Canllawiau ar gwricwla lleol 16 i 18: asesiad o’r effaith ar hawliau plant
Asesiad o’r effaith ar hawliau plant ar canllawiau ar gwricwla lleol 16 i 18.
Ar y dudalen hon
Amcanion polisi
Y penderfyniad sy'n cael ei asesu yw'r effaith y bydd y canllawiau i Medr yn ei chael ar y broses o ddatblygu cwricwla lleol ledled Cymru.
Mae'r canllawiau hyn yn nodi'r dyletswyddau cyfreithiol a'r disgwyliadau polisi ehangach sy'n gysylltiedig â llunio cwricwla lleol 16 i 18, a drosglwyddodd o Weinidogion Cymru i Medr ym mis Ebrill 2026 (y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil). Fel canllawiau statudol, rhaid i Medr eu hystyried wrth arfer ei swyddogaethau o dan Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000.
Maent hefyd yn nodi gweledigaeth glir ar gyfer dysgu 16 i 18 oed, gyda'r nod o sicrhau bod dysgwyr yn gallu cael mynediad at lwybrau sy'n adlewyrchu eu diddordebau a'u huchelgeisiau. Disgwylir i gwricwla lleol ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau academaidd a galwedigaethol, wedi'u datblygu ar y cyd, er mwyn helpu i gynyddu lefelau cyfranogiad a chynnydd.
Casglu tystiolaeth ac ymgysylltu â phlant a phobl ifanc
O dan y Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil, mae dyletswydd ar Medr i sicrhau bod darpariaeth addysg addas ar gael i bobl ifanc gael mynediad at addysg a hyfforddiant ôl-orfodol ac mae'r Asesiad o'r Effaith ar Hawliau Plant ar gyfer y Ddeddf yn nodi y bydd Medr mewn sefyllfa berffaith i sicrhau yr ymdrinnir â bylchau yn y ddarpariaeth ac y caiff y rhwystrau y mae gwahanol grwpiau o bobl ifanc yn eu hwynebu eu nodi a'u datrys.
Felly, cafodd y broses o ddatblygu'r canllawiau hyn ei llywio, nid yn unig gan y Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil, ond hefyd gan amrywiaeth eang o dystiolaeth genedlaethol a rhyngwladol sy'n ymwneud ag addysg ôl-16, cynnydd dysgwyr a dylunio systemau. Mae hyn yn cynnwys dadansoddiad y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD) o lwybrau uwchradd uwch, adolygiadau Estyn o'r ddarpariaeth ôl‑16 a phartneriaethau, argymhellion gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, ac adolygiad Llywodraeth Cymru o gymwysterau galwedigaethol. Darperir dadansoddiad manylach o'r dystiolaeth hon isod.
Mae'r dystiolaeth hon yn tynnu sylw at sawl her allweddol, gan gynnwys yr angen i wella'r cydlyniad rhwng dysgu cyn‑16 ac ar ôl‑16, lleihau rhaniadau ar draws y system, cryfhau llwybrau galwedigaethol, a mynd i'r afael ag anghydraddoldebau o ran cyfranogiad a chanlyniadau. Mae hefyd yn cyfeirio at bwysigrwydd sicrhau bod dysgwyr yn cael eu cefnogi i wneud dewisiadau gwybodus a bod ganddynt fynediad at gwricwlwm sy'n ddigon eang a chydlynol.
Ystyriwyd safbwyntiau dysgwyr drwy ymgysylltu ag Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr, a oedd yn cynrychioli barn dysgwyr. Roedd yr Undeb yn rhan o'r grŵp cyfeirio rhanddeiliaid a helpodd i lywio'r canllawiau drafft a rhannu cyfleoedd ymgynghori â dysgwyr. Tynnodd adborth a ddaeth i law drwy weithgareddau ymgysylltu â dysgwyr sylw at bwysigrwydd cael mynediad at ddewis eang o lwybrau, cyfleoedd cynnydd clir, cymorth priodol wrth wneud penderfyniadau ôl-16, a sicrhau bod sefydliadau addysg bellach ac uwch a chyflogwyr yn gwerthfawrogi cymwysterau. Cafwyd safbwyntiau dysgwyr hefyd drwy waith ymgysylltu ehangach a gynhaliwyd drwy weithgarwch datblygu a diwygio polisïau cysylltiedig. Roedd hyn yn cynnwys gwaith ymgysylltu a gynhaliwyd fel rhan o'r broses o ddatblygu'r Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil, tystiolaeth a gasglwyd drwy'r Cais am Dystiolaeth ôl-16, gohebiaeth a gafwyd gan ddysgwyr a rhanddeiliaid ynghylch Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch, a thrafodaethau gyda dysgwyr a chyn-ddysgwyr Seren. Darparodd y ffynonellau hyn wybodaeth ychwanegol am brofiadau dysgwyr o gynnydd, dewisiadau ôl-16, llwybrau cymwysterau a mynediad at gyfleoedd, gan helpu i lywio'r broses o ddatblygu'r canllawiau a'r safbwyntiau polisi cysylltiedig. Defnyddiwyd y themâu hyn i lywio'r broses o ddatblygu'r canllawiau a'u pwyslais ar gynigion cwricwlwm eang, llais dysgwyr a chynnydd.
OECD (2023): Llwybrau a Chyfnodau Pontio Uwchradd Uwch yng Nghymru - What Shapes Upper Secondary Pathways and Transitions? Insights for Wales (OECD, Rhagfyr 2023)
Canfyddiadau allweddol:
- Mae sicrhau bod addysg cyn‑16 ac addysg ôl‑16 yn cyd-fynd â'i gilydd yn hanfodol er mwyn gwneud yn siŵr bod llwybrau dysgu yn cefnogi pedwar diben y Cwricwlwm i Gymru.
- Mae natur bynciol cymwysterau ôl-16 yn cyflwyno heriau o ran sicrhau datblygiad dysgu a chyfannol ehangach.
- Gallai casglu data gwell, gan gynnwys ymwybyddiaeth dysgwyr o lwybrau a chanlyniadau yn 18 i 19 oed, wella dealltwriaeth o gyfnodau pontio a pherfformiad systemau.
- Mae system Cymru yn wahanol i rai modelau rhyngwladol, gan nad oes unrhyw bynciau'n gwbl orfodol yn y cyfnod ôl‑16.
- Ni chaiff arferion sefydledig, fel ailsefyll mathemateg a Saesneg neu ymgymryd â chymwysterau amgen, bob amser eu hadlewyrchu'n benodol mewn polisi.
- Mae cymwysterau Safon Uwch yng Nghymru yn gymharol heriol o gymharu â meincnodau rhyngwladol, a all gyfyngu ar gyfleoedd i rai dysgwyr barhau i astudio pynciau allweddol fel mathemateg ac ieithoedd.
- Mae'n bosibl y bydd cyfyngiadau ar fynediad at lwybrau Lefel 3 mewn rhai lleoliadau yn seiliedig ar gyrhaeddiad blaenorol (er enghraifft, ei gwneud yn ofynnol bod yr unigolyn wedi ennill pum TGAU neu gymwysterau cyfatebol).
Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (2021): Codi'r Oed Cyfranogi i 18 (Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, Chwefror 2021)
Canfyddiadau allweddol ac argymhellion:
- Er mwyn atgyfnerthu lefelau cyfranogi ôl-16, rhaid sicrhau cynnig cenedlaethol mwy cydlynol a chyson i bob person ifanc.
- Byddai gwell systemau ar gyfer olrhain cyrchfannau dysgwyr (hyd at 24 oed o bosibl) yn cefnogi prosesau gwell ar gyfer llunio polisïau a gwerthuso.
- Mae angen sicrhau gwell cysondeb rhwng y ddarpariaeth ôl-16 a'r Cwricwlwm i Gymru.
- Mae angen camau gweithredu wedi'u targedu i ymdrin â bylchau yn y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg.
Adolygiad o Gymwysterau Galwedigaethol (Llywodraeth Cymru, 2023): Adolygiad Annibynnol gan Sharron Lusher (Medi 2023)
Argymhellion strategaeth allweddol:
- Pennu set glir a chyson o ddibenion ac egwyddorion i arwain polisi a darpariaeth ar gyfer addysg a hyfforddiant galwedigaethol.
- Atgyfnerthu'r broses o hyrwyddo addysg, hyfforddiant a chymwysterau galwedigaethol ac i wella eu gwerth canfyddedig.
Estyn (2021 a 2022): Partneriaethau Ôl-16 (2021) a'r Adolygiad o'r Cwricwlwm 16-19 yng Nghymru (2022)
Canfyddiadau allweddol ac argymhellion:
- Mae angen gwell eglurder a chysondeb yn y fframwaith deddfwriaethol a'r fframwaith polisi ar gyfer addysg ôl-16.
- Dylid cryfhau'r cydweithio rhwng ysgolion a sefydliadau addysg bellach i sicrhau cynigion cwricwlwm ehangach.
- Dylai cwricwla lleol ddarparu cymysgedd cytbwys o opsiynau academaidd a galwedigaethol, gyda llwybrau cynnydd clir.
- Mae angen defnydd mwy effeithiol o ddata i gefnogi penderfyniadau cynllunio ac ariannu.
- Mae angen lleihau cyfran y bobl ifanc sy'n NEET.
- Dylai'r system gefnogi cynnydd ar draws pob lefel, o lefel mynediad hyd at Lefel 3 a thu hwnt.
Y Sefydliad Polisi Addysg (EPI, 2024): Comparing Policies, Participation and Inequalities across UK Post‑16 Systems
Canfyddiadau allweddol:
- Mae'n bosibl y bydd angen gweledigaeth hirdymor gliriach a fframwaith polisi sefydlog ar Gymru ar gyfer addysg a hyfforddiant ôl‑16.
- Mae angen ffocws cryfach ar anghydraddoldebau mewn canlyniadau ôl‑16.
- Mae angen data o ansawdd gwell y gellir eu cymharu'n well i gefnogi penderfyniadau polisi.
- Er mwyn gwella lefelau cyfranogiad a chanlyniadau addysg ôl-16, mae angen i bolisïau roi sylw brys a pharhaus i'r maes.
Tystiolaeth ychwanegol
Young People and Work – Alan Milburn (2026, adroddiad interim); Lost in Transition – Resolution Foundation (Ebrill 2026)
Themâu allweddol:
- Cynnydd o ran lefelau ymddieithrio ymhlith rhai grwpiau o bobl ifanc.
- Y rhyngweithio rhwng anfantais economaidd-gymdeithasol, cyrhaeddiad addysgol a chanlyniadau'r farchnad lafur.
- Pwysigrwydd cynyddol cefnogi cyfnodau pontio i gyflogaeth drwy lwybrau cliriach a chanllawiau gwell.
Data canlyniadau ailsefyll TGAU mewn lleoliadau addysgol ôl-16 wedi'u cyfuno â thrafodaethau anecdotaidd â phenaethiaid ysgolion ag adrannau chweched dosbarth a phenaethiaid sefydliadau addysg bellach.
Themâu allweddol:
- Efallai y bydd dysgwyr nad ydynt wedi pasio TGAU Cymraeg neu Saesneg a (neu) Fathemateg yn 16 oed yn ei chael hi'n anodd pasio os cânt eu cyflwyno ar gyfer cyfres ailsefyll arholiadau mis Tachwedd wrth iddynt ddechrau addysg ôl-16. Gallai cael eu cyflwyno ar gyfer arholiadau y byddant yn ei chael hi'n anodd eu pasio gyda gwahanol lefelau o gymorth arwain at broblemau llesiant ac achosion o ddysgwyr yn ymddieithrio.
- Yn 2024, dim ond 36.5% oedd y gyfradd basio ar gyfer dysgwyr 17 oed a wnaeth ailsefyll Cymraeg iaith gyntaf, Saesneg Iaith, Mathemateg a Mathemateg: Rhifedd, ac ar gyfer dysgwyr 18 oed, gostyngodd ymhellach i 28.3%. Yn 2025, y cyfraddau pasio oedd 37.3% ar gyfer dysgwyr 17 oed a 30.9% ar gyfer dysgwyr 18 oed.
Gan ddefnyddio'r gwaith ymchwil hwn, sut rydych chi'n rhagweld y bydd eich polisi'n effeithio ar wahanol grwpiau o blant a phobl ifanc, gan gynnwys effeithiau cadarnhaol a negyddol
Disgwylir i'r canllawiau gael effaith uniongyrchol ar ddysgwyr drwy ddylanwadu ar y ffordd mae cwricwla lleol 16 i 18 yn cael eu llunio ac, yn dilyn hynny, ar ystod, hygyrchedd a strwythur y llwybrau addysg ôl-16 sydd ar gael iddynt.
Drwy ei ddyletswydd i lunio cwricwla lleol, bydd Medr yn gweithio gydag awdurdodau lleol, ysgolion a sefydliadau addysg bellach i ddatblygu cynigion cwricwlwm sy'n adlewyrchu'r galw gan ddysgwyr, yn cefnogi cynnydd ac yn darparu mynediad at amrywiaeth eang o lwybrau academaidd a galwedigaethol. Gall mwy o ddewis drwy gynigion cwricwlwm ehangach arwain at well lefelau cyfranogi ac ymgysylltu ar gyfer dysgwyr ôl-16. Bwriedir i'r canllawiau helpu i wneud penderfyniadau mwy gwybodus yn 16 oed ac atgyfnerthu llwybrau cynnydd i mewn i addysg bellach ac uwch, hyfforddiant, a (neu) gyflogaeth, gan helpu dysgwyr i gyflawni eu potensial llawn.
At ei gilydd, disgwylir i'r polisi gael effaith gadarnhaol gymedrol i sylweddol ar hawliau plant, yn enwedig mewn perthynas â mynediad at addysg, cyfranogiad, datblygiad a llais dysgwyr.
Fodd bynnag, mae tystiolaeth a'r ymatebion i'r ymgynghoriad wedi tynnu sylw at nifer o heriau presennol yn y system ôl-16 a all gael effaith anghymesur ar rai grwpiau o ddysgwyr, gan gynnwys y rhai sy'n byw mewn ardaloedd gwledig, o gefndiroedd difreintiedig, ag anghenion dysgu ychwanegol, neu sy'n mynychu lleoliadau â darpariaeth fwy cyfyngedig. Mae'r heriau hyn yn cynnwys rhwystrau trafnidiaeth a hygyrchedd, cyfyngiadau ar gapasiti'r gweithlu ac anawsterau wrth gynnal cynnig cwricwlwm eang ym mhob lleoliad.
Nid y canllawiau eu hunain sy'n creu'r problemau hyn. Yn hytrach, ffactorau a oedd yn bodoli eisoes ydynt sydd wedi llywio'r broses o'u datblygu. Nod y canllawiau yw helpu Medr a chynllunwyr cwricwla lleol i ystyried yr heriau hyn wrth lunio cwricwla lleol, gan gynnwys drwy gydweithio, ystyried hygyrchedd a'r galw gan ddysgwyr, a chynllunio ar gyfer amrywiaeth eang o gyfleoedd cynnydd. Er y disgwylir i'r canllawiau gyfrannu'n gadarnhaol yn y meysydd hyn, ni fyddant yn dileu'r holl rwystrau presennol a bydd ansawdd y trefniadau gweithredu gan Medr a chynllunwyr cwricwla yn parhau i fod yn ffactor pwysig wrth ddylanwadu ar y canlyniadau i ddysgwyr.
Pa waith cyfranogol gyda phlant a phobl ifanc rydych chi wedi'i ddefnyddio i lywio eich polisi
Yn anffodus, roedd y gwaith ymgysylltu uniongyrchol â phlant a phobl ifanc yn ystod y broses o ddatblygu'r canllawiau hyn yn gyfyngedig, er gwaethaf sawl ymdrech i ymgysylltu â'r grŵp hwn. Cyfarfu swyddogion ag Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr sawl gwaith, ac roedd yn aelod allweddol o’n gweithgor rhanddeiliaid, gan gynrychioli barn dysgwyr yn y trafodaethau hyn. Trefnodd yr Undeb hefyd i ni gynnal sesiwn ymgynghori ar-lein gyda myfyrwyr colegau ledled Cymru, a chafodd y sesiwn hon ei hysbysebu i bob aelod o'r Undeb. Yn anffodus, penderfynodd yr Undeb ganslo'r sesiwn hon gan nad oedd llawer o ddiddordeb ynddi.
Yn ogystal â gwaith ymgysylltu drwy Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr, gwnaethom fanteisio ar waith ymgysylltu â dysgwyr a wnaed drwy weithgarwch datblygu polisi cysylltiedig, gan gynnwys y Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil, y Cais am Dystiolaeth ar addysg a hyfforddiant ôl-16, gohebiaeth yn ymwneud â Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch, a gwaith ymgysylltu â dysgwyr a chyn-ddysgwyr Seren.
Dadansoddi'r dystiolaeth ac asesu'r effaith
Bwriedir i'r canllawiau gefnogi gwelliannau o ran ystod, hygyrchedd a strwythur y llwybrau ôl-16 sydd ar gael i ddysgwyr. Fel y nodwyd yn adran 3 o'r canllawiau, disgwylir i Medr lunio cwricwla lleol 16 i 18 wedi'u llywio gan lais dysgwyr, sy'n hwyluso cynnydd o gymwysterau cyn-16, yn ystyried anghenion yr economi a gwybodaeth am y farchnad lafur leol ac yn cynyddu cyfleoedd cyfrwng Cymraeg.
Nid yw ein cynnig yn creu unrhyw effeithiau negyddol ychwanegol nac yn gwaethygu unrhyw effeithiau negyddol presennol ar blant a phobl ifanc. Fodd bynnag, mae risgiau a materion sy'n bodoli eisoes y bydd angen eu hystyried wrth lunio cynigion cwricwlwm lleol. Er mai bwriad ein cynnig o hyd yw ehangu cynigion ar gyfer pob dysgwr, efallai na fydd y rhai mewn ardaloedd gwledig, o gefndiroedd difreintiedig neu sy’n mynychu lleoliadau llai yn gallu cael mynediad ystyrlon at gynigion o hyd. Bydd gweithredu polisïau mewn ffordd effeithiol yn allweddol er mwyn sicrhau canlyniadau cadarnhaol i bob dysgwr yng Nghymru.
Sut mae eich cynnig yn gwella neu'n herio hawliau plant, fel y'u dynodir gan erthyglau CCUHP a'i Brotocolau Dewisol? Cyfeiriwch at yr erthyglau i weld pa rai sy'n berthnasol i'ch polisi eich hun
| Erthyglau neu Brotocol Dewisol CCUHP | Yn gwella (X) | Yn herio (X) | Esboniad |
|---|---|---|---|
Erthygl 3 (Lles pennaf y plentyn)
| X
| Wrth i ddysgwyr ddechrau addysg ôl-16 yn y DU, maent yn symud o ddull mwy cyffredinol o addysg, tuag at lwybrau mwy arbenigol i ddysgwyr. Felly mae'n bwysig bod dewis eang ar gael i ddysgwyr, i'w galluogi i ddewis llwybr sy'n adlewyrchu eu huchelgeisiau tymor hwy. Bydd y canllawiau hyn yn cefnogi'r nod o ddarparu cynnig eang i ddysgwyr a'u helpu i wneud dewisiadau gwybodus sy'n adlewyrchu eu lles pennaf. | |
Erthygl 12 (Yr hawl i gael eich clywed)
| X
| Mae'r canllawiau yn tynnu sylw at bwysigrwydd rôl llais dysgwyr a chwricwla sy'n cael eu harwain gan y galw, wrth lunio cynigion cwricwla lleol. Mae'r canllawiau yn annog Medr i helpu darparwyr i ymgysylltu ag amrywiaeth eang o ddysgwyr fel rhan o'u gwaith cynllunio ar gyfer blynyddoedd yn y dyfodol, a chasglu adborth ar gwricwla cyfredol. Mae'r canllawiau hefyd yn nodi'r ddyletswydd y mae adran 129 o'r Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil yn ei rhoi ar Medr, i baratoi a chyhoeddi Cod Ymgysylltu â Dysgwyr a fydd yn sicrhau y caiff buddiannau dysgwyr eu cynrychioli, y gall dysgwyr roi eu barn i ddarparwyr ar ansawdd yr addysg a gânt, a chymryd rhan mewn penderfyniadau a wneir gan y darparwyr hynny. | |
Erthygl 29 (Addysg a datblygiad)
| X
| Yn cefnogi datblygiad cyfannol drwy gynigion cwricwlwm ehangach a llwybrau cynnydd sy'n cyd-fynd ag uchelgeisiau dysgwyr. Mae Adran 4 o'r canllawiau yn dangos sut y dylai addysg ôl-16 adeiladu ar y Cwricwlwm i Gymru, gan gynnwys dysgu a phrofiadau ehangach, a'r broses o ddatblygu sgiliau. | |
Erthygl 30 (Iaith a diwylliant)
| X
| Mae'r canllawiau yn hyrwyddo mynediad at ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg a dwyieithog, gan helpu dysgwyr i ddysgu yn eu dewis iaith. |
At ei gilydd, mae'r cynnig yn gwella'r hawliau hyn drwy wella mynediad at gwricwla eang, cefnogi cynnydd, a hyrwyddo cyfranogiad dysgwyr.
Cyngor i Weinidogion a phenderfyniad Gweinidogion
Caiff crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad a'r effeithiau ar hawliau plant eu rhoi i Weinidogion i lywio eu penderfyniadau, gan gynnwys sut mae'r canllawiau yn cefnogi gwell canlyniadau i bobl ifanc ac yn ymdrin â'r risgiau a nodwyd.
Cyfathrebu â phlant a phobl ifanc
Bydd dysgwyr yn cael gwybod am ganlyniadau'r polisi drwy gyhoeddi'r canllawiau a thrwy ohebiaeth gan ddarparwyr a chyrff cynrychioliadol.
Monitro ac adolygu
Caiff yr effaith ar hawliau plant ei monitro fel rhan o brosesau Medr ar gyfer goruchwylio'r gwaith o gyflwyno cwricwlwm lleol, gan gynnwys cyfranogiad dysgwyr, cynnydd ac adborth gan ddysgwyr. Bydd Medr hefyd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i Lywodraeth Cymru mewn cyfarfodydd partneriaeth a thrwy adroddiadau cyfnodol.
Bydd hyn yn galluogi proses asesu barhaus i ystyried a yw'r polisi yn cyflawni'r canlyniadau bwriadedig ac a oes unrhyw effeithiau anfwriadol yn dod i'r amlwg. Bydd hefyd yn cefnogi gwelliannau parhaus wrth i'r system ddatblygu.
Ni nodwyd unrhyw ddiwygiadau sydd eu hangen ar unwaith. Fodd bynnag, mae adborth o'r ymgynghoriad wedi llywio diweddariadau i'r canllawiau, a bydd hefyd yn cael ei ddefnyddio i lywio'r broses o ddatblygu canllawiau gweithredol Medr ar gyfer cynllunwyr cwricwla lleol.
