Canllawiau ar gwricwla lleol 16 i 18: asesiad effaith integredig
Asesiad effaith integredig ar canllawiau ar gwricwla lleol 16 i 18.
Ar y dudalen hon
Adran 1: pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu hystyried a pham
Cefndir
Cyflwynwyd cwricwla lleol i ddysgwyr rhwng 16 ac 18 oed drwy Fesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009 a chânt eu llunio ar hyn o bryd o dan ddyletswyddau sydd wedi'u cynnwys yn Neddf Dysgu a Sgiliau 2000. Mae cwricwlwm lleol yn cynnwys yr amrywiaeth o gyrsiau cyffredinol a galwedigaethol sydd ar gael i ddysgwyr mewn ardal leol, y gall fod gan ddysgwyr yr hawl i'w ddilyn yn amodol ar rai amodau penodol. Cyhoeddwyd y canllawiau statudol presennol ar gwricwla lleol gan Weinidogion Cymru yn 2014.
Sefydlodd Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 Medr (y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil), fel y corff strategol sy'n gyfrifol am oruchwylio a chydlynu addysg drydyddol a hyfforddiant yng Nghymru. O fis Ebrill 2026 ymlaen, trosglwyddodd y cyfrifoldeb dros lunio cwricwla lleol o Weinidogion Cymru i Medr. O ganlyniad i'r trosglwyddiad hwnnw, mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu canllawiau statudol newydd sy'n nodi'r fframwaith cyfreithiol ar gyfer cwricwla lleol a'i disgwyliadau polisi ar gyfer sut y dylai Medr arfer y swyddogaethau hyn.
Nid yw'r canllawiau hyn yn cyflwyno cwricwla lleol fel polisi newydd. Yn hytrach, maent yn diweddaru ac yn disodli'r canllawiau blaenorol gan ystyried cyfrifoldebau newydd Medr a'r diwygiadau ehangach i addysg ôl-16 sy'n deillio o'r Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil.
Y Cynnig
Mae'r cynnig sy'n cael ei asesu yn ymwneud â chyhoeddi canllawiau statudol i Medr ar lunio cwricwla lleol 16 i 18. Mae'r canllawiau yn nodi disgwyliadau Llywodraeth Cymru y dylai Medr, wrth gyflawni ei ddyletswyddau, gydweithio ag awdurdodau lleol, ysgolion ag adrannau chweched dosbarth a sefydliadau addysg bellach i ddatblygu cwricwla lleol sydd:
- wedi'u llywio gan lais dysgwyr a'r galw gan ddysgwyr
- yn cefnogi cynnydd o addysg cyn-16 i addysg, hyfforddiant a chyflogaeth ôl-16
- yn darparu mynediad at amrywiaeth eang o lwybrau academaidd a galwedigaethol
- yn cynnwys amrywiaeth briodol o ddarpariaeth islaw Lefel 3
- yn adlewyrchu blaenoriaethau sgiliau ac anghenion y farchnad lafur yn lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol
- yn helpu i gynyddu cyfranogiad a chynnydd
- yn atgyfnerthu mynediad at ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg a dwyieithog
- yn adeiladu ar ddyheadau ehangach y Cwricwlwm i Gymru wrth i ddysgwyr symud i mewn i leoliadau dysgu ôl-16 mwy arbenigol
Mae'r canllawiau hefyd yn nodi disgwyliadau Llywodraeth Cymru o ran cydweithio rhwng darparwyr, rôl ymgysylltu â dysgwyr wrth gynllunio'r cwricwlwm, cefnogi darpariaeth Gymraeg, statws cyfleoedd dysgu a phrofiadau ehangach o fewn rhaglenni astudio 16 i 18 oed, a'r dull y dylid ei fabwysiadu mewn perthynas â Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch a chymwysterau TGAU mewn Cymraeg, Saesneg a mathemateg.
Bydd y canllawiau yn llywio'r cwricwla lleol y bydd Medr yn eu llunio gyda chynllunwyr cwricwla yn ystod 2026 i 2027 i'w cyflwyno o fis Medi 2027, pan fydd y garfan gyntaf o ddysgwyr sydd wedi cwblhau addysg orfodol o dan y Cwricwlwm i Gymru yn symud i addysg ôl-16.
Datblygu polisi
Datblygwyd y canllawiau yn unol â'r pum ffordd o weithio yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.
Hirdymor
Mae'r canllawiau yn cefnogi gweledigaeth hirdymor ar gyfer dysgu 16 i 18 oed sy'n hyrwyddo cyfranogiad, cynnydd, addysg cyfrwng Cymraeg a chyfleoedd i bontio'n llwyddiannus i addysg drydyddol, hyfforddiant a chyflogaeth.
Atal
Drwy helpu i lunio cwricwla lleol eang, dewisiadau gwybodus gan ddysgwyr a llwybrau dilyniant clir, mae'r canllawiau yn cyfrannu at ymdrechion ehangach i leihau achosion o ymddieithrio a'r risg y bydd pobl ifanc yn dod yn unigolion nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET).
Integreiddio
Mae'r canllawiau yn cyd-fynd â diwygiadau ehangach gan gynnwys y Cwricwlwm i Gymru, y broses o roi'r Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil ar waith, polisi'r Gymraeg ac uchelgeisiau ehangach ar gyfer cyfranogiad a chynnydd ym maes addysg drydyddol.
Cydweithio
Sefydlwyd grŵp cyfeirio rhanddeiliaid er mwyn helpu i ddatblygu'r canllawiau. Roedd yr aelodau yn cynnwys Medr, awdurdodau lleol, ysgolion, sefydliadau addysg bellach, Gyrfa Cymru, Colegau Cymru, y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, CYDAG, Cymwysterau Cymru, Estyn, Prifysgolion Cymru, Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru, CLlLC, ac Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr. Defnyddiwyd adborth gan y grŵp hwn i lywio'r broses o ddatblygu a mireinio'r polisi cyn cynnal yr ymgynghoriad cyhoeddus.
Cyfranogi
Cynhaliwyd ymarfer ymgynghori ac ymgysylltu cyhoeddus ar y canllawiau gan gynnwys amrywiaeth eang o randdeiliaid. Cafodd safbwyntiau dysgwyr eu hadlewyrchu drwy Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr, a oedd yn rhan o'r grŵp cyfeirio rhanddeiliaid, a thrwy'r gwaith ymgysylltu â dysgwyr a gynhaliwyd fel rhan o waith diwygio ôl-16 cysylltiedig. Defnyddiwyd ymatebion i'r ymgynghoriad ac adborth gan randdeiliaid i lywio diwygiadau i'r canllawiau terfynol.
Effaith
Disgwylir mai prif effaith y cynnig fydd darparu mwy o eglurder a chysondeb ynghylch sut y dylai Medr arfer ei swyddogaethau mewn perthynas â chwricwla lleol. Bwriedir i'r canllawiau helpu i ddatblygu cwricwla lleol sy'n adlewyrchu'r galw gan ddysgwyr, yn cefnogi cynnydd, yn darparu mynediad at lwybrau academaidd a galwedigaethol, ac yn atgyfnerthu cyfleoedd i ddysgwyr barhau i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg.
Disgwylir hefyd i'r canllawiau gefnogi trefniadau mwy cyson ar gyfer ystyried ehangder y cwricwlwm, cynnydd dysgwyr, darpariaeth cyfrwng Cymraeg, lefelau ymgysylltu dysgwyr a gwybodaeth am y farchnad lafur wrth lunio cwricwla lleol. Er bod yr ymatebion i'r ymgynghoriad wedi nodi heriau yn ymwneud â gweithredu, gan gynnwys capasiti'r gweithlu, hygyrchedd a chydweithio, mae'r rhain i raddau helaeth yn adlewyrchu materion system gyfan sy'n bodoli eisoes yn hytrach nag effeithiau uniongyrchol sy'n deillio o'r canllawiau eu hunain. Mae'r ystyriaethau hyn wedi llywio diwygiadau i'r canllawiau terfynol.
Arbedion cost
Ni ragwelir unrhyw arbedion cost uniongyrchol o ganlyniad i'r canllawiau. Fodd bynnag, gallai'r canllawiau helpu darparwyr i gydweithio mewn ffordd fwy effeithiol a sicrhau bod y ddarpariaeth yn cyd-fynd yn well â'r galw gan ddysgwyr ac anghenion y farchnad lafur. Bydd unrhyw arbedion a gaiff eu gwireddu yn dibynnu ar amgylchiadau a threfniadau gweithredu lleol.
Adran 8: casgliad
Sut y mae pobl y mae’r cynnig fwyaf tebygol o effeithio arnynt wedi’u cynnwys yn y gwaith o’i ddatblygu
Datblygwyd y canllawiau ar gwricwla lleol 16 i 18 drwy waith ymgysylltu helaeth â rhanddeiliaid sy’n ymwneud â chynllunio a chyflwyno addysg a hyfforddiant ôl-16 yng Nghymru. Cyn ymgynghori, sefydlodd Llywodraeth Cymru grŵp cyfeirio rhanddeiliaid er mwyn helpu i lywio cynnwys y canllawiau a phrofi cynigion polisi a oedd yn dod i'r amlwg. Roedd yr aelodau yn cynnwys Medr, cynrychiolwyr awdurdodau lleol, arweinwyr ysgolion, sefydliadau addysg bellach, Gyrfa Cymru, Cymwysterau Cymru, Estyn, Colegau Cymru, y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, CYDAG, Prifysgolion Cymru, Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr.
Yn dilyn hynny, cafodd y canllawiau eu cyhoeddi er mwyn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus arnynt rhwng mis Chwefror a mis Mawrth 2026. Cafwyd ymatebion gan amrywiaeth eang o sefydliadau ac unigolion, gan gynnwys ysgolion, colegau, awdurdodau lleol, cyrff cynrychioliadol, undebau llafur a sefydliadau Cymraeg. Defnyddiwyd yr ymatebion i'r ymgynghoriad i lywio diwygiadau i'r canllawiau terfynol, yn enwedig mewn perthynas â hygyrchedd, cydweithio, darpariaeth cyfrwng Cymraeg, rolau a chyfrifoldebau, ac ystyriaethau gweithredu.
Cafodd safbwyntiau dysgwyr eu cynnwys drwy gyfranogiad Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr yn y grŵp cyfeirio rhanddeiliaid, gwaith ymgysylltu a gynhaliwyd drwy waith datblygu polisi cysylltiedig, gan gynnwys y Cais am Dystiolaeth ar addysg a hyfforddiant ôl-16, trafodaethau â dysgwyr, ac adborth a ddaeth i law drwy ohebiaeth a gweithgareddau ymgysylltu â rhanddeiliaid.
Beth yw'r effeithiau cadarnhaol a negyddol mwyaf arwyddocaol
At ei gilydd, disgwylir i'r cynnig gael effaith gadarnhaol arwyddocaol ar ddysgwyr drwy helpu i ddatblygu cwricwla lleol eang a chynhwysol sy'n adlewyrchu'r galw gan ddysgwyr, yn cefnogi cynnydd, ac yn darparu mynediad at lwybrau academaidd a galwedigaethol. Mae'r canllawiau yn rhoi mwy o eglurder ynghylch sut y dylai Medr arfer ei swyddogaethau mewn perthynas â chwricwla lleol a sut y dylai weithio gydag awdurdodau lleol, ysgolion a sefydliadau addysg bellach wrth lunio cwricwla lleol.
Disgwylir i'r canllawiau gyfrannu at gyfranogiad a chynnydd dysgwyr mewn ffordd gadarnhaol drwy hyrwyddo cynigion cwricwlwm sy'n adlewyrchu amrywiaeth eang o anghenion, dyheadau a mannau cychwyn dysgwyr. Maent yn rhoi pwyslais penodol ar lais dysgwyr, cynnydd o addysg orfodol, mynediad at ddarpariaeth islaw Lefel 3, a sicrhau y gall dysgwyr gael mynediad at lwybrau sy'n cefnogi eu huchelgeisiau ar gyfer y dyfodol.
Disgwylir hefyd i'r cynnig gael effeithiau cadarnhaol ar y Gymraeg drwy atgyfnerthu'r disgwyliadau ynghylch darpariaeth cyfrwng Cymraeg a dwyieithog, cefnogi parhad ieithyddol a sicrhau bod darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn cael ei hystyried yn briodol wrth lunio cwricwla lleol.
Ar y cyfan, roedd yr ymatebion i'r ymgynghoriad yn cefnogi'r weledigaeth a gynhwysir yn y canllawiau. Tynnodd ymatebwyr sylw at fanteision posibl cydweithio gwell, rolau a chyfrifoldebau cliriach, llwybrau cynnydd cryfach a chyfleoedd cwricwlwm ehangach i ddysgwyr.
Nododd rhai o’r ymatebwyr i’r ymgynghoriad hefyd heriau gweithredu yn ymwneud â chapasiti’r gweithlu, cydweithio, trafnidiaeth, hygyrchedd ac argaeledd darpariaeth mewn rhai ardaloedd. Mae'r rhain yn heriau sy'n bodoli eisoes yn y system ôl-16, yn hytrach nag effeithiau a gaiff eu creu gan y canllawiau eu hunain. Mae adborth o'r ymgynghoriad wedi llywio diwygiadau i'r canllawiau, gan gynnwys cyfeiriadau cryfach at hygyrchedd, cydweithio, darpariaeth cyfrwng Cymraeg ac ystyriaethau gweithredu.
Yn sgil yr effeithiau a nodwyd, sut bydd y cynnig yn cyfrannu cymaint â phosibl at ein hamcanion lles a'r saith nod lles a (neu) yn osgoi, lleihau, neu liniaru unrhyw effeithiau negyddol
Mae'r canllawiau yn cefnogi nifer o'r nodau llesiant, gan gynnwys Cymru fwy llewyrchus, Cymru fwy cyfartal, Cymru o gymunedau cydlynus a Chymru â diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu. Maent yn gwneud hyn drwy ddarparu fframwaith y gall Medr ei ddefnyddio i lunio cwricwla lleol sy'n cefnogi cyfranogiad, cynnydd, dewis gan ddysgwyr, addysg cyfrwng Cymraeg a chysondeb â sgiliau ac anghenion y farchnad lafur.
Er mwyn sicrhau cymaint o'r manteision hyn â phosibl, mae’r canllawiau yn pennu disgwyliadau clir o ran llais dysgwyr, ehangder y cwricwlwm, cyfleoedd i wneud cynnydd, cydweithio rhwng darparwyr, cynhwysiant a darpariaeth cyfrwng Cymraeg. Maent hefyd yn tynnu sylw at bwysigrwydd ystyried amgylchiadau lleol, hygyrchedd a'r galw gan ddysgwyr wrth lunio cwricwla lleol.
Er nad yw'r canllawiau eu hunain yn dileu'r heriau presennol fel rhwystrau trafnidiaeth, cyfyngiadau ar gapasiti'r gweithlu neu amrywiadau daearyddol yn y ddarpariaeth, cawsant eu hatgyfnerthu i sicrhau bod Medr a chynllunwyr cwricwla yn ystyried y materion hyn wrth gynllunio cwricwla lleol. Mae'r canllawiau hefyd yn atgyfnerthu pwysigrwydd cydweithio rhwng darparwyr a defnyddio dulliau cyflawni hyblyg lle y bo'n briodol.
Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i ymgysylltu â Medr wrth iddo arfer ei swyddogaethau mewn perthynas â chwricwla lleol, gan gynnwys mewn perthynas â chyfranogiad dysgwyr, darpariaeth cyfrwng Cymraeg a gweithredu'r canllawiau. Bydd hyn yn helpu i sicrhau y caiff yr effeithiau a nodwyd drwy'r broses asesu eu hystyried yn barhaus.
Sut y caiff effaith y cynnig ei monitro a’i gwerthuso wrth iddo fynd rhagddo ac ar ôl iddo gael ei gwblhau
Bydd gwaith monitro a gwerthuso yn digwydd yn bennaf drwy gyfrifoldebau statudol Medr mewn perthynas â llunio cwricwla lleol a'i drefniadau ehangach ar gyfer goruchwylio'r system addysg drydyddol. Bydd hyn yn cynnwys ystyried cyfranogiad dysgwyr, canlyniadau cynnydd, ehangder y cwricwlwm, darpariaeth cyfrwng Cymraeg a mynediad at gyfleoedd dysgu ledled Cymru.
Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i ymgysylltu â Medr ynghylch rhoi'r canllawiau ar waith ac arfer ei swyddogaethau mewn perthynas â chwricwla lleol. Fel rhan o'i drefniadau adrodd strategol a gweithredol ehangach, bydd Medr yn rhoi gwybodaeth i Lywodraeth Cymru a fydd yn helpu i oruchwylio cynnydd yn erbyn ei gyfrifoldebau a'i flaenoriaethau.
Bydd hyn yn galluogi Llywodraeth Cymru i ystyried a yw'r canllawiau yn cyfrannu at ei hamcanion bwriadedig, nodi unrhyw faterion sy'n dod i'r amlwg, a phenderfynu a fydd angen datblygu polisïau pellach neu wneud diwygiadau pellach i'r canllawiau yn y dyfodol.
