Neidio i'r prif gynnwy

4. Rwyf i am drosi fy siop at ddefnydd bwyd a diod (defnydd dosbarth A3)

Byddai angen caniatâd cynllunio ar gyfer y newid defnydd hwn, a fyddai'n newid o bwys, oherwydd mae'r defnydd newydd arfaethedig yn perthyn i ddosbarth defnydd gwahanol o fewn y system gynllunio.

Mae gan y rhan fwyaf o awdurdodau lleol ardaloedd siopa neu ardaloedd masnachol dynodedig yn eu polisïau cynllunio, sy'n aml yn cynnwys polisïau ynghylch sicrhau cydbwysedd o ran dosbarthiadau defnydd mewn ardal.

Efallai y bydd gan rai awdurdodau bolisïau arbennig i gynnal lefel benodol o ddosbarthiadau defnydd sy'n gysylltiedig â manwerthu.

Bydd angen caniatâd hefyd ar gyfer ffliwiau echdynnu masnachol os bwriedir coginio ar y safle.

Mae'n debygol iawn y bydd angen trwydded gan yr awdurdod priffyrdd i osod byrddau a chadeiriau ar y briffordd*, er mwyn caniatáu i'r awdurdod asesu ffactorau megis symudiadau cerddwyr, llinellau gweld a diogelwch ar y ffyrdd.

Mae'n debygol y bydd angen caniatâd hysbyseb diamwys ar gyfer newidiadau o ran arwyddion.

Er na fydd angen caniatâd ar gyfer newid defnydd cyn i'r gwaith ddechrau, os gwrthodir rhoi caniatâd bydd yn rhaid dadwneud y gwaith, a gallai'r awdurdod gymryd camau gorfodi ffurfiol yng nghyswllt y newid defnydd a gyflawnwyd heb ganiatâd cynllunio.

Efallai hefyd y bydd arnoch angen caniatâd y landlord neu'r tirfeddiannwr.

*Mae priffordd yn cyfeirio at lwybrau troed ac ymylon sy'n gysylltiedig â ffyrdd a gynhelir yn gyhoeddus.

Cliciwch yma i ddarllen y cyfarwyddyd ynghylch dosbarthiadau defnydd yn y drefn gynllunio.