Canllawiau ar ddylunio safleoedd Sipsiwn a Theithwyr - Pennod 2: darparu safleoedd
Canllawiau i awdurdodau lleol ynghylch dylunio a gwella safleoedd Sipsiwn a Theithwyr.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Mae'r bennod hon yn amlinellu cyfrifoldeb yr awdurdod lleol dros sicrhau bod safleoedd digonol yn cael eu darparu ar gyfer y gymuned Sipsiwn a Theithwyr. Mae hefyd yn esbonio pa Grantiau Cyfalaf Safleoedd sydd ar gael, a’r cyllid a ddarperir gan Lywodraeth Cymru i awdurdodau lleol ar gyfer datblygu safleoedd newydd ac adnewyddu safleoedd presennol. Darperir rhagor o gymorth drwy ddarpariaeth canllawiau cynllunio a thai Llywodraeth Cymru a gan grwpiau rhanddeiliaid allanol.
Mae’r galw am leiniau ar safleoedd awdurdodau lleol yn fwy na nifer y lleiniau sydd ar gael. Ar ddyddiad cyhoeddi'r canllawiau hyn, roedd angen o leiaf 277 o leiniau preswyl parhaol ledled Cymru, yn ogystal â mannau aros a safle tramwy ychwanegol dros dro/wedi’u negodi.
Cafodd y ffigur hwn ei nodi drwy ddadansoddi Asesiadau Llety Sipsiwn Teithwyr Cylch 2 awdurdodau lleol (GTAA). Mae Cylch 2 GTAA yn cwmpasu’r cyfnod (25 Chwefror 2016 i 24 Chwefror 2022). Disgwylir y bydd GTAA Cylch 3 (ar gyfer y cyfnod 25 Chwefror 2022 i 24 Chwefror 2027) yn cael eu cyflwyno erbyn Chwefror 2027.
Y ddyletswydd i ddarparu safleoedd
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau cyfle cyfartal i bawb ac mae’n credu’n gryf y dylai pawb yn y gymdeithas yng Nghymru gael mynediad i gartref o ansawdd da, p’un ai a yw hynny’n llety cartref symudol neu dai brics a morter.
Mae Deddf Tai (Cymru) 2014 yn gosod dyletswydd statudol ar awdurdodau lleol i sicrhau bod anghenion llety Sipsiwn a Theithwyr yn cael eu hasesu’n briodol. Mae’n ofynnol hefyd i awdurdodau lleol arfer eu pwerau o dan adran 56 o Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru), cyn belled ag y bo angen, i ddarparu safleoedd Sipsiwn a Theithwyr ar gyfer yr angen nas diwallwyd. Mae rhagor o wybodaeth am ddeall asesiadau anghenion llety ar gael yn nogfen Llywodraeth Cymru Cynnal Asesiadau o Anghenion Llety Sipsiwn a Theithwyr: canllawiau.
Er bod y ddogfen hon yn darparu canllawiau ar gyfer dylunio safleoedd awdurdodau lleol yng Nghymru, gallai hefyd fod yn ddefnyddiol eu hystyried wrth greu safleoedd preifat newydd sydd i'w prydlesu i Sipsiwn a Theithwyr. Fodd bynnag, efallai y bydd awdurdodau lleol hefyd yn dymuno ystyried gweithio gyda chymunedau Sipsiwn a Theithwyr i gefnogi'r gwaith o ddatblygu safleoedd preifat newydd. Gall hyn gynnwys helpu aelodau'r gymuned i ddeall sut mae gofyn am ganiatâd cynllunio a sicrhau bod tir sy'n cael ei brynu yn addas at ddibenion cynllunio. Mae'n bwysig cymryd rhan yn y broses gynllunio'n gynnar i sicrhau bod y tir sy'n cael ei brynu yn cyd-fynd â pholisi cynllunio, gan gynnwys argraffiad diweddaraf Polisi Cynllunio Cymru a'r Cynllun Datblygu Lleol perthnasol. Mae hyn yn hanfodol er mwyn sicrhau bod tir sy'n cael ei brynu yn gallu cael caniatâd cynllunio i'r graddau mwyaf posibl ac nad yw'n waith ofer nac yn arwain at gostau ariannol. Dylai awdurdodau lleol hefyd gyfeirio aelodau'r gymuned at y contract Eiriolaeth a Chyngor a ariennir gan Lywodraeth Cymru sy'n gallu cefnogi aelodau'r gymuned ar faterion sy'n ymwneud â thai a safleoedd.
Mae cylchlythyr cynllunio 005/2018 Cynllunio ar gyfer Safleoedd Sipsiwn, Teithwyr a Siewmyn gan Lywodraeth Cymru yn darparu arweiniad i awdurdodau lleol wrth geisio canfod lleoliadau addas ar gyfer safleoedd yn eu Cynlluniau Datblygu Lleol statudol. Fel ymgynghorai statudol ar gyfer pob Cynllun Datblygu Lleol, bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi adborth i awdurdodau cynllunio lleol yng nghyswllt sut maent wedi diwallu'r anghenion Sipsiwn a Theithwyr y maent wedi’u nodi.
Mae’r cylchlythyr cynllunio yn amlinellu pwysigrwydd:
- cynnwys Sipsiwn a Theithwyr yn rhagweithiol yn y GTAA a’r broses gynllunio drwy Gynlluniau Cynnwys y Gymuned wrth baratoi Cynlluniau Datblygu Lleol a sicrhau bod cyfathrebu’n uniongyrchol ac yn hygyrch
- ystyried cynaliadwyedd posibl y safle, gan gynnwys mynediad at gyfleusterau cymunedol addas ar gyfer y rhai sy’n byw yno
- canllawiau i Sipsiwn a Theithwyr sy’n gwneud ceisiadau cynllunio
- awdurdodau cynllunio lleol yn nodi lleoliadau addas yn eu Cynllun Datblygu Lleol ar gyfer safleoedd parhaol a thramwy sy’n diwallu anghenion Sipsiwn a Theithwyr
- cynnwys polisi sy’n seiliedig ar feini prawf yn y Cynllun Datblygu Lleol a fydd yn darparu sail resymegol glir a theg ar gyfer penderfynu ar geisiadau cynllunio
- cyfrifoldebau awdurdodau lleol dan ddeddfwriaeth Cydraddoldeb a Hawliau Dynol a chyfraith achosion
Gyda’i gilydd, nod canllawiau Llywodraeth Cymru ‘Cynnal Asesiadau o Anghenion Llety Sipsiwn a Theithwyr’, y canllawiau hyn a’r canllawiau ‘Rheoli Safleoedd Sipsiwn a Theithwyr yng Nghymru’, yw darparu’r adnoddau sydd eu hangen ar awdurdodau lleol i ymgymryd â’r Asesiadau o Anghenion Llety Sipsiwn a Theithwyr (GTAA) ac i ddiwallu’r anghenion a nodwyd o ran lleiniau.
Gall darparu safleoedd addas yn briodol leihau'r risg o wersylloedd diawdurdod. Gellir darparu’r rhain drwy safleoedd awdurdodau lleol, mannau aros dros dro/a negodwyd neu safleoedd tramwy (gweler dogfen Llywodraeth Cymru Canllawiau ar Reoli Gwersylla Diawdurdod). Mae darparu mwy o safleoedd, boed yn safleoedd awdurdodau lleol, mannau aros preifat neu dros dro/a negodwyd, yn gyfrifoldeb ar bob awdurdod lleol yng Nghymru, sydd â dyletswydd i ddod o hyd i atebion lleol ar gyfer anghenion lleol. Mae darparu llety priodol hefyd yn cael effaith gadarnhaol ar fynediad at wasanaethau i Sipsiwn a Theithwyr ac yn cael effaith fanteisiol ar y gymdeithas ehangach drwy well cydlyniant cymunedol a llai o wersylloedd diawdurdod.
Y grant cyfalaf safleoedd
Mae Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid i awdurdodau lleol ar gyfer datblygu lleiniau a safleoedd newydd, gan gynnwys adnewyddu safleoedd awdurdodau lleol presennol drwy'r Grant Cyfalaf Safleoedd.
Mae’r cyllid hwn hefyd ar gael ar gyfer safleoedd tramwy yn ogystal â mannau aros dros dro/wedi eu negodi. Dylai awdurdodau lleol sy’n bwriadu gwneud cais am gyllid Grant Cyfalaf Safleoedd ymgynghori â Llywodraeth Cymru ar eu cynlluniau yn gynnar i weld a fydd y cynnig yn gymwys.
Fel yr amlinellwyd yn y cylchlythyr ‘Cynllunio ar gyfer Safleoedd Carafanau Sipsiwn a Theithwyr’, rhaid i safleoedd fod ar gael i’w defnyddio fel safleoedd Sipsiwn a Theithwyr am o leiaf 21 mlynedd er mwyn bod yn gymwys i gael cyllid Grant Cyfalaf ar gyfer Safleoedd.
