Neidio i'r prif gynnwy

Drafft ymgynghori o ganllawiau ar reoli gwersylloedd diawdurdod.

Cyhoeddwyd gyntaf: 3 Mawrth 2025
Diweddarwyd ddiwethaf: 3 Mawrth 2025

Pennod 1: cyflwyniad

Cyflwyniad

Gwersyll diawdurdod yw gwersyll carafanau a/neu gerbydau ar dir heb ganiatâd y tirfeddiannwr neu’r meddiannydd ac sy’n fath o dresmasu.

Mae’r canllawiau'n cael eu diweddaru o reoli gwersylla diawdurdod i reoli gwersylloedd diawdurdod, er mwyn adlewyrchu’r ystod ehangach o sefyllfaoedd lle gallai gweithgareddau o’r fath ddigwydd. Mae’r newid hwn yn meithrin dull mwy cynhwysol o fynd i’r afael â’r anghenion a’r heriau sy’n wynebu cymunedau Sipsiwn a Theithwyr.

Gall gwersyll diawdurdod gynnwys unrhyw grŵp o unigolion neu gerbydau sy’n tresmasu ar dir. Fodd bynnag, mae’r canllawiau hyn wedi’u hanelu at fynd i’r afael â’r materion penodol sy’n ymwneud â gwersylloedd diawdurdod Sipsiwn a Theithwyr.

Mae gwersyll diawdurdod yn wahanol i achosion lle mae’r tir wedi’i brynu a’i feddiannu gan Sipsiwn a Theithwyr heb i’r caniatâd cynllunio priodol fod yn ei le. Gelwir hynny’n safle preifat heb ganiatâd cynllunio, ac nid yw’r canllawiau hyn yn ymdrin â hynny.

Gall gwersylloedd diawdurdod fod yn destun tensiwn mewn cymunedau ac mae angen eu trin yn sensitif gan fod angen i awdurdodau lleol a chyhoeddus gydbwyso hawliau Sipsiwn a Theithwyr a hawliau trigolion lleol. 

Diffinnir ‘Teithwyr a Theithwyr’ yn adran 108 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 fel a ganlyn:

  1. Personau sy’n arfer ffordd nomadig o fyw, beth bynnag fo’u hil neu eu tarddiad, gan gynnwys:
    1. personau sydd, ar sail eu hanghenion addysg, eu hanghenion iechyd neu eu henaint eu hunain, neu anghenion addysg, anghenion iechyd neu henaint eu teulu neu ddibynnydd, ac ar y sail honno yn unig, wedi rhoi’r gorau i deithio dros dro neu yn barhaol, a
    2. aelodau o grŵp trefnedig o siewmyn teithiol neu bersonau sy’n rhan o syrcasau teithiol (pa un a ydynt yn cyd-deithio mewn grŵp o’r fath ai peidio), a
  2. unrhyw bersonau eraill sydd â thraddodiad diwylliannol o nomadiaeth neu o fyw mewn cartref symudol.

Bwriad y diffiniad uchod yw sicrhau bod Sipsiwn Romani ethnig a Theithwyr Gwyddelig yn cael eu cynnwys, yn ogystal â’r rhai o unrhyw grŵp ethnig sy’n arfer ffordd o fyw nomadig. Mae’r diffiniad hefyd yn cynnwys Siewmyn Teithiol. Bydd Teithwyr Newydd yn cael eu cynnwys yn diffiniad hefyd os ydynt yn dangos traddodiad diwylliannol o nomadiaeth.

Er bod pob un o’r grwpiau hyn yn gysylltiedig â’r ffordd o fyw deithiol a nomadaidd a’u bod o bosibl yn rhannu rhai credoau ac arferion cyffredin, mae i bob grŵp ei ieithoedd, ei draddodiadau a'i ethnigrwydd unigryw ei hun, ac maent hefyd yn debygol o fod ag anghenion gwahanol o ran defnyddio gwersylloedd dros dro.

Y darlun yng Nghymru

Mae Sipsiwn a Theithwyr yn gynhenid i Gymru. Yn ôl amcangyfrif y Cyfrifiad diweddaraf yn 2021, mae tua 3,600 o'r boblogaeth arferol o breswylwyr yng Nghymru (0.1%) wedi nodi eu bod yn Sipsiwn neu’n Deithiwr Gwyddelig ledled Cymru. Mae Llywodraeth Cymru yn comisiynu pob awdurdod lleol yng Nghymru i gynnal eu cyfrif carafanau ddwywaith y flwyddyn. Defnyddir y comisiynau hyn i fonitro cyfrifon carafanau fel rhan o waith monitro’r awdurdodau lleol ar anghenion llety, a ddefnyddir fel data wrth gynnal Asesiad Llety Sipsiwn a Theithwyr.

Mae’r ffigur hwn yn debygol o fod yn danamcangyfrif, o ystyried ei fod yn mesur poblogaeth dros dro a chan nad yw data ethnigrwydd yn cael ei gofnodi’n ddigonol yn aml. Fodd bynnag, mae’n amlwg bod mwy o Sipsiwn a Theithwyr a charafanau yng Nghymru nag sydd o leiniau parhaol neu fannau aros tramwy neu dros dro/a negodwyd. Ar adeg cyhoeddi hyn, nid oes safleoedd tramwy na mannau aros dros dro/a negodwyd yng Nghymru. Er bod yr angen am saith llain tramwy wedi cael ei nodi gan awdurdodau lleol ar draws eu Asesiadau Llety Sipsiwn a Theithwyr Cylch 2, nid yw’r rhain ar waith eto.

Mae’r cyfrif carafanau hefyd yn debygol o danamcangyfrif gwir nifer y carafanau ar wersylloedd diawdurdod yng Nghymru. Mae’r cyfrif yn dibynnu ar swyddogion awdurdodau lleol yn diweddaru ac yn cysoni data ar y dyddiadau cyfrif a ddewiswyd, neu'n fuan wedyn, ac efallai na fydd nifer fach o awdurdodau lleol yn gallu cwblhau’r camau hyn ar gyfer unrhyw gyfrif penodol. Ar ben hynny, efallai na fydd awdurdodau lleol yn sylwi ar wersylloedd diawdurdod, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig mwy o faint a byddant yn cael eu hepgor o’r cyfrif.

Mae’r cyfrif carafanau yn rhoi cipolwg ar garafanau a safleoedd sy’n bresennol ar tua 2 ddiwrnod ym mis Ionawr a mis Gorffennaf. Oherwydd ei ddyluniad, dim ond y carafanau sy’n cael eu cyfrif ar adeg y dyddiau hynny, felly ni fydd y ffigurau hyn yn adlewyrchu natur nomadaidd Sipsiwn a Theithwyr na pha mor aml y mae angen llety dros dro arnynt. Nid yw’r cyfrif carafanau ychwaith yn rhoi unrhyw dystiolaeth o batrymau mudo.

Yng Nghymru, mae gwersylloedd diawdurdod yn tueddu i ddigwydd ar hyd y prif lwybrau trafnidiaeth a oedd yn draddodiadol yn darparu cyfleoedd gwaith yn ogystal â mynediad at y prif borthladdoedd ar gyfer Iwerddon. Mae’r prif lwybrau ar hyd coridor yr M4 fel y prif lwybr o’r dwyrain i’r gorllewin yn ne Cymru, yr A470 fel y prif lwybr o’r gogledd i’r de, ac ar hyd yr A55 fel y cyswllt o’r dwyrain i’r gorllewin yng ngogledd Cymru. Fodd bynnag, ceir gwersylloedd ledled Cymru, ac yn aml nid ydynt yn agos at y llwybrau prysur hyn.

Ar ben hynny, efallai y bydd Sipsiwn a Theithwyr yn ailymweld â’r un ardaloedd os ydynt yn gwybod bod mynediad ar gael at y cyfleusterau sydd eu hangen arnynt neu eu bod wedi cael profiadau da gyda'r awdurdodau lleol.

Gall diffyg darpariaeth mannau aros tramwy a thros dro/a negodwyd arwain at wersylloedd diawdurdod. Mae Sipsiwn a Theithwyr sy’n nomadaidd fel arfer yn defnyddio gwersylloedd diawdurdod am gyfnodau byr o amser, diwrnodau neu wythnosau, cyn symud ymlaen eto.

Efallai y bydd gan rai awdurdodau lleol yng Nghymru fwy o wersylloedd diawdurdod nag eraill. Fodd bynnag, mae pob awdurdod lleol yn debygol o brofi rhai gwersylloedd diawdurdod a dylent fod â pholisïau a gweithdrefnau i sicrhau eu bod yn cael eu trin mewn ffordd sy’n effeithiol, yn ddiogel ac yn sensitif i’r holl bartïon dan sylw. Er mwyn hwyluso hyn, mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu’r canllawiau hyn i helpu awdurdodau lleol i ddatblygu eu polisïau eu hunain ac, wrth wneud hynny, i gefnogi ffordd o fyw Sipsiwn a Theithwyr.

Ar gyfer pwy y mae’r canllawiau hyn?

Mae’r canllawiau hyn ar gyfer unrhyw un sy'n delio â gwersylloedd diawdurdod Sipsiwn a Theithwyr ond maent yn arbennig o bwysig i awdurdodau lleol yng Nghymru, sydd â nifer o ddyletswyddau statudol i sicrhau llesiant y cymunedau hyn.

Fodd bynnag, gall y canllawiau hefyd fod yn ddefnyddiol i berchnogion tir eraill, gan gynnwys awdurdodau cyhoeddus eraill, fel Awdurdodau’r Parciau Cenedlaethol neu Fyrddau Iechyd, yn ogystal â’r rhai sy’n mynd i safleoedd diawdurdod ac yn cynorthwyo awdurdodau lleol gyda’u dyletswyddau statudol, er enghraifft ymwelwyr iechyd, Gwasanaethau Addysg i Deithwyr a heddluoedd.

Er nad yw’r canllawiau hyn wedi’u hanelu’n bennaf at Sipsiwn a Theithwyr a allai fod angen byw dros dro mewn gwersyll diawdurdod, efallai y bydd rhai aelodau o’r gymuned o'r farn ei fod yn gyflwyniad defnyddiol i’w hawliau a’u cyfrifoldebau mewn sefyllfa o’r fath. Yn yr un modd, bydd ‘Protocolau Heddluoedd ar Reoli Gwersylloedd Diawdurdod’ drafft yn helpu aelodau’r gymuned i ddeall y disgwyliadau beth yw'r ynghylch ymwneud yr heddlu â gwersylloedd diawdurdod.

At ddibenion y canllawiau hyn, yr awdurdod lleol fydd y tirfeddiannwr fel arfer. Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod nad yw gwersylloedd diawdurdod yn digwydd ar dir sy’n eiddo i awdurdodau lleol yn unig, ond mae gwahanol weithdrefnau a gofynion yn berthnasol i dirfeddianwyr preifat, nad oes ganddynt unrhyw ddyletswyddau statudol tuag at y gymuned yn yr un modd ag awdurdodau lleol ac awdurdodau cyhoeddus eraill. Bydd y gweithdrefnau sy’n ymwneud â rheolau tirfeddianwyr preifat yn cael eu harchwilio’n fyr yn nes ymlaen yn y ddogfen.

Pan fydd tir yn eiddo i Lywodraeth Cymru neu unrhyw awdurdod cyhoeddus arall, yr awdurdod lleol sy'n dal yn gyfrifol am gyflawni pob un o’i ddyletswyddau statudol ar gyfer y rhai sydd ar wersylloedd diawdurdod yn ei ardal.

Y ddeddfwriaeth allweddol

Mae gan awdurdodau lleol amrywiaeth o ddyletswyddau statudol tuag at Sipsiwn a Theithwyr sy’n preswylio ac yn ymgynnull yn eu hardal. Mae rhai o’r prif ddyletswyddau wedi’u rhestru isod. Byddant yn berthnasol ni waeth a yw unigolion ar safle awdurdod lleol neu wersyll diawdurdod ai peidio.

Mae gan Sipsiwn a Theithwyr hawl i warchodaeth o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Mae Sipsiwn Romani a Theithwyr Gwyddelig wedi cael eu cydnabod fel grwpiau hiliol penodol at ddibenion y Ddeddf honno. Mae’r Ddeddf yn gwahardd gwahaniaethu, aflonyddu ac erledigaeth anghyfreithlon ar sail hil unigolyn, ac mae'n amddiffyn Sipsiwn a Theithwyr rhag triniaeth annheg neu wahaniaethu mewn amrywiaeth o feysydd, gan gynnwys wrth arfer swyddogaethau cyhoeddus a darparu gwasanaethau.

Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 hefyd yn mynnu bod pob awdurdod lleol a chyhoeddus, pryd bynnag y maent yn arfer eu swyddogaethau, yn rhoi sylw dyledus i’r angen i ddileu gwahaniaethu, aflonyddu, erledigaeth ac unrhyw ymddygiad arall sydd wedi’i wahardd o dan y Ddeddf honno. Rhaid i awdurdodau lleol hefyd hyrwyddo cyfle cyfartal a meithrin cysylltiadau da rhwng pobl o wahanol gefndiroedd hiliol. Mae hyn yn cynnwys rhoi sylw dyledus, yn benodol, i’r angen i:

  • ddileu neu leihau'r anfanteision a ddioddefir gan bobl am resymau sy'n gysylltiedig â'u hil
  • cymryd camau i ddiwallu anghenion pobl o hil benodol sy’n wahanol i anghenion pobl o gefndiroedd hiliol eraill
  • mynd i’r afael â rhagfarn a hyrwyddo dealltwriaeth

Gall cydymffurfio â’r dyletswyddau hyn olygu bod awdurdodau lleol yn trin rhai pobl yn fwy ffafriol nag eraill.

Mae dyletswyddau statudol ar awdurdodau lleol tuag at bobl ddigartref neu bobl sydd mewn perygl o fod yn ddigartref dan Ddeddf Tai (Cymru) 2014. Mae Sipsiwn a Theithwyr sy’n byw mewn carafanau heb unman i’w gosod yn gyfreithlon yn debygol o fod yn ddigartref yn gyfreithiol o dan y Ddeddf honno.

Mae Deddf Tai (Cymru) 2014 hefyd yn gosod dyletswyddau penodol ar awdurdodau lleol i gynnal asesiad o anghenion llety Sipsiwn a Theithwyr sy’n preswylio neu’n ymgynnull yn eu hardal ac i ddarparu safleoedd lle gellir gosod cartrefi symudol i’r graddau y mae hynny’n angenrheidiol er mwyn diwallu’r anghenion hynny.

Dywed adran 17(1) o Ddeddf Plant 1989 fod dyletswydd gyffredinol ar bob awdurdod lleol i ddiogelu a hyrwyddo lles plant yn eu hardal sydd mewn angen ac i hyrwyddo magwraeth plant o’r fath gan eu teuluoedd drwy ddarparu amrywiaeth a lefel o wasanaethau sy’n briodol i anghenion y plant hynny. Mae adran 20(1)(c) hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i bob awdurdod lleol ddarparu llety i unrhyw blentyn mewn angen yn ei ardal.

Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2015 yn gosod dyletswydd gyffredinol ar awdurdodau cyhoeddus i hyrwyddo llesiant oedolion a phlant sydd angen gofal a chymorth.

Mae’r Ddeddf hefyd yn mynnu bod awdurdodau lleol yn rhoi sylw dyledus i Egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Pobl Hŷn (fel y’u mabwysiadwyd gan Gynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig ar 16 Rhagfyr 1991). Rhaid i awdurdodau lleol sy’n cyflawni swyddogaethau o dan y Ddeddf mewn perthynas â phlant ag anghenion gofal a chymorth, gofalwyr sy'n blant sydd ag anghenion cymorth, a phlant sy’n derbyn gofal a phlant sy’n cael eu lletya roi sylw dyledus hefyd i Ran 1 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (gweler penderfyniad y Cynulliad Cyffredinol 44/25 ar Dachwedd 1989).

O dan adran 13 o Ddeddf Addysg 1996, rhaid i awdurdod lleol gyfrannu at ddatblygiad ysbrydol, moesol, meddyliol a chorfforol y gymuned drwy sicrhau bod addysg gynradd ac uwchradd effeithlon ar gael i ddiwallu anghenion poblogaeth eu hardal.

Mae Llywodraeth Cymru yn argymell bod awdurdodau lleol yn cynnal asesiad lles ar bob preswylydd sy’n byw mewn gwersyll diawdurdod ar dir sy’n eiddo cyhoeddus, er mwyn sicrhau bod yr awdurdod yn cyflawni pob un o’r dyletswyddau statudol a restrir uchod. Mae hyn yn wir hyd yn oed pan nad yw’r tir y mae gwersyll diawdurdod wedi’i sefydlu arno yn eiddo i’r awdurdod lleol, ond yn hytrach yn eiddo i Lywodraeth Cymru neu awdurdod cyhoeddus arall. Bydd hyn yn galluogi’r awdurdod lleol i ddangos yn glir eu bod wedi ystyried eu cyfrifoldebau tuag at y rhai sy’n byw ar safleoedd diawdurdod yn eu hardal. 

Nodau'r canllawiau

Nod y canllawiau yw:

  • rhoi arweiniad clir i bawb sy'n ymwneud â gwersylloedd diawdurdod ynghylch eu rolau, eu cyfrifoldebau a'u hawliau
  • sicrhau dull teg, cyson a chyfreithlon o ddelio â gwersylloedd diawdurdod, sy'n ystyried buddiannau a hawliau pawb sy'n gysylltiedig
  • nodi’r camau gweithredu sy’n cael eu hargymell, h.y. canllaw cam wrth gam ar beth i’w wneud wrth ddelio â gwersyll diawdurdod
  • rhannu enghreifftiau o arferion da cyfredol
  • darparu templedi ar gyfer awdurdodau lleol wrth gynnal asesiadau lles
  • crynhoi’r pwerau gorfodi yn Neddf Cyfiawnder Troseddol a Threfn Gyhoeddus 1994, fel y’u mewnosodwyd gan Ddeddf yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd 2022

Pennod 2: deall gwersylloedd diawdurdod a rhwymedïau posibl

Pam mae gwersylloedd diawdurdod yn digwydd?

Mae pwrpas gwersylloedd diawdurdod yn amrywio a gallant ddigwydd am nifer o resymau. Un o'r rhesymau allweddol dros wersylloedd diawdurdod yw diffyg safleoedd awdurdodau lleol a mannau aros tramwy a thros dro/a negodwyd, a chau llawer o fannau aros traddodiadol.

Mae Llywodraeth Cymru yn parchu ac yn cefnogi ffordd o fyw nomadaidd Sipsiwn a Theithwyr, ac mae'n cydnabod y gall gwersylloedd diawdurdod ddigwydd oherwydd diffyg darpariaeth ddigonol a phriodol o safleoedd dros dro. Deellir bod rhaid ystyried mynd i’r afael â mater gwersylloedd diawdurdod yng nghyd-destun ehangach diffyg darpariaeth safleoedd.

Bydd darparu mwy o safleoedd awdurdodau lleol ynghyd â rheoli safleoedd yn effeithiol yn helpu i ddileu’r angen am wersylloedd diawdurdod. Mae’n hanfodol bod gan awdurdodau lleol brotocolau i ddelio’n briodol a chymesur â gwersylloedd diawdurdod. Wrth i safleoedd tramwy a mannau aros dros dro/a negodwyd gael eu datblygu, bydd angen rhoi protocolau rheoli gwersylloedd diawdurdod ar waith lai a llai, gan leihau’r goblygiadau gweinyddol ac ariannol sy’n gysylltiedig ag awdurdodau lleol yn gorfod ymateb.

Lle ceir gwersylloedd diawdurdod, dylai awdurdodau lleol, cyn belled ag y bo’n ymarferol, sicrhau eu bod yn ddiogel i’r unigolion dan sylw ac nad ydynt yn cael effaith andwyol ar y tir.

Mae’n debygol y bydd pob gwersyll diawdurdod yn wahanol i’r un nesaf. Gallant amrywio o ran:

  • Maint: fel arfer, bydd gwersylloedd yn cynnwys ychydig o garafanau yn unig ond gallant gynyddu’n sylweddol ar adeg angladdau neu briodasau mawr neu ffeiriau diwylliannol traddodiadol.
  • Lleoliad: ardaloedd glaswelltir cudd, neu dir gwarchodedig, neu ardaloedd gweladwy iawn, e.e. ar ochr y ffordd. Ceir mwy a mwy o wersylloedd mewn parciau diwydiannol neu fusnes.
  • Yr effaith ar y gymuned sefydlog: yn yr un modd â’r boblogaeth sefydlog, efallai y bydd rhai gwersylloedd yn achosi niwsans i’r gymuned leol tra bydd eraill yn dawel.
  • Yr effaith ar y tir: gall rhai gwersylloedd adael ardal heb ei difetha ac yn daclus tra gall eraill achosi difrod i'r tir a gadael gwastraff ar eu hôl.

Gall Sipsiwn a Theithwyr fod ar wersylloedd diawdurdod am amrywiaeth o resymau, er enghraifft:

  • Nid oes gan y meddianwyr lain awdurdod lleol i osod eu carafán arno. Efallai fod cyplau sydd newydd briodi wedi gadael lleiniau eu rhieni ond nad oes ganddynt eu lleiniau cyfreithlon eu hunain.
  • Mynd i ddigwyddiad teuluol yn yr ardal leol, fel priodas neu angladd.
  • Efallai fod ymdrechion i addasu i fyw mewn ‘brics a morter’ wedi methu.
  • Aros dros nos wrth deithio i leoliad arall, er enghraifft, i safle parhaol neu borthladd.
  • Rhesymau iechyd, er enghraifft os oes angen gofal meddygol brys ar aelod o’r grŵp, ymweliad â meddyg teulu am feddyginiaeth, neu os yw menyw feichiog yn dynesu at ei dyddiad esgor.
  • Dod o hyd i waith.
  • Galluogi plant a phobl ifanc i fynychu'r ysgol neu addysg drydyddol.
  • Darparu seibiant o'r teithio i aelod oedrannus neu sâl o’r grŵp.

Bydd gwersylloedd hirdymor yn aml yn digwydd am resymau addysg neu ofal iechyd, neu yn syml am nad oes llain arall ar gael.

Gall gwersylloedd byrdymor ddigwydd am amrywiaeth eang o amgylchiadau, a gallant bara am gyfnod penodol yn unig, fel am gyfnod dathliadau priodas neu gyfnod o driniaeth yn yr ysbyty.

Mae gwersylloedd diawdurdod byrdymor a hirdymor yn debygol o gael effaith ar yr ardal leol o ran darparu gwasanaethau a mynediad at y tir a feddiannir.

Dylai awdurdodau lleol gydnabod y gall fod yn fwy cymesur a chost-effeithiol darparu llain i’r rhai sydd ar wersyll diawdurdod, hyd yn oed os mai llain dros dro yw hwnnw mewn man aros dros dro/a negodwyd, yn hytrach na chymryd unrhyw gamau gorfodi yn eu herbyn. Gallai datblygu a darparu lleiniau a safleoedd awdurdodau lleol helpu cydlyniant cymunedol, cyfyngu ar y posibilrwydd o unrhyw ddifrod i dir cyhoeddus, a lleihau'r costau clirio. Byddai safleoedd o’r fath hefyd yn darparu refeniw i awdurdodau lleol gan y byddai meddianwyr yn talu ffi llain a’r Dreth Gyngor.

Man aros dros dro/a negodwyd yw safle sydd â chaniatâd cynllunio priodol lle mae gan Sipsiwn a Theithwyr wedi cael caniatâd i aros gan y tirfeddiannwr, sef awdurdod lleol fel arfer. Gellir darparu mannau aros dros dro/a negodwyd i adleoli gwersylloedd sydd wedi’u lleoli’n amhriodol, wrth i safleoedd eraill gael eu datblygu. Bwriedir i’r rhain fod yn fesur cwbl dros dro lle nad oes gan awdurdodau lleol ddarpariaeth barhaol neu dramwy addas ar gael yn eu hardal. Nid datrysiad hirdymor mohonynt a rhaid i awdurdodau lleol barhau i gyflawni eu dyletswyddau i ddarparu llety priodol i Sipsiwn a Theithwyr o dan Ddeddf Tai (Cymru) 2014.

Nid yw’r gofynion sy’n ymwneud â safleoedd yn Neddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 yn berthnasol i fannau aros dros dro/a negodwyd gan nad yw’r rhain yn safleoedd awdurdod lleol nac yn safleoedd tramwy. Fodd bynnag, dylai mannau aros dros dro/a negodwyd bob amser ddarparu amwynderau sylfaenol i feddianwyr, gan gynnwys gwaredu gwastraff, cyflenwad dŵr a glanweithdra. Dylai’r teuluoedd sy’n defnyddio mannau aros dros dro/a negodwyd hefyd gael asesiad lles gan yr awdurdod lleol cyn gynted â phosibl er mwyn sicrhau bod yr awdurdod lleol yn cyflawni ei ddyletswyddau statudol tuag at yr unigolion hynny.

O ran cyhoeddi’r canllawiau hyn, mae angen 277 o leiniau i ddiwallu’r angen a nodwyd yng nghylch diweddaraf 2 (2016-2022) yr Asesiad Llety Sipsiwn a Theithwyr, sy’n cynrychioli prinder sylweddol o lety priodol ar gyfer y cymunedau hyn. 

Dulliau o ddatrys gwersylloedd diawdurdod

Os ceir gwersyll diawdurdod ac nad oes unrhyw leiniau awdurdod lleol eraill yn yr ardal, mae gan awdurdodau lleol 3 phrif lwybr i ymateb i hyn. Dylid ystyried pob opsiwn yn ofalus:

  • Llwybr 1: negodi gyda’r Sipsiwn neu Deithwyr sy'n meddiannu, a chytuno i’r gwersyll diawdurdod am gyfnod cyfyngedig iawn.
  • Llwybr 2: dod o hyd i safle arall neu gytuno ar fan aros dros dro/a negodwyd yn rhywle arall, hyd yn oed os yw'n un dros dro yn unig, nes y gellir dod o hyd i safle parhaol neu hirdymor addas neu bod y meddianwyr yn symud ymlaen yn wirfoddol.
  • Llwybr 3: os nad yw Llwybrau 1 a 2 yn datrys y sefyllfa neu os ydynt yn amhriodol am unrhyw reswm, ceisio meddiant o'r safle a feddiannir (achosion troi allan).

Mae penderfynu pa lwybr i’w ddilyn yn golygu dod o hyd i gydbwysedd teg rhwng hawliau Sipsiwn a Theithwyr a hawliau tirfeddianwyr a’r cyhoedd. Dylid delio â phob gwersyll fesul achos.

Dylai awdurdodau lleol gynnal asesiad lles ar bawb sydd ar y gwersyll er mwyn deall eu hanghenion a sicrhau bod yr anghenion hynny’n cael sylw fel sy’n ofynnol o dan ddyletswyddau statudol yr awdurdod lleol. Dylai’r awdurdod lleol hefyd gysylltu â gwasanaethau eraill a allai fod â chyfrifoldebau tuag at y meddianwyr. Dylid gwneud yr archwiliadau hyn cyn gynted â phosibl, yn ddelfrydol o fewn 24 awr ar ôl i’r awdurdod lleol ddod yn ymwybodol o’r gwersyll, (cyn belled ag y bo hynny’n rhesymol ymarferol). Mae ffurflen asesu lles ar gael yn Atodiad 3.

Gall asesiadau lles hefyd helpu awdurdodau lleol i ddeall anghenion llety teuluoedd ac a oes angen llain arnynt ar safle tramwy neu fan aros dros dro/a negodwyd.

Yn aml, trigolion lleol a busnesau sy’n poeni am yr effaith bosibl arnynt fydd yn dod o hyd i wersylloedd yn gyntaf. Gall pryderon amrywio o’r posibilrwydd o niwsans cyhoeddus, tipio anghyfreithlon, ehangu gwersylloedd a deiliadaeth barhaol. Efallai y bydd gan y cyhoedd ddisgwyliadau y gellir clirio gwersylloedd cyn gynted â phosibl ar ôl i’r awdurdod lleol gael gwybod. Fodd bynnag, o ran os a phryd i gymryd unrhyw gamau troi allan yn erbyn y gwersyll, bydd hynny'n dibynnu ar yr amgylchiadau ym mhob achos.

Dim ond ar ôl ystyried holl amgylchiadau’r achos y dylid penderfynu a ddylid cymryd camau troi allan, gan gynnwys a oes gan y meddianwyr anghenion lles penodol ac i ba raddau y mae’r gwersyll yn achosi niwsans cyhoeddus.

Bydd troi meddianwyr allan o wersyll diawdurdod yn aml yn arwain at gostau sylweddol i’r awdurdod lleol a’r heddlu ac yn cymryd amser i’w datrys. Gallai hefyd fethu â darparu ateb hirdymor: lle oedd y meddianwyr wedi sefydlu gwersyll diawdurdod yn ardal gyffredinol yr awdurdod lleol oherwydd diffyg lleiniau eraill; yn absenoldeb unrhyw ddewisiadau dros dro, gallant symud i wersylla diawdurdod arall yn yr un ardal.

Gall dod o hyd i fannau aros dros dro/a negodwyd ddarparu ddatrysiad pragmatig a chost-effeithiol ac mae’n galluogi’r awdurdod lleol i adleoli gwersyll o leoliad amhriodol gan gydnabod yr angen i ddarparu cymorth i’r meddianwyr.

Pan ystyrir bod Sipsiwn a Theithwyr yn ddigartref neu mewn perygl o fod yn ddigartref, efallai y bydd Deddf Tai (Cymru) 2014 yn dymuno ystyried a fyddai’n briodol negodi a derbyn gwersyll diawdurdod nes bydd canlyniad unrhyw gais digartrefedd yn hysbys, oni bai fod y gwersyll yn fygythiad uniongyrchol i ddiogelwch y cyhoedd neu gydlyniant cymunedol.

Pennod 3: deddfwriaeth

Trosolwg

Mae ystod o ddeddfwriaeth sy’n berthnasol o ran gwersylloedd diawdurdod. Manylir ar rywfaint o hyn isod. Mae’n bwysig cofio bod deddfwriaeth a gwarchodaeth dan y gyfraith yn berthnasol i’r tirfeddiannwr a hefyd i gymunedau Sipsiwn a Theithwyr.

Deddf yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd 2022 (“Deddf yr Heddlu”)

Mae adran 83 o Ddeddf yr Heddlu yn mewnosod adrannau 60C i 60E newydd yn Neddf Cyfiawnder Troseddol a Threfn Gyhoeddus 1994 (“Deddf 1994”).

Mae adran 60C newydd yn cyflwyno trosedd o breswylio neu fwriadu preswylio mewn cerbyd ar dir heb ganiatâd, cyn belled â bod un neu ragor o’r amodau canlynol yn cael eu bodloni:

  • Bod difrod sylweddol neu darfu sylweddol wedi’i achosi neu’n debygol o gael ei achosi o ganlyniad i breswyliad y person.
  • Bod difrod sylweddol neu darfu sylweddol wedi'i achosi neu'n debygol o gael ei achosi o ganlyniad i ymddygiad a gyflawnwyd, neu sy'n debygol o gael ei gyflawni, gan y person tra bydd ar y tir.
  • Bod trallod sylweddol wedi'i achosi neu'n debygol o gael ei achosi o ganlyniad i ymddygiad tramgwyddus a gyflawnir neu sy'n debygol o gael ei gyflawni gan y person tra bydd ar y tir.

Cyflawnir trosedd os yw’r person, heb “esgus rhesymol”, yn methu â chydymffurfio cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol â chais a wneir gan y tirfeddiannwr/meddiannydd neu’r heddlu i adael y tir a symud ei holl eiddo. Mae hefyd yn drosedd i’r person, heb esgus rhesymol, symud yn ôl i’r tir o fewn 12 mis.

Mae’r amddiffyniad “esgus rhesymol” yn caniatáu i berson ddangos bod ganddo esgus rhesymol dros fethu â chydymffurfio cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol â chais i adael y tir, gyda’r bwriad o fyw yno heb ganiatâd. Mater i lys fydd penderfynu beth sy’n esgus rhesymol, ond un achos posibl fyddai cerbyd wedi torri i lawr ac yn aros i gael ei drwsio.

Mae adran 60C(7)(a) newydd yn darparu bod yr awdurdod i gael ei drin fel y “meddiannydd” mewn perthynas â thir comin y mae gan y cyhoedd fynediad iddo a lle na ellir adnabod meddiannydd y tir. Mae hyn yn golygu na chaiff person, yn yr achosion hyn, breswylio na bwriadu preswylio ar y tir heb ganiatâd yr awdurdod lleol a gall awdurdod lleol ofyn i berson adael y tir a symud ei eiddo.

Mae adran 60C(8) newydd yn nodi diffiniadau nad ydynt yn gynhwysfawr ar gyfer “difrod” a “tharfu”. Mae difrod yn cynnwys difrod ffisegol, sef “difrod i’r tir” a difrod nad yw’n ffisegol, sef “difrod i’r amgylchedd” sy’n cynnwys gormod o sŵn, arogleuon, sbwriel neu dyddodion gwastraff. Mae tarfu yn cynnwys y gallu sydd gan berson i gael mynediad at unrhyw gyfleusterau sydd wedi’u lleoli ar y tir neu wneud defnydd cyfreithlon o’r tir neu gyflenwad dŵr, ynni neu danwydd.

Y gosb uchaf am y trosedd yw tri mis o garchar, dirwy lefel 4 (£2,500 ar hyn o bryd), neu’r ddau.

Pan fo cwnstabl yn amau’n rhesymol fod trosedd wedi’i gyflawni o dan adran 60C newydd, mae adran 60D newydd yn rhoi’r pŵer i’r cwnstabl atafaelu a symud unrhyw eiddo perthnasol (a ddiffinnir yn adran 60D(2) newydd) y mae’n ymddangos ei fod yn perthyn i’r person y mae’r cwnstabl yn amau ei fod wedi cyflawni’r drosedd, sydd yn ei feddiant neu o dan ei reolaeth. Mae’r eiddo hwn yn cynnwys cerbyd, os yw’r cwnstabl yn amau bod gan y person hwn gydag ef neu ei fod bwriadu ei gael gydag ef drwy gyflawni trosedd o dan adran 60C newydd. Caiff yr heddlu gadw eiddo yr ymafaelir ynddo o dan adran 60D newydd am hyd at 3 mis o ddyddiad yr ymafaeliad neu, os cychwynnir achos troseddol, hyd nes y daw'r achos hwnnw i ben.

Dan adran 60E newydd, gellir fforffedu eiddo yr ymafaelwyd ynddo a delio ag ef fel y pennir mewn gorchymyn llys. Cyn gwneud gorchymyn i fforffedu’r eiddo, rhaid i’r llys ganiatáu i unrhyw un sy’n honni mai ef yw’r perchennog neu sydd â buddiant ynddo wneud sylwadau. Rhaid i’r llys hefyd ystyried gwerth yr eiddo a chanlyniadau tebygol fforffedu.

Mae adran 84 o Ddeddf yr Heddlu yn diwygio’r pwerau presennol yn Neddf 1994. Mae is-adran (3) yn diwygio adran 61(1)(a) (pŵer i symud tresmaswyr ar dir) o Ddeddf 1994, i’r graddau y mae’n gymwys i Gymru a Lloegr, er mwyn ehangu’r mathau o niwed a ddelir gan bŵer uwch swyddog i gyfarwyddo tresmaswyr gyda phwrpas cyffredin o breswylio ar dir i adael y tir a symud eu heiddo. Mae’r rhain bellach yn cynnwys difrod, aflonyddwch neu drallod ac, yn wahanol i’r trosedd newydd, nid oes angen i’r rhain fod yn “sylweddol” i gael eu dal gan y pŵer. Rhoddir yr un diffiniadau i “difrod” a “tharfu” ag yn adran 60C newydd.

Yn unol â’r ddarpariaeth bresennol o dan adran 61 o Ddeddf 1994, caiff uwch swyddog gyfarwyddo pob tresmaswr sydd â phwrpas cyffredin o breswylio ar y tir, lle mae’n credu’n rhesymol bod unrhyw un ohonynt wedi achosi’r difrod, y tarfu neu’r trallod a bod camau rhesymol wedi’u cymryd gan neu ar ran y meddiannydd, i ofyn iddynt adael; nid oes gofyniad i gredu’n rhesymol mai un tresmaswr penodol a achosodd y difrod, y tarfu neu’r trallod.

Mae adran 61(4) o Ddeddf 1994 wedi ei diwygio i ddarparu bod person sydd wedi cael cyfarwyddyd i adael gan uwch swyddog yng Nghymru a Lloegr o dan adran 61(1) yn cyflawni trosedd os yw, heb esgus rhesymol, yn mynd ar y tir eto fel tresmaswr o fewn 12 mis ar ôl cael y cyfarwyddyd. Mae adran 61(9) wedi ei diwygio i alluogi’r heddlu i gyfarwyddo tresmaswyr i adael tir sy’n rhan o briffordd yng Nghymru a Lloegr. Mae adran 62(1)(b) o Ddeddf 1994 yn cyflwyno pwerau i alluogi ymafael yng ngherbyd person os ydynt, heb esgus rhesymol, yn mynd i mewn i'r tir eto fel tresmaswr o fewn 12 mis ar ôl cael cyfarwyddyd o dan adran 61(1).

O dan adran 62B(2) o Ddeddf 1994, mae person yn cyflawni trosedd pan fydd yn mynd i mewn i unrhyw dir yn ardal yr awdurdod lleol perthnasol fel tresmaswr gyda’r bwriad o breswylio yno o fewn 12 mis ar ôl cael cyfarwyddyd i adael o dan adran 62.

Deddf Priffyrdd 1980

O dan adran 137 o Ddeddf Priffyrdd 1980, mae’n drosedd i berson, heb awdurdod neu esgus cyfreithlon, rwystro’n fwriadol y llwybr rhydd ar hyd priffordd mewn unrhyw fodd. Mae adran 143 o'r Ddeddf honno yn rhoi pŵer i awdurdod priffyrdd i symud, gydag un mis o rybudd, unrhyw strwythurau a sefydlwyd ar briffordd. Mae’r diffiniad o strwythur yn cynnwys gwrthrych sy’n gallu achosi rhwystr, boed ar olwynion ai peidio, ac felly mae’n cynnwys carafán neu gartref symudol.

Rheolau Trefniadaeth Sifil 1998

Gellir cael gorchymyn adennill meddiant yn y llysoedd sifil, sy’n mynnu bod unrhyw dresmaswyr yn cael eu symud o eiddo o dan Ran 55 o’r Rheolau Trefniadaeth Sifil. Mae’r rhwymedi hwn ar gael i dirfeddianwyr cyhoeddus a phreifat.

Deddf Hawliau Dynol 1998

Mae Deddf Hawliau Dynol 1998 yn rhoi effaith i’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol (“ECHR” neu'r “Confensiwn”) yn y DU. Rhaid i benderfyniadau a wneir gan awdurdodau cyhoeddus yng Nghymru gydymffurfio â’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol.

Mae Erthygl 8 o’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol yn bwysig iawn mewn cysylltiad â chartref Sipsiwn neu Deithwyr. Mae Erthygl 8 yn datgan:

  1. Mae gan bawb yr hawl i barch at ei fywyd preifat a theuluol, ei gartref a’i ohebiaeth.
  2. Ni chaiff unrhyw awdurdod cyhoeddus ymyrryd â’r hawl hwn oni bai fod hynny’n digwydd yn unol â’r gyfraith a’i fod yn angenrheidiol mewn cymdeithas ddemocrataidd er budd diogelwch gwladol, diogelwch y cyhoedd neu les economaidd y wlad, er mwyn atal anhrefn neu drosedd, er mwyn diogelu iechyd neu foesau, neu er mwyn diogelu hawliau neu ryddid pobl eraill.

Gall ‘cartref’ gynnwys carafán hyd yn oed os yw wedi’i barcio’n anghyfreithlon. Felly, caiff Erthygl 8 fod yn gymwys i’r personau hynny sydd ar wersylloedd diawdurdod yn ogystal â thenantiaid safleoedd.

Mae Erthygl 14 yn ymwneud â gwahardd gwahaniaethu a dylid ei darllen ar y cyd ag Erthygl 8:

Dylid sicrhau bod yr hawliau a’r rhyddid a nodir yn y Confensiwn hwn yn cael eu mwynhau heb wahaniaethu ar unrhyw sail fel rhyw, hil, lliw, iaith, crefydd, barn wleidyddol neu farn arall, tarddiad cenedlaethol neu gymdeithasol, cysylltiad â lleiafrif cenedlaethol, eiddo, genedigaeth neu statws arall.

Mae troi Sipsiwn neu Deithwyr allan o wersylloedd anghyfreithlon gan awdurdod lleol yn debygol o ennyn Erthygl 8, gan ei bod yn debygol o fod yn ymyrraeth â chartref y Sipsiwn neu’r Teithwyr (Chapman v Y Deyrnas Unedig (2001) 33 EHRR 18). Fodd bynnag, mae hawliau erthygl 8 yn gymwys a bydd rhaid i awdurdod lleol benderfynu a fyddai troi allan yn gyfystyr ag ymyrraeth anghyfreithlon, ynteu a ellid cyfiawnhau hynny’n wrthrychol yn holl amgylchiadau unrhyw achos penodol.

Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990

Mae gan awdurdodau lleol amrywiol bwerau dan Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990 i fynd i’r afael â materion gwastraff, niwsans statudol a sbwriel yn eu hardal.

Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990

Pan fo Sipsiwn neu Deithwyr (neu unrhyw un arall) yn prynu tir ac yn ei ddatblygu fel maes carafanau heb ganiatâd cynllunio, bydd camau gorfodi yn cael eu cymryd drwy’r system gynllunio. Mater o ddisgresiwn i'r awdurdod cynllunio lleol yw gorfodi. Mae canllawiau ar ddefnyddio pwerau gorfodi cynllunio ar gael yn y Llawlyfr Rheoli Datblygu ac yng Nghylchlythyr 24/97 y Swyddfa Gymreig.

Pennod 4: rolau a chyfrifoldebau

Trosolwg

Fel y nodir yn adran 1, mae gan bob awdurdod cyhoeddus, gan gynnwys Gweinidogion Cymru, awdurdodau lleol ac awdurdodau cyhoeddus eraill, ddyletswyddau tuag at Sipsiwn a Theithwyr o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a Deddf Hawliau Dynol 1998. Rhaid ystyried y dyletswyddau hyn wrth benderfynu sut i ddelio ag unrhyw wersyll diawdurdod ar dir sy’n eiddo cyhoeddus.

Llywodraeth Cymru

Nid oes gan Lywodraeth Cymru rôl orfodi i ymateb i wersyll diawdurdod ar dir awdurdod cyhoeddus neu breifat heb ganiatâd cynllunio.

Pan fo gwersyll diawdurdod yn digwydd ar dir Llywodraeth Cymru, gall Llywodraeth Cymru ystyried a ddylid cymryd unrhyw achosion troi allan fel tirfeddiannwr. Fodd bynnag, ni fyddai hyn yn cael ei wneud heb ymgynghori â’r awdurdod lleol perthnasol, sydd â dyletswydd i helpu’r rhai sy’n ddigartref neu sydd mewn perygl o fod yn ddigartref yn eu hardal. Mae’r cyfrifoldeb dros sicrhau lles y meddianwyr ar wersyll diawdurdod o'r fath hefyd yn aros gyda’r awdurdod lleol perthnasol, sydd ag ystod o ddyletswyddau statudol tuag at yr unigolion hyn.

Awdurdodau lleol

Pan fo gwersyll diawdurdod yn digwydd ar dir awdurdod lleol, caiff yr awdurdod lleol ystyried a ddylid cymryd unrhyw gamau troi allan fel tirfeddiannwr. Fodd bynnag, cyn gwneud hynny, bydd awdurdodau lleol yn ymwybodol o’u dyletswydd statudol i helpu’r rhai sy’n ddigartref neu sydd mewn perygl o fod yn ddigartref yn eu hardal. Rhaid i awdurdodau lleol hefyd gydymffurfio â’u dyletswyddau statudol eraill i sicrhau lles yr unigolion hyn.

Awdurdodau cyhoeddus eraill

Gall awdurdodau cyhoeddus eraill (gan gynnwys parciau cenedlaethol) fel tirfeddianwyr ystyried cymryd camau troi allan yn erbyn unrhyw gymunedau Sipsiwn a Theithwyr sydd wedi sefydlu gwersyll diawdurdod ar eu tir. Fodd bynnag, ni ddylid gwneud hyn heb gysylltu’n gyntaf â’r awdurdod lleol perthnasol sydd â’r ddyletswydd statudol i helpu’r rhai yn eu hardal sy’n ddigartref neu mewn perygl o fod yn ddigartref.

Tirfeddianwyr preifat

Nid oes rhaid i dirfeddianwyr preifat sy’n profi gwersylloedd diawdurdod ar eu tir gydymffurfio â’r un cyfrifoldebau statudol ag awdurdodau cyhoeddus.

Rhaid iddynt ofyn am eu cyngor cyfreithiol eu hunain wrth geisio datrys gwersylloedd diawdurdod ar eu tir.

Heddluoedd

Mae gan yr heddlu ystod o bwerau i ddelio â gwersylloedd diawdurdod. Dylai awdurdodau lleol ystyried yn ofalus a oes angen unrhyw gymorth gan yr heddlu ynteu a yw’n briodol gweithio’n uniongyrchol gyda’r gymuned Sipsiwn a Theithwyr yn uniongyrchol yn y lle cyntaf.

Pennod 5: canllaw cam wrth gam ar ddatrys gwersylloedd diawdurdod

Trosolwg

Dylai awdurdodau lleol ystyried yr adran hon o’r canllawiau wrth fynd i’r afael â gwersyll diawdurdod sydd wedi digwydd yn eu hardal. Er y dylai pob gwersyll gael ei asesu fesul achos, mae’r adran hon yn rhoi’r adnoddau i awdurdodau ddatblygu eu dull gweithredu.

Cam 1: rhoi gwybod am wersyll

Fel arfer, daw’r ymwybyddiaeth gyntaf o wersyll diawdurdod drwy adroddiadau gan drigolion lleol neu fusnesau yng nghyffiniau gwersyll sydd newydd ei ffurfio.

Dylai awdurdodau lleol sicrhau bod ganddynt ddull effeithiol o ymateb i wersylloedd cyn gynted ag y byddant yn digwydd. Argymhellir bod awdurdodau lleol yn penodi Pwynt Cyswllt Unigol i ddelio â gwersylloedd diawdurdod yn eu hardal a dylid rhoi gwybod i holl staff yr awdurdod lleol am fanylion cyswllt y Pwynt Cyswllt Unigol. Mae’n arbennig o bwysig bod gan swyddogion cwynion a gweithredwyr switsfwrdd y manylion hyn.

Nid oes angen o reidrwydd i’r Pwynt Cyswllt Unigol fod yr un swyddog ar gyfer pob gwersyll. Fodd bynnag, bydd cael un cyswllt unigol ar gyfer pob mater sy’n ymwneud â gwersyll penodol yn helpu’r awdurdod lleol i ymateb yn gyflym yn ôl yr angen. Dylai’r awdurdod lleol sicrhau bod y Pwynt Cyswllt Unigol yn cael y cymorth angenrheidiol i gyflawni ei rôl. Dylai arweinwyr awdurdodau lleol sicrhau bod modd cydlynu’r holl adrannau perthnasol yn effeithiol a gwneud penderfyniadau allweddol ar lefel uchel.

Bydd rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i gymunedau a busnesau lleol am gynigion yr awdurdodau lleol i ddelio â’r gwersyll yn helpu i sicrhau cydlyniant cymunedol a rheoli pryderon posibl pobl yn yr ardal gyfagos.

Pan gaiff awdurdod lleol ei hysbysu am wersyll diawdurdod am y tro cyntaf, dylai geisio cael cymaint o wybodaeth â phosibl gan y sawl sy'n gwneud yr adroddiad, gan barchu y gall ddymuno aros yn ddienw.

Gall gwybodaeth berthnasol gynnwys:

  • Lleoliad y gwersyll.
  • Am ba mor hir y mae’r gwersyll wedi’i sefydlu.
  • Tua faint o bobl a cherbydau sy’n bresennol.
  • A oes unrhyw gyswllt wedi'i wneud rhwng y person sy'n adrodd a'r meddianwyr, ac os oes, beth fu canlyniad y trafodaethau hynny.
  • A oes gan y sawl sy’n gwneud yr adroddiad unrhyw bryderon penodol am y gwersyll, fel y meddianwyr yn rhwystro mynediad at dir neu'n achosi niwsans cyhoeddus.
  • Manylion cyswllt y person sy’n gwneud yr adroddiad os yw’n dymuno cael yr wybodaeth ddiweddaraf am ymateb yr awdurdodau lleol i’r gwersyll.

Cam 2: asesiad lles

Ar ôl i adroddiad y gwersyll gael ei gofnodi, argymhellir bod y Pwynt Cyswllt Unigol neu’r swyddog arweiniol yn ymweld â’r gwersyll i asesu lles y meddianwyr o fewn 24 awr, cyn belled ag y bo hynny’n rhesymol ymarferol.

Mae gan awdurdod lleol nifer o ddyletswyddau sy’n ymwneud â’r rhai sy’n byw yn ei ardal, gan gynnwys y rhai mewn addysg, plant a deddfwriaeth tai. Mae’r dyletswyddau hyn yr un mor berthnasol i gymunedau Sipsiwn a Theithwyr sy’n byw mewn gwersyll diawdurdod. Bydd asesiad lles effeithiol yn helpu awdurdodau lleol i ddangos eu bod yn cydymffurfio â’r dyletswyddau cyfreithiol hyn.

Mae templed cyffredinol ar gyfer Asesiad Lles ar gael yn Atodiad 3.

Argymhellir bod yr asesiad lles yn cael ei gynnal gan y Pwynt Cyswllt Unigol / swyddog arweiniol.

Bydd yr asesiad lles yn fodd i’r awdurdod lleol ganfod gwybodaeth allweddol am y gwersyll, gan gynnwys:

  • Pennu diogelwch y gwersyll ar gyfer y meddianwyr a’r gymuned ehangach.
  • Faint o feddianwyr a cherbydau (gan gynnwys carafanau) sy’n bresennol.
  • Faint o’r meddianwyr sy’n blant.
  • Penderfynu a oes angen unrhyw gymorth penodol ar unrhyw un o’r meddianwyr, fel angen am lety preswyl parhaol neu unrhyw fater iechyd neu ofal cymdeithasol.
  • Faint o’r meddianwyr sy’n oedrannus.
  • A oes meddianwyr anabl yno.
  • A oes problemau iechyd / cyflyrau meddygol sy’n effeithio ar y meddianwyr e.e. perthnasau mewn ysbyty, menywod beichiog, mamau ôl-enedigol a babanod, rhai sy’n gwella ar ôl salwch neu anaf difrifol ac ati.
  • A oes arholiadau ysgol ar y gweill.
  • Pa wasanaethau awdurdod lleol sy’n cael eu hystyried yn rhai priodol.
  • e.e. casglu sbwriel, toiledau symudol, dŵr ac ati.
  • Rhesymau dros yr arhosiad a’r hyd arfaethedig.

Diben yr ymweliad hwn â’r gwersyll yw:

  • nodi problemau posibl a chyflwr y tir a’r gwersyll Penderfynu a oes angen cynnwys asiantaethau ychwanegol, fel Gwasanaethau Addysg i Deithwyr neu weithwyr iechyd proffesiynol
  • Penderfynu a fydd gwasanaethau’n cael eu darparu ar y safle, fel gwastraff neu lanweithdra
  • Asesu a yw’n rhesymol gofyn i’r meddianwyr dalu am wasanaethau y gallai’r awdurdod lleol benderfynu eu darparu
  • Rhoi gwybod i’r meddianwyr pa gamau mae’r awdurdod lleol yn bwriadu eu cymryd i ymateb i’r gwersyll diawdurdod
  • Rhoi manylion cyswllt lleol allweddol i’r meddianwyr, gan gynnwys y Pwynt Cyswllt Unigol neu swyddog arweiniol arall sy’n cynnal yr asesiad, ac unrhyw gyngor perthnasol ar ofal iechyd, gweithwyr addysg proffesiynol a chyngor ar bopeth

Dylai’r awdurdod lleol sicrhau bod meddianwyr agored i niwed sydd ar wersyll diawdurdod yn cael gwybod am y cymorth a’r gefnogaeth y gallai fod ganddynt hawl i'w cael, a bod adrannau perthnasol, yn benodol, yn cael gwybod pan:

  • mae’r meddianwyr yn cynnwys y rhai sy’n feichiog, plant dan 5 oed, pobl sydd â phroblemau iechyd dybryd neu anghenion gofal cymdeithasol
  • mae risgiau uniongyrchol i’r meddianwyr, fel tir halogedig neu beryglon traffig
  • Mae plant oedran ysgol yn bresennol, o fewn 4 wythnos i ddiwedd y tymor

Dylai’r Pwynt Cyswllt Unigol neu’r swyddog arweiniol sy’n cynnal yr asesiad lles feddu ar yr hyfforddiant a’r arbenigedd sydd eu hangen i allu asesu anghenion y meddianwyr mewn gwersyll yn briodol. Dylai awdurdodau lleol fod yn ymwybodol na fydd rhai meddianwyr benywaidd, am resymau diwylliannol, yn cymryd rhan yn y broses hon os bydd Pwynt Cyswllt Unigol gwrywaidd yn dod atynt. Gan hynny, byddai’n arfer da i dîm rhyw gymysg ymgymryd â’r Asesiad Lles, lle bo hynny’n bosibl.

Dylid cydnabod hefyd y bydd ansawdd a maint yr wybodaeth a gesglir yn ystod yr asesiad lles yn dibynnu, i ryw raddau, ar y berthynas mae’r Pwynt Cyswllt Unigol yn gallu ei datblygu gyda’r meddianwyr. Yn aml, gall hyfforddiant ymwybyddiaeth ddiwylliannol a sgiliau cyfathrebu da fod yn allweddol i sicrhau bod asesiad effeithiol yn cael ei gwblhau. Gall hefyd fod yn ddefnyddiol sicrhau nad y swyddogion awdurdod lleol sy’n cynnal yr asesiadau lles yw’r un swyddogion sy’n cynnal achosion gorfodi.

Bydd asesiadau lles yn darparu’r wybodaeth angenrheidiol i’r Pwynt Cyswllt Unigol gysylltu â chydweithwyr perthnasol, fel y rhai yn adrannau addysg a thai’r awdurdod lleol neu gyda gweithwyr iechyd proffesiynol.

Nid oes gan awdurdodau lleol unrhyw bŵer i fynnu bod gwybodaeth yn cael ei rhoi iddynt fel rhan o’r asesiad lles. Pan fydd deiliad wedi penderfynu peidio â rhannu unrhyw wybodaeth gyda’r Pwynt Cyswllt Unigol, dylid cadw cofnod o’r cwestiynau a ofynnwyd a’r penderfyniad i beidio ag ateb, ynghyd ag unrhyw reswm a roddwyd dros beidio ag ateb. Dylid rhoi gwybod i feddianwyr y gallant ddarparu gwybodaeth drwy unigolyn arall maent yn ymddiried ynddo, os ydynt yn dymuno, a dylai’r Pwynt Cyswllt Unigol ddarparu ar gyfer hyn lle bo hynny’n ymarferol.

Mae unrhyw wybodaeth bersonol a geir yn ystod ymweliadau ac ymholiadau yn ddarostyngedig i ddeddfwriaeth diogelu data. Dylid trin ffotograffau o unigolion hefyd fel data personol, os oes modd adnabod yr unigolion hynny. Dylai awdurdodau egluro at ba ddiben mae gwybodaeth yn cael ei chasglu a rhoi sicrwydd ynghylch sut caiff ei defnyddio a chyda phwy y gellid ei rhannu.

Dylid cadw asesiadau lles at ddibenion archwilio. Mae’n bosibl y bydd yn ofynnol iddynt hefyd os bydd unrhyw her gyfreithiol yn digwydd i ymateb i achosion meddiannu y gall yr awdurdod lleol fynd ar eu trywydd wedi hynny.

Gall awdurdodau lleol wynebu costau glanhau sylweddol ar ôl i wersyll diawdurdod adael, boed hynny’n wirfoddol neu o ganlyniad i achos llys. Fodd bynnag, gall darparu cyfleusterau casglu sbwriel, toiledau a dŵr i feddianwyr leihau’r costau glanhau hyn yn sylweddol. Gall asesiadau lles helpu awdurdodau lleol i ganfod pa rai o’r gwasanaethau hyn y gallai fod eu hangen ar y meddianwyr.

Dylai awdurdodau lleol geisio canfod amgylchiadau pob teulu cyn penderfynu sut i ymateb i wersyll diawdurdod i sicrhau bod y broses o wneud penderfyniadau yn gwbl wybodus ac yn seiliedig ar yr holl ystyriaethau perthnasol.

Arferion da

Yn Wrecsam, mae gan yr awdurdod lleol a’r bwrdd iechyd lleol gytundeb sefydledig i fwrdd iechyd prifysgol Betsi Cadwaladr fynd i’r gwersylloedd diawdurdod i gynnal asesiadau lles pan fo angen.

Mae’r system hon yn rhoi modd i asesu anghenion lles yn briodol gan weithwyr proffesiynol nad ydynt yn ymwneud â threfniadau troi allan. Mae’r dull hwn yn debygol o arwain at fwy o gyfranogiad gan y meddianwyr.

Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (asesiadau lles).

Mae'n bosibl y bydd yr awdurdod lleol yn penderfynu ymweld â’r gwersyll ar achlysuron dilynol i sicrhau eu bod yn gallu cyflawni eu dyletswyddau statudol tuag at y meddianwyr.

Dylid rhoi gwybod i’r meddianwyr hefyd y gallant gysylltu â’r Pwynt Cyswllt Unigol neu swyddog arweiniol arall o’r awdurdod lleol i ofyn am ymweliad ychwanegol os ydynt o’r farn bod angen asesiadau ychwanegol i ddiogelu eu lles.

Wrth ddarparu gwybodaeth a chysylltiadau defnyddiol i feddianwyr, bydd angen ystyried unrhyw angen am ddeunyddiau hygyrch. Efallai y bydd gan rai Sipsiwn a Theithwyr broblemau llythrennedd ac felly mae’n bwysig bod awdurdodau lleol yn sicrhau bod meddianwyr yn gallu darllen a deall unrhyw God Ymddygiad y cytunwyd arno gyda nhw ac unrhyw ddeunydd arall y gellir ei ddarparu.

Cam 3: dadansoddiad cost a budd a datrys y broblem

Mae gwersylloedd diawdurdod, drwy ddiffiniad, yn anghyfreithlon. Fodd bynnag, cydnabyddir, nes rhoddir sylw priodol i ddarparu safleoedd, y bydd gwersylloedd diawdurdod yn debygol o barhau.

Rhaid ystyried pob gwersyll yn ôl ei amgylchiadau ei hun, gan ystyried ffactorau fel ystyriaethau iechyd a diogelwch ar gyfer y meddianwyr, peryglon traffig, risgiau iechyd y cyhoedd, difrod amgylcheddol, niwsans cyhoeddus ac agosrwydd at ddefnydd tir sensitif arall.

Wrth asesu amgylchiadau’r rhai sydd ar y gwersyll, mae’n arbennig o bwysig bod awdurdodau lleol yn ystyried sut byddai camau troi allan yn effeithio ar aelodau agored i niwed o’r grŵp, fel y rhai sydd ag anghenion iechyd neu ofal cymdeithasol dybryd, neu blant. Bydd yr asesiad hwn yn helpu awdurdodau lleol i benderfynu ar y dull gweithredu mwyaf priodol, gan gydbwyso buddiannau’r meddianwyr â buddiannau’r gymuned sefydlog o’u cwmpas.

Caiff awdurdod lleol ystyried ei bod yn briodol cymeradwyo gwersyll diawdurdod mewn rhai amgylchiadau, naill ai am y tymor hir neu'r tymor byr.

Gwneir y penderfyniad hwn ar sail nifer o ffactorau, gan gynnwys:

  • Yr asesiad lles.
  • Amgylchiadau lleol.
  • Am faint y disgwyliedig i'r gwersyll fod yno.
  • A yw'r meddianwyr yn teithio i gyrchfan arall (er enghraifft, cwrdd â theulu neu fynd i harbwr) a dim ond am gyfnod byr y byddant yn aros.
  • Ystyriaethau cyffredinol fel peryglon iechyd a diogelwch, materion traffig, risgiau iechyd y cyhoedd a’r effaith ar ddefnyddwyr tir eraill.

Mae’n bosibl y bydd lleoliadau yn annerbyniol ar gyfer gwersyll am unrhyw gyfnod, er enghraifft:

  • Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol, Ardaloedd Cadwraeth Arbennig ac Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig a Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.
  • Meysydd parcio neu gaeau chwarae ysgolion.
  • Meysydd parcio ar gyfer cyfleusterau allweddol eraill, fel ysbytai.
  • Parciau trefol.
  • Meysydd chwarae cyhoeddus.
  • Safle lle gallai llygredd neu wastraff o gerbydau ddifrodi cyrsiau dŵr, tir neu ddŵr.
  • Ardal sydd â gwastraff gwenwynig neu achos difrifol arall o halogi tir.
  • Ymyl ffordd brysur sy’n achosi perygl i feddianwyr y gwersyll.
  • Safleoedd lle mae posibilrwydd o niwed neu aflonyddwch sylweddol i rywogaethau a warchodir y gwyddys eu bod ar y safle, neu’n agos ato.

Gall amgylchiadau penodol rhai lleoliadau hefyd fod yn ystyriaethau perthnasol i awdurdodau lleol wrth benderfynu a ellir derbyn gwersyll diawdurdod am unrhyw gyfnod o amser. Gall hyn gynnwys lleoliad lle mae perygl o lifogydd neu wersyll mewn lleoliad sensitif, fel Parc Cenedlaethol neu Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol. Gall Cyfoeth Naturiol Cymru gynghori awdurdodau lleol ar ystyried y materion hyn.

Bydd angen i’r awdurdod lleol ac asiantaethau partner perthnasol benderfynu a yw amgylchiadau unigol y gwersyll - er enghraifft, y risgiau i ddiogelwch y cyhoedd neu’r effaith ar y gymuned leol, yn drech na buddiannau’r meddianwyr.

Pan fydd yr asesiad lles yn nodi pryderon diogelwch a lles difrifol ar gyfer y meddianwyr, fe allai’r awdurdod lleol ddymuno cymryd camau ar unwaith naill ai i unioni’r pryderon diogelwch, adleoli’r gwersyll dros dro, neu droi’r meddianwyr allan.

Bydd adleoli gwersyll yn llawer haws os yw’r awdurdod lleol wedi sefydlu man aros dros dro/wedi ei negodi i’w ddefnyddio.

Gall yr asesiad lles hefyd nodi pryderon brys, a allai awgrymu bod angen ymatebion meddygol neu ofal cymdeithasol ar unwaith gan y bwrdd iechyd lleol neu’r awdurdod lleol.

Yn yr amgylchiadau hyn, gellir penderfynu caniatáu i’r gwersyll aros am dymor byr. Fodd bynnag, dylid monitro unrhyw benderfyniad i gymeradwyo gwersyll diawdurdod yn ofalus. Yn benodol, os yw’r gwersyll yn fwy na’r arhosiad disgwyliedig, fe allai'r awdurdod lleol ddymuno ailystyried y ffordd orau o fwrw ymlaen. Mae gweithwyr proffesiynol iechyd ac addysg lleol wedi adrodd yn anecdotaidd am fanteision man aros dros dro/a negodwyd, os mai dim ond am gyfnod byr mae hynny’n digwydd, gan fod plant yn gallu elwa ar addysg a gofal iechyd.

Bydd awdurdodau lleol sy’n darparu safleoedd tramwy a mannau aros dros dro/a negodwyd, yn hytrach na dim ond cymryd camau gorfodi adweithiol yn erbyn gwersylloedd diawdurdod, yn aml yn arbed arian yn y tymor hir. Gall mabwysiadu’r dulliau a ganlyn o ymdrin â gwersylloedd diawdurdod fod yn gost-effeithiol:

  • Darparu meysydd chwarae a safleoedd awdurdodau lleol ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr lle gwelir bod angen yn yr ardal. Mae lleiniau awdurdodau lleol yn rhoi modd i awdurdodau lleol godi rhent, trethi a’r dreth gyngor ar breswylwyr.
  • Nodi mannau aros dros dro/a negodwyd yn yr ardal leol lle gellid adleoli a rheoli gwersylloedd diawdurdod am gyfnod byr. Gallai awdurdodau lleol osgoi costau gorfodi diangen os yw’r gwersyll yn gallu mynd i safle dros dro.
  • Gall darparu gwasanaethau fel casglu sbwriel, toiledau a dŵr ffres leihau costau glanhau.
  • Gall annog y meddianwyr i dalu am y gwasanaethau mae’r gwersyll yn eu defnyddio adennill swm sylweddol o wariant yr awdurdod lleol.

Arferion da

Ym mis Ionawr 2011, cyhoeddodd Cyngor Dinas Leeds ganfyddiadau’r panel craffu Cymdogaethau a’r Amgylchedd, a argymhellodd gynllun peilot ‘Mannau Aros a Negodwyd’. Roedd y cynllun yn adolygu tir posibl ar gyfer mannau aros dros dro gan ddefnyddio’r meini prawf a ganlyn:

  • Bod y tir yn ‘lle y gellid ei amddiffyn’ yn y tir hwnnw a oedd ar gael yn gyfyngedig ac y byddai unrhyw wersyll gan hynny’n cael ei gyfyngu o ran maint
  • Bod rhywfaint o ‘ymrwymiad’ i’r prosiect ymysg perchnogion busnes lleol, yr heddlu ac aelodau etholedig
  • Bod y lleoliad yn ddiogel i’r meddianwyr a’u bod yn barod i aros yno.

Bod y cytundeb cychwynnol yn para 3 mis a bod yr awdurdod yn darparu toiledau a gwaredu gwastraff ar gyfer pob teulu. Roedd Cyfnewidfa Sipsiwn a Theithwyr Leeds (GATE) yn darparu cymorth cyswllt rhwng meddianwyr a’r awdurdod lleol.

Daethpwyd o hyd i ail leoliad yn fuan ar ôl hynny a dywedodd aelodau etholedig lleol eu bod yn fodlon i’r cynllun gael ei ymestyn. Mae Cyngor Dinas Leeds yn amcangyfrif ei fod wedi arbed dros £100,000 hyd yma drwy leihau’r costau troi allan a glanhau sy’n gysylltiedig â gwersylla diawdurdod.

Cyngor Dinas Leeds a GATE Leeds (man aros dros dro/a negodwyd).

Yn y rhan fwyaf o amgylchiadau, bydd gan awdurdodau lleol dri llwybr i’w dilyn wrth geisio datrys mater gwersyll diawdurdod, ac mae’n bwysig eu bod yn ystyried pob dewis yn ofalus:

  • Llwybr 1: derbyn y gwersyll diawdurdod, boed hynny am gyfnod byr neu am y tymor hir, nes bydd y grŵp yn symud ymlaen yn wirfoddol neu nes bydd modd dod o hyd i safle arall.
  • Llwybr 2: nodi safle arall, boed hynny dros dro neu yn y tymor hwy, a gofyn i ddeiliaid y Sipsiwn neu’r Teithwyr symud iddo.
  • Llwybr 3: ceisio a chael meddiant o’r safle a feddiannir (trefniadau troi allan).

Mae dadansoddiad cost a budd Llwybr 1 wedi dangos y gallai derbyn y gwersyll am gyfnod byr fod yr ateb mwyaf effeithiol i bawb. Os dewisir y llwybr hwn, dylid gofyn i’r deiliaid gytuno i God Ymddygiad. Mae manteision tebyg wedi cael eu nodi o dan Lwybr 2.

Gellir dilyn Llwybr 3 os yw archwiliad lles yr awdurdod lleol wedi nodi bod safle presennol y gwersyll diawdurdod yn anniogel neu’n amhriodol ond bod yr angen am lety sy’n briodol yn ddiwylliannol yn eu hardal yn cael ei gydnabod serch hynny. Cyn penderfynu pa lwybr i’w ddilyn, dylai awdurdodau lleol ystyried a yw unrhyw un o’r meddianwyr wedi cyflwyno cais digartrefedd iddynt, a sut gall yr awdurdod lleol gyflawni ei ddyletswyddau statudol orau tuag at unrhyw feddiannwr sy’n ddigartref neu sydd mewn perygl o fod yn ddigartref, y bydd angen i’r awdurdod lleol eu prosesu.

Mae angen i awdurdodau cyhoeddus sy’n dilyn y llwybr hwn fod yn fodlon bod camau meddiant yn gyfiawn ac yn gymesur ac nad ydynt yn ymyrryd yn anghyfreithlon â hawliau Siarter Hawliau Dynol Ewrop y meddianwyr. Bydd asesiadau lles yn helpu i ddangos bod yr awdurdod lleol wedi ystyried yr holl wybodaeth berthnasol ac wedi penderfynu troi allan ar ôl cydbwyso hawliau’r meddianwyr hynny â hawliau’r gymuned sefydlog ehangach. Gellir ystyried a ddylid cysylltu â’r heddlu ynghylch y bwriad i droi’r meddianwyr allan.

Mae’r templed Cod Ymddygiad yn Atodiad 2 wedi ei fwriadu fel enghraifft nodweddiadol o gytundeb wedi ei negodi rhwng yr awdurdod lleol a’r meddianwyr mewn gwersyll. Mae’n bosibl y bydd gofynion penodol pob gwersyll angen fersiwn diwygiedig o’r templed hwn. Wrth drafod cod ymddygiad, dylid amcanu i ddod i gytundeb ar gyfrifoldebau pob ochr, gan ystyried y gwahaniaethau diwylliannol rhwng cymunedau teithiol a chymunedau sefydlog.

Caiff y cod amlinellu’r ddarpariaeth o wasanaethau i’r gwersyll, gan gynnwys trefniadau ar gyfer cyflenwi dŵr, sbwriel a glanweithdra. Gall y cod hwn hefyd gynnwys darpariaeth i ganiatáu i’r awdurdod lleol gael mynediad i ddarparu’r gwasanaethau hyn, gan fod tystiolaeth anecdotaidd yn awgrymu bod costau glanhau yn llawer is lle gellir dod i gytundeb addas.

Dylid monitro’r gwersyll i sicrhau y cydymffurfir ag unrhyw god ymddygiad a negodwyd ac i sicrhau nad oes effeithiau annisgwyl na niweidiol ar y gymuned leol. Gan fod y cod yn wirfoddol, nid oes modd ei orfodi yn y llysoedd, ond gall ddarparu tystiolaeth o ymddygiad y feddiannaeth os yw’r awdurdod lleol wedyn yn ystyried cymryd camau gorfodi.

Er ei bod yn dderbyniol gofyn am daliad ar gyfer unrhyw wasanaeth mae’r awdurdod lleol yn ei ddarparu i feddianwyr, dylid cydnabod na fydd rhai’n gallu fforddio talu o bosibl. Dylai’r awdurdod lleol ystyried a ddylid parhau i ddarparu mynediad at y gwasanaethau hyn hyd yn oed lle nad oes modd i feddianwyr dalu’r costau. Mae hyn yn arbennig o berthnasol lle mae plant, pobl oedrannus, pobl ag anabledd, menywod beichiog neu unigolion ag anghenion iechyd dybryd yn bresennol yn y gwersyll. Os nad yw awdurdodau’n darparu cyfleusterau gwaredu gwastraff i wersyll, dylent hefyd ystyried a all meddianwyr ddefnyddio’r safle amwynder dinesig lleol gyda’r cerbydau sydd ganddynt. Dylid darparu gwybodaeth am y gwasanaeth hwn i’r rhai sydd ar y gwersyll, lle bo hynny’n briodol.

Pa lwybr bynnag a ddewisir, dylai’r awdurdod lleol a’r asiantaethau perthnasol gofnodi’r holl dystiolaeth y seiliwyd eu penderfyniad arni, gan gynnwys asesiadau lles a’r ffactorau a ystyriwyd wrth benderfynu pa lwybr i’w ddilyn. Dylai’r holl randdeiliaid, gan gynnwys trigolion lleol, y meddianwyr a’r asiantaethau cysylltiedig, gael gwybod sut mae’r awdurdod lleol yn ymateb i’r gwersyll, fel bo’n briodol.

Nid oes terfyn statudol ar hyd man aros dros dro/a negodwyd. Fodd bynnag, os bydd gwersyll yn ceisio aros yn yr ardal ar sail hirdymor, gallai hyn awgrymu bod angen safle awdurdod lleol ar gyfer y meddianwyr hynny. Bydd awdurdodau lleol yn ymwybodol o’u dyletswydd statudol i ddarparu ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr sy’n preswylio neu'n ymgynnull yn eu hardaloedd o dan Ddeddf Tai (Cymru) 2014.

Pennod 6: cyfleu penderfyniadau

Trosolwg

Ni waeth pa lwybr mae’r awdurdod lleol yn ei ddilyn, mae’n bwysig bod yr holl bartïon yr effeithir arnynt yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf. Mae’n arfer da i’r Pwynt Cyswllt Unigol/swyddog arweiniol gyfleu’r datblygiadau’n uniongyrchol i feddianwyr a thrigolion/busnesau lleol. Mae'n bosibl y byddai’n ddefnyddiol i awdurdodau lleol anfon diweddariadau ysgrifenedig.

Rhaid i awdurdodau lleol sicrhau bod meddianwyr yn gallu darllen a deall unrhyw ddogfen o’r llys a gyflwynir iddynt, neu eu cyfeirio at ble gallant gael cymorth a chefnogaeth, fel y Swyddog Cyswllt Sipsiwn a Theithwyr, os oes un wedi ei benodi, grwpiau eiriolaeth Sipsiwn a Theithwyr lleol, Cyngor ar Bopeth lleol neu Gynghorau Cydraddoldeb Rhanbarthol.

Mae angen sicrhau bod y prif bwyntiau cyswllt rhwng cymunedau Sipsiwn a Theithwyr a gwasanaethau lleol yn ymwybodol o gamau meddiannu posibl a’r effaith y gallai hyn ei chael ar ddefnyddwyr eu gwasanaeth. Argymhellir bod Gwasanaethau Addysg i Deithwyr, Ymwelwyr Iechyd ac unrhyw grŵp cymorth perthnasol arall yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf er mwyn iddynt allu cynorthwyo’r meddianwyr yr effeithir arnynt.

Pennod 7: strategaethau lleol

Amcanion strategaeth gwersylloedd diawdurdod

Anogir pob awdurdod lleol i ddatblygu eu strategaethau ysgrifenedig eu hunain sy’n nodi sut byddant yn ymateb i wersylloedd diawdurdod. Mae amcanion allweddol strategaeth yn cynnwys:

  • dileu neu leihau problemau drwy gynllunio ymlaen llaw yn effeithiol
  • osgoi ymateb adweithiol
  • sicrhau bod anghenion a hawliau pob parti; Sipsiwn a Theithwyr, tirfeddianwyr a’r gymuned sefydlog yn cael eu hystyried
  • gosod fframwaith ar gyfer gwneud penderfyniadau clir, cyson a phriodol mewn ffordd dryloyw
  • cysylltu’r dull gweithredu ar gyfer gwersylla diawdurdod yn glir â strategaethau a pholisïau eraill sy’n effeithio ar Sipsiwn a Theithwyr (darparu safle, cynllunio, iechyd, addysg, tai ac ati)
  • cynnwys pawb sydd â diddordeb yn y broses o ddatblygu’r strategaeth
  • egluro rolau a chyfrifoldebau awdurdodau lleol, gan nodi pwy sy’n gyfrifol am bob cam o’r broses a phwy fydd yn gwneud y penderfyniadau allweddol
  • cyfyngu ar unrhyw niwsans cyhoeddus, cymryd camau gorfodi effeithiol lle bo angen a phan fo hynny’n briodol

Ffurfio’r strategaeth

Arwain

Argymhellir bod awdurdodau lleol yn llunio strategaeth lywodraethu glir i ddelio â gwersylloedd diawdurdod sy’n darparu ar gyfer goruchwylio a monitro’r ddarpariaeth yn ddigonol.

Mae’n bosibl y bydd awdurdodau lleol yn dymuno ystyried y camau allweddol a ganlyn wrth lunio eu strategaeth:

  • Penodi swyddog arweiniol neu Bwynt Cyswllt Unigol.
  • Sefydlu gweithgor strategaeth, gyda chymorth/adnoddau digonol a sicrhau bod chwaraewyr allweddol yn cael eu cynnwys a chysylltu â gwasanaethau perthnasol eraill.
  • Darparu hyfforddiant ymwybyddiaeth ddiwylliannol i weithwyr allweddol
  • Sefydlu gweithdrefnau/mecanweithiau ymgynghori.
  • Sicrhau cysondeb ac uniondeb â strategaethau eraill.
  • Adolygu gwybodaeth a gafwyd o asesiad yr awdurdod lleol o anghenion.
  • Cynllunio gwasanaethau newydd/gwella gwasanaethau presennol, drwy weithio ar y cyd lle bo hynny’n briodol.
  • Monitro/gwerthuso/adolygu’r camau a gymerwyd gan yr awdurdod lleol a sicrhau bod gwersi’n cael eu dysgu lle bo hynny’n berthnasol.

Pwy ddylai gymryd rhan?

Er y dylai awdurdodau lleol gymryd yr awenau wrth ddatblygu eu strategaeth, mae’n hanfodol bod adrannau perthnasol eraill yn rhan o’r broses ac yn fodlon cydymffurfio â’r strategaeth pan gaiff ei gweithredu. Mae sicrhau ymrwymiad gan randdeiliaid yn rhan bwysig o’r broses o lunio strategaeth.

Bydd sicrhau cyfranogiad gan y bwrdd iechyd lleol, yr heddlu, Sipsiwn a Theithwyr eu hunain yn ogystal â grwpiau eiriolaeth sy’n eu cynorthwyo, cydlynwyr cydlyniant cymunedol, swyddogion diogelwch cymunedol, a chynghorwyr lleol sy’n gyfrifol am wersylloedd Sipsiwn a Theithwyr, yn cryfhau gallu’r awdurdodau lleol i ymateb yn effeithiol i unrhyw sefyllfa benodol. Bydd hyn hefyd yn helpu i sicrhau bod gwasanaethau rhanddeiliaid eraill yn hygyrch i feddianwyr a’r gymuned sefydlog. Gall sefydliadau eraill, fel Cyfoeth Naturiol Cymru, fod yn rhan o’r ffordd aml-asiantaeth hon o weithio pan fydd yr amgylchiadau’n briodol.

Dylai awdurdodau lleol hefyd ystyried gweithio ar sail ranbarthol i helpu i sicrhau bod eu hagwedd at wersylloedd diawdurdod a darpariaeth safleoedd yn gyson â’r hyn a wneir ar draws gweddill Cymru.

Elfennau i’w cynnwys yn y strategaeth

Mae nifer o elfennau y gellid eu cynnwys yn strategaeth yr awdurdodau lleol - er enghraifft:

  1.  Gwybodaeth leol mae’r strategaeth yn seiliedig arni - er enghraifft, yr Asesiad Llety Sipsiwn a Theithwyr, y data cyfrif carafanau ddwywaith y flwyddyn, ffigurau lleol ar gyfer gwersylloedd diawdurdod (gan gynnwys ffigurau’r heddlu os ydynt yn ddefnyddiol) ac unrhyw wybodaeth am wersylloedd rheolaidd.
  2. Gwybodaeth am lefel a lleoliadau safleoedd awdurdodau lleol ar hyn o bryd.
  3. Y dull arferol i’w ddefnyddio wrth roi gwybod am wersyll diawdurdod, gan gynnwys penodi swyddog arweiniol neu Bwynt Cyswllt Unigol.
  4. Ymgysylltu â’r gymuned Sipsiwn a Theithwyr ynghylch eu profiadau o wersylloedd diawdurdod.
  5. Y protocol ar gyfer rhannu gwybodaeth gydag asiantaethau eraill ac ar gyfer cysylltu / cynnwys / hysbysu asiantaethau perthnasol eraill.
  6. Y dull i’w fabwysiadu wrth fynd i mewn i wersyll diawdurdod, gan nodi rolau a chyfrifoldebau statudol pawb dan sylw, a’r asesiad i’w gynnal.
  7. Amlinelliad o'r amrywiaeth o ymatebion sydd ar gael i awdurdod lleol ynghylch gwersyll diawdurdod ac esboniad o'r camau tebygol i'w cymryd mewn rhai sefyllfaoedd
  8. Protocol ar gyfer rhoi gwybod i awdurdodau cyfagos am wersylloedd diawdurdod a chamau y gellir eu cymryd mewn partneriaeth.
  9. Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio’n agos gydag awdurdodau lleol i gynorthwyo’r gwaith o roi’r canllawiau hyn ar waith. Mae’n bwysig nodi y bydd mater gwersylloedd diawdurdod yn cael ei reoli’n effeithiol pan fydd y canllawiau ar waith.

Atodiad 1: geirfa

Geirfa

Protocol

Mae hwn yn gynllun y cytunwyd arno ar gyfer sut bydd gwasanaethau’n delio â mater.

Awdurdodau Cyhoeddus

Yn ogystal â chynghorau, mae grwpiau eraill fel Parciau Cenedlaethol neu Cyfoeth Naturiol Cymru sy’n gofalu am ardaloedd mawr o dir ar gyfer y cyhoedd. Weithiau, mae’n rhaid iddynt droi allan deuluoedd sydd wedi aros yn eu hardal.

Llain

Tir ar safle cartref symudol lle mae gan ddefnyddwyr hawl i osod eu cartrefi symudol am gyfnod amhenodol (oni nodir hynny yn eu cytundeb llain). Fel arfer mae’n cynnwys bloc amwynder, lle ar gyfer carafán sefydlog a charafán deithiol a man parcio.

Bydd cynllun y llain yn dibynnu ar ddyluniad cyffredinol y safle. Elfen bwysig yn nyluniad a maint lleiniau yw’r capasiti arfaethedig. Mae Adran 60 Deddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013, yn diffinio ‘cartref symudol’ fel un sy’n mesur hyd at 20 metr o hyd a 6.8 metr o led.

Safle Awdurdod Lleol

Mae hwn yn safle sy’n eiddo i’r awdurdod lleol ac yn cael ei weithredu ganddo. Bydd y safle hwn yn cael ei ddynodi i’w ddefnyddio fel safle Sipsiwn a Theithwyr. Gall preswylwyr ar y safleoedd hyn ddisgwyl defnyddio eu lleiniau cyhyd â’u bod yn glynu wrth delerau eu cytundeb llain, dan Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013.

Gellir darparu mannau gweithio hefyd ar safleoedd, neu gerllaw, ar gyfer gweithgareddau a gyflawnir gan aelodau o’r gymuned.

Safle

Bydd y safle’n cynnwys amrywiaeth o gyfleusterau (yn dibynnu ar faint y tir a’r gofynion), cysylltiadau â chyfleustodau, adeilad cymunedol, man chwarae, llwybr troed o amgylch y safle, goleuadau cyhoeddus, a ffensys/coed i greu ffin o amgylch y safle ar gyfer diogelwch ac amgáu.

Man aros dros dro / a negodwyd

Bwriedir i’r rhain fod yn rhai tymor byr o ran natur i helpu awdurdodau lleol pan dderbynnir bod angen lleiniau. 

Rhaid darparu ar gyfer gwaredu gwastraff, cyflenwi dŵr a glanweithdra o leiaf.

Dim ond am gyfnod cyfyngedig y mae gan y safleoedd hyn ganiatâd cynllunio neu drwydded safle. Gall preswylwyr ar y safleoedd hyn ddisgwyl defnyddio eu lleiniau am gyfnod y caniatâd cynllunio neu’r drwydded safle (neu cyhyd â’u bod yn glynu wrth delerau eu cytundebau lleiniau, dan Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013, pa un bynnag yw’r cynharaf).

Gwasanaeth Addysg i Deithwyr

Athrawon yw’r rhain sy’n gweithio’n agos gyda phlant Sipsiwn a Theithwyr i sicrhau eu bod yn cael addysg addas.

Llain dramwy

Tir ar safle cartrefi symudol lle mae gan ddefnyddwyr hawl i osod eu cartrefi symudol am uchafswm cyfnod o dri mis. Gall lleiniau tramwy fodoli ar safleoedd awdurdodau lleol, fodd bynnag, nid yw hyn yn cael ei argymell.

Safle tramwy

Mae safleoedd tramwy yn gyfleusterau parhaol sydd wedi’u cynllunio i’w defnyddio dros dro am uchafswm o 3 mis ar y tro. Bydd awdurdodau lleol yn gyfrifol am gynnal a chadw’r safle gwaredu gwastraff, cyflenwad dŵr a glanweithdra, yn amodol ar dâl. 

Mae telerau penodol dan Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 yn berthnasol ar y safleoedd hyn. Gellir darparu mannau gweithio hefyd ar safleoedd, neu gerllaw, ar gyfer gweithgareddau a gyflawnir gan aelodau o’r gymuned.

Gwersyll diawdurdod

Tir sy’n cael ei feddiannu heb ganiatâd y perchennog neu heb y caniatâd cynllunio cywir o ran defnydd tir.
Gellir defnyddio gwersylloedd dros dro os nad oes darpariaeth ar gael ar gyfer mannau tramwy neu fannau aros dros dro/a negodwyd, a gall yr awdurdod lleol eu derbyn, tra bydd safleoedd amgen yn cael eu datblygu.

Brics a Morter

Tŷ neu fflat, y cyfeirir atynt yn aml fel tai confensiynol. Efallai eu bod ar rent cymdeithasol, ar rent preifat, neu mewn perchnogaeth.

Cymunedau sefydlog

Tŷ neu fflat, y cyfeirir atynt yn aml fel tai confensiynol. Efallai eu bod ar rent cymdeithasol, ar rent preifat, neu mewn perchnogaeth.

Atodiad 2: cod ymddygiad dros dro/a negodwyd

Cod Ymddygiad ar gyfer Man Aros Dros Dro/a Negodwyd

Rydych chi a’ch teulu (rhowch enw..................... ) wedi cael caniatâd i aros ar y tir hwn fel man aros dros dro/a negodwyd ar gyfer gwersyll Sipsiwn neu Deithwyr am gyfnod o …………… Tan ……………. 

Rydych chi wedi cytuno ar y Cod Ymddygiad hwn sy’n egluro’r hyn a ddisgwylir gennych chi/eich teulu a’r awdurdod lleol.

Rydych chi wedi cytuno i drin y tir rydych chi wedi ei feddiannu a’r gymuned gyfagos â gofal a pharch.

Byddwch hefyd yn parchu hawliau’r rhai a allai fod eisiau mynd ar y tir.

Rydych chi wedi cael caniatâd i barcio eich carafán a’ch cerbydau ar ddarn penodol o dir. Rydych chi’n cytuno i beidio â gwersylla ar unrhyw dir ar wahân i’r tir rydych chi wedi cael caniatâd i aros arno.

Rhaid i chi beidio â gorfodi mynediad i unrhyw ran arall o’r tir na’r adeiladau ar y tir.

Rydych chi’n cytuno na fyddwch chi’n difrodi’r tir ei hun nac unrhyw eiddo arno, gan gynnwys ffensys neu waliau terfyn, gosodiadau na ffitiadau. Mae hyn yn cynnwys amddiffynfeydd rhag llifogydd neu amddiffynfeydd i atal tresmasu.

Rydych chi’n cytuno i beidio ag achosi difrod i unrhyw dir cyfagos sy’n eiddo cyhoeddus, fel parciau, coetiroedd, caeau ysgolion, neu fannau chwarae.

Ni ddylid gyrru cerbydau ar lwybrau troed neu briffyrdd nad ydynt wedi eu cynllunio ar gyfer cerbydau ffordd. Gallai gwneud hyn roi eraill mewn perygl a gallai arwain at gamau gorfodi.

Rhaid i gerbydau a charafanau gael eu parcio mewn ffordd nad yw’n rhwystro mynediad i bobl eraill sy’n dymuno pasio drwodd neu gael mynediad i ran arall o’r tir.

Gwaherddir dympio, tipio sbwriel neu osod deunyddiau gwastraff neu wastraff masnach fel rwbel neu dorri coed ar y tir hwn, a gallai gwneud hynny arwain at gamau gorfodi. Defnyddiwch y biniau a ddarperir ar gyfer gwastraff domestig neu waredu gwastraff masnach yn y Safle Amwynder Dinesig (tomen sbwriel leol).

Ni chaniateir llosgi gwastraff masnachol na domestig ar y safle hwn. Dim ond pan fydd diogelwch tân yn cael ei ddilyn ac fel y cytunwyd gyda’r awdurdod lleol / gwasanaeth tân y caniateir tanau agored.

Byddwch yn cael toiled symudol. Rhaid i chi beidio â gwaredu na rhoi unrhyw wastraff dynol ar y safle hwn mewn unrhyw ffordd arall.

Byddwch yn cael mynediad at gyflenwad dŵr.

[Rydych chi wedi cytuno i dalu am wasanaethau (toiled symudol, cyflenwad dŵr, biniau) ar y safle].

Mae’n bosibl y bydd gwasanaethau’n cael eu tynnu’n ôl os byddant yn cael eu difrodi neu’n cael eu defnyddio’n amhriodol.

Rydych chi’n cytuno na fyddwch chi’n gwneud unrhyw beth sy’n effeithio ar ddiogelwch neu les meddianwyr eraill a’u hanifeiliaid na’r cymuned gyfagos.