Neidio i'r prif gynnwy

Ni fydd angen caniatâd cynllunio fel rheol. Fodd bynnag, bydd angen caniatâd os byddwch yn estyn neu’n newid y lle yn y to ac os bydd yn mynd y tu hwnt i amodau a therfynau penodol.

Mae gwaith i addasu’r atig yn eich tŷ yn cael ei ystyried yn waith datblygu a ganiateir, nad oes angen gwneud cais am ganiatâd cynllunio ar ei gyfer, cyhyd â’i fod yn cydymffurfio â’r amodau a’r terfynau a ganlyn:

  • Caniateir 40 metr ciwbig o le ychwanegol yn y to ar gyfer tai teras, neu 50 metr ciwbig ar gyfer tai eraill, a dim mwy na hynny.
  • Ni cheir adeiladu estyniad atig sy’n mynd y tu hwnt i blân goleddf y to presennol ar brif wedd y tŷ annedd.
  • Ni ddylid creu unrhyw estyniad yn y to sy’n uwch na rhan uchaf y to presennol.
  • Ac eithrio estyniadau i doi talcen slip, rhaid i bob estyniad i’r to fod o leiaf 20cm o fargod y to presennol.
  • Rhaid i’r deunyddiau yn yr estyniad i’r to edrych mor debyg ag y bo modd i’r tŷ presennol. Nid yw UPVC yn dderbyniol, ac eithrio, efallai, ar gyfer y ffenestri. Disgwylir i estyniadau atig gael eu gorffen â theils, gwaith rendro neu fricwaith i gyd-fynd â’ch tŷ.
  • Dylai ffenestri ar ochr goleddf y to ac sydd o fewn 10.5 metr i ffin fod mewn gwydr wedi’i gymylu neu nad oes modd eu hagor, i warchod preifatrwydd eich cymdogion.
  • Caniateir balconi ‘Juliet’ heb blatfform, nad yw’n estyn mwy na 300mm o’r estyniad, ac nad yw o fewn 10.5 metr i unrhyw ffin gyferbyn ag ochr y tŷ.  Mae angen caniatâd cynllunio ar gyfer unrhyw fath arall o falconi, teras ar y to neu feranda.
  • Caniateir estyniadau i doi talcen slip.
  • Ni chaniateir estyniadau atig mewn ardaloedd cadwraeth, parciau cenedlaethol, ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol neu Safleoedd Treftadaeth y Byd, ac mae’n rhaid ichi wneud cais cynllunio cyn eu hadeiladu.
  • Os yw’r adeilad yn un rhestredig dylech ymgynghori â’ch awdurdod cynllunio lleol.

Dileu hawliau datblygu a ganiateir

Mae angen ichi wybod a yw’r Awdurdod Cynllunio Lleol wedi dileu’r hawliau datblygu a ganiateir yn achos eich eiddo. Os yw’r hawliau hynny wedi’i dileu, rhaid ichi gyflwyno cais cynllunio ar gyfer y gwaith. 

Mae’n bosibl bod yr Awdurdod Cynllunio Lleol wedi dileu rhai o’r hawliau datblygu a ganiateir fel un o amodau’r caniatâd cynllunio gwreiddiol ar gyfer eich eiddo. Bydd yr wybodaeth hon ar gael yn y gofrestr gynllunio sy’n cael ei chadw gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol. Mae’n bosibl hefyd y bydd hawliau datblygu a ganiateir wedi cael eu dileu drwy gyfrwng cyfarwyddyd 'Erthygl 4'. Mewn ardaloedd cadwraeth yn bennaf y gwelir cyfarwyddydau o’r fath, a hynny oherwydd y gallai gwaith datblygu nad yw’n cael ei reoli fygwth cymeriad ardal. Dylai’ch cyfreithiwr fod wedi rhoi gwybod ichi pan brynoch eich eiddo a oes cyfarwyddyd erthygl 4 arno ai peidio, ond gallwch holi’r Awdurdod Cynllunio Lleol os nad ydych yn siŵr. 

Canllaw i ddeiliaid tai

Mae Llywodraeth Cymru wedi paratoi canllaw technegol, a chanllaw i ddeiliaid tai, sydd ar gael yma, i’ch helpu i ddeall sut y gallai’r rheolau datblygu a ganiateir fod yn berthnasol i’ch amgylchiadau chi.