy’n dynodi’r pwyntiau â llythrennau neu rifau, dylid ystyried bod y llythrennau neu’r rhifau’n rhan o’r testun, ac felly nid oes angen treiglo’r eitem gyntaf.

rhifau

Dilynwch y drefn yn y Saesneg o ran geiriau neu ffigurau.

Rhowch y rhifau ‘un’ i ‘deg’ mewn geiriau a defnyddiwch rifolion ar gyfer y rhifau o 11 ymlaen.

Peidiwch â dechrau brawddeg â rhifolyn: 

  • gallwch ei ysgrifennu’n rhan o’r frawddeg
    Ugain o geisiadau a dderbyniwyd, nid ‘20 o geisiadau a dderbyniwyd’ 
  • gallwch ail-lunio’r frawddeg
    Bydd y Gemau Olympaidd yn dod i Lundain yn y flwyddyn 2012, nid ‘2012 yw’r flwyddyn y bydd y Gemau Olympaidd yn dod i Lundain’

Cofiwch wahaniaethu rhwng ‘rhif’ (sy’n benodol ac, yn gyffredinol, yn cyfeirio at rifolion 1, 2, 3 etc) a ‘nifer’ (sy’n amhenodol, ee mae nifer mawr o gyrsiau ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg).

Defnyddiwch rifolion gyda miliwn a biliwn, ee 5 miliwn, £1 biliwn. Mae angen gofal wrth drafod miliynau a biliynau er mwyn osgoi amwysedd wrth dreiglo’n feddal. Peidiwch felly â threiglo 'miliwn' na ‘biliwn’.

teitlau unedau milwrol - trefnolion a rhifolion

Y drefn arferol wrth enwi unedau milwrol yn Saesneg yw defnyddio trefnolion ee 160th Infantry Brigade, 3rd Battalion The Royal Welsh. Er hynny, fe’u gwelir yn aml wedi’u hysgrifennu fel rhifolion ee 104 Regiment Royal Artillery. Arfer y Gwasanaeth Cyfieithu yn Gymraeg yw defnyddio trefnolion ar gyfer rhifau rhwng un a deg, a rhifolion ar gyfer 11 ac uwch, waeth beth fo arddull y Saesneg. Byddai’r enghreifftiau uchod felly yn cael eu cyfieithu fel a ganlyn:

• Brigâd 160 y Milwyr Traed
• 3ydd Bataliwn y Cymry Brenhinol
• Catrawd 104 y Magnelwyr Brenhinol

Sylwer bod rhaid newid trefn y geiriau wrth newid o ddefnyddio trefnolion i rifolion.

yr wyddor

At ei gilydd, er mwyn osgoi dryswch, gwell osgoi defnyddio’r wyddor mewn rhestrau lle bo modd. Defnyddiwch yn hytrach bwyntiau bwled neu gyfrwng gweledol arall, rhifau neu rifau Rhufeinig.
 
Wrth gyfieithu rhestrau sy’n defnyddio llythrennau’r wyddor, defnyddier yr un llythrennau yn y cyfieithiad. Felly: 
a, b, c, d, e mewn dogfen Saesneg = a, b, c, d, e yn y cyfieithiad.
a, b, c, ch, d  mewn dogfen Gymraeg = a, b, c, ch, d yn y cyfieithiad.

Gall fod cyfiawnhad dros beidio â dilyn y rheol hon mewn ambell achos, ee defnyddiwyd yr wyddor Gymraeg wrth gyfieithu pecyn addysg ar gyfer plant ysgolion cynradd.

Wrth ddrafftio dogfen yn Gymraeg, defnyddiwch yr wyddor Gymraeg.