Canllawiau ar Reoliadau Cyllido Ysgolion, Datganiadau Cyllideb a Datganiadau Alldro (Cymru) 2026
Rydym am gael eich barn ar ganllawiau drafft Rheoliadau Cyllido Ysgolion, Datganiadau Cyllideb a Datganiadau Alldro (Cymru) 2026 a chanllawiau statudol drafft ar gynlluniau awdurdodau lleol ar gyfer cyllido ysgolion.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Trosolwg
Rydym yn casglu barn ar y canllawiau drafft i awdurdodau lleol ar Reoliadau Cyllido Ysgolion, Datganiadau Cyllideb a Datganiadau Alldro (Cymru) 2026 a chanllawiau statudol drafft ar gynlluniau awdurdodau lleol ar gyfer cyllido ysgolion.
Sut i ymateb
Dylid e-bostio a(neu) postio ymatebion i’r ymgynghoriad hwn i’r cyfeiriad isod i gyrraedd erbyn 19 Mehefin 2026 fan hwyraf.
Gallwch ymateb i'r ymgynghoriad hwn drwy gwblhau'r holiadur ar ddiwedd y ddogfen hon a'i ddychwelyd atom.
Rhagor o wybodaeth a dogfennau cysylltiedig
Gellir gwneud cais am fersiynau o'r ddogfen hon mewn print bras, Braille ac mewn ieithoedd eraill.
Rheoliadau Cyllido Ysgolion, Datganiadau Cyllideb a Datganiadau Alldro (Cymru) 2026.
Manylion cyswllt
I gael rhagor o wybodaeth:
Yr Is-adran Seilwaith Addysg, Llywodraethu a Chyllid
Y Gyfarwyddiaeth Addysg
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
e-bost: school.funding@llyw.cymru.
Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU)
Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer ymgyngoriadau Llywodraeth Cymru ac unrhyw ddata personol a ddarperir gennych wrth ichi ymateb i'r ymgynghoriad.
Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol hyn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau cytbwys ynghylch sut y maent yn cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus. Y sail gyfreithlon dros brosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw ein tasg gyhoeddus; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru. (Erthygl 6(1)(e)).
Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy'n gweithio ar y materion y mae'r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â nhw neu sy’n cynllunio ymgyngoriadau ar gyfer y dyfodol. Yn achos ymgyngoriadau ar y cyd, gall hyn hefyd gynnwys awdurdodau cyhoeddus eraill. Pan fo Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiad pellach o'r ymatebion i ymgynghoriad, gall trydydd parti achrededig (er enghraifft sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori) gael ei gomisiynu i wneud y gwaith hwn. Dim ond o dan gontract yr ymgymerir â gwaith o'r fath. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o'r fath yn nodi gofynion caeth ar gyfer prosesu a chadw data personol yn ddiogel.
Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi’i gynnal yn briodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ddogfen hon. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi’r ymatebion yn llawn. Rydym yn cyhoeddi ymatebion yn ddienw ac ni chaiff eich enw na'ch manylion cyswllt eu cynnwys. Os hoffech i'ch enw neu fanylion eraill gael ei gyhoeddi/eu cyhoeddi ochr yn ochr â'ch ymateb, rhowch wybod i ni pan fyddwch yn cyflwyno eich ymateb ac y byddwn yn eu cynnwys.
Dylech hefyd fod yn ymwybodol o'n cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth ac y gall fod rhwymedigaeth gyfreithiol ar Lywodraeth Cymru i ddatgelu rhai mathau o wybodaeth.
Os caiff eich manylion eu cyhoeddi fel rhan o'r ymateb i'r ymgynghoriad, caiff yr adroddiadau cyhoeddedig hyn eu cadw am gyfnod amhenodol. Ni fydd gweddill eich data a gedwir fel arall gan Lywodraeth Cymru yn cael eu cadw am fwy na thair blynedd.
Eich hawliau
O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:
- i wybod am y data personol a gedwir amdanoch chi a'u gweld
- i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
- (o dan amgylchiadau penodol) i wrthwynebu prosesu neu gyfyngu ar brosesu
- (o dan rai amgylchiadau) i'ch data gael eu ‘dileu’
- (o dan rai amgylchiadau) i gludadwyedd data
- i wneud cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data
I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei dal ac am y defnydd a wneir ohoni, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data, gweler y manylion cyswllt isod:
Swyddog Diogelu Data:
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
CAERDYDD
CF10 3NQ
E-bost: swyddogdiogeludata@llyw.cymru
Manylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yw:
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire SK9 5AF
Ffôn: 0303 123 1113
Gwefan: ico gewfan
Beth sydd dan sylw yn yr ymgynghoriad hwn
Nod yr ymgynghoriad hwn yw casglu barn ar eglurder a defnyddioldeb dwy ddogfen ganllaw mewn perthynas â Rheoliadau Cyllido Ysgolion, Datganiadau Cyllideb a Datganiadau Alldro (Cymru) 2026 (“Rheoliadau 2026”).
Mae un o'r dogfennau canllaw yn cynnwys canllawiau cyffredinol i awdurdodau lleol ar Reoliadau 2026, ar wahân i Ran 4 ac Atodlen 4, mewn perthynas â chynlluniau ariannol. Cyhoeddir y canllawiau hyn o dan adran 60 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Nid oes unrhyw ddyletswydd statudol i ystyried y canllawiau hyn, ond byddai Gweinidogion Cymru yn disgwyl i'r rhai hynny y maent wedi'u hanelu atynt roi ystyriaeth iddynt wrth ystyried materion y maent yn berthnasol iddynt.
Cyhoeddir y ddogfen ganllaw statudol ar gynlluniau ariannol ar gyfer cyllido ysgolion a gynhelir gan awdurdodau lleol gan Weinidogion Cymru yn unol ag adran 48(4) a pharagraff 2A(2) o Atodlen 14 i Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998. Mae'n cynnwys canllawiau statudol ac, felly, rhaid i awdurdodau lleol ei hystyried wrth ddiwygio eu cynlluniau ariannol. Canllawiau ar gyfer awdurdodau lleol yw'r rhain. Fodd bynnag, dylent geisio eu cyngor cyfreithiol eu hunain o ran yr hyn sy'n ofynnol yn ôl y gyfraith.
Yn ogystal â'r ddwy ddogfen ganllaw, byddwn yn parhau i ddarparu nodiadau canllaw ar gwblhau ffurflenni datganiadau cyllideb a datganiadau alldro.
Beth yw'r sefyllfa bresennol
Mae Rheoliadau Cyllido Ysgolion, Datganiadau Cyllideb a Datganiadau Alldro (Cymru) 2026 (“Rheoliadau 2026”) yn dirymu ac yn disodli Rheoliadau Cyllido Ysgolion (Cymru) 2010 (“Rheoliadau 2010”), Rheoliadau Addysg (Datganiadau Cyllideb) (Cymru) 2002 (“Rheoliadau 2002”) a Rheoliadau Addysg (Datganiadau Alldro) (Cymru) 2003 (“Rheoliadau 2003”) mewn perthynas â blynyddoedd ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2027 neu ar ôl hynny.
Mae Rheoliadau 2026 yn darparu ar gyfer cyllido ysgolion a gynhelir yng Nghymru ac yn sefydlu'r fframwaith ariannol ar gyfer awdurdodau lleol ac ysgolion. Maent hefyd yn nodi gwybodaeth am wariant awdurdodau lleol ar addysg y mae'n rhaid ei chynnwys mewn datganiadau cyllideb o wariant cynlluniedig a datganiadau alldro o wariant gwirioneddol.
Diben y newidiadau a wneir gan Reoliadau 2026 i'r ffordd y mae awdurdodau lleol yn dyrannu cyllidebau yw gwneud y system cyllido ysgolion yn fwy tryloyw, cymaradwy a chyson. Bydd hyn yn golygu bod modd cynnal trafodaethau ar sail gwybodaeth ynghylch cyllidebau ar bob lefel. Maent hefyd yn sicrhau eu bod yn adlewyrchu polisïau a deddfwriaeth gyfredol ac yn diweddaru terminoleg yn briodol.
Er bod Rheoliadau 2026, i raddau helaeth, yn gyfuniad syml o'r tair set flaenorol o reoliadau, mae rhai newidiadau wedi'u cyflwyno. Mae'r newidiadau wedi'u nodi yn y canllawiau cyffredinol drafft. Mae'r newidiadau yn cynnwys:
- Gofynion o ran cyhoeddi fformiwlâu cyllido ar wefan sy'n hygyrch i'r cyhoedd.
- Newidiadau i ffactorau amddifadedd.
- Y gallu i ysgolion ffederal ofyn am un gyllideb ffederal.
- Gofynion o ran cyhoeddi cynlluniau ariannol ar wefan sy'n hygyrch i'r cyhoedd.
- Gofyniad i gynlluniau ariannol awdurdodau lleol nodi'r meysydd o'u cyllideb ysgolion nad ydynt wedi'u dirprwyo i ysgolion ond a gedwir yn ganolog gan yr awdurdod lleol i wario ar ysgolion.
- Symud ardrethi annomestig o'r gyllideb ysgolion i'r gyllideb addysg nad yw ar gyfer ysgolion.
- Mae'r terfyn o 0.2% a gymhwysir at ffioedd trwyddedau neu danysgrifiadau yn Atodlen 2 i Reoliadau 2010, sy'n rhestru'r hyn y gellir ei gynnwys yn y gyllideb ysgolion (gwariant y gellir ei ddirprwyo i ysgolion neu ei gadw'n ganolog gan awdurdodau lleol i'w wario ar ysgolion) yn cael ei ddileu.
- Mae Atodlen 3 i Reoliadau 2010, sy'n nodi ffactorau neu feini prawf ychwanegol y gellir eu hystyried yn fformiwla gyllido awdurdod lleol, yn cael ei dileu.
- Caiff symiau'r trothwyon ar gyfer gwargedion yng nghyllidebau ysgolion eu disodli â 5% o falans yr ysgol.
- Rhaid i gynlluniau ariannol awdurdodau lleol gynnwys datganiad yn nodi sut y bydd yr awdurdod lleol yn monitro'r modd y bydd corff llywodraethu yn defnyddio'r gwarged sydd wedi'i gynnwys mewn unrhyw ddatganiad gwarged.
- Rhaid i gynlluniau ariannol awdurdodau lleol gynnwys darpariaeth sy'n ei gwneud yn ofynnol i gorff llywodraethu gyflwyno cynllun adennill diffyg i'w awdurdod lleol er mwyn ei gymeradwyo a chynnwys y broses mewn perthynas â chynllun adennill diffyg drafft.
- Diwygiadau i'r datganiad cyllideb er mwyn cynnwys colofnau Dirprwyad Craidd, Dirprwyad Dewisol a Dirprwyad Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) (a gaiff ei rannu ymhellach i Ddirprwyad ADY Craidd a Dirprwyad ADY Dewisol) a cholofnau i gofnodi cyfran amcangyfrifedig yr ysgol o'r gyllideb ar gyfer y ddau gyfnod cyllido dilynol.
- Cyfuno Rhannau 2 a 3 o'r datganiad cyllideb fel sy'n ofynnol gan Atodlenni 2 a 3 o Reoliadau 2002 a'i gwneud yn ofynnol i hyn gael ei gwblhau ar gyfer pob un o'r mathau gwahanol o gyllideb ddirprwyedig ar gyfer pob ysgol a math o ysgol.
- Mae'r dyddiad ar gyfer cyflwyno'r datganiad alldro yn cael ei newid i 31 Gorffennaf.
Mae Rhan 2 o Reoliadau 2026 yn ymdrin â'r gyllideb addysg nad yw ar gyfer ysgolion, y gyllideb ysgolion a'r gyllideb ysgolion unigol. Mae'r gyllideb addysg nad yw ar gyfer ysgolion yn ymwneud â'r gwariant ar swyddogaethau awdurdod lleol y mae'n rhaid i'r awdurdod lleol ei gadw'n ganolog.
Caiff y gyllideb ysgolion unigol ei ffurfio drwy ddidynnu rhai o'r eitemau gwariant a nodir yn Atodlen 3 i Reoliadau 2026, neu bob un ohonynt, o'r gyllideb ysgolion. Mater i'r awdurdod lleol yw penderfynu pa eitemau gwariant o Atodlen 3 y dylid eu didynnu o'r gyllideb ysgolion. Beth bynnag sydd ar ôl yn y gyllideb ysgolion ar ôl yr ymarfer hwnnw fydd yn ffurfio'r gyllideb ysgolion unigol.
Mater i'r awdurdod lleol yw penderfynu beth i'w wneud gyda'r eitemau gwariant a ddidynnir o'r gyllideb ysgolion ac na chânt eu dyrannu i'w gyllideb ysgolion unigol.
Mae Rhan 3 o Reoliadau 2026 yn ymdrin â chyfrannau o'r gyllideb ysgolion. Mae Rheoliad 8 o Reoliadau 2026 yn ei gwneud yn ofynnol i'r gyllideb ysgolion unigol gael ei dyrannu fel cyfrannau o'r gyllideb i ysgolion. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i'r gyllideb ysgolion unigol gael ei rhannu'n gyfrannau ac y bydd pob ysgol a gynhelir yn cael cyfran o'r gyllideb. Mae Rheoliad 10 o Reoliadau 2026 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol bennu fformiwla ar gyfer y cyfrannau o'r gyllideb. Mae Rheoliadau 14-26 yn nodi'r ffactorau a'r meini prawf sydd i'w hystyried wrth bennu cyfrannau ysgolion o'r gyllideb.
Mae Rhan 4 o Reoliadau 2026 yn ymdrin â chynlluniau ariannol awdurdodau lleol.
Mae Rhan 5 yn ymdrin â'r wybodaeth am wariant awdurdod lleol ar addysg y mae'n rhaid ei chynnwys yn y datganiad o wariant cynlluniedig y mae'n ofynnol i bob awdurdod lleol ei baratoi cyn dechrau pob cyfnod cyllido o dan adran 52(1) o Ddeddf 1998. Mae Rhan 6 yn ymdrin â'r wybodaeth am wariant awdurdodau lleol ar addysg y mae'n rhaid ei chynnwys mewn datganiad. Mae'n ofynnol i bob awdurdod lleol baratoi datganiad alldro ar ôl diwedd pob cyfnod cyllido yn unol ag adran 52(2) o Ddeddf 1998.
Pam rydym yn cyhoeddi canllawiau
Rydym wedi cael adborth gan randdeiliaid y byddai canllawiau ar Reoliadau 2026 yn ddefnyddiol i awdurdodau lleol. Nod y canllawiau yw cefnogi'r broses weithredu a chysondeb.
Nodweddion allweddol y canllawiau cyffredinol ar Reoliadau Cyllido Ysgolion, Datganiadau Cyllideb a Datganiadau Alldro (Cymru) 2026
Mae'r canllawiau drafft wedi'u darparu ochr yn ochr â'r ddogfen ymgynghori hon. Canllawiau cyffredinol i awdurdodau lleol ydynt ar Reoliadau 2026, ar wahân i Ran 4 ac Atodlen 4, mewn perthynas â chynlluniau ariannol, a ddarperir ar wahân (gweler y canllawiau statudol drafft ar gynlluniau ar gyfer cyllido ysgolion a gynhelir gan awdurdodau lleol).
Mae'r canllawiau cyffredinol drafft wedi'u rhannu fel a ganlyn:
Trosolwg
Mae'n amlinellu bod y ddogfen yn cynnwys canllawiau anstatudol ac nad yw'n ceisio bod yn ddatganiad cynhwysfawr o'r gyfraith, ac felly, ni ddylid ei hystyried yn gyngor o ran yr hyn sy'n ofynnol yn ôl y gyfraith.
Trosolwg o'r newidiadau
Mae'n amlinellu'r newidiadau a gyflwynir gan Reoliadau 2026.
Mathau o gyllideb
Mae'n amlinellu'r mathau gwahanol o gyllidebau, gan gynnwys y dull newydd o nodi dirprwyad craidd a dirprwyad dewisol sydd wedi'i gynnwys yn Rheoliadau 2026.
Fformiwla gyllido
Mae'n cynnwys yr egwyddorion cyffredinol a gofynion eraill ar gyfer fformiwlâu cyllido awdurdodau lleol a gofynion cyhoeddi.
Datganiadau cyllideb
Mae'n rhoi manylion am Ran 1 a Rhan 2 o'r datganiad cyllideb, sy'n adrodd ar wariant wedi'i gyllidebu. Mae'n cynnwys gwybodaeth am dempled y datganiad cyllideb.
Proses y gyllideb
Mae'n amlinellu'r gofynion o ran amseriadau, ymgynghori a chyhoeddi.
Datganiadau alldro
Mae'n cynnwys gofynion o ran cwblhau a chyhoeddi datganiadau alldro.
Atodiad A: Ffactorau neu feini prawf ychwanegol fformiwlâu cyllido
Caiff awdurdod lleol ddefnyddio unrhyw ffactorau yr ystyrir bod eu hangen i ddyrannu cyfrannau ysgolion mewn ffordd deg a phriodol. Dyma restr nad yw'n hollgynhwysfawr o enghreifftiau o ffactorau a meini prawf priodol.
Nodweddion allweddol y canllawiau statudol ar gynlluniau ar gyfer cyllido ysgolion a gynhelir gan awdurdodau lleol
Mae'r canllawiau statudol drafft wedi'u darparu ochr yn ochr â'r ddogfen ymgynghori hon. Dylid darllen y canllawiau statudol drafft hyn ar y cyd â'r canllawiau cyffredinol ar Reoliadau 2026. Mae adran 48(1) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 yn ei gwneud yn ofynnol i bob awdurdod lleol gynnal cynllun sy'n ymdrin â materion sy'n gysylltiedig â chyllido ysgolion a gynhelir ganddo. Mae Rhan 4 ac Atodlen 4 i Reoliadau 2026 yn nodi materion mewn perthynas â chynlluniau o'r fath. Mae'r canllawiau statudol drafft yn cynnwys darpariaethau y mae'n rhaid i gynllun awdurdod lleol eu cynnwys, y dylai eu cynnwys neu y caiff eu cynnwys. Mae'r canllawiau statudol drafft wedi'u hanelu at awdurdodau lleol, cyrff llywodraethu a'r fforwm cyllido ysgolion.
Wrth wneud unrhyw newidiadau i'w cynlluniau ariannol, ac eithrio diwygiadau a gyfarwyddwyd, rhaid i awdurdodau lleol ymgynghori â phob ysgol a gynhelir yn eu hardal a chael cymeradwyaeth aelodau eu fforwm ysgolion sy'n cynrychioli ysgolion a gynhelir.
Mae'r canllawiau wedi'u rhannu fel a ganlyn:
Crynodeb a newidiadau
Mae'n amlinellu bod y ddogfen yn cynnwys canllawiau statudol ac, felly, bod yn rhaid i awdurdodau lleol ei hystyried wrth ddiwygio eu cynlluniau ariannol. Mae'n amlinellu y caiff Gweinidogion Cymru, drwy gyfarwyddyd, ddiwygio'r cynllun cyfan neu unrhyw ran ohono o'r cyfryw ddyddiad ag a bennir yn y cyfarwyddyd (gweler paragraff 2A(4) o Atodlen 14 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998). Mae hefyd yn cynnwys y diwygiadau y mae Atodlen 4 i Reoliadau 2026 yn eu gwneud i gynnwys gofynnol cynlluniau ariannol.
Y cynllun amlinellol
Mae'n amlinellu'r hyn y noda Rheoliadau 2026 fod yn rhaid i gynlluniau ariannol ymdrin ag ef.
Cyflwyniad
Mae'n cynnwys rôl y cynllun a'r trefniadau ar gyfer ei roi ar waith, ei gyhoeddi a'i ddiwygio, a'r trefniadau ar gyfer dirprwyo pwerau i'r pennaeth a chynnal a chadw ysgolion. Mae hefyd yn nodi y dylai'r cynllun ariannol ddisgrifio prif nodweddion y fframwaith cyllido presennol. Cynigir y dylid cynnwys disgrifiad enghreifftiol yn Atodiad A i'r ddogfen ganllaw statudol.
Rheolaethau ariannol
Mae hyn yn cynnwys gweithdrefnau ariannol cyffredinol, cyfrifyddu, cynlluniau cyllidebol, rheoli adnoddau ysgolion, trosglwyddo cyllid, archwilio, cofrestr o fuddiannau busnes, prynu, gofynion tendro a chontractio, contractau, cronfeydd canolog a chlustnodi, gwario, rhoi gwybod am bryderon a thwyll.
Ysgolion sy'n gweithredu cyfrif banc at ddibenion gwario'r gyfran o'r gyllideb
Mae hyn yn cynnwys amlder rhandaliadau, llog a chyfrifon.
Y modd y caiff gwargedion a diffygion sy'n codi mewn perthynas â chyfrannau o'r gyllideb eu trin
Mae hyn yn cynnwys yr hawl i gario gwargedion ymlaen, llog a'r gofyniad newydd bod yn rhaid i gynllun gynnwys datganiad sy'n nodi sut y bydd yr awdurdod lleol yn monitro cyllidebau â gwarged.
Mae hefyd yn cynnwys y rhwymedigaeth i gario diffygion ymlaen, llog a'r gofyniad newydd bod yn rhaid i gynllun gynnwys darpariaeth sy'n ei gwneud yn ofynnol i gorff llywodraethu gyflwyno cynllun adennill diffyg i'r awdurdod lleol i'w gymeradwyo. Mae hefyd yn cynnwys yr hyn y mae'n rhaid ei gynnwys yn y cynllun ariannol a'r hyn y dylid ei gynnwys ynddo.
Incwm
Mae hyn yn cynnwys incwm o osodiadau, ffioedd a thaliadau, gweithgareddau codi arian, gwerthu asedau, y gweithdrefnau gweinyddol ar gyfer casglu incwm a'r dibenion y gellir defnyddio incwm ar eu cyfer.
Penawdau gwariant yn y gyllideb ysgolion a gedwir gan yr awdurdod
Mae hyn yn amlinellu bod yn rhaid i gynllun gynnwys darpariaeth sy'n nodi'r penawdau gwariant yn y gyllideb ysgolion a gedwir gan yr awdurdod lleol. Gofyniad newydd yn Rheoliadau 2026 yw hwn.
Codi ar gyfrannau ysgol o'r gyllideb heb gydsyniad y corff llywodraethu
Mae hyn yn cynnwys y ddarpariaeth gyffredinol, codi ar gyflogau am y gost wirioneddol ac amgylchiadau lle y gellir codi taliadau os ydynt wedi'u nodi yn y cynllun.
Trethiant
Mae hyn yn cynnwys TAW, cynllun y diwydiant adeiladu a phennu statws cyflogaeth.
Gwasanaethau a chyfleusterau a ddarperir gan yr awdurdod lleol
Mae hyn yn cynnwys darparu gwasanaethau gan ddefnyddio cyllidebau a gedwir yn ganolog, darparu gwasanaethau a brynwyd yn ôl gan yr awdurdod lleol gan ddefnyddio cyllidebau wedi'u dirprwyo, pecynnu, cytundebau lefel gwasanaeth a phensiynau athrawon.
Partneriaethau cyllid preifat
Mae hyn yn cynnwys y posibilrwydd y bydd awdurdod lleol am gynnwys darpariaethau eraill sy'n ymwneud â phrosiectau cyllid preifat.
Yswiriant
Mae hyn yn cynnwys trefniadau yswiriant.
Amrywiol
Mae hyn yn cynnwys yr hawl i weld gwybodaeth, atebolrwydd llywodraethwyr a lwfansau llywodraethwyr, cyfrifoldeb am gostau cyfreithiol, iechyd a diogelwch, hawl y Prif Swyddog Cyllid i fod yn bresennol mewn cyfarfodydd, anghenion dysgu ychwanegol, llog ar daliadau hwyr, chwythu'r chwiban, amddiffyn plant a chostau dileu swyddi ac ymddeol yn gynnar.
Cyfrifoldeb am waith atgyweirio a chynnal a chadw
Mae hyn yn cynnwys datganiad sy'n dangos y categorïau o waith ac yn nodi y dylai awdurdodau lleol ddirprwyo cyllid ar gyfer gwaith atgyweirio a chynnal a chadw i ysgolion.
Atodiad A: Prif nodweddion y fframwaith cyllido
Dylai'r cynllun ariannol ddisgrifio prif nodweddion y fframwaith cyllido presennol (fel y'u nodir yn adran yn adran 3 o'r canllawiau statudol drafft). Disgrifiad enghreifftiol drafft yw'r Atodiad hwn. Gellir ei ddiwygio, ychwanegu ato neu roi fersiwn wahanol yn ei le ond dylai'r cynllun anelu at y lefel hon o fanylder o leiaf.
Cwestiynau’r ymgynghoriad
Cwestiwn 1
A ydych yn cytuno bod y canllawiau cyffredinol drafft ar Reoliadau Cyllido Ysgolion, Datganiadau Cyllideb a Datganiadau Alldro (Cymru) 2026 yn rhoi eglurder ynghylch Rheoliadau Cyllido Ysgolion, Datganiadau Cyllideb a Datganiadau Alldro (Cymru) 2026?
Cwestiwn 2
A ydych yn cytuno bod y canllawiau cyffredinol drafft yn glir ac yn ddealladwy?
Cwestiwn 3
A ydych yn cytuno bod y canllawiau cyffredinol drafft yn esbonio natur wahanol y gyllideb addysg nad yw ar gyfer ysgolion, y gyllideb ysgolion, y gyllideb ysgolion unigol a chyfrannau ysgolion o'r gyllideb yn glir, ac a yw'r ffiniau yn glir?
Cwestiwn 4
A ydych yn cytuno bod y canllawiau cyffredinol drafft yn glir mewn perthynas â'r angen am ddull fformiwläig dangosadwy o bennu cyfrannau ysgolion o'r gyllideb?
Cwestiwn 5
A ydych yn cytuno bod y canllawiau cyffredinol drafft yn gwahaniaethu'n glir rhwng dirprwyad craidd a dirprwyad dewisol?
Cwestiwn 6
A oes unrhyw feysydd yn y canllawiau cyffredinol drafft yr hoffech gael rhagor o fanylion amdanynt?
Cwestiwn 7
A oes unrhyw feysydd nad ymdriniwyd â nhw eisoes y byddai'n ddefnyddiol ymdrin â nhw yn y canllawiau cyffredinol?
Cwestiwn 8
A ydych yn cytuno bod y canllawiau statudol drafft ar gynlluniau ar gyfer cyllido ysgolion a gynhelir gan awdurdodau lleol yn rhoi eglurder ynghylch cynlluniau ariannol?
Cwestiwn 9
A ydych yn cytuno bod y canllawiau statudol drafft yn glir ac yn ddealladwy?
Cwestiwn 10
A oes unrhyw feysydd yn y canllawiau statudol drafft ar gynlluniau ar gyfer cyllido ysgolion yr hoffech gael rhagor o fanylion amdanynt?
Cwestiwn 11
A oes unrhyw feysydd nad ymdriniwyd â nhw eisoes y byddai'n ddefnyddiol ymdrin â nhw yn y canllawiau statudol ar gynlluniau ar gyfer cyllido ysgolion?
Cwestiwn 12
Beth, yn eich barn chi, fyddai effeithiau tebygol y canllawiau cyffredinol a'r canllawiau statudol ar y Gymraeg? Mae diddordeb penodol gyda ni mewn unrhyw effeithiau posibl ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio trin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.
- Ydych chi’n meddwl fod cyfleoedd i hyrwyddo unrhyw effeithiau cadarnhaol?
- Ydych chi’n meddwl fod cyfleoedd i liniaru unrhyw effeithiau negyddol?
Cwestiwn 13
Yn eich barn chi, a fyddai modd ffurfio neu addasu’r canllawiau cyffredinol a'r canllawiau statudol er mwyn:
- sicrhau eu bod yn cael effeithiau cadarnhaol neu effeithiau mwy cadarnhaol ar ddefnyddio'r Gymraeg a pheidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg; neu
- liniaru unrhyw effeithiau negyddol ar ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg?
Defnyddiwch y ffurflen ymateb i'r ymgynghoriad i ymateb i'r cwestiynau uchod.
