Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn rhoi’r hawl i chi gael gwybodaeth a gedwir gan Cafcass Cymru.

Pa wybodaeth allaf i ofyn amdani?

O dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, mae gennych chi hawl mynediad cyffredinol i bob math o wybodaeth gofnodedig a gedwir gan awdurdodau cyhoeddus, oni bai bod eithriadau penodol yn gymwys.

Os nad yw’r wybodaeth yr hoffech ei gweld wedi ei chyhoeddi yn barod, gallwch wneud cais Rhyddid Gwybodaeth amdani.

Nid oes angen i ni ddarparu gwybodaeth nad yw eisoes wedi’i chofnodi, na chreu gwybodaeth newydd, mewn ymateb i gais.

A allaf weld fy ngwybodaeth bersonol?

Mae gennych hawl mynediad statudol i weld data personol am eich hun o dan Ddeddf Diogelu Data 2018.

Gelwir hyn yn Gais Gwrthrych am Wybodaeth (DSAR). Mae ein taflen ffeithiau, Cais Gwrthrych am Wybodaeth, yn egluro sut i wneud cais i gael eich gwybodaeth bersonol eich hun.

Oes angen talu ffi i gael gwybodaeth o dan Ryddid Gwybodaeth?

Nid ydym fel arfer yn codi tâl am geisiadau Rhyddid Gwybodaeth; fodd bynnag, gallem wrthod cais mewn amgylchiadau lle credwn y bydd yr amser sydd ei angen i fodloni eich cais yn fwy na’r terfyn amser priodol (24 awr). Bydd bod mor benodol â phosibl ynghylch yr wybodaeth yr ydych yn chwilio amdani yn helpu i gadw’ch cais o fewn y terfyn.

Pethau i’w hystyried cyn gwneud cais

A yw’r wybodaeth sydd ei hangen arnoch yn addas i’w chyhoeddi i’r cyhoedd? Nod y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yw sicrhau bod gwybodaeth ar gael i’r cyhoedd. Gallwch dim ond gael gwybodaeth a fyddai’n cael ei rhoi i unrhyw un a fyddai’n gofyn amdani, neu wybodaeth a fyddai’n addas i’r cyhoedd ei gweld.

A yw’r wybodaeth eisoes ar gael? Efallai y byddwch yn gallu cael yr wybodaeth yn gyflymach trwy chwilio ein gwefan.

Hefyd, gallai gwybodaeth y gofynnwyd amdani o’r blaen fod wedi’i chyhoeddi ar Gofnod Datgeliadau Llywodraeth Cymru.

Sut ydw i’n gwneud cais?

Gallwch wneud cais drwy anfon e-bost at CafcassCymru@llyw.cymru

Neu gallwch anfon cais ysgrifenedig at:

Y Tîm Cymorth Canolog
Cafcass Cymru
Llywodraeth Cymru
Sarn Mynach
Cyffordd Llandudno
LL31 9RZ.

Nodwch eich enw a’ch cyfeiriad cyfathrebu ac, os yn bosibl, rhif ffôn. Nid oes rhaid i chi ddarparu rhif ffôn, ond byddai’n ddefnyddiol os bydd unrhyw agwedd ar eich cais y bydd angen i ni ei thrafod â chi.

Pryd fyddaf i’n cael ateb?

Byddwn yn cydnabod eich cais o fewn tri diwrnod gwaith i’w dderbyn ac yn darparu ymateb llawn o fewn 20 diwrnod gwaith. Os na fydd hyn yn bosibl, byddwn yn eich hysbysu am hyn drwy lythyr.

Beth os nad wyf yn fodlon ar y ffordd y cafodd fy nghais ei drin?

Os nad ydych yn fodlon ar y ffordd y cafodd eich cais ei drin, gallwch ofyn am adolygiad mewnol. Mae gennych chi hefyd yr hawl i gwyno i’r Comisiynydd Gwybodaeth. Bydd ein llythyr ymateb yn darparu gwybodaeth am sut i wneud hyn.