Neidio i'r prif gynnwy

Yn 2019-20, gofynnodd yr Arolwg Cenedlaethol i bobl a ydynt yn gallu cael yr wybodaeth, y cyngor a'r gefnogaeth gywir  pan fyddant yn sâl, ac ar sut i fyw bywyd iach. Gofynnwyd i bobl hefyd o ble y cânt yr wybodaeth hon, a faint y maent yn ymddiried yn yr hyn y maent yn ei ganfod.

Prif ganfyddiadau

  • Dywedodd 84% o bobl eu bod yn gallu cael gafael ar yr wybodaeth, y cyngor a'r gefnogaeth gywir pan fyddant yn sâl, ac i’w helpu i fyw bywyd iach. Mae cysylltiad annibynnol rhwng y ffactorau canlynol a phobl sy'n dweud eu bod yn gallu cael gafael ar yr wybodaeth gywir:
    • bod mewn iechyd da
    • mynychu neu gymryd rhan mewn digwyddiadau celfyddydol a diwylliannol
    • ddim yn unig
    • roedd bod rhwng 16 a 24 oed yn gysylltiedig â bod yn fwy tebygol o gael gafael ar yr wybodaeth gywir pan oedd yn sâl
  • Mae 52% o bobl yn defnyddio'r rhyngrwyd i chwilio am gyflyrau neu symptomau iechyd.
  • Y wefan fwyaf poblogaidd a ddefnyddiwyd i gael gwybodaeth oedd Galw Iechyd Cymru.
  • Pan ofynnwyd iddynt sut y maent yn dod o hyd i wybodaeth iechyd a lles ar y rhyngrwyd, mae 72% o bobl yn gwneud chwiliad cyffredinol yn gyntaf ac yna'n dewis gwefan berthnasol. Mae 19% o bobl yn mynd yn uniongyrchol i wefan y maent yn ymwybodol ohoni, mae 8% yn gwneud y ddau yn gyfartal.
  • Dywedodd 79% o bobl eu bod yn ei chael hi'n hawdd gwybod a ddylid ymddiried yn y ffynonellau gwybodaeth y maent yn dod o hyd iddynt, gyda 28% yn ei chael yn hawdd iawn gwybod.

Y gallu i gael gafael ar yr wybodaeth iechyd a lles gywir

P'un a yw pobl yn chwilio am wybodaeth am salwch neu ar sut i fyw bywyd iach, cytunodd 84% o bobl eu bod yn gallu cael gafael ar yr wybodaeth, y cyngor a'r gefnogaeth gywir. Roedd 42% o bobl yn cytuno'n gryf yn y ddwy sefyllfa.

Wrth reoli ar gyfer ffactorau eraill (esbonnir yn ein hadroddiad technegol atchweliad) roedd cysylltiad sylweddol rhwng y nodweddion canlynol a phobl yn dweud eu bod yn gallu cael gafael ar yr wybodaeth, y cymorth a'r cyngor iechyd a lles cywir.

Oedran

Dywedodd 93% o bobl 16 i 24 oed eu bod yn gallu cael yr wybodaeth, y cyngor a'r gefnogaeth gywir pan fyddant yn sâl neu wedi'u hanafu, o gymharu â 80% o'r rhai 75 oed a throsodd. (Siart 1)

Image
Mae siart 1 yn dangos y canran o bobl sy’n gallu cael mynediad at yr wybodaeth gywir pan fyddant yn sâl ac i’w helpu i ddilyn ffordd iach o fyw, yn ôl pum grŵp oedran.

Iechyd cyffredinol

Dywedodd 87% o'r bobl a ddywedodd eu bod mewn iechyd cyffredinol da eu bod yn gallu dod o hyd i'r wybodaeth gywir pan fyddant yn sâl, o gymharu â 68% o'r rhai mewn iechyd gwael. Dywedodd cyfrannau tebyg o bobl eu bod yn gallu dod o hyd i'r wybodaeth gywir i'w helpu i fyw bywyd iach.

Presenoldeb mewn digwyddiadau celfyddydol a diwylliannol

Neu gymryd rhan ynddynt, canlyniad annisgwyl efallai yw bod 86% o bobl sy'n cymryd rhan mewn digwyddiadau celfyddydol neu ddiwylliannol (h.y. y rhai a oedd wedi gwneud hynny o leiaf deirgwaith yn ystod y 12 mis blaenorol) yn gallu dod o hyd i wybodaeth pan fyddant yn sâl, o gymharu â 79% o'r rhai nad oedd yn gwneud hynny. Unwaith eto, dywedodd yr un cyfrannau o bobl eu bod yn gallu dod o hyd i'r wybodaeth gywir i'w helpu i fyw bywyd iach.

Unigrwydd

Nododd 73% o bobl a ddywedodd eu bod yn unig eu bod yn gallu dod o hyd i wybodaeth pan fyddant yn sâl, o gymharu â 89% o bobl nad ydynt yn unig sy’n gallu gwneud hynny. Yn yr un modd, dywedodd 75% o bobl unig eu bod yn gallu dod o hyd i wybodaeth i'w helpu i fyw bywyd iach, o gymharu â 88% o bobl nad ydynt yn unig.

Dod o hyd i wybodaeth am iechyd a lles

Pan ofynnwyd am ddefnyddio'r rhyngrwyd i gael gafael ar wybodaeth iechyd, mae 52% yn chwilio am gyflyrau neu symptomau iechyd, tra bod 23% yn chwilio am wybodaeth am fyw'n iach. (Siart 2)

Fel y gellid disgwyl, mae pobl a ddangosodd bob un o'r pum sgil digidol yn ystod y 3 mis diwethaf yn fwy tebygol o fod wedi defnyddio'r rhyngrwyd i gael gafael ar wybodaeth iechyd na'r rhai â llai o sgiliau. (Siart 2)

Image
Mae siart 2 yn dangos y canran o bobl sy’n defnyddio’r rhyngrwyd i gael gwybodaeth iechyd yn ymwneud â: chyflyrau iechyd neu symptomau, ffordd iach o fyw, pa wasanaethau iechyd sydd ar gael yn yr ardal leol, pa mor dda yw perfformiad y gwasanaethau GIG lleol, a dim un o’r uchod. Rhoddir canrannau ar gyfer pawb, pobl â phob un o’r pump sgil digidol, a phobl heb bob un o’r pump.

 

Pan ofynnwyd iddynt sut yr oeddent yn defnyddio'r rhyngrwyd i ddod o hyd i wybodaeth iechyd a lles, mae 72% o bobl yn chwilio am bwnc iechyd ac yna'n dewis gwefan berthnasol, tra bod 19% yn mynd yn uniongyrchol i wefan y maent yn ei hadnabod, ac mae 8% yn gwneud y ddau yn gyfartal.

Yn gyffredinol, y gwefannau iechyd a lles mwyaf poblogaidd a ddefnyddir yw Galw Iechyd Cymru (59%), ac yna dewisiadau'r GIG (25%), a WebMD a Wikipedia (15%). Nid oedd 22% o bobl yn defnyddio unrhyw wefan benodol. (Siart 3)

Image
Mae siart 3 yn dangos y canran o bobl sy’n ymweld â gwefannau unigol i gael gwybodaeth am iechyd a llesiant. Ymwelodd y canran uchaf o bobl â gwefan Galw Iechyd Cymru, ac ymwelodd y canran isaf â gwefan y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Iechyd.

Ymddiried mewn gwybodaeth ar-lein

Gofynnwyd i bobl pa mor hawdd yw iddynt wybod a ydynt yn gallu ymddiried yn yr wybodaeth ar y gwefannau iechyd a lles y maent yn eu defnyddio'n bersonol. (Siart 4)

Image
Mae siart 4 yn dangos y canran o bobl a oedd yn ei chael yn hawdd iawn, yn weddol hawdd, yn weddol anodd ac yn anodd iawn i ymddiried yn yr wybodaeth iechyd a llesiant ar y gwefannau y gwnaethant eu defnyddio.

 

  • Dywedodd 82% o bobl mewn iechyd da neu dda iawn eu bod yn ei chael hi'n hawdd gwybod a ydynt yn gallu ymddiried yn yr wybodaeth iechyd ar-lein y maent yn ei defnyddio, o gymharu â 69% o bobl mewn iechyd gwael neu wael iawn.
  • Mae 70% o bobl a ddywedodd eu bod yn unig yn ei chael yn hawdd gwybod a ydynt yn gallu ymddiried mewn gwybodaeth iechyd ar-lein, o gymharu â 82% o'r rhai nad ydynt yn unig.
  • Ar y llaw arall, mae 31% o bobl mewn amddifadedd materol yn ei chael yn anodd gwybod a ydynt yn gallu ymddiried yn yr wybodaeth iechyd a welant ar-lein, o gymharu â 19% o'r rhai nad ydynt mewn amddifadedd materol.

Effaith COVID-19 ar wybodaeth iechyd a lles

Ers mis Mawrth 2020, mae meddygon teulu ac ysbytai wedi newid llawer o apwyntiadau o apwyntiadau wyneb yn wyneb i rai dros y ffôn neu drwy fideo.  Dros yr un cyfnod, mae Arolwg Cenedlaethol Cymru hefyd wedi newid i gael ei gynnal dros y ffôn ac ychwanegwyd cwestiwn ar ba ddull a ddefnyddiwyd i gynnal apwyntiadau meddygon teulu ac ysbyty diweddaraf pobl.

  • Cyn dechrau mis Ebrill 2020, dim ond 10% o apwyntiadau meddygon teulu a gynhaliwyd dros y ffôn, o gymharu â 61% o apwyntiadau rhwng mis Ebrill a mis Medi 2020. Cyflwynwyd apwyntiadau meddygon teulu drwy alwad fideo hefyd ac roeddent yn cyfrif am 4% o apwyntiadau ers mis Ebrill.
  • Rhwng mis Ebrill a mis Medi 2020, cynhaliwyd 17% o apwyntiadau ysbyty dros y ffôn, o gymharu â llai na 5% cyn dechrau mis Ebrill.
  • Bydd canlyniadau newydd ar apwyntiadau meddygon teulu ac ysbytai ar gael ym mis Mawrth 2021.

Cyd-destun polisi

Bydd canlyniadau'r cwestiynau arolwg hyn yn helpu i ddeall cynnydd yn erbyn y canlynol.

'Cymru Iachach: cynllun hirdymor ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol' lle mae Llywodraeth Cymru yn datgan ei huchelgais i greu llwyfan iechyd a gofal cymdeithasol ar-lein i ddinasyddion. Y nod yw helpu'r cyhoedd i chwarae mwy o ran yn eu darpariaeth gofal iechyd a'u helpu i wneud dewisiadau gwybodus am eu gofal iechyd eu hunain.

'Symud Cymru Ymlaen', sef cynllun Llywodraeth Cymru tan 2021 sy'n cynnwys cynyddu buddsoddiad mewn cyfleusterau i leihau amseroedd aros a manteisio ar dechnolegau digidol i helpu i gyflymu'r broses o roi diagnosis o salwch.

'Cymunedau Digidol Cymru: Hyder Digidol, Iechyd a Lles (DCW)', sef rhaglen cynhwysiant digidol ac iechyd Llywodraeth Cymru. Mae'r rhaglen wedi'i chynllunio i ddarparu hyfforddiant a chymorth i staff rheng flaen, gwirfoddolwyr a sefydliadau (wyneb yn wyneb) ymgysylltu â sgiliau digidol dinasyddion a'u datblygu i gael mynediad at wasanaethau.

Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg

Arolwg wyneb yn wyneb oedd Arolwg Cenedlaethol 2019-20 a oedd yn cynnwys hapsampl o dros 12,000 o oedolion o bob rhan o Gymru. Cynhaliwyd yr arolwg hwnnw rhwng mis Ebrill 2019 a mis Mawrth 2020.

Yn sgil pandemig y coronafeirws, bu’n rhaid newid i gynnal arolwg byrrach dros y ffôn bob mis. O fis Mai 2020 ymlaen, cynhaliwyd cyfweliadau dros y ffôn gyda hapsampl o bobl a oedd wedi cymryd rhan mewn Arolwg Cenedlaethol blwyddyn lawn, wyneb yn wyneb. 

Mae siartiau manwl a thablau canlyniadau ar gael yn ein dangosydd canlyniadau rhyngweithiol. I gael gwybodaeth ynglŷn â chasglu’r data a’r fethodoleg gweler yr adroddiad ansawdd a'r adroddiad technegol atchweliad.

Statws Ystadegau Gwladol

Mae Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig wedi dynodi'r ystadegau hyn yn Ystadegau Gwladol, yn unol â Deddf Ystadegau a'r Gwasanaeth Cofrestru 2007, sy'n dangos cydymffurfiaeth â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau.

Golyga statws Ystadegau Gwladol fod yr ystadegau swyddogol yn bodloni'r safonau uchaf o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth cyhoeddus.

Dylai'r holl ystadegau swyddogol gydymffurfio â phob agwedd ar y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Dyfernir statws Ystadegau Gwladol iddynt yn dilyn asesiad gan gangen reoleiddio Awdurdod Ystadegau'r DU. Mae'r Awdurdod yn ystyried a yw'r ystadegau'n cyrraedd y safonau uchaf o ran cydymffurfio â'r Cod, gan gynnwys y gwerth y maent yn ei ychwanegu at benderfyniadau a dadleuon cyhoeddus.

Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw parhau i gydymffurfio â'r safonau a ddisgwylir gan Ystadegau Gwladol. Os byddwn yn pryderu ynghylch a yw'r ystadegau hyn yn dal i gyrraedd y safonau priodol, byddwn yn trafod y pryderon hynny â'r Awdurdod yn brydlon. Gellir dileu statws Ystadegau Gwladol ar unrhyw adeg pan nad yw'r safonau uchaf yn cael eu cynnal, a gellir adennill y statws pan fo'r safonau'n cael eu hadfer.

Cadarnhawyd y byddai’r ystadegau hyn yn parhau i gael eu dynodi’n Ystadegau Gwladol ym mis Mehefin 2020 yn dilyn gwiriad cydymffurfiaeth gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau (llythyr cadarnhau). Cafodd yr ystadegau hyn eu hasesu’n llawn (adroddiad llawn) yn erbyn y Cod Ymarfer ddiwethaf yn 2013.

Ers yr adolygiad diweddaraf gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau, rydym wedi parhau i gydymffurfio â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau ac wedi gwneud y gwelliannau canlynol:

  • darparu dadansoddiadau manylach yn y dangosydd canlyniadau a'i gwneud yn haws i ddefnyddwyr gymharu canlyniadau ar draws blynyddoedd
  • diweddaru pynciau'r arolwg yn flynyddol i sicrhau ein bod yn parhau i ddiwallu anghenion polisi sy'n newid
  • gwneud dadansoddiad atchweliad yn rhan safonol o'n hallbynnau i helpu defnyddwyr i ddeall cyfraniad ffactorau penodol at ganlyniadau diddordeb

Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol

Hanfod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant i Gymru sef Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynol a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol”) y mae’n rhaid eu defnyddio i fesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron y Senedd. Cafodd y 46 o ddangosyddion cenedlaethol eu gosod ym mis Mawrth 2016. Mae’r Arolwg Cenedlaethol yn casglu gwybodaeth ar gyfer 15 o'r 46 dangosydd.  

Rhagor o wybodaeth am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau a ddefnyddir yn y datganiad hwn ategu’r dangosyddion cenedlaethol a chael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau lleol mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant a’u cynlluniau llesiant lleol.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Scott Armstrong
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 0300 025 5050
E-bost: arolygon@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

Image
Ystadegau Gwladol

SB 2/2021