Daeth yr ymgynghoriad i ben 19 Mehefin 2026.
Manylion am y canlyniad
Crynodeb o’r ymatebion , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 201 KB
Ymgynghoriad gwreiddiol
Rydym am gael eich barn ar ganllawiau drafft Rheoliadau Cyllido Ysgolion, Datganiadau Cyllideb a Datganiadau Alldro (Cymru) 2026 a chanllawiau statudol drafft ar gynlluniau awdurdodau lleol ar gyfer cyllido ysgolion.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Rydym yn casglu barn ar y:
- canllawiau drafft i awdurdodau lleol ar Reoliadau Cyllido Ysgolion, Datganiadau Cyllideb a Datganiadau Alldro (Cymru) 2026
- canllawiau statudol drafft ar gynlluniau awdurdodau lleol ar gyfer cyllido ysgolion
Sylwch fod rhai gwallau wedi'u nodi yn fersiwn Gymraeg o'r canllawiau drafft i awdurdodau lleol ar Reoliadau Cyllido Ysgolion, Datganiadau Cyllideb a Datganiadau Alldro (Cymru) 2026, a gyhoeddwyd yn wreiddiol ar 27 Mawrth 2026. Cyhoeddwyd y fersiwn Gymraeg ddiwygiedig yn ystod y cyfnod ymgynghori ar 27 Ebrill 2026 i fynd i'r afael â'r gwallau hyn.
