Daeth yr ymgynghoriad i ben 7 Ionawr 2025.
Adolygu ymatebion
Mae ymatebion i'r ymgynghoriad hwn yn cael ei adolygu ar hyn o bryd. Bydd manylion am y canlyniad yn cael eu cyhoeddi yma maes o law.
Ymgynghoriad gwreiddiol
Rydym yn awyddus i gael eich barn ar ganllawiau drafft sydd â’r nod o gynyddu amrywiaeth a chynhwysiant o ran y rhai sy’n ymgeisio yn etholiadau Cymru.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Ein nod yw gwneud y Senedd a llywodraeth leol yn fwy amrywiol ac yn fwy cynrychioliadol o'r bobl maent yn eu gwasanaethu.
Rydym yn ymgynghori ar ganllawiau drafft i helpu pleidiau gwleidyddol cofrestredig yng Nghymru i:
- ddatblygu, cyhoeddi a gweithredu strategaethau amrywiaeth a chynhwysiant ar gyfer etholiadau Cymru, ac adolygu’r rhain yn rheolaidd
- casglu a chyhoeddi gwybodaeth amrywiaeth ynglŷn ag ymgeiswyr yn etholiadau'r Senedd ac Aelodau etholedig
- ystyried y camau y gallant eu cymryd o ran cwotâu gwirfoddol ar gyfer menywod