Neidio i'r prif gynnwy

Daeth yr ymgynghoriad i ben 31 Mawrth 2026.

Cyfnod ymgynghori:
17 Chwefror 2026 i 31 Mawrth 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Adolygu ymatebion

Mae ymatebion i'r ymgynghoriad hwn yn cael ei adolygu ar hyn o bryd. Bydd manylion am y canlyniad yn cael eu cyhoeddi yma maes o law.

Ymgynghoriad gwreiddiol

Rydym am glywed eich barn am drafft canllawiau cynllunio strategol ar gyfer Lefelau Gwent.

Disgrifiad o'r ymgynghoriad

Mae'r ymgynghoriad hwn yn ceisio barn ar y drafft canllawiau cynllunio strategol ar gyfer Ardal Adnoddau Naturiol Cenedlaethol Gwastadeddau Gwent (NNRA).

Mae'r canllaw drafft yn:

  • egluro sut y dylid ystyried Gwastadeddau Gwent wrth baratoi cynllun datblygu a gwneud penderfyniadau cynllunio
  • nodi ffyrdd i helpu gwella tirwedd a ddynodwyd ar Gwastadeddau Gwent a'i nodweddion pwysig
  • cefnogi gweithredu Polisi 9 o Fframwaith Datblygu Cenedlaethol, Gwastadeddau Gwent (Cymru'r Dyfodol) (NNRA).

Dogfennau ymgynghori

Canllawiau drafft cynllunio strategol ar gyfer Ardal Adnoddau Naturiol Cenedlaethol Gwastadeddau Gwent (Polisi 9 Cymru'r Dyfodol) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB

PDF
1 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig o'r Canllawiau Cynllunio Strategol ar gyfer Ardal Adnoddau Naturiol Cenedlaethol Gwastadeddau Gwent (Polisi 9 Cymru'r Dyfodol): adroddiad amgylcheddol drafft , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 724 KB

PDF
Saesneg yn unig
724 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig o'r Canllawiau Cynllunio Strategol ar gyfer Ardal Adnoddau Naturiol Cenedlaethol Gwastadeddau Gwent (Polisi 9 Cymru'r Dyfodol) adroddiad amgylcheddol drafft: atodiad A , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 828 KB

PDF
Saesneg yn unig
828 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig o'r Canllawiau Cynllunio Strategol ar gyfer Ardal Adnoddau Naturiol Cenedlaethol Gwastadeddau Gwent (Polisi 9 Cymru'r Dyfodol): adroddiad amgylcheddol drafft: crynodeb annhechnegol , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 331 KB

PDF
331 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Gwybodaeth ychwanegol

Nodyn: Anonymeiddio ymatebion

Mae'r ddogfen ymgynghori a gyhoeddwyd yn rhan o’r ymgynghoriad hwn yn adlewyrchu fersiwn gynharach o eiriad Llywodraeth Cymru ynghylch anonymeiddio ymatebion. Ers hynny mae ein gweithdrefnau wedi'u diweddaru fel bod ymatebion i ymgynghoriad yn cael eu trin fel rhai dienw yn ddiofyn. Mae unrhyw ddata personol bellach yn cael eu tynnu cyn cyhoeddi’r ymateb, oni bai bod ymatebwyr yn gofyn yn benodol fel arall.

Bydd y dull wedi'i ddiweddaru hwn yn cael ei ddefnyddio ar gyfer yr holl ymatebion a ddaw i law ar gyfer yr ymgynghoriad hwn.

Help a chymorth

Mae Fframwaith Datblygu Cenedlaethol (Cymru'r Dyfodol): y cynllun cenedlaethol 2040 (Polisi 9), yn darparu'r polisi cynllunio cenedlaethol ehangach ar gyfer canllawiau cynllunio strategol.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Changen Polisi Cynllunio o Gyfarwyddiaeth Cynllunio yn: planconsultations-h@llyw.cymru