Neidio i'r prif gynnwy

Amcanion polisi

Cefndir

Rydym wedi ymrwymo i wella canlyniadau addysgol dysgwyr sydd â phrofiad o fod mewn gofal.

Mae plant sy’n derbyn gofal i gyd yn wahanol ond maent yn fwy tebygol o fod wedi wynebu digwyddiadau trawmatig yn ystod eu bywyd, gan gynnwys camdriniaeth, esgeulustod neu golled. Mae hyn yn gallu effeithio ar y ffordd y mae person yn cynllunio ac yn gwneud penderfyniadau, yn rheoli eu hemosiynau, eu perthynas ag eraill, a’u hymddygiad o ddydd i ddydd.

Dyma’r ffactorau sy’n gallu creu rhwystrau iddynt wrth gael mynediad at addysg: 

  • Problemau sy’n gysylltiedig â’r system ofal, fel symud cartref a newid lleoliad ysgol yn aml, sy’n amharu ar gyfleoedd dysgu.
  • Effeithiau cymdeithasol ac economaidd fel magwraeth incwm isel, y teulu yn chwalu a thrawma yn ystod plentyndod.
  • Iechyd meddwl a llesiant meddyliol gwael sy’n gallu ei gwneud yn anodd dysgu a chadw diddordeb mewn addysg.
  • Risg uwch o anghenion dysgu ychwanegol (ADY) gan gynnwys oedi wrth ddatblygu gwybyddiaeth ac iaith, anawsterau rheoli emosiynau neu ymddygiad ac anghenion niwroddatblygiadol.

Cymorth a ddarperir gan Lywodraeth Cymru

Mae Llywodraeth Cymru yn darparu cymorth ac adnoddau amrywiol i wella deilliannau addysgol dysgwyr â phrofiad o fod mewn gofal yng Nghymru. Mae hyn wedi cynnwys:

  • cyd-gynhyrchu dogfennau canllaw i helpu awdurdodau lleol ac ysgolion i ddeall anghenion dysgwyr â phrofiad o fod mewn gofal ac ymateb iddynt yn well a hyrwyddo ymarfer effeithiol
  • ariannu Adoption UK Cymru i ddarparu hyfforddiant i ymarferwyr addysg er mwyn eu helpu i roi cefnogaeth effeithiol i anghenion cymdeithasol ac emosiynol dysgwyr â phrofiad o fod mewn gofal
  • comisiynu Estyn i gynnal adolygiad thematig o effeithiolrwydd darpariaeth addysg ar gyfer dysgwyr â phrofiad o fod mewn gofal yn 2026. Bydd y canfyddiadau’n cael eu defnyddio i nodi a rhannu ymarfer effeithiol ar draws y sector
  • gweithio gyda’r sector i sicrhau bod dysgwyr yn elwa ar y cymorth ychwanegol a ddarperir gan y Grant Datblygu Disgyblion ar gyfer plant sy’n derbyn gofal yn ogystal â’r Grant Hanfodion Ysgol, sydd ar gael i bob plentyn sy’n derbyn gofal hyd at flwyddyn 11
  • ymgysylltiad parhaus â’r sector trwy’r Grŵp Cyflawni Cenedlaethol i sicrhau bod:
    • modd rhannu arferion gorau
    • adborth rheolaidd ar effaith a chyflawni polisi
    • nodi blaenoriaethau’r sector a heriau cyffredin mewn ffordd ragweithiol
    • chydweithio i archwilio a chyd-gynhyrchu atebion

Mae dysgwyr â phrofiad o fod mewn gofal wrth wraidd y gwaith hwn, ac mae eu safbwyntiau’n cael eu hyrwyddo gan ein partneriaid allweddol, gan gynnwys awdurdodau lleol, Voices from Care ac Adoption UK Cymru.

Y trefniadau presennol

Mae Cod Ymarfer Rhan 6 (Plant sy’n Derbyn Gofal a Phlant sy’n Cael eu Lletya) Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (“y Cod Ymarfer”) yn egluro dyletswyddau cyfreithiol awdurdodau lleol mewn perthynas â chynlluniau gofal a chymorth plant, gan gynnwys ar gyfer iechyd ac addysg. 

Mae cynllun gofal a chymorth Rhan 6 yn dwyn ynghyd wybodaeth o’r asesiad o anghenion datblygu’r plentyn ac o unrhyw asesiadau eraill o’r plentyn a’i deulu. Mae Rheoliadau Cynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion (Cymru) 2015 hefyd yn ei gwneud yn ofynnol paratoi cynllun iechyd, Cynllun Addysg Personol (CAP), a chynllun lleoliad ar gyfer y plentyn. Mae angen cynnwys pob un o’r rhain yn y cynllun gofal a chymorth cyffredinol Rhan 6 ar gyfer y plentyn. 

Defnyddir CAP i rannu gwybodaeth a chynllunio sut i gefnogi addysg y plentyn. Hefyd, dylid ei ddefnyddio i wirio cynnydd y plentyn a phenderfynu ar y ffordd orau o’i gefnogi.

Cynnig polisi

Mae’r CAP yn helpu awdurdodau lleol ac ysgolion i gefnogi addysg plant sy’n derbyn gofal. Mae’r CAP yn caniatáu i blant sy’n derbyn gofal a’r oedolion sy’n eu cefnogi gytuno ar gamau gweithredu ymarferol i’w helpu i wneud cynnydd yn eu haddysg.

Nododd ein Grŵp Cyflawni Cenedlaethol ar gyfer addysg dysgwyr â phrofiad o fod mewn gofal y byddai’n ddefnyddiol i Lywodraeth Cymru greu canllawiau anstatudol ar sut i gychwyn, datblygu ac adolygu CAP, fel rhan o gyfres o ddogfennau canllaw.

Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn rhoi dyletswydd ar awdurdodau lleol i hyrwyddo cyrhaeddiad addysgol plant sy’n derbyn gofal.

Mae’r Cod Ymarfer Rhan 6 yn nodi’r canlynol: “Mae’n rhaid i awdurdodau lleol sicrhau bod cynllun addysg personol (CAP) effeithiol o ansawdd uchel ar gael ar gyfer pob plentyn y maent yn gofalu amdano, a fydd yn rhan annatod o gynllun gofal a chymorth Rhan 6 cyffredinol y plentyn”. Hefyd, mae’n nodi y dylai’r CAP “ddisgrifio’r hyn sydd angen ei wneud i helpu’r plentyn i wireddu ei botensial”. Mae’r Cod yn rhoi cyfarwyddyd i ymarferwyr ar agweddau penodol ar broses y CAP, er enghraifft yr hyn y mae’n rhaid i CAP ei gynnwys, amserlenni ar gyfer cychwyn ac adolygu’r CAP a threfniadau pontio.

Mae’r canllawiau arfer da yn gwneud ymarferwyr yn ymwybodol o’r cyngor penodol hwn yn y Cod ac yn cynnwys dolen iddo. Mae’r canllawiau yn ategu Cod Ymarfer Rhan 6 trwy ddarparu rhagor o ganllawiau arfer da, nad ydynt wedi’u cynnwys yn y Cod Ymarfer. Mae hyn yn cynnwys cyngor ar gynnwys pobl ifanc yn y broses, sut beth yw cyfarfod CAP da, rolau a chyfrifoldebau, a sicrhau ansawdd. Hefyd, mae’r canllawiau yn cynnwys astudiaethau achos, CAPau enghreifftiol a dolenni i ffynonellau eraill o wybodaeth ddefnyddiol. 

Nod y canllawiau hyn yw cynorthwyo ysgolion ac awdurdodau lleol i ddarparu cefnogaeth well i blant sy’n derbyn gofal drwy’r broses CAP er mwyn datblygu eu dysgu a’u helpu i ffynnu yn eu lleoliad addysg. 

Mae cysylltiad rhwng y canllawiau a Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP), yn enwedig yr erthyglau canlynol:

  • mae gan bob plentyn hawliau, heb wahaniaethu o unrhyw fath (Erthygl 2)
  • rhaid mai budd gorau’r plentyn yw’r brif flaenoriaeth ym mhob penderfyniad a cham gweithredu sy’n effeithio ar blant (Erthygl 3)
  • mae gan blant a phobl ifanc yr hawl i fynegi eu barn, eu teimladau a’u dymuniadau ym mhob mater sy’n effeithio arnynt, a bod eu barn yn cael ei hystyried a’i chymryd o ddifri (Erthygl 12)
  • rhaid i blant na all dderbyn gofal gan eu teulu eu hunain dderbyn gofal priodol, gan bobl sy’n parchu eu crefydd, eu diwylliant a’u hiaith (Erthygl 20).
  • dylai plant sy’n dod i wlad fel ffoaduriaid gael yr un hawliau â phlant a anwyd yn y wlad honno (Erthygl 22)
  • mae gan blant a phobl ifanc yr hawl i addysg waeth beth fo’u hil, rhywedd, anabledd, statws cadw, neu statws ffoadur (Erthygl 28)
  • dylai addysg ddatblygu personoliaeth a doniau pob plentyn i’r eithaf (Erthygl 29)

Casglu tystiolaeth ac ymgysylltu â phlant a phobl ifanc

Tystiolaeth

Yn ôl y Cyfrifiad Plant sy’n Derbyn Gofal a Chymorth: ar 31 Mawrth 2023, roedd 7,095 o blant yn derbyn gofal gan awdurdodau lleol yng Nghymru. Cam-drin neu esgeulustod, neu’r perygl o hynny, oedd y rheswm mwyaf cyffredin i blant ddechrau derbyn gofal a chymorth, a’r prif reswm yr oedd dros hanner y plant yn derbyn gofal a chymorth.

Mae bwlch cyrhaeddiad addysgol rhwng plant mewn gofal a’u cyfoedion. Er enghraifft, mae ymchwil ddiweddar ar lefel poblogaeth wedi archwilio sut mae natur, amseru a hyd profiadau gofal wedi dylanwadu ar gyflawniad academaidd ar gyfer plant a anwyd rhwng 2000 a 2003. Nodwyd bod plant a oedd wedi dechrau derbyn gofal maeth ychydig cyn dechrau yn yr ysgol mewn perygl penodol o beidio â bodloni’r disgwyliadau. Ar gyfartaledd, roedd 40% o’r plant hyn wedi cyflawni disgwyliadau Cyfnod Allweddol 1, o’i gymharu ag 81% yn y boblogaeth gyffredinol. Erbyn Cyfnod Allweddol 2, roedd y mwyafrif o grwpiau â phrofiad o fod mewn gofal wedi cyflawni rhwng 36% a 52%, sy’n is o lawer na’r gyfradd ar gyfer y boblogaeth gyffredinol (83%).

Yn 2016, cyhoeddodd Estyn adroddiad thematig ‘Codi cyrhaeddiad, cyflawniad a dyheadau plant sy’n derbyn gofal yng Nghymru’ a oedd yn amlygu arfer dda mewn awdurdodau lleol ac ysgolion, gan gynnwys adolygu cynnydd a gosod targedau mewn CAP plant. Nododd Estyn yr arferion da canlynol sy’n amlygu pwysigrwydd sicrhau bod gan bob plentyn sy’n derbyn gofal CAP o ansawdd da:

  • Gweledigaeth a strategaeth glir i gefnogi plant sy’n derbyn gofal.
  • Dyheadau uchel ar gyfer plant sy’n derbyn gofal.
  • Dealltwriaeth glir o anghenion academaidd, cymdeithasol ac emosiynol plant sy’n derbyn gofal.
  • Systemau olrhain cynhwysfawr.
  • Staff sy’n ymwybodol o’r plant sy’n derbyn gofal, eu hanghenion a pha strategaethau sydd ar gael i’w cefnogi.
  • Cefnogaeth gadarn i helpu plant sy’n derbyn gofal i ddatblygu eu sgiliau llythrennedd a rhifedd.
  • Systemau bugeiliol cadarn sydd wedi’u teilwra’n dda i anghenion emosiynol plant sy’n derbyn gofal.
  • Cymorth i ddatblygu gwytnwch, hunan-barch a hyder sydd wedi’i gynllunio ac sy’n cyd-fynd yn dda ag anghenion plant.

Mae’r adroddiad hwn bron yn 10 mlwydd oed. Mae Llywodraeth Cymru felly wedi comisiynu Estyn i gynnal adolygiad thematig arall o’r arferion da o ran cefnogi addysg pob plentyn a pherson ifanc â phrofiad o fod mewn gofal. Bydd hefyd yn ystyried y defnydd o CAPau. Bydd yr adolygiad yn ystyried addysg plant sydd mewn gofal ar hyn o bryd yn ogystal â’r rhai sydd wedi gadael gofal ar ôl cael eu mabwysiadu neu drwy Orchymyn Gwarcheidiaeth Arbennig. Bydd llais y dysgwr yn elfen ganolog o’r adolygiad. Yn ogystal ag ymgysylltu â dysgwyr drwy ymweliadau ysgol, mae’r adolygiad yn gobeithio casglu sylwadau grwpiau llais dysgwyr yn annibynnol ar weithgarwch arolygu. Mae hyn yn cynnwys ymgysylltu â phlant sy’n derbyn gofal, y rhai sy’n byw mewn gofal maeth a gofal preswyl, dysgwyr sy’n destun gorchmynion gwarcheidiaeth arbennig a’r rhai sydd wedi dychwelyd adref yn ddiweddar ar ôl cyfnod mewn gofal.

Disgwylir cyhoeddi’r adroddiad ym mis Hydref 2026. Bydd yr adolygiad yn darparu argymhellion ar gyfer yr hyn y gellir ei wneud i gefnogi’n well addysg dysgwyr sydd â phrofiad o fod mewn gofal. Rydym hefyd yn bwriadu gweithio gyda rhanddeiliaid ar sut y gellir defnyddio canfyddiadau ac argymhellion Estyn i wella ymarfer mewn gwasanaethau addysg. Byddwn yn ystyried unrhyw argymhellion mewn perthynas â CAPau ac yn diweddaru’r canllawiau fel sy’n briodol.

Fe wnaethom ofyn i wasanaethau Llyfrgell Llywodraeth Cymru wneud chwiliad llenyddiaeth cynhwysfawr i ni. Fe wnaethant nodi cyfanswm o 40 o gyfeiriadau, a adolygwyd gennym. Ychwanegodd hyn at ein dealltwriaeth o’r ffactorau sy’n gysylltiedig â deilliannau addysgol plant sy’n derbyn gofal. Roedd plant a oedd wedi cael ymyrraeth gwaith cymdeithasol yn ystod eu cyfnod yn yr ysgol mewn mwy o berygl o fod â chyrhaeddiad a chynnydd is o’i gymharu â’r rhai nad oeddent wedi cael ymyrraeth. Roedd canlyniadau gwael yn tueddu i fod yn gysylltiedig â: rhywedd (gwrywaidd), ethnigrwydd (Gwyn Prydeinig neu Wyddelig), anghenion dysgu ychwanegol ac anableddau, ac absenoldeb o’r ysgol (oherwydd gwaharddiadau, absenoldeb neu newid ysgol). 

Fe wnaethom hefyd edrych ar ymchwil flaenorol ar farn plant sy’n derbyn gofal, gan gynnwys:

Mae’r papur hwn yn edrych ar brofiadau plant a phobl ifanc o addysg, pan maent yn ‘derbyn gofal’, eu dealltwriaeth o’r anfanteision y maent yn eu hwynebu a beth fyddai o bosib yn gwella eu profiadau. Dywedodd y bobl ifanc: 

  • mae angen cynnal cyfarfodydd adolygu gofal (e.e. cyfarfodydd CAP) y tu allan i amser ysgol, er mwyn osgoi amharu ar eu haddysg a lleihau’r potensial iddynt gael eu hystyried yn ‘wahanol’
  • dylai gweithwyr proffesiynol mewn ysgolion a gofalwyr wybod am y ffordd orau o’u harwain a’u cefnogi drwy gydol eu haddysg

Y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE): Looked-After Children and Young People Barriers to, and facilitators for, supporting learning needs of looked-after children and young people

Mae’r adroddiad hwn yn edrych ar dystiolaeth yn ymwneud â’r rhwystrau i gynorthwyo anghenion dysgu plant sy’n derbyn gofal, a sut i hwyluso cymorth o’r fath. 

Roedd y themâu yn deillio o’r dystiolaeth yn amlinellu’r angen am y canlynol: 

  • dylai oedolion yn y system addysg fod â disgwyliadau a dyheadau uwch ar gyfer addysg plant a phobl ifanc yn y system ofal
  • esiamplau cadarnhaol 
  • cymorth unigol wedi’i deilwra ar gyfer addysg 
  • person penodol i fod yn yr ysgol i siarad ar ran y plentyn a chefnogi ei addysg 
  • hyfforddiant sy’n ystyriol o drawma i athrawon (a phob gweithiwr proffesiynol) sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal

Gwerthusiad o gyllid y cynllun peilot Model Ysgol Rhithwir

Roedd gwerthusiad o’r cynllun peilot Model Ysgol Rhithwir yng Nghymru yn cynnwys barn plant sy’n derbyn gofal fel rhan o’r gwaith maes. Pwysleisiodd y trafodaethau gyda dysgwyr bwysigrwydd cefnogaeth emosiynol gan weithwyr proffesiynol a oedd yn gallu cynnig anogaeth, darparu atebion i’w hamgylchiadau unigryw eu hunain (a ystyriwyd yn amhrisiadwy i lywio cynnydd), cysylltu â gofalwyr a’u hysgol, a chymryd camau dilynol ar ôl sgyrsiau.

Ymgysylltu â gweithwyr proffesiynol

Sefydlwyd grŵp gorchwyl a gorffen i ddatblygu’r canllawiau CAP. Roedd yn cynnwys awdurdodau lleol a sefydliadau’r trydydd sector sy’n gyfrifol am addysg plant sy’n derbyn gofal. Roedd y grŵp gorchwyl a gorffen yn is-grŵp o’r Grŵp Cyflawni Cenedlaethol ar gyfer addysg pobl sydd â phrofiad o fod mewn gofal. Mae’r Grŵp Cyflawni Cenedlaethol yn cynnwys rhanddeiliaid allanol o Estyn, Consortia, awdurdodau lleol a’r Trydydd Sector sy’n gweithio i hyrwyddo a chefnogi deilliannau addysgol plant â phrofiad o fod mewn gofal yng Nghymru. 

Rhannwyd copïau drafft o’r canllawiau gyda’r Grŵp Cyflawni Cenedlaethol a Grŵp Swyddogion Adolygu Annibynnol Cymru gyfan ac roedd eu hadborth wedi’i integreiddio i’r canllawiau. Cynhaliwyd ymgynghoriad ffurfiol ar y canllawiau rhwng 6 Hydref a 1 Rhagfyr 2025. Cafodd adborth a ddaeth i law mewn ymateb i gwestiynau’r ymgynghoriad ei ystyried wrth lywio datblygiad y canllawiau CAP terfynol.

Cyfranogiad pobl ifanc

Dros bum mis, rhwng Hydref 2024 a Mawrth 2025, gweithiodd Llywodraeth Cymru gydag awdurdodau lleol a sefydliadau’r Trydydd Sector i gasglu profiadau pobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal. Fe wnaethom weithio gyda swyddfa Comisiynydd Plant Cymru i ddatblygu cynllun cyfranogiad a oedd yn manylu ar sut y byddem yn siarad â’r bobl ifanc. Hefyd, lluniwyd taflen hawdd ei deall ar gyfer pobl ifanc er mwyn esbonio pam roeddem am glywed eu barn a sut y byddem yn gweithio gyda nhw, yn seiliedig ar y Safonau Cyfranogiad. Fe wnaethom weithio gydag unigolion a sefydliadau a oedd eisoes wedi sefydlu perthynas gadarn â dysgwyr sydd â phrofiad o fod mewn gofal. Cafwyd eu cymorth wrth benderfynu pa fath o weithgareddau fyddai’n llwyddo orau ac yn gwneud i’r bobl ifanc deimlo’n gyfforddus.

Buom yn gweithio gydag Awdurdodau Lleol Abertawe, Bro Morgannwg, Castell-nedd Port Talbot a Phen-y-bont ar Ogwr a oedd wedi trefnu sesiynau gyda phobl ifanc er mwyn clywed eu safbwyntiau ar eu haddysg a sut y gellid ei gwella. Cyflwynwyd y sesiynau mewn ffordd a oedd yn caniatáu i’r bobl ifanc esbonio beth roeddent ei eisiau o’u haddysg, beth y gellid ei wneud yn well a beth nad oeddent ei eisiau. O ganlyniad, roedd modd cynnal sgwrs hyblyg yn hytrach na gofyn am adborth ar y ddogfen ganllaw ei hun. Hefyd, fe wnaethom gomisiynu sesiwn gyda phlant a phobl ifanc digwmni sy’n ceisio lloches trwy Voices for Care er mwyn sicrhau bod eu lleisiau yn cael eu clywed.

Mae’r cyngor yn y canllawiau wedi’i lywio gan y profiadau a’r safbwyntiau a rannwyd gan y bobl ifanc, megis cynnal cyfarfodydd CAP y tu allan i amser ysgol. Hefyd, rhannwyd eu safbwyntiau â’r Ysgrifennydd Cabinet blaenorol dros Addysg, uwch swyddogion yn Llywodraeth Cymru a’r Grŵp Cyflawni Cenedlaethol.

Dadansoddi’r dystiolaeth ac asesu’r effaith

Ni wnaethom ganfod unrhyw dystiolaeth ymchwil benodol yn ymwneud ag effaith CAP ar addysg plentyn. Fodd bynnag, mae CAPau yn hyrwyddo cynlluniau addysg wedi’u personoli, ac mae NICE ac Estyn wedi nodi bod hyn yn rhywbeth sy’n cefnogi cynnydd addysgol. Hefyd, mae’r canllawiau CAP yn gyson â thystiolaeth o waith ymchwil sy’n dangos y canlynol:

  • dylai gweithwyr proffesiynol mewn awdurdodau lleol ac ysgolion wybod beth yw’r ffordd orau o arwain a chefnogi plant sy’n derbyn gofal trwy gydol eu haddysg
  • dylai fod disgwyliadau a dyheadau uwch ar gyfer addysg plant sy’n derbyn gofal gyda chymorth teilwredig (unigol) ar gyfer addysg
  • dylai person penodol fod yn yr ysgol i siarad ar ran y plentyn a chefnogi ei addysg
  • dylai athrawon (a phob gweithiwr proffesiynol) sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal dderbyn hyfforddiant sy’n ystyriol o drawma

Dylai CAP o ansawdd uchel, wedi’i hwyluso gan y canllawiau ar CAPau, helpu ysgolion ac awdurdodau lleol i weithredu’r arferion hyn, gan ddarparu cymorth addysgol effeithiol.

Effaith gadarnhaol arfaethedig y canllawiau ar CAPau yw sicrhau y dylai plant o oedran ysgol statudol gael CAP o ansawdd da a fyddai’n cynnig y manteision canlynol:

  • Amlinellu cynllun personol i ddiwallu anghenion addysgol yr unigolyn a gwireddu ei ddyheadau.
  • Hyrwyddo profiad dysgu mwy effeithiol, gan alluogi pobl ifanc i ffynnu yn eu lleoliad addysg a gwireddu eu potensial llawn. 
  • Helpu i osod nodau clir ac olrhain cynnydd er mwyn hyrwyddo llwyddiant addysgol. 
  • Hyrwyddo ymgysylltiad dysgwyr a chyfranogiad gweithredol mewn addysg, gan sicrhau bod dysgu yn fwy ystyrlon a pherthnasol.
  • Cynorthwyo unigolion i symud o ysgol i ysgol (oherwydd newidiadau lleoliad/ysgol) yn ogystal â phontio o’r ysgol gynradd i’r ysgol uwchradd.
  • Darparu cyngor ar sut y dylid cynnal cyfarfodydd CAP i lunio dogfen CAP ystyrlon. 

Cynhaliwyd ymgynghoriad ffurfiol ar y canllawiau hyn rhwng 6 Hydref a 1 Rhagfyr 2025. Daeth 19 o ymatebion i law gan bob rhan o’r sector gan gynnwys: chwe awdurdod lleol, pedair ysgol, tri undeb addysg, Estyn, y Trydydd Sector, y byd academaidd a Chomisiynydd Plant Cymru. Cafodd adborth a gafwyd mewn ymateb i gwestiynau’r ymgynghoriad ei ystyried wrth ddatblygu’r canllawiau CAP terfynol.

Roedd mwyafrif llethol yr ymatebwyr (94%) yn cytuno y byddai’r cyngor yn y canllawiau CAP yn helpu awdurdodau lleol, ysgolion a lleoliadau i wneud y broses CAP yn fwy ystyrlon ac effeithiol i blant sy’n derbyn gofal. Roedd 53% yn cytuno bod y canllawiau yn rhoi sylw digonol i bopeth sydd ei angen i helpu awdurdodau lleol, ysgolion a lleoliadau i wneud CAP yn fwy ystyrlon ac effeithiol i blant sy’n derbyn gofal. Roedd 78% yn cytuno bod y canllawiau yn darparu cyngor digonol i awdurdodau lleol, ysgolion a lleoliadau ar sicrhau bod y broses o lunio CAP yn canolbwyntio ar y plentyn.

Cafodd adborth a ddaeth i law mewn ymateb i gwestiynau’r ymgynghoriad ei ystyried wrth lywio datblygiad y canllawiau CAP terfynol.

Hefyd, rydym wedi cwblhau asesiad o’r effaith ar gydraddoldeb er mwyn ystyried yr effaith bosibl ar blant sy’n derbyn gofal â nodweddion gwarchodedig.

Nid ydym yn rhagweld y bydd y canllawiau ar CAPau yn cael unrhyw effaith negyddol ar blant a phobl ifanc. 

Mae Llywodraeth Cymru wedi tynnu sylw at yr erthyglau CCUHP canlynol yn y canllawiau, ynghyd â disgwyliad y bydd awdurdodau lleol yn rhoi sylw dyladwy i’r erthyglau hyn wrth gynorthwyo pobl ifanc yn y broses CAP:

Erthyglau neu Brotocol Dewisol CCUHPCynyddu (X)Herio (X)Esboniad
Rhaid mai budd pennaf y plentyn yw’r brif flaenoriaeth ym mhob penderfyniad a cham gweithredu sy’n effeithio ar blant (Erthygl 3)X 

Erthygl 3: mae’r canllawiau ar CAPau yn annog awdurdodau lleol ac ysgolion i wneud y canlynol:

  • defnyddio dull cyfannol sy’n seiliedig ar hawliau ac yn canolbwyntio ar y plentyn wrth ddatblygu CAP 
  • ystyried budd pennaf y plentyn mewn unrhyw ddarpariaeth sy’n cael ei chynllunio yn y CAP. 

Mae plant sy’n derbyn gofal i gyd yn wahanol ond maent yn fwy tebygol o fod wedi dioddef digwyddiadau trawmatig yn eu bywydau, gan gynnwys camdriniaeth, esgeulustod neu golled. Dylai darparu cymorth unigol wedi’i deilwra i blant a phobl ifanc, trwy CAP o ansawdd uchel, eu helpu i wireddu eu potensial a gwneud cynnydd yng nghamau nesaf eu bywyd. 

Mae gan blant a phobl ifanc yr hawl i fynegi eu barn, eu teimladau a’u dymuniadau ym mhob mater sy’n effeithio arnynt, a bod eu barn yn cael ei hystyried a’i chymryd o ddifri (Erthygl 12)X 

Erthygl 12: mae’r canllawiau ar CAPau yn pwysleisio pwysigrwydd y canlynol:

  • sicrhau bod pobl ifanc yn ganolog i’r broses CAP. 
  • gwrando ar lais y person ifanc er mwyn deall a diwallu ei anghenion. Mae’n nodi bod angen ystyried eu safbwyntiau, ar sail eu hoedran a’u dealltwriaeth, wrth nodi eu hanghenion addysgol a phenderfynu ar gamau gweithredu ar lefel ysgol neu unigol. 

Mae’r canllawiau yn darparu rhagor o ffynonellau gwybodaeth er mwyn cynorthwyo ysgolion i wrando ar safbwyntiau pobl ifanc ac ymateb iddynt. Mae hyn yn cynnwys taflen wedi’i hysgrifennu ar gyfer pobl ifanc sy’n esbonio’r broses CAP a sut y gallai pobl ifanc fynegi eu barn gyda chymorth oedolion y gellir ymddiried ynddynt.

Mae gan blant a phobl ifanc yr hawl i addysg waeth beth fo’u hil, rhywedd, anabledd, statws cadw, neu statws ffoadur (Erthygl 28)X 

Erthygl 28: mae ymchwil yn dangos bod rhai profiadau yn ei gwneud yn anos i blant wneud yn dda, a ffactorau eraill yn eu hamddiffyn ac yn eu cryfhau. Gall yr heriau gynnwys trawma, tlodi, esgeulustod a gwrthdaro yn y cartref. Ymhlith yr elfennau a all helpu mae gofal gan oedolion, perthynas dda gydag eraill, teimlo’n ddiogel ac yn werthfawr, sgiliau emosiynol da a’r gallu i ddatrys problemau, arferion a chefnogaeth gan ysgolion a chymunedau.

Mae’r canllawiau yn egluro y dylai CAP o ansawdd uchel adeiladu ar y cryfderau hyn a lleihau effaith yr heriau, gan helpu plant i ddatblygu’r sgiliau a’r cymorth sydd eu hangen arnynt i ddygymod ag anawsterau yn y dyfodol. 

Yr effaith gadarnhaol arfaethedig ar gyfer plant, waeth beth fo’u hil, rhywedd neu anabledd, yw y bydd y canllawiau yn cefnogi proses CAP sy’n fwy ystyrlon, yn fwy effeithiol, ac sy’n rhoi pwysigrwydd canolog i lais y person ifanc. Yn ogystal, mae’n cadarnhau bod gan bob plentyn digwmni sy’n ceisio lloches hawl i’r un hawliau a darpariaethau â phlant sy’n derbyn gofal a anwyd yng Nghymru neu mewn rhan arall o’r Deyrnas Unedig.

Dylai addysg ddatblygu personoliaeth a doniau pob plentyn i’r eithaf (Erthygl 29)X Erthygl 29: mae’r canllawiau yn nodi’r ffaith bod pob plentyn yn unigryw, gyda chryfderau ac anghenion unigol. Dylai CAP o ansawdd da amlinellu strategaethau dysgu wedi’u personoli sy’n helpu i oresgyn y rhwystrau a nodwyd i’r person ifanc yn ogystal â datblygu ei gryfderau a’i ddyheadau, gan ei helpu i wireddu ei botensial llawn.
Dylai plant sy’n dod i wlad fel ffoaduriaid gael yr un hawliau â phlant a anwyd yn y wlad honno (Erthygl 22)X Erthygl 22: mae’r canllawiau yn dweud yn glir bod y darpariaethau o dan Ran 6 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014 yn gymwys i blant digwmni sy’n ceisio lloches hefyd, gan nodi bod ganddynt yr un hawliau a hawlogaethau â phlant sy’n derbyn gofal a anwyd yng Nghymru a’r DU. Cynhaliwyd ymgynghoriad â grŵp o blant a phobl ifanc digwmni sy’n ceisio lloches fel rhan o’r canllawiau, gan sicrhau bod eu safbwyntiau yn cael eu cynnwys yn y canllawiau.

Cyfathrebu â Phlant a Phobl Ifanc

Rhannwyd copi o’r canllawiau gyda phlant a phobl ifanc trwy’r sefydliadau a ymgysylltodd â nhw cyn yr ymgynghoriad. Lluniwyd fersiwn addas i bobl ifanc o gwestiynau’r ymgynghoriad er mwyn ennyn ymgysylltiad pellach pan gyhoeddwyd y canllawiau ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus rhwng 6 Hydref a 1 Rhagfyr 2025.

Bydd dolen i’r canllawiau cyhoeddedig yn cael ei rhannu â’r bobl ifanc berthnasol (trwy’r sefydliadau a hwylusodd yr ymgysylltu). O ganlyniad, bydd modd i’r bobl ifanc weld sut mae eu cyfranogiad wedi llywio’r canllawiau. Rydym wedi sicrhau bod y plant a’r bobl ifanc yn fodlon i ni gynnwys eu dyfyniadau, yn ddienw, yn y canllawiau.

Monitro ac Adolygu

Byddwn yn monitro’r broses o roi’r canllawiau ar waith trwy dderbyn adborth gan randdeiliaid, gan gynnwys ymgysylltu â’n Grŵp Cyflawni Cenedlaethol ar gyfer addysg plant â phrofiad o fod mewn gofal. Mae’r Grŵp Cyflawni Cenedlaethol yn cynnwys cynrychiolwyr o bob un o’r 22 awdurdod lleol, y Trydydd Sector, a chyrff cyhoeddus fel Estyn a Chomisiynydd Plant Cymru. 

Byddwn yn ystyried unrhyw argymhellion yn adroddiad Estyn mewn perthynas â CAPau ac yn diweddaru’r canllawiau fel sy’n briodol.

Yn dilyn yr adolygiad hwn, a fydd angen cyflwyno unrhyw ddiwygiadau i’r polisi neu i’r modd y caiff ei weithredu

Fel yr uchod, byddwn yn ystyried yr angen am unrhyw ddiwygiadau i’r canllawiau yn dilyn unrhyw adborth sy’n dod i law. Byddwn yn edrych eto ar yr Asesiad o’r Effaith ar Hawliau Plant os oes unrhyw ddiwygiadau sylweddol yn cael eu gwneud.