Neidio i'r prif gynnwy

Canllawiau’n egluro sut y dylai awdurdodau cyhoeddus ddelio â cherbydau sydd ar dir heb gydsyniad perchennog neu feddiannydd y tir.

Cyhoeddwyd gyntaf: 17 Gorffennaf 2026
Diweddarwyd ddiwethaf: 17 Gorffennaf 2026

Pennod 1: cyflwyniad

Cyflwyniad

Gellir disgrifio gwersyll diawdurdod fel gwersyll carafannau a/neu gerbydau ar dir heb ganiatâd y tirfeddiannwr neu ddeiliad y tir. Mae'n cael ei ystyried yn fath o dresmasu.

Mae teitl y canllawiau hyn wedi cael ei ddiweddaru o reoli gwersylla diawdurdod i reoli gwersylloedd diawdurdod, a hynny er mwyn adlewyrchu'r ystod ehangach o sefyllfaoedd lle gallai hyn ddigwydd. Bwriad y newid hwn yw meithrin dull mwy cynhwysol o fynd i'r afael â'r anghenion a'r heriau sy'n wynebu cymunedau Sipsiwn a Theithwyr.

Gall gwersyll diawdurdod gynnwys unrhyw grŵp o unigolion neu gerbydau sy'n tresmasu ar dir. Fodd bynnag, bwriad y canllawiau hyn yw mynd i’r afael â materion penodol sy’n ymwneud â gwersylloedd diawdurdod Sipsiwn a Theithwyr.

Mae gwersyll diawdurdod yn wahanol i achosion lle mae’r tir wedi’i brynu a’i feddiannu gan Sipsiwn a Theithwyr heb i’r caniatâd cynllunio priodol fod yn ei le. Gelwir hynny'n safle preifat heb ganiatâd cynllunio, ac nid yw'r canllawiau hyn yn ymdrin â hynny.

Gall gwersylloedd diawdurdod fod yn destun tensiwn mewn cymunedau ac mae angen eu trin yn sensitif gan fod angen i awdurdodau lleol a chyhoeddus gydbwyso hawliau Sipsiwn a Theithwyr a hawliau trigolion lleol.

Mae Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol Llywodraeth Cymru yn adlewyrchu pwysigrwydd llety sy’n briodol yn ddiwylliannol i gymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr. Ei nod yw:

“Cydnabod bod angen llety diogel diwylliannol briodol er mwyn i unigolion  ffynnu mewn rhannau eraill o’u bywydau ac er mwyn ymdrin â’r prinder safleoedd a’r llety o ansawdd gwael sydd ar gael i Sipsiwn a Theithwyr yng Nghymru.”

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau cyfle cyfartal i bob rhan o’r gymuned a rhaid i Sipsiwn a Theithwyr gael yr un mynediad at lety diogel ac addas sy’n briodol yn ddiwylliannol â phob aelod arall o’r gymuned.

Ar ôl ymgysylltu â'r gymuned ynglŷn â’r canllawiau, roedd yr ymateb yn glir: Mae teuluoedd Sipsiwn a Theithwyr yn chwilio am ddull parchus, un sy'n rhoi blaenoriaeth i wrando ar bob safbwynt ac sy'n ceisio deall pam mae gwersylloedd diawdurdod yn digwydd. Dylai pob parti ddangos ymwybyddiaeth ddiwylliannol a chydnabod bod Sipsiwn a Theithwyr yn dilyn ffordd nomadig o fyw.

Mae mynd ati mewn ffordd sy’n seiliedig ar hawliau dynol i ddatblygu safleoedd Sipsiwn a Theithwyr yn hanfodol er mwyn sicrhau tegwch, cynhwysiant a dull gwirioneddol gydweithredol o sicrhau bod anghenion cymunedau Sipsiwn a Theithwyr yn cael eu diwallu. Mae'r dull hwn yn cyd-fynd â phwyslais y Canllawiau ar gydgynhyrchu, Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus, a Nodau Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig, sydd i gyd yn tynnu sylw at bwysigrwydd ymgysylltu cynhwysol a chynrychioladol.

Mae'r elfennau hyn yn rhoi sylfaen gref i awdurdodau lleol ar gyfer ymateb i wersylloedd diawdurdod, lle cydnabyddir bod hawliau'n bethau y mae gan bob unigolyn hawl iddynt. 

Diffinnir 'Sipsiwn a Theithwyr' yn adran 108 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 fel a ganlyn:

  1. Personau sy’n arfer ffordd nomadig o fyw, beth bynnag fo’u hil neu eu tarddiad, gan gynnwys
    1. personau sydd, ar sail eu hanghenion addysg, eu hanghenion iechyd neu eu henaint eu hunain, neu anghenion addysg, anghenion iechyd neu henaint eu teulu neu ddibynnydd, ac ar y sail honno yn unig, wedi rhoi’r gorau i deithio dros dro neu yn barhaol, a
    2. aelodau o grŵp trefnedig o siewmyn teithiol neu bersonau sy’n rhan o syrcasau teithiol (pa un a ydynt yn cyd-deithio mewn grŵp o’r fath ai peidio), ac
  2. Unrhyw bersonau eraill sydd â thraddodiad diwylliannol o nomadiaeth neu o fyw mewn cartref symudol.

Bwriad y diffiniad uchod yw sicrhau bod Sipsiwn Romani ethnig a Theithwyr Gwyddelig yn cael eu cynnwys, yn ogystal â phobl o unrhyw grŵp ethnig sy’n arfer ffordd nomadig o fyw. Mae’r diffiniad hefyd yn cynnwys Siewmyn Teithiol. Bydd Teithwyr Newydd yn cael eu cynnwys yn y diffiniad hefyd os ydynt yn dilyn traddodiad diwylliannol o nomadiaeth.

Er bod pob un o'r grwpiau hyn yn gysylltiedig â'r ffordd deithiol a nomadig o fyw a’u bod o bosibl yn rhannu rhai credoau ac arferion cyffredin, mae gan bob grŵp ei ethnigrwydd, ei iaith a’i draddodiadau unigryw, ac mae’n debygol y byddai’r anghenion ar gyfer defnyddio gwersylloedd dros dro yn wahanol hefyd.

O dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP), mae gan awdurdodau lleol ddyletswydd statudol i gynnal hawliau plant a phobl ifanc, gan gynnwys eu hawl i fynegi eu barn yn rhwydd ym mhob mater sy'n effeithio arnynt. Mae'r ddyletswydd hon yn arbennig o berthnasol wrth ymateb i wersylloedd diawdurdod, lle mae penderfyniadau'n debygol o gael effeithiau uniongyrchol ac arwyddocaol ar les ac ar amodau byw plant.

Yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru a'r egwyddorion sydd wedi'u hymgorffori ym Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011, mae'n hanfodol bod awdurdodau lleol yn gwreiddio dull gweithredu sy'n rhoi pwyslais ar hawliau’r plentyn ym mhob cam o'u prosesau ymgysylltu a gwneud penderfyniadau.  Mae Erthygl 27 CCUHP yn rhoi'r hawl i blant gael safon byw ddigonol, ac yn ôl Erthygl 19, mae gan blant yr hawl i gael eu hamddiffyn rhag niwed.

Mae Erthygl 31, sy'n cynnal yr hawl i blant allu gorffwyso a chael cyfleoedd hamdden a chwarae, yn tynnu sylw at yr angen am fannau chwarae diogel a hygyrch.

Gall gwersylloedd anawdurdodedig, mewn rhai amgylchiadau, fod â mynediad cyfyngedig at wasanaethau hanfodol fel glanweithdra a rheoli gwastraff a gallant fod yn gysylltiedig â mwy o gysylltiad â pheryglon amgylcheddol a gwahaniaethu ac allgáu cymdeithasol. Gall y ffactorau hyn effeithio'n andwyol ar safon byw plant sy'n byw ar safleoedd o'r fath.

Gyda'i gilydd, mae'r darpariaethau hyn yn rhoi fframwaith ar gyfer sicrhau bod plant a phobl ifanc nid yn unig yn cael eu hystyried mewn perthynas ag anghenion tai yn y dyfodol, ond yn cael eu parchu fel unigolion sydd â hawliau, profiadau a safbwyntiau cyfredol sy'n gorfod siapio'r amgylcheddau y maent yn byw ynddynt.

Y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i’r egwyddor o drin y Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal. Mae Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (y “Mesur”) yn darparu ar gyfer pennu safonau ymddygiad sy’n ymwneud â’r Gymraeg. Mae’r safonau presennol ar gyfer awdurdodau lleol a Gweinidogion Cymru yn cael eu pennu yn Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 1) 2015.

Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi cyflwyno hysbysiad cydymffurfio i Weinidogion Cymru yn nodi pa safonau sy’n berthnasol i unrhyw weithgaredd neu wasanaeth a ddarperir gan Weinidogion Cymru neu ar eu rhan ar hyn o bryd.

Mae gan bob awdurdod lleol ei Hysbysiad Cydymffurfio Iaith Gymraeg ei hun, a orfodir gan y Comisiynydd.

Y darlun yng Nghymru

Mae Sipsiwn a Theithwyr yn gynhenid i Gymru. Roedd y Cyfrifiad diweddaraf yn 2021 yn amcangyfrif bod tua 3,600 o boblogaeth breswyl arferol Cymru (0.1%) yn nodi eu bod yn Sipsiwn neu'n Deithwyr Gwyddelig ledled Cymru. Mae Llywodraeth Cymru yn comisiynu pob awdurdod lleol yng Nghymru i gyfrif carafannau ddwywaith y flwyddyn. Defnyddir y comisiynau hyn i fonitro niferoedd carafannau fel rhan o waith monitro’r awdurdodau lleol ar anghenion llety, a ddefnyddir fel data wrth gynnal Asesiad o Anghenion Llety Sipsiwn a Theithwyr.

Mae’n debygol bod y ffigur hwn yn is nag y dylai fod, gan ystyried ei fod yn mesur poblogaeth dros dro, a chan nad yw data ethnigrwydd yn cael ei gofnodi’n ddigonol yn aml. Fodd bynnag, mae'n amlwg bod mwy o Sipsiwn a Theithwyr a charafannau yng Nghymru na lleiniau parhaol na mannau aros tramwy neu  dros dro/a negodwyd. Ar adeg cyhoeddi hyn, nid oes safleoedd tramwy na mannau aros dros dro/a negodwyd yng Nghymru.

Mae’r cyfrif carafannau hefyd yn debygol o danamcangyfrif gwir nifer y carafannau ar wersylloedd diawdurdod yng Nghymru. Mae’r cyfrif yn dibynnu ar swyddogion awdurdodau lleol yn diweddaru ac yn cysoni data ar y dyddiadau cyfrif a ddewiswyd neu'n fuan wedyn, ac efallai na fydd nifer fach o awdurdodau lleol yn gallu cwblhau’r camau hyn ar gyfer unrhyw gyfrif. Ar ben hynny, efallai na fydd awdurdodau lleol yn sylwi ar wersylloedd diawdurdod, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig mwy o faint a byddant yn cael eu hepgor o’r cyfrif.

Mae’r cyfrif carafannau yn rhoi cipolwg ar nifer y carafannau a’r safleoedd ar tua 2 ddiwrnod ym mis Ionawr a mis Gorffennaf. Oherwydd y ffordd y mae wedi'i gynllunio, dim ond y carafannau a welir ar y dyddiau hynny sy'n cael eu cyfrif, felly ni fydd y ffigurau hyn yn adlewyrchu natur nomadig Sipsiwn a Theithwyr na pha mor aml y mae angen llety dros dro arnynt. Nid yw’r cyfrif carafannau ychwaith yn rhoi unrhyw dystiolaeth o batrymau mudo.

Yng Nghymru, mae gwersylloedd diawdurdod yn tueddu i ymddangos ar hyd y prif lwybrau trafnidiaeth a oedd, yn draddodiadol, yn darparu cyfleoedd gwaith, yn ogystal â mynediad at y prif borthladdoedd ar gyfer Iwerddon. Mae’r prif lwybrau ar hyd coridor yr M4 fel y prif lwybr o’r dwyrain i’r gorllewin yn ne Cymru, yr A470 fel y prif lwybr o’r gogledd i’r de, ac ar hyd yr A55 fel y cyswllt o’r dwyrain i’r gorllewin yng ngogledd Cymru. Fodd bynnag, ceir gwersylloedd ledled Cymru, ac yn aml nid ydynt yn agos at y llwybrau prysur hyn.

Yn ogystal, mae’n bosibl y bydd Sipsiwn a Theithwyr yn ailymweld â’r un llefydd os ydynt yn gwybod bod mynediad ar gael at y cyfleusterau sydd eu hangen arnynt neu eu bod wedi cael profiadau da gyda'r awdurdodau lleol.

Gall diffyg darpariaeth mannau aros tramwy a thros dro/a negodwyd arwain at wersylloedd diawdurdod. Mae Sipsiwn a Theithwyr sy'n nomadig fel arfer yn defnyddio gwersylloedd diawdurdod am gyfnodau byr – diwrnodau neu wythnosau, cyn symud ymlaen eto.

Efallai y bydd gan rai awdurdodau lleol yng Nghymru fwy o wersylloedd diawdurdod nag eraill. Fodd bynnag, mae pob awdurdod lleol yn debygol o gael profiad o wersylloedd diawdurdod, a dylai fod ganddynt bolisïau a gweithdrefnau i sicrhau yr ymdrinnir â nhw mewn ffordd sy’n effeithiol, yn ddiogel ac yn sensitif i bawb dan sylw. Er mwyn hwyluso hyn, mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu’r canllawiau hyn i helpu awdurdodau lleol i ddatblygu eu polisïau eu hunain ac, wrth wneud hynny, i gefnogi ffordd o fyw Sipsiwn a Theithwyr.

Ar gyfer pwy mae’r canllawiau hyn?

Mae'r canllawiau hyn wedi'u hanelu at unrhyw un sy'n ymdrin â gwersylloedd diawdurdod Sipsiwn a Theithwyr, ond mae'n arbennig o bwysig i awdurdodau lleol Cymru, sydd â nifer o ddyletswyddau cyfreithiol i sicrhau llesiant y cymunedau hyn.

Fodd bynnag, gall y canllawiau hefyd fod yn ddefnyddiol i dirfeddianwyr eraill, gan gynnwys awdurdodau cyhoeddus eraill, fel Awdurdodau Parciau Cenedlaethol neu Fyrddau Iechyd, yn ogystal â'r rheini sy'n mynd i safleoedd diawdurdod ac yn helpu awdurdodau lleol i gyflawni eu dyletswyddau statudol, fel ymwelwyr iechyd, Gwasanaethau Addysg i Deithwyr, a heddluoedd er enghraifft.

Er nad yw'r canllawiau hyn wedi'u hanelu'n bennaf at Sipsiwn a Theithwyr sy’n preswylio dros dro mewn gwersyll diawdurdod, efallai y bydd rhai aelodau o'r gymuned yn gweld eu bod yn gyflwyniad defnyddiol i'w hawliau a'u cyfrifoldebau mewn sefyllfa o'r fath. Yn yr un modd, bydd ‘Protocolau’r Heddluoedd ar Reoli Gwersylloedd Diawdurdod’ yn helpu aelodau'r gymuned i ddeall cyfraniad yr heddlu wrth ymdrin â gwersylloedd diawdurdod.

At ddibenion y canllawiau hyn, yr awdurdod lleol fydd y tirfeddiannwr fel arfer. Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod nad ar dir sy'n eiddo i awdurdodau lleol yn unig y ceir gwersylloedd diawdurdod. Fodd bynnag, mae gweithdrefnau a gofynion gwahanol yn berthnasol i dirfeddianwyr preifat, nad oes arnynt unrhyw ddyletswyddau statudol i’r gymuned yn yr un ffordd ag awdurdodau lleol ac awdurdodau cyhoeddus eraill. Ymdrinnir yn gryno â gweithdrefnau sy'n ymwneud â rheolau tirfeddianwyr preifat yn nes ymlaen yn y ddogfen.

Os yw tir yn eiddo i Lywodraeth Cymru neu unrhyw awdurdod cyhoeddus arall, yr awdurdod lleol sy'n gyfrifol am gyflawni pob un o’i ddyletswyddau statudol ar gyfer y rhai sydd mewn gwersylloedd diawdurdod yn ei ardal.

Deddfwriaeth bwysig

Mae gan awdurdodau lleol amrywiaeth o ddyletswyddau statudol tuag at Sipsiwn a Theithwyr sy’n preswylio ac yn ymgynnull yn eu hardal. Rhestrir isod rai o'r prif ddyletswyddau, a fydd fel arfer yn berthnasol os yw unigolion ar safle awdurdod lleol neu wersyll diawdurdod.

Mae gan Sipsiwn a Theithwyr hawl i warchodaeth o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Mae Sipsiwn Romani a Theithwyr Gwyddelig wedi cael eu cydnabod fel grwpiau hiliol penodol at ddibenion y Ddeddf honno. Mae'r Ddeddf yn gwahardd gwahaniaethu, aflonyddu ac erledigaeth anghyfreithlon ar sail hil unigolyn ac yn amddiffyn Sipsiwn a Theithwyr rhag cael eu trin yn annheg neu rhag gwahaniaethu mewn amrywiaeth o feysydd, gan gynnwys wrth arfer swyddogaethau cyhoeddus a darparu gwasanaethau.

Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 hefyd yn mynnu bod pob awdurdod lleol a chyhoeddus, pryd bynnag y maent yn arfer eu swyddogaethau, yn rhoi sylw dyledus i'r angen i ddileu gwahaniaethu, aflonyddu, erledigaeth ac unrhyw ymddygiad arall sydd wedi'i wahardd o dan y Ddeddf honno. Rhaid i awdurdodau lleol hefyd hyrwyddo cyfle cyfartal a meithrin cysylltiadau da rhwng pobl o wahanol gefndiroedd hiliol. Mae hyn yn cynnwys rhoi sylw priodol, yn benodol, i’r angen i wneud y canlynol:

  • dileu neu leihau'r anfanteision y mae pobl yn eu hwynebu am resymau sy'n gysylltiedig â'u hil
  • cymryd camau i ddiwallu anghenion pobl o hil benodol sy’n wahanol i anghenion pobl o gefndiroedd hiliol eraill
  • mynd i’r afael â rhagfarn a hyrwyddo dealltwriaeth

Mae gan awdurdodau lleol dyletswyddau statudol tuag at bobl ddigartref neu bobl sydd mewn perygl o fod yn ddigartref o dan Ddeddf Tai (Cymru) 2014. Mae Sipsiwn a Theithwyr sy’n byw mewn carafannau heb unman i’w gosod yn gyfreithlon yn debygol o fod yn ddigartref yn gyfreithiol o dan y Ddeddf honno.

Mae Deddf Tai (Cymru) 2014 hefyd yn gosod dyletswyddau penodol ar awdurdodau lleol i gynnal asesiad o anghenion llety Sipsiwn a Theithwyr sy’n preswylio neu’n ymgynnull yn eu hardal ac i ddarparu safleoedd lle gellir gosod cartrefi symudol i’r graddau y mae hynny’n angenrheidiol er mwyn diwallu’r anghenion hynny. Felly, mae'n amlwg ei bod yn rhaid i awdurdodau lleol ddiwallu anghenion llety tramwy'r rheini sy'n ymweld â'u hardaloedd.

Mae Rhan 4 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn gosod dyletswydd statudol ar awdurdodau lleol i ddiwallu anghenion plant pan ystyrir ei bod yn angenrheidiol i'w hamddiffyn rhag camdriniaeth, esgeulustod, neu fathau eraill o niwed. Mae'r ddyletswydd hon yn drech ac yn gymwys ni waeth beth yw canlyniad unrhyw benderfyniad ar gymhwystra. Yn ymarferol, mae hyn yn golygu, os yw awdurdod lleol yn nodi bod plentyn mewn perygl, rhaid iddo gymryd camau priodol i ddiogelu a hyrwyddo lles y plentyn, ni waeth a fyddai'r plentyn fel arall yn gymwys i gael cymorth o dan feini prawf cymhwystra safonol. Mae'r ddarpariaeth yn sicrhau bod lles a diogelwch plant yn parhau i fod yn hollbwysig ym mhob ymyrraeth gan awdurdod lleol.

Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2015 yn gosod dyletswydd gyffredinol ar awdurdodau cyhoeddus i hyrwyddo llesiant oedolion a phlant sydd angen gofal a chymorth. Gall y ddyletswydd gyffredinol hon fod yn arbennig o berthnasol wrth ddelio â theuluoedd ar ochr y ffordd a allai fod angen help i gael gafael ar wasanaethau cymorth.

Mae'r Ddeddf hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol roi sylw dyledus i Egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Pobl Hŷn (fel y'u mabwysiadwyd gan Gynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig ar 16 Rhagfyr 1991). Yn ogystal â hyn, mae’n rhaid i awdurdodau lleol sy’n cyflawni swyddogaethau o dan y Ddeddf mewn perthynas â phlant sydd ag anghenion gofal a chymorth, plant sy’n ofalwyr ac angen cymorth, a phlant sy'n derbyn gofal a phlant sy'n cael eu lletya, roi sylw dyledus i Ran 1 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (gweler penderfyniad 44/25 y Cynulliad Cyffredinol, mis Tachwedd 1989).

O dan adran 13 o Ddeddf Addysg 1996, rhaid i awdurdod lleol gyfrannu at ddatblygiad ysbrydol, moesol, meddyliol a chorfforol y gymuned drwy sicrhau bod addysg gynradd ac uwchradd effeithlon ar gael i ddiwallu anghenion poblogaeth eu hardal.

Mae Llywodraeth Cymru yn argymell bod awdurdodau lleol yn cynnal asesiad lles ar bob preswylydd sy’n byw mewn gwersyll diawdurdod ar dir sy’n eiddo cyhoeddus, er mwyn sicrhau bod yr awdurdod yn cyflawni pob un o’r dyletswyddau statudol a restrir uchod. Mae hyn yn wir hyd yn oed pan nad yw’r tir y mae gwersyll diawdurdod wedi’i sefydlu arno yn eiddo i’r awdurdod lleol, ond yn hytrach yn eiddo i Lywodraeth Cymru neu awdurdod cyhoeddus arall. Bydd hyn yn galluogi’r awdurdod lleol i ddangos yn glir ei fod wedi ystyried ei gyfrifoldebau tuag at y rhai sy’n byw ar safleoedd diawdurdod yn ei ardal.

Asesiadau lles

Dylai awdurdodau lleol gynnal asesiad lles ar bawb mewn gwersylloedd diawdurdod er mwyn deall eu hanghenion a sicrhau bod yr anghenion hynny'n cael sylw fel sy'n ofynnol o dan ddyletswyddau statudol yr awdurdod lleol. Dylai’r awdurdod lleol hefyd gysylltu â gwasanaethau eraill a allai fod â chyfrifoldebau tuag atynt. Dylid gwneud y gwiriadau hyn cyn gynted â phosibl, yn ddelfrydol o fewn 24 awr i'r awdurdod lleol ddod yn ymwybodol o'r gwersyll (cyn belled ag y bo hyn yn rhesymol ymarferol). Mae ffurflen asesu lles ar gael yn Atodiad 3.

Bydd cynnal asesiad lles yn helpu awdurdodau lleol i ddeall anghenion llety teuluoedd ac i weld a oes angen llain arnynt ar safle tramwy neu fan aros dros dro/a negodwyd. Mae hefyd yn cefnogi ymdrechion i hyrwyddo diogelwch a lles, yn enwedig i blant a phobl ifanc, drwy ganfod risgiau posibl yn gynnar a’u rheoli. 

Gall awdurdodau lleol wynebu costau glanhau sylweddol ar ôl i wersyll diawdurdod adael, boed hynny’n wirfoddol neu o ganlyniad i achos llys. Fodd bynnag, gall darparu cyfleusterau casglu sbwriel, toiledau a dŵr i feddianwyr leihau’r costau glanhau hyn yn sylweddol. Gall asesiadau lles helpu awdurdodau lleol i ganfod pa rai o’r gwasanaethau hyn y gallai fod eu hangen ar y meddianwyr.

Nodau'r canllawiau

Nod y canllawiau yw:

  • rhoi arweiniad clir i bawb sy'n ymwneud â gwersylloedd diawdurdod ar eu rolau, eu cyfrifoldebau a'u hawliau
  • sicrhau dull teg, cyson a chyfreithlon o ymdrin â gwersylloedd diawdurdod, sy'n ystyried buddiannau a hawliau pawb sy'n gysylltiedig
  • nodi’r camau gweithredu sy’n cael eu hargymell, h.y. canllaw cam wrth gam ar beth i’w wneud wrth ymdrin â gwersyll diawdurdod
  • rhannu enghreifftiau o arferion da cyfredol
  • darparu templedi ar gyfer awdurdodau lleol wrth ymgymryd ag asesiadau lles
  • crynhoi'r pwerau gorfodi yn Neddf Cyfiawnder Troseddol a Threfn Gyhoeddus 1994, fel y'u mewnosodwyd gan Ddeddf yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a'r Llysoedd 2022

Pennod 2: strategaethau lleol

Amcanion strategaeth ar gyfer gwersylloedd diawdurdod

Anogir pob awdurdod lleol i ddatblygu eu strategaethau ysgrifenedig eu hunain sy’n nodi sut byddant yn ymateb i wersylloedd diawdurdod. Bydd hyn yn helpu pawb sy'n gysylltiedig i gael dealltwriaeth glir o'r cychwyn cyntaf sut y bydd awdurdodau lleol yn ymdrin â gwersylloedd o'r fath.

Dylid cydnabod y gallai nifer y gwersylloedd diawdurdod gynyddu yn ystod misoedd yr haf wrth i deuluoedd deithio. Er mwyn sicrhau ymateb parchus ac effeithiol i unrhyw wersyll diawdurdod, argymhellir bod gan bob awdurdod lleol strategaeth ragweithiol yn ei lle cyn y cyfnod hwn, yn enwedig mewn sefyllfaoedd lle gall awdurdodau lleol ragweld yn rhesymol pryd a ble mae gwersylloedd o'r fath yn debygol. Dylai'r strategaeth gynnwys ymyriadau wedi'u cynllunio sy'n blaenoriaethu ystyriaethau lles ac yn galluogi gweithredu amserol a chydlynol.

Wrth lunio strategaeth, mae'n bwysig bod pob awdurdod lleol yn gofyn am fewnbwn gan Sipsiwn a Theithwyr yn ogystal â'u cymunedau lleol. Mae'n arbennig o bwysig cydnabod profiadau ac anghenion penodol plant a phobl ifanc mewn cymunedau Sipsiwn a Theithwyr. Mae ehangu'r elfen ymgysylltu i gynnwys eu lleisiau nhw'n benodol yn sicrhau bod penderfyniadau'n adlewyrchu eu profiadau bywyd. Mae hyn yn cryfhau’r elfen ddiogelu ac yn cefnogi strategaeth fwy cynhwysol ac ymatebol.

Wrth lunio strategaethau lleol, mae hefyd yn hanfodol bod awdurdodau lleol yn gwahaniaethu'n glir rhwng rolau priodol asiantaethau partner. Ni ddylai strategaethau gwersylla diawdurdod roi’r heddlu fel yr asiantaeth arweiniol. Dylid ceisio cyfranogiad gan yr heddlu dim ond pan fo'n briodol ac yn angenrheidiol, yn unol â chanllawiau Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu (NPCC), yn enwedig pan fo trosedd, pryderon diogelwch, neu drothwyon plismona eraill yn cael eu bodloni. Mae hyn yn sicrhau bod ymatebion a arweinir gan yr awdurdodau lleol yn parhau i ganolbwyntio ar les ac yn gymesur.

Rhestr wirio’r strategaeth

Isod ceir rhestr o faterion y byddai'n ddefnyddiol eu cynnwys yn strategaeth ysgrifenedig pob awdurdod ar gyfer ymdrin â gwersylloedd diawdurdod:

Rhestr wirio ar gyfer strategaethau lleol

1. Llywodraethu ac arweinyddiaeth

  • Penodi Swyddog Arweiniol neu Un Pwynt Cyswllt.
  • Sefydlu gweithgor strategaeth amlasiantaethol gydag adnoddau digonol.
  • Datblygu strwythur llywodraethu ar gyfer goruchwylio a monitro.
  • Sicrhau bod pobl sy'n gymwys, yn ddibynadwy ac yn briodol ar gael i gynnal asesiadau lles.
  • Sicrhau bod unigolion sydd wedi cael hyfforddiant ar gael i negodi cytundebau, fel Cod Ymddygiad ar gyfer gwersyll awdurdodedig neu fan aros dros dro.

2. Ymgysylltu a chynhwysiant

  • Datblygu'r strategaeth gyda Sipsiwn a Theithwyr.
  • Sicrhau bod mecanweithiau ymgynghori yn cynnwys plant a phobl ifanc.
  • Cynnwys grwpiau eiriolaeth, swyddogion cydlyniant cymunedol, a chynghorwyr lleol.
  • Darparu hyfforddiant ymwybyddiaeth ddiwylliannol i staff.
  • Darparu rhif cyswllt i deuluoedd allu cysylltu â'r awdurdod lleol ymlaen llaw os ydynt yn gwybod bod angen iddynt fyw dros dro yn eu hardal am gyfnod byr.
  • Darparu enw cyswllt a rhif ffôn ar gyfer pobl sy'n teithio drwy'r ardal neu i'r ardal.

3. Cysoni strategol

  • Gwneud yn siŵr bod yr ymateb i wersylloedd diawdurdod yn cyd-fynd â strategaethau perthnasol eraill: darpariaeth safleoedd, cynllunio, iechyd, addysg, tai.
  • Adolygu data'r Asesiad o Anghenion Llety Sipsiwn a Theithwyr, cyfrifiadau carafannau ddwywaith y flwyddyn, a phatrymau gwersylloedd rheolaidd i ragweld ble a phryd mae gwersylloedd diawdurdod yn debygol o ymddangos.
  • Cynnwys gwybodaeth am safleoedd lleol a'r gwasanaethau sy'n cael eu darparu ar hyn o bryd.
  • Cynnwys cysylltiadau ym maes iechyd ac addysg a fydd yn gallu helpu os oes angen.
  • Rhestru mannau lle gellir mynd â gwastraff gwyrdd i'w ailgylchu.

4. Protocolau gweithredol

  • Disgrifio prosesau ymateb arferol i wersylloedd diawdurdod.
  • Amlinellu'r dewisiadau ymateb a'r sbardunau gorfodi.
  • Cynnwys templedi ar gyfer asesu lles ac asesu safleoedd.
  • Egluro rolau a chyfrifoldebau statudol yr holl bartïon dan sylw.
  • Nodi’r trefniadau ar gyfer darparu biniau neu doiledau.

5. Rhannu gwybodaeth a chyfathrebu

  • Sefydlu protocolau ar gyfer cyfathrebu rhyngasiantaethol a rhannu data.
  • Cynnwys matrics penderfyniadau i arwain camau gweithredu cyson a thryloyw.
  • Creu protocol ar gyfer hysbysu awdurdodau cyfagos a gwaith cydlynu rhanbarthol.
  • Cyhoeddi'r strategaeth ar wefan yr awdurdod lleol a'i rhannu â sefydliadau ar lawr gwlad a fydd wedyn yn gallu ei rhannu â'r gymuned Sipsiwn a Theithwyr.
  • Sefydlu systemau i fonitro, gwerthuso ac adolygu'r camau a gymerwyd.
  • Cofnodi gwersi a ddysgwyd a'u hintegreiddio wrth ddiweddaru’r strategaeth yn y dyfodol.
  • Sicrhau bod y strategaeth yn cefnogi'r gwaith o ddiogelu pawb yr effeithir arnynt ac yn lleihau niwsans cyhoeddus.
  • Hyrwyddo dull sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn ac sy'n cydbwyso hawliau Sipsiwn a Theithwyr â hawliau'r cyhoedd.
  • Cynnwys cytundebau stopio dros dro/wedi'u negodi lle bo hynny'n briodol.

6. Monitro ac adolygu

  • Sefydlu systemau i fonitro, gwerthuso ac adolygu'r camau a gymerwyd.
  • Cofnodi gwersi a ddysgwyd a'u hintegreiddio wrth ddiweddaru’r strategaeth yn y dyfodol.

7. Effaith ar y gymuned a diogelu

  • Sicrhau bod y strategaeth yn cefnogi'r gwaith o ddiogelu pawb yr effeithir arnynt ac yn lleihau niwsans cyhoeddus.
  • Hyrwyddo dull sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn ac sy'n cydbwyso hawliau Sipsiwn a Theithwyr â hawliau'r cyhoedd.
  • Cynnwys cytundebau stopio dros dro/wedi'u negodi lle bo hynny'n briodol.

Amcanion y strategaeth

Dylai prif amcanion pob strategaeth gynnwys y canlynol:

  • dileu neu leihau problemau drwy gynllunio ymlaen llaw yn effeithiol
  • osgoi ymateb adweithiol
  • sicrhau bod anghenion a hawliau pob parti, Sipsiwn a Theithwyr, tirfeddianwyr a'r gymuned sefydlog, yn cael eu hystyried
  • gosod fframwaith ar gyfer gwneud penderfyniadau clir, cyson a theg mewn ffordd dryloyw
  • cysylltu'r ymateb i wersylla anawdurdodedig yn glir â strategaethau a pholisïau eraill sy'n effeithio ar Sipsiwn a Theithwyr (darparu safle, cynllunio, iechyd, addysg, tai ac ati)
  • cynnwys pawb sydd â budd yn y broses o ddatblygu'r strategaeth
  • egluro rolau a chyfrifoldebau awdurdodau lleol, gan nodi pwy sy'n gyfrifol am bob cam o'r broses a phwy fydd yn gwneud y penderfyniadau pwysig
  • cyfyngu ar unrhyw niwsans cyhoeddus, gan gymryd camau gorfodi effeithiol lle bo hynny'n angenrheidiol ac yn briodol

Ffurfio’r strategaeth

Arwain

Argymhellir bod awdurdodau lleol yn llunio strategaeth lywodraethu glir i ddelio â gwersylloedd diawdurdod sy'n darparu ar gyfer goruchwylio a monitro canlyniadau'n ddigonol. 

O ran unrhyw wersyll diawdurdod ar dir sy'n eiddo i gorff cyhoeddus ar wahân i'r awdurdod lleol lle mae wedi'i leoli, dylai'r awdurdod lleol barhau i arwain yr ymateb i'r gwersyll er mwyn cyflawni ei ddyletswyddau statudol mewn perthynas ag anghenion iechyd, gofal cymdeithasol, tai ac addysg ei breswylwyr.  Mae gan yr awdurdod lleol ddyletswydd hefyd i sicrhau llety tramwy digonol i Sipsiwn a Theithwyr sy'n aros yn eu hardal, felly yr awdurdod sydd yn y sefyllfa orau i wneud trefniadau i adleoli gwersylloedd diawdurdod i leoliad addas. Dylai'r awdurdod lleol gyfathrebu â’r corff cyhoeddus perthnasol sy'n berchen ar y tir drwy gydol y broses yn ôl yr angen. 

Y tirfeddiannwr fydd yn cymryd unrhyw gamau gorfodi sy’n ofynnol, nid yr awdurdod lleol. 

Mae’n bosibl y bydd awdurdodau lleol yn dymuno ystyried y prif gamau a ganlyn wrth lunio eu strategaeth:

  • Penodi swyddog arweiniol neu Un Pwynt Cyswllt.
  • Sefydlu gweithgor strategaeth, gyda chymorth/adnoddau digonol, a sicrhau bod pawb sydd o bwys yn cael eu cynnwys, a chysylltu â gwasanaethau perthnasol eraill.
  • Darparu hyfforddiant ymwybyddiaeth ddiwylliannol i weithwyr pwysig.
  • Sefydlu gweithdrefnau/mecanweithiau ymgynghori.
  • Sicrhau cysondeb ac uniondeb â strategaethau eraill.
  • Adolygu gwybodaeth a gafwyd o asesiad yr awdurdod lleol o anghenion.
  • Cynllunio gwasanaethau newydd/gwella gwasanaethau presennol, drwy weithio ar y cyd lle bo hynny’n briodol.
  • Monitro/gwerthuso/adolygu’r camau a gymerwyd gan yr awdurdod lleol a sicrhau bod gwersi’n cael eu dysgu lle bo hynny’n berthnasol.

Pwy ddylai fod yn rhan o’r strategaeth?

Er y dylai awdurdodau lleol gymryd yr awenau wrth ddatblygu eu strategaeth, mae’n hanfodol bod rhanddeiliaid perthnasol eraill yn rhan o’r broses a’u bod yn fodlon cydymffurfio â’r strategaeth pan gaiff ei gweithredu. Mae sicrhau ymrwymiad gan randdeiliaid yn rhan bwysig o’r broses o lunio strategaeth.

Bydd sicrhau cyfranogiad gan y bwrdd iechyd lleol, y Sipsiwn a’r Teithwyr eu hunain yn ogystal â grwpiau eiriolaeth sy’n eu cynorthwyo, cydlynwyr cydlyniant cymunedol, swyddogion diogelwch cymunedol, a chynghorwyr lleol sy’n gyfrifol am wersylloedd Sipsiwn a Theithwyr, yn cryfhau gallu’r awdurdodau lleol i ymateb yn effeithiol i unrhyw sefyllfa benodol. Efallai y bydd angen i sefydliadau eraill, fel Cyfoeth Naturiol Cymru, fod yn rhan o’r ffordd aml-asiantaeth hon o weithio pan fydd yr amgylchiadau’n briodol.

Dylai awdurdodau lleol hefyd ystyried gweithio ar sail ranbarthol i helpu i sicrhau bod eu hagwedd at wersylloedd diawdurdod a darpariaeth safleoedd yn gyson â’r hyn a wneir ar draws gweddill Cymru a bod arferion gorau'n cael eu rhannu.

Elfennau i’w cynnwys yn y strategaeth

Mae nifer o elfennau y gellid eu cynnwys yn strategaeth yr awdurdodau lleol, er enghraifft:

  1. Gwybodaeth leol mae’r strategaeth yn seiliedig arni, er enghraifft, yr Asesiad o Anghenion Llety Sipsiwn a Theithwyr, y data cyfrif carafannau ddwywaith y flwyddyn, ffigurau lleol ar gyfer gwersylloedd diawdurdod (gan gynnwys ffigurau’r heddlu os ydynt yn ddefnyddiol) ac unrhyw wybodaeth am wersylloedd rheolaidd.
  2. Gwybodaeth am lefel a lleoliadau safleoedd cartrefi symudol parhaol yr awdurdodau lleol ar hyn o bryd.
  3. Y dull arferol i’w ddefnyddio wrth roi gwybod am wersyll diawdurdod, gan gynnwys penodi swyddog arweiniol neu Un Pwynt Cyswllt.
  4. Ymgysylltu â’r gymuned Sipsiwn a Theithwyr ynghylch eu profiadau o wersylloedd diawdurdod.
  5. Y protocol ar gyfer rhannu gwybodaeth gydag asiantaethau eraill ac ar gyfer cysylltu/cynnwys/hysbysu asiantaethau perthnasol eraill. Ni fydd gwybodaeth yn cael ei rhannu heb gysyniad yr unigolyn.
  6. Y dull i’w fabwysiadu wrth fynd i mewn i wersyll diawdurdod, gan nodi rolau a chyfrifoldebau statudol pawb dan sylw, a’r asesiad lles i’w gynnal.
  7. Amlinelliad o'r amrywiaeth o ymatebion sydd ar gael i awdurdod lleol ynghylch gwersyll diawdurdod ac esboniad o'r camau tebygol i'w cymryd mewn sefyllfaoedd penodol.
  8. Protocol ar gyfer rhoi gwybod i awdurdodau cyfagos am wersylloedd diawdurdod a chamau y gellir eu cymryd mewn partneriaeth.

Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio’n agos gydag awdurdodau lleol i gynorthwyo’r gwaith o roi’r canllawiau hyn ar waith. Bydd y ffordd y mae gwersylloedd diawdurdod yn cael eu rheoli gan awdurdodau lleol yn cael ei hadolygu gan Lywodraeth Cymru i sicrhau bod arferion gorau'n cael eu rhannu ac i asesu a oes angen diweddaru'r canllawiau.

Yn gyffredinol, gall datblygu strategaeth leol ar gyfer ymateb i wersyll diawdurdod helpu i leihau tensiynau cymunedol drwy ddarparu dull clir, cyson a chymesur o wneud pethau. Mae mabwysiadu dull sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn yn galluogi awdurdodau lleol i sicrhau bod anghenion y boblogaeth sefydlog a chymunedau Sipsiwn a Theithwyr yn cael eu hystyried wrth benderfynu sut i ymateb i wersyll o'r fath. 

Pennod 3: deall gwersylloedd diawdurdod a rhwymedïau posibl

Pam mae gwersylloedd diawdurdod yn digwydd?

Mae pwrpas gwersylloedd diawdurdod yn amrywio a gallant ddigwydd am nifer o resymau. Un o'r prif resymau dros wersylloedd diawdurdod yw prinder safleoedd awdurdodau lleol a mannau aros tramwy a thros dro/a negodwyd, a chau llawer o fannau aros traddodiadol. Heb ddarpariaeth dramwy gan awdurdod lleol, nid oes gan Sipsiwn a Theithwyr sy'n gorfod teithio i'r gwaith, sydd ag ymrwymiadau teuluol neu sydd angen mynediad at wasanaethau hanfodol le cyfreithiol i aros.

Mae Llywodraeth Cymru yn parchu ac yn cefnogi ffordd o fyw nomadig Sipsiwn a Theithwyr, ac mae'n cydnabod y gall gwersylloedd diawdurdod ddigwydd oherwydd diffyg darpariaeth ddigonol a phriodol o safleoedd dros dro. Deellir bod rhaid ystyried mynd i’r afael â mater gwersylloedd diawdurdod yng nghyd-destun ehangach diffyg darpariaeth safle tramwy cyfreithlon.

Bydd darparu mwy o safleoedd awdurdodau lleol ynghyd â rheoli safleoedd yn effeithiol yn helpu i ddileu’r angen am wersylloedd diawdurdod.

Felly, mae'r canllawiau hyn yn annog arferion gorau o ran creu mannau aros tramwy a thros dro wedi'u negodi er mwyn lleihau gwersylloedd diawdurdod. O dan Ddeddf Tai (Cymru) 2014, mae gan awdurdodau lleol ddyletswydd statudol i ddiwallu'r anghenion llety a nodir yn eu Hasesiad o Anghenion Llety Sipsiwn a Theithwyr. Pan nodir yn yr asesiad bod angen darpariaeth dramwy, mae'n ofynnol yn ôl y gyfraith i'r awdurdod lleol gymryd camau i roi sylw i hynny.

Wrth i safleoedd tramwy a mannau aros dros dro/a negodwyd gael eu datblygu, bydd llai a llai o angen i roi’r protocolau ar gyfer rheoli gwersylloedd diawdurdod ar waith. Bydd hyn yn ei dro yn lleihau’r goblygiadau gweinyddol ac ariannol i’r awdurdodau lleol sy’n gorfod ymateb.

Lle ceir gwersylloedd diawdurdod, dylai awdurdodau lleol, cyn belled ag y bo’n ymarferol, sicrhau eu bod yn ddiogel i’r unigolion dan sylw ac nad ydynt yn cael effaith andwyol ar y tir.

Mae’n debygol y bydd pob gwersyll diawdurdod yn wahanol i’r un nesaf. Gallant amrywio o ran:

  • Maint: fel arfer, bydd gwersylloedd yn cynnwys ychydig o garafannau yn unig ond gallant gynyddu’n sylweddol ar adeg angladdau neu briodasau mawr neu ffeiriau diwylliannol traddodiadol.
  • Lleoliad: ardaloedd glaswelltir cudd neu dir gwarchodedig, neu ardaloedd gweladwy iawn, e.e. ar ochr y ffordd. Mae mwy a mwy o wersylloedd yn ymddangos mewn parciau diwydiannol neu fusnes.
  • Effaith ar y gymuned sefydlog: yn yr un modd â’r boblogaeth sefydlog, efallai y bydd rhai gwersylloedd yn achosi niwsans i’r gymuned leol tra bydd eraill yn dawel.
  • Effaith ar y tir: gall rhai gwersylloedd adael ardal heb ei difetha ac yn daclus tra gall eraill achosi difrod i'r tir a gadael gwastraff ar eu hôl.

Gall Sipsiwn a Theithwyr fod ar wersylloedd diawdurdod am amrywiaeth o resymau, er enghraifft:

  • Nid oes gan y meddianwyr lain awdurdod lleol i osod eu carafán arno.
  • Efallai fod cyplau sydd newydd briodi wedi gadael lleiniau eu rhieni ond nid oes ganddynt eu lleiniau cyfreithlon eu hunain.
  • Mynd i ddigwyddiad teuluol yn yr ardal leol, fel priodas neu angladd.
  • Efallai fod ymdrechion i addasu i fyw mewn ‘brics a morter’ wedi methu.
  • Aros dros nos wrth deithio i leoliad arall, er enghraifft, i safle parhaol neu borthladd.
  • Rhesymau iechyd, er enghraifft, os oes angen gofal meddygol brys ar aelod o’r grŵp, os oes angen i rywun fynd i weld meddyg teulu i gael meddyginiaeth, neu os oes rhywun ar fin cael babi.
  • Dod o hyd i waith.
  • Galluogi plant a phobl ifanc i fynychu'r ysgol neu addysg drydyddol.
  • Darparu seibiant o'r teithio i aelod oedrannus neu sâl o’r grŵp.
  • Bydd gwersylloedd hirdymor yn aml yn digwydd am resymau addysg neu ofal iechyd, neu yn syml am nad oes llain arall ar gael.
  • Gall gwersylloedd byrdymor ddigwydd mewn amrywiaeth eang o amgylchiadau, gan bara am gyfnod penodol yn unig, fel am gyfnod dathliadau priodas neu gyfnod o driniaeth yn yr ysbyty.

Mae gwersylloedd diawdurdod byrdymor a hirdymor yn debygol o gael effaith ar yr ardal leol o ran darparu gwasanaethau a mynediad at y tir a feddiennir.

Dylai awdurdodau lleol gydnabod y gall fod yn fwy cymesur a chost-effeithiol darparu llain i’r rhai sydd ar wersyll diawdurdod, hyd yn oed os mai llain dros dro yw hwnnw mewn man aros dros dro/a negodwyd, yn hytrach na chymryd unrhyw gamau gorfodi yn eu herbyn. Gallai datblygu a darparu lleiniau a safleoedd awdurdodau lleol helpu cydlyniant cymunedol, lleihau’r posibilrwydd o unrhyw ddifrod i dir cyhoeddus, a lleihau'r costau clirio.

Gellir disgrifio man aros dros dro/a negodwyd fel safle sydd â chaniatâd cynllunio priodol lle mae Sipsiwn a Theithwyr wedi cael caniatâd i aros gan y tirfeddiannwr, sef awdurdod lleol fel arfer. Gellir darparu mannau aros dros dro/a negodwyd i adleoli gwersylloedd sydd wedi’u lleoli’n amhriodol, tra bydd safleoedd eraill gael eu datblygu. Bwriedir i’r rhain fod yn fesur cwbl dros dro lle nad oes gan awdurdodau lleol ddarpariaeth barhaol neu dramwy addas ar gael yn eu hardal. Nid datrysiad hirdymor mohonynt a rhaid i awdurdodau lleol barhau i gyflawni eu dyletswyddau i ddarparu llety priodol i Sipsiwn a Theithwyr o dan Ddeddf Tai (Cymru) 2014.

Nid yw’r gofynion sy’n ymwneud â safleoedd yn Neddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 yn berthnasol i fannau aros dros dro/a negodwyd gan nad yw’r rhain yn safleoedd awdurdod lleol nac yn safleoedd tramwy. Fodd bynnag, dylai mannau aros dros dro/a negodwyd bob amser ddarparu amwynderau sylfaenol i feddianwyr, gan gynnwys gwaredu gwastraff, cyflenwad dŵr a glanweithdra. Dylai’r teuluoedd sy’n defnyddio mannau aros dros dro/a negodwyd hefyd gael asesiad lles gan yr awdurdod lleol cyn gynted â phosibl er mwyn sicrhau bod yr awdurdod lleol yn cyflawni ei ddyletswyddau statudol tuag at yr unigolion hynny.

Ymdrin â gwersylloedd diawdurdod a datrysiadau

Mae’n hanfodol bod gan awdurdodau lleol brotocolau i ddelio’n briodol ac yn gymesur â gwersylloedd diawdurdod.

Os bydd gwersyll diawdurdod yn codi, mae gan awdurdodau lleol 3 prif lwybr i'w dilyn fel ymateb. Rhaid i bob opsiwn gael ei ystyried yn ofalus gan awdurdodau lleol i sicrhau bod y dull y maent yn penderfynu ei ddefnyddio yn deg, yn rhesymol ac yn gymesur:

  • Llwybr 1: derbyn y gwersyll diawdurdod, boed hynny am gyfnod byr neu am y tymor hwy, nes bydd y teuluoedd yn symud ymlaen yn wirfoddol neu nes bydd modd dod o hyd i safle arall. Cyn dilyn Llwybr 1, bydd angen i'r awdurdod lleol asesu diogelwch y gwersyll ar gyfer y meddianwyr a'r gymuned ehangach.
  • Llwybr 2: dod o hyd i safle arall, boed hynny dros dro neu yn y tymor hwy, i’r Sipsiwn neu’r Teithwyr symud iddo. Pan fydd awdurdodau lleol wedi profi gwersylloedd diawdurdod dro ar ôl tro mewn lleoliad penodol neu ar adeg benodol o'r flwyddyn, dylent geisio achub y blaen ar unrhyw ddigwyddiadau pellach drwy gael safle tramwy neu fan aros arall addas yn barod ymlaen llaw lle bo hynny'n bosibl.
  • Llwybr 3: os nad yw Llwybrau 1 a 2 yn datrys y sefyllfa neu os nad ydynt yn briodol am ba reswm bynnag, ac nad oes unrhyw bryderon ynghylch lles neu ddiogelwch yn atal camau gorfodi rhag cael eu cymryd ar unwaith, ceisio cael meddiant o'r safle (achos troi allan).

Mae gwersylloedd diawdurdod, drwy ddiffiniad, yn anghyfreithlon. Cydnabyddir, fodd bynnag, nes rhoddir sylw priodol i ddarparu safleoedd, mae’n debygol y bydd gwersylloedd diawdurdod yn parhau.

Dylid delio â phob gwersyll diawdurdod fesul achos. Mae penderfynu pa lwybr i’w ddilyn yn amgylchiadau penodol pob achos unigol yn hanfodol er mwyn cael cydbwysedd teg rhwng hawliau Sipsiwn a Theithwyr a hawliau tirfeddianwyr a’r cyhoedd. 

Rhaid ystyried pob gwersyll yn ôl ei amgylchiadau ei hun, gan feddwl am ffactorau fel ystyriaethau iechyd a diogelwch ar gyfer y meddianwyr, peryglon traffig, risgiau iechyd y cyhoedd, difrod amgylcheddol, niwsans cyhoeddus ac agosrwydd at ddefnydd tir sensitif arall.

Wrth asesu amgylchiadau’r rhai sydd yn y gwersyll, mae’n arbennig o bwysig bod awdurdodau lleol yn ystyried sut byddai camau troi allan yn effeithio ar aelodau agored i niwed o’r grŵp, fel pobl sydd ag anghenion iechyd neu ofal cymdeithasol dybryd, neu blant. Bydd yr asesiad hwn yn helpu awdurdodau lleol i benderfynu ar y dull gweithredu mwyaf priodol, gan gydbwyso buddiannau’r meddianwyr â buddiannau’r gymuned sefydlog o’u cwmpas.

Caiff awdurdod lleol ystyried ei bod yn briodol cymeradwyo gwersyll diawdurdod mewn rhai amgylchiadau, naill ai am y tymor hir neu'r tymor byr.

Gwneir y penderfyniad hwn ar sail nifer o ffactorau, gan gynnwys:

  • yr asesiad lles
  • amgylchiadau lleol
  • am faint y disgwyliedig i'r gwersyll fod yno
  • a yw'r meddianwyr yn teithio i gyrchfan arall (er enghraifft, cwrdd â theulu neu fynd i harbwr) a dim ond am gyfnod byr y byddant yn aros
  • ystyriaethau cyffredinol fel peryglon iechyd a diogelwch, materion yn ymwneud â thraffig, risgiau iechyd y cyhoedd a’r effaith ar ddefnyddwyr tir eraill

Mae’n bosibl na fydd rhai lleoliadau’n dderbyniol ar gyfer gwersyll am unrhyw gyfnod, er enghraifft:

  • Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol, Ardaloedd Cadwraeth Arbennig ac Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig a Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.
  • Meysydd parcio neu gaeau chwarae ysgolion.
  • Meysydd parcio ar gyfer cyfleusterau eraill, fel ysbytai.
  • Parciau trefol.
  • Caeau chwarae cyhoeddus.
  • Safle lle gallai llygredd neu wastraff o gerbydau ddifrodi cyrsiau dŵr, tir neu ddŵr.
  • Ardal sydd â gwastraff gwenwynig neu achos difrifol arall o halogi tir.
  • Ymyl ffordd brysur sy’n achosi perygl i feddianwyr y gwersyll.
  • Safleoedd lle mae posibilrwydd o niwed neu aflonyddwch sylweddol i rywogaethau a warchodir y gwyddys eu bod ar y safle, neu’n agos ato.

Gall amgylchiadau penodol rhai lleoliadau hefyd fod yn ystyriaethau perthnasol i awdurdodau lleol wrth benderfynu a ellir derbyn gwersyll diawdurdod am unrhyw gyfnod o amser. Gall hyn gynnwys lleoliad lle mae perygl o lifogydd neu wersyll mewn lleoliad sensitif, fel Parc Cenedlaethol neu Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol. Gall Cyfoeth Naturiol Cymru gynghori awdurdodau lleol ar ystyried y materion hyn.

Bydd angen i’r awdurdod lleol ac asiantaethau partner perthnasol benderfynu a yw amgylchiadau unigol y gwersyll, er enghraifft, y risgiau i ddiogelwch y cyhoedd neu’r effaith ar y gymuned leol, yn drech na buddiannau’r meddianwyr.

Pan fydd yr asesiad lles yn nodi pryderon diogelwch a lles difrifol ar gyfer y meddianwyr, fe allai’r awdurdod lleol ddymuno cymryd camau ar unwaith naill ai i unioni’r pryderon diogelwch, adleoli’r gwersyll dros dro, neu droi’r meddianwyr allan.

Bydd adleoli gwersyll yn llawer haws os yw’r awdurdod lleol wedi sefydlu man aros dros dro/a negodwyd i’w ddefnyddio.

Gall yr asesiad lles hefyd nodi pryderon brys, a allai awgrymu bod angen ymatebion meddygol neu ofal cymdeithasol ar unwaith gan y bwrdd iechyd lleol neu’r awdurdod lleol.

Yn yr amgylchiadau hyn, gellir penderfynu caniatáu i’r gwersyll aros am gyfnod byr. Fodd bynnag, dylid monitro unrhyw benderfyniad i gymeradwyo gwersyll diawdurdod yn ofalus. Yn benodol, os yw’r gwersyll yn aros am fwy o amser na’r disgwyl, efallai y bydd yr awdurdod lleol yn dymuno ailystyried y ffordd orau o fwrw ymlaen. Mae gweithwyr proffesiynol iechyd ac addysg lleol wedi adrodd yn anecdotaidd am fanteision man aros dros dro/a negodwyd, os mai dim ond am gyfnod byr mae hynny’n digwydd, gan fod plant yn gallu cael budd o addysg a gofal iechyd.

Pan ystyrir bod Sipsiwn a Theithwyr yn ddigartref neu mewn perygl o fod yn ddigartref, efallai y bydd Deddf Tai (Cymru) 2014 yn galw am ystyried a fyddai’n briodol negodi a derbyn gwersyll diawdurdod nes bydd canlyniad unrhyw gais digartrefedd yn hysbys, oni bai fod y gwersyll yn fygythiad uniongyrchol i ddiogelwch y cyhoedd neu Cydlyniant cymunedol.

Yn aml, trigolion lleol a busnesau sy’n poeni am yr effaith bosibl arnyn nhw fydd y cyntaf i sôn am y gwersylloedd. Gall pryderon amrywio o’r posibilrwydd o niwsans cyhoeddus, tipio anghyfreithlon, ehangu gwersylloedd a deiliadaeth barhaol. Efallai y bydd gan y cyhoedd ddisgwyliadau y gellir clirio gwersylloedd cyn gynted â phosibl ar ôl i’r awdurdod lleol gael gwybod.

Fodd bynnag, bydd os a phryd y cymerir unrhyw gamau troi allan yn erbyn y gwersyll yn dibynnu ar yr amgylchiadau ym mhob achos.

Dim ond ar ôl ystyried holl amgylchiadau’r achos y dylid penderfynu a ddylid cymryd camau troi allan, gan gynnwys a oes gan y meddianwyr anghenion lles penodol ac i ba raddau y mae’r gwersyll yn achosi niwsans cyhoeddus neu broblemau o ran diogelwch. 

Pa lwybr bynnag a ddewisir, dylai’r awdurdod lleol a’r asiantaethau perthnasol gofnodi’r holl dystiolaeth y seiliwyd eu penderfyniad arni, gan gynnwys asesiadau lles a’r ffactorau a ystyriwyd wrth benderfynu pa lwybr i’w ddilyn. Dylai’r holl randdeiliaid, gan gynnwys trigolion lleol, y meddianwyr a’r asiantaethau cysylltiedig, gael gwybod sut mae’r awdurdod lleol yn ymateb i’r gwersyll, fel y bo’n briodol.

Nid oes terfyn statudol ar gyfnod man aros dros dro/a negodwyd. Fodd bynnag, os bydd gwersyll yn ceisio aros yn yr ardal yn yr hirdymor, gallai hyn awgrymu bod angen safle awdurdod lleol ar gyfer y meddianwyr hynny. Bydd awdurdodau lleol yn ymwybodol o’u dyletswydd statudol i ddarparu ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr sy’n preswylio neu'n ymgynnull yn eu hardaloedd o dan Ddeddf Tai (Cymru) 2014.

Pennod 4: deddfwriaeth

Trosolwg

Mae sawl deddfwriaeth yn berthnasol i wersylloedd diawdurdod. Darperir rhywfaint o fanylion isod. Mae’n bwysig cofio bod deddfwriaeth a gwarchodaeth dan y gyfraith yn berthnasol i’r tirfeddiannwr ac i gymunedau Sipsiwn a Theithwyr hefyd.

Deddf yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd 2022 (“Deddf yr Heddlu”)

Mae adran 83 o Ddeddf yr Heddlu yn mewnosod adrannau 60C i 60E newydd yn Neddf Cyfiawnder Troseddol a Threfn Gyhoeddus 1994 (“Deddf 1994”).

Mae adran 60C newydd yn cyflwyno trosedd o breswylio neu fwriadu preswylio mewn cerbyd ar dir heb ganiatâd, cyn belled â bod un neu ragor o’r amodau canlynol yn cael eu bodloni:

  • Bod difrod sylweddol neu darfu sylweddol wedi’i achosi neu’n debygol o gael ei achosi o ganlyniad i breswyliad y person.
  • Bod difrod sylweddol neu darfu sylweddol wedi'i achosi neu'n debygol o gael ei achosi o ganlyniad i ymddygiad a gyflawnwyd, neu sy'n debygol o gael ei gyflawni, gan y person tra bydd ar y tir.
  • Bod trallod sylweddol wedi'i achosi neu'n debygol o gael ei achosi o ganlyniad i ymddygiad tramgwyddus a gyflawnir neu sy'n debygol o gael ei gyflawni gan y person tra bydd ar y tir.

Cyflawnir trosedd os nad yw’r person, heb “esgus rhesymol”, yn cydymffurfio cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol â chais a wneir gan y tirfeddiannwr/deiliad y tir neu'r heddlu i adael y tir a symud yr eiddo i gyd. Mae hefyd yn drosedd i’r person, heb esgus rhesymol, symud yn ôl i’r tir o fewn 3 mis.

Mae’r amddiffyniad “esgus rhesymol” yn caniatáu i berson ddangos bod ganddo esgus rhesymol dros fethu cydymffurfio cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol â chais i adael y tir, gyda’r bwriad o fyw yno heb ganiatâd. Mater i lys fydd penderfynu beth sy’n esgus rhesymol, ond un achos posibl fyddai cerbyd wedi torri i lawr ac yn aros i gael ei drwsio.

Mae adran 60C(7)(a) newydd yn darparu y dylai’r awdurdod gael ei drin fel “deiliad y tir” mewn perthynas â thir comin y mae gan y cyhoedd fynediad iddo a lle nad oes modd gwybod pwy yw deiliad y tir. Mae hyn yn golygu na chaiff person, yn yr achosion hyn, breswylio na bwriadu preswylio ar y tir heb ganiatâd yr awdurdod lleol a gall awdurdod lleol ofyn i berson adael y tir a symud ei eiddo.

Mae adran 60C(8) newydd yn nodi diffiniadau nad ydynt yn gynhwysfawr ar gyfer “difrod” a “tharfu”. Mae difrod yn cynnwys difrod ffisegol, sef “difrod i’r tir” a difrod nad yw’n ffisegol, sef “difrod i’r amgylchedd” sy’n cynnwys gormod o sŵn, arogleuon, sbwriel neu dyddodion gwastraff. Mae tarfu yn cynnwys y gallu sydd gan berson i gael mynediad at unrhyw gyfleusterau sydd wedi’u lleoli ar y tir neu fel arall wneud defnydd cyfreithlon o’r tir neu gyflenwad dŵr, ynni neu danwydd.

Y gosb uchaf am y trosedd yw tri mis o garchar, dirwy lefel 4 (£2,500 ar hyn o bryd), neu’r ddau.

Pan fo cwnstabl yn amau’n rhesymol fod trosedd wedi’i gyflawni o dan adran 60C newydd, mae adran 60D newydd yn rhoi’r pŵer i’r cwnstabl symud neu ymafael yn unrhyw eiddo perthnasol (a ddiffinnir yn adran 60D(2) newydd) y mae’n ymddangos ei fod yn perthyn i’r person y mae’r cwnstabl yn amau ei fod wedi cyflawni’r drosedd, sydd yn ei feddiant neu o dan ei reolaeth. Mae’r eiddo hwn yn cynnwys cerbyd, os yw’r cwnstabl yn amau bod gan y person gerbyd gydag ef neu ei fod wedi bwriadu ei gael gydag ef wrth gyflawni trosedd o dan adran 60C newydd. Caiff yr heddlu gadw eiddo yr ymafaelir ynddo o dan adran 60D newydd am hyd at 3 mis o’r dyddiad ymafael neu, os cychwynnir achos troseddol, nes daw'r achos hwnnw i ben.

Dan adran 60E newydd, gellir fforffedu eiddo yr ymafaelwyd ynddo a delio ag ef fel y pennir mewn gorchymyn llys. Cyn gwneud gorchymyn i fforffedu’r eiddo, rhaid i’r llys ganiatáu i unrhyw un sy’n honni mai ef yw’r perchennog neu sydd â buddiant ynddo wneud sylwadau. Rhaid i’r llys hefyd ystyried gwerth yr eiddo a chanlyniadau tebygol fforffedu.

Mae adran 84 o Ddeddf yr Heddlu yn diwygio’r pwerau presennol yn Neddf 1994. Mae is-adran (3) yn diwygio adran 61(1)(a) (pŵer i symud tresmaswyr ar dir) o Ddeddf 1994, i’r graddau y mae’n gymwys i Gymru a Lloegr, er mwyn ehangu’r mathau o niwed a ddelir gan bŵer uwch swyddog i gyfarwyddo tresmaswyr gyda phwrpas cyffredin o breswylio ar dir i adael y tir a symud eu heiddo. Mae’r rhain bellach yn cynnwys difrod, aflonyddwch neu drallod ac, yn wahanol i’r trosedd newydd, nid oes angen i’r rhain fod yn “sylweddol” i gael eu dal gan y pŵer. Rhoddir yr un diffiniadau i “difrod” a “tharfu” ag yn adran 60C newydd.

Yn unol â’r ddarpariaeth bresennol o dan adran 61 o Ddeddf 1994, caiff uwch swyddog gyfarwyddo pob tresmaswr sydd â phwrpas cyffredin o breswylio ar y tir, lle mae’n credu’n rhesymol bod unrhyw un ohonynt wedi achosi’r difrod, y tarfu neu’r trallod a bod camau rhesymol wedi’u cymryd gan ddeiliad y tir neu ar ei ran, i ofyn iddynt adael; nid oes gofyniad i gredu’n rhesymol mai un tresmaswr penodol a achosodd y difrod, y tarfu neu’r trallod.

Mae adran 61(4) o Ddeddf 1994 wedi ei diwygio i ddarparu bod person y rhoddwyd cyfarwyddyd iddo i adael gan uwch swyddog yng Nghymru a Lloegr o dan adran 61(1) yn cyflawni tramgwydd os ydant, heb esgus rhesymol, yn mynd i mewn i'r tir eto fel tresmaswr o fewn cyfnod o dri mis sy'n dechrau â'r diwrnod y rhoddwyd y cyfarwyddyd.

Mae adran 61(9) wedi'i diwygio i alluogi'r heddlu i gyfarwyddo tresmaswyr i adael tir sy'n rhan o briffordd yng Nghymru a Lloegr. Mae adran 62(1)(b) o Ddeddf 1994 yn cyflwyno pwerau i alluogi i gerbyd person gael ei atafaelu os byddant, heb esgus rhesymol, yn mynd i mewn i'r tir eto fel tresmaswr o fewn cyfnod o dri mis sy'n dechrau â'r diwrnod y rhoddwyd y cyfarwyddyd o dan adran 61(1).

O dan adran 62B(2) o Ddeddf 1994, mae person yn cyflawni tramgwydd pan fyddant yn mynd i mewn i unrhyw dir yn ardal yr awdurdod lleol perthnasol fel tresmaswr gyda'r bwriad o breswylio yno o fewn cyfnod o dri mis sy'n dechrau â'r diwrnod y rhoddwyd y cyfarwyddyd o dan adran 62A.

Deddf Priffyrdd 1980

O dan adran 137 o Ddeddf Priffyrdd 1980, mae’n drosedd i berson, heb esgus neu awdurdod cyfreithlon, rwystro’n fwriadol y llwybr rhydd ar hyd priffordd mewn unrhyw fodd. Mae adran 143 o'r Ddeddf honno yn rhoi pŵer i awdurdod priffyrdd i symud, gydag un mis o rybudd, unrhyw strwythurau a sefydlwyd ar briffordd. Mae’r diffiniad o strwythur yn cynnwys gwrthrych sy’n gallu achosi rhwystr, boed ar olwynion ai peidio, ac felly mae’n cynnwys carafán neu gartref symudol.

Rheolau Trefniadaeth Sifil 1998

Gellir cael gorchymyn adennill meddiant yn y llysoedd sifil, sy’n mynnu bod unrhyw dresmaswyr yn cael eu symud o eiddo o dan Ran 55 o’r Rheolau Trefniadaeth Sifil. Mae’r rhwymedi hwn ar gael i dirfeddianwyr cyhoeddus a phreifat.

Deddf Hawliau Dynol 1998

Mae Deddf Hawliau Dynol 1998 yn rhoi’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol (“ECHR” neu'r “Confensiwn”) ar waith yn y DU. Rhaid i benderfyniadau a wneir gan awdurdodau cyhoeddus yng Nghymru gydymffurfio â’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol.

Mae Erthygl 8 o’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol yn bwysig iawn mewn cysylltiad â chartref Sipsiwn neu Deithwyr. Mae Erthygl 8 yn datgan:

1. Mae gan bawb yr hawl i barch at ei fywyd preifat a theuluol, ei gartref a’i ohebiaeth.

2. Ni chaiff unrhyw awdurdod cyhoeddus ymyrryd â’r hawl hon oni bai fod hynny’n digwydd yn unol â’r gyfraith a’i fod yn angenrheidiol mewn cymdeithas ddemocrataidd er budd diogelwch gwladol, diogelwch y cyhoedd neu les economaidd y wlad, er mwyn atal anhrefn neu drosedd, er mwyn diogelu iechyd neu foesau, neu er mwyn diogelu hawliau neu ryddid pobl eraill.

Gall ‘cartref’ gynnwys carafán hyd yn oed os yw wedi’i barcio’n anghyfreithlon. Felly, gall Erthygl 8 fod yn berthnasol i’r unigolion hynny sydd mewn gwersylloedd diawdurdod yn ogystal â thenantiaid safleoedd.

Mae Erthygl 14 yn ymwneud â gwahardd gwahaniaethu a dylid ei darllen ar y cyd ag Erthygl 8:

“Sicrheir mwynhad o’r hawliau a’r rhyddid a nodir yn y Confensiwn hwn heb wahaniaethu ar unrhyw sail megis rhyw, hil, lliw, iaith, crefydd, barn wleidyddol neu farn arall, tarddiad cenedlaethol neu gymdeithasol, cysylltiad â lleiafrif cenedlaethol, eiddo, genedigaeth neu statws arall. ”

Mae troi Sipsiwn neu Deithwyr allan o wersylloedd anghyfreithlon gan awdurdod lleol yn debygol o ennyn Erthygl 8, gan ei bod yn debygol o fod yn ymyrraeth â chartref y Sipsiwn neu’r Teithwyr (Chapman v Y Deyrnas Unedig (2001) 33 EHRR 18). Fodd bynnag, mae hawliau erthygl 8 yn gymwys a bydd rhaid i awdurdod lleol benderfynu a fyddai troi allan yn gyfystyr ag ymyrraeth anghyfreithlon, ynteu a ellid cyfiawnhau hynny’n wrthrychol yn holl amgylchiadau unrhyw achos penodol.

Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990

Mae gan awdurdodau lleol amrywiol bwerau o dan Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990 i fynd i’r afael â materion yn ymwneud â gwastraff, niwsans statudol a sbwriel yn eu hardal.

Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990

Pan fo Sipsiwn neu Deithwyr (neu unrhyw un arall) yn prynu tir ac yn ei ddatblygu fel maes carafannau heb ganiatâd cynllunio, bydd camau gorfodi yn cael eu cymryd drwy’r system gynllunio. Mater o ddisgresiwn i'r awdurdod cynllunio lleol yw gorfodi. Mae canllawiau ar ddefnyddio pwerau gorfodi cynllunio ar gael yn y Llawlyfr Rheoli Datblygu ac yng Nghylchlythyr 24/97 y Swyddfa Gymreig.

Pennod 5: rolau a chyfrifoldebau

Trosolwg

Mae gan bob awdurdod cyhoeddus, gan gynnwys Gweinidogion Cymru, awdurdodau lleol ac awdurdodau cyhoeddus eraill, ddyletswyddau tuag at Sipsiwn a Theithwyr o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a Deddf Hawliau Dynol 1998. Rhaid ystyried y dyletswyddau hyn wrth benderfynu sut i ymdrin ag unrhyw wersyll diawdurdod ar dir sy’n eiddo cyhoeddus.

Llywodraeth Cymru

Nid oes gan Lywodraeth Cymru rôl orfodi i ymateb i wersyll diawdurdod ar dir awdurdod lleol neu breifat heb ganiatâd cynllunio.

Pan geir gwersyll diawdurdod ar dir sy'n eiddo i Lywodraeth Cymru, gall yr adran berthnasol sy'n gyfrifol am reoli'r ystad ystyried a ddylid cymryd unrhyw gamau troi allan fel tirfeddiannwr.  Dim ond ar ôl ystyried holl amgylchiadau'r achos unigol y bydd penderfyniad yn cael ei wneud ynghylch a ddylid cymryd camau troi allan, a bydd yn ystyried anghenion y Sipsiwn a’r Teithwyr yn ogystal ag anghenion y cyhoedd.

Ni fydd Llywodraeth Cymru yn cychwyn unrhyw gamau troi allan heb ymgynghori â’r awdurdod lleol perthnasol ymlaen llaw, gan ystyried eu dyletswydd i helpu’r rhai sy’n ddigartref neu sydd mewn perygl o fod yn ddigartref yn eu hardal. Mae’r cyfrifoldeb dros sicrhau lles y meddianwyr mewn gwersyll diawdurdod o'r fath hefyd yn aros gyda’r awdurdod lleol perthnasol, sydd ag amrywiaeth o ddyletswyddau statudol tuag at yr unigolion hyn. Llywodraeth Cymru, fel y tirfeddiannwr, fydd yn parhau i fod yn gyfrifol am gostau unrhyw achosion troi allan.

Awdurdodau lleol

Pan fydd gwersyll diawdurdod ar dir awdurdod lleol, rhaid i'r awdurdod lleol ystyried ei ddyletswydd statudol i helpu'r rheini sy'n ddigartref neu sydd mewn perygl o fod yn ddigartref yn ei ardal, cyn penderfynu a ddylid cymryd unrhyw gamau troi allan fel tirfeddiannwr. Rhaid i awdurdodau lleol hefyd ystyried eu dyletswyddau statudol eraill i sicrhau lles yr unigolion hyn wrth benderfynu sut i ymdrin â gwersylloedd diawdurdod. 

Awdurdodau cyhoeddus eraill

Gall awdurdodau cyhoeddus eraill (gan gynnwys parciau cenedlaethol) fel tirfeddianwyr ystyried cymryd camau troi allan yn erbyn unrhyw gymunedau Sipsiwn a Theithwyr sydd wedi sefydlu gwersyll diawdurdod ar eu tir. Fodd bynnag, ni ddylid gwneud hyn heb gysylltu’n gyntaf â’r awdurdod lleol perthnasol sydd â’r ddyletswydd statudol i helpu’r rhai yn eu hardal sy’n ddigartref neu mewn perygl o fod yn ddigartref, er mwyn sicrhau yr ymdrinnir yn deg ac yn rhesymol â’r gwersyll diawdurdod.

Tirfeddianwyr preifat

Nid oes gan dirfeddianwyr preifat sydd â gwersylloedd diawdurdod ar eu tir yr un cyfrifoldebau statudol tuag at Sipsiwn a Theithwyr ag awdurdodau cyhoeddus. Lle bo'n briodol, anogir tirfeddianwyr i gysylltu ag awdurdodau lleol neu'r heddlu i ystyried dulliau fel cyfryngu neu negodi i adael er mwyn datrys y sefyllfa'n adeiladol.

Fodd bynnag, wrth geisio datrys y mater o wersylloedd diawdurdod ar eu tir, rhaid i dirfeddianwyr preifat sicrhau bod unrhyw gamau y maent yn eu cymryd yn gyfreithlon. 

Heddluoedd

Er bod gan yr heddlu ystod o bwerau mewn perthynas â gwersylloedd diawdurdod, dylai awdurdodau lleol arwain a gweithio'n uniongyrchol gyda chymunedau Sipsiwn a Theithwyr yn y lle cyntaf. Dylid cynnwys yr heddlu dim ond os yw’r gofynion a nodir yng nghanllawiau NPCC yn cael eu bodloni.

Pennod 6: arweiniad cam wrth gam ar ddatrys gwersylloedd diawdurdod

Trosolwg

Dylai awdurdodau lleol ystyried yr adran hon o’r canllawiau wrth fynd i’r afael â gwersyll diawdurdod sydd wedi codi yn eu hardal. Er y dylai pob gwersyll gael ei asesu fesul achos, mae’r adran hon yn rhoi’r adnoddau i awdurdodau ddatblygu ymateb teg ac effeithiol.

Cam 1: rhoi gwybod am wersyll

Fel arfer, daw’r ymwybyddiaeth gyntaf o wersyll diawdurdod drwy adroddiadau gan drigolion lleol neu fusnesau yng nghyffiniau gwersyll sydd newydd ei ffurfio.

Dylai awdurdodau lleol sicrhau bod ganddynt ddull effeithiol o ymateb i wersylloedd cyn gynted ag y byddant yn ymddangos. Argymhellir bod awdurdodau lleol yn penodi Un Pwynt Cyswllt i ddelio â gwersylloedd diawdurdod yn eu hardal ac y dylid rhoi gwybod i holl staff yr awdurdod lleol beth yw manylion cyswllt yr Un Pwynt Cyswllt. Mae’n arbennig o bwysig bod y manylion hyn gan swyddogion cwynion a’r rheini sy’n gweithio ar y switsfwrdd.

Nid oes angen o reidrwydd i’r Un Pwynt Cyswllt fod yr un swyddog ar gyfer pob gwersyll. Fodd bynnag, bydd cael un cyswllt ar gyfer pob mater sy’n ymwneud â gwersyll penodol yn helpu’r awdurdod lleol i ymateb yn gyflym ac yn effeithiol, a gallai hyn arwain at well perthynas waith rhwng pawb dan sylw. Dylai'r awdurdod lleol sicrhau bod gan yr Un Pwynt Cyswllt y gefnogaeth angenrheidiol i gyflawni ei rôl a bod penderfyniadau pwysig yn cael eu gwneud ar lefel uwch. Dylai arweinwyr awdurdodau lleol hefyd sicrhau bod modd cydlynu'r holl adrannau perthnasol yn effeithiol.

Bydd rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i gymunedau a busnesau lleol am gynigion yr awdurdod lleol i ddelio â’r gwersyll yn helpu i sicrhau cydlyniant cymunedol a rheoli pryderon posibl pobl yn yr ardal gyfagos.

Pan gaiff awdurdod lleol ei hysbysu am wersyll diawdurdod am y tro cyntaf, dylai geisio cael cymaint o wybodaeth â phosibl gan y sawl sy'n gwneud yr adroddiad, gan barchu’r ffaith y gall ddymuno aros yn ddienw.

Gall gwybodaeth berthnasol gynnwys:

  • lleoliad y gwersyll
  • am ba mor hir y mae’r gwersyll wedi’i sefydlu
  • tua faint o bobl a cherbydau sydd yno
  • a oes unrhyw gyswllt wedi bod rhwng y person sy'n adrodd a'r meddianwyr, ac os oes, beth fu canlyniad y trafodaethau hynny
  • a oes gan y sawl sy’n gwneud yr adroddiad unrhyw bryderon penodol am y gwersyll, fel y meddianwyr yn rhwystro mynediad at dir neu'n achosi niwsans cyhoeddus
  • manylion cyswllt y person sy’n gwneud yr adroddiad os yw’n dymuno cael y wybodaeth ddiweddaraf am ymateb yr awdurdod lleol i’r gwersyll

Cam 2: asesu lles

Dylai awdurdodau lleol roi blaenoriaeth i ymgysylltu’n gynnar â phob teulu ar wersyll diawdurdod cyn ystyried sut i ymateb er mwyn sicrhau bod y broses o wneud penderfyniadau’n gwbl wybodus ac yn seiliedig ar yr holl ystyriaethau perthnasol.

Yn y cam hwn, nid yw cyfranogiad yr heddlu yn briodol. Dylai awdurdodau lleol arwain ac ymgysylltu'n uniongyrchol â theuluoedd, a dim ond cynnwys yr heddlu lle bodlonir y gofynion a nodir yng nghanllawiau NPCC.

Ar ôl i’r adroddiad am y gwersyll gael ei gofnodi, argymhellir bod yr Un Pwynt Cyswllt neu’r swyddog arweiniol yn ymweld â’r gwersyll i asesu lles y meddianwyr cyn gynted ag y bo hynny’n rhesymol ymarferol, o fewn 24 awr yn ddelfrydol.

Mae gan awdurdod lleol nifer o ddyletswyddau sy’n ymwneud â phobl sy’n byw yn ei ardal, gan gynnwys plant ac unigolion sydd mewn addysg, yn ogystal â deddfwriaeth sy'n ymwneud â thai. Mae’r dyletswyddau hyn yr un mor berthnasol i gymunedau Sipsiwn a Theithwyr sy’n byw mewn gwersyll diawdurdod. Bydd asesiad lles effeithiol yn helpu awdurdodau lleol i ddangos eu bod yn cydymffurfio â’r dyletswyddau cyfreithiol hyn.

Mae templed cyffredinol ar gyfer Asesiad Lles ar gael yn Atodiad 3.

Yn y gorffennol, mae'n bosibl mai’r Un Pwynt Cyswllt neu swyddog arweiniol arall yn yr awdurdod lleol fyddai wedi cynnal asesiadau lles. Fodd bynnag, argymhellir y dylid ystyried penodi rhywun annibynnol sydd â dealltwriaeth arbenigol o anghenion penodol Sipsiwn a Theithwyr i gynnal asesiadau lles ar ran yr awdurdod lleol. Efallai y bydd pobl allanol yn cael eu hystyried yn fwy agored eu meddwl ac yn fwy agos-atoch gan feddianwyr gwersyll, a allai fod yn ddrwgdybus o swyddogion awdurdodau lleol.

Bydd yr asesiad lles yn fodd i’r awdurdod lleol ganfod gwybodaeth bwysig am y gwersyll, gan gynnwys:

  • Pennu diogelwch y gwersyll ar gyfer y meddianwyr a’r gymuned ehangach.
  • Rhesymau dros yr arhosiad ac am faint y bwriedir aros.
  • Faint o feddianwyr a cherbydau (gan gynnwys carafannau) sydd yno.
  • Faint o’r meddianwyr sy’n blant.
  • Faint o’r meddianwyr sy’n bobl hŷn.
  • A oes meddianwyr anabl yno.
  • A oes unrhyw fabanod neu blant ifanc iawn ar y safle.
  • A oes unrhyw faterion iechyd/cyflyrau meddygol sy'n effeithio ar y meddianwyr e.e. a oes unrhyw un o'r grŵp wedi bod yn yr ysbyty, a oes rhywun yn feichiog neu wedi cael babi'n ddiweddar, neu a oes rhywun yn gwella ar ôl salwch neu anaf difrifol ac ati.
  • Penderfynu a oes angen unrhyw gymorth penodol ar unrhyw un o’r meddianwyr, fel angen am lety preswyl parhaol neu unrhyw faterion yn ymwneud ag iechyd neu ofal cymdeithasol.
  • A oes arholiadau ysgol ar y gweill.
  • Pa wasanaethau awdurdod lleol sy'n cael eu hystyried yn briodol e.e. casglu sbwriel, toiledau symudol, dŵr ac ati.

Diben yr ymweliad hwn â’r gwersyll yw:

  • nodi unrhyw broblemau posibl gan gynnwys cyflwr y tir a'r gwersyll
  • penderfynu a oes angen cynnwys asiantaethau ychwanegol, fel Gwasanaethau Addysg i Deithwyr neu weithwyr iechyd proffesiynol
  • penderfynu a fydd gwasanaethau’n cael eu darparu ar y safle, fel gwastraff neu lanweithdra
  • asesu a yw’n rhesymol gofyn i’r meddianwyr dalu am unrhyw wasanaethau y gallai’r awdurdod lleol benderfynu eu darparu
  • rhoi gwybod i’r meddianwyr pa gamau mae’r awdurdod lleol yn bwriadu eu cymryd i ymateb i’r gwersyll diawdurdod
  • rhoi manylion cyswllt lleol i’r meddianwyr, gan gynnwys yr Un Pwynt Cyswllt neu swyddog arweiniol arall sy’n cynnal yr asesiad, ac unrhyw gyngor perthnasol ar ofal iechyd, gweithwyr addysg proffesiynol a Cyngor ar Bopeth

Dylai’r awdurdod lleol sicrhau bod meddianwyr agored i niwed sydd ar wersyll diawdurdod yn cael gwybod am y cymorth a’r gefnogaeth y gallai fod ganddynt hawl i'w cael, a bod adrannau perthnasol, yn benodol, yn cael gwybod:

  • pan fydd plant dan 5 oed, pobl sydd â phroblemau iechyd arwyddocaol neu anghenion gofal cymdeithasol neu rywun beichiog ymhlith y meddianwyr
  • pan fydd risgiau uniongyrchol i’r meddianwyr, fel tir halogedig neu beryglon traffig
  • pan fydd plant oedran ysgol yn bresennol, o fewn 4 wythnos i ddiwedd y tymor

Dylai’r Un Pwynt Cyswllt neu’r swyddog arweiniol sy’n cynnal yr asesiad lles feddu ar yr hyfforddiant a’r arbenigedd sydd eu hangen i allu asesu anghenion y meddianwyr yn briodol. Dylai awdurdodau lleol fod yn ymwybodol na fydd rhai meddianwyr benywaidd, am resymau diwylliannol, yn cymryd rhan yn y broses hon os bydd Un Pwynt Cyswllt gwrywaidd yn dod atynt. Gan hynny, byddai’n arfer da i dîm rhyw gymysg ymgymryd â’r asesiad lles, lle bo hynny’n bosibl.

Dylid cydnabod hefyd y bydd ansawdd a maint y wybodaeth a gesglir yn ystod yr asesiad lles yn dibynnu, i ryw raddau, ar y berthynas mae’r Un Pwynt Cyswllt yn gallu ei datblygu gyda’r meddianwyr. Yn aml iawn, gall hyfforddiant ymwybyddiaeth ddiwylliannol a sgiliau cyfathrebu da fod yn bwysig i sicrhau bod asesiad effeithiol yn cael ei gwblhau. Gall hefyd fod yn fuddiol sicrhau nad y swyddogion o’r awdurdod lleol sy’n cynnal yr asesiadau lles sy’n cynnal unrhyw achosion gorfodi hefyd.

Bydd asesiadau lles yn darparu’r wybodaeth angenrheidiol i’r Un Pwynt Cyswllt gysylltu â chydweithwyr perthnasol, fel y rhai yn adrannau addysg a thai’r awdurdod lleol, neu gyda gweithwyr iechyd proffesiynol.

Nid oes gan awdurdodau lleol unrhyw bŵer i fynnu bod gwybodaeth yn cael ei rhoi iddynt fel rhan o’r asesiad lles. Os bydd un o’r meddianwyr wedi penderfynu peidio â rhannu unrhyw wybodaeth gyda’r Un Pwynt Cyswllt, dylid cadw cofnod o’r cwestiynau a ofynnwyd a’r penderfyniad i beidio ag ateb, ynghyd ag unrhyw reswm a roddwyd dros beidio ag ateb.

Dylid rhoi gwybod i feddianwyr y gallant ddarparu gwybodaeth drwy unigolyn arall maent yn ymddiried ynddo, os ydynt yn dymuno, a dylai’r Un Pwynt Cyswllt ddarparu ar gyfer hyn lle bo hynny’n ymarferol.

Mae deddfwriaeth diogelu data’n berthnasol i unrhyw wybodaeth bersonol a geir yn ystod ymweliadau ac ymholiadau. Dylid trin ffotograffau o unigolion hefyd fel data personol, os oes modd adnabod yr unigolion hynny ohonynt. Dylai awdurdodau egluro at ba ddiben mae gwybodaeth yn cael ei chasglu a rhoi sicrwydd ynghylch sut caiff ei defnyddio a gyda phwy y gellid ei rhannu.

Dylid cadw asesiadau lles at ddibenion archwilio. Mae’n bosibl y byddant yn ofynnol hefyd os bydd unrhyw her gyfreithiol yn digwydd i ymateb i achosion cymryd meddiant y gall yr awdurdod lleol fynd ar eu trywydd wedi hynny.

Arferion da

Yn Wrecsam, mae gan yr awdurdod lleol a’r bwrdd iechyd lleol gytundeb sefydledig i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr fynd i’r gwersylloedd diawdurdod i gynnal asesiadau lles pan fo angen.

Mae’r system hon yn golygu bod modd asesu anghenion lles yn briodol gan weithwyr proffesiynol nad ydynt yn rhan o unrhyw drefniadau troi allan. Mae’n debygol y bydd y meddianwyr yn fwy tebygol o gyfrannu mewn achosion fel hyn. 

Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (asesiadau lles).

Mae'n bosibl y bydd yr awdurdod lleol yn penderfynu ymweld â’r gwersyll fwy nag unwaith i sicrhau eu bod yn gallu cyflawni eu dyletswyddau statudol tuag at y meddianwyr.

Dylid rhoi gwybod i’r meddianwyr hefyd y gallant gysylltu â’r Un Pwynt Cyswllt neu swyddogion arweiniol eraill o’r awdurdod lleol i ofyn am ymweliad ychwanegol os ydynt o’r farn bod angen unrhyw gymorth ychwanegol i ddiogelu eu lles.

Wrth ddarparu gwybodaeth a chysylltiadau defnyddiol i feddianwyr, bydd gofyn ystyried unrhyw angen am ddeunyddiau hygyrch. Efallai y bydd rhai Sipsiwn a Theithwyr yn cael anawsterau gyda llythrennedd ac felly mae’n bwysig bod awdurdodau lleol yn sicrhau bod meddianwyr yn gallu darllen unrhyw ddogfennau a roddir iddynt a’u deall. 

Cam 3: dadansoddiad cost a budd o ddatrys y mater

Gall dod o hyd i fannau aros dros dro/a negodwyd gynnig datrysiad hirdymor pragmatig a chost-effeithiol fydd yn galluogi’r awdurdod lleol i adleoli gwersyll o leoliad amhriodol, gan gydnabod yr angen i ddarparu cymorth ar gyfer ffordd nomadig Sipsiwn a Theithwyr o fyw.

Bydd awdurdodau lleol sy’n darparu safleoedd tramwy a mannau aros dros dro/a negodwyd, yn hytrach na dim ond cymryd camau gorfodi adweithiol yn erbyn gwersylloedd diawdurdod, yn aml yn arbed arian yn y tymor hir. Gall mabwysiadu’r dulliau a ganlyn o ymdrin â gwersylloedd diawdurdod fod yn gost-effeithiol:

  • Darparu lleiniau a safleoedd awdurdodau lleol ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr lle gwelir bod angen yn yr ardal. Mae lleiniau awdurdodau lleol yn rhoi modd i awdurdodau lleol godi rhent, trethi a’r dreth gyngor ar breswylwyr.
  • Nodi mannau aros dros dro/a negodwyd yn yr ardal leol lle gellid adleoli a rheoli gwersylloedd diawdurdod am gyfnod byr. Gallai awdurdodau lleol osgoi costau gorfodi diangen os yw’r gwersyll yn gallu mynd i safle dros dro.
  • Gall darparu gwasanaethau fel casglu sbwriel, toiledau a dŵr ffres leihau costau glanhau sylweddol.
  • Gall negodi taliadau rhesymol gan feddianwyr am y gwasanaethau hyn adennill swm sylweddol o'r gwariant sy'n gysylltiedig â darparu'r rhain.

Arferion da

Ym mis Ionawr 2011, cyhoeddodd Cyngor Dinas Leeds ganfyddiadau’r Panel Craffu ar Gymdogaethau a’r Amgylchedd, a argymhellodd gynllun peilot ‘Mannau Aros a Negodwyd’. Roedd y cynllun yn adolygu tir posibl ar gyfer mannau aros dros dro gan ddefnyddio’r meini prawf a ganlyn:

Bod y tir yn ‘lle y gellid ei amddiffyn’ gan fod y tir a oedd ar gael yn gyfyngedig ac y byddai unrhyw wersyll gan hynny’n gyfyngedig o ran maint.

Bod perchnogion busnes lleol, yr heddlu ac aelodau etholedig i gyd yn ‘ymrwymo’ rhywfaint i’r prosiect.

Bod y lleoliad yn ddiogel i’r meddianwyr a’u bod yn barod i aros yno.

Roedd y cytundeb cychwynnol yn para 3 mis ac roedd yr awdurdod yn darparu toiledau ac yn gwaredu gwastraff pob teulu. Roedd Cyfnewidfa Sipsiwn a Theithwyr Leeds (GATE) yn darparu cymorth cyswllt rhwng meddianwyr a’r awdurdod lleol.

Daethpwyd o hyd i ail leoliad yn fuan ar ôl hynny a dywedodd aelodau etholedig lleol eu bod yn fodlon i’r cynllun gael ei ymestyn. Mae Cyngor Dinas Leeds yn amcangyfrif ei fod wedi arbed dros £100,000 hyd yma drwy leihau’r costau troi allan a glanhau sy’n gysylltiedig â gwersylla diawdurdod. 

Cyngor Dinas Leeds a GATE Leeds (man aros dros dro/a negodwyd).

Mae Pennod 2 (Ymdrin â gwersylloedd diawdurdod a datrysiadau) yn nodi'r 3 llwybr y bydd awdurdodau lleol fel arfer yn eu hystyried wrth ymdrin â gwersylloedd diawdurdod a datrys y mater.

  • Llwybr 1: derbyn y gwersyll diawdurdod.
  • Llwybr 2: dod o hyd i safle arall.
  • Llwybr 3: ceisio a chael meddiant o’r safle a feddiennir (trefniadau troi allan).

Mae'r dadansoddiad cost a budd ar gyfer Llwybr 1 a Llwybr 2 wedi dangos mai derbyn gwersyll am gyfnod byr neu ei symud i fan aros y cytunwyd arno yw'r ateb mwyaf effeithiol i bawb o bosibl.

Llwybr 3 Bydd troi meddianwyr allan o wersyll diawdurdod yn aml yn arwain at gostau sylweddol i’r awdurdod lleol ac i’r heddlu, a bydd yn cymryd amser i ddatrys yr achos. Mae'n bosibl na fydd hyn yn cynnig ateb hirdymor chwaith: os yw’r meddianwyr wedi sefydlu gwersyll diawdurdod yn ardal gyffredinol yr awdurdod lleol oherwydd prinder lleiniau cyfreithlon; yn absenoldeb unrhyw ddewisiadau eraill addas, gallent symud i wersyll diawdurdod arall yn yr un ardal.

Mae angen i awdurdodau cyhoeddus sy’n dilyn y llwybr hwn fod yn fodlon bod camau meddiant yn gyfiawn ac yn gymesur ac nad ydynt yn ymyrryd yn anghyfreithlon â hawliau dynol y meddianwyr. Bydd asesiadau lles yn helpu i ddangos bod yr awdurdod lleol wedi ystyried yr holl wybodaeth berthnasol ac wedi penderfynu troi allan ar ôl cydbwyso hawliau’r meddianwyr â hawliau’r gymuned sefydlog ehangach. 

Gellid ystyried a ddylid cysylltu â’r heddlu ynghylch unrhyw fwriad i droi’r meddianwyr allan.

Pennod 7: cyfathrebu

Trosolwg

Ni waeth pa lwybr y bydd yr awdurdod lleol yn ei ddilyn, mae’n bwysig bod yr holl bartïon yr effeithir arnynt yn cael eu diweddaru. Mae’n arfer da i’r Un Pwynt Cyswllt/swyddog arweiniol rannu’r datblygiadau’n uniongyrchol â’r meddianwyr a’r trigolion/busnesau lleol. Mae'n bosibl y byddai’n ddefnyddiol i awdurdodau lleol anfon diweddariadau ysgrifenedig at bobl.

Rhaid i awdurdodau lleol sicrhau bod meddianwyr yn gallu darllen a deall unrhyw ddogfen o’r llys a gyflwynir iddynt, neu’n cael eu cyfeirio at ble gallant gael cymorth a chefnogaeth, fel Swyddog Cyswllt Sipsiwn a Theithwyr, grwpiau eiriolaeth Sipsiwn a Theithwyr lleol, Cyngor ar Bopeth lleol neu Gynghorau Cydraddoldeb Rhanbarthol.

Mae angen sicrhau bod y prif bwyntiau cyswllt rhwng cymunedau Sipsiwn a Theithwyr a gwasanaethau lleol yn ymwybodol o gamau meddiannu posibl a’r effaith y gallai hyn ei chael ar ddefnyddwyr eu gwasanaeth. Argymhellir bod Gwasanaethau Addysg i Deithwyr, ymwelwyr iechyd ac unrhyw grwpiau cymorth perthnasol eraill yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am y datblygiadau i gyd er mwyn iddynt allu cynorthwyo’r meddianwyr yr effeithir arnynt yn ôl yr angen.

Atodiad 1: geirfa

Geirfa

Protocol

Cynllun y cytunwyd arno ar gyfer sut bydd gwasanaethau’n ymdrin â mater.

Awdurdod cyhoeddus

Yn ogystal â chynghorau, mae grwpiau eraill fel Parciau Cenedlaethol neu Cyfoeth Naturiol Cymru sy’n gofalu am ardaloedd mawr o dir ar gyfer y cyhoedd. Weithiau, mae’n rhaid iddynt droi allan deuluoedd sydd wedi stopio yn eu hardal.

Llain

Tir ar safle cartrefi symudol lle mae gan feddianwyr hawl i osod eu cartrefi symudol am gyfnod amhenodol (oni nodir yn eu cytundeb llain). Fel arfer mae’n cynnwys bloc amwynder, lle ar gyfer carafán sefydlog a charafán deithiol a man parcio.

Bydd cynllun y llain yn dibynnu ar ddyluniad cyffredinol y safle. Elfen bwysig yn nyluniad a maint lleiniau yw’r capasiti arfaethedig. Mae adran 60 o Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru), yn diffinio ‘cartref symudol’ fel un sy’n mesur hyd at 20 metr o hyd a 6.8 metr o led.

Safle awdurdod lleol

Mae hwn yn safle sy’n eiddo i’r awdurdod lleol ac yn cael ei weithredu ganddo. Bydd y safle hwn yn cael ei ddynodi i’w ddefnyddio fel safle Sipsiwn a Theithwyr. Gall preswylwyr ar y safleoedd hyn ddisgwyl defnyddio eu lleiniau cyhyd â’u bod yn glynu wrth delerau eu cytundeb llain, o dan Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013.

Gellir darparu mannau gweithio hefyd ar safleoedd, neu wrth eu hymyl, ar gyfer gweithgareddau a gyflawnir gan aelodau o’r gymuned.

Safle

Bydd safle’n cynnwys amrywiaeth o gyfleusterau (yn dibynnu ar faint y tir a’r gofynion), cysylltiadau â chyfleustodau, adeilad cymunedol, man chwarae,

llwybr troed o amgylch y safle, goleuadau cyhoeddus, a ffensys/coed i greu ffin o amgylch y safle i’w amgáu a sicrhau diogelwch.

Man aros dros dro/a negodwyd

Bwriedir i’r rhain fod yn rhai tymor byr o ran natur i helpu awdurdodau lleol pan dderbynnir bod angen lleiniau.

Rhaid darparu ar gyfer gwaredu gwastraff, cyflenwi dŵr a glanweithdra o leiaf.

Dim ond am gyfnod cyfyngedig y mae gan y safleoedd hyn ganiatâd cynllunio neu drwydded safle. Gall preswylwyr ar y safleoedd hyn ddisgwyl defnyddio eu lleiniau am gyfnod y caniatâd cynllunio neu’r drwydded safle (neu gyhyd â’u bod yn glynu wrth delerau eu cytundebau lleiniau, o dan Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013, pa un bynnag yw’r cynharaf).

Gwasanaeth Addysg i Deithwyr

Athrawon yw’r rhain sy’n gweithio’n agos gyda phlant Sipsiwn a Theithwyr i sicrhau eu bod yn cael addysg addas.

Llain dramwy

Tir ar safle cartrefi symudol lle mae gan ddefnyddwyr hawl i osod eu cartrefi symudol am gyfnod hyd at dri mis. Gall lleiniau tramwy fodoli ar safleoedd awdurdodau lleol, ond nid yw hyn yn cael ei argymell.

Safle tramwy

Mae safleoedd tramwy yn gyfleusterau parhaol sydd wedi’u cynllunio i’w defnyddio dros dro am uchafswm o 3 mis ar y tro. Bydd awdurdodau lleol yn gyfrifol am gynnal a chadw systemau gwaredu gwastraff, cyflenwad dŵr a glanweithdra’r safle, yn amodol ar dâl.

Mae telerau penodol dan Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 yn berthnasol ar y safleoedd hyn. Gellir darparu mannau gweithio hefyd ar safleoedd, neu wrth eu hymyl, ar gyfer gweithgareddau a gyflawnir gan aelodau o’r gymuned.

Gwersyll diawdurdod

Tir a feddiennir heb ganiatâd y perchennog.

Gellir defnyddio gwersylloedd dros dro os nad oes darpariaeth ar gael ar gyfer mannau tramwy neu fannau aros dros dro/a negodwyd, a gall yr awdurdod lleol eu derbyn tra bydd safleoedd amgen yn cael eu datblygu.

Brics a mortar

Tŷ neu fflat, y cyfeirir atynt yn aml fel tai confensiynol. Efallai eu bod ar rent cymdeithasol, ar rent preifat, neu mewn perchnogaeth.

Cymunedau sefydlog

Mae cymunedau sefydlog yn gymunedau o bobl sydd ddim yn aelodau Efallai eu bod ar rent cymdeithasol, ar rent preifat, neu mewn perchnogaeth.

Atodiad 2: cod ymddygiad

Enghraifft: cod ymddygiad

Rydych chi a’ch teulu (rhowch en....................... ) wedi cael caniatâd i aros ar y tir hwn dros dro am gyfnod o ............... tan ................

Mae’r caniatâd hwn yn amodol ar y Cod Ymddygiad hwn y cytunwyd arno, sy’n egluro’r hyn a ddisgwylir gennych chi/eich teulu a’r awdurdod lleol.

Rydych chi wedi cytuno i drin y tir rydych chi wedi ei feddiannu, a’r gymuned gyfagos, gyda gofal a pharch.

Byddwch hefyd yn parchu hawliau’r rhai sydd angen mynediad i’r tir.

Rydych chi wedi cael caniatâd i barcio eich carafán a’ch cerbydau ar ddarn penodol o dir. Rydych chi’n cytuno i beidio â gwersylla ar unrhyw dir ar wahân i’r tir rydych chi wedi cael caniatâd i aros arno.

Rhaid i chi beidio â gorfodi mynediad i unrhyw ran arall o’r tir na’r adeiladau ar y tir.

Rydych chi’n cytuno na fyddwch chi’n difrodi’r tir ei hun nac unrhyw eiddo arno, gan gynnwys ffensys, waliau terfyn, gosodiadau a ffitiadau. Mae hyn yn cynnwys amddiffynfeydd rhag llifogydd neu amddiffynfeydd i atal tresmasu.

Rydych yn cytuno i beidio â gyrru cerbydau ar lwybrau troed a phriffyrdd nad ydynt wedi eu cynllunio ar gyfer cerbydau ffordd. Gallai gwneud hyn roi eraill mewn perygl.

Rhaid i gerbydau a charafannau gael eu parcio mewn ffordd nad yw'n rhwystro mynediad ar gyfer pobl eraill sydd eisiau mynd drwy ran arall o’r tir neu gael mynediad iddo.

Gwaherddir dympio, tipio sbwriel neu osod deunyddiau gwastraff neu wastraff masnach fel rwbel neu dorri coed ar y tir hwn. Defnyddiwch y biniau a ddarperir ar gyfer gwastraff domestig neu waredu gwastraff masnachol yn y Safle Amwynder Dinesig (tomen sbwriel leol).

Ni chaniateir llosgi gwastraff masnachol na domestig ar y safle hwn. Dim ond pan fydd rheolau diogelwch tân yn cael eu dilyn, ac fel y cytunwyd gyda’r awdurdod lleol / gwasanaeth tân, y caniateir tanau agored.

Byddwch yn cael toiled symudol. Rhaid i chi beidio â gwaredu na rhoi unrhyw wastraff dynol ar y safle hwn mewn unrhyw ffordd arall.

Byddwch yn cael gwybod am wasanaethau lleol, h.y. Meddyg Teulu/Fferyllydd.

Byddwch yn cael mynediad at gyflenwad dŵr.

[Rydych chi wedi cytuno i dalu am wasanaethau (toiled y gellir ei gludo, cyflenwad dŵr, biniau) ar y safle]. Mae’n bosibl y bydd gwasanaethau’n cael eu tynnu’n ôl os byddant yn cael eu difrodi neu’n cael eu defnyddio’n amhriodol.

Rydych chi’n cytuno na fyddwch chi’n gwneud dim byd sy’n effeithio ar ddiogelwch a lles meddianwyr eraill na’u hanifeiliaid.

Rydych yn cytuno i barchu'r gymuned gyfagos a pheidio ag achosi unrhyw niwsans cyhoeddus.

Os byddwch chi neu aelod o'ch teulu yn torri unrhyw ran o'r cytundeb hwn, rydych yn deall y gall yr awdurdod lleol gymryd camau gorfodi ar unwaith yn eich erbyn i adennill meddiant o'r tir.