Bydd y terfyn cyflymder ar y rhan fwyaf o ffyrdd cyfyngedig yn cael ei newid i 20mya.
Mae ffyrdd cyfyngedig yn cynnwys ffyrdd â goleuadau stryd o leiaf bob rhyw 200 llath. Mae’r rhan fwyaf mewn ardaloedd preswyl ac adeiledig, lle ceir llawer o gerddwyr.
Weithiau, bydd awdurdod priffyrdd yn cynnig terfyn cyflymder gwahanol a bydd rhaid iddyn nhw roi cyfle ichi wrthwynebu.
Yr awdurdodau priffyrdd yw:
- Gweinidogion Cymru, ar gyfer priffyrdd (cefnffyrdd)
- yr awdurdodau lleol, ar gyfer ffyrdd lleol llai
Er mwyn cael gwrthwynebu cynnig, rhaid nad yw’r cynnig hwnnw’n bodloni’r meini prawf ar gyfer creu eithriad.
Bydd awdurdodau priffyrdd gwahanol yn cyhoeddi eu heithriadau ar adegau gwahanol dros y misoedd i ddod. Pan ddaw cyfle i wrthwynebu, caiff y ffordd ei marcio ar fap gyda dolen i’r awdurdod priffyrdd sy’n gyfrifol amdani: