Neidio i'r prif gynnwy

Daeth yr ymgynghoriad i ben 8 Ebrill 2024.

Cyfnod ymgynghori:
26 Chwefror 2024 i 8 Ebrill 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Adolygu ymatebion

Mae ymatebion i'r ymgynghoriad hwn yn cael ei adolygu ar hyn o bryd. Bydd manylion am y canlyniad yn cael eu cyhoeddi yma maes o law.

Ymgynghoriad gwreiddiol

Rydym eisiau eich barn ar y canllawiau drafft ar gyfer 2024 i 2028 er mwyn gwella gwasanaethau cyhyrysgerbydol.

Dogfennau ymgynghori

Dogfen ymgynghoriad , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 690 KB

PDF
690 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Gwybodaeth ychwanegol

Mae Llywodraeth Cymru yn gofyn am eich barn ar y fersiwn ddiwygiedig Byw gydag Arthritis a chyflyrau cyhyrysgerbydol yng Nghymru: Fframwaith ar gyfer y dyfodol, 2024 i 2029.

Bydd y ddogfen hon yn disodli Cyfarwyddebau Datblygu a Chomisiynu Gwasanaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer Arthritis a Chyflyrau Cyhyrysgerbydol Cronig a gyhoeddwyd yn 2006.

Mae'r fframwaith hwn yn un arf o blith nifer a fydd yn cael ei ddefnyddio i arwain datblygiad a darpariaeth gwasanaethau ar gyfer cyflyrau cyhyrysgerbydol. Mae'r fframwaith:

  • yn cynnwys y weledigaeth, y genhadaeth a'r strategaeth ar gyfer gwella gwasanaethau i bobl â chyflyrau cyhyrysgerbydol yng Nghymru
  • yn crynhoi'r egwyddorion lefel uchel, a'r arferion, sy'n sail i ddarparu gwasanaethau, gan hefyd roi'r rhain yn eu trefn
  • i'w ddefnyddio gan y tîm amlbroffesiynol wrth ystyried sut y byddant yn cyflawni'r Datganiad Ansawdd ar gyfer Iechyd Cyhyrysgerbydol

Help a chymorth

Gellir gwneud cais am fersiynau o’r ddogfen hon mewn print bras, mewn Braille neu mewn ieithoedd eraill.