Canllawiau ar gwricwla lleol 16 i 18: asesiad o’r effaith ar gydraddoldeb
Asesiad o’r effaith ar gydraddoldeb ar canllawiau ar gwricwla lleol 16 i 18.
Ar y dudalen hon
Trosolwg
Disgwylir i'r cynnig hwn gael effaith gadarnhaol gymedrol ar gydraddoldeb, yn enwedig o ran gwella mynediad, cyfranogiad a chynnydd i ddysgwyr 16 i 18 oed. Mae'n helpu i ddatblygu cwricwla lleol eang a chynhwysol a ddylai ddarparu amrywiaeth ehangach o lwybrau academaidd a galwedigaethol.
Mae risgiau presennol a allai effeithio ar allu gwahanol grwpiau o ddysgwyr (yn enwedig y rhai sy'n byw mewn ardaloedd gwledig, o gefndiroedd difreintiedig, neu ag anghenion ychwanegol) i ymgymryd â llwybrau dysgu penodol, ond ni fydd y cynnig hwn yn gwaethygu'r risgiau hyn, ac mewn llawer o achosion, dylai eu gwella.
Yn ystod yr ymgynghoriad ar y canllawiau hyn, tynnwyd sylw at y rhwystrau sy'n atal dysgwyr rhag gallu manteisio ar ddarpariaeth leol, gan gynnwys argaeledd trafnidiaeth, allgáu digidol a gwahaniaethau o ran cyrhaeddiad blaenorol. Mae risg y bydd y materion hyn yn cael mwy o effaith ar ddysgwyr â nodweddion gwarchodedig, ond nid y canllawiau na'r polisi eu hunain fydd yn creu'r risgiau hyn. Yn hytrach, mae'r cynnig yn ceisio cyfyngu arnynt a'u lliniaru drwy osod disgwyliadau y bydd Medr yn gweithio gyda chynllunwyr cwricwla i lunio cynigion ar gyfer cwricwla lleol cynhwysol i ddysgwyr 16 i 18 oed sy'n cefnogi'r nod o sicrhau bod gan bob person ifanc, ni waeth beth fo'i gefndir, ei allu na'i uchelgais, lwybr ystyrlon i mewn i addysg bellach ac uwch, hyfforddiant a (neu) gyflogaeth.
Hyrwyddo Cydraddoldeb
Mae'r canllawiau ar gwricwla lleol 16 i 18 yn mynd ati i hyrwyddo cydraddoldeb mewn sawl ffordd ac maent yn rhoi ffocws allweddol ar gefnogi system addysg ôl-16 fwy hygyrch, cynhwysol a chydweithredol drwy ehangu cyfleoedd ar draws llwybrau academaidd a galwedigaethol, cefnogi dysgwyr ag anghenion a mannau cychwyn gwahanol, a sicrhau llwybrau cynnydd i bawb.
Mae'r canllawiau yn tynnu sylw at bwysigrwydd sicrhau bod cynnig cwricwlwm eang ar gael i ddysgwyr, gan gynnwys amrywiaeth briodol o gyrsiau islaw Lefel 3 er mwyn helpu i gefnogi amrywiaeth ehangach o ddysgwyr i barhau i ymgymryd ag addysg bellach a gwneud cynnydd ar y cyflymder addas ar eu cyfer. Gall hyn hefyd helpu dysgwyr i wneud cynnydd o ddarpariaeth Addysg Heblaw yn yr Ysgol neu Unedau Cyfeirio Disgyblion (UCDau) cyn-16 i leoliad addysg bellach, yn enwedig lle nad ydynt yn barod i ymgymryd â chymwysterau Lefel 3 ym mlwyddyn 12 eto.
Mae'r canllawiau hefyd yn tynnu sylw at y ffaith y gall cynigion cwricwlwm lleol ehangach helpu i gael gwared ar rwystrau sy'n atal dysgwyr ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) sy'n awyddus i barhau â'u haddysg mewn lleoliadau prif ffrwd rhag gwneud hynny. Gall hyn fod drwy ehangu’r cynnig lleol, drwy argaeledd atebion ar-lein neu drwy gynnig amrywiaeth o gyrsiau islaw Lefel 3.
Bydd cyrsiau ôl-16 cynhwysol hefyd o fudd i bobl ifanc sy'n wynebu rhwystrau sylweddol o ran ymgysylltu, sy'n cael eu cefnogi drwy'r Fframwaith Ymgysylltiad a Chynnydd Ieuenctid, gan eu hannog i ymgysylltu o'r newydd a'u galluogi i symud ymlaen i lwybr cynnydd priodol.
Bydd cydweithio yn rhan annatod o'r broses o gynyddu ehangder cynigion cwricwlwm lleol ac mae'r canllawiau hyn yn nodi pwysigrwydd hyn.
Yn ei gynllun strategol, mae Medr wedi ymrwymo i sicrhau bod pobl o grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol, gan gynnwys y rhai ag ADY, yn cael eu cynorthwyo i gael mynediad at y dysgu sy’n iawn iddynt hwy, drwy hybu dull gweithredu sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn. Mae dyletswydd statudol ar Medr i hybu cyfle cyfartal a chyfranogiad mewn addysg drydyddol. Mae'r cynnig hwn yn cefnogi'r ddyletswydd honno drwy ddull sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn o gynllunio a chyflwyno'r cwricwlwm. Bydd angen i Medr sicrhau y caiff anghenion dysgwyr ag ADY eu hystyried wrth wneud penderfyniadau. Wrth lunio cwricwla lleol 16 i 18, dylai Medr weithio gyda chynllunwyr cwricwla er mwyn i ddysgwyr ag ADY allu dod o hyd i gyrsiau sy'n cyd-fynd â'u haddysg hyd yn hyn mewn lleoliadau prif ffrwd.
Cofnod o Effeithiau yn ôl nodwedd warchodedig
| Nodwedd neu grŵp gwarchodedig | Beth yw effeithiau cadarnhaol neu negyddol y cynnig? | Rhesymau dros eich penderfyniad (gan gynnwys tystiolaeth) | Sut y byddwch yn lliniaru'r effeithiau?
|
|---|---|---|---|
| Oedran | Cadarnhaol | Ar ddysgwyr 16 i 18 oed mae'r brif effaith. Disgwylir i'r cynnig gael effaith gadarnhaol drwy wella mynediad at addysg a llwybrau cynnydd yn y cyfnod pontio allweddol hwn. Dim ond i Lwybrau 16 i 18 a chwricwla lleol fel y'u nodir ym Mesur Dysgu a Sgiliau 2000 y mae'r polisi hwn yn berthnasol. | Ddim yn gymwys: dim ond ar y nodwedd warchodedig hon y disgwylir i'r cynnig hwn gael effeithiau cadarnhaol. |
| Anabledd | Cadarnhaol | Disgwylir i'r cynnig hwn gael effaith gadarnhaol ar ddysgwyr ag anableddau, a fydd yn elwa ar gwricwlwm lleol eang sy'n canolbwyntio ar y dysgwr yn yr un ffordd ag unrhyw ddysgwr arall. Disgwylir i'r cynnig hwn hefyd gael effaith gadarnhaol ar ddysgwyr ag ADY. Mae'r canllawiau yn tynnu sylw at bwysigrwydd ehangu'r cynnig, gan gynnwys cyrsiau islaw Lefel 3, er mwyn galluogi dysgwyr ag ADY i barhau â'u hastudiaethau mewn lleoliadau prif ffrwd, wrth iddynt barhau i ddatblygu'r sgiliau sydd eu hangen arnynt i symud ymlaen i'r llwybrau a ddewiswyd ganddynt. Mae rhwymedigaethau Medr yn berthnasol i ysgolion a lleoliadau SAB; nid ydynt yn berthnasol i leoliadau anghenion arbennig gan na chânt eu cyllido na'u cofrestru gan Medr. | Ddim yn gymwys: dim ond ar y nodwedd warchodedig hon y disgwylir i'r cynnig hwn gael effeithiau cadarnhaol. |
| Ailbennu Rhywedd | Niwtral | Mae ein cynnig yn seiliedig ar helpu pob dysgwr i gael mynediad at y llwybr a ddewiswyd ganddo, gan ei alluogi i symud ymlaen i addysg uwch neu gyflogaeth. Nid yw'r cynnig yn rhywedd-benodol. | Ddim yn gymwys. |
| Beichiogrwydd a mamolaeth | Niwtral | Ni nodwyd unrhyw effeithiau uniongyrchol. Fodd bynnag, gallai cynigion cwricwlwm lleol ehangach a dulliau cyflwyno hyblyg helpu rhai rhieni ifanc i barhau i ymgysylltu ag addysg a hyfforddiant. | Ddim yn gymwys. |
| Hil (gan gynnwys lleiafrifoedd ethnig, Sipsiwn, Roma a Theithwyr, mudwyr, ceiswyr lloches a ffoaduriaid) | Niwtral | Bwriedir i'r cynnig wella mynediad at lwybrau ôl-16 i bob dysgwr. Er nad oes unrhyw effeithiau penodol wedi'u nodi ar gyfer grwpiau ethnig penodol, gallai gwella mynediad at amrywiaeth ehangach o lwybrau a chyfleoedd cynnydd fod o fudd i ddysgwyr sy'n wynebu rhwystrau i gyfranogiad neu gynnydd mewn addysg. | Ddim yn gymwys. |
| Crefydd, cred a diffyg cred | Niwtral | Mae ein cynnig yn seiliedig ar helpu pob dysgwr i gael mynediad at y llwybr a ddewiswyd ganddo, gan ei alluogi i symud ymlaen i addysg uwch neu gyflogaeth. Nid yw'r cynnig yn grefydd-benodol nac yn gred-benodol. | Ddim yn gymwys. |
| Rhyw / Rhywedd | Niwtral | Mae ein cynnig yn seiliedig ar helpu pob dysgwr i gael mynediad at y llwybr a ddewiswyd ganddo, gan ei alluogi i symud ymlaen i addysg uwch neu gyflogaeth. Ni ddisgwylir i unrhyw elfen o'r cynnig hwn effeithio ar ddysgwyr yn seiliedig ar eu rhyw neu rhywedd. | Ddim yn gymwys. |
| Cyfeiriadedd rhywiol | Niwtral | Mae ein cynnig yn seiliedig ar helpu pob dysgwr i gael mynediad at y llwybr a ddewiswyd ganddo, gan ei alluogi i symud ymlaen i addysg bellach ac uwch, hyfforddiant a (neu) gyflogaeth. Ni ddisgwylir i unrhyw elfen o'r cynnig hwn effeithio ar ddysgwyr yn seiliedig ar eu cyfeiriadedd rhywiol. | Ddim yn gymwys. |
| Priodas a phartneriaeth sifil | Niwtral | Mae ein cynnig yn seiliedig ar helpu pob dysgwr i gael mynediad at y llwybr a ddewiswyd ganddo, gan ei alluogi i symud ymlaen i addysg bellach ac uwch, hyfforddiant a (neu) gyflogaeth. Ni ddisgwylir i unrhyw elfen o'r cynnig hwn effeithio ar unigolion yn seiliedig ar eu statws priodasol. | Ddim yn gymwys. |
| Plant a phobl ifanc (hyd at 18 oed) | Cadarnhaol | Disgwylir i'r cynnig hwn gael effaith gadarnhaol, gan wella ansawdd, ehangder a hygyrchedd cwricwla lleol, a helpu dysgwyr i symud ymlaen i addysg bellach ac uwch, hyfforddiant, a/neu gyflogaeth. | Ddim yn gymwys – Dim ond ar y grŵp hwn y disgwylir i'r cynnig hwn gael effeithiau cadarnhaol. |
| Aelwydydd incwm isel | Effeithiau cadarnhaol uniongyrchol a'r potensial ar gyfer rhai effeithiau negyddol anuniongyrchol. | Disgwylir i'r cynnig gael effaith gadarnhaol drwy wella cyfleoedd i gyfranogi a gwneud cynnydd. Fodd bynnag, gallai dysgwyr o aelwydydd incwm isel wynebu rhwystrau ychwanegol, gan gynnwys costau trafnidiaeth a mynediad cyfyngedig at adnoddau digidol. Tynnwyd sylw at hyn gan rai o'r ymatebwyr i'r ymgynghoriad. | Bydd cydweithio rhwng darparwyr, mynediad lleol gwell at ddarpariaeth, a defnydd parhaus o gyfleusterau cyhoeddus (er enghraifft, llyfrgelloedd) yn helpu i liniaru rhwystrau digidol a rhwystrau o ran mynediad. Bydd systemau cymorth ariannol (er enghraifft, LCA) yn parhau i gefnogi cyfranogiad. |
Hawliau Dynol a Chonfensiynau'r Cenhedloedd Unedig
| Hawliau Dynol | Beth yw effeithiau cadarnhaol neu negyddol y cynnig? | Rhesymau dros eich penderfyniad (gan gynnwys tystiolaeth) | Sut y byddwch yn lliniaru'r effeithiau negyddol?
|
|---|---|---|---|
| Protocol 1: Erthygl 2 ‘Ni wrthodir hawl i addysg i neb’ | Mae'r cynnig yn cael effaith gadarnhaol ar yr hawl i addysg drwy wella mynediad at amrywiaeth eang a chynhwysol o gyfleoedd dysgu a chefnogi llwybrau cynnydd. Ni nodwyd unrhyw effeithiau andwyol ar hawliau’r Confensiwn.
| Mae'r canllawiau yn atgyfnerthu argaeledd a hygyrchedd darpariaeth addysg ac yn helpu amrywiaeth o ddysgwyr i gymryd rhan. | Ddim yn gymwys |
Hawliau Dinasyddion yr UE/AEE a'r Swistir
Ni ddisgwylir i'r cynnig gael unrhyw effeithiau negyddol ar hawliau dinasyddion yr UE, yr AEE na'r Swistir a ddiogelir o dan y Cytundebau Hawliau Dinasyddion.
- Hawliau preswyliaeth: dim effaith
- Mynediad at addysg a gwasanaethau: wedi'i gynnal
- Triniaeth gyfartal: ni nodwyd unrhyw effaith wahaniaethol
- Hawliau gweithwyr: dim effaith
Mae'r polisi yn cefnogi mynediad parhaus at addysg a gwasanaethau ar sail gyfartal.
