Neidio i'r prif gynnwy

Mae Cafcass Cymru’n cymryd y gofal mwyaf i gydymffurfio â’r gyfraith wrth ymdrin â phob gwybodaeth gan bobl ac am bobl.

Pa wybodaeth ydym ni’n ei chasglu?

Rydym yn casglu ac yn prosesu gwybodaeth bersonol amdanoch chi pan fydd yn berthnasol i achos y llys teulu. Rydym yn gwneud hyn er mwyn cyflawni ein dyletswyddau cyfreithiol wrth roi cyngor i’r llys.

Yn ogystal â gwybodaeth a gesglir yn uniongyrchol gennych chi, gall gwybodaeth arall yr ydym ni’n ei chasglu gynnwys gwybodaeth a ddarperir gan y llys, yr heddlu, awdurdodau lleol a gwybodaeth iechyd. Rydym yn dal y wybodaeth hon lle bo’n berthnasol i’n swyddogaeth statudol.

Sut y byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth

Caiff y data personol y byddwn yn ei gasglu ei ddefnyddio i sicrhau ein bod yn darparu ein gwasanaethau yn effeithiol. Mae hyn yn cynnwys:

  • Ein cynorthwyo i gyflawni ein dyletswyddau cyfreithiol, yn enwedig ein dyletswyddau o dan Ddeddf Plant 2004;
  • Paratoi ffeithiau a ffigurau i’n cynorthwyo i gynllunio ar gyfer y dyfodol;
  • Ymateb i agweddau unigol ar gynrychiolaeth a/neu gwynion y byddwn yn eu derbyn
  • Asesu pa mor dda yr ydym yn cyflawni ein dyletswyddau.

Mae ein hysbysiad preifatrwydd yn rhoi ein rhesymau dros brosesu, defnyddio a rhannu eich data personol.

Gyda phwy y byddwn yn rhannu’r wybodaeth?

Ni chaiff y wybodaeth yr ydym yn ei chasglu a’i defnyddio ei chyhoeddi mewn ffyrdd y gellir adnabod unigolion, ond efallai y caiff ei rhannu gyda thrydydd partïon sydd wedi eu comisiynu i’n cynorthwyo gydag ymchwil, ymgynghoriadau, neu werthusiadau o’n gwaith a/neu ei effaith ar y system Cyfiawnder Teuluol yng Nghymru. Caiff yr holl ddata a rennir yn y modd yma ei reoli yn unol â Deddf Diogelu Data 2018.

Y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU

Mae'r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (GDPR y DU) yn rhoi rhai hawliau i chi am y data personol sydd gennym amdanoch. Mae gennych yr hawl: 

  • i gael mynediad i'r data personol rydym yn eu prosesu amdanoch; 
  • ei gwneud yn ofynnol i ni gywiro gwallau yn y data hynny; 
  • gwrthwynebu prosesu neu gyfyngu ar hyn (mewn rhai amgylchiadau); 
  • i'ch data (mewn amgylchiadau penodol) gael eu ‘dileu’; 
  • cyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) sy'n rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data 

Sut gallaf gael mynediad at y wybodaeth?