Daeth yr ymgynghoriad i ben 20 Ionawr 2023.
Adolygu ymatebion
Mae ymatebion i'r ymgynghoriad hwn yn cael ei adolygu ar hyn o bryd. Bydd manylion am y canlyniad yn cael eu cyhoeddi yma maes o law.
Ymgynghoriad gwreiddiol
Rydym am gael eich barn ar ein canllawiau drafft ar ymateb i bobl sydd wedi cael profedigaeth oherwydd hunanladdiad, sydd wedi dod i gysylltiad ag ef, neu sydd wedi’u heffeithio ganddo.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Rydym wedi drafftio’r canllawiau hyn ar gyfer sefydliadau sy'n dod i gysylltiad â phobl y mae hunanladdiad wedi effeithio arnynt. Byddant yn helpu sefydliadau i gynnig ymateb tosturiol a defnyddiol.
Rydym yn ymgynghori ar:
- eich barn am y canllawiau drafft
- a yw'r canllawiau yn ymdrin ag anghenion pobl y mae hunanladdiad yn effeithio arnynt
- a fydd y cynigion yn gwella'r ffordd yr ydym yn cefnogi pobl
Dogfennau ymgynghori

Dogfen ymgynghori , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 945 KB
