Canllawiau amrywiaeth a chynhwysiant ar gyfer pleidiau gwleidyddol cofrestredig: crynodeb o'r ymatebion
Eich barn ar ganllawiau drafft sy'n ceisio cynyddu amrywiaeth a chynhwysiant ymgeiswyr ar gyfer etholiadau Cymru.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
1. Cyflwyniad
Ar 12 Tachwedd, cychwynnodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad cyhoeddus ar ganllawiau drafft i helpu pleidiau gwleidyddol cofrestredig yng Nghymru i wneud y canlynol:
- datblygu, cyhoeddi a gweithredu strategaethau amrywiaeth a chynhwysiant ar gyfer etholiadau Cymreig, a’u hadolygu’n rheolaidd
- casglu, crynhoi a chyhoeddi gwybodaeth am amrywiaeth sy’n ymwneud ag ymgeiswyr ar gyfer etholiadau’r Senedd ac Aelodau etholedig
- ystyried camau y gallant eu cymryd mewn perthynas â chwotâu gwirfoddol ar gyfer menywod
Hoffem ddiolch i bawb sydd wedi rhoi o’u hamser i ystyried y canllawiau drafft ac i roi eu hadborth drwy ymateb i’r ymgynghoriad.
2. Y cyd-destun
Bydd Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024 yn cyflwyno nifer o newidiadau cyn etholiad y Senedd yn 2026, gan gynnwys cynyddu nifer yr Aelodau o’r Senedd er mwyn cael mwy o gapasiti i graffu ar waith y Llywodraeth.
O 2026 ymlaen, bydd 6 Aelod o’r Senedd yn cael eu hethol i gynrychioli pob un o’r 16 etholaeth newydd ledled Cymru, gan wneud cyfanswm o 96 Aelod o’r Senedd. Bydd yr Aelodau hyn yn cael eu hethol o dan system etholiadol gyfrannol ‘rhestr gaeedig’.
Yn ogystal â’r diwygiadau hyn i’r system etholiadol a’r ffiniau, mae pwyllgorau dros y blynyddoedd wedi dod i’r casgliad y dylid cymryd camau i sicrhau bod mwy o amrywiaeth yn y Senedd a’i bod yn fwy cynrychioliadol o boblogaeth Cymru.
Nod y canllawiau hyn yw helpu pleidiau gwleidyddol i ystyried camau ymarferol y gallant eu cymryd i gyfrannu at yr uchelgais gyffredin o gael mwy o amrywiaeth ymysg ein cynrychiolwyr etholedig, a sicrhau eu bod yn adlewyrchu’r cymunedau maen nhw’n eu cynrychioli.
3. Ymgysylltu cyn ymgynghori
Cynhaliwyd cyfres o gyfarfodydd â rhanddeiliaid cyn y cyfnod ymgynghori er mwyn codi ymwybyddiaeth o’r ymgynghoriad. Roedd hyn yn cynnwys cyfarfodydd ag Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip, Julie Morgan AS a swyddogion Llywodraeth Cymru.
Darparwyd sesiynau briffio technegol pellach hefyd ar gyfer y grwpiau canlynol yn ystod y cyfnod ymgynghori:
- Grŵp Trawsbleidiol y Senedd ar Ffydd
- Pleidiau gwleidyddol
- Cawcws Menywod y Senedd
- Aelodau o’r Senedd
- Rhanddeiliaid cyffredinol sydd â diddordeb yn yr ymgynghoriad
- Arbenigwyr academaidd
4. Cefndir yr ymgynghoriad
Roedd yr ymgynghoriad ynghylch y canllawiau drafft ar amrywiaeth a chynhwysiant ar gyfer pleidiau gwleidyddol yn cynnwys fersiwn Hawdd ei Deall a fersiwn Iaith Arwyddion Prydain o’r ddogfen ymgynghori ynghyd â’r canllawiau drafft. Mae’r ymgynghoriad a'r dogfennau cysylltiedig ar gael yma:
Canllawiau amrywiaeth a chynhwysiant ar gyfer pleidiau gwleidyddol cofrestredig ar LLYW.CYMRU
Roedd ffurflen ymgynghori ar-lein ar gael, a oedd hefyd yn gallu cael ei chyflwyno drwy e-bost ac ar ffurf copi caled.
Cafwyd cyfanswm o 49 o ymatebion i’r ymgynghoriad, gyda’r rhan fwyaf yn defnyddio’r ffurflen ar-lein i gyflwyno ymateb.
O blith y 49 o ymatebion, dywedodd 37 o ymatebwyr eu bod wedi’u lleoli yng Nghymru. Gan nad oedd rhai ymatebwyr wedi ateb y cwestiwn, nid yw’n eglur a yw’r 12 arall wedi’u lleoli yng Nghymru. Gofynnodd 18 o ymatebwyr i’w hymateb aros yn ddienw.
Gellir crynhoi proffil yr ymatebwyr i’r ymgynghoriad fel a ganlyn:
| Math o ymatebydd | Nifer yr ymatebion |
|---|---|
| Unigolion a oedd yn ymateb yn breifat | 19 |
| Mudiadau trydydd sector sy’n cynrychioli buddiannau grwpiau sy’n rhannu rhai o’r nodweddion a’r amgylchiadau a nodir yn y canllawiau | 10 Cynghrair Efengylaidd Cymru; Stonewall Cymru; Cymdeithas Diwygio Etholiadol Cymru; Tîm Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid Cymru; Triniaeth Deg i Fenywod Cymru; Women’s Rights Network; LGB Alliance Cymru; Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru ar ran clymblaid 5050 Amrywiol; Anabledd Cymru. |
| Corff Statudol | 1 Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol |
| Arbenigwyr academaidd | 6 Prifysgol Metropolitan Llundain |
| Llywodraeth Leol, gan gynnwys cynghorwyr, cyrff cynrychioliadol a chyrff etholiadol | 8 Un Llais Cymru; Bwrdd Cydlynu Etholiadol Cymru; Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd Cyngor Rhondda Cynon Taf; CLlLC |
| Pleidiau gwleidyddol (lleol a chenedlaethol) neu grwpiau sy’n gysylltiedig â phleidiau | 5 Plaid Cymru, Y Blaid Gydweithredol, Plaid Lafur Etholaeth Sir Fynwy, Llafur Cymru |
| Cyfanswm | 49 |
Defnyddiwyd dadansoddiad thematig i ddadansoddi’r ymatebion i’r ymgynghoriad er mwyn gweld pa themâu allweddol ddaeth i’r amlwg. Dylid nodi bod llawer o’r ymatebion yn cynnwys gwahaniaethau cynnil o ran eu byrdwn, neu i ba raddau roeddent yn cytuno â chynnwys y canllawiau. Wrth ddatblygu’r crynodeb hwn, mae Llywodraeth Cymru wedi ceisio adlewyrchu prif fyrdwn yr ymateb. Nid oedd pob unigolyn wedi ateb pob cwestiwn; pan gyflwynir canrannau yn yr adroddiad hwn, defnyddiwyd cyfanswm nifer yr ymatebion i bob cwestiwn i gyfrifo’r ganran.
5. Themâu allweddol
Daeth nifer o themâu cyffredin i’r amlwg yn yr ymatebion a ddarparwyd i gwestiynau’r ymgynghoriad, ac maen nhw’n cael eu crynhoi yn yr adran hon. Os bydd rhanddeiliaid yn dymuno gweld yn fanylach y pwyntiau a wnaed ynghylch y cwestiynau unigol, mae’r wybodaeth hon ar gael yn adran 7.
Themâu cyffredin
Y nodweddion a’r amgylchiadau a nodwyd
Roedd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr yn cytuno â’r nodweddion a’r amgylchiadau a oedd wedi’u rhestru yn y canllawiau drafft. Awgrymodd rhai ymatebwyr y dylid ychwanegu ‘priodas a phartneriaeth sifil’ a ‘beichiogrwydd a mamolaeth’, sy’n nodweddion gwarchodedig, er mwyn sicrhau bod yr holl nodweddion gwarchodedig yn cael eu cynnwys.
Roedd nifer o’r ymatebwyr o’r farn y dylai’r nodweddion a’r amgylchiadau a nodir yn y canllawiau gael eu cyfyngu i’r Nodweddion Gwarchodedig yn Neddf Cydraddoldeb 2010.
Mae’r canlynol yn nodweddion gwarchodedig yn Neddf Cydraddoldeb 2010:
- oedran
- anabledd
- ailbennu rhywedd
- priodas a phartneriaeth sifil
- beichiogrwydd a mamolaeth
- hil
- crefydd neu gred
- rhyw
- cyfeiriadedd rhywiol.
Cwestiynau'r arolwg
Ymatebodd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr yn gadarnhaol i’r arolwg templed, ond cafwyd adborth ar sut mae rhai o’r cwestiynau wedi’u fframio, ac roedd rhai’n argymell eu cysoni ymhellach ag arolygon eraill fel Cyfrifiad Cymru a Lloegr. Un o’r themâu cyffredin oedd yr angen i sicrhau bod yr arolwg yn gyson ac yn gydnaws ag arolwg ymgeiswyr llywodraeth leol.
Thema arall a ddaeth i’r amlwg oedd y dylai Llywodraeth Cymru ystyried hyd yr arolwg (h.y. peidio â’i wneud yn rhy hir), a sut i gymell ymgeiswyr i gyflwyno ymateb.
Roedd nifer o’r ymatebwyr yn anghytuno â chwestiynau’r arolwg ar y sail nad oes diffiniadau clir o’r termau a ddefnyddir, yn enwedig mewn perthynas â rhyw a rhywedd.
Diffiniad o dermau penodol
Mynegwyd barn am ddiffiniadau, yn enwedig ynghylch y ffordd mae’r termau rhyw, rhywedd a menyw yn cael eu defnyddio. Roedd nifer o’r ymatebwyr o’r farn mai dim ond termau sydd â diffiniad cyfreithiol y dylid eu defnyddio yn y canllawiau. Roedd rhai ymatebwyr yn bryderus y gallai defnyddio’r term rhywedd arwain at gwotâu sy’n seiliedig ar rywedd y mae unigolyn wedi’i hunanddiffinio, yn hytrach na’r hyn y cyfeiriodd rhai ymatebwyr ato fel rhyw ‘cyfreithiol’ neu ryw ‘biolegol’ person.
Natur wirfoddol y canllawiau
Nododd nifer o ymatebwyr gyfyngiadau’r canllawiau o ganlyniad i’r ffaith, er bod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i gyhoeddi’r canllawiau, nad oes dyletswydd ar bleidiau gwleidyddol i ddilyn y canllawiau ac na fyddai unrhyw ganlyniad cyfreithiol pe baent yn dewis peidio â’u rhoi ar waith.
Cymorth i bleidiau gwleidyddol
Roedd rhai ymatebwyr yn cwestiynu a fyddai gan bob plaid wleidyddol y modd i weithredu’r canllawiau, ac yn awgrymu y dylid cynnig cymorth i bleidiau gwleidyddol i’w helpu i fwrw ymlaen â’r camau a awgrymir yn y canllawiau. Roedd syniadau am strwythurau cymorth posibl yn cynnwys canolfan ganolog i gael gwybodaeth a chymorth, gweithgor trawsbleidiol, a bwrdd cynghori sy’n cynnwys cynrychiolwyr o gymunedau sy’n cael eu tangynrychioli.
Diogelu data
Mynegwyd pryder ynghylch pleidiau yn cyhoeddi data croestoriadol ac wedi’i ddadgyfuno a allai gynyddu’r risg y byddai modd adnabod unigolion. Roedd rhai’n galw am gymorth ychwanegol i bleidiau llai ac am fwy o ymgysylltu rhwng y llywodraeth, awdurdodau rheoleiddio a phleidiau gwleidyddol i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â deddfwriaeth diogelu data.
Cefnogaeth i fenywod
Roedd rhai ymatebion yn galw am fwy o gefnogaeth i ymgeiswyr sy’n fenywod, y tu hwnt i gwotâu gwirfoddol. Tynnwyd sylw at bwysigrwydd darparu cymorth gyda chyfrifoldebau gofal plant a gofalu, a’r angen i weithio’n hyblyg ac am bolisïau ac arferion sy’n ystyriol o deuluoedd. Roedd eraill yn galw ar bleidiau i ddarparu neu hyrwyddo rhaglenni mentora, hyfforddi a rhwydweithio i fenywod.
Aflonyddu a cham-drin
Pwysleisiodd nifer o ymatebwyr bwysigrwydd polisïau sy’n ceisio atal aflonyddu, ymddygiad bygythiol a thrais (gan gynnwys trais yn erbyn menywod ym myd gwleidyddiaeth), sy’n diogelu aelodau, deiliaid swyddi a staff, gyda phrosesau adrodd a chwyno clir yn cael eu gweinyddu gan gyrff / pwyllgorau cadarn. Dylai pleidiau hefyd sicrhau bod gan ymgeiswyr yr wybodaeth a’r adnoddau angenrheidiol i gadw eu hunain yn ddiogel ac i ymgyrchu’n hyderus.
Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb
Roedd nifer o ymatebwyr yn feirniadol o’r ffaith nad oedd Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb wedi cael ei gyhoeddi fel rhan o’r broses ymgynghori, ac roedden nhw’n galw am gyhoeddi asesiad o’r fath.
Gwrthwynebiad cyffredinol
Roedd nifer o ymatebwyr unigol yn anghytuno â nod a phwrpas sylfaenol y canllawiau. Roedden nhw naill ai’n teimlo y dylai ymgeiswyr gael eu dewis ar sail eu cymwysterau, teilyngdod neu gymhwysedd yn hytrach nag ar sail eu nodweddion neu eu hamgylchiadau, neu y dylid rhoi'r pwyslais ar chwalu’r rhwystrau sy’n eu hatal rhag cymryd rhan, fel cyfyngiadau ariannol, mynediad at adnoddau, neu ddiffyg addysg wleidyddol.
6. Y camau nesaf
Fel y mae’r crynodeb hwn yn dangos, cafwyd llawer iawn o adborth mewn ymateb i’r ymarfer ymgynghori ar y canllawiau drafft. Mae’r adborth hwn yn amrywio o syniadau ynghylch sut gellir cryfhau a gwella cynnwys y canllawiau, i awgrymiadau am gamau eraill y gall pleidiau gwleidyddol a phartneriaid allweddol eu cymryd er mwyn cyfrannu at yr uchelgais gyffredin o gynyddu amrywiaeth ymysg ymgeiswyr mewn etholiadau Cymreig.
Bydd yr adborth a gafwyd mewn ymateb i gwestiynau’r ymgynghoriad yn cael ei ystyried wrth greu’r canllawiau terfynol, yr ydym yn anelu i’w cyhoeddi yn y gwanwyn.
Bydd y canllawiau hefyd yn cael eu hadolygu o bryd i’w gilydd yn unol â’r ddyletswydd ar Weinidogion Cymru a nodir yn Adran 30 o Ddeddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024.
7. Crynodeb o’r ymatebion i’r ymgynghoriad
Cwestiwn 1: Rhaid i Lywodraeth Cymru bennu'r nodweddion a'r amgylchiadau at ddibenion Rhannau 1 a 2 o'r canllawiau. Beth yw eich barn am y nodweddion a'r amgylchiadau penodedig?
O blith y 49 o ymatebwyr, darparodd 47 ymateb i’r cwestiwn hwn a oedd yn ymwneud yn benodol â’r nodweddion a’r amgylchiadau a nodir yn y canllawiau at ddibenion strategaethau amrywiaeth a chynhwysiant pleidiau, a chasglu a chyhoeddi gwybodaeth am amrywiaeth ar ymgeiswyr y Senedd. Dyma’r nodweddion a’r amgylchiadau a roddwyd ger bron:
- Oedran*
- Anabledd*
- Hil*
- Crefydd neu gred*
- Rhyw*
- Cyfeiriadedd rhywiol*
- Statws neu hanes traws (gan gynnwys ailbennu rhywedd*)
- Cefndir economaidd-gymdeithasol
- Cyflyrau iechyd
- Profiad gwleidyddol blaenorol
- Cyfrifoldebau gofalu
- Cyfrifoldeb rhiant
- Iaith
* Nodweddion gwarchodedig fel y’u diffinnir yn Neddf Cydraddoldeb 2010
Roedd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr i Gwestiwn 1 (60%) yn cytuno’n fras â’r nodweddion a’r amgylchiadau a nodwyd yn y canllawiau drafft.
Roedd canran lai o’r rheini a ymatebodd i Gwestiwn 1 o’r farn y dylai’r canllawiau ganolbwyntio dim ond ar y nodweddion gwarchodedig, fel y’u diffinnir yn Neddf Cydraddoldeb 2010, gan fynegi’r farn mai dim ond i nodweddion sydd â diffiniad cyfreithiol pendant y dylai’r canllawiau fod yn berthnasol er mwyn osgoi unrhyw gamddehongli posibl.
Cynigiwyd safbwyntiau penodol ynghylch y nodwedd ‘statws neu hanes traws (gan gynnwys ‘ailbennu rhywedd’)’ yn y canllawiau drafft. Teimlai nifer o ymatebwyr y dylid cael diffiniadau a gwahaniaethau pendant, er enghraifft rhwng ‘ailbennu rhywedd’ (sy’n nodwedd warchodedig) a ‘hunaniaeth rhywedd’ (nad yw’n nodwedd warchodedig). Mynegodd rhai o’r un ymatebwyr bryder hefyd ynghylch y diffiniad o ‘ryw’, gan gwestiynu a ddylid cymryd ei fod yn golygu’r hyn roedden nhw’n ei alw’n ‘rhyw biolegol’.
Nodwyd bod casglu data ar ‘ryw’ a ‘hunaniaeth rhywedd’ yn fater cymhleth. Dywedodd un ymatebydd y gellid dehongli’r categori ‘statws neu hanes traws (gan gynnwys ailbennu rhywedd)’ fel pe bai’n awgrymu bod y categori’n ymwneud â gweithdrefnau ailbennu rhywedd – ee, gwybodaeth feddygol – ac y gallai awgrymu categori mwy cul na’r nodwedd warchodedig yn Neddf Cydraddoldeb 2010.
Yn yr un modd, nodwyd y gallai dryswch godi ynghylch y cyfeiriadau yn y canllawiau at nodweddion ac amgylchiadau ‘anabledd’ a ‘cyflyrau iechyd’.
Roedd nifer o ymatebwyr yn cydnabod pwysigrwydd ystyried croestoriadedd, ac y bydd gan rai unigolion amryw o nodweddion ac amgylchiadau sy’n cydblethu ac yn gallu arwain at allgáu gwleidyddol.
Awgrymodd rhai ymatebwyr y dylid nodi nodweddion gwarchodedig sy’n ychwanegol at y rhai a nodwyd yn Neddf Cydraddoldeb 2010. Er enghraifft, argymhellodd un ymatebydd y dylid nodi ‘mamolaeth a beichiogrwydd’ a ‘priodas a phartneriaeth sifil’, sy’n nodweddion gwarchodedig, i adlewyrchu’r ffaith y gall gofal plant, gan gynnwys gofal mamolaeth, fod yn rhwystr rhag cymryd rhan. Awgrymwyd hefyd y gellid annog pleidiau i gasglu data wedi’i ddadgyfuno ar sail rhyw, yn ymwneud â’r nodwedd ‘cyfrifoldeb rhiant’, wrth ystyried y ‘bwlch mamau’ y nodwyd ei fod yn bodoli yn Nhŷ’r Cyffredin.
Dywedodd nifer bach o unigolion y dylid dewis ymgeiswyr ar sail eu galluoedd, eu cymwysterau a’u haddasrwydd ar gyfer y rôl, yn hytrach nag ar sail nodweddion gwarchodedig neu amgylchiadau personol. Mynegwyd pryder gan un ymatebydd y gallai pwyslais ar amrywiaeth a chynhwysiant danseilio uniondeb y broses o ddethol ymgeiswyr a thanseilio ffydd y cyhoedd yn ansawdd cynrychiolwyr etholedig.
Dyma rai o’r sylwadau eraill a gafwyd mewn ymateb i’r cwestiwn hwn:
- Mae’r diffiniad o anabledd yn y Ddeddf Cydraddoldeb yn defnyddio iaith sy’n gysylltiedig â’r Model Meddygol o Anabledd, sy’n gweld pobl anabl fel y broblem. Dywedodd yr ymatebydd fod hyn yn mynd yn groes i’r Model Cymdeithasol o Anabledd sy’n dweud bod pobl yn cael eu hanablu oherwydd y rhwystrau mewn cymdeithas
- Dylai’r canllawiau ddiffinio paramedrau cydraddoldeb economaidd-gymdeithasol a defnyddio’r ddyletswydd economaidd-gymdeithasol i egluro hyn a’r camau gweithredu a awgrymir
- Dylid cynnwys ‘hanes cyflogaeth’ yn y rhestr o nodweddion er mwyn annog ystod ehangach o brofiadau cyflogaeth yn y Senedd
- Gallai Llywodraeth Cymru ystyried dulliau allgymorth a chasglu data sy’n groestoriadol eu natur, er mwyn atal ymgeiswyr unigol rhag bod yn ddewis symbolaidd yn unig
- Dylai Llywodraeth Cymru ystyried cynnwys ‘cast’ fel nodwedd, sy’n faes lle gwelir gwahaniaethu sylweddol mewn rhai rhannau o gymdeithas
- Gallai fersiynau o’r canllawiau yn y dyfodol gynnwys nodweddion / amgylchiadau ychwanegol fel:
- Lefel addysg a mynediad at addysg, ee, ysgol breifat / ysgol wladol a mynediad at addysg drydyddol
- Profiad o’r system cyfiawnder troseddol
- Aelod o’r lluoedd arfog a chyn-filwyr.
Cwestiynau 2 a 2a: Nodwch i ba raddau rydych yn cytuno â’r camau gweithredu a awgrymir ar gyfer pleidiau gwleidyddol er mwyn cynyddu amrywiaeth a chynhwysiant mewn etholiadau Cymreig. Eglurwch eich rhesymau.
O blith y 49 o ymatebwyr, roedd 46 wedi ymateb i Gwestiwn 2, a 47 wedi ymateb i Gwestiwn 2a.
Dywedodd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr i Gwestiwn 2 (65%) eu bod naill ai’n cytuno, neu’n cytuno’n gryf, â’r camau gweithredu a awgrymir yn y canllawiau i bleidiau gwleidyddol eu cymryd er mwyn cynyddu amrywiaeth a chynhwysiant mewn etholiadau Cymreig.
Dywedodd rhai ymatebwyr eu bod yn gefnogol o nodau’r canllawiau, ond ei bod yn anochel y byddai cyfyngiadau wrth ystyried y ffaith nad oes rhwymedigaeth gyfreithiol ar bleidiau gwleidyddol i ddilyn y canllawiau. Roedd nifer bach o ymatebwyr yn cwestiynu sut byddai pleidiau gwleidyddol yn cael eu dal yn atebol am gyflawni’r ymrwymiadau yn eu strategaethau.
Roedd nifer o ymatebwyr yn ansicr a fyddai gan bob plaid wleidyddol y modd i weithredu’r canllawiau, gyda rhai’n awgrymu y dylai Llywodraeth Cymru ystyried sut gellid darparu cymorth i bleidiau gwleidyddol i’w helpu i gyflawni’r canllawiau. Roedd yr awgrymiadau’n cynnwys sefydlu canolfan ganolog ar gyfer gwybodaeth a chymorth neu Weithgor Trawsbleidiol i rannu llwyddiannau, arferion da a'r gwersi a ddysgwyd. Argymhellwyd hefyd y dylai’r canllawiau gyfeirio pleidiau at ffynonellau cyllid i’w galluogi i benodi staff neu dimau penodol i gyflawni’r gwaith hwn, neu i gynnal neu gael gafael ar hyfforddiant ynghylch amrywiaeth a chynhwysiant.
Yn yr un modd â Chwestiwn 1, mynegodd nifer o ymatebwyr i Gwestiwn 2a farn y dylid dethol ymgeiswyr ar sail eu cymwysterau, eu teilyngdod, neu eu cymhwysedd a’u gallu i gynrychioli eu hetholwyr yn effeithiol, yn hytrach nag ar sail eu nodweddion neu eu hamgylchiadau. Dywedodd rhai ymatebwyr y dylid rhoi'r pwyslais ar chwalu’r rhwystrau sy’n eu hatal rhag cymryd rhan, fel cyfyngiadau ariannol, mynediad at adnoddau, neu ddiffyg addysg wleidyddol.
Roedd rhai ymatebwyr yn gwrthwynebu’r cyfeiriad at y pecyn cymorth ar-lein a gyhoeddwyd gan y Glymblaid Cynrychiolaeth Gyfartal yn yr Alban, gyda phryderon penodol yn cael eu codi ynghylch yr hyn roedden nhw’n ei ystyried yn iaith a therminoleg ideolegol ddadleuol yn y pecyn cymorth, yn ogystal â’r defnydd o’r term ‘rhywedd’. Argymhellodd un sefydliad y dylai’r cyfeiriad at y pecyn hwn gael ei dynnu'n ôl o’r canllawiau, ac y dylid cyfeirio pleidiau at y nodweddion gwarchodedig fel y’u diffiniwyd yn Neddf Cydraddoldeb 2010. Roedd ymatebydd arall yn croesawu’r cyfeiriad at y pecyn cymorth sydd wedi cael ei greu gan y Glymblaid Cynrychiolaeth Gyfartal yn yr Alban i helpu pleidiau gwleidyddol i asesu eu sefyllfa gychwynnol o ran amrywiaeth a chynhwysiant, ac i lywio eu strategaeth. Ond ychwanegodd y dylai pleidiau ymgynghori â phobl anabl i wneud yn siŵr ei fod yn diwallu eu hanghenion yn briodol.
Roedd dau ymatebydd yn poeni y byddai’r system etholiadol newydd a fyddai’n cael ei chyflwyno o 2026 ymlaen yn rhoi mwy o bŵer i bleidiau dros y casgliad o ymgeiswyr, ac y gallai arwain at lai o amrywiaeth barn.
Hefyd gwnaed amrywiaeth eang o sylwadau penodol, gan gynnwys y canlynol:
- Gallai’r canllawiau bwysleisio’n well pa mor bwysig yw cael strategaeth, a thynnu sylw at sut gall newid y diwylliant fod o fudd i’r blaid ei hun
- Gallai’r canllawiau gyflwyno camau gweithredu a’u manteision posibl mewn fformat tabl, gan gysylltu pob cam gweithredu â’i ganlyniadau disgwyliedig
- Dylai’r canllawiau sicrhau nad yw pobl sydd â ffydd yn cael eu gwthio i’r cyrion yn anfwriadol yn sgil ymdrechion i fod yn gynhwysol, a rhaid i bleidiau gwleidyddol gydbwyso nodau amrywiaeth â pharch at ryddid meddwl a chred
- Dylid cynrychioli’r gymdeithas gyfan, nid dim ond dynion a menywod gwyn, heterorywiol nad oes ganddynt anabledd corfforol
- Dylai’r canllawiau gynnig awgrymiadau ar ddiogelu ymgeiswyr sy’n profi gwahaniaethu o’r tu allan i’r blaid – gan y cyfryngau, y cyhoedd, neu eraill
- Dylai pleidiau gwleidyddol gynnal Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb i helpu i gael gwybod am unrhyw effeithiau cadarnhaol neu negyddol ar grwpiau sydd â nodweddion gwarchodedig;
- Dylid ychwanegu rhagor o fanylion at y canllawiau ar y fframwaith cyfreithiol a allai gefnogi camau i wella amrywiaeth a chynhwysiant. Er enghraifft, yr hyn sy’n cael ei ganiatáu gan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 o dan a104 ac a158
- Dylid ystyried yr amrywiaeth bresennol mewn pleidiau gwleidyddol wrth wneud penodiadau fel cydlynwyr neu hyrwyddwyr cydraddoldeb ac amrywiaeth
- Dylai pleidiau ystyried cael dau Hyrwyddwr Cydraddoldeb – un sy’n ystyried ei hun yn berson o gefndir Du, Asiaidd neu Ethnig Leiafrifol, ac un sy’n ystyried ei hun yn anabl
- Pryder y bydd menywod yn diflannu fel blaenoriaeth o dan bwysau’r pwyslais ar nodweddion ac amgylchiadau eraill
- Dylai paneli dethol fod yn amrywiol, a dylent gynnwys cynrychiolwyr ar ran pobl anabl. Dylai aelodau’r panel fod wedi cael hyfforddiant addas ar amrywiaeth a’r Model Cymdeithasol o Anabledd a dylai’r cyfweliadau dethol fod yn hygyrch i bawb
- Mae tystiolaeth ymarferol yn dangos bod ymyrraeth ddeddfwriaethol yn aml yn ffordd lawer cryfach o sicrhau cynrychiolaeth amrywiol, yn enwedig yn achos menywod
- Dylid cyflwyno’r canllawiau mewn ffordd fwy calonogol a chadarnhaol er mwyn cymell pleidiau gwleidyddol i’w mabwysiadu
- Dylai’r canllawiau annog pleidiau i flaenoriaethu camau gweithredu a fydd yn cael yr effaith fwyaf bosibl cyn etholiad y Senedd yn 2026.
Cwestiwn 3: Yn eich barn chi, a oes pethau eraill y mae angen i bleidiau gwleidyddol eu hystyried o ran datblygu, cyhoeddi, gweithredu ac adolygu strategaethau amrywiaeth a chynhwysiant ar gyfer etholiadau Cymreig? Os oes, beth ydyn nhw?
O blith y 49 o ymatebwyr, ymatebodd 45 i Gwestiwn 3. Roedd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr a atebodd (76%) yn credu y dylai pleidiau gwleidyddol fod yn cymryd camau ychwanegol i ddatblygu, cyhoeddi, gweithredu ac adolygu strategaethau amrywiaeth a chynhwysiant.
Pwysleisiodd nifer o ymatebwyr bwysigrwydd ymgysylltu rhwng pleidiau a grwpiau perthnasol gan gynnwys, er enghraifft, ymgysylltu â phobl o gefndiroedd a chymunedau amrywiol ac â phobl ifanc sy’n dechrau ffurfio eu barn wleidyddol. Nodwyd y dylai’r ymgysylltu ddigwydd mewn mannau lle mae pobl o grwpiau amrywiol yn teimlo’n ddiogel. Awgrymwyd hefyd y gallai pleidiau ddarparu sesiynau hyfforddi ar y broses wleidyddol, er enghraifft i egluro rôl cynghorwyr, gyda golwg ar ddod o hyd i fodelau rôl lleol a allai gael eu hannog i sefyll mewn etholiad, a allai wedyn ysbrydoli pobl eraill i gymryd rhan mewn gwleidyddiaeth.
Dywedodd nifer bach o ymatebwyr bod angen i bleidiau adolygu eu strategaethau o bryd i’w gilydd, er mwyn asesu eu perfformiad yn erbyn unrhyw dargedau neu amcanion strategol a osodwyd. Byddai gwneud hyn yn sicrhau tryloywder i aelodau pleidiau ac yn darparu elfen o atebolrwydd.
Dywedodd ymatebwyr eraill fod angen i bleidiau fabwysiadu safbwynt croestoriadol wrth geisio denu amrywiaeth eang o ymgeiswyr, gan gynnig y dylai strategaethau pleidiau ganolbwyntio ar hyn yn hytrach na dethol un nodwedd benodol.
Dywedodd rhai ymatebwyr y dylid cymryd camau eraill mewn perthynas ag arferion a threfniadau gwaith Aelodau o’r Senedd, gan gynnwys ystyried oriau hyblyg a threfniadau rhannu swydd er mwyn diwallu anghenion pobl sydd â chyfrifoldebau gofalu a chyfrifoldeb rhiant.
Yn yr un modd â’r cwestiynau blaenorol, roedd y rhai a ymatebodd i Gwestiwn 3 unwaith eto’n dweud y dylai ymgeiswyr, yn eu barn nhw, gael eu dewis ar sail teilyngdod yn hytrach nag ar sail unrhyw nodwedd warchodedig neu amgylchiadau.
Wrth ymateb i’r cwestiwn hwn, cyfeiriodd nifer o ymatebwyr at wahanol gamau y gallai pleidiau gwleidyddol eu cymryd i ddatblygu a gweithredu strategaethau amrywiaeth a chynhwysiant. Roedd y camau hyn yn cynnwys:
- Gosod nodau/targedau ar sail data sy’n seiliedig ar wybodaeth, ymchwil a dadansoddiad o'u sefyllfa bresennol o ran bylchau yn eu cynrychiolaeth
- Gwneud ymrwymiad clir i amrywiaeth a chynhwysiant mewn maniffestos ac wrth gyfathrebu;
- Sicrhau bod amcanion neu gamau gweithredu yn eu strategaeth yn gydnaws ag amcanion ehangach y blaid yn hytrach na’u bod yn ddangosyddion perfformiad allweddol unigol
- Datblygu meini prawf clir a chynhwysol ar gyfer dethol ymgeiswyr, a sicrhau eu bod yn eglur i bob aelod. Dylai pleidiau ystyried cyfansoddiad eu paneli dethol/enwebu, ac ystyried defnyddio prosesau recriwtio a dethol dienw/dall er mwyn cael gwared ar ragfarn ddiarwybod
- Sicrhau bod amrywiaeth a chynhwysiant yn rhan annatod o brosesau a gweithdrefnau’r pleidiau
- Darparu cymorth bugeiliol i ymgeiswyr, yn enwedig y rhai sy’n sefyll am y tro cyntaf ac, yn benodol, yn y cyfnod yn syth ar ôl etholiad
- Sicrhau mai staff cymwys sy’n cael y dasg o drin gwybodaeth am amrywiaeth
- Penodi hyrwyddwyr cydraddoldeb sy’n perthyn i grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli a/neu sefydlu gweithgorau mewnol sy’n cynnwys aelodau o amrywiaeth o gefndiroedd
- Cynnal archwiliad sy’n sensitif i rywedd er mwyn asesu a yw’r diwylliant, yr arferion gwaith, y cyfleusterau a’r prosesau yn rhwystro menywod rhag cymryd rhan
- Gosod ymgeiswyr amrywiol mewn ‘seddi y gellir eu hennill’.
Pwysleisiodd nifer o ymatebwyr fanteision hyfforddiant sy’n targedu:
- Ymgeiswyr, er mwyn iddyn nhw ddeall y broses o gael eu hethol a hwyluso trafodaethau dwyffordd am unrhyw rwystrau posibl
- Staff y pleidiau, i roi gwybod iddyn nhw am y rhwystrau y gallai ymgeiswyr o gefndiroedd amrywiol eu hwynebu, yn ystod y cam dethol yn ogystal â'r broses etholiadol yn fwy cyffredinol
- Pleidiau, ar ddyletswyddau cydraddoldeb sy’n benodol i Gymru er mwyn helpu pleidiau i ddatblygu cynlluniau gweithredu ystyrlon
- Detholwyr yr ymgeiswyr o fewn pleidiau, ar ragfarn ddiarwybod
- Aelodau ac ymgeiswyr y pleidiau ar y broses ddemocrataidd, gan gynnwys rôl cynghorwyr, Aelodau o Senedd Cymru ac Aelodau o Senedd y Deyrnas Unedig, lle gwelir bod diffyg addysg wleidyddol.
Teimlai rhai ymatebwyr mai darparwyr allanol ddylai gynnal yr hyfforddiant er mwyn darparu’r lefel briodol o arbenigedd, ac y gallai fod yn ddefnyddiol cyfeirio pleidiau at sefydliadau sy’n gallu darparu hyfforddiant.
Cyflwynwyd syniadau gan nifer bach o ymatebwyr ynghylch sut gellid cryfhau’r canllawiau, naill ai drwy newidiadau i’r fformat neu newidiadau i’r cynnwys. Roedd y syniadau hyn yn cynnwys awgrymiadau i wneud y canlynol:
- Tynnu sylw pleidiau at fanteision amrywiaeth a chynhwysiant yn gyntaf, gyda chamau gweithredu perthnasol yn dilyn hynny
- Argymell bod pleidiau’n strwythuro eu strategaethau o amgylch camau taith yr ymgeisydd, o ddechrau ymddiddori mewn gwleidyddiaeth, i ddod yn aelod gweithgar, i ddangos diddordeb mewn sefyll mewn etholiad. Gallai hyn helpu i sicrhau camau penodol sy’n gymorth i gynnal y cyflenwad o ymgeiswyr ac yn codi ymwybyddiaeth o brofiad bywyd ar hyd y daith
- Annog pleidiau i sefydlu polisi cwynion sydd ar gael yn hwylus i’r holl aelodau, ac i greu canllawiau clir ynghylch sut byddan nhw’n delio â chwynion am wahaniaethu
- Pwysleisio’r ddyletswydd gyfreithiol sydd gan bleidiau i gymryd camau i wneud addasiadau rhesymol ar gyfer ymgeiswyr ac aelodau er mwyn eu galluogi i gymryd rhan lawn yng ngweithgarwch y pleidiau
- Cyfeirio at bleidiau fel cyflogwyr, gan gynnwys camau y dylent eu cymryd i fynd i’r afael ag aflonyddu rhywiol yn unol â newidiadau diweddar i’r gyfraith cyflogaeth
- Awgrymu camau y dylai pleidiau eu cymryd i ganiatáu rhyddid mynegiant, ac i hyrwyddo trafodaeth barchus ymysg ymgeiswyr ac aelodau.
Cwestiwn 4: Beth yw eich barn am y cwestiynau yn yr arolwg ymgeiswyr yn Rhan 2?
O blith y 49 o ymatebwyr, mynegodd 42 farn ar gwestiwn 4.
O blith y rheini a fynegodd farn, fe wnaeth y mwyafrif (55%) ddatgan cefnogaeth yn gyffredinol neu wneud sylwadau cadarnhaol, gydag ambell gafeat neu awgrym ar gyfer gwelliannau. Roedden nhw’n dweud y bydd casglu gwybodaeth am amrywiaeth yn galluogi pleidiau gwleidyddol i gadw golwg ar gynnydd dros amser, ac yn eu helpu i fynd i’r afael â rhwystrau rhag cymryd rhan. Dywedodd un ymatebydd y bydd y polisi o gasglu gwybodaeth yn rhoi tryloywder i’r pleidiau yn ogystal â’r cyhoedd, ac yn eu galluogi i asesu sut mae pleidiau yn perfformio yn erbyn y strategaethau maen nhw wedi’u cyhoeddi.
Gwnaeth ymatebwyr sylwadau penodol ar y cwestiynau ynghylch cyflyrau iechyd/anabledd, cymwysterau, galwedigaeth a chyfrifoldeb rhiant, gan wneud y pwyntiau canlynol:
- Dylai cwestiynau ynghylch rhywedd a rhyw fod yn gydnaws â’r cwestiynau a ddefnyddir yng Nghyfrifiad Cymru a Lloegr
- Dylid ailfframio cwestiynau ynghylch anabledd/cyflyrau iechyd yng ngoleuni’r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi mabwysiadu’r Model Cymdeithasol o Anabledd
- Dylai’r categori galwedigaeth yn yr arolwg templed gynnwys opsiwn testun rhydd i ymgeiswyr nodi eu galwedigaeth, a fyddai’n ei gwneud yn bosibl i gasglu data manylach
- Ar gyfer y categori addysg, mae angen i’r opsiynau gynnwys cymwysterau annhraddodiadol
- Dylai cwestiynau ynghylch cyfrifoldeb rhiant ofyn yn glir a yw’r ymatebydd yn fam/tad/gwarcheidwad, a gofyn sawl awr yr wythnos sy’n cael ei neilltuo ar gyfer tasgau magu plant a gofalu.
Gwnaeth un ymatebydd y pwynt cyffredinol y dylai’r categorïau fod yn seiliedig ar ganllawiau Gwasanaeth Ystadegol y Llywodraeth er mwyn cysoni’r data.
Pwysleisiodd nifer o ymatebwyr yr angen am ddiffiniadau clir i osgoi camddehongli ac anghysondeb. Soniodd rhai o’r ymatebwyr am y diffiniad o ‘ryw’, gan ofyn a yw’n golygu’r hyn roedden nhw’n ei alw’n ‘rhyw biolegol’. Heb ddiffiniadau cyfreithiol, dywedodd yr ymatebwyr y gallai ymatebion i’r arolwg fod yn agored i’w dehongli neu hunanddiffinio.
Dywedodd rhai ymatebwyr y dylai cwestiynau’r arolwg templed fod yn gydnaws â chwestiynau’r arolwg llywodraeth leol, er mwyn cael dadansoddiad cyson gan bleidiau gwleidyddol. Awgrymodd un ymatebydd fod y templed arolwg drafft yn well na’r arolwg llywodraeth leol, ac felly y dylid diwygio’r arolwg llywodraeth leol er mwyn iddo fod yn gydnaws â thempled y Senedd. Dywedodd ymatebydd arall ei bod yn hanfodol bod pleidiau gwleidyddol yn cael eu hannog i ddefnyddio’r arolwg templed, er mwyn sicrhau cysondeb yn y data a gyhoeddir a bod modd dal pleidiau’n atebol. Awgrymodd hefyd y dylid adolygu’r canllawiau a’r arolwg templed ar ôl tair blynedd er mwyn deall eu heffeithiolrwydd a’r newidiadau a wnaed, os bydd angen.
Dywedodd nifer bach o ymatebwyr y dylai’r canllawiau gynnwys cyngor ychwanegol i bleidiau gwleidyddol ar drin data’n ddiogel, wrth ystyried sensitifrwydd posibl peth o’r wybodaeth sy’n cael ei chasglu a’r risg uwch y byddai modd adnabod unigolion, yn enwedig pe bai data croestoriadol neu ddata wedi’i ddadgyfuno yn cael ei gyhoeddi. Roedd rhai o’r ymatebwyr hyn yn meddwl y dylai pleidiau ystyried datblygu polisi ar gyfer trin, cofnodi a storio data eu hymgeiswyr. Dywedodd un ymatebydd y byddai casglu a rheoli’r data a nodwyd yn gallu bod yn faich anghymesur ar bleidiau llai sydd ag adnoddau cyfyngedig.
Rhoddodd nifer bach iawn o ymatebwyr farn ar fformat a strwythur yr arolwg templed – gan gynnwys bod yr arolwg, sy’n cynnwys 20 o gwestiynau, yn rhy hir o bosibl a’i bod yn cymryd gormod o amser i’w gwblhau. Gwnaeth un ymatebydd awgrymiadau am welliannau posibl i gwestiynau unigol, a soniodd eraill am fanteision darparu fersiynau amgen o’r arolwg er mwyn cynyddu’r nifer sy’n ei lenwi ac annog pawb i wneud hynny.
Dywedodd un ymatebydd y byddai’r canllawiau’n sicrhau bod pleidiau gwleidyddol Cymru yn barod pe bai Llywodraeth y DU yn cychwyn Adran 106 o’r Ddeddf Cydraddoldeb (a fyddai’n mynnu bod pleidiau’n casglu ac yn cyhoeddi data amrywiaeth am ymgeiswyr).
Roedd ymatebydd arall o’r farn y dylid cynnal yr arolygon yn gyson drwy gydol tymor etholiad oherwydd y gallai amgylchiadau pobl newid.
Unwaith eto, dywedodd rhai ymatebwyr nad oeddent yn gweld bod angen i bleidiau gwleidyddol gasglu’r wybodaeth hon, ac y dylid dewis ymgeiswyr ar sail eu galluoedd, eu cymwysterau a’u haddasrwydd ar gyfer y rôl, yn hytrach nag ar sail unrhyw nodwedd neu amgylchiadau personol penodol.
Cwestiwn 5 a 5a: Yn eich barn chi, a fydd y canllawiau yn helpu pleidiau gwleidyddol i gasglu, crynhoi a chyhoeddi gwybodaeth am amrywiaeth yn ymwneud ag ymgeiswyr y Senedd? Eglurwch eich rhesymau.
O blith y 49 o ymatebwyr, ymatebodd 39 i Gwestiwn 5 a 41 i Gwestiwn 5a.
O blith y rheini a ymatebodd i Gwestiwn 5, roedd y mwyafrif (64%) yn credu y byddai’r canllawiau’n helpu, neu y gallent helpu, pleidiau gwleidyddol i gasglu, crynhoi a chyhoeddi gwybodaeth am amrywiaeth. Roedd rhai o’r ymatebwyr hyn yn cydnabod cyfyngiadau’r canllawiau gan nad oes rhwymedigaeth gyfreithiol ar bleidiau i’w dilyn, a mynegodd eraill bryderon am ddiogelu data a chefnogaeth i bleidiau llai, gan awgrymu bod angen cymryd camau pellach i fynd i’r afael â’r materion hyn. Roedd rhai ymatebwyr o’r farn bod angen rhagor o eglurder ynghylch diffiniadau.
Dywedodd rhai ymatebwyr fod prinder data swyddogol ar hyn o bryd ynghylch amrywiaeth ymgeiswyr a chynrychiolwyr etholedig yn broblem fawr, ac y gallai’r canllawiau helpu i gau’r bwlch. Aethant ymlaen i ddweud y byddai hyn yn galluogi pleidiau a rhanddeiliaid allweddol i nodi rhwystrau posibl ar gamau penodol yn y broses, ac yn galluogi pleidiau i fesur effeithiolrwydd eu strategaethau amrywiaeth a chynhwysiant dros amser. Teimlwyd bod y canllawiau’n darparu fframwaith ymarferol i bleidiau gwleidyddol at ddibenion casglu a chyhoeddi gwybodaeth am amrywiaeth, ac y gallai hyn yn ei dro amlygu ble mae angen cymorth a hyfforddiant penodol ar gyfer ymgeiswyr, gan arwain at Senedd fwy cyfartal a chynrychioladol.
Mynegodd nifer o ymatebwyr y farn y byddai llwyddiant y canllawiau’n dibynnu ar ddefnydd y pleidiau gwleidyddol ohonynt, a’i bod felly’n bwysig bod pleidiau yn deall rhesymeg a phwysigrwydd casglu a chyhoeddi data amrywiaeth. Roedd rhai ymatebwyr o’r farn y byddai annog ymgeiswyr i lenwi’r arolwg fel rhan o’u cais yn gallu arwain at gyfraddau ymateb uchel, ac y byddai bodolaeth y canllawiau a’r arolwg templed yn helpu i annog cydymffurfiaeth ac i sicrhau cysondeb. Mynegodd ymatebwyr eraill farn y dylai fod yn orfodol i lenwi’r arolwg a chyhoeddi’r data, gyda rhai’n argymell y gellid rhoi sail statudol i’r broses drwy gychwyn Adran 106 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010.
Cododd nifer o ymatebwyr bryderon ynghylch diogelu data ac anhysbysrwydd, yn enwedig o ran rhestrau bach o ymgeiswyr, a phwysigrwydd sicrhau bod pleidiau gwleidyddol ac ymgeiswyr yn cael cefnogaeth briodol. Roedd ymatebwyr eraill yn credu bod angen i’r canllawiau egluro’n gliriach sut dylai data gael ei anonymeiddio, ei gyflwyno a’i storio’n ddiogel, yn enwedig er mwyn osgoi sefyllfa lle na fyddai pobl am gymryd rhan mewn gwleidyddiaeth oherwydd pryderon y byddai data adnabyddadwy ar gael. Er bod nifer o’r ymatebwyr o’r farn y gallai casglu a chyhoeddi data helpu i hybu amrywiaeth mewn democratiaeth er budd pawb, mynegwyd pryderon ynghylch ymarferoldeb gweithredu’r canllawiau, yn enwedig i bleidiau llai sydd heb lawer o adnoddau o bosibl.
Awgrymodd rhai ymatebwyr y byddai’n ddoeth defnyddio canolfan casglu a chyhoeddi data a reolir yn ganolog er mwyn sicrhau tryloywder, cysondeb, anhysbysrwydd a chydymffurfiaeth â’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data.
Roedd nifer o’r ymatebwyr yn credu bod angen diffiniadau clir er mwyn osgoi gwahanol ddehongliadau o’r nodweddion gwarchodedig, ac at ddibenion cywirdeb data.
Pwysleisiodd nifer o ymatebwyr ei bod yn bwysig bod pleidiau’n dangos eu hymrwymiad i amrywiaeth a chynhwysiant drwy fynd ati i fwrw ymlaen â newidiadau yn eu polisïau a’u harferion presennol i fynd i’r afael ag anghenion grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli.
Dyma rai o’r sylwadau eraill a gafwyd mewn ymateb i’r cwestiwn hwn:
- Dylai fod yn ofynnol yn ôl y gyfraith i bleidiau gwleidyddol lynu wrth y canllawiau
- Pe bai rhai pleidiau’n cyhoeddi eu data am ymgeiswyr, gallai hyn roi pwysau cyhoeddus ar bleidiau eraill a oedd heb gyhoeddi eu data, a’u hannog i wneud hynny
- Byddai amseriad yr arolwg yn bwysig er mwyn sicrhau bod ymgeiswyr yn gallu ei lenwi wrth iddyn nhw hefyd ymgyrchu
- Dylai ymgeiswyr allu parhau i ddewis cymryd rhan mewn unrhyw broses monitro amrywiaeth o’u gwirfodd
- Mae angen mwy o ymgysylltu rhwng y llywodraeth, awdurdodau rheoleiddio a phleidiau gwleidyddol i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â deddfwriaeth diogelu data
- Dylai Llywodraeth Cymru ystyried y ffactorau sy’n sbarduno cyfraddau ymateb uchel i'r arolwg llywodraeth leol mewn rhai cynghorau, a rhannu arferion da â phleidiau gwleidyddol er mwyn gwella eu cyfraddau ymateb eu hunain
- Gallai’r canllawiau arwain at orbwysleisio metrigau amrywiaeth, gan arwain o bosibl at arferion symbolaidd wrth ddethol ymgeiswyr, a allai danseilio ffydd y cyhoedd
- Gellid ystyried y canllawiau fel ‘baich arall o ganlyniad i gywirdeb gwleidyddol’ a allai gymell pobl i beidio â chymryd rhan mewn gwleidyddiaeth.
Cwestiwn 6 a 6a: Yn eich barn chi, a fydd y canllawiau yn helpu pleidiau gwleidyddol i gymryd camau priodol i sicrhau gwell cynrychiolaeth o ran rhywedd yn y Senedd? Eglurwch eich rhesymau.
O blith y 49 o ymatebwyr, ymatebodd 43 i Gwestiwn 6 a 41 i Gwestiwn 6a.
Roedd tua hanner yr ymatebwyr i Gwestiwn 6 (49%) yn credu y byddai’r canllawiau’n helpu pleidiau gwleidyddol i sicrhau gwell cynrychiolaeth o ran rhywedd yn y Senedd, neu y gallai'r canllawiau gyflawni hynny. Roedd o leiaf ddau ymatebydd ychwanegol arall, yn eu hatebion i gwestiwn 6a, yn croesawu’r canllawiau ar gwotâu gwirfoddol ar gyfer rhywedd.
Dywedodd rhai ymatebwyr y byddai’r model a nodir yn y canllawiau, gan gynnwys y meini prawf lleoli llorweddol a fertigol, yn arwain at ganlyniad cadarnhaol yng nghyswllt cynrychiolaeth o ran rhywedd, pe bai’n cael ei roi ar waith gan bleidiau gwleidyddol.
Roedd rhai ymatebwyr yn anghytuno â’r cysyniad o gwotâu ar gyfer menywod ac ar gyfer unrhyw nodwedd warchodedig arall ac yn credu, yn hytrach na hynny, y dylid dethol ymgeiswyr ar sail rhinweddau.
Dywedodd nifer bach o ymatebwyr fod risg na fyddai nod cyffredinol y cynnig yn cael ei gyflawni os na fyddai cwota statudol.
Mynegodd nifer o ymatebwyr bryder ynghylch defnyddio’r term rhywedd yn hytrach na ‘rhyw’, sy’n nodwedd warchodedig yn Neddf Cydraddoldeb 2010, gan nodi pryderon ynghylch y diffyg diffiniad o fenyw at ddibenion Rhan 3 o’r canllawiau. Dywedodd nifer bach o ymatebwyr y gallai defnyddio’r term rhywedd arwain at gwotâu sy’n seiliedig ar rywedd y mae unigolyn wedi’i hunanddiffinio, yn hytrach na’r hyn y cyfeiriodd rhai ymatebwyr ato fel rhyw ‘cyfreithiol’ neu ryw ‘biolegol’ person. Dywedodd rhai ymatebwyr hefyd y dylai unrhyw ddiffiniad o fenyw a ddefnyddir fod yn seiliedig ar yr hyn roedden nhw’n ei alw’n ‘rhyw biolegol’.
Roedd nifer bach o ymatebwyr o’r farn y dylai’r canllawiau gynnwys cwotâu ar gyfer pobl sy’n rhannu nodweddion gwarchodedig eraill, gan gynnwys ethnigrwydd, anabledd a phobl LHD.
Os bydd pleidiau’n dewis defnyddio cwotâu gwirfoddol ar gyfer rhywedd, roedd nifer bach o ymatebwyr yn meddwl y dylent geisio mynd i’r afael â’r rhwystrau sy’n wynebu menywod o gefndiroedd amrywiol ac annog y menywod hyn i gymryd rhan.
Nodwyd bod menywod o gefndiroedd ethnig amrywiol yn wynebu rhwystrau ychwanegol rhag cymryd rhan mewn gwleidyddiaeth, ac roedd ambell un o’r ymatebwyr yn croesawu darpariaethau Deddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024 i Weinidogion Cymru gyflwyno gwasanaethau a chynlluniau i fynd i’r afael â rhai o’r rhwystrau sy’n wynebu pobl sydd ag amrywiaeth o nodweddion gwarchodedig ac amgylchiadau.
Dywedodd nifer bach o ymatebwyr fod angen i’r canllawiau ddangos yn gliriach y manteision y gall cwotâu rhywedd eu cynnig, ac y dylent gynnwys rhestr o wledydd lle mae cwotâu rhywedd wedi cael eu defnyddio’n llwyddiannus. Roedd dau ymatebydd yn meddwl y dylai’r canllawiau gynnwys enghreifftiau o sut mae cwotâu yn gallu gweithio, yn enwedig yng nghyd-destun y math o system etholiadol gyfrannol rhestr gaeedig y bwriedir ei defnyddio ar gyfer etholiadau’r Senedd.
Cynigiodd dau ymatebydd y gallai pleidiau gwleidyddol ymrwymo i siarter wirfoddol er mwyn dangos yn gyhoeddus eu hymrwymiad i gwotâu gwirfoddol.
Teimlai nifer bach o ymatebwyr, er bod cwotâu yn gam cadarnhaol yn y cyfeiriad cywir, y dylid ystyried cynlluniau eraill fel rhan o becyn ehangach o fesurau. Roedd syniadau ar gyfer camau eraill yn cynnwys hyfforddiant i staff pleidiau gwleidyddol ynghylch mynd i'r afael â rhwystrau rhag cymryd rhan, a pham mae cynrychiolaeth gyfartal yn bwysig; cynyddu gweithgarwch allgymorth a mentora i gynorthwyo pobl o grwpiau sydd wedi’u hymyleiddio, a mynd i'r afael â rhwystrau mewn prosesau dethol ymgeiswyr er mwyn denu menywod o amrywiaeth eang o gefndiroedd.
Gwnaed pwyntiau eraill gan ymatebwyr, gan gynnwys y canlynol:
- Mae angen asesiad llawn a phriodol o’r effaith er mwyn asesu sut mae’r diffyg diffiniad o dermau yn cael effeithiau niweidiol ar fenywod ac ar ‘ryw’, sy’n nodwedd warchodedig
- Dylai’r cysyniad o gwotâu gwirfoddol ar gyfer rhywedd fod yn eitem barhaus ar yr agenda a chael ei adolygu yn dilyn etholiad y Senedd yn 2026 fel rhan o broses yr adolygiad statudol ar gyfer pecyn ehangach diwygio’r Senedd
- Dylai staff pleidiau gwleidyddol gael hyfforddiant ar y model a nodir yn y canllawiau, gyda phwyslais ar bwysigrwydd y meini prawf lleoli
- Dylai’r canllawiau awgrymu bod pleidiau’n cymryd camau i sicrhau atebolrwydd dros gynrychiolaeth menywod drwy ymrwymo i gwotâu mewn maniffestos etholiadau, siarteri neu gyfansoddiadau pleidiau
- Dylid canolbwyntio ar gynorthwyo ymgeiswyr sy’n wynebu anfantais economaidd-gymdeithasol;
- Drwy roi statws gwarchodedig i fenywod, gellid ystyried bod hynny’n blaenoriaethu’r nodwedd warchodedig hon uwchlaw eraill
- O dan y gyfraith cydraddoldeb bresennol, gall pleidiau gwleidyddol hefyd ddefnyddio rhestrau byr ar gyfer ymgeiswyr anabl.
Cwestiwn 7: Yn eich barn chi, a oes mesurau eraill y gallai pleidiau gwleidyddol eu cymryd i sicrhau Senedd sy'n gytbwys o ran rhywedd? Os oes, beth ydyn nhw?
O blith y cyfanswm o 49 o ymatebwyr, ymatebodd 42 i Gwestiwn 7. Roedd ychydig dros hanner y rheini a atebodd (52%) naill ai’n fesurau ychwanegol arfaethedig neu gadarnhaol y gallai pleidiau gwleidyddol eu cymryd i sicrhau Senedd sy'n gytbwys o ran rhywedd.
Roedd nifer o’r ymatebwyr o’r farn y dylai pleidiau ystyried sut gallent gynorthwyo menywod sydd â chyfrifoldebau gofal plant a gofalu, yn ogystal â threfniadau gweithio’n hyblyg a pholisïau sy’n ystyriol o deuluoedd, gan gynnwys o ran y ffordd mae pleidiau’n trefnu eu cyfarfodydd – ee, drwy drefnu cyfarfodydd ymlaen llaw er mwyn gallu cynllunio a chylchdroi cyfarfodydd yn well. Yn ôl un ymatebydd, yn Sbaen mae gan lawer o bleidiau gynlluniau gweithredu ar rywedd sy’n datgan yn benodol bod rhaid i amseroedd dechrau a gorffen cyfarfodydd pleidiau ystyried cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith, ac maen nhw’n darparu gofal plant ac ystafelloedd chwarae yng nghyngresau a chynadleddau pleidiau. Pwysleisiodd rhai ymatebwyr bwysigrwydd darparu a/neu hyrwyddo rhaglenni mentora, hyfforddi a rhwydweithio i fenywod, gydag eraill yn pwysleisio’r angen i bleidiau feithrin partneriaethau â sefydliadau sy’n eirioli dros amrywiaeth a chydraddoldeb rhywedd a chymryd rhan mewn gweithgareddau allgymorth cynnar er mwyn sicrhau bod gan fwy o bobl gysylltiad â’r byd gwleidyddol.
Pwysleisiodd nifer o ymatebion bwysigrwydd sefydlu polisïau a rheolau ar gyfer pleidiau sy’n ceisio atal aflonyddu, ymddygiad bygythiol a thrais (gan gynnwys trais yn erbyn menywod ym myd gwleidyddiaeth), sy’n diogelu aelodau, deiliaid swyddi a staff, gyda phrosesau adrodd a chwyno clir yn cael eu gweinyddu gan gyrff / pwyllgorau cadarn. Fel cyflogwyr, awgrymwyd y gallai’r canllawiau a’r pleidiau gwleidyddol gyfeirio at ganllawiau Aflonyddu Rhywiol ac Aflonyddu yn y Gwaith: Canllawiau Technegol gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, a ddiweddarwyd yn ddiweddar. Awgrymwyd hefyd y dylai pleidiau sicrhau bod gan yr ymgeiswyr yr wybodaeth a’r adnoddau angenrheidiol i’w cadw eu hunain yn ddiogel ac i ymgyrchu’n hyderus. Gellid gwneud hyn drwy rannu canllawiau a hyfforddiant ar gyfathrebu a diogelwch yn ystod ymgyrchoedd, gan eu cysylltu ag adnoddau gan sefydliadau fel Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC), y Gymdeithas Llywodraeth Leol (CLlL), a’r elusen GLITCH, sy’n cynnig pecyn cymorth Fix the Glitch 3.0 – sy’n ceisio hyfforddi pleidiau i gynorthwyo ymgeiswyr sy’n profi aflonyddu – a phecynnau cymorth ar gyfer hunaniaeth, ac yn helpu ymgeiswyr i sefydlu mesurau diogelwch digidol yn ystod etholiadau. Nodwyd bod menywod mewn swyddi etholedig yn cael eu cam-drin a’u bygwth ar lefel anghymesur, yn enwedig ar-lein.
Dywedodd rhai ymatebwyr y dylai pleidiau sicrhau bod prosesau dethol ymgeiswyr yn brosesau clir, tryloyw ac amrywiol, a bod hynny’n cynnwys cael amrywiaeth ymysg y rheini o fewn y blaid sy’n dethol yr ymgeiswyr (y ‘detholwyr’). Dywedodd eraill fod cael cydraddoldeb rhywedd mewn swyddi o fewn pleidiau yn gyffredinol yr un mor bwysig â chael cydraddoldeb rhywedd ymysg ymgeiswyr ac aelodau etholedig, ac y dylai pleidiau ystyried rhaglenni arweinyddiaeth ar gyfer menywod a grwpiau eraill sy’n cael eu tangynrychioli yn gyffredinol.
Cyflwynwyd llawer o syniadau eraill gan ymatebwyr ynghylch y camau y gallai pleidiau eu cymryd i ddenu a chadw mwy o ymgeiswyr sy’n fenywod, gan gynnwys y canlynol:
- Gweithio mewn partneriaeth â’r rheini sydd â phrofiad uniongyrchol er mwyn sicrhau bod polisïau ac arferion yn effeithiol
- Ymgysylltu â grwpiau ac unigolion sydd eisoes yn ymwneud â materion cymdeithasol a gwleidyddol er mwyn chwilio am unigolion llawn cymhelliant i fod yn ymgeiswyr
- Sicrhau bod deunyddiau ymgeisio i ymgeiswyr yn hygyrch ac yn gynhwysol
- Darparu mwy o gymorth ariannol i ymgeiswyr (gofal plant, trafnidiaeth a chostau colli cyfle ar gyfer ymgeiswyr aflwyddiannus)
- Pennu amserlen ar gyfer cyhoeddi strategaeth Amrywiaeth a Chynhwysiant sy’n gallu creu cymhelliant i hybu cynrychiolaeth (amrywiol) o fenywod
- Creu cymhellion a chosbau mewnol am beidio â chydymffurfio
- Mabwysiadu dull gweithredu wedi’i dargedu ac ymgyrchu i annog a chynorthwyo ymgeiswyr sy’n fenywod sy’n dod o gefndiroedd ethnig leiafrifol, sydd wir yn cael eu tangynrychioli yng ngwleidyddiaeth Cymru
- Ceisio cael amrywiaeth o ran ffydd ar restrau pleidiau, gydag ymgeiswyr amrywiol yn cael eu gosod mewn safleoedd y gellir eu hennill ar restrau.
Ailadroddodd nifer o ymatebwyr rai o’r pwyntiau yr oeddent wedi’u gwneud wrth ymateb i gwestiynau cynharach, gan nodi eu gwrthwynebiad i ddefnyddio’r term rhywedd yn y canllawiau drafft ar y sail nad oes iddo ystyr yn y gyfraith. Roedd yr ymatebwyr hyn o’r farn bod ‘rhyw’ (fel y’i diffinnir gan Ddeddf Cydraddoldeb 2010) yn derm mwy priodol, yn enwedig er mwyn osgoi unrhyw ddynion yn hunanddiffinio eu hunain yn fenywod neu fenywod yn hunanddiffinio eu hunain yn ddynion at ddiben y cwotâu gwirfoddol ar gyfer rhywedd. Awgrymodd un ymatebydd y gallai defnyddio iaith sy’n seiliedig ar ryw wneud i rai menywod deimlo’n fwy diogel a’u bod yn cael eu parchu’n well. Dywedodd ymatebydd arall fod y ffordd mae ideoleg rhywedd yn cael ei thrafod a’i gorfodi yn gwneud i bobl beidio â bod eisiau cymryd rhan mewn gwleidyddiaeth – yn enwedig dynion hoyw a lesbiaid (ifanc). Roedd y sefydliad hwn o’r farn y dylai’r canllawiau gynnwys mwy o iaith glir, ac yn argymell yn gryf i bleidiau wneud hynny.
Roedd un rhanddeiliad o’r farn y dylai pleidiau fabwysiadu dull gweithredu llai deuaidd wrth lunio eu rhestrau, gan gadw llefydd i ymgeiswyr sy’n fenywod/ymgeiswyr nad ydynt yn fenywod wrth weithredu cwotâu gwirfoddol ar gyfer rhywedd. Roedd yr ymatebydd yma hefyd o’r farn y dylid rhoi cefnogaeth briodol i bob ymgeisydd wedi’i ymyleiddio sy’n profi gwahaniaethu neu aflonyddu o unrhyw ffynhonnell.
Yn ôl nifer bach o ymatebwyr, i ba raddau y mae unigolyn yn gymwys i ymgymryd â’i rôl yw'r elfen bwysicaf y dylid ei hystyried yn hytrach nag unrhyw hunaniaeth benodol, ac na ddylid rhoi blaenoriaeth i rywedd dros unrhyw nodwedd arall.
Cwestiwn 8: Yn eich barn chi, beth fyddai effeithiau tebygol y canllawiau ar y Gymraeg? Yn arbennig, mae gennym ddiddordeb mewn unrhyw effeithiau tebygol ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.
Yn eich barn chi, a oes cyfleoedd i hyrwyddo unrhyw effeithiau cadarnhaol?
Yn eich barn chi, a oes cyfleoedd i liniaru unrhyw effeithiau negyddol?
O blith y 49 o ymatebwyr, gwnaeth 25 sylwadau ar Gwestiwn 8, gan ddatgan cefnogaeth i’r canllawiau yn ogystal â phryderon ynghylch eu heffeithiolrwydd posibl o ran y Gymraeg. Yn gyffredinol, fe wnaeth 63% o’r rheini a ymatebodd i’r cwestiwn hwn wneud sylwadau cadarnhaol.
Mynegodd nifer o ymatebwyr y farn y byddai’r canllawiau’n gyfle i hyrwyddo’r Gymraeg, yn annog pleidiau gwleidyddol i ymgysylltu â chymunedau Cymraeg, ac yn cynyddu cyfranogiad dwyieithog mewn prosesau gwleidyddol.
Awgrymodd nifer o ymatebwyr y byddai sicrhau bod yr holl ddeunyddiau, arolygon a deunydd cyfathrebu ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg yn hybu cynhwysiant ac yn normaleiddio defnyddio’r Gymraeg mewn gwahanol leoliadau. Roedd rhywfaint o ymatebwyr o’r farn y dylai pleidiau gwleidyddol gynnig cyrsiau Cymraeg yn fewnol ac adnoddau hyfforddiant dwyieithog i ymgeiswyr a’r cyhoedd er mwyn annog mwy o ddefnydd o’r Gymraeg.
Mynegodd nifer o ymatebwyr y farn y dylid parhau i roi pwyslais ar gynnwys iaith fel ystyriaeth yng nghyswllt cydraddoldeb ac y dylid cynnwys y Gymraeg mewn dull croestoriadol, i sicrhau nad yw cyfleoedd iaith yn cael eu gweld fel rhwystr ac i hyrwyddo’r cyfleoedd i’r rheini sydd â diddordeb mewn ceisio cael eu hethol.
Dywedodd nifer o’r ymatebwyr na fyddai’r canllawiau yn cael unrhyw effeithiau niweidiol ar y Gymraeg, ac roedd rhai’n cwestiynu perthnasedd ac effeithiolrwydd y canllawiau o ran hyrwyddo’r Gymraeg.
Dyma rai o’r sylwadau eraill a wnaed wrth ymateb i’r cwestiwn hwn:
- Dylai’r canllawiau bwysleisio pwysigrwydd sicrhau bod y Gymraeg yn rhywbeth sydd o fewn cyrraedd ymgeiswyr posibl o gefndiroedd ethnig leiafrifol, ac amlinellu’r angen i’w hannog a'u helpu i ddysgu Cymraeg os ydyn nhw’n dymuno, a’u croesawu at yr iaith.
- Mae cydnabod a hyrwyddo’r amrywiaeth o ieithoedd cymunedol sy’n cael eu siarad yng Nghymru, ochr yn ochr â’r Gymraeg a’r Saesneg, yn cael ei ystyried yn rhywbeth buddiol ar gyfer cynhwysiant cymdeithasol
- Yr angen am adnoddau digonol i sicrhau bod modd darparu gwybodaeth ddwyieithog;
- Mae gormod o arian yn cael ei wario ar y Gymraeg ar draul gwasanaethau hanfodol eraill fel addysg, iechyd a gofal cymdeithasol
- Dylai’r Gymraeg gael ei hyrwyddo’n bennaf drwy gyllid cymunedol ac ysgolion;
- Pwysigrwydd sicrhau cydraddoldeb rhwng y Gymraeg a’r Saesneg
- Byddai’n destun pryder pe bai ymgeiswyr posibl sydd â nodweddion gwarchodedig yn dioddef gwahaniaethu oherwydd eu bod yn methu siarad Cymraeg, neu oherwydd nad yw’r Gymraeg yn rhywbeth sydd o fewn eu cyrraedd
- Byddai’n destun pryder pe bai’r ymgyrch i sicrhau mwy o siaradwyr Cymraeg yn cael effaith niweidiol, a fyddai’n golygu bod llai o bobl sydd wedi’u geni yng Nghymru, sy’n methu siarad Cymraeg, yn cymryd rhan mewn gwleidyddiaeth.
Cwestiwn 9: Yn eich barn chi, a ellid llunio neu newid y canllawiau er mwyn gwneud y canlynol:
sicrhau effeithiau cadarnhaol neu ragor o effeithiau cadarnhaol o ran defnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg; neu
liniaru unrhyw effeithiau negyddol o ran defnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg?
O blith y 49 o ymatebwyr, gwnaeth 21 sylwadau ar Gwestiwn 9, gyda llawer o sylwadau’n adlewyrchu’r ymatebion a roddwyd i Gwestiwn 8. Cafwyd ymatebion cadarnhaol gan tua hanner (48%) yr ymatebwyr, gyda’r rhan fwyaf yn cynnig awgrymiadau.
Dyma rai o’r sylwadau ychwanegol a wnaed gan ymatebwyr:
- Dylai’r Gymraeg fod yn rhan o’r Meysydd Dysgu a Phrofiad – Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu;
- At ddibenion adnoddau, mae angen ffordd fwy ymarferol o annog pobl i ddefnyddio’r Gymraeg, gan dderbyn mai Saesneg yw’r iaith gyntaf a ddefnyddir gan Gynghorau a’r Senedd yn gyffredinol
- Angen sicrhau nad yw’r broses o ddethol ymgeiswyr yn seiliedig ar iaith nac ar unrhyw nodweddion gwarchodedig
- Dylid cael cydraddoldeb rhwng yr ieithoedd i sicrhau nad yw terminoleg yn cael ei newid na’i thrin yn llai ffafriol wrth gyfieithu
- Pwysigrwydd peidio ag eithrio’r rheini sy’n dod i Gymru ac yn siarad Saesneg neu Gymraeg fel ail neu drydedd iaith.
Dyma’r sylwadau penodol a wnaed am y canllawiau:
- Gallai’r canllawiau gynnwys camau gweithredu penodol sy’n annog ymgysylltu dwyieithog ym mhob gweithgarwch gwleidyddol, yn cefnogi cyfryngau Cymraeg, yn darparu adnoddau i siaradwyr Cymraeg, ac yn darparu cymorth dwyieithog i ddysgwyr Cymraeg neu’r rheini nad oes ganddynt brofiad o'r Gymraeg er mwyn helpu i bontio’r bwlch iaith a hybu cynhwysiant
- Dylai’r canllawiau gynorthwyo pleidiau gwleidyddol i gyfathrebu’n effeithiol yn Gymraeg, yn Saesneg ac mewn ieithoedd cymunedol
- Byddai cyllid ar gyfer gwasanaethau cyfieithu yn galluogi mudiadau gwirfoddol i wella'r ymgysylltiad â deunyddiau Cymraeg a mynediad atynt o fewn cymunedau sy’n cael eu tangynrychioli
- Dylid rhoi mesurau ar waith i helpu ymgeiswyr sy’n dysgu Cymraeg neu nad ydynt yn siarad yr iaith er mwyn sicrhau eu bod yn gallu cyfathrebu’n ddwyieithog, ar lafar ac ar bapur, yn unol ag ymgeiswyr sy’n gallu defnyddio’r Gymraeg yn hyfedr
- Dylid mynd ati i integreiddio dwyieithrwydd ym mhob cam, gan gynnwys prosesau arolygu, hyfforddiant ac allgymorth er mwyn creu mwy o effeithiau cadarnhaol.
Cwestiwn 10: Rydym wedi gofyn nifer o gwestiynau yn ymwneud â gwahanol rannau'r canllawiau. A oes gennych chi unrhyw sylwadau eraill am y canllawiau yr hoffech eu rhannu â ni?
O blith y 49 o ymatebwyr, ymatebodd 39 i Gwestiwn 10, gydag oddeutu hanner yn defnyddio’r cyfle i ymhelaethu ar eu hatebion i rai o gwestiynau eraill yr ymgynghoriad, drwy gynnig syniadau am sut gellid gwella’r canllawiau ymhellach yn ogystal â chynnig awgrymiadau ynghylch camau eraill y gellid eu cymryd i gefnogi’r nod cyffredinol o sicrhau mwy o amrywiaeth a chynhwysiant ymysg cynrychiolwyr etholedig. Roedd y syniadau’n cynnwys:
- Proses y gellid ei defnyddio i ddal pleidiau gwleidyddol yn atebol am eu cyfraniad at amrywiaeth a chynhwysiant, er enghraifft drwy drafodaeth wleidyddol a chyhoeddus ehangach a allai fod ar ffurf sesiwn pwyllgor neu ddadl gan y llywodraeth
- Cyfyngu ar ba mor hir y gall un person fod yn Aelod o’r Senedd er mwyn rhoi cyfle i’r aelodaeth gael ei hadnewyddu’n organig dros amser
- Cynlluniau mentora ar gyfer ymgeiswyr sy’n dod o grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli
- Cynlluniau cymorth ariannol i helpu’r rheini sy’n dod o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol isel;
- Dylai Llywodraeth Cymru ystyried cefnogaeth, hyfforddiant ac adnoddau parhaus i sicrhau eu bod yn cael eu rhoi ar waith yn llwyddiannus ar draws pob plaid
- Dylai pleidiau gwleidyddol ymgysylltu mwy â grwpiau lleiafrifol er mwyn mynd i'r afael â thangynrychiolaeth ymysg unigolion â photensial nad ydynt yn gallu dychmygu eu hunain mewn rôl etholedig
- Ymchwil bellach i’r rhwystrau y mae ymgeiswyr o gefndiroedd amrywiol yn eu hwynebu
- Cyhoeddi data amrywiaeth ar wefan annibynnol er mwyn llywio meincnodau a dadansoddiad cymharol
- Datblygu canllawiau diogelu ar gyfer ymgeiswyr o garfannau ymylol
- Diwygio Deddf Cydraddoldeb 2010 i ganiatáu rhestrau byr sy’n cynnwys dim ond lleiafrifoedd ethnig.
Er bod llawer o ymatebwyr yn croesawu’r canllawiau, roedd gan rai ymatebwyr amheuon amdanynt. Dyma rai o’r sylwadau:
- Os na fydd y canllawiau’n cael eu gorfodi, etholadwyedd fydd bob amser yn cael blaenoriaeth gan bleidiau gwleidyddol
- Mae cyfran sylweddol o ymgeiswyr Llywodraeth Leol yn ymgeiswyr annibynnol, neu does ganddyn nhw ddim ymlyniad wrth blaid wleidyddol
- Dylai’r canllawiau adlewyrchu’r Amcanion Cydraddoldeb Cenedlaethol – yn enwedig Amcan 5
- Er y bydd gan bleidiau mwy y modd i gyflwyno prosesau monitro ac arferion cydraddoldeb o bosibl, gallai pleidiau llai fod dan anfantais wrth fodloni’r canllawiau
- Dylai Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb fod wedi cael ei gyhoeddi ochr yn ochr â deunyddiau’r ymgynghoriad
- Roedd y canllawiau drafft yn rhy gymhleth, a doedd hi ddim yn hawdd dod o hyd i’r wybodaeth roedden nhw am ei gweld;
- Dylid gwahanu Amrywiaeth a Chynhwysiant, gyda diffiniadau clir o’r pwrpas a’r amcanion sy'n berthnasol i bob cysyniad
- Mae angen ystyried elfennau GDPR y canllawiau yn ofalus er mwyn osgoi torri safonau diogelu data neu hawliau preifatrwydd yn anfwriadol, yn enwedig wrth ddelio â gwybodaeth ddemograffig sensitif
- Dylai Llywodraeth Cymru lunio canllawiau manwl ynghylch cadw lleoedd ar gyfer grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol ar wahân i fenywod
- Ni fyddai’r canllawiau ar gael yn ddigon cynnar i gael yr effaith a ddymunir ar bleidiau cyn etholiad y Senedd yn 2026. Dylai pleidiau fabwysiadu strategaethau amrywiaeth a chynhwysiant cyn gynted â phosibl er mwyn osgoi sefyllfa lle bydd y Seithfed Senedd yn cynnwys llai o fenywod a grwpiau eraill sy’n cael eu tangynrychioli.
8. Mwy o wybodaeth
Trosolwg
ISBN: 978-1-83715-425-8
Roedd yr ymgynghoriad yn gofyn am farn ar ganllawiau drafft Llywodraeth Cymru ar amrywiaeth a chynhwysiant ar gyfer pleidiau gwleidyddol cofrestredig. Bwriad y ddogfen hon yw rhoi crynodeb o’r ymatebion i’r ymgynghoriad, ac ni ddylid ystyried ei bod yn cynrychioli’r holl adborth a gafwyd.
Camau i’w Cymryd
Mae'r ddogfen hon er gwybodaeth yn unig.
Fformatau amgen
Gellir gwneud cais am fersiynau o’r ddogfen hon mewn print bras, mewn Braille neu mewn ieithoedd eraill.
Copïau ychwanegol
Cyhoeddir y crynodeb hwn o'r ymatebion a chopïau o'r holl ddogfennau ymgynghori ar ffurf electronig yn unig a gellir eu gweld ar wefan Llywodraeth Cymru.
Dolen at y ddogfen ymgynghori: Canllawiau amrywiaeth a chynhwysiant ar gyfer pleidiau gwleidyddol cofrestredig ar LLYW.CYMRU
Manylion cyswllt
Rhagor o wybodaeth:
Is-adran Diwygio’r Senedd
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
E-bost: diwygiorsenedd@llyw.cymru
Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.
