Bydd gwaith rhagarweiniol i hwyluso'r atgtweiriad parhaol i'r broblem ddiweddar gyda thrawstiau croes diweddar ar Bont Menai yn dechrau ddydd Iau 27 Tachwedd.
Disgwylir i'r gwaith bara pum niwrnod o ddydd Iau 27 Tachwedd tan ddydd Mercher 3 Rhagfyr a bydd yn golygu cau un lôn ar y bont, ar ddyddiau'r wythnos yn unig, rhwng 07:30 a 17:00. Ni fydd mesurau rheoli traffig mewn grym ar y penwythnos.
Bydd amserlenni ar gyfer gosod yr atgyweiriad parhaol yn cael eu cyhoeddi ar ôl iddynt gael eu cadarnhau gyda UK Highways A55 Limited.
Diolch am eich amynedd wrth i'r gwaith hanfodol hwn gael ei wneud.
