Neidio i'r prif gynnwy

Help ar gyfer costau annisgwyl gan gynnwys bwyd, methiant systemau gwresogi a dŵr poeth a gorfod teithio o ganlyniad i argyfwng.

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Ebrill 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cronfa Cymorth Dewisol (DAF)

Grant i helpu i dalu am gostau hanfodol, fel bwyd, nwy, trydan, olew gwresogi neu deithio o ganlyniad i argyfwng os ydych chi:

  • yn profi caledi ariannol eithafol
  • wedi colli eich swydd
  • wedi gwneud cais am fudd-daliadau ac yn aros am daliad cyntaf

Gwirio a ydych yn gymwys i gael DAF

Methiant systemau gwresogi a dŵr poeth

Os ydych chi heb wres na dŵr poeth ar hyn o bryd, efallai y byddwch yn gallu cael help brys drwy lwybr argyfwng cynllun Nyth Llywodraeth Cymru. Mae'r help hwn wedi'i gynllunio i helpu aelwydydd sy'n wynebu risg uniongyrchol i'w hiechyd a'u llesiant oherwydd diffyg gwres neu ddŵr poeth hanfodol.

Os ydych chi'n bodloni'r meini prawf cymhwystra, gall help gynnwys:

  • atgyweiriadau brys i foeleri neu wresogyddion storio trydan i adfer systemau gwresogi neu ddŵr poeth cyn gynted ag y bo modd
  • cael boeler neu wresogyddion storio trydan newydd er mwyn sicrhau bod gennych system wresogi ddiogel a dibynadwy

Gwiriwch a ydych yn gymwys i gael help drwy ffonio Nyth am ddim ar 0808 808 2244 (dydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9am a 6pm).

Croesawir galwadau ac e-byst yn Gymraeg / Calls and emails are welcomed in Welsh.