Cafcass Cymru Fframwaith Iaith a Diwylliant Cymraeg 2026 i 2031
Fframwaith sy'n nodi sut y bydd Cafcass Cymru yn hyrwyddo ac yn cryfhau'r Gymraeg a diwylliant Cymru ar draws y sefydliad rhwng 2026 a 2031.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Diben y fframwaith hwn
Mae Cafcass Cymru yn gweithio gyda phlant a theuluoedd ledled Cymru, ac mae’r Gymraeg a diwylliant Cymru yn rhan sylfaenol o’r cyd-destun hwnnw. Mae’r fframwaith hwn yn nodi sut y byddwn yn parhau i gryfhau gwelededd, dealltwriaeth a defnydd o’r Gymraeg a diwylliant Cymru ar draws ein sefydliad ac yn ein gwaith gyda phobl eraill.
Gan adeiladu ar ein fframwaith blaenorol (2022 i 2025) ac wedi’i alinio â’n cynllun strategol 2026 i 2031, mae’r fframwaith hwn yn diffinio ein dull o godi ymwybyddiaeth o gyfoeth diwylliant Cymru a datblygu darpariaeth Gymraeg yn ein gwasanaethau mewnol ac allanol. Mae hefyd yn ailddatgan ein hymrwymiad parhaus i gydymffurfio â Safonau’r Gymraeg.
Ein nod yw nid yn unig bodloni gofynion, ond cefnogi diwylliant lle mae’r Gymraeg a diwylliant Cymru yn weladwy, yn cael eu gwerthfawrogi ac yn cael eu hadlewyrchu’n ystyrlon mewn ymarfer bob dydd.
I bwy mae hyn yn berthnasol
Mae’r fframwaith hwn yn berthnasol i holl staff Cafcass Cymru.
Er bod uwch arweinwyr yn chwarae rhan bwysig wrth osod cyfeiriad ac arwain drwy esiampl, mae cyflawni’r fframwaith hwn yn gyfrifoldeb ar y cyd. Mae gan bob aelod o staff, beth bynnag yw eu lefel o allu yn y Gymraeg, rôl i’w chwarae wrth gyfrannu at sefydliad mwy dwyieithog ac ymwybodol yn ddiwylliannol.
Rydym wedi ymrwymo i greu amgylchedd cynhwysol lle mae staff yn teimlo’n hyderus i ymgysylltu â’r Gymraeg a diwylliant Cymru mewn ffyrdd sy’n briodol i’w rôl a’u profiad.
Mesur cynnydd
Er mwyn darparu cyfeiriad ac atebolrwydd ar gyfer cyflawni amcanion y fframwaith, mae cynllun manwl wedi’i ddatblygu sy’n nodi’r gweithgareddau y byddwn yn eu cyflawni. Defnyddir hwn fel sail i adrodd ar gynnydd i’r timau arweinyddiaeth uwch ar adegau penodedig.
Gyda’i gilydd, bydd y camau hyn yn cynyddu gwelededd, meithrin hyder ac yn cefnogi defnydd
Ein dull
Er mwyn cefnogi ein hamcanion, rydym wedi mabwysiadu model syml o wella parhaus yn seiliedig ar dair elfen allweddol: gwelededd, hyder a defnydd.
Mae ein dull yn seiliedig ar yr egwyddor bod cynyddu gwelededd y Gymraeg a diwylliant Cymru yn meithrin hyder staff i’w defnyddio yn eu gwaith. Wrth i hyder gynyddu, mae defnydd hefyd yn cynyddu, sydd yn ei dro yn cryfhau gwelededd ar draws y sefydliad.
Mae hyn yn creu cylch parhaus o welliant, gan gefnogi datblygiad unigol a newid sefydliadol.
I roi’r dull hwn ar waith, rydym wedi nodi pum ymrwymiad sefydliadol clir
Y fframwaith ar waith: ein hamcanion
Rydym wedi nodi model sy’n cefnogi hyrwyddo, defnyddio a deall y Gymraeg a diwylliant Cymru o fewn Cafcass Cymru. Nodir isod sut rydym yn bwriadu cyflawni’r amcanion hyn:
Parhau i gydymffurfio â Safonau’r Gymraeg
- Gweithio gyda’r Cydlynydd Iaith Gymraeg a Thîm Safonau Llywodraeth Cymru i sicrhau cydymffurfiaeth barhaus
- Sicrhau bod pob cynnwys cyhoeddus a chyfathrebu sefydliadol allweddol ar gael yn ddwyieithog
- Cynnal dealltwriaeth o sgiliau Cymraeg y gweithlu drwy ddadansoddi rheolaidd i lywio cynllunio a gwydnwch
Cynyddu gwelededd y Gymraeg yn y gwaith o ddydd i ddydd
- Paratoi cyfathrebiadau corfforaethol craidd yn ddwyieithog (e.e. negeseuon y Prif Weithredwr, cylchlythyrau, diweddariadau i holl staff)
- Annog defnydd o Gymraeg cwrteisi mewn cyfarfodydd, e-byst, hyfforddiant a deunyddiau
- Darparu adnoddau Cymraeg hygyrch i gefnogi staff yn eu defnydd dydd i ddydd
Meithrin hyder staff i ddefnyddio’r Gymraeg
- Darparu ardal ddigidol ganolog (e.e. MS Teams) i rannu adnoddau, cyfleoedd dysgu a rhoi cymorth ymarferol
- Hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg drwy gyfathrebu mewnol a dysgu a rennir (e.e. blogiau, profiadau cyfoedion)
- Datblygu a rhannu offer syml ac ymarferol (e.e. geiriau, ymadroddion cyffredin) i gefnogi defnydd dyddiol
Cefnogi datblygiad sgiliau Cymraeg
- Hyrwyddo cyfleoedd dysgu Cymraeg, gan sicrhau eu bod yn weladwy ac yn hygyrch i bob aelod o staff
- Annog timau arweinyddiaeth i gefnogi staff yn weithredol i gychwyn neu barhau i ddysgu Cymraeg
- Creu cyfleoedd ar gyfer cefnogaeth gan gyfoedion a dysgu ar y cyd ar draws y sefydliad
Hyrwyddo ac ymgorffori dealltwriaeth o ddiwylliant Cymru
- Codi ymwybyddiaeth o ddiwylliant Cymru a’i amrywiaeth drwy gyfathrebu mewnol a gweithgareddau sefydliadol
- Hyrwyddo digwyddiadau diwylliannol cenedlaethol a rhanbarthol a chyfleoedd i staff ymgysylltu
- Cefnogi staff i ddeall sut mae’r Gymraeg a diwylliant Cymru yn llywio ein gwaith gyda phlant, teuluoedd a rhanddeiliaid
Gwasanaethau iaith Gymraeg a gwybodaeth bellach
Gellir ganfod fwy o wybodaeth am wasanaethau a chymorth iaith Gymraeg trwy’r adnoddau isod:
Cafcass Cymru
Llywodraeth Cymru
Gwybodaeth am polisi iaith Gymraeg, Cymraeg 2050 ac adnoddau i gefnogi Cymru dwyieithog.
Helo Blod
Gwasanaeth cyngor Cymraeg a chymorth cyfieithu am ddim, wedi'i ariannu gan Lywodraeth Cymru..
Comisiynydd y Gymraeg
Gwybodaeth am hawliau iaith, Safonau'r Gymraeg, a ffyrdd o hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg.
Dysgu Cymraeg / Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol
Darparwr cenedlaethol dysgu'r Gymraeg sy'n darparu cyrsiau i ddysgwyr o bob lefel.
